Showing posts with label llyfrau. Show all posts
Showing posts with label llyfrau. Show all posts

12/12/2021

Apostol

Mae Iddew gan Dyfed Edwards yn gorffen gydag epilog byr, chwe blynedd ar ôl croeshoelio Yeshua (sef Iesu Grist), lle mae rhai o ddilynwyr y meseia honedig yn gwrando ar yr hyn sydd gan ddyn diarth o'r enw Shau'l, nad oedd wedi ymddangos yn y stori cyn hyn, i'w ddweud am y ffydd newydd. Bu'r dyn hwn yn erlid Mudiad Yeshua nes yn ddiweddar, ond cafodd droedigaeth ac mae bellach yn ferw gwyllt o syniadau am sut i ledaenu'r efengyl newydd. Mae dilynwyr Yeshua'n gwrando arno'n ansicr. A dyna ragflas o'r nofel ddilynol, sef Apostol.

Shau'l, wrth gwrs, yw Paulos Saoul Tarsos (yr Apostol Paul), a'i stori ef a gawn yn Apostol. Mae'n erlid a'n tystio'n erbyn dilynwyr Yeshua ar ddechrau'r nofel, cyn cael y droedigaeth enwog ar y ffordd i Ddamasq (Damascws) sy'n ei ysgogi i frysio'n ôl ac ymlaen yn gynhyrfus ar hyd arfordir dwyreiniol Môr y Canoldir i bregethu, i ddenu Cristnogion newydd a sefydlu eglwysi di-rif. 

Mae'r stori o'r pwynt hwn yn canolbwyntio ar yr elyniaeth rhwng dilynwyr Yeshua (Kepha a Yakov yn enwedig, sef Pedr a Iago, brawd Iesu) a Paulos, sy'n parhau hyd yn oed ar ôl i hwnnw weld y goleuni. Hawdd yw dychmygu y byddai cyfeillion agos Iesu Grist wedi bod yn bur brin eu hamynedd gyda'r dieithryn rhyfedd yma a oedd mor elyniaethus tuag at y grefydd newydd ond a aeth ati nid yn unig i'w chofleidio ond i herio dehongliad cyfeillion Iesu eu hunain o'r ffydd, gan fynnu'n syth ei fod wedi cael ei ddewis gan eu duw i hyrwyddo dehongliad newydd. O gofio bod aelodau'r Mudiad wedi adnabod Yeshua a'i ystyried yn ffrind (ac yn achos Yakov, wedi tyfu fyny gydag ef), tra nad oedd Paulos wedi cwrdd ag ef erioed, nid oes ryfedd eu bod wedi'i ystyried yn ddyn haerllug ar y naw.

Dangosodd Iddew sut y gall crefydd newydd fel Cristnogaeth fod wedi deillio o ddigwyddiadau perffaith naturiol a di-nod. Yn Apostol, cawn boetread realistig dros ben o'r ffraeo a'r cecru wrth i athrawiaethau crefydd newydd gael eu pennu (a'u dyfeisio ar fympwy) yn y dyddiau cynnar. Neges Apostol, rwy'n creduyw mai Paul, nid Iesu Grist, yw'r person pwysicaf yn hanes Cristnogaeth. A dweud y gwir, bron y gallwn awgrymu bod Iesu Grist y person ei hun yn amherthasol. Canfas gwag oedd Iesu i Paul, i bob pwrpas; byddai unrhyw berson arall wedi gwneud y tro llawn cystal. 

Obsesiwn mawr Paul oedd y syniad o berthynas uniongyrchol gyda'r meseia. O'r herwydd, roedd yn eithriadol o awyddus i gyflwyno'r ffydd newydd i holl genhedloedd y byd, nid dim ond yr Iddewon. Yn groes i Kepha/Pedr a Yakov/Iago, mynnodd nad oedd rhaid i ddynion gael eu henwaedu, na dilyn rhai o gyfreithiau mawr eraill yr Iddewon, er mwyn cael eu derbyn. 

Teg iawn dweud felly mai creadigaeth Paul yw Cristnogaeth. I Paul mae'r diolch (neu, efallai, y diawlio) bod Cristnogaeth wedi lledaenu i bob cornel o'r byd. Gwnaeth Gristnogaeth yn bopeth i bawb, gan ganiatáu'r hyblygrwydd hwnnw a alluogodd y grefydd i addasu i wahanol gymunedau ac amgylchiadau.

Mae arddull Apostol yn debyg iawn i Iddew, gyda'r un ail-adrodd rhythmig lled Feiblaidd, a defnydd helaeth o enwau Hebraeg a ieithoedd Beiblaidd eraill. Unwaith eto, mae'r stori yn eithriadol o afaelgar. Dyma ddwy o'r nofelau gorau yn ein hiaith, yn fy marn i. Mae'n ddiddorol, serch hynny, nad yw'r un o'r cymeriadau yn arbennig o hoffus (yn rhyfedd ddigon, rwy'n credu mai'r cymeriad y cydymdeimlais fwyaf ag ef dros y ddwy nofel oedd Yeshua ei hun). Mae Paulos yn ddyn carismataidd dros ben, wrth reswm, ond hefyd yn rhyfedd, blin ac ystyfnig fel mul. Hawdd iawn yw dychmygu bod portread y nofel o'r dyn go iawn yn agos iawn ati.

05/07/2021

Marchogion cibddall: tranc yr Anffyddiaeth Newydd

 Dyma fersiwn hirach o'r ysgrif gennyf a gyhoeddwyd yn rhifyn haf 2020 o O'r Pedwar Gwynt

------

Ym mis Medi 2007, tros goctêls, cafodd Richard Dawkins, Sam Harris, Daniel Dennett a’r diweddar Christopher Hitchens sgwrs am ddiffygion crefydd. Rhoddwyd fideo o’r drafodaeth, sy’n ddwy awr o hyd, ar YouTube, gyda’r teitl The Four Horsemen, cyfeiriad at y cymeriadau enwog o Lyfr y Datguddiad. Roedd y pedwar eisoes wedi cyhoeddi llyfrau polemig gwrth-grefyddol erbyn hynny (The God Delusion gan Dawkins, The End Of Faith gan Harris, Breaking The Spell gan Dennett, a God Is Not Great gan Hitchens), a roedd y syniad bod rhywbeth o’r enw’r ‘New Atheism’ ar droed eisoes wedi cael ei awgrymu mewn erthygl yn y cylchgrawn Wired y flwyddyn gynt. Dehonglwyd cyhoeddi’r fideo fel rhyw fath o gadarnhad o hynny; yn wir, The Discussion That Sparked An Atheist Revolution yw is-deitl trawsgrifiad o sgwrs The Four Horsemen sydd bellach, ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, wedi’i chyhoeddi ar ffurf cyfrol fer.

Wrth gwrs, fel roedd llawer o’r Anffyddwyr Newydd eu hunain yn prysuro i’w nodi, nid oedd rhyw lawer yn wreiddiol am ddadleuon y mudiad mewn gwirionedd. Y sylw a’r diddordeb yn y cyfryngau ac ymysg pobl gyffredin oedd yn newydd. Mae’n wir nad yw’r achos yn erbyn crefydd wedi newid rhyw lawer dros y ganrif ddiwethaf, ac o’r herwydd fe gyhuddir anffyddwyr o swnio’n ddiflas ac ail-adroddus. Er bod elfen o wirionedd yn y cyhuddiad, nid yw’n un teg, oherwydd nid bai anffyddwyr yw’r ffaith bod crefyddwyr yn parhau i fethu ateb y dadleuon a chynnig rhesymau synhwyrol i gredu ym modolaeth eu duwiau.

Mae’r rhan fwyaf o’r hyn a ddywed y pedwar yn ystod eu sgwrs yn berffaith gywir. I anffyddiwr rhonc fel fi , mae’r fideo a’r llyfr yn cynnwys digon o gig coch boddhaol. Oes, mae angen rhoi’r gorau i osod crefydd ar bedestal annhaeddiannol, a dylid, yn hytrach, ei gwerthuso ar yr un lefel a chyda’r un rhyddid ag yr ydym yn trafod pob ideoleg arall. Ydi, mae safbwynt y crefyddwyr yn drahaus yn ei hanfod, gan mai nhw sy’n honni, heb ronyn o dystiolaeth, bod y bydysawd wedi’i greu yn unswydd ar eu cyfer a bod ganddynt berthynas bersonol â’r creawdwr hollalluog. Ydyn, mae diwinyddwyr yn euog o bedlera fflwff gor-eiriog ffug-ddwys sydd, yn amlach na pheidio, yn gwrth-ddweud yr hyn a bregethir i bobl gyffredin mewn addoldai ar lawr gwlad.

Wrth gwrs, mae ail-adrodd yr hen ddadleuon hyn yn annhebygol o newid meddwl unrhyw berson crefyddol o argyhoeddiad. Eto i gyd, mae’n bwysig parhau i roi’r achos ger bron, er budd yr holl bobl hynny yn y canol sydd heb eto ffurfio barn gref y naill ffordd na’r llall. Celwydd yw pob crefydd, a doeth, fel rheol, yw osgoi credu celwyddau. Dw i ddim yn obeithiol y daw dydd pan fydd crefydd wedi diflannu, ond mae’n uchelgais i anelu ato, a mae angen mudiad sy’n fodlon dweud hyn i gyd yn blaen.

Wedi dweud hyn i gyd, roedd darllen y trawsgrifiad ac ail-wylio’r fideo, wedi’r holl flynyddoedd, yn deimlad chwithig. Yn un peth, mae rhannau o’r sgwrs yn swnio’n boenus o hunan-fodlon hyd yn oed i mi, a mae rhagair Stephen Fry, gyda’i gyfeiriadau at y ‘Four Musketeers of the Mind’, yn mynd dros ben llestri a dweud y lleiaf. Ond yn fwy na hynny, mae ergyd y geiriau wedi pylu yng ngoleuni’r hyn sydd wedi digwydd ers y sgwrs, oherwydd mae’n anodd peidio teimlo bod yr Anffyddiaeth Newydd, erbyn hyn, wedi chwythu’i phlwc. Yn wir, efallai bod y penderfyniad i gyhoeddi’r llyfr yn gydnabyddiaeth anfwriadol o hynny. Ai chwyldro parhaus a gyfeirir ato yn is-deitl y gyfrol, ynteu cyfnod penodol a byr yn ein hanes diweddar yr ydym bellach yn gallu syllu’n ôl arno, post-mortem?

Os darfod a wnaeth, beth aeth o’i le? Wel, efallai mai un o’r pethau cyntaf i’ch taro am y sgwrs yw’r ffaith bod y Pedwar Marchog yn ddynion gwyn i gyd. Dylid cofio, am wn i, mai’r bwriad gwreiddiol oedd cynnwys Ayaan Hirsi Ali, awdures o dras Somalaidd, ond gorfu iddi ganslo ar y funud olaf (roedd hynny’n anffodus, ond o leiaf cawsom osgoi gwireddu’r cynllun i ddefnyddio’r teitl Five Pillars Of Wisdom, a fyddai wedi bod hyd yn waeth na’r un ar gyfer y pedwar). Ond fe gariodd y dynion ymlaen hebddi, a roedd y canlyniad yn syrffedus o anghynrychiadol.

O edrych ar y sawl sy’n cael trafod anffyddiaeth yn y cyfryngau neu ar banelau mewn cynadleddau, gellir maddau rhywun am dybio nad oes rhyw lawer o fenywod nac aelodau o leiafrifoedd ethnig o fewn y mudiad. Mae’n ddadlennol bod llyfr gan ddynes a gyhoeddwyd yn 2003 – cyn rhai’r Pedwar Marchog – yn cael ei adael allan o bob trafodaeth am yr Anffyddiaeth Newydd. Dymuniad Jennifer Michael Hecht, mae’n debyg, oedd galw’r gyfrol yn A History Of Atheism, ond mynnodd y cyhoeddwyr ar Doubt: A History. Mae’n lyfr ysgolheigaidd, trwyadl, a rhyfeddol ei rychwant, gan olrhain anffyddiaeth ac anuniongrededd crefyddol o 800CC hyd at y presennol. Ysywaeth, mae’n anodd peidio tybio y byddai Hecht wedi ennill llawer mwy o sylw dyledus a chael ei chydnabod fel un o arloeswyr mudiad newydd petai wedi cael ei ffordd gyda’r teitl. Rhaid oedd aros am y dynion cyn derbyn bod marchnad ar gyfer y math yna o beth, fe ymddengys.

Bu’r duedd i ddyrchafu dynion gwyn, yn hytrach nag adlewyrchu’r gymdeithas amrywiol fodern, yn drychinebus i’r Anffyddiaeth Newydd. Yn waeth na hynny, digalondid mawr oedd gweld anffyddwyr enwog yn cwyno am social justice warriors a ‘chywirdeb gwleidyddol’. Dyma, yn wir, achosodd yr hollt fwyaf (ac, yn fy marn i, andwyol) yn y mudiad. Ar y naill ochr, ceir y garfan sy’n mynnu mai ystyr anffyddiaeth yw diffyg ffydd mewn duw, a dim byd arall. Dyma anffyddiaeth fel canfas wag, heb iddi unrhyw oblygiadau gwleidyddol penodol tu hwnt i’w diffiniad geiriadurol. Ar yr ochr arall mae’r sawl sy’n dadlau bod angen i anffyddiaeth roi lle blaenllaw i gyfiawnder cymdeithasol; yn wir, na ellir cael y gyntaf heb yr ail. Dw i’n cyfrif fy hun ymysg yr ail garfan: wedi’r cyfan, nid yw'n gwneud synnwyr i wrthwynebu crefyddau heb hefyd herio a chywiro'r anghyfiawnderau a rhagfarnau misogynistaidd, hiliol a gwrth-gyfunrywiol a fu’n elfennau mor annatod ohonynt ar hyd y blynyddoedd. Nid yw’r rhwyg yma’n unigryw i’r mudiad anffyddiaeth, wrth gwrs. Mae paralel clir yn rhygnu ar hyn o bryd yn y mudiad cenedlaethol yng Nghymru, gydag un ochr yn mynnu mai ystyr annibyniaeth yw ymwahanu oddi wrth Loegr a dim byd arall, gan ddilorni niche issues yr ochr arall sy’n ceisio mynd i’r afael, o flaen llaw, â sut fath o Gymru rydd y maent yn dymuno’i hennill.

Mae’r ‘sgandal’ penodol (os dyna’r gair) a ddaeth â’r hollt yma i wyneb yr Anffyddiaeth Newydd bron yn rhy wirion i’w ddisgrifio, ond dw i am fentro gwneud gan mai natur chwerthinllyd y saga yw’r union bwynt. Yn gryno iawn: yn 2011, am 4 y bore yn ystod y Global Atheist Convention yn Nulyn, roedd y blogwraig Rebecca Watson ar ei ffordd i’w hystafell westy i glwydo ar ôl diwrnod prysur o gynadledda ac ymddiddan yn y bar. Fe’i dilynwyd gan ddyn, un o’r mynychwyr eraill nad oedd yn gyfarwydd iddi, a’i gwahoddodd i’w ystafell yntau am goffi. Drannoeth, cyhoeddodd Watson fideo am ei diwrnod, gan gynnwys sylwadau byr a phwyllog, wrth fynd heibio, am y digwyddiad lled anghyfforddus yn y lifft. ‘Just a word to the wise here, guys: don't do that’, meddai. Buasech wedi disgwyl mai dyna fyddai diwedd y mater, ond yn anffodus cafwyd ymateb blin i’w chyngor ysgafn. Yn fuan wedyn, mewn sylw arlein drwg-enwog, tywalltodd Richard Dawkins ei hun betrol ar y fflamau trwy wawdio Watson a gwrthgyferbynu ei chŵyn gyda’r gorthrwm sy’n wynebu menywod Mwslemaidd mewn gwladwriaethau ffwndamentalaidd. Trodd hynny’r ffrae yn ‘Elevatorgate’, ac mae’r cecru’n parhau hyd heddiw. Efallai mai naïf oedd disgwyl i griw o bobl sy’n ymhyfrydu yn eu gallu rhesymegu fod yn well na’r math yma o nonsens, ond roedd nodyn Dawkins yn enwedig yn destun siom anferthol i lawer. Fe ymddiheurodd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ond roedd y drwg wedi’i wneud. Mae’r ffaith bod nifer o anffyddwyr blaenllaw wedi’u cyhuddo o gamymddwyn yn rhywiol tuag at fenywod yn y blynyddoedd ers hynny’n dangos peryglon anwybyddu’r fath rybuddion.

Aeth Dawkins yn ei flaen i ddifetha’i enw da ymhellach trwy gyhoeddi cyfres o sylwadau dwl, am Islam yn bennaf, ar Twitter. Efallai mai’r enghraifft enwocaf oedd ei drydariad yn nodi’r ffaith bod Coleg y Drindod, Caergrawnt, wedi ennill mwy o Wobrau Nobel na’r holl fyd Mwslemaidd. Does dim byd am y sylw’n ffeithiol anghywir, ond mae mor gamarweiniol ac arwynebol mae gystal â rhaffu celwydd noeth.

Yn anffodus, daeth agweddau trafferthus tuag at Islam i nodweddu’r Anffyddiaeth Newydd yn ei chyfanrwydd yn y blynyddoedd diwethaf. Gwir y gellir dehongli dyfodiad y mudiad, i raddau o leiaf, fel ymateb i ymosodiadau terfysgol Medi 11, 2001,  a rhwystredigaeth bod rhyddfrydwyr a’r chwith yn amharod i feirniadu Islam. Dw i dal i gredu bod sail i’r rhwystredigaeth honno, ond fe garlamodd gormod o anffyddwyr yn rhy bell i’r cyfeiriad arall, gan dargedu Mwslemiaid fel pobl yn hytrach nag Islam fel cagliad o syniadau. Mae’n siwr mai’r sylw gwaethaf un yn The Four Horsemen yw’r canlynol gan Christopher Hitchens: ‘I think it’s us, plus the 82nd Airborne and the 101st, who are the real fighters for secularism at the moment’. Anodd yw credu bod datganiad mor dwp wedi dod o enau dyn a oedd mor enwog am ei ddeallusrwydd. Mae’r syniad mai hyrwyddo seciwlariaeth oedd bwriad George W Bush yn ddigon dwl, ond mae’r sylw’n anfaddeuol o gofio bod y dinistr a achoswyd gan y rhyfeloedd yn Affganistan ac Irác eisoes yn hysbys ac amlwg erbyn Medi 2007.

Sgwn i pa drywydd deallusol byddai Hitchens wedi’i ddilyn pe na bai wedi marw yn 2011? Byddai wedi mwynhau dweud pethau cas am ynfytyn fel Donald Trump, yn sicr, ond dw i’n ofni byddai’i gasineb tuag at Fwslemiaid wedi’i arwain i glosio tuag at yr alt-right. Dyna, yn anffodus, ble mae Sam Harris heddiw. Mae Harris wedi dweud yn blaen y dylai system fewnfudo America ffafrio Cristnogion ar draul Mwslemiaid, wedi dadlau o blaid ‘proffeilio’ pobl sy’n ‘edrych yn Fwslemaidd’ mewn meysydd awyr (hynny yw, eu targedu ar gyfer chwiliadau diogelwch pellach), wedi cyfiawnhau artaith, a hefyd (ar ffurf ‘arbrawf feddyliol’) wedi cefnogi’r syniad o daro’n gyntaf yn erbyn jihadwyr gyda bom niwclear. Ar ben hyn, mae ganddo obsesiwn sinistr gyda’r syniad bod gwahaniaethau IQ i’w gweld rhwng grwpiau ethnig (oes angen dyfalu pwy sydd ar y brig?). Er nad oes tystiolaeth o fath yn byd bod hynny’n wir (nac ychwaith bod ‘hil’ yn gysyniad gwyddonol ystyrlon yn y lle cyntaf), mynna Harris bod y gwrthwynebiad i’r syniad hwn wedi’i seilio ar ‘politically-correct moral panic’.

Ystyrir Daniel Dennett y mwyaf cymhedrol o’r Marchogion. Efallai bod hynny, yn fwy na dim, oherwydd ei fod yn gymharol dawel ar y cyfryngau cymdeithasol, ac felly heb eto roi ei droed ynddi. Beth bynnag, mae gan o leiaf dri o’r Pedwar Marchog hanes o ddweud pethau afresymol a rhagfarnllyd. Mae gwybod hynny’n bownd o bylu ergyd eu geiriau wrth i ni’u darllen yn cytuno’n hunangyfiawn am bwysigrwydd seilio safbwyntiau ar dystiolaeth a rhesymeg. Mae pawb yn ystyried Rhesymeg yn beth da, ond canlyniad hynny yw ei fod yn colli pob ystyr, gan fod pawb, gan gynnwys llawer iawn o bobl heb yr un asgwrn rhesymegol yn eu corff, yn ei hawlio. Yn anffodus, nid yw’r Marchogion eu hunain wedi dangos eu bod fawr mwy tebygol o ymddwyn yn rhesymegol yn hytrach na bodloni ar ei ddatgan fel rhyw fath o air hud.

Gyda thwf y dde eithafol, mae’r byd wedi newid cryn dipyn ers 2007. Er bod fy naliadau gwrth-grefyddol mor gryf ag erioed, maent wedi syrthio yn fy rhestr flaenoriaethau. Y dde senoffobaidd, adweithiol ac awdurdodaidd yw’r gelyn pennaf erbyn hyn, ac yn hynny o beth mae’n amhosibl ystyried pobl fel Sam Harris ar yr un ochr â mi. Bu llawer gormod o or-gyffwrdd rhwng yr alt-right ac elfennau o’r Anffyddiaeth Newydd, er mai Donald Trump, y godinebwr celwyddog di-foes, yw’r arlywydd mwyaf poblogaidd erioed ymysg efengylwyr America.

A yw tranc yr Anffyddiaeth Newydd yn barhaol, felly? Ni fuaswn i’n dweud hynny. Gan nad yw crefydd am ddiflannu, bydd galw o hyd am fudiad sy’n fodlon herio’i nonsens. Mae’n holl-bwysig, fodd bynnag, bod unrhyw Anffyddiaeth Newydd Newydd yn cofleidio amrywiaeth y byd modern, yn rhoi llwyfan i leisiau gwahanol, a chroesawu pawb. Methiant mawr chwyldro The Four Horsemen oedd peidio dangos sut y byddai byd heb grefydd yn rhagori ar yr un presennol. Os na fydd y chwyldro nesaf, os cawn un, yn cyflawni hynny, byr-hoedlog fydd hwnnw hefyd.

29/08/2020

Ysgrif gen i yn O'r Pedwar Gwynt

Braint fawr oedd cael cyfrannu ysgrif i rifyn diweddaraf fy hoff gylchgrawn, O'r Pedwar Gwynt. Adolygiad yw'r erthygl o'r llyfr The Four Horsemen, sef trawgrifiad o sgwrs Richard Dawkins, Sam Harris, Daniel Dennett a'r diweddar Christopher Hitchens yn 2007 ynghylch crefydd a'i diffygion. Roedd adolygu'r gyfrol yn gyfle i ofyn beth aeth o'i le gyda'r Anffyddiaeth Newydd fel mudiad.

Mae'r ysgrif ar gael i danysgrifwyr O'r Pedwar Gwynt, ar eu gwefan.



23/10/2018

Beth wnaeth America i'w brodorion

Mae Bury My Heart At Wounded Knee yn un o'r llyfrau anoddaf i mi'i ddarllen erioed. Nid oherwydd nad yw'n dda, ond am fod y straeon di-ddiwedd am sefyllfa amhosibl yr amryw lwythau brodorol yn America yn y 19eg ganrif mor ddidrugaredd o dorcalonnus.

Am rai canrifoedd wedi dyfodiad yr Ewropeaid ar ddiwedd y 15eg ganrif, roedd agwedd y brodorion tuag at y mewnfudwyr yn rhyfeddol o groesawgar ar y cyfan. Ond wrth gwrs erbyn dechrau'r 19eg ganrif roedd y boblogaeth wyn wedi cynyddu'n sylweddol, gyda llawer iawn mwy i ddod. Yn y 1830au, gyda'r Indian Removal Act, mynnwyd yn syml y dylid gorfodi llwythau brodorol y dde-ddwyrain i symud i'r gorllewin o'r Mississippi. Dyma amser y Llwybr Dagrau.

Mae prif ffocws y llyfr ar y cyfnod o ddechrau'r 1860au hyd at 1890. Dyma pryd aeth llywodraeth America ati o ddifrif i ddefnyddio dulliau milwrol i gael gwared ar 'broblem' y brodorion. Erbyn hynny roedd y llif o bobl wyn i'r gorllewin yn ddi-baid, llawer ohonynt wedi'u denu gan y gobaith o ddarganfod aur. Roedd gwrthdaro'n anochel, wrth i'r gwynion fynd ati i fynnu mwy a  mwy o dir y brodorion, trwy dwyll a thrais. Cynigwyd iawndal tila dros ben i'r amryw lwythau brodorol, i'w cymell i adael eu tiroedd traddodiadol a symud i warchodfeydd dieirth ac anial. Er bod gwrthod yn golygu wynebu cyrch milwrol i'w gorfodi, dyna wnaeth y rhan fwyaf. Ac er ambell eithriad nodedig - brwydr Little Bighorn, er enghraifft - roedd canlyniadau'r cyrchoedd hynny'n anorfod a chreulon.

Nid cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod hyn wedi digwydd wrth i'r Rhyfel Cartref ddod i ben; roedd angen rhywbeth newydd i gadw milwyr yr undeb yn brysur. Er eu bod newydd ymladd rhyfel i ryddfreinio pobl croenddu rhag system gaethwasiaeth y de, roedd yr un milwyr yn union yn hapus i ymgymryd â phrosiect glanhau ethnig.

Ac mae'n bwysig disgrifio'r hyn a ddigwyddodd yn yr union dermau hynny. Hil-laddiad yw'r hyn a wnaeth UDA er mwyn cyflawni ei 'thynged amlwg', ac nid hen hen hanes mohoni. Mae yna bobl yn fyw heddiw sy'n cofio pobl a fu fyw trwy'r cyfnod y mae'r llyfr yn ei ddisgrifio.

Trwy gyd-ddigwyddiad, rwyf newydd fod yn darllen casgliad o Selected Prose RS Thomas, sy'n cynnwys cyfieithiad Saesneg o adolygiad o Bury My Heart At Wounded Knee a gyhoeddodd y bardd yn wreiddiol yn Barn. Nid yw'r gwreiddiol gennyf wrth law, ond dyma ddarn o'r cyfieithiad:
On almost every occasion, it was the soldiers who fired the first shot, even though the Indians sent envoys of peace under a white flag to try to make peace. All this shows that the Americans had every intention of driving the Indians from their native lands. Some of the white men's actions can only be explained by stating that that they considered the Indians as less than human.
Bu sawl cyflafan. Yr hil-laddiad hwn oedd prif ysbrydoliaeth Hitler. Hyd heddiw, nid yw'r hyn a wnaed yn cael ei gydnabod yn ddigonol na'n cael ei ddisgrifio'n gywir. Mae darllen llyfr Dee Brown yn teimlo'n feichus ar brydiau, ond dyna'n union pam y dylid gwneud.

19/07/2018

Gwersi'r Holocost

Y broblem gydag anferthedd dychrynllyd yr Holocost yw bod tuedd i'w osod, fel petai, mewn categori ar wahan, y tu allan i hanes arferol, ac i bortreadu'r Natsïaid fel cartwnau. Perygl hynny yw i ni ddod yn ddirmygus o'r syniad bod modd i rywbeth tebyg ddigwydd eto. Mae cymharu pethau sy'n digwydd yn y presennol gyda'r hyn a ddatblygodd yn yr Almaen yn y 1930au yn aml yn cliché syrffedus, ond mae gwrthod dilysrwydd y gymhariaeth ym mhob achos (sef sut y dehonglir deddf Godwin erbyn hyn, er bod Mike Godwin ei hun wedi nodi bod cymharu â'r Natsïaid weithiau'n rhesymol) yn broblem hefyd.

Darllenais Black Earth gan yr hanesydd Timothy Snyder yn ddiweddar (ar ôl darllen ei gyfrol flaenorol Bloodlands y llynedd). Prif thema Snyder yw bod yr Holocost wedi dilyn trywydd gwahanol mewn ardaloedd gwahanol, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau gwleidyddol lleol. Yn benodol, un o'i brif ddadleuon yw i'r Holocost fod ar ei waethaf yn yr ardaloedd hynny lle roedd y wladwriaeth a sefydliadau sifig wedi cael eu dinistrio'n llwyr.

Y llefydd peryclaf i fod yn iddew (neu, i raddau llai, yn aelod o grwpiau lleiafrifol eraill) oedd i'r dwyrain o linell Molotov-Ribbentrop. Dyma'r ardaloedd a gollodd eu holl sefydliadau diolch i ymgyrch y Sofietiaid yn 1939, ac eto wedyn yn 1941 pan ddaeth y Natsïaid. Heb y sefydliadau hyn, a heb unrhyw fath o gyfundrefn gyfreithiol weithredol, roedd iddewon yn hollol ddi-amddiffyn. Cymhariaeth drawiadol mae Snyder yn ei gynnig i ddangos hyn yw Denmarc ac Estonia. Roedd Estonia cyn y rhyfel, yn ôl Snyder, yn llawer iawn llai gwrth-semitaidd na Denmarc. Er hynny, yn ystod yr Holocost, lladdwyd dros 99% o iddewon Estonia. Lladdwyd prin dim o iddewon Denmarc. Mae Snyder yn priodoli hyn i'r modd y dinistrwyd gwladwriaeth Estonia yn gyfan gwbl, ddwywaith. Yn wahanol i'r ymgyrch yn y dwyrain, fodd bynnag, penderfynodd Hitler adael sefydliadau Denmarc yn eu lle, gan fodloni ar droi'r wlad yn byped Natsïaid yn hytrach na'i datgymalu'n llwyr. Am y rheswm hwn, roedd iddewon yn llawer saffach yn yr Almaen ei hun nag yn y gwledydd Slafig a oresgynnwyd gan y Wehrmacht.

Mae Snyder yn portreadu Hitler fel 'anarchydd eco-hiliol'.  Un ffaith sydd wedi mynd braidd yn angof erbyn hyn yw mai America oedd ysbrydoliaeth Hitler: roedd yn edmygu'r modd yr aeth yr Americanwyr ati i gael gwared ar y boblogaeth frodorol ac i feddianu'u tiroedd. Nid oedd y borodorion yn cael eu hystyried yn bobl go iawn, ac roedd Hitler yn dirmygu'r Slafiaid yn yr un ffordd. Dyma pam yr aeth ati i ddinistrio'u gwledydd mor drylwyr: nid oedd yn ystyied Wcrain, er enghraifft, yn wlad ddilys, gan nad oedd yr Wcraniaid yn bobl gyflawn. Bwriad Hitler oedd defnyddio tir Wcrain i dyfu bwyd i'r Almaenwyr; roedd mewn panig am brinder bwyd, am nad oedd yn credu yng ngwyddoniaeth y chwyldro amaethyddol a oedd ar fin dechrau. Mae'n bwysig atgoffa'n hunain o'r dylanwad Americanaidd ar feddwl Hitler, oherwydd mae'n dangos bod llinach hanesyddol i'r ffordd yma o feddwl. Nid ymddangos o wagle a wnaeth.

Yn y bennod olaf, mae Snyder yn pwysleisio'r angen i fod yn wyliadwrus rhag ofn i hanes ail-adrodd ei hun. Yn benodol, mae'n pryderu y bydd effeithiau newid hinsawdd ar y cyd â'r cynnydd ym mhoblogaeth y byd yn esgor ar banig ecolegol arall, wrth i'r angen am adnoddau ddwysáu. Mae Snyder yn dadlau bod hyn eisoes wedi bod yn ffactor yn Rwanda a Sudan. Mae'r rhan yma o'r llyfr yn ddadleuol: rwy'n amheus o'r posibilrwydd y bydd China'n dechrau ymgyrch i goncro rhannau o Affrica, er enghraifft, ond rwy'n ei chael yn haws o lawer eu dychmygu'n llygadu rhannau helaeth o Siberia.

Prif wers y llyfr yn fy marn i yw pwysigrwydd cofio bod yr amgylchiadau anghywir yn gallu normaleiddio, yn sydyn dros ben, ymddygiad gan bobl normal iawn na fyddai wedi cael ei ystyried fel arall. Hunan-ddiddordeb oedd yn llywio ymddygiad yr unigolion a gyflawnodd bethau drwg ar y pryd. Mae 'roedden nhw'n wrth-semitig' yn esboniad anfoddhaol ac anghyflawn i'r Holocost, oherwydd mae'n ein gwahodd i deimlo'n hunanfodlon a'n ein hatal rhag dychmygu beth a fuasem ninnau wedi'i wneud yn yr un sefyllfa.

14/03/2018

Camddeall geneteg

Mae A Brief History Of Everyone Who Ever Lived gan Adam Rutherford yn lyfr ardderchog. Mae'n esbonio sut yr ydym yn gwybod y pethau yr ydym yn eu gwybod am eneteg, a'n trafod, wrth fynd heibio, y pethau sy'n cael eu camddeall.

Ymysg pethau eraill, mae'n feirniadol o gwmnïau sy'n honni ei bod yn gallu profi pa ganrannau o'ch genom sy'n deillio o ba rannau o'r byd, neu eich bod yn ddisgynydd i ffigwr hanesyddol enwog (fel Charlemagne, er enghraifft). Nid y broblem yw bod dweud wrth rywun bod Charlemagne yn gyndad iddynt yn anghywir, neu nad oes modd profi'r fath beth; i'r gwrthwyneb, y broblem yw bod Charlemagne yn gyndad i bawb yn Ewrop. Un o ffeithiau rhyfeddol y llyfr yw bod 4 o bob 5 o'r bobl a oedd yn fyw yn Ewrop ar y pryd yn hen (hen hen ayyb) nain neu daid i bob un person Ewropeaidd heddiw, a bod llinach yr 1 o bob 5 sy'n weddill wedi dod i ben y llwyr. Nid oes tir canol. Gan ein bod yn gwybod mai atgenhedlwr brwd oedd Charlemagne, mae'n sicr mai i'r categori cyntaf y mae'n perthyn.

Mater syml o feddwl am y rhifau yw hyn; nid oes angen samplu DNA unrhyw un i sylweddoli rhai ffeithiau syfrdanol. O'n cadair freichiau, mae modd cyfrifo mai dim ond 3,400 o flynyddoedd yn ôl y bu byw hynafiad mwyaf diweddar pob un person ar wyneb y ddaear. Gan gadw hyn mewn cof, nid oes unrhyw beth arbennig am fod yn ddisgynydd i rywun fel Owain Glyndŵr. Nid oes angen i'r un ohonom olrhain ein llinach yn arbennig o bell yn ôl cyn cyrraedd rhyw fath o frenin neu dywysog.

Ceir hefyd yn y llyfr drafodaeth helaeth am hil. Neu, yn hytrach, mae'n gwneud y pwynt nad yw hil, mewn gwirionedd, yn gysyniad gwyddonol ystyrlon o gwbl. Mae llawer iawn mwy o wahaniaethau genetig o fewn 'hiliau' gwahanol nag sydd rhyngddynt. Wrth gwrs, mae hilgwn o bob oes wedi hawlio mai o'u plaid hwy mae gwyddoniaeth (mae Rutherford yn trafod ffolineb ewgeneg yn helaeth), ac mae'r un peth yn wir am heddiw. Yn union fel Francis Galton gynt, cri syrffedus pobl fel Jordan Peterson a Charles Murray yw mai gwyddoniaeth bur sy'n eu gyrru, tra bod eu gwrthwynebwyr (ni'r social justice warriors bondigrybwyll) yn ildio i emosiwn am nad ydym yn hoffi'u casgliadau. Fel mae Rutherford yn ei ddangos, y gwrthwyneb llwyr sy'n wir.

07/12/2017

Yeshua

Rwyf newydd fwynhau darllen Iddew gan Dyfed Edwards yn arw. Mae'n adrodd stori Yeshua (Iesu), a sut y bu i hwnnw ganfod ei hun ar y groes.

Anffyddiwr yw Dyfed, ond nid polemig gwrth-Gristnogol yw'r nofel o bell ffordd. Os rywbeth, roeddwn yn cydymdeimlo llawer mwy â'r Yeshua yma, sy'n gymeriad o gig a gwaed, nag â fersiwn arwynebol ac anghyson y Beibl. Nid oes unrhyw elfennau goruwchnaturiol, wrth reswm, ac mae'n cynnig esboniadau banal dros ben ar gyfer tarddiad stori porthi'r pum mil a'r honiad bod Yeshua/Iesu wedi cerdded ar wyneb Môr Galilea.

Mae Yeshua'r nofel yn ddyn ecsentrig, yn grediniol mai ef yw'r meseia. Fel mae'r llyfr yn ei ddangos, roedd hynny'n beth cyffredin iawn ar y pryd. Trefedigaeth Rufeinig oedd Israel y cyfnod; o ganlyniad roedd y lle'n ferw gwyllt o chwyldroadwyr anniddig.  Gydag amgylchiadau o'r fath, nid rhyfedd bod yno dir ffrwythlon ar gyfer cwltiau apocalyptaidd di-rif. Yn wir, pwynt a anghofir yn aml gan Gristnogion modern yw bod Yeshua, ei ddilynwyr, a Christnogion cynnar yn gyffredinol, yn grediniol bod diwedd y byd ar fin cyrraedd yn ystod eu hoes hwy.

Gan fod y plot mor gyfarwydd, cryfderau'r nofel yw'r cymeriadau a'r arddull. Mae llawer iawn o ail-adrodd rhythmig, ac mae'n effeithiol dros ben. Roeddwn hefyd yn hoff o'r defnydd o enwau Hebraeg.

Mae darllen y gyfrol wedi f'anfon i feddwl eto am yr holl ddamcaniaethu ynghylch bodolaeth Iesu Grist fel ffigwr hanesyddol. O gofio'r diffyg cofnodion cyfoes, nid oes modd gwybod i sicrwydd. Yn wir, pan mae cyn lleied o wybodaeth ar gael, nid wyf yn siwr beth mae hyd yn oed yn ei olygu i ofyn a oedd yn berson go iawn ai peidio. Gwyddom bod rhywun o'r enw Yeshua wedi bod yn fyw yn Israel 2,000 o flynyddoedd yn ôl, oherwydd y ffaith syml bod hwnnw'n enw cyffredin ar y pryd. Ond heb dystiolaeth ddibynadwy am fanylion ei fywyd, nid yw'n gwneud synnwyr i drin cymeriad y chwedl fel person hanesyddol yn fy marn i.

Mae hyn yn wir am gymeriadau fel y Brenin Arthur hefyd. Efallai na fodolodd y fath berson erioed. Efallai bod yno rywun â'r enw hwnnw wedi bod yn rhyw fath o frenin. Neu efallai ei fod wedi'i seilio ar gyfuniad o wahanol gymeriadau lled hanesyddol. Ond gan mai ffrwyth dychymyg yw pob manylyn pellach, beth yw'r ots? Petai crefydd yn codi'n y dyfodol wedi'i seilio ar gymeriad o'r enw Dylan Llyr, a fu fyw yng Nghymru yn 2017, ond bod pob manylyn bywgraffiadol arall yn hollol anghywir, yna nid 'fi' fyddai'r cymeriad hwnnw o gwbl mewn gwirionedd.

Beth bynnag yw'r gwir am Iesu Grist, mae'n hawdd iawn dychmygu sut gall stori Iddew fod yn agos ati. Yn hynny o beth, efallai bod y nofel yn fwy o her i ddilynwyr modern Iesu Grist nag y byddai llyfr amrwd gwrth-Gristnogol wedi bod (sef beth y buaswn i, yn ôl pob tebyg, wedi'i gynhyrchu petawn i wedi rhoi cynnig arni). Mae'r nofel yn dangos yn glir (trwy gyfrwng stori afaelgar a chrefftus, nid trwy bregethu) sut mae chwedlau rhyfeddol yn gallu tyfu, gyda digon o amser, o ddigwyddiadau gwreiddiol perffaith naturiol a banal. Rwy'n ei chael yn anodd iawn deall sut y gall unrhyw un ddarllen Iddew a pharhau i fynnu bod chwedlau goruwchnaturiol y Beibl yn debygol o fod yn wir.

24/11/2016

Pam mae gwirionedd yn bwysig

Darllenais Why Truth Matters gan Ophelia Benson a Jeremy Stangroom yn ddiweddar. Fe'i cyhoeddwyd yn 2006, a beirniadu ôl-foderniaeth academaidd a wna'n bennaf. Mae nifer o athronwyr a beirniaid yn mynnu nad oes y fath beth â gwirionedd gwrthrychol, hyd yn oed ym maes gwyddoniaeth. Y syniad felly yw nad oes rheswm i dderbyn bod honiadau gwyddonwyr ynghylch y byd yn gywirach na chwedlau llwythau brodorol, er enghraifft. Yn wir, byddai gwneud hynny'n drefedigaethol a hiliol a 'tyrannical'. Sonnir yn hytrach am 'wirioneddau' (lluosog), a haerir mai rhesymau cymdeithasol pur sydd i gyfrif am oruchafiaeth un fersiwn dros un arall. Mae awduron Why Truth Matters yn meddwl bod y syniadau hyn yn wirion a pheryglus, ac rwy'n cytuno.

Mae paradocs amlwg yn y ddadl yn erbyn gwirionedd: os nad yw'n bod, nid oes rheswm i dderbyn bod y ddadl ei hun yn gywir chwaith. Ar ben hynny, beth yw pwynt astudio unrhyw beth os nad ydym yn derbyn bod gwirionedd yn bodoli yn y lle cyntaf? Heb rhyw fath o ffrâm allanol, byddai'n amhosibl trafod y peth ag eraill beth bynnag. Siarad heibio'n gilydd fyddai ein tynged, gyda phob unigolyn yn byw yn ei 'realiti' idiosyncratig ei hun. Am y rhesymau hyn, mae Benson a Stangroom yn pledio achos y gwirionedd:
[R]eal inquiry presupposes that truth matters. That it is true that there is a truth of the matter we’re investigating, even if it turns out that we can’t find it. Maybe the next generation can, or two or three or ten after that, or maybe just someone more skilled than we are. But we have to think there is something to find in order for inquiry to be genuine inquiry and not just an arbitrary game that doesn’t go anywhere. We like games, but we also like genuine inquiry. That’s why truth matters. (t.180)
Mae wir yn anodd osgoi'r canfyddiad mai gêm yw hyn i lawer o'r beirniaid ôl-fodernaidd, yn enwedig gan fod cynifer ohonynt yn ysgrifennu mewn arddull mor fwriadol o niwlog ac aneglur. Mae hynny'n cyferbynnu â Why Truth Matters, sy'n gyfrol ddarllenadwy dros ben o ystyried astrusrwydd y pwnc. Mae'n perthyn i'r un genre â llyfrau eraill tebyg megis Fashionable Nonsense gan Alan Sokal a Jean Bricmont (Sokal yw'r ffisegydd a lwyddodd i gyhoeddi papur ffug hollol ddiystyr mewn cyfnodolyn ôl-fodernaidd, gan achosi stwr enwog).

Wrth gwrs, creadur y chwith academaidd yw'r math yma o ôl-foderniaeth. Pan ddywedir heddiw ein bod yn byw mewn oes 'ôl-ffeithiol', fodd bynnag, cyfeirio at y dde eithafol a wnawn yn bennaf. Trwy danseilio 'gwirionedd' o'r chwith, mae'n bosibl bod beirniaid ôl-fodernaidd wedi braenaru'r tir ar gyfer y tactegau a welwn bellach gan neo-ffasgwyr a ffwndamentalwyr crefyddol. Fel mae'n digwydd, mae'r neo-ffasgwyr a ffwndamentalwyr crefyddol hyn yn casáu academyddion asgell-chwith. Awgrymaf felly bod yma wers amlwg: wrth arddel syniadau, dylem eu dychmygu yn nwylo ein gelynion, a'r posibilrwydd y byddent yn cael eu defnyddio yn ein herbyn.

Mae'r rhybuddion wedi bod yno ers tro, yn hynny o beth. Mae creadyddion, er enghraifft, wedi mabwysiadu rhethreg yr ôl-fodernwyr, gan gyhuddo biolegwyr o orthrymu syniadau amgen. 'Teach the controversy' yw eu cri ers degawdau, er nad oes amheuaeth o gwbl mewn gwirionedd bod esblygiad yn wir. Mae'r ymgyrch i wadu bodolaeth newid hinsawdd yn defnyddio tactegau tebyg, sef creu dryswch a niwl ffug. Dylem gofio mai crefydd a syniadau cymdeithasol adweithiol oedd rhai o brif dargedau ôl-foderniaeth ar y dechrau, ond mae'r rhod wedi troi erbyn hyn. Ys dywed Benson a Stangroom:
Take away reasoned argument and the requirement of reference to evidence ... and what can be left other than force of one kind or another? Either rhetorical force, via equivocation, fuzzy emotive vocabulary, straw men, exaggeration, appeals to the community or the nation or the deity; or physical force, via laws and the police. If the postmodernist academic Left is busy asserting that reason is merely a mask for power then who is going to prevent US legislators from simply mandating the teaching of ID or creationism in the secular public schools?  And how will they go about it? With rhetoric and emotive appeals? But the other side, the theist side, is at least as good at that, and often better: evangelists tend to be good rhetoricians. Thus if postmodernism has busily eroded public belief in reason, evidence, logic and argument for the past 40 years or so, as it has, then all too often it is the case that rhetoric is all that's in play. And behold, it wins, even though the other side has the better case. All rhetoric has to do to win convince people; it doesn't have to do it legitimately or reasonably or honestly. (t.171-172)
Eironi'r sefyllfa bresennol yw ei bod yn haws cael gafael ar wybodaeth gywir heddiw nag erioed o'r blaen. Mae'r gwirionedd ar flaenau ein bysedd, bron yn llythrennol. Hawdd fyddai maddau unrhyw un a broffwydodd, yn nyddiau cynnar y rhyngrwyd, bod democrateiddio gwybodaeth fel hyn yn debygol o arwain at boblogaeth eithriadol o wybodus. Teg fyddai disgwyl i'n democratiaeth elwa o'r herwydd, gan y byddai gan yr etholwyr eu hunain y gallu i wirio honiadau ein gwleidyddion yn syth. Wrth gwrs, nid dyna sydd wedi digwydd, ac mae anwybodaeth, camddealltwriaeth a conspiracy theories gorffwyll yn ffynnu cymaint, os nad mwy, nag erioed. Yn hytrach na democrateiddio gwybodaeth, mae'r we wedi cynhyrchu llond lle o siambrau eco lle mae syniadau a honiadau gwirion yn bwydo oddi ar ei gilydd.

Nid yw'n hawdd dweud yn union faint o fai sydd am hyn ar y math o syniadau a dargedir yn Why Truth Matters. Pan mae fideos o Donald Trump yn dweud pethau ar gael yn rhwydd ar YouTube, ac mae'r dyn wedyn yn gallu gwadu eu dweud yn blaen a digywilydd, ac nad yw hynny'n poeni dim ar ei gefnogwyr, mae'n debygol bod rhywbeth mwy o lawer o'i le. Ond hyd yn oed os nad gemau dwl ôl-fodernaidd arweiniodd yn uniongyrchol at y sefyllfa sinistr bresennol, teg yw awgrymu eu bod wedi hwyluso'r broses.

17/11/2016

Andrea Wulf: The Invention Of Nature

Nid wyf yn un am arwyr, ond mae Alexander von Humboldt (1769 - 1859), y gwyddonydd a'r anturiaethwr, yn dod yn agos iawn. Cefais flas arbennig ar fywgraffiad Andrea Wulf, The Invention Of Nature, sy'n adrodd hanes ei grwydro a'i enwogrwydd anferth yn ei ddydd.

Teg iawn yw dweud mai Humboldt ddyfeisiodd ecoleg fel maes, ac felly'r cysyniad modern o natur: ei obsesiwn mawr oedd astudio'r byd cyfanwaith, gyda phob rhan ohono mewn perthynas ddeinamig â'i gilydd.. Roedd yn bolymath rhyfeddol, ac eisiau dysgu popeth am bopeth.

Uchafbwynt ei fywyd oedd crwydro De America rhwng 1799 ac 1804. Ymysg campau eraill, ef oedd y cyntaf i gadarnhau bod yr afonydd Amazon ac Orinoco wedi'u cysylltu trwy gyfrwng y canal  naturiol Casiquiare, ac i ddringo llosgfynydd Chimborazo bron i'r copa. Mae'r rhannau hyn o'r llyfr yn enwedig yn darllen fel stori antur, ac roedd yn anodd ei roi i lawr.

Roedd brwdfrydedd Humboldt ynghylch gwyddoniaeth yn ddigon i ennyn ein hedmygedd, ond roeddwn yn hapus dros ben i ddysgu pa mor flaengar oedd ei wleidyddiaeth hefyd. Er i'w daith i Dde America gael ei hariannu gan Sbaen, cefnogodd Simon Bolivar ac ymdrechion hwnnw i ennill annibyniaeth i wledydd y cyfandir. Yn ogystal, er iddo ymweld ag America a chwrdd ag Thomas Jefferson, roedd yn danbaid yn erbyn caethwasiaeth. Roedd o flaen ei amser mewn sawl ffordd.

Nid oedd yn anffyddiwr (roedd anffyddwyr go iawn yn greaduriaid hynod brin ar y pryd), ond roedd yn ddrwgdybus iawn o grefydd draddodiadol. Deistiaeth yw'r label orau ar gyfer ei ddaliadau diwinyddol, fwy na thebyg. Bu cryn gynnwrf pan gyhoeddodd ei gampwaith Kosmos gan nad oedd, er yn trafod natur y bydysawd, yn crybwyll Duw o gwbl. Yn hynny o beth, fe wnaeth gymwynas enfawr trwy normaleiddio'r arfer o drafod natur heb yr angen i grybwyll bodau goruwchnaturiol. A dweud y gwir, buaswn wedi gwerthfawrogi mwy o drafod yn y llyfr am agweddau Humboldt tuag at grefydd a duw, a'r ymateb iddo gan yr eglwys.

Nid oes amheuaeth ynghylch dylanwad Humboldt: mae'r rhestr o lefydd, anifeiliaid a nodweddion daearyddol sydd wedi'u henwi ar ei ôl yn anferth. Y peth od yw ei fod, er yn un o bobl enwocaf y blaned erbyn diwedd ei oes, wedi mynd braidd yn angof yn ystod yr ugeinfed ganrif. Gobaith Wulf wrth ysgrifennu'r llyfr oedd cywiro hynny, ac rwy'n credu ei bod wedi llwyddo.

04/08/2016

Ynghylch pwyntio bys

Darllenais So You've Been Publicly Shamed gan Jon Ronson yn ddiweddar. Mae'n sôn am bobl sydd wedi cael eu cywilyddio'n gyhoeddus oherwydd rhywbeth maent wedi'i ddweud neu ei wneud, yn gam neu'n gymwys. Mae'r we, a'r cyfryngau cymdeithasol yn enwedig, wedi hwyluso ein gallu i bwyntio bys, ac mae'n hawdd i feirniadaeth ysgafn droi'n pile-on blin o fewn dim o dro. Un o'r enghreifftiau a drafodir yw Justine Sacco, person di-nod ar Twitter heb lawer o ddilynwyr, a bostiodd jôc hiliol 'eironig' cyn i'w hawyren ddechrau am Cape Town. Erbyn iddi lanio, roedd hi'n elyn pennaf y wefan gyfan ac fe gafodd fraw ei bywyd wrth droi ei ffôn yn ôl ymlaen. Mae'r llyfr yn ddiddorol, a'n ein gorfodi i gofio bod person go iawn ar yr ochr arall. Mae'r wers honno'n bwysig, hyd yn oed os ydynt wedi dweud rhywbeth gwirioneddol erchyll.

Efallai y dylem gadw hyn mewn cof wrth ystyried y stori ddiweddaraf i gorddi'r Gymry Gymraeg, sef bod ymchwilydd i BBC Radio 5 Live wedi gwneud ymholiadau ar Twitter yn chwilio am gyfranwyr, gan ddweud yn benodol ei bod yn chwilio yn benodol am rywun 'to talk about why the Welsh language should die'. Aeth ati'n arbennig i wahodd dau ddyn sydd wedi gwneud sylwadau hynod ymfflamychol a thwp am yr iaith yn y gorffennol agos. Roedd ei dewis o eiriau'n syfrdanol o drwsgl a hyll.

Nawr, rwyf am rannu cyfrinach. Ers dechrau'r flwyddyn, rwyf wedi bod yn rhedeg cyfrif Twitter o'r enw Take That, Welsh. Y bwriad yw ail-drydar sylwadau dwl neu ddiflas am yr iaith Gymraeg. Nid mynd i ddadlau â'r bobl hyn yw'r nod; dim ond rhoi proc bach cynnil a gwneud y pwynt nad yw eu jôcs neu fyfyrdodau yn wreiddiol na'n ddiddorol o gwbl mewn gwirionedd. Beth bynnag, Take That, Welsh ail-drydarodd yr ymholiad uchod (ddiwrnod a hanner wedi iddio gael ei bostio), ac fe ffrwydrodd y Twitter Cymraeg bron yn syth. Er ei bod yn debygol y byddai rhywun arall wedi sylwi ar y neges yn hwyr neu'n hwyrach (mae'n rhyfeddol o hawdd dod o hyd i'r deunydd crai ar gyfer y cyfrif), rwyf felly'n teimlo peth cyfrifoldeb am y ffaith bod hyn wedi troi'n stori newyddion (gan ennyn ymateb y Comisiynydd, gwleidyddion a gwefan y Daily Mail). Mae gennyf deimladau cymysg am yr ymateb a gafwyd.

Nid yw'r ymchwilydd wedi dweud unrhyw beth o gwbl ers i'r sylw fynd yn feiral, ond buaswn yn dychmygu ei bod wedi cael braw gan ei bod wedi dileu'r trydariadau erbyn hyn. Er bod yr hyn a ddywedodd yn ymfflamychol, rwy'n gyndyn i'w beio hi'n unigol. Symptom o broblem sefydliadol a strwythurol yw beth ddigwyddodd mewn gwirionedd: cyfuniad o anwybodaeth lwyr am y Gymraeg a'i siaradwyr, a dyhead golygyddol i gynnwys safbwyntiau mor eithafol â phosibl er mwyn denu sylw. Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebion rwyf wedi'i gweld yn beio'r BBC fel corfforaeth, sy'n deg yn yr achos yma, ond mae ambell un wedi mynd ar ôl yr ymchwilydd yn benodol, sy'n anffodus. Gwnaed cwyn i'r heddlu, hyd yn oed, sy'n hollol wirion.

Fel cyfrwng, mae Twitter yn tueddu i annog pile-ons ar adegau fel hyn. Mae unigolion yn gweld yr hyn a ddywedwyd, a'n teimlo'r angen i leisio'u barn. Wrth gwrs, os oes cannoedd (neu filoedd, hyd yn oed) o unigolion yn gwneud hynny, gall fod yn brofiad anghynnes iawn i'r sawl sydd o dan y lach, hyd yn oed os nad dyna fwriad y rhan fwyaf o'r beirniaid.

Mae'r mater yma'n ddyrys. Roedd y trydariad yn annerbyniol, felly ni ddylid fod wedi'i anwybyddu. Mae'n syrffedus eithriadol gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth byth a beunydd. Nid yw'n help chwaith bod cynifer ohonom yn teimlo o dan warchae ers y stori ffug wirion am yr Orsedd a'n tîm pêl-droed y penwythnos diwethaf. Ond mae angen ystyried pwy yw'r person sy'n gyfrifol am ein gwylltio. Ni ddylid ymateb yn yr un modd i sylw gan ymchwilydd ag i sylw gan berson o statws uwch. Mae hefyd yn wahanol os yw'r person yn pigo ffrae neu'n bod yn ymosodol. Byddaf weithiau'n gweud hwyl am ben creadyddion ffwndamentalaidd, er enghraifft, sydd mor hyderus ac awyddus i herio er gwaethaf eu hanwybodaeth lwyr am theori esblygiadol. Ond dim ond gwneud ei swydd (a dilyn cyfarwyddiadau ei rheolwyr, yn ôl pob tebyg) oedd yr ymchwilydd.

Gyda llaw, fe ddarlledwyd yr eitem yn gynharach heddiw. Roedd yn sgwrs adeiladol a diddorol yn y diwedd, heb gyfraniad gan eithafwyr (roedd yno ddyn o'r Alban yn anhapus â'r syniad o wario rhyw lawer o arian cyhoeddus ar ieithoedd lleiafrifol, ond heb fod yn rhy ddwl am y peth). Efallai bod hyn yn dangos bod yr awydd i chwilio pob twll a chornel i ganfod y pobl mwyaf eithafol posibl yn wrth-gynhyrchiol, a bod hynny'n wers ychwanegol a ddysgwyd yn sgil yr helynt hwn.

04/06/2016

Y broblem gyda Duw Yw'r Broblem

Mae Duw Yw'r Broblem yn gyfrol od. Yn anffodus, roedd f'argraffiadau ar ôl ei gorffen yn debyg iawn i'r hyn a ddywedais yn y blogiad blaenorol, pan yr oeddwn chwarter ffordd drwodd.  Roeddwn yn cydweld yn llawen â rhesymau'r awduron dros ymwrthod â'r cysyniadau traddodiadol o dduw, ac os rywbeth mae Cynog Dafis yn mynd ymhellach o lawer nag yr oeddwn wedi'i ddisgwyl. Eto i gyd (er nad yw hyn yn syndod, efallai) nid yw'r ymgais i esbonio pam eu bod yn parhau i alw'u hunain yn Gristnogion yn foddhaol o gwbl.

Rhagymadrodd gweddol fyr yw cyfraniad Aled Jones Williams, a'i brif neges yw ei fod yn ystyried 'Duw' yn ferf yn hytrach nag fel enw neu wrthrych. Rwy'n canfod fy hun yn cytuno ag adolygiad y Parchedig Gwynn ap Gwilym (o bawb) yn y rhifyn cyfredol o Barn, lle mae'n galw hyn yn 'gawl eildwym o hen syniadau'. Yn fy marn i, fflwff ffug-ddwys yw'r rhan yma (er fy mod yn hynod hoff o nofelau'r awdur).

Cyfraniad Cynog Dafis yw mwyafrif helaeth y llyfr, ac mae llawer ohono'n ddiddorol. Dro ar ôl tro, wrth i Dafis gyflwyno syniadau diwinyddion fel John Houghton neu Richard Swinburne neu Dewi Z Phillips, roeddwn yn pigo'r tyllau yn y dadleuon wrth ddarllen, eisoes yn hanner-llunio fy mlogiad nesaf yn fy mhen (mae dadleuon Swinburne yn enwedig yn hollol frawychus). Yna, o droi'r dudalen, dyna ganfod bod Dafis ei hun yn mynd yn ei flaen i egluro'r union wallau hynny, gan wneud fy ngwaith drostof. Roeddwn yn cytuno ag ef yn amlach na pheidio, ac roeddwn hyd yn oed yn lled fodlon â'i ymdriniaeth â'r 'anffyddwyr newydd', er fy mod wrth reswm yn anghytuno mewn rhai mannau.

Erbyn i'r gyfrol dynnu at ei therfyn, mae crefydd a Christnogaeth wedi'u datgymalu'n ddigon trylwyr. Yn wir, buaswn yn hapus iawn i fod wedi ysgrifennu'r geiriau canlynol fy hun:
Yr hyn a agorai'r drws i drafodaeth eglur fyddai cydnabod, yn blwmp ac yn blaen, nad oes unrhyw reswm i gredu bod y fath beth yn bod â'r Goruwchnaturiol, mai ffrwyth y dychymyg creadigol yw crefydd ac mai creadigaeth Dyn yw Duw. (t. 163)
Rhwystredigaeth felly oedd darllen y paragraff dilynol:
Nid amharchu'r syniad, fel y mae'r 'atheistiaid newydd' yn ei wneud, fyddai hynny. Duw yw un o greadigaethau gwychaf diwylliant dyn, arwydd o aruthredd ei gyrhaeddiad, nid o'i anaeddfedrwydd a'i gamddealltwriaeth. Bydd parchu, rhyfeddu at a myfyrio ar blygion anchwiliadwy y cysyniad gogoneddus yma ar gael i ni o hyd i gyfoethogi defod a defosiwn. Mi allwn ddal i ymateb i odidowgrwydd salmau'r Iddewon gynt. Mi allwn gael ein hysbrydoli eto gan emynyddiaeth y traddodiad efengylaidd Cymraeg. Mi allwn yn wir anghofio'n hanghrediniaeth, ei ohirio'n wirfoddol, dros dro. Ond rhan annatod o fod yn driw i ysbryd ein hoes ni, parhad o Oes y Goleuo, fydd ein hatgoffa ni'n hunain yn gyson mai dyna'n union yr ydyn ni'n ei wneud' (t.163-4)
Mor agos!

Nid wyf yn siwr pam mae Dafis yn credu bod arddel anffyddiaeth yn golygu nad oes modd gwerthfawrogi rhannau o'r Beibl fel llenyddiaeth, neu emynau fel darnau o gelfyddyd. Mae Dawkins ei hun wedi dweud droeon ei fod yn hoffi canu emynau, a (cadwch hyn yn dawel) mae gen innau hefyd ambell ffefryn. Nid oes angen anghofio'n hanghrediniaeth am eiliad er mwyn gwneud hynny, ac mae'r awgrym i'r gwrthwyneb yn rhyfedd.

Mae'n drawiadol nad oes ymdrech i gyfiawnhau'r honiad mai Duw yw un o 'greadigaethau gwychaf diwylliant dyn', yn enwedig gan fod Dafis ei hun newydd dreulio 130 tudalen yn esbonio pam nad yw'r syniad yn gwneud synnwyr o gwbl. Ceisio'i chael hi'r ddwy ffordd yw hyn, rwy'n amau. Dywed ei fod yn arddel rhyw fath o ddyneiddiaeth grefyddol, gyda 'lle allweddol' i'r 'mythos Cristnogol' (t.169), ond unwaith eto dyma ganfod fy hun yn dyfynnu beirniadaeth Gwynn ap Gwilym: 'Anwybyddir y cwestiynau sy'n codi wedyn, sef os nad yw Iesu'n Dduw, pa awdurdod sydd i'w ddysgeidiaeth mwy nag i ddysgeidiaeth unrhyw fod meidrol arall? Ac o'i amddifadu o wyrth ei ymgnawdoliad, ac yn arbennig ei atgyfodiad, pa ystyr sydd i'w farwolaeth ar y groes?' Yr elfennau hynny yw holl sail y 'mythos Cristnogol'; hebddynt, rhaid i'r gweddill i gyd syrthio.

Os yw popeth am grefydd yn gelwydd, beth yw pwrpas glynu ati? Mae Dafis yn 'gweld cysyniad y dwyfol nid yn unig fel rhan o ymdrech dyn i ddod o hyd i gysur ac ystyr ond hefyd fel ffordd iddo ymgyrraedd at ymwybod a safonau uwch, i drosgynnu cyfyngiadau ei natur e ei hun' (t.167). A dyna'n amlwg lle mae'n fy ngholli'n llwyr. Rwy'n anghytuno bod crefydd yn cynnig cysur beth bynnag, hyd yn oed ar ei thelerau ei hun. Ond gan fod Dafis yn cytuno nad yw crefydd yn adlewyrchu realiti, o ble yn y byd y daw'r cysur yma (heb sôn am yr 'ystyr'!)? Mae'r cysur yn ddibynnol ar wirionedd yr athrawiaeth. Os yw'r athrawiaeth yn anghywir, nid oes sail i'r cysur chwaith. Mae hyn yn chwerthinllyd o amlwg. Ymddengys mai agwedd Dafis fan hyn yw beth y geilw Daniel Dennett yn 'belief in belief': y syniad bod crefydd yn 'beth da', gan fod ei hangen ar bobl eraill, hyd yn oed os nad yw'n gallu iselhau ei hun i gredu'r stwff ei hun. Mae'n agwedd eithaf nawddoglyd, a bod yn onest.

Yn union fel nad oes angen crefydd er mwyn teimlo rhyfeddod, neu gariad, neu garedigrwydd, nid oes ei hangen er mwyn 'ymgyrraedd at safonau uwch' chwaith. Rwy'n benderfynol o chwalu'r syniad anghynnes bod gan grefydd fonopoli ar y pethau hyn. Ar ôl mynd i'r drafferth o chwalu'r pileri sy'n cadw crefydd i fyny, mae'n rhwystredig bod Dafis yn mynnu ceisio gosod y piler ffug hwn yn eu lle. Dyma sy'n difetha'i thesis yn llwyr. Mae'n debyg mai rhesymau emosiynol sy'n gyfrifol am ei gyndynrwydd i gymryd y cam olaf amlwg a chofleidio anffyddiaeth, ac mae hynny'n biti.

31/03/2016

Duw Yw'r Broblem

Nid fy ngeiriau i, ond teitl llyfr newydd gan Aled Jones Williams a Chynog Dafis. Rwyf wedi prynu'r gyfrol (mae'r teitl yn apelio, wedi'r cyfan), ac wedi darllen tua'i chwarter hyd yn hyn.

Mae'r awduron, er yn galw'u hunain yn Gristnogion, yn gwadu bodolaeth y duw personol, Cristnogol, traddodiadol. Cyn i mi ddechrau darllen, fy nhybiaeth oedd eu bod am arddel rhyw fath o ddeistiaeth, ond maent yn mynd ymhellach na hynny, gan wrthod y syniad o fod goruwchnaturiol yn gyfan gwbl. Er eu bod yn gwrthod pob athrawiaeth a gysylltir â'r grefydd honno, maent yn mynnu mai Cristnogion ydynt o hyd, a'n ymwrthod yn gyndyn â'r label 'anffyddiaeth'. Dyma un o'r pynciau a gafodd sylw gan Taro'r Post heddiw, ac roeddwn i'n un o'r cyfranwyr (mae cyfweliad gyda Chynog Dafis yn dechrau ar ôl 37:50, a'm hymateb i a chyfranwyr eraill ar ôl 48 munud).

I bob pwrpas, maent eisoes wedi gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith o ddiosg eu crefydd, ac un cam bach pellach yn unig sydd ei angen arnynt er mwyn cyrraedd anffyddiaeth. Er eu bod yn diffinio'r fersiwn gyfarwydd o dduw allan o fodolaeth, maent yn dal eu gafael ar ryw gysyniad annelwig, cymylog, llithrig, trosiadol, a galw hwnnw'n dduw yn ei le. Afraid dweud nad yw hyn yn dal dŵr yn fy marn i. Nid yw'r 'ysbrydol', beth bynnag yw ystyr hynny, yn gysyniad defnyddiol mewn gwirionedd, ac mae'r dystiolaeth o'i blaid yr un mor absennol ag ydyw yn achos y syniadau crefyddol mwy traddodiadol.

Yn ei gyfweliad yntau, un o ddiffiniadau Cynog Dafis ar gyfer 'ffydd' yw 'cydymdeimlad at gyd-ddyn'. Diau bod y diffiniad yna'n un diarth i 99% o Gristnogion, ond dyna'r rheswm am y llyfr, am wn i. Rwy'n credu ei fod yn ddiffiniad digon anghynnes, a bod yn onest. Go brin mai ei fwriad yw awgrymu bod gan grefydd fonopoli dros y syniad o 'fod yn berson dymunol', ond felly mae'n swnio i mi. Rwy'n gwneud fy ngorau i drin fy nghyd-ddyn â pharch ac i fod yn berson da, ond nid yw hynny'n fy ngwneud yn Gristion o fath yn y byd. Nid oes angen ffydd i fod yn dda, ac nid oes gennyf syniad yn y byd sut y byddai derbyn syniadau 'crefyddol' neu 'ysbrydol' yn fy ngwneud yn berson gwell.

Chwarae gemau di-angen yw diffinio 'ffydd' neu 'dduw' fel hyn. Rwy'n hapus i dystio bod y teimlad o ryfeddod wrth syllu ar y sêr ar noson glir, neu'r teimlad o gariad wrth edrych ar wynebau hapus ein plant, yn hynod ddwfn. Gallant deimlo'n anesboniadwy o gryf. Ond nid yw eu mynegi mewn termau 'crefyddol' neu 'ysbrydol' yn ychwanegu unrhyw beth o gwbl. Fflwff ffug-ddwys yw hyn mewn gwirionedd.

Fel y soniais, nid wyf wedi gorffen y llyfr eto. Mae'n bosibl iawn y bydd mwy i'w ddweud amdano'n fuan, felly. Yn benodol, rwy'n edrych ymlaen i gyrraedd y darn eithaf helaeth am yr 'Anffyddiaeth Newydd'. Cawn weld faint o dir cyffredin fydd rhyngom.

24/03/2016

Tony Judt: Postwar

Nid oedd gennyf gymaint â hynny o ddiddordeb mewn hanes yn fy nyddiau ysgol, am ryw reswm, ond erbyn hyn mae'n un o'm hoff bynciau. Rwyf newydd orffen Postwar, campwaith cynhwysfawr y diweddar Tony Judt, ac mae'n glamp o lyfr. Hanes cyfandir Ewrop gyfan rhwng 1945 a 2005 ydyw. Roeddwn wrth fy modd â'r gyfrol o'r dechrau i'r diwedd (er iddi gymryd misoedd o ddarllen gofalus), ac mae'n enwedig o dda wrth ddisgrifio, wlad wrth wlad, sut y dymchwelodd cyfundrefnau comiwnyddol dwyrain y cyfandir. Hoffais hefyd y portread o Gorbachev fel creadur heb lawer o syniad y byddai glasnost a perstroika yn arwain at ddiwedd yr Undeb Sofietaidd. Ni ddeallodd erioed yr hyn a ddechreuodd, yn ôl Judt, ac (er gwaethaf honiadau ceidwadwyr America) nid i bolisïau Ronald Reagan oedd y diolch chwaith; roedd yr Undeb Sofietaidd yn sicr o syrthio o dan ei phwysau ei hun yn hwyr neu'n hwyrach.

Wedi dweud hynny, efallai mai un o themâu'r gyfrol yw nad yw unrhyw sefyllfa'n anochel. Roedd cyfnod y Rhyfel Oer, er y tensiwn, yn eithriadol o sefydlog (mae Judt hyd yn oed yn awgrymu bod ambell lywodraeth gorllewinol wedi ochneidio'u rhyddhad yn dawel bach pan godwyd Wal Berlin ym 1961), i'r graddau bod y rhan fwyaf o bobl wedi dod i dderbyn mai fel hynny fyddai pethau am byth. Dywed Judt:
For forty-five years - beyond the living memory of most Europeans - the uneasy outcome of World War Two had been frozen in place. The accidental division of Europe, with all that it entailed, had come to seem inevitable. And now it had been utterly swept away. In retrospect the post-war decades took on a radically altered significance. Once understood as the onset of a new era of permanent ideological polarization they now appeared for what they were: an extended epilogue to the European civil war that had begun in 1914, a forty-year interregnum between the defeat of Adolf Hitler and the final resolution of the unfinished business left behind by his war. (t.749)
Yn hynny o beth, roedd rhaid i chwyldroadau 1989 newid sut yr edrychasai Ewropeaid ar eu gorffennol yn ogystal ag ar eu dyfodol. Yn yr un modd, rwyf wedi dadlau droeon yn erbyn y syniad bod hanes yn datblygu, yn anochel, tuag at fwy o gyfiawnder. Mae perygl i ni fod yn ymfodlonus a thybio bod rhaid i ddatblygiad er gwell ein cymdeithas ers 1945 fod yn barhaol. Ond ers cyhoeddi Postwar yn 2005, mae Twrci, Hwngari ac (yn enwedig) Rwsia wedi dilyn trywydd mwy awtocrataidd a sinistr. Am yr un rheswm, rwy'n gwrthod y syniad bod mwy o seciwlariaeth yn anochel; heb ymdrech barhaus, hawdd iawn fyddai i ni lithro'n ôl.

Os oedd gan Judt un thema fawr wrth ysgrifennu'r llyfr, yna'r broses o gofio yw honno. Cyn darllen, roeddwn eisiau gwybod sut y bu i Orllewin yr Almaen newid o fod yn wlad Natsïaidd i fod yn wlad ryddfrydol a democrataidd mor sydyn. Yr ateb syml, mae'n debyg, yw i'r wlad fynd ati'n fwriadol i 'anghofio' beth ddigwyddodd yn ystod y rhyfel, a dyfeisio'r myth bod y wlad wedi cael ei herwgipio gan Hitler a'i griw, fel petai'r Natsïaid yn estroniaid a ymddangosodd yn ddi-rybudd allan o ryw fath o wagle. Mewn gwirionedd, roedd 8 miliwn o boblogaeth y wlad yn aelodau o'r Blaid Natsïaidd wrth i'r rhyfel ddirwyn i ben, a'r unig beth amdani ar ôl i bawb gallio oedd cytuno i arddel rhyw fath o amnesia torfol.

Er i lywodraeth newydd Konrad Adenauer ddechrau proses o 'ddadnatsïeiddio', sef gwahardd cyn-Natsïaid o'r gwasanaeth sifil, maes addysg, yr heddlu a phroffesiynau pwysig eraill, y gwir amdani oedd bod llawer gormod ohonynt i'r wlad allu parhau hebddynt. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn ôl yn eu swyddi o fewn ychydig o flynyddoedd, mae'n debyg. Ar ben hynny, yn ôl arolwg ym 1946,
one German in three agreed with the proposition that ‘Jews should not have the same rights as those belonging to the Aryan race’. This is not especially surprising, given that respondents had just emerged from twelve years under an authoritarian government committed to this view. What does surprise is a poll taken six years later in which a slightly higher. percentage of West Germans—37 percent—affirmed that it was better for Germany to have no Jews on its territory. But then in that same year (1952) 25 percent of West Germans admitted to having a ‘good opinion’ of Hitler. (t.58)
Canlyniadau tebyg oedd i arolygon yn Awstria hefyd, er i'r wlad honno lwyddo i bortreadu'i hun fel 'Hitler's first victim'. Roedd y rhagrith yn rhyfeddol, ond efallai mai'r amnesia oedd yr unig ateb ymarferol. Roedd cosbi pawb yn amhosibl, a fwy na thebyg yn wrth-gynhyrchiol.

Yn ei epilog, mae Judt yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu'r gorffennol o'r newydd i bob cenhedlaeth. Fel hyn mae'r gyfrol yn cloi:
Unlike memory, which confirms and reinforces itself, history contributes to the disenchantment of the world. Most of what it has to offer is discomforting, even disruptive—which is why it is not always politically prudent to wield the past as a moral cudgel with which to beat and berate a people for its past sins.  But history does need to be learned—and periodically re-learned. In a popular Soviet-era joke, a listener calls up ‘Armenian Radio’ with a question: ‘Is it possible’, he asks, ‘to foretell the future?’ Answer: ‘Yes, no problem. We know exactly what the future will be. Our problem is with the past: that keeps changing’.  So it does—and not only in totalitarian societies. 

All the same, the rigorous investigation and interrogation of Europe’s competing pasts—and the place occupied by those pasts in Europeans’ collective sense of themselves—has been one of the unsung achievements and sources of European unity in recent decades. It is, however, an achievement that will surely lapse unless ceaselessly renewed. Europe’s barbarous recent history, the dark ‘other’ against which post-war Europe was laboriously constructed, is already beyond recall for young Europeans. 
Within a generation the memorials and museums will be gathering dust—visited, like the battlefields of the Western Front today, only by aficionados and relative.
If in years to come we are to remember why it seemed so important to build a certain sort of Europe out of the crematoria of Auschwitz, only history can help us. The new Europe, bound together by the signs and symbols of its terrible past, is a remarkable accomplishment; but it remains forever mortgaged to that past.  If Europeans are to maintain this vital link—if Europe’s past is to continue to furnish Europe’s present with admonitory meaning and moral purpose—then it will have to be taught afresh with each passing generation. ‘European Union’ may be a response to history, but it can never be a substitute. (t.830-1)
Yn anffodus, bu farw Judt yn rhy gynnar yn 2010, felly nid oes modd i ni wybod ei farn am sefyllfa Ewrop heddiw. Teg fyddai dweud bod pethau wedi newid yn sylweddol mewn degawd. Mae'r 'prosiect Ewropeaidd' o dan straen aruthrol. Mae ansicrwydd mawr o hyd yn dilyn yr argyfwng economaidd a helynt Gwlad Groeg, gan beryglu'r arian sengl. Ar ben hynny, fel mae'r ymosodiadau ym Mrwsel yr wythnos hon wedi'n hatgoffa eto, mae terfysgaeth islamaidd yn bygwth llawer mae Ewropeaid wedi dod i'w cymryd yn ganiataol, megis yr hawl i symud yn rhydd a'n ddi-ffwdan ar draws y cyfandir. Yn y bôn, mae rhyddfrydiaeth ddemocrataidd amlddiwylliannol ei hun yn y fantol. Fe oroesodd Ewrop am fron hanner canrif yng nghysgod y llen haearn; yn wir, fe ffynnodd. Ond yr her bresennol, efallai, yw'r un fwyaf, ac efaĺlai nad cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod y cwestiynau hyn yn codi wrth i'n cof uniongyrchol am y rhyfeloedd mawr bylu. Bydd ein hymateb i'r terfysg - ac mae hwnnw'n sicr o barhau - yn diffinio Ewrop yn union fel y gwnaeth y ddau Ryfel Byd.

02/08/2015

Cwyno i'r heddlu am ddarn o ffuglen

Ymddengys bod rhyw berson od yn rhywle wedi anfon 'gwaith' gwirioneddol anghynnes at gystadleuaeth Gwobr Daniel Owen eleni. 'Nid nofel oedd hi, ond cyfres o ddisgrifiadau graffig o blant yn cael eu treisio' yn ôl Dewi Prysor, un o'r beirniaid.

Yn anffodus, ymateb yr Eisteddfod oedd anfon y stwff at yr heddlu, ynghyd â manylion yr awdur. Sinigaidd fyddai nodi'r ffaith i hyn i gyd ddigwydd ym mis Mawrth ond bod y 'newyddion' wedi torri ddiwrnod cyn i'r brifwyl ddechrau, wrth gwrs. Beth bynnag am hynny, rwy'n gyndyn o'r farn na ddylai hyn fod yn fater i'r heddlu o gwbl. Roeddwn yn credu hynny cyn i natur y cynnwys ddod i'r amlwg, ac rwy'n credu hynny o hyd.

Fel mater o egwyddor pendant, rwy'n chwyrn yn erbyn y syniad o anghyfreithloni geiriau ar bapur, oni bai eu bod yn enllibus neu'n bygwth rhywun yn uniongyrchol. Yn sicr, ni allaf feddwl am senario lle byddai'n briodol galw'r heddlu oherwydd darn o ffuglen. Beth bynnag, nid yw'n eglur i mi beth yn union y mae disgwyl i'r heddlu ei wneud yn ymarferol am y peth.

Y ddadl yw bod pryder am y posibilrwydd bod yr awdur yn bwriadu gwireddu'r hyn a ddisgrifia, a bod y disgrifiadau hynny'n neilltuol o ffiaidd. Ond mae pob math o lyfrau - clasuron enwog yn eu plith - yn cynnwys golygfeydd pur 'anweddus'. Mae nofelau Raymond Chandler neu Agatha Christie, er enghraifft, yn llawn llofruddiaethau, ond nid oedd unrhyw un yn credu bod hynny'n reswm i boeni am gymhellion yr awduron. Rwy'n berchen ar gopïau o Naked Lunch gan William S Burroughs a Trout Fishing In America gan Richard Brautigan, dwy nofel sy'n cynnwys disgrifiadau o weithredoedd pedoffeilaidd. Ystyrir y ddwy'n gyfrolau arwyddocaol (fymryn yn ormodol felly yn fy marn i, yn enwedig Naked Lunch), er eu bod yn cynnwys darnau gwirioneddol fochedd. Ystyrier Lolita hefyd fel enghraifft arall.

A dweud y gwir, byddai 'pryderon' yr Eisteddfod yn swnio'n fwy didwyll pe na baent wedi denu'r holl sylw yma at yr hyn a ddigwyddodd. Canlyniad yr holl gyhoeddusrwydd yw bod gan lawer o bobl - a minnau yn eu plith - awydd darllen y deunydd anweddus dirgel yma, er chwilfrydedd pur. Ni fyddem wedi cael gwybod am ei fodolaeth yn y lle cyntaf petai'r Eisteddfod o ddifrif am eu gofidion bod rhywbeth sinistr ar droed. Mae'n bosibl iawn mai creu braw ymysg y 'sefydliad' fel hyn oedd union obaith yr awdur, trwy fod yn edgy a gwasgu'r botymau 'anghywir' i gyd. Dyna, i bob pwrpas, oedd nod Burroughs yn Naked Lunch, a gyhoeddwyd ym 1959. Y jôc yn achos y gyfrol honno yw mai f'ymateb pennaf wrth ei darllen am y tro cyntaf yn lled ddiweddar oedd bod rhywbeth eithaf hen-ffasiwn - quaint, bron - am yr ysfa yna i ddychryn er mwyn dychryn.

Yn rhwystredig ddigon, yn rhy aml mae amddiffyn yr hawl i ysgrifennu rhywbeth yn cael ei ddehongli fel amddiffyniad o safon y gwaith. Rwy'n hollol chwyrn o blaid yr hawl i ysgrifennu stwff fel hyn, dim ots pa mor wachul neu arswydus ydyw. Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu'r hawl i fynnu bod rhywun arall yn ei gyhoeddi, heb sôn am ei wobrwyo. Y gwir yw ei bod yn swnio fel bod yr hyn a ysgrifennodd yr awdur anhysbys yma'n ofnadwy ym mhob ystyr y gair. Ond yr ateb syml i hynny oedd i beidio rhoi gwobr Daniel Owen iddo, a hynny'n dawel bach. Gwaherdder yr awdur rhag cystadlu eto, ar bob cyfrif (mae'n debyg iddo wneud rhywbeth tebyg yn 2007 hefyd). Ond dyna ddylai fod ei diwedd hi.

20/05/2015

Seientoleg

Darllenais Going Clear: Scientology, Hollywood, and the Prison of Belief gan Lawrence Wright yn ddiweddar. Mae'r llyfr yn adeiladu ar yr ysgrif hon a gyhoeddodd yr awdur yn y New Yorker yn 2011. Mae'r erthygl yn anferthol ynddi'i hun - bron yn 25,000 o eiriau - ond rwy'n ei hargymell yn fawr iawn.

Hanes Seientoleg a gawn, a bydd llawer o'r cefndir yn lled-gyfarwydd i unrhyw un sy'n dilyn hynt a helynt yr 'eglwys' (i unrhyw un nad yw'n gwybod llawer am hynt a helynt y ffydd, argymhellaf y gwefannau Operation Clambake ac Ex-Scientology Kids).

Wrth i ni ddilyn anturiaethau L Ron Hubbard, y dyn a sefydlodd y ffydd, yr hyn a ddaw'n amlwg yw ei fod, ymhell cyn dyddiau Seientoleg, wedi cael trafferth gwahaniaethu rhwng realiti a ffrwyth ei ddychymyg. Roedd yn gelwyddgi heb ei ail; gellir priodoli llawer o hynny i anonestrwydd digywilydd, ond roedd yn freuddwydiwr gwirioneddol. O ystyried hynny, nid oes rhyfedd iddo droi at ysgrifennu gwyddonias yn gynnar iawn; am gyfnod o rai blynyddoedd bu'n ysgrifennu 100,000 o eiriau, ar gyfartaledd, bob mis. Roedd yn gorfod ysgrifennu pob syniad hanner-pan a groesai'i feddwl. Wedi creu cymaint o fydoedd ffantasïol, cam bychan wedyn oedd sefydlu crefydd. Mae chwedl Xenu, er enghraifft, sef 'stori greu' Seientoleg, yn darllen fel ffuglen wyddonol gwael (ond wedi dweud hynny, roedd ei stwff i gyd yn bur sâl, fel y gall unrhyw un sydd wedi gwylio Battlefield Earth dystio).

Mae athrawiaethau Seientoleg yn chwerthinllyd. Yn anffodus, nid oes unrhyw beth yn ddoniol am y ffordd y mae'r eglwys yn trin ei haelodau; gwae unrhyw un sy'n ceisio gadael. Mae'n costio ffortiwn i ddilyn 'cyrsiau' yr eglwys ac i gael yr audits angenrheidiol. Er mwyn 'gwella', rhaid bod yn hollol agored a chyfaddef pob cyfrinach, sy'n golygu bod yr eglwys yn casglu deunydd blacmêl yn ogystal â symiau anferthol o arian. Ar ben hynny, disgwylir i'r aelodau dorri pob cysylltiad â theulu nad ydynt yn fodlon ymuno â'r eglwys. Maent yn barod iawn i fynd i eithafion i rwystro pobl rhag gadael, ac maent wedi meistrioli'r grefft o ganfod unrhyw un a lwyddodd i ddianc.

Mewn sawl ffordd, nid yw Seientoleg yn arbennig o anarferol. Fe'i dirmygir yn fwy na chrefyddau eraill, ond nid yw'r athrawiaethau na'r chwedloniaeth ynddynt eu hunain yn wirionach na'r hyn a geir mewn unrhyw grefydd arall. Y gwahaniaeth pennaf yn achos Seientoleg yw ei fod mor newydd, felly mae amgylchiadau sefydlu'r ffydd yn fwy hysbys i ni. Treigl amser yn unig sy'n gwneud i grefyddau eraill ymddangos yn barchusach. Gwyddwn fod crefydd newydd yn gallu ennill ei phlwyf yn gymharol sydyn; wedi'r cyfan, mae Mormoniaeth, sy'n wirion bost, yn llai na 200 oed, ond roedd modd i Mitt Romney, sy'n aelod selog, enill ymgeisyddiaeth y Blaid Weriniaethol i fod yn arlywydd America yn 2012.

Yr hyn sy'n gwneud Seientoleg ychydig yn wahanol yw'r modd y mae'r eglwys yn mynd i raddau rhyfeddol er mwyn ceisio gwarchod ei henw da. Nid dim ond aelodau o'r ffydd ei hun sy'n dioddef, ond unrhyw un sy'n feirniadol o'r eglwys a'i harweinwyr. Efallai eich bod yn cofio Panorama yn darlledu rhaglen am Seientoleg yn 2007, er enghraifft. Dilynwyd John Sweeney a'r criw cynhyrchu bob cam o'r ffordd gan staff Seientoleg, a oedd yn eu ffilmio hwythau drachefn. Y canlyniad, er boddhad i'r eglwys, oedd fideo o Sweeney'n sgrechian yng ngwyneb llefarydd ar ran yr eglwys o'r enw Tommy Davis (dyn arall a gawn ei hanes yn llyfr Wright, ac sydd ei hun wedi gadael erbyn hyn).

Mae Seientoleg yn cyflogi byddin anferth o gyfreithwyr, ac maent wedi meistroli'r grefft o wneud bywyd yn anodd dros ben i unrhyw ymchwilwyr sy'n ceisio cael gwybodaeth am droseddau'r eglwys. Roedd Wright ei hun yn gorfod bod yn eithriadol o ofalus wrth baratoi'r llyfr, sy'n gyforiog o droed-nodiadau'n egluro bod yr eglwys yn gwadu'r cyhuddiadau niferus. Yn wir, oherwydd cyfraith enllib hallt Prydain, nid yw'r gyfrol wedi'i chyhoeddi yn y wlad hon o gwbl. Cynhyrchwyd ffilm ddogfen o'r un enw hefyd, wedi'i seilio ar y llyfr; er iddi gael ei dangos yn America yn ddiweddar, mae'n edrych yn annhebgygol y bydd honno'n cael eu darlledu ym Mhrydain. Mae hynny'n hurt.

Diolch i ddyfodiad y we ac ambell achos llys pwysig, rydym yn gwybod llawer mwy am gredoau'r ffydd, a'r modd y mae'r eglwys yn gweithredu, nag yr oeddem yn y gorffennol, ac mae hynny wedi gwneud peth difrod i hygrededd yr eglwys. Ond nid digon. Mae miloedd o bobl yn cael eu twyllo a'u niweidio o hyd. Maffia yw Seientoleg i bob pwrpas, a dylid croesawu pob ymdrech i fwrw goleuni arnynt.

29/03/2015

Y Fam Teresa

Darllenais The Missionary Position (cyhoeddwyd ym 1994) gan Christopher Hitchens yn ddiweddar. Polemig byr ydyw. Afraid dweud nad yw'n garedig â'r diweddar Anjezë Gonxhe Bojaxhiu (mae'n debyg mai teitl amgen cynnar oedd Sacred Cow).

Amcan Hitchens oedd chwalu'r argraff gyffredinol ohoni fel santes llawn daioni. Mae rhai o'r problemau gyda'i gwaith bellach yn gymharol hysbys, ond mae tuedd o hyd i'w hesgusodi. Roedd ei chalon yn y lle iawn, meddir. Ond na. Dylid bod yn berffaith glir fan hyn: nid camgymeriadau'n deillio o fwriadau da oedd y rhain. Roedd yr amcanion eu hunain yn warthus. Yn fy marn i, roedd hi'n ddynes wirioneddol ofnadwy ym mhob ffordd.

Asgetig oedd hi, yn clodfori tlodi a dioddefaint er eu mwyn eu hunain. Er i'w helusen dderbyn miliynau lawer mewn rhoddion (gan gynnwys o ffynonellau pur amheus), llwm iawn oedd yr amodau i bawb yn ei gofal. Nid yw'n glir hyd heddiw i ble aeth llawer o'r arian yma.

Mae'n amhosibl dyfalu faint a fu farw'n gwbl ddi-angen. Ar ben hynny, ac er iddi geisio honni nad creadur gwleidyddol mohoni, roedd hi'n weithgar iawn ei gwrthwynebiad i atalgenhedlu ac erthyliad (dyna oedd prif bwnc ei haraith wrth dderbyn Gwobr Heddwch Nobel ym 1979). O gofio sefyllfa Calcota o bob man, lle mae problemau gorboblogi'n cyrraedd lefelau hurt dros ben, mae hynny'n arbennig o anghyfrifol. (Gyda llaw, mae'n werth nodi fan hyn bod Hitchens, yn anffodus, yn arddangos peth cydymdeimlad â'r farn gwrth-erthyliad, er bod ei feirniadaeth o safbwynt y lleian yn chwyrn hefyd).

Yn dilyn trychineb diwydiannol Bhopal ym 1984, ei chyngor hollol annefnyddiol i'r dioddefwyr a'r rhai mewn galar, yn syth wedi'r digwyddiad, oedd 'maddeuer, maddeuer, maddeuer'. Rwy'n credu bod hynny'n dweud cyfrolau am wacter anfoesol ei diwinyddiaeth. Lladdwyd miloedd gan esgelustod Union Carbide, ac nid trwy faddau y ceir cyfiawnder. Yn yr un ffordd, ni ddylid maddau i'r Fam Teresa chwaith am y niwed enbyd a wnaeth hithau.

22/03/2015

Hunangofiant John Davies

Profiad digon pruddglwyfus oedd darllen hunangofiant John Davies yn ddiweddar, ac yntau wedi marw'n fuan ar ôl ei gyhoeddi. Dywed tua diwedd y gyfrol ei fod yn disgwyl byw am ryw saith blynedd arall, ac roedd yn bwriadu gwneud defnydd o'r amser hwnnw hefyd, er enghraifft i deithio ymhellach (roedd eisoes wedi gweld cryn dipyn o'r byd).

Mae'n lyfr hoffus dros ben, fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan ddyn mor annwyl, a cheir sawl anecdôt difyr wrth fynd heibio. Chwarddais yn uchel am y stori amdano'n cwrdd â Gore Vidal yn yr Eidal, er enghraifft.

Os oes gennyf gŵyn, mae'r hunangofiant yn rhy fyr. Diau mai fi sy'n farus, yn enwedig o sylweddoli'n drist mai dyma'r peth olaf un a gawn gan yr awdur. Ond roedd sawl man lle roeddwn yn awchus i glywed mwy. Er enghraifft, er fy mod yn deall mai anffyddiwr ydoedd, nid oeddwn yn sylweddoli cyn darllen pa mor chwyrn yn union oedd ei atgasedd at grefydd. Ceir ambell awgrym ei fod yn chwerwach na mi, hyd yn oed. Fe ddichon bod hynny'n rhannol oherwydd yr ohebiaeth hyll a dderbyniodd gan rai efengylwyr ar ôl datgan ei ddeurywioldeb yn nhudalennau Barn. Byddai wedi bod yn dda cael gwybod mwy o fanylion, ond dim ond megis cyffwrdd â hyn a wna'r gyfrol.

Defnyddir y gair 'gogleisiol' yn aml yn y llyfr, ac mae'n air addas i ddisgrifio'r gyfrol ei hun hefyd. Mae'n bleser i'w ddarllen, ac mae'r golled yn aruthrol.

06/10/2014

Primo Levi

Rwyf wrthi'n darllen gwaith Primo Levi ar hyn o bryd. Cemegwr Eidalaidd o dras Iddewig oedd Levi, ac mae If This Is A Man yn adrodd peth o hanes yr unarddeg mis a dreuliodd fel carcharor yng ngwersyll Auschwitz.

Mae'n lyfr torcalonnus, ond eto'n urddasol ei fynegiant. Cyfres o straeon am fywyd dydd-i-ddydd y gwersyll yw'r llyfr yn y bôn. Er nad yw'n rhoi cymaint â hynny o sylw i'r Natsïaid eu hunain, yn uniongyrchol o leiaf, y thema gyson yw'r modd aeth y wladwriaeth Almaenig ati i amddifadu'r carcharorion - Iddewon yn bennaf, wrth gwrs - o'u dynoliaeth. Roedd hynny'n dacteg fwriadol. Rydym yn cael ein temtio weithiau i ddychmygu bod pawb yno wedi arddangos solidariaeth nobl a thawel yn erbyn y gormeswr cyffredin, ond y gwir yw roedd y carcharorion yn dwyn oddi wrth ei gilydd - llwyau, powlenni, esgidiau  - a'n gorfod bod yn gyfrwys, i raddau, er mwyn goroesi (y gwahaniaeth rhwng y "saved" a'r "drowned" yn ôl Levi). Roedd creu sefyllfa o'r fath yn dacteg fwriadol ar ran y Natsïaid, wrth gwrs: "the demolition of man" oedd y nod (dyma hefyd y mae'r teitl yn cyfeirio ato).

Byddai wedi bod yn amhosibl beio Levi am ysgrifennu llith blin yn llawn dicter lloerig tuag at y sawl â'i ormesodd. Ond yr hyn sy'n taro'r darllenydd yw'r arddull pwyllog. Yn lle teimlo trueni tuag ato'i hun - er mor deg fyddai gwneud hynny - mae bron fel petai'r awdur yn numb am yr holl beth. Mae'n anodd disgrifio.

Bu farw Levi ym 1987, wedi iddo syrthio tair llawr y tu allan i'r gartref. Er nad oes sicrwydd, y gred gyffredinol yw iddo ladd ei hun. Yr hyn sy'n gwneud darllen If This Is A Man yn brofiad fwy pruddglwyfus byth, felly, yw'r posibilrwydd cryf bod Auschwitz wedi'i ladd nid yn ystod y rhyfel ond dros bedwar degawd yn ddiweddarach.

Er ei fod o dras Iddewig, a'n ystyried ei hun yn Iddew diwylliannol, roedd Levi'n anffyddiwr. Fel y dywedais, mae'n drawiadol cyn lleied o atgasedd sydd yn y llyfr. Ond mae rhai enghreifftiau, ac efallai ei bod yn arwyddocaol mai'r pwnc o dan sylw yw'r syniad bod ewyllys Duw ar waith yn Auschwitz. I egluro, mae rhai o'r carcharorion newydd gael ar ddeall eu bod am gael eu lladd yn fuan:
Silence slowly prevails and then, from my bunk on the top row, I see and hear old Kuhn praying aloud, with his beret on his head, swaying backwards and forwards violently.  Kuhn is thanking God because he has not been chosen.
Kuhn is out of his senses. Does he not see Beppo the Greek in the bunk next to him, Beppo who is twenty years old and is going to the gas-chamber the day after tomorrow and knows it and lies there looking fixedly at the light without saying anything and without even thinking anymore? Can Kuhn fail to realize that next time it will be his turn? Does Kuhn not understand that what has happened today is an abomination, which no propitiatory prayer, no pardon, no expiation by the guilty, which nothing at all in the power of man can ever clean again?
If I was God, I would spit at Kuhn’s prayer.
Mae'n amhosibl i mi ddychmygu'r fath amgylchiadau, ond mae clywed am bobl yn diolch i Dduw mewn sefyllfaoedd anodd yn fy nrysu'n ddi-ffael, ac rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â rhwystredigaeth Levi. Mae'n sarhad anferth tuag at Beppo (os yw Duw wedi dewis achub Kuhn, yna mae wedi dewis lladd y Groegwr). Ar ben hynny, dyna'r tebygolrwydd cryf y bydd Kuhn yn marw'n fuan beth bynnag. Ond y peth rhyfeddaf yw'r modd y mae'r ffasiwn weddi'n diystyru'r ffaith (gan ddilyn y rhesymeg) mai'r un Duw sydd wedi'i osod yn yr uffern yna'n y lle cyntaf. Mae'n ddirgelwch anferth i mi. Mae'n werth darllen y darn yma gan Jerry Coyne, yn cyferbynnu'r dyfyniad uchod â fflwff Francis Collins.

Rwyf erbyn hyn yn darllen The Truce, sef dilyniant sy'n disgrifio taith hir Levi adref, wedi i'r Almaenwyr ffoi rhag y Rwsiaid. Mae gennyf hefyd gopi o The Periodic Table. Nid yw darllen Levi'n hawdd, o reidrwydd; mae angen seibiant o dro i dro oherwydd mae'n anodd osgoi dagrau. Ond rwy'n ei argymell yn fawr.

14/05/2014

Bydysawd T.H. Parry-Williams

Gan fy mod ar hyn o bryd yn darllen y gyfrol wych Ffarwél I Freiburg gan Angharad Price, am grwydriadau cynnar T.H. Parry-Williams, rwyf wedi bod yn ail-ddarllen rhai o'i gerddi.

Mae Parry-Williams yn bendant yn un o'r beirdd mwyaf diddorol a gynhyrchodd Cymru erioed. Mae nifer o'i gerddi'n trafod marwolaeth, ac efallai bod hynny'n un o'r rhesymau y mae'r rhain yn enwedig yn apelio ataf, gan fy mod innau hefyd yn gallu bod yn ddiawl bach morbid ar adegau. Rheswm arall yw'r ffaith ei fod siwr o fod ymysg y beirdd Cymraeg cyntaf i drafod y pwnc ag agwedd gwirioneddol ddyneiddiol ac anghrefyddol, gan bwysleisio ein di-nodedd yng nghyd-destun ehangach y bydysawd. Roedd Parry-Williams, wrth gwrs, yn amheus o grefydd, ac mae'r cerddi hyn yn cydnabod yn blaen mai marwolaeth yw'r diwedd. Mae 'Yr Esgyrn Hyn' yn enghraifft dda.

Ond rwy'n credu mai fy ffefryn yw 'Dychwelyd':
Ni all terfysgoedd daear byth gyffroi
Distawrwydd nef; ni sigla lleisiau'r llawr
Rymuster y tangnefedd sydd yn toi
Diddim diarcholl yr ehangder mawr;
Ac ni all holl drybestod dyn a byd
Darfu'r tawelwch nac amharu dim
Ar dreigl a thro'r pellterau sydd o hyd
Yn gwneuthur gosteg â'u chwyrnellu chwim.
Ac am nad ydyw'n byw ar hyd y daith
O gri ein geni hyd ein holaf gŵyn
Yn ddim ond crych dros dro neu gysgod craith
Ar lyfnder esmwyth y mudandod mwyn,
Ni wnawn, wrth ffoi am byth o'n ffwdan ffôl,
Ond llithro i'r llonyddwch mawr yn ôl.
Mae'n debyg bod rhai wedi ystyried y gerdd hon yn brawf o ffydd Parry-Williams yn Nuw, ond mae hynny'n ddwl. Efallai bod y beirniaid Cristnogol gobeithiol yma wedi rhoi'r gorau i ddarllen ar ôl gweld y gair 'nef', sy'n amlwg mewn gwirionedd yn gyfeiriad barddonol ond seciwlar at y bydysawd y tu hwnt i'n carreg bach glas a gwyrdd ni. Nid yw union safbwynt diwinyddol Parry-Williams yn sicr, hyd y gwn, ac rwy'n petruso cyn ei hawlio fel anffyddiwr o'r iawn ryw, ond o ddarllen cerddi fel hyn mae'n bosibl dychmygu mai dyna a fuasai pebai'n fyw heddiw. Yn bendant, mae unrhyw un sy'n gweld tinc o ffydd grefyddol yn y darn uchod yn twyllo'u hunain.

Er nad yw Cristnogaeth yn gallu mynnu bellach mai'r Ddaear yw canol y bydysawd yn llythrennol, mae'n honni o hyd mai ein planed bach pitw ni sy'n hawlio holl sylw'r endid a greodd popeth sy'n bodoli. Mae 'Dychwelyd' yn ymwrthod yn llwyr â'r agwedd blentynnaidd honno. Roedd y bydysawd yn bodoli am 13.7 biliwn o flynyddoedd cyn i ni gael ein geni, a bydd yn parhau i fodoli am sawl biliwn o flynyddoedd wedi i ni farw, doed a ddelo. Mae'r cyflwr o beidio bodoli ar ôl ein marwolaeth yr un fath yn union â'r cyfnod pan nad oeddem yn bodoli cyn i ni gael ein geni yn y lle cyntaf. Hyd yn oed petawn yn ddigon ffodus i fyw am ganrif, ni fyddai fy modolaeth ond crac hynod denau o oleuni yng nghanol ffenestr anferth o dywyllwch (neu 'gysgod craith ar lyfnder esmwyth y mudandod mwyn').  Rwy'n hoff iawn o'r ddelwedd drawiadol yma. Go brin mai Parry-Williams oedd y cyntaf i'w defnyddio, ond mae llawer o awduron gwyddoniaeth boblogaidd wedi defnyddio rhai tebyg dros y blynyddoedd. Mae Carl Sagan yn un, ac mae 'Dychwelyd' hefyd yn rhagweld rhai o'r pethau eraill a ddywedodd Sagan yn ei gyfrol Pale Blue Dot. wrth ddisgrifio llun a dynnwyd o'r Ddaear o 4 biliwn milltir i ffwrdd. Mae'n werth dyfynnu'r darn yma'n llawn:
From this distant vantage point, the Earth might not seem of any particular interest. But for us, it's different. Consider again that dot. That's here. That's home. That's us. On it everyone you love, everyone you know, everyone you ever heard of, every human being who ever was, lived out their lives. The aggregate of our joy and suffering, thousands of confident religions, ideologies, and economic doctrines, every hunter and forager, every hero and coward, every creator and destroyer of civilization, every king and peasant, every young couple in love, every mother and father, hopeful child, inventor and explorer, every teacher of morals, every corrupt politician, every "superstar," every "supreme leader," every saint and sinner in the history of our species lived there – on a mote of dust suspended in a sunbeam.
The Earth is a very small stage in a vast cosmic arena. Think of the rivers of blood spilled by all those generals and emperors so that in glory and triumph they could become the momentary masters of a fraction of a dot. Think of the endless cruelties visited by the inhabitants of one corner of this pixel on the scarcely distinguishable inhabitants of some other corner. How frequent their misunderstandings, how eager they are to kill one another, how fervent their hatreds. Our posturings, our imagined self-importance, the delusion that we have some privileged position in the universe, are challenged by this point of pale light. Our planet is a lonely speck in the great enveloping cosmic dark. In our obscurity – in all this vastness – there is no hint that help will come from elsewhere to save us from ourselves.
The Earth is the only world known, so far, to harbor life. There is nowhere else, at least in the near future, to which our species could migrate. Visit, yes. Settle, not yet. Like it or not, for the moment, the Earth is where we make our stand. It has been said that astronomy is a humbling and character-building experience. There is perhaps no better demonstration of the folly of human conceits than this distant image of our tiny world. To me, it underscores our responsibility to deal more kindly with one another and to preserve and cherish the pale blue dot, the only home we've ever known.
Gellir ystyried Parry-Williams yn rhyw fath o egin-Sagan, mewn ffordd. A dweud y gwir, byddai 'Dychwelyd' yn gwneud epigraff ardderchog ar gyfer unrhyw gyfieithiad Cymraeg o Pale Blue Dot.

26/02/2014

Ayaan Hirsi Ali

Yn ei hunangofiant, Infidel, mae Ayaan Hirsi Ali yn disgrifio ei magwraeth anodd yn Somalia, Sawdi Arabia, Ethiopia a Kenya. Torrwyd ei horganau rhywiol pan oedd yn ifanc (traddodiad cwbl ffiaidd a ddylid ei wahardd ymhob man), ac roedd yn amlwg yn gynnar iawn bod safle merched o fewn cymdeithas, a hyd yn oed o fewn ei theulu ei hun, yn israddol a dweud y lleiaf. Pan drefnwyd priodas ar ei rhan, fe benderfynodd ffoi i'r Iseldiroedd yn fuan wedyn.

Yn rhyfeddol, llwyddodd i ddod yn aelod seneddol yno, gan ymgyrchu a siarad yn gadarn yn erbyn y ffordd y mae menywod yn cael eu trin o fewn llawer o ddiwylliannau islamaidd. Fe gollodd ei ffydd yn raddol, ac mae bellach yn anffyddwraig o argyhoeddiad (11 Medi 2001 oedd y cadarnhad olaf iddi, mae'n debyg). Daeth i sylw'r byd ehangach yn fuan ar ôl iddi ysgrifennu ffilm fer gyda Theo van Gogh:


Llofruddwyd van Gogh gan eithafwr islamaidd, ac roedd nodyn ar y gyllell a ddefnyddiwyd yn bygwth lladd Hirsi Ali. Gorfu iddi guddio dan warchodaeth yr heddlu, yn debyg i Salman Rushdie adeg y fatwā enwog. Yn anffodus, gydag amser fe ddangosodd y llywodraeth yn glir nad oedd ganddynt rhyw lawer o amynedd gyda'r holl syrcas, ac fe benderfynodd symud i America, ble mae bellach yn gweithio i'r sefydliad ceidwadol yr American Enterprise Institute.

I raddau, mae'n ddigalon mai melin drafod asgell-dde sydd wedi cynnig lloches ddeallusol iddi. Ffeminydd yw Hirsi Ali yn anad dim byd arall, ond am ba bynnag reswm mae llawer iawn o ryffrydwyr gorllewinol wedi bod yn gyndyn iawn i'w chefnogi (ac, yn wir, wedi ei chondemnio fel islamoffôb). Rwyf wedi trafod y duedd hon o'r blaen: pryder cyfeiliornus llawer yw bod beirniadu misogynistiaeth o fewn islam yn hiliol neu'n imperialaidd, ac nad ein lle "ni" yw beirniadu. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, mae gorfodi merched i briodi dieithriaid a rhwygo eu clitorisau i ffwrdd yn farbaraidd ym mhob achos, ac ni ddylai condemnio'r fath beth fod yn benderfyniad anodd i unrhyw ryddrydwr call. Fel y dywed Hirsi Ali ei hun,
I'm not being rightwing. The people who believe themselves to be on the left, and who defend the agents of Islam in the name of tolerance and culture, are being rightwing. Not just rightwing. Extreme rightwing. I don't understand how you can be so upset about the Christian right and just ignore the Islamic right. I'm talking about equality.
Er hyn, mae'n wir bod rhai o safbwyntiau Hirsi Ali yn rai cymharol asgell-dde. Er enghraifft, mae'n feirniadol o rai agweddau o gyfundrefnau budd-daliadau y gorllewin, gan honni eu bod yn annog mewnfudwyr i beidio chwilio am swydd a bod hynny yn ei dro yn eu rhwystro rhag cymhathu. Rwy'n anghytuno, ond fy mhwynt yw na ddylid gor-bwysleisio'r awgrym bod "brad" y chwith wedi'i gwthio i fynwes y dde. Mae'n ddynes ddeallus sy'n amlwg yn credu bod yr AEI yn gartref naturiol iddi. Ond mae'r chwith wedi colli cyfle trwy droi cefn arni, oherwydd dylai fod hen ddigon yn gyffredin rhyngddynt i gydweithio (er ei bod, am ba bynnag reswm, wedi priodi Niall Ferguson, sydd yn fy marn i yn ddyn ofnadwy).

Rwy'n argymell Infidel yn fawr. Mae llawer o'r hanes yn frawychus a digalon, ac mae'n bwysig ein bod yn ymgyfarwyddo â'r anghyfiawnderau yma. Wrth gwrs, y tristwch mwyaf yw nad yw hi'n eithriad: mae miliynau o ferched yn gorfod dioddef yr un peth yn union. Byddaf yn siwr o gael gafael ar ei hail gyfrol, Nomad, yn fuan iawn.