20/08/2012

Helynt Julian Assange

Mae'n anodd peidio teimlo bod yna lawer o bobl sy'n hapus iawn o weld cyfle i gosbi Julian Assange, rheolwr Wikileaks. Mae'r wefan yn chwarae rhan bwysig iawn, ac rwy'n dymuno i'w llwyddiant barhau.

Eto i gyd, mae Assange wedi'i gyhuddo o dreisio dwy fenyw. Mae'r cyhuddiadau'n rai difrifol, ac mae'n rhaid iddo'u gwynebu. Efallai bod yr honiadau'n hynod gyfleus i'r sawl sydd am ddinistrio enw da Assange (a thrwy estyniad, Wikileaks), ond nid yw hynny'n arbennig o berthnasol hyd y gwelaf i. Mae'n annifyr ac anffodus gweld cymaint yn esgusodi troseddu rhywiol, gan ddiystyru neu ddilorni'r ddwy fenyw. Mae'n deg tybio mai aelodau o'r chwith gwleidyddol yw'r mwyafrif helaeth o gefnogwyr Assange, ond mae mynnu bod y menywod yn rhan o gynllwyn dieflig, ac anwybyddu'r posibilrwydd bod dyn wedi treisio, yn ofnadwy o rywiaethol a hyll.

Rwy'n credu mai dyma'r erthygl orau rwyf wedi'i ddarllen am y pwnc. Mae'n rhaid i Assange fynd i Sweden i fynd o flaen ei well.

2 comments:

  1. Mae yna gymaint o bethau twp wedi eu dweud am dreisio yr wythnos yma mae'n anodd gwybod lle i ddechrau. Todd Akin, George Galloway, a sawl sylwebydd yn rhoi eu barn ar fater Julian Assange, pob un yn cystadlu'n frwd am fedal aur dweud pethau twp a pheryglus am dreisio. *facepalm*

    ReplyDelete
  2. Rwyt ti'n iawn. Wythnos ryfeddach nag arfer. Mae Galloway yn fochyn llwyr.

    Mae Todd Akin ar fin ei chael hi gen i ar y blog hefyd.

    ReplyDelete