Showing posts with label hawliau sifil. Show all posts
Showing posts with label hawliau sifil. Show all posts

20/02/2019

Shamima Begum

Mae'r cwestiwn ynghylch beth i'w wneud â Shamima Begum yn un digon dyrys. Roedd teithio i Syria er mwyn ymuno â'r Wladwriaeth Islamaidd yn beth twp ac ofnadwy i'w wneud, pymtheg oed neu beidio. Fe ddylai fod rhyw fath o oblygiadau cyfreithiol i hynny. Ond beth bynnag yw'r union ateb i'r cwestiwn, dylai adlewyrchu'r ffaith mai plentyn oedd hi ar y pryd. Cael ei brainwasho er mwyn i ddyn tipyn hŷn na hi gael manteisio arni'n rhywiol wnaeth hi yn y pen draw.

Yr un peth sy'n gwbl sicr yw na ddylai fod wedi colli ei dinasyddiaeth Brydeinig. Mae'r penderfyniad wir wedi fy nychryn. Prydeines yw hi, wedi'i geni a'i magu yn Lloegr. Nid oes ganddi ddinasyddiaeth Bangladeshi, nac unrhyw wlad arall, felly mae hyn wedi'i gadael yn gwbl ddi-wladwriaeth.

Nid oes modd gorbwysleisio pa mor frawychus yw'r cynsail sy'n cael ei osod wrth ddiddymu dinasyddiaeth Prydeinwyr fel hyn. Ni ddylai dinasyddiaeth ("yr hawl i gael hawliau", chwedl Hannah Arendt) fod yn amodol, o dan unrhyw amgylchiadau. Mae hynny'n enwedig o wir pan mae rheswm i bryderu bod y ffaith bod rhieni Begum o wlad arall yn wreiddiol wedi bod yn ffactor yn y penderfyniad. Mewn difrif, a fyddai hyn wedi digwydd i rywun fel fi petawn i, am ba bynnag, reswm, wedi gwneud yr un peth â hi? Dyma greu dau gategori o ddinesydd, i bob pwrpas. Ni ddylai unrhyw un orfod byw â'r pryder bod modd i'w gwlad eu hamddifadu o bob hawl sydd ganddynt yn y byd, boed hynny ar sail hil, ideoleg neu weithred, ond dyna'n union mae Sajid Javid newydd ei wneud.

Prydain yw gwlad Shamima Begum. Nid cyfrifoldeb unrhyw wlad arall mohoni. Os gwir y syniad y byddai Begum yn fygythiad i'r cyhoedd petai'n cael rhwydd hynt i ddychwelyd adref a cherdded strydoedd Prydain, yna cyfrifoldeb Prydain yw delio â hynny. Mae'n anfoesol i Brydain ddisgwyl i wlad arall, nad oes ganddi unrhyw gysylltiad â Begum, ysgwyddo'r baich. Yn hytrach na pharchu cyfraith a threfn a hawliau dynol, fel mae Prydain yn honni gwneud, mae ei llywodraeth newydd ymwrthod â'r gwerthoedd hynny yn y modd mwyaf llwfr.

Y gwir yw mai stynt gan Ysgrifennydd Cartref â'i fryd ar ddyrchafiad yw hyn. Mae'r ffaith bod cefnogwyr plaid lywodraethol y Deyrnas Gyfunol yn debygol o fod yn hapus â'i benderfyniad yn adrodd cyfrolau am yr hinsawdd wleidyddol hyll sydd ohoni.

06/08/2018

Sylwadau Boris Johnson am y gorchudd islamaidd

Rwyf wedi esbonio fy marn am y nicáb a'r bwrca o'r blaen, felly gwnaiff grynodeb sydyn y tro: nid wyf yn eu hoffi, mae'r rhesymeg crefyddol sy'n eu cyfiawnhau yn ffiaidd, ond ni ddylid eu gwahardd oherwydd rwy'n credu'n gryf na ddylai'r wladwriaeth ddeddfu ynghylch yr hyn sy'n dderbyniol i'w dinasyddion eu gwisgo. O'r herwydd, rwy'n gwrthwynebu penderfyniad diweddar Denmarc i anghyfreithloni eu gwisgo. Mae'r ffaith bod llai na 200 o Ddaniaid yn gwisgo'r gorchudd, o boblogaeth o 5,780,000, yn awgrymu'n gryf mai 'datrysiad' i broblem nad yw'n bodoli mewn gwirionedd yw'r gwaharddiad.

Yn anffodus, mae Boris Johnson yn cytuno â mi, ac er bod sylwedd ei ddadl yn berffaith gywir, roedd rhaid iddo'i mynegi yn y modd mwyaf ymfflamychol a gwrth-gynhyrchiol posibl.

Johnson, yn drychinebus, yw prif weinidog tebygol nesaf y Deyrnas Gyfunol, felly roedd cymharu'r gorchudd islamaidd â blwch llythyrau'n anghyfrifol o ymfflamychol. Mae Johnson yn ddyn afiach ym mhob ffordd, ond nid yw mor dwp â hynny, felly mae'r ffaith ei fod yn amlwg yn credu bod defnyddio iaith fel hyn yn mynd i fod o gymorth gwleidyddol iddo'n adrodd cyfrolau digalon am yr oes sydd ohoni.

Mae rhagfarn amrwd yn erbyn mwslemiaid yn dod yn fwy cyffredin yn ein bywyd cyhoeddus, ac mae sylwadau Johnson yn amlwg yn symptom o hynny. Yr hyn sy'n rhyfeddol am stori'r person cyntaf yn Nenmarc i gael dirwy am wisgo nicáb yw mai'r rheswm iddi ddenu sylw'r heddlu yn y lle cyntaf oedd bod aelod arall o'r cyhoedd wedi ceisio rhwygo'r gorchudd oddi arni. Mewn geiriau eraill, cafodd ei chosbi am ddioddef ymosodiad. Mae hynny'n dryllio'r syniad mai ymdrech ffeminyddol i amddiffyn menywod rhag orchmynion patriarchaidd yw'r gwaharddiad. Mae'n bur amlwg mai rhagfarn sydd ar waith, a hyd yn oed wrth ddatgan ei wrthwynebiad i'r gyfraith, greddf Boris Johnson yw ei chael hi'r ddwy ffordd a manteisio ar yr union ragfarn sy'n sail iddi wrth wneud. Dyna grynodeb perffaith o arddull gwleidyddol digywilydd ac anegwyddorol y dyn.

22/07/2018

Pwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol

Un o'r cwynion pennaf am Leanne Wood, sy'n wynebu her ffurfiol i'w harweinyddiaeth ar hyn o bryd, yw ei bod yn treulio gormod o amser yn hyrwyddo 'niche issues'. Hynny yw, materion cymdeithasol megis hawliau menywod a lleiafrifoedd ethnig a rhywiol. Efallai bod modd dadlau, ar sail pragmatiaeth, bod y diffyg sylw a roddir i Blaid Cymru ar lefel Brydeinig yn golygu bod angen dewis un neges graidd a hyrwyddo honno, ar draul popeth arall, bob cyfle. Ond yr awgrym yn y geiriau anffodus uchod yw nad yw cyfiawnder cymdeithasol yn bwysig mewn gwirionedd.

Y pwynt amlwg cyntaf i'w nodi yw bod llawer o elynion Plaid Cymru'n teimlo'n gryf bod yr iaith Gymraeg ymysg y pethau hynny nad ydynt yn bwysig. Ond beth yw hawliau ieithyddol y Cymry os nad mater o gyfiawnder cymdeithasol? Go brin bod yna lawer o aelodau Plaid Cymru sy'n teimlo mai 'niche issue' yw'r iaith Gymraeg, ond dyna ni. Mae hynny'n wahanol, am resymau dirgel.

Oes angen ennill annibyniaeth cyn gallu canolbwyntio ar sut le fydd y Gymru annibynnol honno?  Rwy'n gallu deall dyhead pobl i geisio apelio i bawb. Mae pob mudiad gwleidyddol yn awyddus i ddenu cymaint o bobl ag sy'n bosibl, wedi'r cyfan, a'r ddadl bragmataidd, fe honnir, yw bod angen i union wleidyddiaeth y Gymru rydd aros yn amwys nes iddi gael ei gwireddu. Ond pa mor ymarferol yw hynny mewn gwirionedd? Er mwyn i ddigon o bobl ddeisyfu Cymru annibynnol, mae angen cydio yn eu dychymyg, ac er mwyn gwneud hynny mae angen dangos, cyn dechrau, sut yn union fyddai pethau'n newid yn eu bwydau pob dydd. Mantais arall yw ei fod yn fodd o wrth-ddweud yr ystrydeb diog a syrffedus am genedlaetholwyr fel pobl gul ac adweithiol.

Mae'r ddadl ynghylch blaenoriaethu cyfiawnder cymdeithasol yn gyffredin iawn mewn amryw o fudiadau. Rwyf wedi trafod, hyd syrffed bron, sut y mae'r un ffrae yn union wedi hollti'r mudiad anffyddiaeth. Siom oedd gweld cynifer o anffyddwyr amlwg yn mynegi dirmyg tuag at y 'social justice warriors', gan fynnu mai'r cyfan yw anffyddiaeth yw 'diffyg ffydd mewn duw' a dim byd mwy. Ond os mai dyna'n unig yw anffyddiaeth, faint o bwynt sydd iddi? Nid yw'n gwneud synnwyr i wrthwynebu crefydd heb hefyd gywiro'r anghyfiawnderau a gafodd gymaint o gefnogaeth ganddi ar hyd y blynyddoedd.

Felly hefyd am Gymru annibynnol. Rhaid egluro'n union sut y bydd yn rhagori ar y Deyrnas Unedig a'i holl anghyfiawnderau hithau. Yn union fel nad oes modd gwahanu cyfiawnder cymdeithasol oddi wrth anffyddiaeth, rhaid iddo ddod law yn llaw â Chymru rydd yn ogystal.

01/03/2018

Ein dyfodol dystopaidd

Rwy'n argyhoeddedig erbyn hyn bod y dyfodol yn wirioneddol dywyll. Gyda phob difrifoldeb, rwy'n dechrau teimlo ein bod yn llithro tuag at ddystopia totalitaraidd, a hynny o fewn f'oes fy hun. Mae democratiaeth ar drai ymhob man, ac nid oes rheswm i dybio nad parhau i waethygu fydd pethau.

Un o brif hanfodion cymdeithas sifig iach yw'r syniad bod pawb sy'n byw ynddi'n rhannu'r un fersiwn o realiti (i raddau, o leiaf). Heb hynny, mae trafodaeth adeiladol yn amhosibl, ac mae awdurdod sefydliadau cyhoeddus yn dadfeilio. Pan ddyfeisiwyd y rhyngrwyd, y disgwyl oedd y byddai'n arwain at boblogaeth hynod wybodus, gyda holl ffeithiau'r byd ar flaen ei bysedd. Wrth gwrs, mae holl ffeithiau'r byd ar flaen ein bysedd, ond fel y gwyddom bellach, y broblem yw bod llond byd o lol yn cystadlu am sylw hefyd.

Yn groes i'r disgwyl, mae technoleg a'r we yn bygwth y syniad o realiti y mae modd i ni gyd gytuno arno. Mae'n hawdd canfod gwybodaeth gywir a defnyddiol ar y we, ond mae'r un mor hawdd canfod a chreu nonsens. Yn hytrach na chryfhau'r syniad o realiti gwrthrychol, tuedd pobl yw creu eu swigod epistemolegol eu hunain. Dyma dir ffrwythlon ar gyfer theorïau cynllwyn. Nid ffenomen newydd mo hyn, wrth reswm; mae'r reddf i anwybyddu safbwyntiau neu ffeithiau anghyfleus wedi bodoli erioed, ac mae'n dod yn amlycach pan mae carfannau sylweddol o bobl yn dechrau teimlo eu bod yn cael eu 'gadael ar ôl' diolch i anghydraddoldeb rhemp. Ond mae'r we wedi gwneud y broses yn llawer haws a llawer iawn mwy niweidiol (ac am barhau i wneud hynny).

Nid oes digon o sylw'n cael ei roi i'r ffaith frawychus ein bod yn agos iawn iawn at y pwynt lle bydd yn hawdd creu fideos ffug ond argyhoeddiadol o unrhyw berson yn dweud neu wneud unrhyw beth o dan haul. Bydd canlyniadau hyn yn bellgyrhaeddol a thrychinebus: erbyn etholiad arlywyddol nesaf America yn 2020, mae perygl na fydd yn bosibl credu unrhyw glip fideo. Bydd fideos ffug yn drysu pawb, a bydd clipiau go iawn, o bwys, yn cael eu cyhuddo o fod yn ffug (mae'r broses yma eisoes wedi dechrau; mae Donald Trump bellach yn honni nad ei lais ef sydd yn y fideo Access Hollywood lle cafodd ei recordio'n disgrifio'i ddulliau camdrin menywod). Nid oes modd gorbwysleisio'r niwed bydd hyn yn ei achosi. Yr unig ganlyniad posibl fydd dadfeilio pellach y sffêr gyhoeddus.

Canlyniad anochel hynny, yn ei dro, fydd mwy a mwy o awtocratiaeth. Mae awtocratiaeth yn ffynnu pan mae popeth yn edrych yn llanast, gan mai'r demtasiwn yw chwilio am arweinydd newydd anghonfensiynol a gwrthsefydliadol i roi 'trefn' ar bethau (er mai mwy fyth o lanast sy'n dilyn hynny fel arfer). Mae hynny ynddo'i hun yn hen ddigon o reswm i fod yn nerfus, ond ar y cyd â'r dechnoleg sydd am gael ei datblygu dros y degawdau nesaf, dylai godi ofn gwirioneddol arnom.

Rydym yn clywed llawer am geir fydd yn gyrru'u hunain, a dronau Amazon fydd yn cludo parseli'n awtomatig, ond nid oes digon o sôn am ddibenion militaraidd y math yma o dechnoleg. O safbwynt milwrol, byddai'r manteision yn amlwg. Bydd galw mawr amdano hefyd. Ystyrier, er enghraifft, y ffaith bod dronau am barhau i wella a'u pris am ostwng; nid yw'n anodd dychmygu terfysgwyr yn manteisio arnynt yn y blynyddoedd i ddod. Yr ateb 'amlwg' i'r broblem honno gan ein llywodraethau fydd dronau gwrth-ddronau'n plismona'r awyr.

Mae'n anodd peidio gwenu wrth wylio clipiau o robotiaid yn agor drysau a chwarae pêl-droed a gwneud backflips. Ond ar ôl ychydig eiliadau, mae fy meddwl yn dychwelyd at y ffaith mai prif ddefnyddwyr y dechnoleg yma yn y pen draw fydd ein byddinoedd a gwasanaethau 'diogelwch'. Bron heb i ni sylwi, bydd y byd o'n cwmpas yn dechrau efelychu ffilm wyddonias ddystopaidd, gyda pheiriannau awtomatig arfog ar batrol ymhob man.

Ar yr un pryd, mae technoleg eisoes yn adnabod ein gwynebau'n awtomatig a galluogi gwladwriaethau i gadw golwg ar ein holl weithgareddau. Mae system sinistr eisoes yn cael ei gosod yn China. Nid cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith mai gwladwriaeth dotalitaraidd sy'n arloesi yn hynny o beth, ond ni fydd yn cymryd llawer o amser i'n llywodraethau ninnau chwennych tegannau tebyg.

Mae grymoedd gwrth-ddemocrataidd felly am fod yn magu stêm ar yr union adeg pan mae technoleg ar fin ei gwneud yn haws nag erioed i gyfundrefnau awtocratig ein rheoli. Rwy'n aml wedi beirniadu paranoia ar y blog yma, ac mae'n bosibl fy mod yn euog o'r un peth. Bydd raid i chi faddau i mi a chaniatáu'r un chwiw yma. Ond bob tro rwy'n meddwl am y pwnc hwn, rwy'n mynd yn llai a llai gobeithiol. Efallai bod y darlun uchod yn eithafol, ond erbyn hyn rwyf fwy neu lai'n sicr mai dyma lwybr y degawdau nesaf, o leiaf yn rhannol.

25/08/2016

Plismyn dillad Ffrainc

Mae'r ideoleg crefyddol sy'n cyfiawnhau'r gorchudd islamaidd yn annifyr dros ben. Ond dylai pawb ddychryn o weld plismyn arfog yn gorchymyn dynes i ddadwisgo ar draeth yn ne Ffrainc. Mae hyn yn dangos yn gliriach na dim arall bod angen dybryd i'r Ffrancwyr ail-ystyried eu diffiniad idiosyncratig o seciwlariaeth, neu laïcité. Rwy'n seciwlarydd rhonc, ond mae'r ddelwedd yna wedi codi braw gwirioneddol arnaf.

Cafodd y ddynes ei dirwyo am beidio dangos digon o gnawd (nid oedd yn gwisgo burkini, er mai dyna prif darged y gwaharddiad). Yr esboniad a gafodd oedd nad oedd ei dewis o ddillad yn 'parchu moesoldeb da'. Mae hynny'n frawychus o amwys a goddrychol, ond yn waeth na hynny mae'n swnio fel y math o gyhuddiad a wneir gan heddlu crefyddol Sawdi Arabia. Sylwch, gyda llaw, bod y plismyn hwythau wedi'u gorchuddio i'r un graddau. Un rheol i'r dynion, ac ati.

Fel mae'n digwydd, mae'r burkini'n cynyddu mewn poblogrwydd, ac nid dim ond gan fwslemiaid y daw'r galw. Am wn i, gall fod yn ffordd ddefnyddiol o fwynhau traethau heb boeni cymaint am effeithiau pelydrau'r haul. Bydd yn ddiddorol gweld a ddaw dydd pan fydd mwyafrif y bobl sy'n ei wisgo'n gwneud hynny am resymau amgenach na chrefydd. Go brin y byddai'r gwaharddiad yn gynaliadwy wedyn. Dengys hyn pa mor fympwyol yw'r cyfan.

Heb sôn am fod yn erchyll, rhaid gofyn sut yn y byd mae'r Ffrancwyr yn dychmygu bydd hyn o fudd. Dyma'r ffordd berffaith o ddangos eu bod yn defnyddio grym y wladwriaeth er mwyn targedu ac erlyn mwslemiaid yn benodol. Beth bynnag eich barn am grefydd sy'n mynnu bod angen i fenywod orchuddio'u cnawd rhag ofn i bob dyn yn y cyffuniau ei threisio yn y fan a'r lle, mae'r gwaharddiad yma'n beryglus o wrth-gynhyrchiol a thwp.

Dyma'r peth gorau rwyf wedi'i ddarllen am y pwnc, gyda llaw.

05/02/2015

Cywirdeb gwleidyddol a rhyddid mynegiant

Dywedais yn ddiweddar fy mod yn greadur digon 'gwleidyddol gywir' ar y cyfan. Rwyf wedi bod yn meddwl llawer am hyn yn y cyfamser, yn enwedig gan fod cryn ddadlau wedi bod yn ddiweddar yn dilyn cyhoeddi'r erthygl hon gan Jonathan Chait, lle mae'r awdur yn cwyno am 'gywirdeb gwleidyddol', gan ddadlau ei fod yn arwain at sensoriaeth.

Rhestra Chait nifer o achosion sydd, yn ei dyb ef, yn dangos rhyddid mynegiant yn cael ei lyffetheirio. Mae rhai o'r cyhudddiadau'n deg; yn amlwg, ni ddylid bygwth pobl, ymosod arnynt, na dinistrio eiddo. Mae eraill yn annheg.

Prif broblem yr ysgrif, yn fy nhyb i, yw'r dybiaeth bod cywirdeb gwleidyddol yn ffenomen sy'n nodweddu'r chwith wleidyddol, gyda'i phwyslais ar gyfiawnder cymdeithasol, yn unig. Dewisa Chait ganolbwyntio ar gampysau prifysgolion, gan bryderu bod America wedi magu cenhedlaeth o sensoriaid gor-sensitif o'r chwith sy'n gormesu pawb nad ydynt yn atddel yr orthodocsi ynghylch cyfiawnder cymdeithasol. Y gwir, wrth gwrs, yw nad yw hyn yn ffenomen newydd o gwbl, a bod y dde lawn mor 'euog' o'r un hen beth. Mae gwrthwynebwyr erthyliad, er enghraifft, yn defnyddio'r un tactegau'n union (ac mae llawer ohonynt yn fwy ymosodol o lawer na'r enghreifftiau a restra Chait).

Mae pawb - pob un ohonom, yn ddi-eithriad - yn 'wleidyddol gywir' yn ein ffyrdd ein hunain. Beth yw cywirdeb gwleidyddol, wedi'r cyfan? Yn y pen draw, dyma'r syniad bod rhai labelau neu safbwyntiau yn 'annerbyniol', er enghraifft oherwydd eu bod yn sarhus. Tros y degawdau diwethaf mae lled-gonsensws wedi datblygu yn ein cymdeithas bod defnyddio epithetau hiliol, homoffobig neu rywiaethol yn arferiad drwg. Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod hyn yn ddatblygiad iach.  Dyna esiampl glasurol o'r math o beth sy'n neidio i'r meddwl wrth i ni feddwl am gywirdeb gwleidyddol, oherwydd cysylltir y cysyniad fel arfer ag ymdrechion i warchod carfannau llai grymus ein cymdeithas.

Sylwer, gyda llaw, nad mater i'r gyfraith yw hyn. Mae'n wir bod 'cyfreithiau casineb' yn bodoli, ond rwy'n eu gwrthwynebu'n chwyrn. Y cyfan sydd ei angen yw i'r defnydd aneironig o'r fath dermau fod yn dabŵ. Nid yw condemnio'r defnydd o air hiliol yn tarfu ar ryddid mynegiant y siaradwr o gwbl. Mae hyn yn allweddol: os dywedaf 'na ddylech' ddweud rhywbeth, nid wyf yn arddel eich gwahardd rhag dweud hynny. Modd o fynegi anghytundeb ydyw, dyna i gyd.

Dychwelwn at y pwynt: ceir tabŵs ynghylch pob math o bynciau, gan gynnwys llawn cymaint sy'n annwyl i'r dde ag sydd i'r chwith. Er enghraifft, ydych chi'n cofio'r ffwdan yn America ar ôl i'r Dixie Chicks feirniadu'r rhyfel yn Irác? Fe'u hesgymunwyd, i bob pwrpas. Beth oedd hynny os nad 'cywirdeb gwleidyddol' ar waith? Mae'n 'wleidyddol anghywir' i ddweud unrhyw beth angharedig am y fyddin, boed yn America neu ym Mhrydain. Mae'r un peth yn wir am y frenhiniaeth, i'r graddau bod clywed gwleidydd yn cyfeirio at Elizabeth II fel 'Mrs Windsor' yn destun sioc. Cywirdeb gwleidyddol hefyd sy'n golygu bod crefydd yn parhau i dderbyn parch anhaeddiannol. Yn y Gymru Gymraeg, rydym yn cynhyrfu'n lân pan mae rhywun hanner-enwog yn dweud rhywbeth dwl am ein hiaith, a'r gwrthwyneb sy'n wir os yw Cymro amlwg yn tynnu sylw at yr hyn sy'n ei bygwth, megis y mewnlifiad. Enghraifft waeth o lawer yw'r math o ymateb lloerig sy'n wynebu ffeminyddion ar y we. Ie, adwaith yn erbyn cywirdeb gwleidyddol ffeminyddol ydyw, ond math o gywirdeb gwleidyddol adweithiol yw hyn hefyd yn ei dro. Bygythiadau a phoenydio yw hoff dactegau llawer o'r misogynistiaid hyn, ac mae hynny'n haeddu sylw gan yr heddlu. Ond y pwynt yw bod pawb yn ystyried rhai mathau o safbwyntiau'n gwbl wrthun.

Felly, pan glywch bobl yn cwyno am 'gywirdeb gwleidyddol y chwith', y cyfan y maent yn cyfeirio ato mewn gwirionedd yw math penodol o gywirdeb gwleidyddol y maent yn digwydd anghytuno ag ef. Mae'r union bobl hynny'n coleddu cywirdeb gwleidyddol gwahanol eu hunain (a'n cwyno pan mae rhywun yn torri eu hoff dabŵs hwythau). Nid cywirdeb gwleidyddol y maent yn galw'u fersiynau eu hunain, wrth gwrs, ond nid oes gwahaniaeth ymarferol. Ystyr 'cywirdeb gwleidyddol', yn hynny o beth, yw 'pan mai'r ochr arall sydd wrthi'.

Mae Chait yn amlygu'r pwynt yn berffaith trwy fod yn euog o ragrith yn ei ysgrif. Cyfeiria at achos lle cafodd myfyriwr o leiafrif ethnig ei ddiswyddo o bapur newydd prifysgol am ddychanu 'culture of taking offense that pervades the campus'. I Chait, mae hyn yn bygwth rhyddid mynegiant. Beth bynnag eich barn am hynny, y ffaith yw bod Chait ei hun, yn 2009, wedi galw am ddiswyddo newyddiadurwr am ddweud rhywbeth nad oedd yn ei hoffi. Digon pitw oedd y rheswm, hefyd. Ond mae hynny'n wahanol, am wn i, am resymau dirgel.

Fe welwch ragrith yn aml iawn pan mae pobl yn cwyno am gywirdeb gwleidyddol, felly. Ond rhown y safonau dwbl i'r naill ochr am eiliad. A yw galw am ddiswyddo newyddiadurwr am fynegi safbwynt 'annerbyniol' yn niweidio rhyddid mynegiant? Yr ateb plaenaf yw 'na'. Wedi'r cyfan, mae'r weithred o alw am y diswyddiad yn enghraifft o fynegiant barn ynddo'i hun (cyn belled nas defnyddir trais, wrth gwrs). Nid oes raid i'r papur dalu sylw. Os oes boicot o'r papur, mynegiant o farn yw hynny hefyd. O safbwynt y papur, nid oes dyletswydd arnynt i ddarparu platfform. Ystyr rhyddid mynegiant yw'r hawl i ddweud eich dweud heb boeni am gael eich niweidio neu eich harestio; nid yw'n golygu bod cyfrifoldeb ar bobl eraill i roi llwyfan i chi, nac i wrando arnoch (mae troliaid ar y we yn enwog am eu hanallu i amgyffred y pwynt syml yma). Celwydd llwyr yw'r awgrym bod tactegau fel hyn yn unigryw i'r chwith.

Cwestiwn arall yw doethineb y dacteg yn gyffredinol. Yn gyffredinol, fy marn yw mai'r ateb gorau i farn hyll neu dwp yw defnyddio ein rhyddid mynegiant ein hunain drachefn er mwyn condemnio. Byddai galw am ddiswyddo pob newyddiadurwr sy'n anghytuno â ni'n arwain at fyd lle mae pawb yn byw mewn siambr eco, lle nad yw unrhyw un yn dod ar draws barn wahanol i'r hyn y maent eisoes yn ei harddel. Mae gwerth i amrywiaeth barn. Ond nid mater o ryddid mynegiant yw hyn o gwbl.

Mae'r un peth yn wir yn achos atal gwahoddiadau i draddodi darlithiau, fel (fel y dywed Chait) sydd wedi digwydd yn ddiweddar i Bill Maher, Christine Lagarde, Ayaan Hirsi Ali a Condoleezza Rice, yn dilyn protestiadau gan fyfyrwyr. Fel rheol, unwaith mae siaradwr wedi derbyn gwahoddiad i ddod i siarad, fy nheimlad personol yw ei bod yn anghwrtais a dryslyd i dynnu'r gwahoddiad yn ôl (hyd yn oed yn achos Rice, sy'n derbyn symiau anferthol o arian am wneud y pethau yma, er ei bod nesaf peth at fod yn droseddwraig rhyfel). Ond rwy'n credu bod cwestiynu doethineb y gwahoddiad yn y lle cyntaf yn berffaith resymol. Beth bynnag, fel yn achos y paragraff blaenorol, nid mater o ryddid mynegiant mo hyn y naill ffordd na'r llall.

Nid yw'r cyhuddiad o gywirdeb gwleidyddol yn arbennig o ystyrlon, felly. Gorchest y dde wleidyddol yn y 90au cynnar oedd bathu'r ymadrodd, ei gysylltu'n benodol a daliadau llawer ar y chwith, a'i bortreadu fel cysyniad newydd eithriadol o niweidiol. Bu'r celwydd hwnnw'n lwyddiant mawr. Ffordd ddiog ydyw, yn y bôn, o golbio pobl sy'n anghytuno â chi. Mae pawb yn wleidyddol gywir. Ac os yw'n wir am bawb, nid oes pwrpas defnyddiol i'r label.

Rhof y gair olaf i Stewart Lee:

15/01/2015

Yr ymateb i gyflafan Charlie Hebdo

Mae wythnos wedi mynd heibio, bellach, ers yr ymosodiad ofnadwy ar swyddfa'r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo. Heddiw, aeth y rhifyn cyntaf ers y digwyddiad ar werth (gweler y clawr ar y dde). Yn fy marn i, mae'r cartŵn yn hyfryd a graslon ('maddeuir popeth', medd dyn mewn twrban). Ysywaeth, mae llawer o fwslemiaid wedi gwylltio eto o'i herwydd.

Ymateb rhai o'm cyd-ryddfrydwyr yw testun y blogiad hwn, fodd bynnag. Rwyf wedi fy siomi'n arw gan rai blogwyr rwy'n eu hoffi. Mae'r drafodaeth yn ystod yr wythnos wedi fy nigaloni'n lân, a bod yn berffaith onest. Os rywbeth, rwy'n credu bod yr ymateb y tro hwn wedi bod hyd yn oed yn fwy camsyniol a llwfr nag ydoedd yn 2006 yn ystod helynt y cartwnau Jyllands-Posten.

Yn syth wedi'r digwyddiad, datblygodd yr hashnod #JeSuisCharlie fel modd o fynegi cefnogaeth i'r cylchgrawn. Yn fuan iawn wedi hynny, fodd bynnag, daeth yr adlach anochel gan ryddfrydwyr yn datgan #JeSuisNePasCharlie, gan gwyno bod y cylchgrawn yn hiliol, homoffobaidd, a misogynistaidd. Mae'r cyhuddiadau hyn, ar y cyfan, yn annheg ac anwybodus. Cyn egluro pam, fodd bynnag, hoffwn bwysleisio'r pwynt pwysicaf oll: pan mae rhywun wedi dioddef ymosodiad, neu hyd yn oed fygythiad, yn sgil rhywbeth maent wedi'i fynegi, dylai natur neu safon y gwaith o dan sylw fod yn hollol amherthnasol. Hyd yn oed petai'n wir bod Charlie Hebdo yn gyhoeddiad hiliol a rhagfarnllyd yn ei hanfod, ni ddylai hynny effeithio ar ein cefnogaeth yn dilyn digwyddiad fel hyn. Ystyrier cartwnau Jyllands-Posten; waeth i ni fod yn onest a chydnabod, bron ddegawd yn ddiweddarach, nad oeddent yn arbennig o dda na chlyfar. Ond pa ots? Yn syml iawn, pan mae rhyddid mynegiant yn cael ei fygwth fel hyn, yr unig ateb moesol yw cefnogaeth 100% i bwy bynnag sydd o dan y lach. Heb 'ond'.

Rwy'n cydnabod bod y gymhariaeth yn un sensitif, ond ystyrier achosion lle mae merch yn cyhuddo dyn o'i threisio. Rydym yn feirniadol iawn o unrhyw un sy'n mynnu siarad am ymddygiad y ferch - ei gwisg, faint o alcohol roedd hi wedi'i yfed, faint o ddiddordeb roedd wedi'i ddangos yn y dyn - ac mae hynny'n berffaith gyfiawn. Nid yw'r pethau hynny'n berthnasol i'r achos, ac effaith eu trafod yw awgrymu bod peth o'r cyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd yn gorffwys ar ei hysgwyddau hithau. Mae hynny'n wrthun; bai'r treisiwr ydyw a neb arall. Rhaid i mi fynnu bod rhywbeth tebyg yn wir yn achos cartwnau Charlie Hebdo. Beth bynnag eich barn am y cartwnau ar unrhyw adeg arall, mae eu beirniadu yng nghyd-destun ehangach ymosodiad fel hyn yn awgrymu bod rhaid iddynt dderbyn peth o'r bai am yr hyn maent wedi'i ddioddef. Efallai nad dyna'r bwriad, ond dyna, heb os, y neges a gyfleir. Fe'u targedwyd gan y terfysgwyr oherwydd bod y cartwnau'n 'annerbyniol'. Ymateb rhai rhyddfrydwyr oedd, wel, cytuno â'r rhesymeg. Mae hyn yn broblem anferth. Ategaf y pwynt: rhaid hepgor yr 'ond'. Dylid dechrau a gorffen gyda chondemnio'r ymosodiad; ni ddylai fod yn fodd o glirio'r llwnc cyn beirniadu'r dioddefwyr.

Er fy mod newydd ddadlau bod answdd y gwaith yn amherthnasol, rwyf am amddiffyn y cartwnau beth bynnag, oherwydd rwy'n digwydd credu bod Charlie Hebdo'n cael cam. Dechreuodd yr adlach gyda phobl ar Twitter yn rhannu lluniau o gloriau fel yr un ar y dde, heb gyd-destun. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys yn anghynnes: yr awgrym yw bod menywod sydd wedi dioddef diolch i Boko Haram ar fin heidio i Ffrainc er mwyn magu plant ar bwrs y wlad. Wrth gwrs, mewn gwirionedd mae'r cylchgrawn yn gwneud defnydd helaeth tu hwnt o eironi. Heb fynd i orfod o fanylder ynghylch cyd-destun y stori sy'n sail i'r clawr - digon yw eich cyfeirio at y dudalen Quora defnyddiol yma lle mae Ffrancwyr yn egluro beth sy'n mynd ymlaen - yr amcan yw gwatwar hiliaeth trwy fynd â'r rhesymeg i eithafion abswrd. Mae mwy o gartwnau wedi derbyn yr un feirniadaeth, ac mae'r gwrth-dadleuon yn debyg iawn yn yr achosion hynny hefyd.

Neidiodd llawer i'r casgliad bod y cylchgrawn yn un asgell-dde, hiliol, gwrth-fewnfudo. Y gwrthwyneb llwyr sy'n wir: mae Charlie Hebdo'n perthyn i'r chwith radical, sy'n gwrthwynebu hiliaeth yn chwyrn. Os rywbeth, eu prif darged yw'r Le Pens a'r Front National. Mae'n wir eu bod yn dychanu islam a'n cael hwyl gyda delweddau o'r proffwyd Mohamed, ond maent yn targedu pob crefydd yn yr un ffordd. A bod yn blaen, ymddengys yn debygol nad oedd y rhan fwyaf o'r bobl hunan-fodlon a fu'n condemnio delweddau fel yr uchod hyd yn oed wedi clywed am Charlie Hebdo cyn yr ymosodiad, heb sôn am ymgyfarwyddo â bydolwg golygyddol y cylchgrawn, ac â gwleidyddiaeth a diwylliant Ffrainc yn gyffredinol. Ar ben hyn i gyd, wrth gwrs, ysgrifennir y cylchgrawn yn Ffrangeg, ac mae hynny'n rwystr arall i ni, nad ydym yn rhugl yn yr iaith honno, ddeall y cyd-destun. Nid bod hynny wedi atal llu o ryddfrydwyr smýg rhag eu condemnio mewn chwinciad. Nid dadlau ydwyf bod y cartŵn uchod yn enghraifft ardderchog o'r grefft. Fy mhwynt yw bod nifer fawr o'r bobl a fu'n ei ddiawlio heb hyd yn oed gydnabod bod y mater fymryn yn gynilach nag yr oedd yn ymddangos ar yr olwg gyntaf. Ni ddylid cymryd unrhyw un o ddifrif nad ydynt wedi traffferthu i ymgynefino â'r mater yn iawn.

Dylid dweud gair am ddychan ac eironi fan hyn. Mae'n berffaith iawn i benderfynu, ar ôl deall y cyd-destun yn drylwyr, bod y cartŵn yn broblematig o hyd. Rwyf wedi dadlau fy hun bod rhai digrifwyr yn euog o bledio 'eironi' er eu bod yn ategu hen ystrydebau diog. Hynny yw, nid yw hawlio label 'eironi' yn gerdyn get out of jail free.

Ni ddylid gorddweud arwyddocâd bwriad y dychanwyr chwaith, oherwydd mae eironi yn ddibynnol ar ddealltwriaeth y gynulleidfa. 60,000 yw cylchrediad arferol Charlie Hebdo, a gallwn dybio bod y darllenwyr rheolaidd hynny'n gwerthfawrogi'r ffordd y mae'r cylchgrawn yn mynd ati i wneud eu pwynt. Ond mae'r rhifyn newydd eisoes wedi gwerthu miliynau o gopïau; efallai wir bod rhai o'r darllenwyr ychwanegol yr wythnos hon yn hilgwn sy'n hoffi'r syniad o weld islam fel testun sbort. Petai pobl felly'n dyfalbarhau gyda'r cylchgrawn, byddai angen cydnabod wedyn bod y ffordd y mae'n cael ei ddehongli gan ei ddarllenwyr wedi newid hefyd. Byddai hynny'n newid gwleidyddiaeth y cylchgrawn, yn anffodus, hyd yn oed os nad yw'r deunydd ei hun wedi newid o gwbl. Y gwir amdani yw bod ar eironi, os am lwyddo, angen i'r gynulleidfa fod fel petaent yn aelod o glwb, sy'n deall yn union sut i ddehongli'r deunydd gyda winc. Oherwydd y ddibyniaeth ar ddealltwriaeth y gynulleidfa, mae'n llythrennol amhosibl creu deunydd dychanol lle nad oes risg iddo gael ei gamddehongli gan bobl o'r tu allan i'r 'clwb' hwnnw, boed yn bobl sy'n arddel cyfiawnder cymdeithasol sy'n pryderu ei fod yn mynegi rhagfarn hyll, neu'n geidwadwyr adweithiol sy'n ei hoffi am yr un rheswm yn union. Yn hynny o beth, problem yr oes sydd ohoni yw bod y we yn newid y modd y mae gwaith fel hyn yn cael ei ddosbarthu. Mae'n llawer haws rhwygo darnau unigol oddi wrth eu cyd-destun.

Er mwyn amlygu hyn, ystyrier yr erthygl yma o wefan The Onion (euthum am dro i'w gwefan a chwilio am y gair 'nigger', a dyna'r canlyniad cyntaf). Pe na baech yn gyfarwydd â natur y cyhoeddiad hwnnw, efallai wir y buasech yn dychryn. Mae'r erthygl yn ddoniol, gan watwar hiliaeth, ond fel rwyf wedi bod yn dweud, mae'n dibynnu ar ryw faint o ddealltwriaeth ar ran y darllenydd. Wrth gwrs mae gan The Onion y fantais o fod yn gylchgrawn Americanaidd enwog iawn; mae llawer, o'r tu allan i America hefyd, yn gwybod yn iawn nad oes ynddo unrhyw beth i'w gymryd o ddifrif. Hyd y gwelaf, y gwahaniaeth pennaf rhwng erthygl The Onion a'r cartŵn Charlie Hebdo uchod yw bod llawer iawn llai o bobl, nes yr wythnos ddiwethaf o leiaf, wedi clywed am yr ail gylchgrawn.

Mae'r ffrae am y cartwnau wedi esgor ar drafodaeth ehangach ynghylch rhyddid barn. Cri gyfarwydd yw bod rhyddid mynegiant yn dda ond (a dyna'r 'ond' annifyr yna eto) nad yw hynny'n golygu y dylid mynd ati'n fwriadol i achosi loes. Wel ie a na. Rwy'n berson eithaf gwleidyddol gywir ar y cyfan. Rwy'n feirniadol iawn pan welaf hiliaeth, homoffobia neu rywiaeth, ac yn yr ystyr yna o leiaf, rwy'n credu bod yna rai pethau na 'ddylai' pobl eu dweud. Ond yn amlwg, nid yw hynny'n golygu fy mod yn arddel ymosod ar, neu arestio, hilgwn, homoffobiaid neu fisogynistiaid. O safbwynt rhyddid mynegiant, rwy'n cefnogi, gydag arddeliad, hawl pobl i ddweud pethau anghywir a hyll; rwyf yno'n llechu yn barod i ddefnyddio fy rhyddid mynegiant innau yn fy nhro i'w condemnio pan fyddent yn gwneud. Yn yr ystyr gyfreithiol, mae rhyddid mynegiant yn bwysicach byth pan mae datganiad yn debygol o beri loes; dyna'r union achlysur pan mae'r angen i'w amddiffyn ar ei fwyaf. Nid yw'r rhyddid i ddweud pethau saff yn unig, sy'n annhebygol o dramgwyddo unrhyw un, yn enghraifft ystyrlon o ryddid mynegiant o gwbl. Hynny yw, os nad ydych yn credu bod rhyddid mynegiant yn cynnwys yr hawl i gyhoeddi pethau fel delweddau o'r proffwyd Mohamed, nid ydych yn credu mewn rhyddid mynegiant o gwbl.

Problem gyfarwydd arall fan hyn yw'r syniad bod crefydd yn ran annatod o hunaniaeth pobl, lawn cymaint â'u hil. Mae llawer o'r farn bod hynny'n wir, felly mewn un ystyr mae hynny ynddo'i hun yn gwireddu'r ffaith. Mae pobl yn diffinio'u hunaniaeth eu hunain, wedi'r cyfan. Ond fel rwyf wedi'i ddweud dro ar ôl tro ar y blog hwn, cysyniad ideolegol yw crefydd. Nid oes rheswm o gwbl i drin crefydd yn gyffredinol, heb sôn am un grefydd benodol, yn wahanol i syniadau gwleidyddol megis Marcsiaeth neu geidwadaeth. Mae angen dymchwel y pedestal y mae cymdeithas yn mynnu gosod crefydd arno, a chael gwared ar y ffug-barchusrwydd anhaeddiannol y rhoddir iddi. Ni ddylai unrhyw syniadau fod yn imiwn rhag beirniadaeth na dychan.

Cŵyn berthnasol ychwanegol yw bod angen i ddychan anelu tuag i fyny, a herio'r sawl sydd â grym. Yr awgrym yw bod tynnu coes Mohamed druan yn enghraifft o anelu am i lawr, gan sathru ar fwslemiaid difreintiedig sy'n dehongli'r peth fel ymosodiad personol ar leiafrif. Efallai bod modd dadlau mai taro i fyny a wna'r dychanu gorau. Ond rwy'n gwrthod y syniad bod anelu i lawr yn hollol annilys. Dylai fod yn ddigon i'r targed fod yn abswrd. Ac mae islam, a'r holl lol am Fohamed, yn hollol abswrd. A beth bynnag, awgrymaf ei fod yn deg dweud mai anelu i fyny y mae Charlie Hebdo wrth gyfeirio at yr eithafwyr arfog a laddodd eu cyfeillion, ac sy'n arddel trais fel modd o orfodi eraill i ufuddhau i'w gofynion.

Yr unig reswm y mae hyn i gyd yn ddadleuol yn achos islam yw oherwydd bod cymaint o ffyddloniaid y grefydd honno'n bygwth trais yn erbyn unrhyw un sy'n eu hypsétio. Mae gwirfoddoli i fod yn wystlon i sensitifrwydd eithafwyr treisgar yn syniad syfrdanol o dwp. Yn syml iawn, nid yw'r sensro yma'n digwydd yn achos Cristnogaeth, a da hynny. Ond y ffordd i gysoni pethau yw i drin islam yr un fath ag yr ydym yn trin pob crefydd arall, nid fel arall. Os nad ydych wedi'ch argyhoeddi eto, ystyrier bod ceidwadwyr Cristnogol yn America eisoes wedi llwyddo i ddefnyddio helynt Charlie Hebdo i orfodi'r Associated Press i dynnu llun o'r Piss Christ i lawr. Dylem fod yn onest: roedd ganddynt bwynt, gan fod gan yr AP bolisi o beidio dosbarthu lluniau o Fohamed. Rhagrith a safonau dwbl yw trin y ddau achos yn wahanol. Rhaid eu trin i gyd yr un fath. Fel arall, y neges fawr i Gristnogion y byd yma yw bod angen iddynt ail-afael â dulliau treisgar.

Mewn ffordd, mae gennyf fwy o barch tuag at gyhoeddwyr a golygyddion sy'n cyfaddef yn agored mai pryderon am ddiogelwch sydd wrth wraidd eu penderfyniad i beidio atgynhyrchu'r delweddau. O leiaf mae hynny'n onest. Rhag cywilydd, fodd bynnag, ar y sawl sy'n dyfeisio ffug-esgusodion hanner-pan am ryw ddymuniad i 'osgoi peri loes'. Y gwir amdani yw ei bod yn amhosibl adrodd stori fawr yr wythnos ddiwethaf heb ddangos yr hyn sydd wedi ysgogi'r holl helynt. Mae unrhyw bapur newydd neu raglen newyddion sy'n gwrthod dangos y cartwnau yn euog o roi darlun pathetig o anghyflawn i'w darllenwyr a'u gwylwyr. Nid yw'n bosibl deall beth sy'n digwydd hebddynt.

11/01/2015

Simon Brooks: Rhyddid Barn a'r Wasg Gymraeg

Mae'r hen gwestiwn ynghylch islam a rhyddid mynegiant wedi codi'i ben mewn modd erchyll eto dros y dyddiau diwethaf, yn dilyn cyflafan yn swyddfa'r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo ym Mharis. Bydd gennyf lawer i'w ddweud yn fuan am yr helynt, a'r ymateb iddo'n benodol. Yn y cyfamser, rwy'n hapus i gyhoeddi'r neges isod gan Simon Brooks, ac erthygl berthnasol iawn o'i eiddo a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2006:

Pan gafwyd helynt yn 2006 ynglŷn â phenderfyniad y papur newydd Daneg Jyllands-Posten i gyhoeddi cartwnau o’r Proffwyd Mohamed, lledodd y ffrae i’r Gymru Gymraeg. Ail-gyhoeddwyd y cartwnau mewn papurau ar gyfandir Ewrop, ond nid yng ngwledydd Prydain ac eithrio, yn od iawn, mewn dau gylchgrawn Cymreig, Gair Rhydd a’r Llan, cyfnodolyn yr Eglwys yng Nghymru. Ond gorchmynnwyd fod rhifynnau perthnasol y ddau gylchgrawn hwnnw yn cael eu dinistrio, penderfyniad a groesawyd gan y sefydliad Cymreig yn ei gyfanrwydd. Gwrthwynebais hyn mewn erthygl olygyddol yn Barn ym mis Mawrth 2006, fel y gwnaeth Siôn Jobbins yntau yn y cylchgrawn Cambria ychydig wedyn. Er hynny, ni ymddangosodd y cartwnau yn Barn na Cambria ychwaith.

Ailgyhoeddir erthygl olygyddol Barn isod er mwyn ceisio ysbarduno trafodaeth yn Gymraeg. Ailgyhoeddwyd yr erthygl cyn hyn yn fy llyfr, Yr Hawl i Oroesi, yn 2009, ond nid yw ar gael yn ddigidol, ac yn ddigidol erbyn hyn mae llawer o drafodaethau’n digwydd.

Rwy’n hynod ddiolchgar i Dylan Llŷr am ganiatáu imi ailgyhoeddi’r erthygl ar ei wefan. – Simon Brooks, 11 Ionawr 2015

Wyneb Mohamed

Mae’r cartwnau enwog o Mohamed yn gorwedd ar fy nesg. Pan welais y dychanlun o’r Proffwyd ar dudalen flaen Die Welt, mewn siop papurau yng Nghaernarfon, prynais gopi heb feddwl ddwywaith. Efallai bod The Guardian yn rhy smyg i gredu mewn rhyddid barn bellach, ond mae modd cael gafael ar y wasg Ewropeaidd yn y rhan fwya’ o drefi yng Nghymru heddiw, a diolch byth am hynny.

Rwy’n gwbl glir fy meddwl nad oedd y papur newydd Daneg Jyllands-Posten wedi gwneud cam wrth gomisiynu deuddeg cartŵn yn arddangos wyneb Mohamed. Roedd penderfyniad papurau newydd cyfrifol ar dir mawr Ewrop – megis y Frankfurter Allgemeine Zeitung, Libération ac El Mundo – i’w hailgyhoeddi yn angenrheidiol hefyd yn wyneb hysteria. Ond nid ymddangosodd y cartwnau hyn yn yr un cyhoeddiad print yng ngwledydd Prydain, ac eithrio’r papur myfyrwyr Gair Rhydd. Ac o fewn ychydig oriau i Gair Rhydd weld golau dydd, roedd Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi rhoi sac i’r golygydd, a phwlpio’r rhifyn.

Wele felly wasg rydd wedi’i sensro ym Mhrydain, am y tro cynta’ efallai ers y dyddiau rheiny pryd y penderfynodd Thatcher na chaem glywed llefarwyr Sinn Féin. Mae’n eironig a dweud y lleia’ bod cyfyngiadau hanesyddol ar ryddid barn megis gyda rhywioldeb, y frenhiniaeth neu wleidyddiaeth wedi eu trechu, dim ond i rai newydd gael eu gosod yn eu lle. Mae’n fwy eironig byth mai’r sefydliad rhyddfrydol sydd wedi rhoi sêl ei fendith ar y sensoriaeth newydd hwn. Ond ni fydd neb yn synnu mai’r ceffyl pren Troeaidd yn hyn o beth yw cywirdeb gwleidyddol, un o afiechydon mawr ein hoes.

‘The insensitive actions of a few individuals should not, and will not, stop the atmosphere of respect and tolerance that exists at the university,’ meddai Cadeirydd Ffederasiwn Cymdeithasau Islamaidd Myfyrwyr Cymru wrth gollfarnu Gair Rhydd ar ran Mwslemiaid Prifysgol Caerdydd. Dyma ddefnydd dichellgar, dauwynebog o rethreg gynhwysol y gymdeithas amlddiwylliannol. Sylwer fel y defnyddir ‘insensitive’ ganddo i olygu ‘annerbyniol’, ‘respect’ i olygu ‘sensoriaeth’ a ‘tolerance’ i olygu ‘cau ceg’. Prifysgol o bob man yn methu â chaniatáu rhyddid barn!

Oes ’na rywbeth yn bod ar Islam felly, ac a oes gennym ni hawl i’w feirniadu? Mae digwyddiadau yr wythnosau diwetha’ wedi dangos yn go glir nad ydy Islam fel pe bai’n deall mai seciwlariaeth mewn bywyd cyhoeddus yw un o gonglfeini bywyd Ewrop. Nid yw hyn yn golygu y dylai fod unrhyw wrthwynebiad i Islam mewn bywyd preifat. Yr hawl i ffydd, yr hawl i addoli, yr hawl i addoldai: dyma rai o’r hawliau dynol mwyaf sylfaenol. A’r hawl hefyd i fynegi barn heddychlon ynghylch cabledd, ac i brotestio yn ei erbyn os dymunir.

Ond cyn belled â bod cyfraith a threfn dan ystyriaeth, cymdeithas seciwlar ydy hon, ac mae gennym bob hawl i’w chadw felly. Yma fe ymddengys bod y Gorllewin ac Islam yn bodoli ar ddwy blaned wahanol. Yn y ddeunawfed ganrif y cafwyd y chwyldro mewn athroniaeth Ewropeaidd a olygodd fod mwy o fri yn cael ei roi ar reswm a rhesymeg mewn gwleidyddiaeth nag ar orchmynion offeiriaid. A’r gwir amdani ydy mai un o’r prif resymau dros y diffyg amgyffred presennol rhwng y Gorllewin ac Islam ydy na phrofodd y byd Islamaidd yr Oleuedigaeth honno. Bydysawd oligarchaidd yn anffodus yw’r byd Islamaidd o hyd.

Er gwaetha’ honiadau ffôl rhai Mwslemiaid mai mater o ragfarn hiliol yw dymuno cyhoeddi’r cartwnau hyn, does gan neb – heblaw efallai am y BNP – mo’r mymryn lleia’ o ddiddordeb mewn defnyddio cabledd gwrth-Islamaidd fel ffon i guro lleiafrif ethnig. Yr hyn a gawn yn dramgwyddus, yn hytrach, ydy’r ensyniad na ellid caniatáu bellach drafodaeth ar grefydd.

At hyn hefyd, wrth gwrs, bu golygfeydd cywilyddus yn Llundain pryd y bu Islamiaid eithafol yn galw am ddienyddio newyddiadurwyr a chartwnwyr. Nid chwarae bach yw’r bygythiadau hyn, wrth gwrs. Gorfodwyd Salman Rushdie gan fatwa i guddio am flynyddoedd maith. Yn yr Iseldiroedd, llofruddiwyd cyfarwyddwr ffilm, Theo van Gogh, am feirniadu Islam.

Roedd fy mhenderfyniad fel Golygydd Barn o ran y cartwnau hyn yn un digon hawdd felly. Roeddwn yn dymuno eu cyhoeddi. Nid er mwyn dathlu cabledd, ond er mwyn gwrthsefyll yr Islamiaid eithafol sy’n dewis cefnogi’u bydolwg crefyddol gyda bygythiadau o drais a llofruddiaeth.

Ac eto, ni welwch yn Barn yr un o’r cartwnau yma. Pam hynny? Yn ddigon syml, cachgïaeth. Mae’n well bod yn onest am hyn yn hytrach na bychanu deallusrwydd pawb. Trwy Brydain benbaladr mae golygyddion yn llawn ofn. Ac nid wyf yn eithriad.

Wrth gwrs mae peidio â chyhoeddi’r cartwnau hyn yn datgan buddugoliaeth trais a therfysgaeth dros werthoedd cymdeithas wâr. Mae’n golygu nad yw rheolaeth y Gyfraith yn ddigon cryf ym Mhrydain bellach i warantu rhyddid y wasg. Mae hyn yn drychineb i ni i gyd. Ond byddai cyhoeddi’r cartwnau hyn yn rhy beryglus. Am y tro cyntaf ym Mhrydain ers tri chan mlynedd a mwy, dedfryd o farwolaeth yw’r gosb am feirniadu crefydd. Rhag eu cywilydd yr Islamiaid eithafol sy’n peri hyn, a rhag eu cywilydd hefyd bawb sy’n gwneud esgusodion drostyn nhw.

22/10/2014

Priodasau hoyw yn Vegas

Mae pethau wedi symud yn rhyfeddol o gyflym yn achos priodasau cyfunrywiol yn America dros y flwyddyn ddiwethaf neu ddwy. Erbyn hyn, mae 32 talaith (a Washington, DC) yn caniatáu i gyplau hoyw briodi'n swyddogol, ac mae'r gwaharddiadau sy'n weddill yn debygol o barhau i syrthio fel dominos. Mae'r rhai diweddar yn cynnwys llefydd hynod geidwadol fel Utah, Wyoming, Alaska ac Idaho.

Byddai hyn wedi ymddangos yn hollol amhosibl hyd yn oed ar ddechrau'r degawd hwn. Mae'n wir mai'r llysoedd sy'n bennaf gyfrifol, yn hytrach na deddfwriaeth, ond mae mwyafrif clir o boblogaeth y wlad bellach yn gefnogol, ac mae'r ceidwadwyr rhagfarnllyd yn heneiddio. Yn amlwg, mae'r ddadl wedi'i hen ennill. Yn fuan iawn (efallai mor fuan â 2015 neu 2016, yn dibynnu ar pryd fydd y Goruchaf Lys yn cytuno i wrando ar achos llawn), bydd pob rhan o'r Unol Daleithiau'n rhoi'r un hawliau priodasol i gyplau cyfunrywiol ag y mae pawb arall eisoes yn eu mwynhau.

Talaith arall lle cyfreithlonwyd priodasau hoyw ar ddechrau'r mis yw Nevada. Efallai ei bod yn syndod nad oedd Las Vegas, o bob man, yn caniatáu hynny'n barod, ond mae gweddill y dalaith yn bur geidwadol. Roedd priodi am 4 y bore, yn feddw dwll, â rhywun rydych newydd ei gyfarfod y noson honno, yng nghwmni Elvis ar gefn tandem, yn cyd-fynd yn barchus ac urddasol â'r syniad o briodas draddodiadol, mae'n debyg, cyn belled nad oedd gan y darpar-gymar yr un math o organnau rhywiol. Bid a fo am hynny, rwy'n hapus bod y dalaith lle cefais i fy hun y fraint o briodi'm gwraig bellach wedi cymryd y cam pwysig hwn.

Wrth ddilyn y newyddion, penderfynais edrych i weld beth oedd ymateb y Chapel Of Flowers, lle cawsom y seremoni (er yr enw, roedd modd dewis priodas cwbl seciwlar). Er bod rhai 'capelau' yn y ddinas yn gwrthwynebu'r newid, roedd yn dda gweld bod y lle y dewisom ni wedi croesawu'r newyddion â brwdfrydedd a llawenydd. Byddai wedi pwyso ar fy nghydwybod petaent yn wrthwynebus, felly mae gweld hynny'n fy ngwneud yn ddigon hapus.

07/10/2014

Yr Iwerddon am ddiddymu'r gyfraith yn erbyn cabledd

Mae cableddu yn drosedd anghyfreithlon yn yr Iwerddon. Nid oes unrhyw un wedi cael ei erlyn ers dros gant a hanner o flynyddoedd, mae'n wir, ond mae'n debyg bod yr embarás o gael y fath lol ar y llyfr statud bellach yn drech na hwy. Ond am ryw reswm, maent yn teimlo bod angen refferendwm. Nid wyf yn siwr sut fyddai poblogaeth yr Iwerddon yn pleidleisio yn hynny o beth, a bod yn onest. Maent yn genedl ddigon od lle mae crefydd o dan sylw.

Heblaw am y ffaith nad yw'r gwleidyddion yn ddigon dewr i ddiddymu'r gyfraith hurt eu hunain (pam ddylai hyn fod yn wahanol i unrhyw ddeddf arall?), dyma sy'n fy mhryderu fan hyn: 
Ó’Ríordáin said it hadn’t been decided yet whether the amendment would simply remove the crime of blasphemy, or replace it with a ban on incitement to religious hatred.

It is also unclear whether the ban on blasphemy found in the Defamation Act would remain law, or be replaced by an offense of incitement to religious hatred.
Un cam ymlaen yna cam arall yn ôl fyddai cyfreithloni cabledd ond gwahardd 'annog casineb crefyddol'. Cyfraith cabledd yw gwaharddiad ar 'gasineb crefyddol' i bob pwrpas, wedi'i fynegi mewn ieithwedd ffug-ryddfrydol. A dweud y gwir, mae'n bosibl i waharddiad ar 'gasineb crefyddol' (beth bynnag yw hynny; dyna'r holl bwynt) fod hyd yn oed yn waeth na chyfraith yn erbyn cabledd, gan ei fod yn ehangach a mwy annelwig ei ystyr.

Mae unrhyw waharddiadau o'r fath yn gwbl annerbyniol a gwrthun, ac nid oes lle iddynt mewn cymdeithasau sy'n honni eu bod yn parchu rhyddid mynegiant. Diddymer y gyfraith, a pheidier rhoi unrhyw beth yn ei lle.

17/07/2014

Un ateb olaf

Mae'n ofer ceisio dal pen rheswm ag Alwyn, felly rwyf wedi rhoi'r gorau i drafferthu ers talwm. Eto i gyd, rwyf newydd sylwi iddo adael sylw dwl arall ar y blog yn ddiweddar ac rwyf am lyncu'r abwyd un tro bach olaf. Once more unto the breach, dear friends, once more. Gydag ochenaid ddofn, dyma ddyfynnu'r sylw:
Mae 'na gwirionedd yn yr hen ddweud "y rhai sy'n curo sy'n caru". I gasáu rhywbeth mae'n rhaid buddsoddi rhywfaint o emosiwn a theimlad iddi, yn yr un modd a mae'n rhaid buddsoddi mewn cariad.

Tybiwn bod 90% o "anghredinwyr" jyst dim yn credu a dyna fo; nid oes gyda nhw barn am grefydd gan bod crefydd yn dibwys iddynt; dydy o ddim yn effeithio ar eu bywydau, dydy o ddim yn bwysig, prin ei fod yn croesi eu meddyliau. Mae nhw'n mynd i gapel neu eglwys i ddathlu bedydd, priodas neu i goffa er mwyn parch i'r teulu heb malio dim am y geiriau na'r defod.

Yr wyt ti, ar y llaw arall, wedi postio tua 5 post y mis am 4 mlynedd yn gwrthwynebu crefydd, yr wyt ti'n buddsoddi emosiwn i fewn i dy anffyddiaeth, difyr byddid gwybod be sy'n gyfrifol am y fath buddsoddiad!

Rwy'n gwybod bydd y sylw yma'n cael ei ddileu, fel mae sylwadau pawb sy'n anghytuno a thi wedi eu dileu. Peth difyr ynddo'i hyn. Pam dy fod mor ansicr o dy ymrwymiad emosiynol i anffyddiaeth, dy fod yn methu goddef gwrthwynebiad iddi?
Diffyg hunan-ymwybyddiaeth llwyr, siwr o fod, sydd i gyfrif am y modd y mae Alwyn yn cyfystyru fy niffyg amynedd ag o'n benodol gydag "anoddefgarwch" yn erbyn pawb sy'n anghytuno â mi'n gyffredinol. Nid yw Alwyn yn cynrychioli pawb sy'n anghydweld â'r blog hwn, diolch byth. Rwy'n hapus i drafod ac anghytuno ag unrhyw un sy'n meddu ar y gallu i ddarllen a deall, ac rwyf wedi gwneud hynny. Nid yw Alwyn ymhlith y fath bobl, dyna i gyd.

Nid oes angen i mi gyfiawnhau fy mlogio iddo nac i neb arall, ac rwyf wedi amlinellu fy nghymhelliad o'r blaen, ond waeth i mi egluro eto. Yn gyntaf, diddordeb pur. Yn syml iawn, rwy'n ymddiddori yn y dadleuon athronyddol, gwyddonol a hanesyddol ynghylch absenoldeb duw. Ond hobi deallusol pur fyddai hynny pe na bai crefydd yn mynnu sathru ar draed pawb arall. Mae'n bur debyg na fuaswn i'n blogio am y stwff yma oni bai am y ffordd y mae crefydd yn ymyrryd â'n hawliau. Lle mae dadlau ynghylch unrhyw fater cymdeithasol, gallwch fentro bod crefydd yn flaenllaw iawn ar yr ochr anghywir. Mae'r rhestr yn faith: yr hawl i farw, rheolaeth menywod dros eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain, hawliau pobl hoyw, yr hawl i ymarfer rhyddid mynegiant trwy ddychan ac yn y blaen ac yn y blaen hyd syrffed. Nid yw'r rhan fwyaf o'r rhain yn effeithio arnaf yn uniongyrchol; nid wyf yn fenyw na'n hoyw nac, ar hyn o bryd o leiaf, yn dioddef o afiechyd annioddefol. Ond rwy'n dadlau'n chwyrn o'u plaid oherwydd rwy'n gyndyn mai dyna'r peth moesol i'w wneud. Rwy'n arddel safbwyntiau cymdeithasol rhyddfrydol cryfion, ac ym mron pob achos, crefydd yw'r gelyn pennaf. Er mwyn hyrwyddo safbwyntiau cymdeithasol moesol, mae rhaid trechu'r hyn sy'n sefyll yn eu ffordd, a'r ffordd orau o wneud hynny yw trwy herio crefydd yn ei chyfanrwydd.

Nid gwahoddiad i drafod ymhellach mo hyn gyda llaw, Alwyn. Does dim byd mwy i'w ddweud. Hwyl.

13/05/2014

Ynghylch arteithio

Roedd yn ddigalon darllen bod 29% o bobl Prydain yn credu bod modd cyfiawnhau arteithio mewn rhai amgylchiadau, yn ôl arolwg gan Amnest Ryngwladol. Mewn geiriau eraill, mae bron i un o bob tri o drigolion y Deyrnas Gyfunol yn ffyliaid anfoesol.

Mae'n ddigon posibl bod y mudiad yn agos ati wrth briodoli hyn i ddylanwad ffilmiau a rhaglenni teledu fel 24. Mae sefyllfa hypothetig y ticking time bomb yn un dramatig, ac mae'n siwr gen i mai dyna'r senario yr oedd gan y rhan fwyaf o'r atebwyr mewn golwg. Ond ffuglen llwyr yw sefyllfa o'r fath. Mewn bywyd go iawn, nid oes achlysuron yn codi lle mae'r awdurdodau'n gwybod bod bom ar fin ffrwydro, lle mae ganddynt garcharor yn eu meddiant sy'n gwybod y manylion, a lle mai'r unig ffodd o gael yr wybodaeth ganddo yw trwy wneud pethau cas i'w geilliau neu trwy hanner ei foddi. Yn sicr, nid wyf wedi clywed am y fath beth erioed. Efallai bod rhai'n mwynhau dychmygu achub y dydd fel hyn, ond ffantasi pur Jack Baueraidd ydyw.

Ar ben hynny, problem fawr arteithio (heblaw am anfoesoldeb difrifol y peth) yw ei fod yn dull hynod o wael o gaffael gwybodaeth. Pan mae rhywun yn tynnu ewinedd eich traed allan gyda phleiars, y gwir yw eich bod yn mynd i fod yn barod i ddweud unrhyw beth er mwyn rhoi stop ar y boen. Petawn yn cael fy arteithio, er enghraifft, ni fuasai fy mhoenydwyr yn gorfod aros rhyw lawer cyn i mi gyfaddef mai fi gynlluniodd yr ymosodiadau terfysgol ar 11 Medi 2001, os mai dyna roeddent am i mi ei ddweud (yn union fel y dedfrydwyd "gwrachod" honedig ers talwm). Er y defnydd helaeth o artaith gan y CIA dros y degawd a hanner diwethaf, nid oes unrhyw wybodaeth ddefnyddiol wedi dod o'r peth. Mae'n debygol bod y gwasanaeth cudd wedi gwastraffu oriau lu yn ceisio gwirio gwybodaeth ffug a gaffaelwyd wrth arteithio.

Byddai dal i fod yn anfoesol hyd yn oed petai'n ddull effeithiol, wrth gwrs. Mae'r ysgrif yma'n egluro pam. Dylai'r syniad bod gan lywodraethau'r hawl i achosi poen bwriadol i unigolion ddychryn pawb. Mae'n anodd deall beth sy'n bod ar y 29%.

23/04/2014

Wythnos ddwl arall yn y ddadl ynghylch erthylu

Tros y dyddiau diwethaf, mae ffrae wedi codi ynghylch penderfyniad rhywun o'r enw Josie Cunningham i gael erthyliad gan ei bod yn gobeithio cael gyrfa mewn rhaglenni realiti ar y teledu. Mae hyn yn od, ac mae'n destun braw braidd bod gweld menyw'n dewis canolbwyntio ar ei gyrfa wedi gwylltio cymaint o bobl gymaint. Roeddwn yn hanner-meddwl bod y math yma o beth wedi rhoi'r gorau i fod mor ddadleuol ym Mhrydain.

Fel y dywedais, nid yw ystyried effeithiau ar yrfa wrth benderfynu beth i'w wneud ynghylch cynnwys eich croth eich hun yn gysyniad newydd. Mae elfen gref o snobyddiaeth yn yr ymatebion blin, gan mai uchelgais Cunningham yw serenu ar Big Brother cyn symud ymlaen i ymddangos ar raglenni crap eraill ac efallai ar gloriau cylchgronnau ofnadwy. Nid wyf am anghytuno bod rhywbeth digon digalon am hynny, ond mae'n amherthnasol. Ni fyddai llawer o'r snobs blin yma wedi meddwl dwywaith petai hi'n fenyw fusnes llwyddiannus, ond mae gan Cunningham yr un hawl yn union i reoli'r hyn sy'n mynd ymlaen gyda'i chyfarpar atgenhedlu ei hun er dibenion gyrfaol (neu am unrhyw resymau eraill). Yr un yw'r egwyddor yn union: ei phenderfyniad hi ydyw, a neb arall.

Ond os yw rhai ym Mhrydain wedi troi'r cloc yn ôl i'r 1950au yr wythnos yma, mae'r dde grefyddol yn America wedi plymio dyfnderoedd rhyfedd newydd eto fyth. Yn ôl y Christian Post, mae'r ffaith bod Chelsea Clinton yn hapus i fod yn feichiog a'n edrych ymlaen i gael babi yn enghraifft o ragrith, gan ei bod, fel ei mam Hillary, yn cefnogi hawl menywod i ddewis cael erthyliad. Yn ogystal, mae llu o'u cyd-geidwadwyr yn mynnu mai stynt gwleidyddol yw hyn i gyd, er mwyn hwyluso ymgais Hillary Clinton i ennill yr arlywyddiaeth yn 2016 (gan ddadlau, ar yr un pryd, y byddai bodolaeth y babi rywsut yn ei rhwystro rhag canolbwyntio'n iawn ar ofynion y swydd). Afraid dweud nas mynegwyd y pryder yma pan ddaeth Mitt Romney yn daid i ddau o wyrion newydd yn ystod ymgyrch 2012. (rhifau 17 ac 18 oedd y rheiny; mae pump o Romneyaid bychain ychwanegol wedi ymddangos ers hynny). Dyma rywiaeth cwbl noeth ac amrwd ar waith.

Mae twpdra fel hyn bron yn arwrol yn ei ffordd. A yw'r bobl yma'n camarwain yn fwriadol er dibenion ideolegol, ynteu a yw eu ffordd o feddwl wirioneddol mor dila o blentynnaidd? Hyderaf nad oes gwir angen i mi egluro'r peth fan hyn, ond rwyf am wneud beth bynnag: ystyr pro-dewis yw'r syniad bod gan fenywod yr hawl i ddewis y naill ffordd neu'r llall. Os nad ydynt yn dymuno rhoi geni i fabi, dylai fod ganddynt yr hawl a'r gallu i gael gwared ar y ffetws yn ddi-ffwdan. Os ydynt eisiau babi, hei lwc iddynt! Mae hyn yn hawdd i chi a mi ei ddeall, ond fe ymddengys bod rhai'n cael trafferth darllen a'n tybio bod pawb pro-dewis yn deisyfu difa pob ffetws yn ddi-eithriad, gan gynnwys pan fyddai hynny'n gwbl groes i ewyllys y ddarpar-fam. Mae'n siwr bod hyn yn adlewyrchu anallu i amgyffred unrhyw gysyniad nad yw'n golygu gorfodi pethau ar eraill. Dyna'r cwbl mae'r bobl yma'n ei ddeall, yn eu dallineb theocrataidd lloerig.

14/01/2014

Nid rhyddfrydwr mo'r Pab

Am ryw reswm nad wyf yn ei ddeall, mae llawer iawn o bobl a ddylai wybod yn well wedi bod yn canmol y Pab Ffransis I am fod yn "gymhedrol" a "rhyddfrydol". Aeth y cylchgrawn Time mor bell â'i wobrwyo â theitl "person y flwyddyn" 2013 (beth yn fwy oedd angen i Edward Snowden ei wneud?).

Yn un peth, rwyf wedi hen syrffedu ar glywed bod Ffransis yn ddiymhongar a gwylaidd. Mewn difrif calon, mae'r dyn yn credu, gyda phob difrifoldeb, mai ef yw unig lefarydd swyddogol creawdwr yr holl fydysawd.

Yn ogystal, roedd y datganiad yma'n hynod annifyr:
I invite even nonbelievers to desire peace
"Even"! Nid oes arnaf angen gwahoddiad gan y Pab o bawb er mwyn dymuno gweld heddwch, diolch yn fawr.

Ond ar ben hynny, nid oes unrhyw beth o sylwedd wedi newid o fewn yr Eglwys Babyddol. Mae'r wasg yn mynnu bod newid mawr ar droed, ond celwydd llwyr yw hynny.

Ni fyddai bod yn llai uffernol na'i ragflaenydd, Bened XVI, yn gamp arbennig iawn yn y lle cyntaf, ond hyd yn oed wedyn nid yw Ffransis yn welliant gwerth sôn amdano. Mae'n ddigon hawdd dweud pethau neis am gyfiawnder a thegwch a thlodi pan rydych yn bennaeth ar wlad sy'n llythrennol wedi'i gwneud o aur. Geiriau gwag yw'r rhain. Gweithredoedd sy'n cyfrif, nid datganiadau di-sylwedd ffug-garedig. Mae'r eglwys wedi sicrhau buddugoliaeth PR anferth heb wneud unrhyw beth yn wahanol.

Er yr holl siarad, mae ei eglwys yn parhau i arddel yr un hen bolisïau hyll sy'n helpu i gadw'r tlodion yn eu lle: nid oes unrhyw lacio wedi bod ar wrthwynebiad yr eglwys i erthyliad a dulliau atalgenhedlu yn gyffredinol. Maent o hyd yn rhaffu'r un celwyddau am gondoms ac AIDS, sydd wedi arwain yn uniongyrchol at filiynau o farwolaethau di-angen.

Ar ben hynny, nid oes unrhyw awgrym bod yr eglwys am ddechrau ordeinio menywod, ac mae'r rhagfarn amrwd tuag at bobl hoyw yr un mor uniongred a chadarn ag erioed. Heb sôn am drosedd waethaf un y sefydliad, sef y ffaith eu bod yn parhau i lochesu miloedd o bedoffeiliaid rhag cyfiawnder. Os yw Ffransis yn dymuno ennill hygrededd go iawn, dylai fynnu ar unwaith bod ei eglwys yn cyd-weithio'n llwyr ac agored â'r heddlu ynghylch y sgandalau treisio plant. Cyn i ni weld hynny'n digwydd, erys y Pab yn bennaeth ar y cartel gwarchod pedoffeiliaid gwaethaf a welodd ein planed erioed (ac mae hynny wrth gwrs yn ei wneud yn ddihiryn). Go brin y gwelwn unrhyw ddatblygiadau cadarnhaol yn yr un o'r meysydd hyn, felly ni welaf unrhyw reswm i barchu'r dyn nac i wneud unrhyw gymhariaethau ffafriol â'i ragflaenydd.

Wrth gwrs, mae disgwyl i'r Pab ddiddymu'r holl bolisïau uchod gyfystyr â mynnu ei fod yn troi ei gefn ar athrawiaeth Babyddol yn gyffredinol. Mae'r problemau gyda'r Pab yn deillio o'r ffaith ei fod, yn anffodus, yn babydd. Os am weld Pab sy'n haeddu canmoliaeth go iawn, bydd rhaid i ni aros i eirth roi'r gorau i gachu yn y goedwig.

08/01/2014

John Stuart Mill, rhyddid a democratiaeth

Mae'r cysyniad o ryddid, fel y'i disgrifir gan yr hen athronydd John Stuart Mill yn ei gampwaith, On Liberty, yn dylanwadu'n fawr iawn ar fy ngwleidyddiaeth, a'n lliwio'r safbwyntiau ynghylch hawliau sifil rwy'n eu harddel ar y blog hwn. Efallai mai'r canlynol yw'r dyfyniad enwocaf:
The only freedom which deserves the name is that of pursuing our own good in our own way, so long as we do not attempt to deprive others of theirs, or impede their efforts to obtain it.
Fersiwn estynedig o'r rheol euraid yw hon. Mae trin pobl eraill fel yr hoffem ninnau gael ein trin yn gorfod golygu mai'r unig gyfiawnhad dros gyfyngu ar ryddid unrhyw unigolyn yw er mwyn rhwystro'r unigolyn hwnnw rhag niweidio rhywun arall. Fel y dywed Zechariah Chafee, "your right to swing your arms ends just where the other man's nose begins".

Nid oes gwahaniaeth beth yw maint y mwyafrif sydd o blaid cyfyngu ar ryddid unigolyn:
If all mankind minus one, were of one opinion, and only one person were of the contrary opinion, mankind would be no more justified in silencing that one person, than he, if he had the power, would be justified in silencing mankind.
Mae hon yn egwyddor hynod bwysig. Lle mae hawliau dynol creiddiol (fel rhyddid mynegiant) o dan sylw, mae'n hanfodol eu gwarchod rhag ormes y mwyafrif. Mae angen cyfyngu ar ddemocratiaeth bur, er mwyn sicrhau nad yw'r mwyafrif yn gorthrymu grwpiau lleiafrifol. Dyma, wrth gwrs, swyddogaeth cyfansoddiad (ar ffurf dogfen ffurfiol neu beidio) a'r llysoedd.

Yn hyn o beth, mae rhyddid yn gyffredinol yn bwysicach na democratiaeth. Hynny yw, un math o ryddid yn unig o blith nifer yw'r hawl i ddewis cynrychiolwyr gwleidyddol i ddeddfu a llywodraethu ar ein rhan. Yn hypothetig, o leiaf, mae'n bosibl dychmygu cymdeithas cwbl annemocrataidd sydd, eto i gyd, yn parchu rhyddid yn well na chymdeithas hollol ddemocrataidd. Fel mae'n digwydd, nid oes cymdeithas o'r fath wedi bodoli erioed, a go brin y gwelwn un yn y dyfodol; yn ymarferol, mae gwledydd rhyddion yn tueddu i fod yn lefydd democrataidd. Ond y pwynt yw bod democratiaeth bur yn gallu amharu ar y mathau eraill o ryddid, ac mewn sefyllfaoedd o'r fath, ar ddemocratiaeth y dylid cyfyngu.

Er bod gan bob crefydd a diwylliant, fwy neu lai, fersiwn o'r rheol euraid, mae gormod o lawer o bobl yn talu sylw i hanner y ddysgeidiaeth yn unig. Ond mae'n hawdd cytuno â hi os mai ein rhyddid ein hunain sydd o dan fygythiad; y gwir brawf yw gwrthod y temtasiwn i fygwth hawliau pobl eraill.  Mae llawer, am wn i,  yn camddeall y cysyniad o ryddid.  Fel y dywed Mill:
There are many who consider as an injury to themselves any conduct which they have a distaste for, and resent it as an outrage to their feelings; as a religious bigot, when charged with disregarding the religious feelings of others, has been known to retort that they disregard his feelings, by persisting in their abonimable worship or creed. But there is no parity between the feeling of a person for his own opinion, and the feeling of another who is offended at his holding it; no more than between the desire of a thief to take a purse, and the right of the owner to keep it. And a person's taste is as much his own peculiar concern as his opinion or his purse.
Yn syml iawn, nid yw'n golygu'r hawl i beidio clywed neu weld pethau rydych yn anghytuno â hwy. Dylid gwarchod pobl rhag niwed go iawn, ond nid oes gan unrhyw un yr hawl i beidio cael eu hypsétio. Mae eithafwyr crefyddol, er enghraifft, yn honni bod priodasau cyfunrywiol rywsut yn amharu ar eu hawliau crefyddol. Swmp a sylwedd eu dadl yw eu bod yn credu bod yr holl beth yn ych-a-fi. Wel pa ots? Nid yw bodolaeth hoywon priod yn cael unrhyw effaith negyddol go iawn ar unrhyw un arall, felly mae'n anfoesol gwadu'r hawl iddynt gael yr un cydnabyddiaeth i'w perthynas ag y mae gweddill y boblogaeth yn cael ei fwynhau. Mae hyn yn ddigon syml.

Yn anffodus, difethir On Liberty gan ddarn digon hyll yn ei gyflwyniad. Am ba bynnag reswm, ar ôl dod mor agos at ei deall hi, mae Mill yn tanseilio'r hyn sy'n dilyn trwy wneud eithriad hiliol:
we may leave out of consideration those backward states of society in which the race itself may be considered as in its nonage. The early difficulties in the way of spontaneous progress are so great, that there is seldom any choice of means for overcoming them; and a ruler full of the spirit of improvement is warranted in the use of any expedients that will attain an end, perhaps otherwise unattainable. Despotism is a legitimate mode of government in dealing with barbarians, provided the end be their improvement, and the means justified by actually effecting that end. Liberty, as a principle, has no application to any state of things anterior to the time when mankind have become capable of being improved by free and equal discussion. Until then, there is nothing for them but implicit obedience to an Akbar or a Charlemagne, if they are so fortunate as to find one.
Mae'n rhaid i hawliau dynol, wrth reswm, fod yn berthnasol i'r holl hil ddynol. Nid yw'r cysyniad yn un ystyrlon fel arall. Mae darllen y dyfyniad uchod felly'n ddigon digalon, gan fod yr awdur, ym mron pob ffordd, wedi arloesi yn y maes. Roedd rhagfarn tuag at "farbariaid" yn gyffredin tu hwnt ar y pryd, wrth gwrs. Ond mewn ffordd, mae'n anos maddau Mill fan hyn na'i gyfoedion. Nid oes llawer o syndod bod ceidwadwyr Fictorianaidd, ar un llaw, heb feddwl bod unrhyw beth o'i le ar fwynhau rhyddid adref tra'n ei wrthod i'r tramorwyr anwaraidd a drigai o dan gysgod ymerodraeth Prydain. Yn achos Mill y rhyddfrydwr, ar y llaw arall, ar ôl ei holl waith diwyd yn ystyried ac esbonio rhyddid fel cysyniad cyffredinol, mae'n siomedig ei weld yn syrthio i'r un trap. Mae'n deg awgrymu y dylai fod wedi gwybod yn well. Norm diog oedd rhagfarn fel hyn i bawb arall, ond roedd rhaid i Mill ei wasgu i mewn yn bwrpasol. Go brin mai cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod Mill yn gweithio i Gwmni Dwyrain India ar y pryd; roedd yr eithriad ynghylch "barbariaid" yn cyfiawnhau ymddygiad ei gyflogwyr.

Mae llawer wedi beirniadu Mill am hyn, gan ei alw'n "ryddfrydwr imperialaidd". Mae'r cyhuddiad yn deg, yn enwedig gan ei fod hefyd wedi bod yn gefnogol i'r egwyddor o ymyrryd yn filwrol er mwyn lledaenu ei syniad o ryddid (rhywbeth arall yr wyf i'n anghytuno'n llwyr ag ef, am resymau ymarferol a moesol). Eto i gyd, rwy'n cytuno â Nick Cohen sy'n dadlau bod llawer o'r beirniaid ôl-drefedigaethol ac ôl-fodern sy'n condemnio hiliaeth Mill yn euog o'r un peth yn union. Fel y gofynna Cohen:
Who now believes that rights are all very well for Englishmen but not for the lesser breeds? Who now says that the emancipation of women is essential for white-skinned women in the West but not brown-skinned women in the East? Who, in short, is the inheritor of the old imperialist double standard?
Fel rwyf wedi'i ddweud droeon ar y blog hwn, mae anffyddwyr cyson - hynny yw, rhai sy'n beirniadu erchyllterau a gyflawnir yn enw crefydd dim ots pa ffydd sydd o dan sylw - yn aml yn wynebu cyhuddiad o "imperialaeth ddiwylliannol". Ond fel mae Cohen yn ei ddweud, mae'r cyhuddiad ynddo'i hun yn arwydd o hiliaeth yn y person sy'n ei wneud, gan ei fod yn ail-adrodd camgymeriad Mill. "Hiliaeth y disgwyliadau isel" yw gosod safonau gwahanol ar gyfer ein cymdeithas ni, ar un llaw, a chymdeithasau mwslemaidd (er enghraifft) ar y llaw arall.

Er hyn, rwy'n parhau i edmygu Mill am ei gyfraniad.  Er nad wyf yn cytuno chwaith â'i agwedd laissez faire tuag at economeg ac union ddyletswyddau'r wladwriaeth, mae dyled anferth iddo am amlinellu ystyr rhyddid a hawliau'r unigolyn mor glir. Petai mwy o bobl yn deall a gwerthfawrogi'r hyn a ddywedodd, ni fyddai angen i ni orfod dioddef cymaint o eithafwyr crefyddol yn cwyno mor syrffedus bod peidio caniatáu iddynt ormesu eraill gyfystyr â sathru ar eu hawliau hwy.

22/10/2013

Mwy nag un islam

Rwy'n credu bod yr erthygl hon gan Sam Harris am Malala Yousafzai, a'r ymateb blin hwn gan Murtaza Hussain, yn amlygu ffaith sy'n cymlethu'r ddadl am islam (ac unrhyw grefydd arall o ran hynny): mae yna lawer iawn o wahanol islamau, yn union yn yr un modd ag y mae llawer iawn mwy nag un wedd ar gristnogaeth

Y geiriau hyn gan Harris yw asgwrn y gynnen, mae'n debyg:
Given the requisite beliefs…. an entire culture will support such evil. Malala is the best thing to come out of the Muslim world in a thousand years. She is an extraordinarily brave and eloquent girl who is doing what millions of Muslim men and women are too terrified to do—stand up to the misogyny of traditional Islam.
Ateb Hussain yw dyfynnu geiriau Malala:
“The Taliban think we are not Muslims, but we are. We believe in God more than they do, and we trust him to protect us…..I’m still following my own culture, Pashtun culture….Islam says that it is not only each child’s right to get education, rather it is their duty and responsibility.”
Cyn dweud hyn:
Besides their own unique brands of extremist myopia (one formed in Ivy League universities, another in the illiterate villages of a war-torn country) what Harris and the Taliban also have in common are that neither considers Malala to be a genuine Muslim. Without even the pretense of substantiating his argument, Harris claims that criminals such as al-Qaida and Al Shabab – universally denounced among religious authorities in the Muslim world – have “have as good a claim as any to being impeccable Muslims.”
Er bod Hussain yn iawn i gyhuddo Harris o baentio â brwsh rhy drwchus, mae'r darn olaf yna'n ddwl braidd. Nid yw'n gwneud unrhyw ymdrech i egluro beth yn union sy'n bod gyda'r rhan yna o ddadl Harris. Mae gan yr eithafwyr lawn cystal hawl i'r label "mwslemiaid go iawn" ag unrhyw garfan eraill o fewn islam. Fersiwn o'r "No True Scotsman" fallacy yw gwadu hynny. Wrth gyhuddo Harris o gyfyngu ei ddiffiniad o "islam" i olygu'r eithafwyr yn unig, mae Hussain ei hun yn euog o'r gwrthwyneb, sef ei diffinio i olygu'r fersiwn gymhedrol yn unig.

Mae yna lawer iawn o eiriau yn y Coran a'r hadithau. Mae mwslemiaid rhyddfrydol, ceidwadol a ffwndamentalaidd i gyd yn cefnogi'u safbwyntiau â dyfyniadau dethol o'r ysgrythur. Nid yw'n bosibl dweud bod un dehongliad yn gywirach na'r gweddill (wrth gwrs, yr unig ateb call yw ymwrthod ag unrhyw gredoau sydd wedi'u seilio ar ddim mwy na geiriau a ysgrifennwyd bron i 1,400 o flynyddoedd yn ôl).

Mae Malala'n arwres, ac mae'n bwysig ei chefnogi yn ei hymgyrch yn erbyn yr eithafwyr o fewn ei chrefydd. Mae'n deg atgoffa ein hunain hefyd ei bod hithau'n fwslem o argyhoeddiad, ac nid oes gwaharddiad ar addysg i ferched yn y diwylliant y mae hi'n uniaethu ag ef (am y rheswm yna, mae Harris yn anghywir i gyfystyru islamiaeth ffwndamentalaidd ac "islam draddodiadol", gan fod fersiwn Malala'n berffaith draddodiadol hefyd). Y brif broblem â darn Harris yw nad yw portreadu ei brwydr fel "Malala vs Islam" yn debygol o fod yn ddefnyddiol iawn. Ar y llaw arall, camsyniad peryglus yw tybio mai eithriadau prin yw'r eithafwyr o fewn islam; dyna'n union pam mae safiad Malala mor ddewr. Erys y ffaith bod mwy o ymosodiadau ar hawliau sifil yn cael eu cyflawni heddiw yn enw islam nag yn enw unrhyw syniadaeth arall ar y blaned.

17/10/2013

Salman Rushdie a'r fatwā

Darllenais hunangofiant Salman Rushdie, Joseph Anton, yn ddiweddar. Cawn ei hanes cynnar, ond mae'r rhan fwyaf o'r llyfr yn canolbwyntio ar gyfnod y fatwā enwog. Cyfeiria'r teitl at y ffugenw a fabwysiadodd wrth iddo orfod cuddio rhag ofn i'r Iraniaid neu ffwndamentaliaid islamaidd eraill ei lofruddio: enwau cyntaf ei ddau hoff awduron, Conrad a Chekhov.

Yr hyn sy'n taro'r darllenydd yn syth yw'r ffaith bod y gyfrol wedi'i hysgrifennu yn y trydydd person. Mae perygl o swnio'n aruchel braidd wrth wneud hynny, a chan bod llawer yn ystyried Rushdie braidd yn ffroenuchel yn barod (yn haeddiannol neu beidio), mae wedi derbyn beirniadaeth am ei benderfyniad. Y cyfiawnhad, am wn i, yw ei fod yn fodd o bwysleisio'r ffaith iddo orfod rhoi'r gorau i fod yn ef ei hun i bob pwrpas. Mae hefyd yn ei alluogi i ysgrifennu'n fwy blodeuog na phetai'n defnyddio'r person cyntaf. O ganlyniad, mae llawer o'r llyfr yn darllen fel ei nofelau.

Adolygiadau cymysg a gafodd y gyfrol, mae'n debyg. Mae hwn gan Zoë Heller yn y New York Review Of Books bron yn chwedlonol erbyn hyn; campwaith o hatchet job llenyddol. Mae'n hwyl i'w ddarllen, ac mae gwirioneddau ynddo (yn enwedig ynghylch ei bortreadau o'i bedair cyn-wraig) ond mae'n annheg ar y cyfan. Yn fy marn i mae'r llyfr yn afaelgar ac mae'n trafod mater eithriadol o bwysig. Rwy'n fodlon maddau ambell ddarn sy'n gwneud fawr ddim mwy na rhestru'r holl enwogion y mae Rushdie wedi swpera â hwy. Mae'r dyn yn luvvie eithaf digywilydd, ac ar ôl yr hyn y bu raid iddo'i ddioddef, os rywbeth rwy'n eithaf hapus drosto.

A dweud y gwir, os rywbeth nid yw arwyddocâd y fatwā wedi cael ei werthfawrogi'n llawn hyd heddiw. Rwy'n teimlo ambell waith bod angen atgoffa pobl o'r hyn a ddigwyddodd: fe "ddedfrydwyd" dyn o un wlad i farwolaeth gan bennaeth gwladwriaeth arall, am ysgfrifennu darn o ffuglen, ac fe neilltuwyd arian mawr i wobrywo'r sawl aiff ati i gyflawni'r llofruddiad. Mae hynny'n wirioneddol wallgof, ac mae rhoi'r mymryn lleiaf o fai ar Rushdie ei hun am yr hyn a ddigwyddodd (ac am gost ei ddiogelu ac ati) yn gwbl anfaddeuol ac anfoesol. Mae llawer o "ryddfrydwyr" honedig yn euog o hynny; rhag eu cywilydd. Ond rwy'n credu bod rhai pobl mwy cefnogol hefyd yn anghofio pa mor ddifrifol yn union oedd y fath ymosodiad uniongyrchol ar ryddid syml, hanfodol a chreiddiol.


Mwy nag unwaith, mae'r awdur yn galaru'r ffaith iddo gael ei amddifadu o'r cyfle i dderbyn beirniadaeth lenyddol deg ac aeddfed i The Satanic Verses. Yn ogystal â difetha ei fywyd yn ymarferol am ddegawd - roedd mynd am dro yn gofyn am oriau o baratoi gan ei warchodwyr - roedd y fatwā'n amlwg yn gysgod anferth dros yr ymateb i'r llyfr. Yn hytrach na thrafod hynt a helynt y cymeriadau, daeth y nofel yn fawr mwy na phêl mewn gêm geoboliticaidd. Er ei fod bellach, o'r diwedd, yn gallu byw ei fywyd yn agored a diogel, erys y cysgod hwnnw. Y gwir amdani yw bod trafod y gyfrol hyd heddiw yn amhosibl heb grybwyll y fatwā. Waeth i mi fod yn onest: mae'n siwr bod y fatwā'n reswm i mi fy hun fynd ati i ddarllen The Satanic Verses (fe'i hoffais, gyda llaw). Fersiwn eithafol o effaith Streisand ar waith, am wn i. Mae ymdrechion i sensro darnau o gelfyddyd yn sbarduno mwy o chwilfrydedd a diddordeb, bron yn ddieithriad. Am y rheswm hwnnw, mae sawl twpsyn wedi cyhuddo Rushdie o chwenych ffrae'n fwriadol er mwyn gwneud ei ffortiwn. Mae'r sarhad yn warthus, gan fod yr awdur wedi bod yn garcharor, i bob pwrpas, am ddegawd; hyd yn oed petai'n wir ei fod wedi troi'n ddyn cyfoethog, pa bris rhyddid? Beth bynnag, am flynyddoedd lawer roedd yn edrych yn annhebygol y byddai cyhoeddiad clawr meddal o'r nofel yn gweld golau dydd o gwbl.

Y pwynt trist yw bod safon a chynnwys y nofel ei hun bron yn amherthnasol erbyn hyn. Byddai Rushdie'n ddigalon iawn i ddarllen hynny. A dweud y gwir, yn yr hunangofiant mae'r awdur yn awgrymu bod llenyddiaeth "safonol" (fel ei gynnyrch ef, mae'n debyg) yn haeddu amddiffyniad cadarnach. Rhaid anghytuno'n chwyrn â hynny: mae rhyddid mynegiant creadigol yn berthnasol i bawb neu nid yw'n bodoli o gwbl; byddai blaenoriaethu ar sail safon goddrychol yn gofyn am drafferth. Nid oes dwywaith bod Innocence Of Muslims yn hollol ofnadwy, er enghraifft, ond mae'r ffilm a'i chynhyrchydd yn haeddu cael eu hamddiffyn llawn cymaint â The Satanic Verses a Rushdie.

Dywed Rushdie mai un o'i amcanion wrth ysgrifennu Joseph Anton oedd rhoi cysgod y fatwā y tu cefn iddo unwaith ac am byth. Mae'r sefyllfa bresennol yn annheg, a dywed ei fod yn blino weithiau ar ateb cwestiynau am hynny'n hytrach na thrafod cynnwys ei ffuglen. Ei obaith yn y dyfodol pan fydd pobl yn ei holi am hynny yw gallu pwyntio at y gyfrol swmpus yma fel ateb, a cheisio newid trywydd y sgwrs tuag at faterion llenyddol. Bydd hynny'n anodd, ond rwy'n dymuno pob lwc iddo.

17/09/2013

Crefydd a dillad

Mae'r gorchudd islamaidd yn y newyddion unwaith eto, wedi i farnwr fynnu bod rhaid i fenyw ddangos ei gwyneb wrth roi tystiolaeth mewn achos llys.

Mae'r nicáb, a dillad tebyg fel y bwrca, yn ofnadwy, ac maent yn sarhad mawr ar fenywod a dynion. Ond, fel yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen, nid wyf yn cefnogi gwaharddiad llawn a chyffredinol, fel a geir yn Ffrainc. Yn syml, nid lle'r wladwriaeth, yn fy marn i, yw deddfu ym maes ffasiwn. Mae gorfodi'r wisg ar unrhyw un yn anfoesol, ond mae gwahardd pobl sy'n dymuno gwisgo'r gorchudd rhag gwneud yr un mor broblematig.

Eto i gyd, roedd penderfyniad y barnwr yn hollol gall. Nid yw peidio gwahardd y gorchudd ym mywyd pob dydd yn golygu nad oes amgylchiadau arbennig lle mae angen gwneud am resymau ymarferol. Mae rhoi tystiolaeth mewn llys (lle mae angen i'r rheithgor weld yr ymatebion yn ogystal â'u clywed) yn un o'r amgylchiadau hynny.

Fy nadl yma eto yw na ddylid trin credoau crefyddol yn wahanol i unrhyw gredoau eraill. Roedd trafodaeth ar y pwnc ar raglen Today (2:40:40) y bore 'ma, a gofynnodd John Humphrys i un o'r gwesteion a ddylid caniatáu iddo wisgo sach am ei ben petai'n ymddangos mewn llys. Ei hymateb hi oedd bod hynny'n "abswrd", gan fod dyhead y fenyw o dan sylw'n deillio o'i chredoau crefyddol. Ond nid yw'r cwestiwn yn abswrd o gwbl. Pam trin credoau crefyddol yn wahanol? Pam ddylai'r rheswm am ei dymuniad i wisgo dillad dwl fod yn berthnasol?

Problem ymarferol gyda gwneud eithriad ar gyfer crefydd yw nad yw'n bosibl diffinio'r credoau hynny'n wrthrychol. Dychmygwch, er hwyl, bod John Humphrys yn cael profiad od sy'n ei sbarduno i ddechrau crefydd newydd, ac mai un o reolau'r ffydd yw bod angen i ddynion wisgo sachau am eu pennau. Mae'r syniad yn ddoniol, ond beth petai'n cydio? Nid cellwair hypothetig yn unig mo hyn: soniais ddwy flynedd yn ôl am ddyn o Awstria'n ennill yr hawl i wisgo hidlydd ar ei ben yn ei lun drwydded yrru. Gwneud pwynt ydoedd, ac mae'n un dilys. Pwy sy'n penderfynu beth sy'n cyfrif fel credoau crefyddol didwyll? Yr unig ddatrysiad ymarferol i'r broblem yma yw i roi'r gorau i roi credoau crefyddol ar bedestal yn y lle cyntaf.

02/07/2013

Ynghylch gorfod amddiffyn Marine Le Pen

Mae safbwyntiau gwleidyddol Marine Le Pen yn hyll. Hi yw arweinydd y Front National yn Ffrainc, a merch ei rhagflaenydd, y mochyn Jean-Marie. Er hynny, mae'r newyddion yma'n warthus. Yn 2010, fe gymharodd fodolaeth mwslemiaid yn Ffrainc â goresgyniad y Natsïaid. O ganlyniad, mae hi wedi bod yn wynebu cyhuddiadau o "annog casineb crefyddol". Mae Senedd Ewrop bellach wedi diddymu ei himiwnedd, sy'n golygu y bydd yn cael ei herlyn mewn llys am fynegi barn.

Mae'r hyn a ddywedodd yn enghraifft amlwg o ragfarn afresymol, paranoid a dwl. Nid oes gennyf lawer o bethau caredig i'w dweud am islam, wrth gwrs, ond mae safbwyntiau Le Pen yn wallgof. Am y rheswm hwnnw, rwy'n anhapus bod angen i mi ei hamddiffyn. Ond ei hamddiffyn sydd raid. Mae cyfreithiau ynghylch "annog casineb crefyddol" yn syniad erchyll, ac ni ddylent fodoli o gwbl. Nid oes gan unrhyw un yr hawl i beidio cael eu hypsétio, ac ni ddylid trin un set o safbwyntiau yn wahanol i unrhyw safbwyntiau eraill.

Yn ogystal â bod yn anfoesol, y broblem arall yw bod hyn i gyd yn rhoi cyfle ar blât iddi honni ei bod yn ferthyr a'n dioddef erledigaeth. Yn yr achos yma, mae hi'n dweud y gwir.

16/06/2013

Dim atebion

Roeddwn yn un o'r gwesteion ar raglen fyw "@ebion" ar Radio Cymru heddiw. Gallwch wrando arni fan hyn, a bydd yn cael ei hail-ddarlledu nos Wener am 9.

Priodasau cyfartal oedd y pwnc, a'r gwesteion eraill oedd Bethan Marlow ac Adrian Morgan. Adrian oedd yn siarad yn erbyn, yn erbyn dau o blaid.

Nid oeddwn yn teimlo'n nerfus o gwbl o flaen llaw (fy mhrif bryder oedd y perygl i mi regi), ond rhaid cyfaddef i don o nerfusrwydd lifo drosof wedi i mi eistedd lawr yn y stiwdio. Mae hynny i'w glywed ar y dechrau, ond teimlais yn fwy cyfforddus gydag amser.

Roedd dadlau ag Adrian yn brofiad rhwystredig iawn, mae'n rhaid dweud. Gofynnwyd fwy nag unwaith iddo am ateb i gwestiwn digon syml: sut yn union y mae caniatáu priodasau cyfartal yn mynd i darfu ar ei fywyd yntau? Yn anffodus, nid oedd ganddo rhyw lawer i'w gynnig heblaw am y jargon diwinyddol cyfarwydd (nid wyf ar frys i glywed yr ymadrodd "cyfamod ger bron Duw" eto'n fuan): siarad a siarad (a siarad) heb ddweud unrhyw beth o werth oedd hyn. Llenwi'r amser oedd yr unig amcan, hyd y gwelaf i.

Fe ddisgrifiodd y nodweddion sy'n diffinio perthynas rhwng gŵr a gwraig (yn ei dyb ef), ond pan ofynnwyd iddo egluro sut yn union y mae perthynasau cyfunrywiol yn wahanol yn hynny o beth, ni chafwyd ateb ystyrlon i hynny chwaith. A dweud y gwir, hoffwn gynnig medal i unrhyw un sy'n gallu deall ei ymdrech i gysoni ei gefnogaeth honedig i'r egwyddor o gydraddoldeb ar un llaw a'i ddyhead i wrthod hawliau cyfartal i gyplau hoyw ar y llaw arall.

Efallai y dylwn fod wedi bod yn fwy ymosodol a thorri ar draws yn amlach. Rwy'n ymwybodol bod hynny'n gallu bod yn bla mewn trafodaethau radio, gan amharu ar lif y sgwrs, ond mae angen gwneud weithiau pan mae un person yn gwastraffu cymaint o amser gyda geiriau gwag. Er enghraifft, rwy'n difaru peidio ymateb pan awgrymodd Adrian bod ei reddfau naturiol o bryd i'w gilydd yn peri iddo gael ei demtio i fynd yn groes i ewyllys ei dduw. Pan mae cristnogion yn dweud pethau fel hyn, yr awgrym wrth gwrs yw mai'r unig beth sy'n eu rhwystro rhag camymddwyn yw'r syniad bod Duw'n edrych arnynt ac nad ydynt eisiau ei bechu. Mae hynny'n golygu eu bod yn llai moesol na mi mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n llwyddo'n ddigon di-drafferth i fyw bywyd digon moesol er nad wyf yn credu bod yna oruchwyliwr cosmig yn cadw golwg arnaf. Y rheswm am hynny yw bod gennyf system foesoldeb aeddfed y mae modd ei egluro mewn termau seciwlar a rhesymegol.

Er ychydig o rwystredigaeth, fodd bynnag, bu i mi fwynhau'r profiad yn fawr. Roeddwn yn siomedig pan ddaeth y rhaglen i ben, oherwydd roedd gennyf lawer iawn mwy i'w ddweud. Byddwn yn hapus iawn i wneud y math yma o beth eto pe daw'r cyfle.