tag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post831578044298066150..comments2022-01-10T13:42:04.409+00:00Comments on Anffyddiaeth: Gwyddoniaeth yn y cyfryngauDylanhttp://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comBlogger3125tag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-90070821359190010342012-06-21T23:21:38.218+01:002012-06-21T23:21:38.218+01:00Diolch am y sylwadau!
Newydd wrando ar yr eitem D...Diolch am y sylwadau!

Newydd wrando ar yr eitem Dweud Eich Dweud yna (mae'n dechrau wedi 55 munud, ac ar gael tan ddydd Mercher 27 Mehefin).

Yn syml, mae'r hyn a ddywedodd Bethan Mair am Hawking yn gelwydd llwyr. Y gwrthwyneb llwyr yw ei wir safbwynt: nid oes angen cyflwyno'r syniad o dduw o gwbl er mwyn esbonio'r bydysawd.

Roedd y lol ynghylch y plentyn yn druenus hefyd. Mae dweud bod "yr haul yn codi" yn dystiolaeth o blaid bodolaeth duw yn eithriadol o blentynnaidd. Digon teg mewn plentyn 6 oed, ond mae'n anfaddeuol pan mae oedolyn yn cytuno â'r math yna o resymu. Mae'n waeth byth pan mae'n cael defnyddio rhaglen radio fyw fel bocs sebon er mwyn ei rannu fel petai'n taro goleuni ar rhyw wirionedd mawr a dwys. Mewn difrif calon, dyma'r ddadl fwyaf blinedig un a ddefnyddir i gefnogi'r syniad o dduw. Nid yw'n unrhyw beth newydd o gwbl; mae'n flinedig a gwan.

Mae'n ddirgelwch i mi pam mae Dweud Eich Dweud yn dal i fynd, a dweud y gwir (felly hefyd Thought For The Day yng nghanol rhaglen Today ar Radio 4).Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-10219456206767842622012-06-20T14:08:40.071+01:002012-06-20T14:08:40.071+01:00Gyda llaw…
O'n i'n gwrando ar Bethan Mai...Gyda llaw…

O'n i'n gwrando ar Bethan Mair yn traddodi "Dweud Eich Dweud" ar Post Cyntaf y bore hwn. Mae fy sgiliau gwrando'n gwella o dipyn i beth, ond dydyn nhw'n berffaith o bell ffordd. :(

Meddyliaf yr oedd hi'n honni bod Stephen Hawking wedi dweud "bod ein byd ni mor ryfeddol nes bod hi'n amhosibl ystyried nad oes Duw". Ond mae o ar y cofnod yn dweud bod dim rhaid cysyniad duw er mwyn esbonio'r byd naturiol, a os oes duw, dydy o ddim yn ymyrryd ynddo! Dim cefnogaeth gryf i'w barn hi!

Ac oedd hi'n credu o ddifri bod ateb hogyn chwech oed i'r cwestiwn "Sut ydach chi'n gwybod bod Duw yn bodoli", sef oherwydd y pethau mae o'n eu gwneud (yn ôl y sôn), megis gwneud i'r planhigion dyfu, i bobl fod yn garedig i'w gilydd, ac i'r haul yn codi bob bore, yn rheswm da i oedolyn fel hi gredu bod ei duw yn bodoli? Beth??

Bedyddwraig ydy hi. Ai dyna esiampl diwinyddiaeth soffistigedig Bedyddwyr, neu dystiolaeth addysg wael gwyddonol? (Cwestiwn rhethrhegol ydy hwnnw!)Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-79044552914461842612012-06-20T13:07:40.444+01:002012-06-20T13:07:40.444+01:00Dw i'n tanysgrifio i New Scientist, a dw i'...Dw i'n tanysgrifio i New Scientist, a dw i'n cofio gwneud "facepalm" wrth weld y rhifyn hwnnw yn dod trwy'r blwch llythyr.

Wrth gwrs "yr oedd Darwin yn anghywir". O ystyried fod o'n gweithio ganrif a hanner yn ôl, yn erbyn barn mwyafrif y cyhoedd yr adeg honno mai Duw wnaeth bopeth a heb wybod am eneteg, symudiadau'r platau tectoneg ayyb., mae'n rhyfedd gweld pa mor agos at y gwir yr oedd ei syniadau.
Credaf y mae golygyddion NewSci a mwyafrif ei darllenwyr hefyd yn deall hynny.

Ond dylen nhw fod wedi gwybod yn well nag argraffu pennawd pa mor gynhyrfus i greadaethwyr, sydd yn ddiarhebol am ddiffyg eu sgiliau darllen a deall!Anonymousnoreply@blogger.com