Dyma fersiwn hirach o'r ysgrif gennyf a gyhoeddwyd yn rhifyn haf 2020 o O'r Pedwar Gwynt
------
Ym mis Medi 2007, tros goctêls, cafodd Richard Dawkins, Sam Harris, Daniel Dennett a’r diweddar Christopher Hitchens sgwrs am ddiffygion crefydd. Rhoddwyd fideo o’r drafodaeth, sy’n ddwy awr o hyd, ar YouTube, gyda’r teitl The Four Horsemen, cyfeiriad at y cymeriadau enwog o Lyfr y Datguddiad. Roedd y pedwar eisoes wedi cyhoeddi llyfrau polemig gwrth-grefyddol erbyn hynny (The God Delusion gan Dawkins, The End Of Faith gan Harris, Breaking The Spell gan Dennett, a God Is Not Great gan Hitchens), a roedd y syniad bod rhywbeth o’r enw’r ‘New Atheism’ ar droed eisoes wedi cael ei awgrymu mewn erthygl yn y cylchgrawn Wired y flwyddyn gynt. Dehonglwyd cyhoeddi’r fideo fel rhyw fath o gadarnhad o hynny; yn wir, The Discussion That Sparked An Atheist Revolution yw is-deitl trawsgrifiad o sgwrs The Four Horsemen sydd bellach, ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, wedi’i chyhoeddi ar ffurf cyfrol fer.Wrth gwrs, fel roedd llawer o’r Anffyddwyr Newydd eu hunain
yn prysuro i’w nodi, nid oedd rhyw lawer yn wreiddiol am ddadleuon y mudiad
mewn gwirionedd. Y sylw a’r diddordeb yn y cyfryngau ac ymysg pobl gyffredin oedd
yn newydd. Mae’n wir nad yw’r achos yn erbyn crefydd wedi newid rhyw lawer dros
y ganrif ddiwethaf, ac o’r herwydd fe gyhuddir anffyddwyr o swnio’n ddiflas ac
ail-adroddus. Er bod elfen o wirionedd yn y cyhuddiad, nid yw’n un teg,
oherwydd nid bai anffyddwyr yw’r ffaith bod crefyddwyr yn parhau i fethu ateb y
dadleuon a chynnig rhesymau synhwyrol i gredu ym modolaeth eu duwiau.
Mae’r rhan fwyaf o’r hyn a ddywed y pedwar yn ystod eu sgwrs
yn berffaith gywir. I anffyddiwr rhonc fel fi , mae’r fideo a’r llyfr yn
cynnwys digon o gig coch boddhaol. Oes, mae angen rhoi’r gorau i osod crefydd
ar bedestal annhaeddiannol, a dylid, yn hytrach, ei gwerthuso ar yr un lefel a
chyda’r un rhyddid ag yr ydym yn trafod pob ideoleg arall. Ydi, mae safbwynt y
crefyddwyr yn drahaus yn ei hanfod, gan mai nhw sy’n honni, heb ronyn o
dystiolaeth, bod y bydysawd wedi’i greu yn unswydd ar eu cyfer a bod ganddynt
berthynas bersonol â’r creawdwr hollalluog. Ydyn, mae diwinyddwyr yn euog o
bedlera fflwff gor-eiriog ffug-ddwys sydd, yn amlach na pheidio, yn
gwrth-ddweud yr hyn a bregethir i bobl gyffredin mewn addoldai ar lawr gwlad.
Wrth gwrs, mae ail-adrodd yr hen ddadleuon hyn yn annhebygol
o newid meddwl unrhyw berson crefyddol o argyhoeddiad. Eto i gyd, mae’n bwysig
parhau i roi’r achos ger bron, er budd yr holl bobl hynny yn y canol sydd heb
eto ffurfio barn gref y naill ffordd na’r llall. Celwydd yw pob crefydd, a
doeth, fel rheol, yw osgoi credu celwyddau. Dw i ddim yn obeithiol y daw dydd
pan fydd crefydd wedi diflannu, ond mae’n uchelgais i anelu ato, a mae angen
mudiad sy’n fodlon dweud hyn i gyd yn blaen.
Wedi dweud hyn i gyd, roedd darllen y trawsgrifiad ac
ail-wylio’r fideo, wedi’r holl flynyddoedd, yn deimlad chwithig. Yn un peth,
mae rhannau o’r sgwrs yn swnio’n boenus o hunan-fodlon hyd yn oed i mi, a mae
rhagair Stephen Fry, gyda’i gyfeiriadau at y ‘Four Musketeers of the Mind’, yn
mynd dros ben llestri a dweud y lleiaf. Ond yn fwy na hynny, mae ergyd y
geiriau wedi pylu yng ngoleuni’r hyn sydd wedi digwydd ers y sgwrs, oherwydd
mae’n anodd peidio teimlo bod yr Anffyddiaeth Newydd, erbyn hyn, wedi chwythu’i
phlwc. Yn wir, efallai bod y penderfyniad i gyhoeddi’r llyfr yn gydnabyddiaeth
anfwriadol o hynny. Ai chwyldro parhaus a gyfeirir ato yn is-deitl y gyfrol,
ynteu cyfnod penodol a byr yn ein hanes diweddar yr ydym bellach yn gallu
syllu’n ôl arno, post-mortem?
Os darfod a wnaeth, beth aeth o’i le? Wel, efallai mai un
o’r pethau cyntaf i’ch taro am y sgwrs yw’r ffaith bod y Pedwar Marchog yn
ddynion gwyn i gyd. Dylid cofio, am wn i, mai’r bwriad gwreiddiol oedd cynnwys
Ayaan Hirsi Ali, awdures o dras Somalaidd, ond gorfu iddi ganslo ar y funud
olaf (roedd hynny’n anffodus, ond o leiaf cawsom osgoi gwireddu’r cynllun i
ddefnyddio’r teitl Five Pillars Of Wisdom,
a fyddai wedi bod hyd yn waeth na’r un ar gyfer y pedwar). Ond fe gariodd y dynion
ymlaen hebddi, a roedd y canlyniad yn syrffedus o anghynrychiadol.
O edrych ar y sawl sy’n cael trafod anffyddiaeth yn y
cyfryngau neu ar banelau mewn cynadleddau, gellir maddau rhywun am dybio nad
oes rhyw lawer o fenywod nac aelodau o leiafrifoedd ethnig o fewn y mudiad.
Mae’n ddadlennol bod llyfr gan ddynes a gyhoeddwyd yn 2003 – cyn rhai’r Pedwar
Marchog – yn cael ei adael allan o bob trafodaeth am yr Anffyddiaeth Newydd. Dymuniad
Jennifer Michael Hecht, mae’n debyg, oedd galw’r gyfrol yn A History Of Atheism, ond mynnodd y cyhoeddwyr ar Doubt: A History. Mae’n lyfr ysgolheigaidd,
trwyadl, a rhyfeddol ei rychwant, gan olrhain anffyddiaeth ac anuniongrededd crefyddol
o 800CC hyd at y presennol. Ysywaeth, mae’n anodd peidio tybio y byddai Hecht
wedi ennill llawer mwy o sylw dyledus a chael ei chydnabod fel un o arloeswyr mudiad
newydd petai wedi cael ei ffordd gyda’r teitl. Rhaid oedd aros am y dynion cyn
derbyn bod marchnad ar gyfer y math yna o beth, fe ymddengys.
Bu’r duedd i ddyrchafu dynion gwyn, yn hytrach nag
adlewyrchu’r gymdeithas amrywiol fodern, yn drychinebus i’r Anffyddiaeth Newydd.
Yn waeth na hynny, digalondid mawr oedd gweld anffyddwyr enwog yn cwyno am social justice warriors a ‘chywirdeb
gwleidyddol’. Dyma, yn wir, achosodd yr hollt fwyaf (ac, yn fy marn i, andwyol)
yn y mudiad. Ar y naill ochr, ceir y garfan sy’n mynnu mai ystyr anffyddiaeth
yw diffyg ffydd mewn duw, a dim byd arall. Dyma anffyddiaeth fel canfas wag,
heb iddi unrhyw oblygiadau gwleidyddol penodol tu hwnt i’w diffiniad
geiriadurol. Ar yr ochr arall mae’r sawl sy’n dadlau bod angen i anffyddiaeth roi
lle blaenllaw i gyfiawnder cymdeithasol; yn wir, na ellir cael y gyntaf heb yr
ail. Dw i’n cyfrif fy hun ymysg yr ail garfan: wedi’r cyfan, nid yw'n gwneud
synnwyr i wrthwynebu crefyddau heb hefyd herio a chywiro'r anghyfiawnderau a rhagfarnau
misogynistaidd, hiliol a gwrth-gyfunrywiol a fu’n elfennau mor annatod ohonynt ar
hyd y blynyddoedd. Nid yw’r rhwyg yma’n unigryw i’r mudiad anffyddiaeth, wrth
gwrs. Mae paralel clir yn rhygnu ar hyn o bryd yn y mudiad cenedlaethol yng
Nghymru, gydag un ochr yn mynnu mai ystyr annibyniaeth yw ymwahanu oddi wrth
Loegr a dim byd arall, gan ddilorni niche
issues yr ochr arall sy’n ceisio mynd i’r afael, o flaen llaw, â sut fath o
Gymru rydd y maent yn dymuno’i hennill.
Mae’r ‘sgandal’ penodol (os dyna’r gair) a ddaeth â’r hollt
yma i wyneb yr Anffyddiaeth Newydd bron yn rhy wirion i’w ddisgrifio, ond dw i
am fentro gwneud gan mai natur chwerthinllyd y saga yw’r union bwynt. Yn gryno
iawn: yn 2011, am 4 y bore yn ystod y Global
Atheist Convention yn Nulyn, roedd y blogwraig Rebecca Watson ar ei ffordd
i’w hystafell westy i glwydo ar ôl diwrnod prysur o gynadledda ac ymddiddan yn
y bar. Fe’i dilynwyd gan ddyn, un o’r mynychwyr eraill nad oedd yn gyfarwydd
iddi, a’i gwahoddodd i’w ystafell yntau am goffi. Drannoeth, cyhoeddodd Watson
fideo am ei diwrnod, gan gynnwys sylwadau byr a phwyllog, wrth fynd heibio, am
y digwyddiad lled anghyfforddus yn y lifft. ‘Just a word to the wise here,
guys: don't do that’, meddai. Buasech wedi disgwyl mai dyna fyddai diwedd y mater,
ond yn anffodus cafwyd ymateb blin i’w chyngor ysgafn. Yn fuan wedyn, mewn sylw
arlein drwg-enwog, tywalltodd Richard Dawkins ei hun betrol ar y fflamau trwy
wawdio Watson a gwrthgyferbynu ei chŵyn gyda’r gorthrwm sy’n wynebu menywod
Mwslemaidd mewn gwladwriaethau ffwndamentalaidd. Trodd hynny’r ffrae yn
‘Elevatorgate’, ac mae’r cecru’n parhau hyd heddiw. Efallai mai naïf
oedd disgwyl i griw o bobl sy’n ymhyfrydu yn eu gallu rhesymegu fod yn well
na’r math yma o nonsens, ond roedd nodyn Dawkins yn enwedig yn destun siom
anferthol i lawer. Fe ymddiheurodd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ond
roedd y drwg wedi’i wneud. Mae’r ffaith bod nifer o anffyddwyr blaenllaw wedi’u
cyhuddo o gamymddwyn yn rhywiol tuag at fenywod yn y blynyddoedd ers hynny’n
dangos peryglon anwybyddu’r fath rybuddion.
Aeth Dawkins yn ei flaen i ddifetha’i enw da ymhellach trwy gyhoeddi
cyfres o sylwadau dwl, am Islam yn bennaf, ar Twitter. Efallai mai’r enghraifft
enwocaf oedd ei drydariad yn nodi’r ffaith bod Coleg y Drindod, Caergrawnt,
wedi ennill mwy o Wobrau Nobel na’r holl fyd Mwslemaidd. Does dim byd am y
sylw’n ffeithiol anghywir, ond mae mor gamarweiniol ac arwynebol mae gystal â
rhaffu celwydd noeth.
Yn anffodus, daeth agweddau trafferthus tuag at Islam i
nodweddu’r Anffyddiaeth Newydd yn ei chyfanrwydd yn y blynyddoedd diwethaf. Gwir
y gellir dehongli dyfodiad y mudiad, i raddau o leiaf, fel ymateb i ymosodiadau
terfysgol Medi 11, 2001, a
rhwystredigaeth bod rhyddfrydwyr a’r chwith yn amharod i feirniadu Islam. Dw i
dal i gredu bod sail i’r rhwystredigaeth honno, ond fe garlamodd gormod o
anffyddwyr yn rhy bell i’r cyfeiriad arall, gan dargedu Mwslemiaid fel pobl yn
hytrach nag Islam fel cagliad o syniadau. Mae’n siwr mai’r sylw gwaethaf un yn The Four Horsemen yw’r canlynol gan
Christopher Hitchens: ‘I think it’s us, plus the 82nd Airborne and
the 101st, who are the real fighters for secularism at the moment’.
Anodd yw credu bod datganiad mor dwp wedi dod o enau dyn a oedd mor enwog am ei
ddeallusrwydd. Mae’r syniad mai hyrwyddo seciwlariaeth oedd bwriad George W
Bush yn ddigon dwl, ond mae’r sylw’n anfaddeuol o gofio bod y dinistr a
achoswyd gan y rhyfeloedd yn Affganistan ac Irác eisoes yn hysbys ac amlwg
erbyn Medi 2007.
Sgwn i pa drywydd deallusol byddai Hitchens wedi’i ddilyn pe
na bai wedi marw yn 2011? Byddai wedi mwynhau dweud pethau cas am ynfytyn fel
Donald Trump, yn sicr, ond dw i’n ofni byddai’i gasineb tuag at Fwslemiaid
wedi’i arwain i glosio tuag at yr alt-right.
Dyna, yn anffodus, ble mae Sam Harris heddiw. Mae Harris wedi dweud yn blaen y
dylai system fewnfudo America ffafrio Cristnogion ar draul Mwslemiaid, wedi
dadlau o blaid ‘proffeilio’ pobl sy’n ‘edrych yn Fwslemaidd’ mewn meysydd awyr
(hynny yw, eu targedu ar gyfer chwiliadau diogelwch pellach), wedi cyfiawnhau
artaith, a hefyd (ar ffurf ‘arbrawf feddyliol’) wedi cefnogi’r syniad o daro’n
gyntaf yn erbyn jihadwyr gyda bom niwclear. Ar ben hyn, mae ganddo obsesiwn
sinistr gyda’r syniad bod gwahaniaethau IQ i’w gweld rhwng grwpiau ethnig (oes
angen dyfalu pwy sydd ar y brig?). Er nad oes tystiolaeth o fath yn byd bod
hynny’n wir (nac ychwaith bod ‘hil’ yn gysyniad gwyddonol ystyrlon yn y lle
cyntaf), mynna Harris bod y gwrthwynebiad i’r syniad hwn wedi’i seilio ar
‘politically-correct moral panic’.
Ystyrir Daniel Dennett y mwyaf cymhedrol o’r Marchogion.
Efallai bod hynny, yn fwy na dim, oherwydd ei fod yn gymharol dawel ar y
cyfryngau cymdeithasol, ac felly heb eto roi ei droed ynddi. Beth bynnag, mae
gan o leiaf dri o’r Pedwar Marchog hanes o ddweud pethau afresymol a
rhagfarnllyd. Mae gwybod hynny’n bownd o bylu ergyd eu geiriau wrth i ni’u
darllen yn cytuno’n hunangyfiawn am bwysigrwydd seilio safbwyntiau ar
dystiolaeth a rhesymeg. Mae pawb yn ystyried Rhesymeg yn beth da, ond canlyniad
hynny yw ei fod yn colli pob ystyr, gan fod pawb, gan gynnwys llawer iawn o
bobl heb yr un asgwrn rhesymegol yn eu corff, yn ei hawlio. Yn anffodus, nid
yw’r Marchogion eu hunain wedi dangos eu bod fawr mwy tebygol o ymddwyn yn
rhesymegol yn hytrach na bodloni ar ei ddatgan fel rhyw fath o air hud.
Gyda thwf y dde eithafol, mae’r byd wedi newid cryn dipyn
ers 2007. Er bod fy naliadau gwrth-grefyddol mor gryf ag erioed, maent wedi
syrthio yn fy rhestr flaenoriaethau. Y dde senoffobaidd, adweithiol ac
awdurdodaidd yw’r gelyn pennaf erbyn hyn, ac yn hynny o beth mae’n amhosibl ystyried
pobl fel Sam Harris ar yr un ochr â mi. Bu llawer gormod o or-gyffwrdd rhwng yr
alt-right ac elfennau o’r Anffyddiaeth
Newydd, er mai Donald Trump, y godinebwr celwyddog di-foes, yw’r arlywydd mwyaf
poblogaidd erioed ymysg efengylwyr America.
A yw tranc yr Anffyddiaeth Newydd yn barhaol, felly? Ni fuaswn i’n dweud hynny. Gan nad yw crefydd am ddiflannu, bydd galw o hyd am fudiad sy’n fodlon herio’i nonsens. Mae’n holl-bwysig, fodd bynnag, bod unrhyw Anffyddiaeth Newydd Newydd yn cofleidio amrywiaeth y byd modern, yn rhoi llwyfan i leisiau gwahanol, a chroesawu pawb. Methiant mawr chwyldro The Four Horsemen oedd peidio dangos sut y byddai byd heb grefydd yn rhagori ar yr un presennol. Os na fydd y chwyldro nesaf, os cawn un, yn cyflawni hynny, byr-hoedlog fydd hwnnw hefyd.
Diddorol iawn,ond pur 'niche'i'r mwyafrif(efallai) o'ch darllenwyr.Does dim ots am y rhan fwya Gymry am grefydd.Efallai y dyliech gymeryd hun fel arwydd o fyddigoliaeth.
ReplyDeleterhowch gan yn lle yr am cyntaf.
Delete