tag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post9166228028182281103..comments2022-01-10T13:42:04.409+00:00Comments on Anffyddiaeth: "Ond anffyddiwr oedd Stalin!"Dylanhttp://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comBlogger10125tag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-23493869319314258632012-01-28T09:41:10.503+00:002012-01-28T09:41:10.503+00:00Sori, roeddwn wedi bwriadu ymateb i hyn hefyd:
Ma...Sori, roeddwn wedi bwriadu ymateb i hyn hefyd:

Mae'n debyg bod fy sylwadau am wrywgydiaeth wedi eu hadrodd i Heddlu Gogledd Cymru fel trosedd o gasineb, yn yr un modd a byddai fy nghydnabyddiaeth o gael profiadau gwrywgydiol wedi eu hadrodd yn drosedd i'r awdurdodau namyn llai na 50 mlynedd yn ôl!

Os yw hynny'n wir, mae angen chwilio pen pwy bynnag wnaeth gwyno.

Er hyn i gyd, cofier bod modd i unrhyw dwpsyn "adrodd" unrhyw weithred i'r heddlu; nid yw hynny ynddo'i hun yn adlewyrchiad o gymdeithas sydd wedi troi cefn ar ryddid barn yn yr achos yma. Mae hefyd yn ddyletswydd ar yr heddlu i "ymchwilio" unrhyw gŵyn sy'n dod i law. Nid oes gennyt ormod o reswm i boeni yn fy marn i.

Ond gallaf sicrhau un peth i ti: petaet yn digwydd cael dy erlyn gan system gyfreithiol Prydain am y farn a fynegaist ar dy flog, ni fyddai gennyt amddiffynnwr cadarnach na fi. O ddifrif.Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-28637325400833298432012-01-28T09:31:13.379+00:002012-01-28T09:31:13.379+00:00Alwyn:
Cafwyd cyfnod o rydd i bob un ei farn ag i...Alwyn:

Cafwyd cyfnod o rydd i bob un ei farn ag i bob barn ei llafar, am gyfnod byr rhwng 1945 a 1970. Ers y 1970au mae'r gymdeithas wedi mynd ar ei hol o ran rhyddid mynegiant barn, wedi mynd yn ôl at gyfnod o erlyn pobl am eu barn yn yr un modd a erlynwyd John Penri a St John Jones.

Dyma obeithio bod y sylw yma am dy argyhoeddi o'r diwedd: rwy'n cytuno cant y cant. Rwyf wedi dweud ar y blog yma ac mewn sylwadau eraill bod Prydain wedi llithro'n ôl yn druenus lle mae rhyddid barn o dan sylw. Mae dirfawr angen diwygio'r gyfraith enllib yn un peth, ond mae angen herio'r lol "casineb" yma ar fyrder. Fel mae pethau'n mynd, rydym fwy neu lai'n caniatáu i radicaliaid crefyddol gael feto dros bethau: os yw rhywbeth yn eu hypsétio, y cyfan sydd angen iddynt ei wneud yw gwylltio'n swnllyd ac yna bydd pawb arall yn brysio i gondemnio pwy bynnag ddywedodd neu wnaeth y peth angharedig. Mae hynny'n warthus a phathetig.Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-57033596522758997852012-01-28T09:20:32.032+00:002012-01-28T09:20:32.032+00:00Ifan: fy marn yn gryno iawn yw bod Alain de Botton...Ifan: fy marn yn gryno iawn yw bod Alain de Botton yn ddyn diflas iawn. Mae'n siarad lol. Fel rwyt yn ei ddweud, deunydd blogiad! Yn fuan...Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-75313396648193015282012-01-27T13:33:46.564+00:002012-01-27T13:33:46.564+00:00Os twpsyn wyt ti Alwyn, goddefa i mi ddweud mai ad...Os twpsyn wyt ti Alwyn, goddefa i mi ddweud mai aderyn o’r un lliw ydwyf finnau !

Gan nad yw’r " Geiriadur Termau " ar fy astell lyfrau fe gyfieithais y gair Saesneg ' diversity ' i’r iaith Gymraeg fel ' Amryfaliaeth ' gan gychwyn y gair gyda’r briflythyren ' A ' i ddynodi’r ffaith fy mod yn cyfeirio at yr athrawiaeth ddinistriol honno. Efallai y byddai wedi bod yn well pe bawn wedi defnyddio’r ymadrodd ' amrywiaeth ddiwylliannol ' am yr athrawiaeth sydd mor wrthyn gennyf fi am y rhesymau a eglurais uchod.

Ymddiheuraf yn daer am achosi dryswch i ti ac eraill o bosibl yn y mater arbennig hwn.

Yn fy sylwadau uchod ceisiais egluro mai athrawiaeth ddinistriol o’r cychwyn yw’r athrawiaeth a nabodir gan y Sais fel ' diversity '.

Dafydd Jones o LanrwstAnonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-80747154235903025262012-01-27T07:53:46.702+00:002012-01-27T07:53:46.702+00:00Nid ydwyf yn sicr o ystyr dy air Amryfaliaeth, Da...Nid ydwyf yn sicr o ystyr dy air Amryfaliaeth, Dafydd, ac yn sicr nid ydwyf mor hyddysg yn yr amryfal athrawiaethau comiwnyddol ac wyt ti.

Fel hyn rwy'n gweld hi yn fy nhwpdra.

Bu cyfnod lle'r oedd anghytundebau crefyddol yn ynysoedd Prydain yn arwain at orffwylltra; pobl yn cael eu llosgi, eu crogi, eu diberfeddu am fod yn Gatholigion mewn un cyfnod ac yna am fod yn Brotestaniaid mewn cyfnod arall hyd at syrffed - a arweiniodd at daw rhesymegol bron!

Cafwyd cyfnod o rydd i bob un ei farn ag i bob barn ei llafar, am gyfnod byr rhwng 1945 a 1970. Ers y 1970au mae'r gymdeithas wedi mynd ar ei hol o ran rhyddid mynegiant barn, wedi mynd yn ôl at gyfnod o erlyn pobl am eu barn yn yr un modd a erlynwyd John Penri a St John Jones.

Mae'n debyg bod fy sylwadau am wrywgydiaeth wedi eu hadrodd i Heddlu Gogledd Cymru fel trosedd o gasineb, yn yr un modd a byddai fy nghydnabyddiaeth o gael profiadau gwrywgydiol wedi eu hadrodd yn drosedd i'r awdurdodau namyn llai na 50 mlynedd yn ôl!

Plus ça change, plus c'est la même chose, ys medd y Sais!Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-89532547449319120752012-01-26T23:28:51.191+00:002012-01-26T23:28:51.191+00:00Beth yw dy ymateb i'r isod Dylan?
http://www....Beth yw dy ymateb i'r isod Dylan?

http://www.guardian.co.uk/books/2012/jan/26/alain-de-botton-temple-atheism

Testun blogiad yn sicr!Ifan Morgan Joneshttps://www.blogger.com/profile/05653247945202734077noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-860474117023867002012-01-26T22:04:00.786+00:002012-01-26T22:04:00.786+00:00Mewn ymateb i sylwadau a wnaethpwyd gan Alwyn ap H...Mewn ymateb i sylwadau a wnaethpwyd gan Alwyn ap Huw uchod, hoffwn ddweud mai eithafwr oedd Stalin yn y bôn doed a ddelo a oedd ef yn anffyddiwr ai peidio.

Credaf dy fod yn gywir, Alwyn, pan ddywedi fod gwledydd Prydain yn llai goddefol o fynegiant barn yr unigolyn cyffredin ers tua chanol 70au’r ganrif ddiwethaf wedi i Amryfaliaeth ennill ei phlwyf o fewn gwleidyddiaeth ein gwlad wedi ni ymuno gyda’r Gymuned Ewropeaidd ond credaf dy dy fod yn anghywir pan ddywedi fod y gredo honno’n dda ar y dechrau parthed hawliau merched, cyfunrhywiaeth a lleiafrifoedd ethnig. Yn whanol i ti, credaf fod Amryfaliaeth yn ddrwg o’r cychwyn.

Agenda dan gochl breintiau cyfartal yw Amryfaliaeth a’i phwrpas yw dinistrio cymdeithas gan wneud brodorion cynhenid gwledydd Ewrop yn lleiafrif ac yn westeion yn eu gwledydd eu hunain. Siarad dwbl yw Amryfaliaeth am y rhaglen honno i anffafrio’r dyn gwyn yn ei gymdeithas ei hun. Erledigaeth wleidyddol ydyw a’r dyn gwyn yw ei gwrthrych. Gwir bwrpas yr agenda yw twyllo dynion gwahanrywiol i ildio’u safle a’u grym o blaid merched a phobl o leiafrifoedd ethnig ac i danseilio a dinistrio teuluoedd, sef blociau adeiladu cymdeithas.

Bolsieficiaeth fodern yw Amryfaliaeth gyda’i gwreiddiau’n ddwfn yn adolygiaeth Farcsaidd Ysgol Frankfurt.

Nid yw Amryfaliaeth wedi ennill ei phlwyf eto yn Tseina, Israel, Siapan, India ac America Ladin ac nid oedd wedi ennill ei phlwyf yng ngwledydd Ewrop pan oeddwn yn blentyn ddegawdau lawer yn ôl bellach. Fel pob credo arall boed wleidyddol neu beidio, ffurf ar eithafiaeth yw Amryfaliaeth.

Alwyn, credaf y dylet sefyll yn gadarn a diwyro o blaid yr unigolyn a’i ryddid barn gan roi credo aflesol Amryfaliaeth dan dy lach er lles pob unigolyn gan gynnwys pobl cyfunrhywiol, merched a phobl o bob liw a llun.

Dafydd Jones o Lanrwst.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-900638189197387412012-01-25T20:52:17.257+00:002012-01-25T20:52:17.257+00:00Bobl y Bala ! Wn i ddim ai blog Dylan ap-Huw ynteu...Bobl y Bala ! Wn i ddim ai blog Dylan ap-Huw ynteu blog Alwyn Llŷr yw "Anffyddiaeth" gan mor aml y mae sylwadau Alwyn a Dylan yn ymddangos ar y wefan !! Gan hynny, er amrywiaeth, fe benderfynais ddweud fy nweud arni unwaith yn rhagor er gwell neu er gwaeth.

Mae’n wir dweud fod llawer iawn o ddryswch ynghylch union safbwyntiau diwinyddol Adolf Hitler. Gwireb yw hynny. Ond, er hynny, y mae’n wir dweud fod syniadau Mahometanaidd wedi dylanwadu arno hefyd.

Mudiadau wtopaidd totalitaraidd yn y bôn yw Cristnogaeth, Mahometaniaeth, Comiwnyddiaeth a Natsïaeth. Ail-greu dyn a sefydlu’r Gaersalem newydd yw bwriad y mudiadau hyn a’u tebyg. Ceisiant wneud pawb yr un ffunud o ran barn gyda’r bwriad o danseilio a dinistrio cymdeithas. Dyrchafant hawliau carfan ddethol ar draul rhyddid yr unigolyn a’i farn gan gyflawni hynny trwy drais os oes rhaid o’i safbwynt nhw.

Yn achos Cristnogaeth, a gaf atgoffa’r darllenydd am ryfeloedd y Groes a Chwilys yr Eglwys Babyddol a’r Jihad hir dymor yn achos Mahometaniaeth ? A beth am gyrch Stalin yn erbyn y 'Kulaks', gwrthwynebwyr yr Aswy Law dan arweinyddiaeth Leon Trotsci a’r gwersylloedd rheiny a adweinir yn Saesneg fel y 'Gulags' heb sôn wersylloedd lladd y Natsïaid a sefydlwyd ganddynt i ladd Iddewon yn bennaf a oedd yn efelychiad o hil laddiad milwyr Mahometanaidd gwlad y Twrcod a Thyrcesau’n erbyn Cristnogion Armenia.

Diawl drwg oedd Stalin yn y bôn ac, ys dywedais eisoes, y mae eisiau llwy go hir i fwyta gyda’r diafol. Gochelwch chwithwyr sy’n cefnogi eithafiaeth o bob math y nhw yw’r feirws sy’n lladd a dinistrio rhyddid barn a chymdeithas. Fe ddylwn wybod oblegid roeddwn yn un ohonynt ar un adeg !

Ymbwyllwch chithau, Dylan ac Alwyn ! Byddwch yn fwy moesgar tuag at eich gilydd ar y wefan hon a gochela di, Dylan, rhag dweud pethau personol arni adegau !

Dafydd Jones o Lanrwst.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-34921028942347450752012-01-25T07:08:32.450+00:002012-01-25T07:08:32.450+00:00Rwy'n gwbl gegrwth. Ar ôl popeth!
Yn y cyfams...Rwy'n gwbl gegrwth. Ar ôl popeth!

Yn y cyfamser, unrhyw sylwadau gan bobl sy'n gallu darllen?Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-33975102737174497102012-01-25T04:48:19.861+00:002012-01-25T04:48:19.861+00:00Yr hyn sydd yn ddiddorol am y sawl yr wyt yn eu cr...Yr hyn sydd yn ddiddorol am y sawl yr wyt yn eu crybwyll uchod yw'r modd y maent yn ddechrau trwy arddel Seciwlariaeth ac yna yn ei gyfnewid am "grefydd newydd", Kim y Meseia, Yr Eglwys Uniongred Comiwnyddol ac ati.

Rwyt wedi mynegi yn aml dy gasineb tuag at derm yr wyf fi yn hoff iawn ohoni er mwyn disgrifio pobl megis yr Athro Dawkins sef Ffwndamentalwyr Seciwlar. Ond prin fod agwedd yr Athro Dawkins, ac yn aml dy agwedd di yn gwahaniaethu o ran sylfaen i'r crefyddwyr (a'r ôl seciwlyddwyr a nodi'r uchod) yr ydych yn eu beirniadu

Prin fod yr Athro Dawkins yn ymarfer y cysyniad o Rydd i Bob un ei Farn ac i Bob Barn ei Llafar.
Y mae o am erlyn a difreinio pawb sydd ddim yn cydsynio a'i anffyddiaeth ef - megis Pab Canoloesol yn y chwilys ac o ddarllen rhai o dy sylwadau di yma dros y bythefnos diwethaf prin bod dy agwedd di tuag at ryddid barn yn wahanol i'w rai ceidwadol a rhagddetholus ef.

Ers tua chanol y 1970au mae gwlerdydd Prydain wedi dod yn llai a llai goddefol o fynnegiant barn, am resymau a ddechreuodd yn dda parthed hawliau merched, lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl ac ati sydd bellach wedi troi yn ormesol, ac wedi eu troi yn ormosol o dan ddylanwad wrth grefyddiaeth.

Iawn! Nid ydwyt yn cytuno a fy marn am ddiwreideb rhywiol, hawl merched i fagu plant, lle mewnfudwyr yn ein cymuned, hawl riant i gosbi ei blant ac ati¸neu hwyrach dy fod yn cytuno 100%, pwy a ŵyr gan fod mynegi barn ar y fath bynciau yn anghyfreithiol o dan y drefn Biwritanaidd newydd yr wyt ti’n eri goleddu.Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.com