Showing posts with label amgylcheddaeth. Show all posts
Showing posts with label amgylcheddaeth. Show all posts

16/08/2015

Ffolineb gwahardd cnydau wedi'u haddasu'n enetig

Digalon oedd darllen am fwriad llywodraeth yr Alban i wahardd cnydau wedi'u haddasu'n enetig. Mae obsesiwn y mudiad gwyrdd â'r pwnc hwn yn peri cryn rwystredigaeth i mi, a dweud y gwir, gan nad oes sail wyddonol o gwbl i'r pryderon. I'r gwrthwyneb, mae'n faes addawol dros ben, gyda llawer o fanteision o safbwynt amgylcheddol a sosio-economaidd.

Y gwir yw ein bod wedi bod yn ddiwyd yn addasu planhigion, ac anifeiliaid o ran hynny, yn enetig ers miloedd o flynyddoedd. Dyna holl sylfaen amaethyddiaeth: rydym yn dewis y cnydau neu'r da byw sy'n diwallu ein hangenion orau, a defnyddio'r rheiny er mwyn cynhyrchu'r genhedlaeth nesaf. Dyma sut y bu i india-corn gynyddu mor ddramatig mewn maint dros gyfnod o 10,000 o flynyddoedd, er enghraifft. Esblygiad wedi'i lywio gan bobl ydyw yn y pen draw. Mewn geiriau eraill: addasu genetig.

Yr unig wahaniaeth yn achos yr hyn sy'n peri braw i rai pobl heddiw yw bod yr addasu hwnnw'n digwydd mewn labordy, a'n cael ei wneud gan wyddonwyr mewn cotiau gwyn. Yr un yw'r nod yn union, sef cynhyrchu mathau o fwyd sy'n haws i'w cynhyrchu. Er enghraifft, mae cynhyrchu cnydau newydd sy'n apelio llai at bryfetach yn golygu bod angen defnyddio llai o blaladdwyr. Mae hynny - yn hollol ddi-amwys - yn fuddiol dros ben i'r ffermwr a'r amgylchedd. Yn yr un modd, bydd modd cynnyrchu mwy a mwy o fwyd gan ddefnyddio llai o dir a gwrtaith. Unwaith eto, da yw hyn i gyd, heb ddadleuon da yn erbyn. Mewn gwledydd tlawd yn arbennig, mae addasu cnydau'n enetig yn cynnig gobaith anferthol.

Mae carfan o'r mudiad amgylcheddol sy'n obsesiynu ynghylch y 'naturiol', sydd, yn eu tyb hwy, yn rhagori ar yr 'artiffisial'. Nonsens fel hyn sy'n arwain at honiadau hanner-pan fel y syniad bod 'cemegion' yn ddrwg yn eu crynswth, er mai cemegion yw popeth, yn llythrennol, yn y byd i gyd (gan gynnwys quinoa). Nid syniadau blaengar mo'r rhain, eithr y gwrthwyneb. Lol emosiynol gwrth-wyddonol ydyw, ac mae'r sawl sy'n ei harddel yn Luddites adweithiol. Dylai amgylcheddwyr call ymbellhau oddi wrthynt.

20/06/2015

Clap araf i'r Pab

Mae'r Pab wedi derbyn llawer o glod yr wythnos yma wedi iddo gyhoeddi cylchlythyr yn dweud bod angen gwneud mwy i ddatrys y broblem newid hinsawdd, ac mai cyfrifoldeb gwledydd cyfoethog yw hynny'n bennaf. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad i raddau; gwell hyn na dim, am wn i. Ond peidied â mynd dros ben llestri; nid yw'n agos at fod mor arwyddocaol ag y mae rhai'n ei awgrymu.

Yn un peth, nid yw pobl - gan gynnwys Pabyddion eu hunain - yn tueddu i ddilyn cyngor yr eglwys ynghylch materion economaidd a'r amgylchedd. Mae'r eglwys, er ei holl ffaeleddau, wedi bod yn gymharol flaengar ynghylch pethau felly ers rhai degawdau - mwy felly na'r rhan fwyaf o'i haelodau ar lawr gwlad - ond go brin bod hynny wedi cael unrhyw effaith.

Mewn ffordd, mae hynny'n gyfiawn. O ystyried statws yr eglwys fel y cartel gwarchod pedoffeiliaid gwaethaf a welodd y byd erioed, nid oes ganddi unrhyw hygrededd moesol ar ôl mewn gwirionedd. Ni ddylai pobl wrando arni. Yn anffodus, fodd bynnag, pery'r eglwys yn ddylanwadol mewn rhai meysydd cymdeithasol. Yn arbennig felly, wrth gwrs, yn achos atalgenhedlu ac erthylu, dau beth y mae'r eglwys yn ei wahardd yn chwyrn.

Nid mater moesol yn unig mo hawl menywod i reoli'u cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Mae'n fater ymarferol hefyd yng nghyd-destun yr amgylchedd. Dau ffactor allweddol sy'n cyfrannu'n helaeth at ddirywiad ein byd yw gorboblogaeth a thlodi. Mae'n amhosibl datrys y ddwy broblem honno heb sicrhau bod gan bob menyw'r hawl a'r gallu i ddefnyddio dulliau atgenhedlu, gan gynnwys erthyliad. Dyna'r man cychwyn. Ond ategu ei wrthwynebiad i'r ateb hwnnw a wna'r Pab yn ei gylchlythyr, wrth gwrs, gan danseilio'r gweddill yn llwyr. Mae popeth arall yn amherthnasol heb y cam amlwg a hanfodol yma.

Gwn mai ofer yw disgwyl i'r Pab gefnogi dosbarthu condoms a chaniatáu erthylu ledled y trydydd byd; mae gyfystyr â disgwyl iddo roi'r gorau i fod yn Babydd. Ond dyna'n union sydd raid iddo'i wneud er mwyn i mi ystyried ei gymryd o ddifrif.

02/06/2013

Araith Iolo Williams

Dyma araith danbaid ac emosiynol gan y naturiaethwr Iolo Williams. Mae'n werth gwrando ar yr hyn sydd ganddo i'w ddweud am bolisïau amgylcheddol a chadwraethol, y gorffennol a'r presennol.


Mae'n anffodus iddo benderfynu siarad yn Saesneg am reswm mor wantan: rhag ofn iddo gael ei "gamddehongli". Mae hynny'n sarhaus iawn i'r cyfieithwyr, a dweud y lleiaf.  Er hynny, mae'r araith yn un bwysig. Mae'n siwr mai Iolo yw naturiaethwr amlycaf Cymru, ac os mai dyma sut y mae'n teimlo am yr hyn sy'n digwydd yn ein hardaloeddd gwledig, dylai pawb dalu sylw.

09/03/2012

Dylid gwahardd llusernau awyr

Nid oes gan y cofnod yma unrhyw beth i'w wneud â chrefydd, na siwdo-wyddoniaeth o ran hynny, ond mae'n ymwneud ag arferiad dwl ac anghyfrifol sy'n cynyddu mewn poblogrwydd ac yn fy ngwneud yn flin.

Yr hyn sydd gennyf mewn golwg yw'r busnes yma o ryddhau cannoedd o ganhwyllau mewn bagiau papur i hedfan i ffwrdd gyda'r gwynt. Mae'n debyg bod pobl yn ei ystyried fel ffordd dda o ddathlu pethau.

Mae'n anodd deall y peth. A yw pobl yn credu bod y pethau yma'n diflannu unwaith y maent allan o'r golwg? Petai rhywun yn gadael llond lle o bapur, gwifrau metel a chanhwyllau ar ochr y ffordd byddai disgwyl iddynt gael eu harestio oherwydd byddai'n achos ddifrifol o daflu sbwriel. Am rhyw reswm, fodd bynnag, mae gadael iddynt hedfan am filltiroedd i bob cyfeiriad - gyda fflamau noeth, mewn difrif - yn dderbyniol.

Mae synnwyr yn dweud bod popeth sy'n codi'n gorfod syrthio. Mae'r sbwriel yma'n achosi pob math o drafferth, mewn sawl fordd. Mae ffermwyr yn enwedig yn eu hystyried yn bla llwyr. Mae'r erthygl yna'n trafod un ffermwr sydd wedi gweld wyth o'i wartheg yn marw'n boenus ar ôl llyncu'r gwifrau metel sy'n dal y llusernau yma at ei gilydd. Yn ogystal, maent yn creu niwed difrifol i beiriannau amaethyddol.

Mae'n wir bod llawer o'r fersiynau mwy diweddar yn tueddu i ddefnyddio bambŵ neu wlân yn lle metel, ond wrth reswm nid yw hynny'n newid dim ar y perygl anferth bod y pethau yma'n gallu cynnau tân. Nid da byw yn unig sydd o dan fygythiad: mae'n hysbys bod llusernau awyr wedi achos nifer o dannau mawr gan roi bywydau pobl mewn perygl. Mae'n bosibl hefyd eich bod yn cofio'r stori yma.

Maent hyd yn oed yn creu helynt a dryswch mawr i beilotiaid awyrennau.

Mae'r holl beth yn gwbl wallgof, ac mae'n sicr yn enghraifft o lol afresymegol sydd angen ei waredu. Mae rhai gwledydd wedi'u gwahardd yn llwyr, a dylid gwneud yr un peth fan hyn hefyd.

Llith drosodd.

27/09/2011

Heddwch i lwch Wangari Maathai


Bu farw Wangari Maathai o Kenya - gwyddonydd, gwleidydd ac ymgyrchydd o blaid democratiaeth, amgylcheddaeth, datblygu cynaladwy a ffeminyddiaeth - ddydd Sul yn 71 oed. Yn ogystal ag ysgrif coffa y New York Times, mae'r darn yma o'r Economist o 2006 yn werth ei ddarllen hefyd.

Nid oes dwywaith yn fy marn i ei bod hi'n arwres. Roedd hi'n un o arloeswyr ecoffeminyddiaeth, sef y syniad bod amgylcheddaeth a'r frwydr dros hawliau i ferched fwy neu lai'r un peth, gan fod natur a merched ill dwy yn dioddef o dan ormes cymdeithas batriarchaidd. Afraid dweud nad yw'r syniadaeth honno'n un sy'n plesio llywodraethau dwyrain Affrica fel rheol. Er hynny, fe dreuliodd Maathau'r degawdau diwethaf yn ymgyrchu a'n gweithredu'n ddi-flino er mwyn gwarchod yr amgylchedd a sicrhau urddas i ferched, yn aml gyda syniadau syml fel rhoi arian i fenywod tlawd i blannu coed. Gwnaeth hyn i gyd er iddi gael ei herlyn gan yr awdurdodau (a'r cyn-arlywydd Daniel Arap Moi yn enwedig) ar sawl achlysur.

Hi hefyd oedd y ddynes gyntaf o ddwyrain Affrica i ennill PhD, ac yn 2004 fe enillodd Wobr Heddwch Nobel yn haeddiannol iawn.

Rwy'n credu mai'r stori ganlynol sy'n dangos ei chymeriad a'i chymhelliad orau. Mae'n debyg nad oedd ei cyn-wr, Mwangi Mathai, yn or-hoff o'r ffaith ei bod yn mynnu bod yn lletchwith trwy wneud pethau mor ofnadwy â meddwl drosti ei hun. Yn 1977 fe fynnodd hwnnw ysgariad, ac fe gafodd ei ddymuniad yn y llys. Cafodd ei bychanu'n ddifrifol yn ystod yr achos, ac fe'i gorchmynwyd i ollwng cyfenw'i gwr. Fel safiad, y cyfan a wnaeth oedd ychwanegu "a". Hefyd, fe alwodd y barnwr yn dwp a llwgr. Er bod hynny'n sicr yn wir (neu'n hytrach, oherwydd), fe'i carcharwyd am feiddio bod mor ewn.

Yn hytrach na phwdu a chilio, fodd bynnag, y cyfan a wnaeth y profiad yma oedd ei gwneud yn fwy penderfynol. Yn wir, aeth ati fwy neu lai'n syth i sefydlu'r Green Belt Movement, sef ei llwyddiant pennaf ac sydd bellach wedi'i efelychu ledled dwyrain Affrica. Aeth Maathai o nerth i nerth ar ôl hynny. Efallai, mewn rhyw ffordd od, mai i Mwangi Mathai, ei choc oen o gyn-wr, mae'r diolch am greu ymgyrchydd mor wydn a di-gyfaddawd ohoni.

Yr unig farc du yn ei herbyn hyd y gwn i yw sylwadau digon amheus o'i heiddo'n awgrymu pethau dwl am AIDS. Serch hynny, mae'n amhosibl peidio ei hedmygu'n fawr am yr hyn a gyflawnodd felly mae'n rhaid i mi faddau iddi am hynny.