tag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post2497121632270547004..comments2022-01-10T13:42:04.409+00:00Comments on Anffyddiaeth: Nid yw ffydd yn rinweddDylanhttp://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comBlogger9125tag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-61038193743807082842011-11-08T19:26:12.198+00:002011-11-08T19:26:12.198+00:00Rwy'n cael yr un broblem yn union. A dweud y g...Rwy'n cael yr un broblem yn union. A dweud y gwir, mae'n bosibl mai system Content Control Vodafone yw'r dystiolaeth orau sydd gennym o blaid bodolaeth y diafol. Mae'n strach anhygoel i gael gwared â'r peth: am rhyw reswm gwallgof, os ydych yn gofyn i'w ddileu dros y ffôn neu ar y we maent yn mynnu cael manylion cerdyn credyd gennych, a dim ond ychydig ddyddiau yn ôl y derbyniais fy nghyntaf o'r rheiny. Rwy'n 27. Mae'n debyg bod modd gofyn yn un o'u siopau, ond bob tro rwy'n digwydd pigo draw i Fangor rwy'n anghofio. A wel. Am system chwerthinllyd a nawddoglyd.Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-30191663852492656722011-11-08T10:36:30.330+00:002011-11-08T10:36:30.330+00:00Gyda llaw, wnes i drio darllen dy flog ar fy ffôn ...Gyda llaw, wnes i drio darllen dy flog ar fy ffôn symudol ddoe, ond mae Vodafone yn meddwl fod o'n anaddas i rai sydd o dan 18 oed! (Oedolyn dw i, ond mae "Content Control" yn fyw ar gyfrif pob cwsmer newydd, mae'n debyg. Cefais i lot o hwyl chwilio am wefannau Cymraeg "naughty" er mwyn profi ei heffeithiolrwydd!)

Ond dw i bach yn ddryslyd; dydy dy flog mewn categori "peryglus" yn eu hôl nhw, felly dw i ddim yn dallt beth oedd y problem. Ydy pobl wedi cwyno am gynnwys y blog hwn, neu rywbeth?Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-61086925937187701932011-11-08T10:12:13.884+00:002011-11-08T10:12:13.884+00:00"Nid wyf yn siwr pam y dylai rhywun ufuddhau ..."Nid wyf yn siwr pam y dylai rhywun ufuddhau duw a fyddai'n gofyn iddynt wneud hynny heb roi rheswm digonol."

Os oes gan rywun ffydd yn nuw yn barod, mae'n bosib bod cyflawni tasg anodd yn cynyddu ei ffydd: "Mae'n *rhaid* bod duw yn bodoli - fel arall, pwy oedd yn f'ysbrydoli i i'w wneud?" Mae dweud hyn yn ei alluogi i gyfiawnhau ei gweithredoedd (rhag ofn i'w ffydd ddim yn gryf iawn). Ac wedyn, mae'n dod yn fwy tebygol y bydd o'n gwneud rhywbeth yn fwy anodd (neu fwy wirion). Fel dywedaist ti, mae'n bosib cyfiawnhau unrhyw beth â ffydd - gan gynnwys y ffydd ei hun. Mae'n gylch dieflig, mewn geiriau eraill.

Efallai bod bihafio fel 'na yn fodd "taro bargen" efo duw hefyd: ti'n arddangos dy ffydd yn nuw er mwyn cael gwobrwyo ganddo fo. Mae bargeinio yn ffordd cyffredin i bobl yn delio ag anhawster yn y byd go-iawn, wedi'r cyfan…Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-73784457777488151412011-11-07T19:42:26.349+00:002011-11-07T19:42:26.349+00:00Na, ond fe allwn fynegi barn ar y darlun o'r c...Na, ond fe allwn fynegi barn ar y darlun o'r cymeriad a gynigir yn y beibl. Ac mae hwnnw'n fwystfil ac mae'n beth hynod galonogol mai dim ond ffrwyth dychymyg ydyw. Dyna fydd testun fy nghofnod nesaf on un.

Erthygl ddifyr. Rwy'n eithaf mwynhau cyfres Baggini hyd yma, ar y cyfan.Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-42021876257221859152011-11-07T14:56:45.252+00:002011-11-07T14:56:45.252+00:00Digwydd bod mae na flog ar y pwnc yma yn y Guardia...Digwydd bod mae na flog ar y pwnc yma yn y Guardian heddiw: http://www.guardian.co.uk/commentisfree/belief/2011/nov/07/understand-my-religion-faith

O ran 'ail hanner fy sylw' uchod, dw i ddim wir wedi meddwl ryw lawer am y pwnc dan ystyriaeth. Gan nad ydw i wedi fy argyhoeddi fod duw yn bod yn y lle cyntaf dydw i ddim yn bwriadu colli cwsg yn dyfalu sut un fyddai fo petai o'n bodoli!Ifan Morgan Joneshttps://www.blogger.com/profile/05653247945202734077noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-45407269473590097052011-11-05T16:12:47.102+00:002011-11-05T16:12:47.102+00:00Dyma'r cyfieithiad.Dyma'r cyfieithiad.Barryhttps://www.blogger.com/profile/18344399473884127122noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-28977142423640128732011-11-05T14:25:15.005+00:002011-11-05T14:25:15.005+00:00Diolch.Diolch.Barryhttps://www.blogger.com/profile/18344399473884127122noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-38705722060749523042011-11-05T14:15:01.637+00:002011-11-05T14:15:01.637+00:00Wrth gwrs! Byddwn i'n falch iawn!Wrth gwrs! Byddwn i'n falch iawn!Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-9142508898494267888.post-78263718227540947822011-11-05T13:56:49.366+00:002011-11-05T13:56:49.366+00:00Clywch, clywch! Fyddi di'n fodlon imi gyfieith...Clywch, clywch! Fyddi di'n fodlon imi gyfieithu'r blogiad yma i'r Saesneg a'i gyhoeddi ar fy mlog fy hun (gyda chyswllt yn ôl, wrth gwrs)?Barryhttps://www.blogger.com/profile/18344399473884127122noreply@blogger.com