05/08/2014

Camddeall hiliaeth

Beth yw 'hiliaeth'? Yn benodol, beth sy'n gwneud sylw arbennig yn un hiliol? Rhywbeth fel hyn fyddai'r diffiniad, mae'n siwr: 'sylw neu ymadrodd sy'n atgyfnerthu'r syniad bod grŵp(iau) ethnig yn israddol neu'n haeddu gwawd'.

Ym mha ffordd, felly, oedd yr hyn a ddywedodd y cynghorydd Myfanwy Alexander yn hiliol? Mae wedi gorfod gadael cabinet Cyngor Powys oherwydd y sylwadau hyn:
Councillor Alexander told the meeting she and a constituent called Meirion had both been told while trying to access health services in England that their names are just “a meaningless jumble of letters”.
She went on to ask fellow councillors what would have happened if her constituent’s name had been “Ranjit” and he had been told the same thing. She said it would have been all over the papers.
She added: “We are treated like niggers over the border. Our language and culture is trampled on and it’s a very sensitive issue. It’s not our fault that we don’t have a district general hospital to go to.”
Councillor Alexander said on another occasion she had asked in hospital if a Welsh speaking nurse could say good morning to her father and she was told “that’s fine as long as you don’t mind your father being considered to be racist”.
Y broblem fan hyn yw bod llawer iawn o bobl, o hyd, yn cael trafferth deall beth yn union yw hiliaeth, hyd yn oed wrth iddynt ei wrthwynebu mor chwyrn. Maent yn clywed gair fel nigger ac mae'r larwm yn eu pennau'n bloeddio'n syth bin. Maent yn euog o'r un camresymu'n union â'r ffyliaid hiliol hynny sy'n cwyno ei bod yn annheg eu beirniadu am ddefnyddio'r gair hwnnw gan fod rhai pobl croenddu yn ei ddefnyddio ymysg ei gilydd. Hynny yw, mae cyd-destun yn allweddol.

Mae'n berffaith amlwg i unrhyw un sy'n gallu darllen nad ategu ystrydebau diog oedd y cynghorydd, eithr eu herio. Nid hi sy'n ystyried pobl croenddu yn niggers. Ei phwynt oedd bod yr awdurdodau tros y ffin yn trin Cymry Cymraeg yn eilradd a chyda dirmyg, fel y gwnaed - ac y gwneir - yn achos pobl croenddu. Mae'n condemnio'r weithred o ystyried rhywun yn nigger. Prysuraf i bwysleisio (er y dylai fod yn amlwg) nad yw hynny'n golygu o gwbl bod profiad siaradwyr Cymraeg cyn waethed â'r hyn a ddioddefwyd ac a ddioddefir gan bobl sydd wedi cael eu galw'n niggers dros y blynyddoedd. Wrth gwrs mae'r ail beth yn waeth o lawer. Ond mater (mawr, bid siwr) o raddfa yn unig yw'r gwahaniaeth. Yr un yw'r egwyddor. Rhagfarn yw rhagfarn, a dyna'n union a geir gan y staff iechyd y mae'n eu disgrifio.

Mae modd dadlau, efallai, bod ffyrdd gwell a llai trwsgl o fynegi'r pryderon. Efallai nad yw'n ddoeth crybwyll profiadau siaradwyr Cymraeg yn yr un frawddeg â hiliaeth yn erbyn pobl croenddu oherwydd erchylltra eithriadol hanesyddol y broblem honno (a'r emosiynau unigryw o chwyrn a gorddir wrth ei grybwyll). Y ddadl gryfaf efallai yw y byddai'n well i grŵp sydd heb orfod dioddef y gair beidio ceisio'i feddianu er mwyn gwneud pwynt, gan mai nid ein lle ni yw gwneud. Ond mae'n anffodus bod ymdrech i godi gofidion dilys wedi'i cholli mewn storm ffug. Wedi'r cyfan, fe wnaeth y Trwynau Coch yr un pwynt yn union â hi, dros 30 blynedd yn ôl:



Gorfod siarad mewn ail iaith
Er mwyn cael rhyw fath o adwaith
Cadw'r tymer dan reolaeth
Mae'n dod yn haws 'rôl yr ail waith
Ond yn sydyn rwy'n sylweddoli
Bod yna bosibiliadau eang
Anghofio'm gwlad ac anghofio'm iaith
Crafu tîn a dyna dechrau'r daith
Crafu tîn a dyna dechrau'r daith.

Ta beth eich barn, ta beth eich plaid
Cofiwch am y niggers Cymraeg
Ni ar ein gorau o dan eich traed
Felly siglwch bawb gyda nigger Cymraeg.

Hir yw bob aros, os aros sydd raid
Peidiwch llefain ar gefn niggers Cymraeg.

Rwy' 'di dysgu'r ail iaith
A bron anghofio fy mamiaith
Ceisio ymddwyn fel y Sais
Ond mae nhw'n fy nabod ar unwaith
Dim ond nawr rwy'n sylweddoli
Fy mod i wedi fy israddoli
Rwy'n ddieithryn nawr mewn gwlad ddiarffordd
Amddifad coll yn y Gymru bell.
A yw'r gân yma dal i gael ei chwarae? Tybed sut fyddai'r ymateb camddeallus petai'r person anghywir yn digwydd baglu ar ei thraws?

No comments:

Post a Comment