tag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post5193594912486941300..comments2022-01-10T13:42:04.409+00:00Comments on Anffyddiaeth: Crefydd, cysur a hunllef y nefoeddDylanhttp://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comBlogger4125tag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-4798455204267206292012-06-30T15:58:12.886+01:002012-06-30T15:58:12.886+01:00Ystyr dadl dyn gwellt yw creu cariciature camarwei...Ystyr dadl dyn gwellt yw creu cariciature camarweiniol o ddadl dy wrthwynebydd ac ymosod ar hwnnw yn hytrach na'r ddadl go iawn.

Nid wyf wedi gwneud yr hyn rwyt yn fy nghyhuddo o'i wneud yn unman. Mae dy gyhuddiad fy mod wedi adeiladu dyn gwellt yn enghraifft o'r dacteg honno ynddi'i hun.

Fe amlinellais sawl elfen o'r canfyddiad poblogaidd o'r nefoedd, gan ddangos y problemau a geir wrth graffu arnynt yn fanylach, ond nid wyf wedi dweud o gwbl bod pob cristion yn rhannu'r un weledigaeth o'r hyn a geir ym 'mharadwys'. Mae croeso i ti gynnig fersiwn sy'n osgoi'r holl drafferthion rhesymegol ac ymarferol a drafodir uchod, os oes gennyt un mewn golwg.

Os nad wyt yn fodlon gwneud hynny, rwyt yn cadarnhau pwynt BoiCymraeg. Mae'n hawdd dweud "Wel nid dyna rwyf i yn ei gredu". Iawn, digon teg. Ond beth yn union wyt ti'n ei gredu?

Er lles y drafodaeth rwy'n fodlon anwybyddu'r ffaith nad oes unrhyw dystiolaeth o blaid y nefoedd yn y lle cyntaf ac nad yw'n bosibl cyfiawnhau darlun manwl ohono. Adlewyrchiad o ddyheadau personol y crediwniwr fyddai peth felly. Ond byddai rhyw syniad bras hypothetig ohono nad yw'n baglu dros ei anghysonderau ei hun yn welliant ar yr hyn rwyf wedi'i glywed gan unrhyw un hyd yma.Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-24806941571955431932012-06-30T05:51:48.788+01:002012-06-30T05:51:48.788+01:00Un o'r pethau sydd yn mynd dan fy nghroen i yn...Un o'r pethau sydd yn mynd dan fy nghroen i yn y byd gwleidyddol yw troliaid sydd yn mynnu "os wyt yn credu X mae'n rhaid dy fod yn credu z hefyd". Er enghraifft gan fy mod yn genedlaetholwr Gymreig mae'n raid fy mod yn casáu Saeson; neu gan fy mod yn geidwadol mae'n rhaid fy mod yn gwrthwynebus i hawliau gweithwyr.

Mae'r tuedd yna yn dy bost uchod , Dylan.

Yn rhyfedd iawn , er fy mod yn hyn o lawer na thi a gan hynny yn debycach o dy ragflaenu di i'r fedd neu'r amlosgfa, nid ydwyf yn poeni fy mhen yn ormodol am y byd a ddaw. O feddwl am farwolaeth rwy'n poeni am yr un pethau a phawb arall – a fydd to uwchben fy ngwraig a fy mhlant os caf hartan heno? A fydd costau cynhebrwng yn achosi dyled a loes ariannol i'r teulu?

Ers dyfod yn Gristion ym 1975, nid ydwyf unwaith wedi meddwl mae fy ngwobr am ddilyn y ffydd byddai ffwcio gwyryfon na gwylio Cymru yn enillit pob gêm rygbi tu hwnt i'r llen. Dadl dyn gwellt, Dylan – rydym yn haeddu gwell!

Dyma stori difir i godi dy wrychyn, un sy'n gwneud imi deimlo bod ambell i Gristion yn gwneud gwell job na thi i godi gwawd ar fy ffydd:

Loch Ness Monster is Proof that evoloution is a MythAlwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-71771895046046209652012-06-27T20:27:21.452+01:002012-06-27T20:27:21.452+01:00Diolch!
Mae'n siwr byddai llawer o gristnogio...Diolch!

Mae'n siwr byddai llawer o gristnogion yn ateb hynny trwy awgrymu bod gan bawb syniad gwahanol o'r hyn a fyddai'n baradwys ddedwydd berffaith. Ni fyddai nefoedd pawb yr un fath. Ond hyd yn oed o dderbyn hynny byddai'r problemau cysyniadol yn parhau.Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-63411650237203370642012-06-26T10:22:38.883+01:002012-06-26T10:22:38.883+01:00Dyna pham, mae'n siwr, nad oes yna lawer iawn ...Dyna pham, mae'n siwr, nad oes yna lawer iawn o gwbwl o fanylion penodol ynglŷn ag union natur y nefoedd, naill ai yn y beibl neu mewn llenyddiaeth cristnogol yn gyffredinol. Cymharwch hyn a'r manylion helaeth a roddir i ni am yr artaith sy'n ein disgwyl yn uffern - brwmstan, picelli yn y tin ayyb - mae'r tawelwch cymharol hyn yn dweud cyfrolau, ddwedwn i, er nad oes neb yn sylwi arni'n aml. Siaradwch â christnogion pybr a fe roddwn nhw lawer iawn o fanylion am uffern ond dim ond rhyw 'generalisations' eang am y nefoedd.

Mae'n amlwg bod pobl wedi sylweddoli nad yw'n bosib disgrifio dedwyddwch perffaith heb orfodi cwestiynnau anodd, fel y rhai yr wyt ti'n ei ofyn yma! Da iawn!BoiCymraegnoreply@blogger.com