Mae'r gorchudd islamaidd yn y newyddion unwaith eto, wedi i farnwr fynnu bod rhaid i fenyw ddangos ei gwyneb wrth roi tystiolaeth mewn achos llys.
Mae'r nicáb, a dillad tebyg fel y bwrca, yn ofnadwy, ac maent yn sarhad mawr ar fenywod a dynion. Ond, fel yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen, nid wyf yn cefnogi gwaharddiad llawn a chyffredinol, fel a geir yn Ffrainc. Yn syml, nid lle'r wladwriaeth, yn fy marn i, yw deddfu ym maes ffasiwn. Mae gorfodi'r wisg ar unrhyw un yn anfoesol, ond mae gwahardd pobl sy'n dymuno gwisgo'r gorchudd rhag gwneud yr un mor broblematig.
Eto i gyd, roedd penderfyniad y barnwr yn hollol gall. Nid yw peidio gwahardd y gorchudd ym mywyd pob dydd yn golygu nad oes amgylchiadau arbennig lle mae angen gwneud am resymau ymarferol. Mae rhoi tystiolaeth mewn llys (lle mae angen i'r rheithgor weld yr ymatebion yn ogystal â'u clywed) yn un o'r amgylchiadau hynny.
Fy nadl yma eto yw na ddylid trin credoau crefyddol yn wahanol i unrhyw gredoau eraill. Roedd trafodaeth ar y pwnc ar raglen Today (2:40:40) y bore 'ma, a gofynnodd John Humphrys i un o'r gwesteion a ddylid caniatáu iddo wisgo sach am ei ben petai'n ymddangos mewn llys. Ei hymateb hi oedd bod hynny'n "abswrd", gan fod dyhead y fenyw o dan sylw'n deillio o'i chredoau crefyddol. Ond nid yw'r cwestiwn yn abswrd o gwbl. Pam trin credoau crefyddol yn wahanol? Pam ddylai'r rheswm am ei dymuniad i wisgo dillad dwl fod yn berthnasol?
Problem ymarferol gyda gwneud eithriad ar gyfer crefydd yw nad yw'n bosibl diffinio'r credoau hynny'n wrthrychol. Dychmygwch, er hwyl, bod John Humphrys yn cael profiad od sy'n ei sbarduno i ddechrau crefydd newydd, ac mai un o reolau'r ffydd yw bod angen i ddynion wisgo sachau am eu pennau. Mae'r syniad yn ddoniol, ond beth petai'n cydio? Nid cellwair hypothetig yn unig mo hyn: soniais ddwy flynedd yn ôl am ddyn o Awstria'n ennill yr hawl i wisgo hidlydd ar ei ben yn ei lun drwydded yrru. Gwneud pwynt ydoedd, ac mae'n un dilys. Pwy sy'n penderfynu beth sy'n cyfrif fel credoau crefyddol didwyll? Yr unig ddatrysiad ymarferol i'r broblem yma yw i roi'r gorau i roi credoau crefyddol ar bedestal yn y lle cyntaf.
Dwi'n amau bod rhai o'r rheiny sy'n galw eu hunain yn Jedi yn credu go iawn yn eu "ffydd", ond dwi'n meddwl bod y mwyafrif yn gweld eu 'crefydd' fel rhywbeth sy'n pwyntio mas pa mor dwl ac [i]arbitrary[/i] yw'r pethau yma. Glywaist ti am y boi yna gafodd ei gicio allan o tescos Caergybi am wrthod dynnu ei hwdi? Difyr iawn.
ReplyDeleteWn i ddim, mae rhai ffans Star Wars yn eithaf hardcore!
ReplyDelete