tag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post3492527593870151796..comments2022-01-10T13:42:04.409+00:00Comments on Anffyddiaeth: Ynghylch anwybodaethDylanhttp://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comBlogger10125tag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-11133232930519839762012-11-06T19:23:44.613+00:002012-11-06T19:23:44.613+00:00Roeddwn i am geisio ysgrifennu ymateb arall hirwyn...Roeddwn i am geisio ysgrifennu ymateb arall hirwyntog, ond yn hytrach, dyma gyfeirio at erthygl yma gan un o flogwyr yr Economist. Cytunaf yn llwyr â hi.Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-29868386863269455802012-11-03T14:35:01.499+00:002012-11-03T14:35:01.499+00:00"Ie, ond rwyf wedi canolbwyntio'n benodol..."Ie, ond rwyf wedi canolbwyntio'n benodol fan hyn ar ffeithiau plaen, moel. Fel esblygiad, neu fethodoleg syml ystadegau a thebygolrwydd."

Dw i’n dal ddim yn cytuno bod y bobol yma’n dwp, am sawl rheswm.

1.) Mae yna daleithiau coch a glas yn yr Unol Daleithiau. Ydyn ni fod i gredu bod y gan y taleithiau coch ganran uwch o bobol twp na'r taleithiau glas? Na, amwn i. Felly ai'r gwirionedd yw bod diwylliant gwahanol yn bodoli yn y taleithiau gwahanol sy'n golygu bod y bobol yn tuddu i gredu pethau gwahanol? Er enghraifft, rydyn ni'n dau wedi ein magu mewn diwylliant sy'n rhoi bri arbennig ar genedlaetholdeb a iaith. Mae'r bobol yn y taleithiau coch hyn wedi eu magu mewn diwylliant sy'n rhoi bri arbennig ar ryddid personol, gwrthwynebu ymyrraeth gan y llywodreath, yr hawl i feddu ar ynnau ac yn y blaen. Yn yr un modd ag yr ydyn ni'n amharod i gwestiynau pethau fel gwerth cenedlaetholdeb a iaith, ac yn yr un modd y mae Cristion yn amharod i gwestiynu bodolaeth Duw, dyw'r bobol yma ddim yn barod i ystyried ffeithiau sy'n angytuno efo'r modd y mae nhw wedi eu magu i weld y byd. Nid ‘twprwydd’ yw hynny ond methiant sy’n gyffredin i bron i bob bod dynol.

2.) Nid y ffeithiau plaen, moel y mae'r bobol yma yn eu dderbyn. Mae modd i bobol maleisus ddrysu'r ffeithiau yn weddol hawdd er eu budd eu hunain, ac mae'r bobol yn barod iawn i dderbyn y ffeithiau 'skewed' yma am eu bod nhw'n greiddiol i'w hunaniaeth nhw. Mae pethau yn waeth ar drigolion y taleithiau coch yma oherwydd bod eu gweledigaeth nhw o'r byd – e.e. rhyddid o reolaeth y llywodreath - yn digwydd cyd-fynd â beth sydd hefyd o fudd i gwmnioedd mawrion y byd. Mae y system gyfalafol yn dibynnu ar y bobol yma i ethol arlywyddion a gwleidyddion sydd o blaid busnes mawr a thorri’r rhwystrau ar eu gweithredoedd nhw. Felly mae’r system gyfalafol yn bwydo anwybodaethy bobol yma er mwyn sicrhau bod unigolion fel Romney yn cael eu hethol sy'n cytuno efo’u buddiannau nhw.

Felly dychmyga dy fod ti wedi dy eni yn ryw dalaith fel Wyoming er enghraifft. Mae dy ddiwylliant di yn rhoi bri arbennig ar werthoedd y Gweriniaethwyr, ac rwyt ti’n tueddu i gredu ffeithiau sy’n cefnogi eu gweledigaeth nhw o’r byd. Oherwydd hynny rwyt ti’n dewis cael dy newyddion gan sianel fel Fox News sydd i weld yn cytuno efo dy safbwynt di ac yn cynnwys pobol o’r un ‘llwyth’ a ti (yn yr un modd ag y byddai sosialydd yng Nghymru yn darllen y Guardian yn hytrach na’r Telegraph). Mae’r sianel hwnnw yn cynrychioli buddiannau busnesau mawr sydd am dy gadw di mor anwybodus o’r ffeithiau a phosib ac am dy gamarwain di bob cyfle posib i awgrymu bod Mitt Romney ar fin ennill yr etholiad. Maen nhw’n pregethu yn gyson yn erbyn peryglon credu rhyddfrydwyr fel Nate Silver a’u celwyddau.

Ai twprwydd yw eu credu nhw? Ta a fyddai bron i bawb sydd wedi eu magu dan yr un amgylchiadau yn credu’r un peth? Efallai mai ‘dioddefwyr’ ydyn nhw, nid ‘twpsynod’!
Ifan Morgan Joneshttps://www.blogger.com/profile/05653247945202734077noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-12956025560278646532012-11-02T20:47:45.994+00:002012-11-02T20:47:45.994+00:00Dyma ddwy erthygl dda ynghylch y drych-fyd rhyfedd...Dyma ddwy erthygl dda ynghylch y drych-fyd rhyfedd mae llawer o Weriniaethwyr wedi'i greu, lle mae'r arolygon i gyd yn dweud bod Romney'n mynd i chwalu Obama yn yr etholiad: gan yr ardderchog Ta-Nehisi Coates a James Fallows, ill dau o gylchgrawn The Atlantic.

Mae'n rywbeth od i ddweud celwydd yn ei gylch a bod yn onest. Beth bynnag, cawn weld nos Fawrth. Nid wyf yn fetiwr mawr, ond petai rhaid rhoi swllt neu bump at ganlyniad yr etholiad, byddwn yn fwy tebygol o ddilyn Silver na Karl Rove.Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-60377519428459840812012-11-02T18:34:50.583+00:002012-11-02T18:34:50.583+00:00Ie, ond rwyf wedi canolbwyntio'n benodol fan h...Ie, ond rwyf wedi canolbwyntio'n benodol fan hyn ar ffeithiau plaen, moel. Fel esblygiad, neu fethodoleg syml ystadegau a thebygolrwydd.

Rwyf yr un fath: o bryd i'w gilydd byddaf yn cael creisis bach wrth i mi geisio gweithio allan sut mae pethau fel cenedlaetholdeb Gymraeg yn ffitio o fewn fy safbwyntiau creiddiol parthed y byd ehangach. Mae hynna'n bwnc cymhleth, fel yn achos trethi a'r economi, ac mae'n berffaith naturiol bod cryn dipyn o anghytundeb am fod yn ei gylch.

Nid dyna rwyf yn ei feddwl fan hyn. Mae'n rhaid i ni dderbyn bod y fath bethau'n bodoli â ffeithiau moel. Fel arall, nid oes gobaith cael trafodaeth synhwyrol am y pethau cymhlethach. Mae pobl a mwncïod a malwod a banans yn gefndryd. Mae Obama yn gristion o Hawaii. Mae 41% lawer iawn yn fwy na 0%. Ffeithiau syml. Ceisio deall (yn aflwyddiannus) y math o anwybodaeth sy'n arwain at wadu'r pethau hynny yr wyf i fan hyn.Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-44727992908773084342012-11-02T10:08:54.072+00:002012-11-02T10:08:54.072+00:00Dydw i ddim yn meddwl y dylen ni fod yn gofyn '...Dydw i ddim yn meddwl y dylen ni fod yn gofyn 'a ydi'n gelynion gwleidyddol yn thic?' ond yn hytrach 'a ydi eu gallu nhw i gredu pethau er gwaethaf diffyg tystiolaeth i'r gwrthwyneb yn rybudd i ni hefyd?' Efallai ein bod ni'n rhy barod i weld bai ar ein gelynion ond yn amharod i archwilio y pethau yr ydyn ni'n credu ynddo. Er enghraifft, rydw i'n ystyried fy hun yn genedlaetholwr, ond pe bawn i'n gwbwl onest efo fi fy hun ac yn ystyried cenedlaetholdeb mewn modd rhesymegol mae'n anhebygol y byddai yn dal dwr. Ffiniau dychmygol yw rhai ein gwlad ni, rhai sydd wedi dod i fodolaeth yn ddiweddar iawn, a does gen i ddim mwy yn gyffredin efo dyn o dde Sir Benfro na sydd gen i efo dyn o Henffordd mewn gwirionedd - pam felly fy mod i'n ystyried fy hun yn rhan o lwyth o 'Gymry' sy'n bosoli o fewn ffiniau penodol? Alla'i dderbyn bod gan y lluniad dychmygol a elwir 'Cymru' anghenion ar wahan i 'Loegr' ac felly y dylid datganoli grymoedd iddo. Mae hynny'n ryw fath o sail rhesymegol i genedlaetholdeb amwn i. Ond wedyn mae gan Sblot anghenion gwahanol i Rhiwbina a does neb yn awgrymu senedd gwahanol i un a'r llall.

Un esiampl yw hynny ond mae unrhyw bendroni dwys yn dangos bod nifer o'r pethau yr ydyn ni'n eu hystyried yn 'synnwyr cyffredin' mewn gwirionedd yn nonsens llwyr wedi ei greu gan ddyn. Mae'r syniad ma o rywioldeb fel rywbeth ddylai ddiffinio persenoliaeth person yn un arall, ac yn syniad sy'n bodoli ers ychydif ganrifoedd yn unig.

Mae ein gallu ni i gredu rwtsh an-rhesymegol yn rywbeth sy'n gyffredin i'r ddynoliaeth gyfan, nid pobol ar y dde yn unig. Rydyn ni i gyd yn twyllo ein hunain i ryw raddau er mwyn cael byw'n hapus yn ein meddyliau ein hunain.Ifan Morgan Joneshttps://www.blogger.com/profile/05653247945202734077noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-33486676745609141972012-11-02T08:33:05.521+00:002012-11-02T08:33:05.521+00:00Hmm. Ydyn, mae'n gwrthddweud. Ok. Petawn i'...Hmm. Ydyn, mae'n gwrthddweud. Ok. Petawn i'n dweud felly mai anwybodaeth sydd ar fai weithiau, malais bwriadol dro arall, a chymysgedd o'r ddau fel arfer, rwy'n siwr gallwn gytuno.

A dweud y gwir rwy'n credu bod ffactor arall ar waith hefyd, sef ofn. Mae'r sylwebwyr yma'n gwneud bywoliaeth digon braf o ymddangos ar y teledu ac ati er mwyn gwneud proffwydoliaethau di-sail. Yn achos llawer, byddai taflu ceiniog yn darparu atebion cystal. Mae gan rai, fel Dick Morris, a arferai weithio i Bill Clinton ond sydd bellach yn gwneud fawr ddim heblaw darogan pob math o fuddugoliaethau ysgubol i'r Gweriniaethwyr, record ofnadwy. Aeth neb yn dlawd trwy fetio ar y gwrthwyneb i'r hyn a broffwydolid gan Morris. Mae Silver yn bygwth y bobl yma trwy wneud y broses o broffwydo yn un digon oer a gwyddonol, wedi'i seilio ar fformwlau mathemategol yn hytrach na mympwy cyfleus. Yr eironi yw bod gelynion Silver yn honni byddai ei hygrededd wedi'i chwalu petai Romney'n ennill ddydd Mawrth, gan anghofio'n llwyr bod eu record eu hunain yn erchyll.

Rwy'n gwerthfawrogi bod perygl i'r drafodaeth yma fod yn ddim mwy na dadl ynghylch natur ein gelynion gwleidyddol: "ydyn nhw'n anonest ynteu'n thick"? Ond mae'n werth gofyn weithiau, pan mae ffeithiau plaen a syml yn cael eu gwrthod gan gymaint.Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-194978217094216762012-11-01T18:56:03.501+00:002012-11-01T18:56:03.501+00:00Dw i'n meddwl bod dy bwynt cynta yn gwrthddweu...Dw i'n meddwl bod dy bwynt cynta yn gwrthddweud dy ail bwynt i raddau fan yna. Mae'r cyfryngau yn soffistigedig iawn ac yn gwybod yn union beth maen nhw'n ei wneud. Dyw sylwebwyr ddim yn darparu eu barn eu hunain ond y farn y mae'r golygydd wedi eu cyflogi nhw i'w roi.

Fyddwn i ddim yn dweud bod sylwebwyr Fox News yn dwp, er enghraifft. Mae yna falais amlwg yno, beth bynnag mae rasel Hanlon yn ei honni.

Dw i'n meddwl hefyd bod angen gwahaniaethu rhwng cred a thwpdra. Mae yna nifer o bobol clyfrach na fi yn credu pethau hollol hurt. Mae cynnwys y blog yma yn gronicl eithaf cynhwysfawr o allu pobol i wadu ffeithiau pan nad yw'n siwtio eu 'cred' nhw, pa bynnag mor glyfar ydyn nhw. Felly gallai person clyfar iawn gredu gydag ing crefyddol y bydd Romney yn arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau a thwyllo ei hun bod y polau piniwn o blaid ei ymgeisydd ef. Yn yr un modd ac y cafodd nifer o bobol clyfar ar y chwith eu hudo i feddwl bod Obama yn mynd i newid y byd yn yr etholiad diweddaraf!Ifan Morgan Joneshttps://www.blogger.com/profile/05653247945202734077noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-50983568689687709082012-11-01T18:27:20.806+00:002012-11-01T18:27:20.806+00:00Diolch.
Efallai eu bod yn gwybod yn iawn ac yn tw...Diolch.

Efallai eu bod yn gwybod yn iawn ac yn twyllo'n fwriadol. Byddai hynny, wrth gwrs, yn waeth byth. Ond rwyf wedi penderfynu bod yn garedig a dilyn canllaw Hanlon's razor: "Never attribute to malice that which is adequately explained by stupidity". Mae miliynau o bobl yn credu'r pethau yma, ac yn eu credu'n chwyrn, felly nid yw'n anodd dychmygu bod y sylwebwyr eu hunain yn ddi-dwyll (ac felly'n dwp).

Prif flaenoriaeth y cyfryngau yw hyrwyddo a gwarchod yr argraff bod yr etholiad yn un agos. Os yw un ymgeisydd neu'r llall yn amlwg ar y blaen, mae hynny'n gwneud y ras yn fwy diflas, ac mae hynny yn ei dro'n gallu arwain at golli cynulleidfa. Dyma pam mae'r wasg yn trin etholiadau fel ras geffylau, fel spectator sport, yn hytrach na fel cyfle i drafod polisi mewn modd adeiladol. Mae'r wasg yn elwa o bortreadu'r ymgyrch fel un agosach nag ydyw go iawn. Naratif gyffrous yw'r unig beth sy'n bwysig iddynt.Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-82865264148009704292012-11-01T10:33:39.073+00:002012-11-01T10:33:39.073+00:00I ehangu ychydig ar hynny -
Mae astudiaethau yn d...I ehangu ychydig ar hynny -

Mae astudiaethau yn dangos bod pobol yn tueddu i ddarllen darnau barn sy'n cytuno efo'u perspectif nhw.

Maen 'r cyfryngau yn gwybod bod na garfan eisiau darllen erthyglau sy'n dweud bod Romney ar y blaen, felly mae'r erthyglau yna'n cael eu darparu er gwaetha'r gymnasteg ffeithiol.

Y nod yw denu darllenwyr ac felly hysbysebwyr. Does gan realiti ddim byw i'w wneud efo'r peth.

Wnes i ddarllen dyfyniad am hyn dw i ddim yn gallu dod o hyd iddo ar hyn o bryd oedd yn dweud rywbeth fel; "Y cyfan yw swyddogaeth sylwebydd yw cymryd barn ei ddarllenydd, ei becynnu a'i roi yn ol iddo."

Felly dyw'r sylwebydd na'r darllenydd ddim o reidrwydd yn dwp. Wedi'r cwbwl os noedd yn teimlo ei fod yn gwybod bob dim fyddai'r darllenwyr ddim yn mynd ati i ddarllen gwaith sylwebwyr yn y lle cyntaf. Ond mae'r berthynas yma yn creu realiti ffug lle mae un yn bwydo oddi ar ragfarnau'r llall.

Rydw i'n euog o hyn - ee yn 2004 roeddwn i'n mynd ati i ddarllen erthyglau oedd yn agwrymu bod gan Kerry siawns o ennill yr etholiad. Erbyn hyn rydw i'n gwneud ymdrech i ddarllen erthyglau dydw i ddim yn cytuno efo nhw er mwyn cael safbwynt arall!Ifan Morgan Joneshttps://www.blogger.com/profile/05653247945202734077noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-90734799000577124782012-11-01T10:26:14.344+00:002012-11-01T10:26:14.344+00:00A yw'r sylwebwyr yn dwp ta ydyn nhw'n chwa...A yw'r sylwebwyr yn dwp ta ydyn nhw'n chwarae ar gredoau ac anwybodaeth eu darllenwyr mewn ffordd hynod o glyfar er eu budd eu hunain?

E.e. alla'i ddyfalu bod Fox News yn gwybod yn iawn bod Obama yn ffefryn clir i ennill yr etholiad ond yn benderfynol o awgrymu fod pethau'n dynn er mwyn rhoi 'momentwm' i Romney.Ifan Morgan Joneshttps://www.blogger.com/profile/05653247945202734077noreply@blogger.com