04/06/2019

Ysgytlaethu

Mae yna hobi newydd wedi dod yn boblogaidd iawn dros yr ychydig wythnosau diwethaf, sef taflu ysgytlaeth dros eithafwyr asgell-dde. Mae'n edrych fel llawer o hwyl, ac mae'n anodd peidio teimlo boddhad o weld Stephen Yaxley-Lennon, Carl Benjamin, Nigel Farage a'u tebyg yn edrych yn ddwl a hufennog.

Nid tacteg newydd mo hyn mewn gwirionedd. Mae yna draddodiad hir o daflu bwydydd a phethau diddorol eraill at ffigurau gwleidyddol atgas. Mae'n anghyfreithlon, wrth gwrs, ond dyna holl bwynt anufudd-dod sifil.

Mae'r dacteg yn effeithiol i raddau helaeth. Nod y dde eithafol yw gwthio ffiniau'r hyn y mae'n dderbyniol i'w ddweud tra'n parhau i ymddangos yn barchus, ond mae'n anodd edrych yn barchus pan mae ysgytlaeth yn diferu o'ch gwallt a'ch siwt. Mae gwneud pobl annifyr yn destun chwerthin a gwawd yn un ffordd o frwydro yn eu herbyn. Mae hefyd yn ffordd rymus o bwysleisio maint a nerth y gwrthwynebiad i'r hyn sydd gan y ffigurau hyll yma i'w dweud.

Fel rwyf wedi'i ddweud droeon, rwy'n chwyrn o blaid rhyddid mynegiant fel mater o egwyddor. Ni ddylid gwahardd y bobl hyn rhag dweud yr hyn y maent am ei ddweud. Eto i gyd, rwy'n credu bod yna duedd digon plentynnaidd i or-ramantu am allu 'trafod' a 'dadlau' i ddatrys anghydfodau gwleidyddol. Nid oes pwrpas ymarferol eistedd lawr i geisio dal pen rheswm yn gwrtais gyda phobl fel Stephen Yaxley-Lennon.

Dylid pwysleisio bod Danyaal Mahmud, a ddechreuodd yr holl ysgytlaethu trwy daflu ei ddiod dros Yaxley-Lennon, wedi gwneud hynny ar ôl cael llond bol o'r ffasgydd hwnnw a'i ddilynwyr yn malu cachu'n ymosodol ac ymwthiol yn ei wyneb. Awgrymaf bod yna wahaniaeth rhwng hynny a mynd allan o'n ffordd i brynu ysgytlaeth a chwilio am ffigurau dde-eithafol i'w daflu drostynt. Erbyn hyn, buaswn i'n arddel y syniad o'u dilyn tra'n llymeitian yr ysgytlaeth yn araf a thawel. Digon i'w gwneud yn nerfus a phetrusgar.

Mae'n amlwg bod angen bod yn ofalus. Er rhinweddau'r dacteg, mae'n anochel bod taflu diodydd hufennog dros eithafwyr asgell-dde yn mynd i waethygu'r hinsawdd wleidyddol ymhellach, yn enwedig gan eu bod mor hoff o geisio portreadu'u hunain fel merthyron. Bydd y dde yn sicr o ddefnyddio dulliau tebyg (a gwaeth) drachefn. Ar y llaw arall, gellir dadlau bod yr eithafwyr asgell-dde yn benderfynol o waethygu'r hinsawdd wleidyddol doed a ddelo, felly efallai nad oes llawer i'w golli beth bynnag. Mae'n ddadlennol, wedi'r cyfan, mai ymateb greddfol Yaxley-Lennon i'r ysgytlaeth oedd taflu dyrnau yn syth bin. Ymateb Ed Miliband pan gafodd hwnnw ŵy ar ei ysgwydd oedd edrych yn ddryslyd am eiliad neu ddwy cyn tynnu ei siaced a pharhau â'r cyfweliad.

Fy mhryder mwyaf yw'r clasur (syrffedus) hwnnw am y llethr llithrig. Er y bwriadau da cychwynnol, mae gan bethau fel hyn duedd o ledaenu a chroesi ffiniau. Pwy, yn union, sy'n haeddu ysgytlaeth? Os Farage, beth am wleidyddion Brexitaidd Ceidwadol prif lif? Os rheiny, beth am Frexitwyr y chwith? Os rheiny, beth am genedlaetholwyr Cymreig ac Albanaidd sydd â'u bryd ar ddatgymalu'r Deyrnas Unedig? Beth am rheiny sy'n dweud pethau beirniadol am islam a chrefydd, gan nad oes cytundeb ynghylch lleoliad y ffin rhwng dadleuon adeiladol a rhagfarn? Nid oes ateb clir, ond dylid cadw'r cwestiwn mewn cof.

No comments:

Post a Comment