Showing posts with label cyfunrywioldeb. Show all posts
Showing posts with label cyfunrywioldeb. Show all posts

14/06/2016

Cyflafan Orlando

Dyma ffaith syfrdanol: dros y penwythnos yn America, bu chwech achos gwahanol o saethu torfol. Un o'r rhain oedd y gwaethaf yn hanes y wlad; mae cadarnhad bod 49 wedi'u lladd mewn clwb nos yn Orlando sy'n boblogaidd â phobl hoyw. Dyma'r gyflafan waethaf yn erbyn hoywon yn y gorllewin ers yr Holocost.

Americanwr oedd y llofrudd, yn enedigol o Efrog Newydd, ond mae ei rieni o Affganistan. Mae'n debyg bod Omar Mateen wedi ffieiddio o weld dau ddyn yn cusanu, ac wedi mynd ati'n benodol i dargedu'r clwb hwn. Fe ddatganodd ei gefnogaeth i'r Wladwriaeth Islamaidd, ac er ei bod yn annhebygol bod y grŵp hwnnw wedi chwarae rhan yn y cynllunio, roeddent yn berffaith hapus i dderbyn y 'clod'. Unwaith y daeth i'r amlwg bod modd beio'r cyfan ar islam, roedd ymateb ceidwadwyr y wlad mor anochel ag y buasech wedi tybio.

Byddai ychydig o gyd-destun yn ddefnyddiol fan hyn. Bu ymosodiad erchyll ar Ysgol Sandy Hook yng Nghonnecticut ar Ragfyr 14, 2012, a lladdwyd 27. Roedd 20 ohonynt yn blant chwech a saith oed. Y gyflafan yn Orlando oedd y 998fed achos o saethu torfol ers hynny. Mae hynny'n cyfateb i bron un bob dydd, tros gyfnod o dair blynedd a hanner. Er y sgrechian gan geidwadwyr bod 'islamiaeth radical' yn bygwth y weriniaeth, dim ond tri o'r ymosodiadau hyn a gyflawnyd gan fwslemiaid eithafol. Wrth gwrs mae terfysgaeth islamaidd yn broblem (fel rwyf wedi'i drafod droeon), ond mae'n berffaith amlwg i bawb synhwyrol bod perthynas rhwng y rhestr anferth yma o achosion o saethu (sy'n hollol unigryw yn y byd gorllewinol) ac obsesiwn Americanwyr â gynnau. Er bod Mateen eisoes wedi dod i sylw'r gwasanaethau cudd yn y gorffennol, bu modd iddo brynu assault rifle AR-15 yn gwbl gyfreithlon. Arf ar gyfer maes rhyfel yw hwnnw; nid oes rheswm o fath yn y byd i'r fath beth fod ar gael i unigolion preifat.

Cri ceidwadwyr yw bod angen cadw Americanwyr yn saff. Y ffordd amlwg o wneud hynny yw newid y polisi gynnau, ond mae hynny'n wrthun iddynt. Yn anffodus, o gofio na newidiodd unrhyw beth yn dilyn y golygfeydd arswydus o Sandy Hook, nid oes llawer o obaith y bydd pethau'n wahanol y tro hwn chwaith. Mynnir na ddylid 'politiceiddio' digwyddiadau fel hyn. 'Nid nawr yw'r amser' i drafod y broblem gynnau, meddent. Lol llwyr yw hynny: dyma'r union amser i siarad am y peth a gweithredu. Os nad nawr, pryd? Esgus i aros i'r mater fynd yn angof a llithro oddi ar yr agenda yw dweud na ddylid trafod newid polisi fel ymateb uniongyrchol i'r fath ymosodiadau.

Llawer gwell gan y Gweriniaethwyr yw eistedd ar eu dwylo a gwneud dim ond cynnig eu 'meddyliau a'u gweddïau'. Dyna un o'm cas ymadroddion. Mae'n waeth nag ofer, a'n cymryd lle ateb go iawn. Mae gan aelodau'r Gyngres y gallu i rwystro ymosodiadau fel hyn trwy gyflwyno deddfau. Nid yw'r malu cachu diog a gwag yna'n helpu unrhyw un. Yn wir, mae hyd yn oed yn fwy rhagrithiol na'r arfer yn yr achos hwn, gan fod polisïau'r Gweriniaethwyr tuag at bobl hoyw'n llawn casineb hyll. Cafwyd y datganiad hwn gan Ted Cruz, er enghraifft, y dyn a ddaeth yn ail i Trump yn ras ar gyfer enwebiad arlywyddol y blaid eleni. Dywedodd:
If you’re a Democratic politician and you really want to stand for LGBT, show real courage and stand up against the vicious ideology that has targeted our fellow Americans for murder.
Mae'r rhagrith yn codi cyfog. Nid oes gan Cruz unrhyw hawl i'r tir uchel moesol ar fater hawliau pobl LHDT, gan fod poeri casineb tuag atynt wedi bod yn sail i'w holl yrfa wleidyddol. Yn wir, fe rannodd lwyfan â Christion eithafol o'r enw Kevin Swanson sy'n dweud yn blaen y dylid dïenyddio pobl hoyw. Pan mae ymgeiswyr arlywyddol yn cofleidio rhywun felly, pa ryfedd bod rhywun yn mynd i geisio rhoi'r syniadau ar waith? Gan fod Cruz wedi gwrthod sawl cyfle i gondemnio Swanson, dylai fod yn onest a chymeradwyo Mateen.

Yr unig reswm mae ceidwadwyr y Gweriniaethwyr wedi cynhyrfu am y gyflafan hon yw mai mwslem oedd yn gyfrifol. Yn y cyfamser, ar yr un diwrnod, arestwyd dyn yn Los Angeles oedd ar ei ffordd i ymosod ar ddigwyddiad LA Pride. Roedd ganddo lond car o arfau a ffrwydron. Dyn gwyn o'r enw James Howell oedd hwnnw, a Christion yn ôl pob tebyg. Rhagfarn a chasineb yn erbyn pobl hoyw yw'r broblem fan hyn. Dylid canolbwyntio ar y dioddefwyr. Nid yw union ffydd y sawl sy'n eu targedu'n arbennig o bwysig; ffwndamentaliaid treisgar a rhagfarnllyd yw'r gelyn, beth bynnag eu hunion ddaliadau crefyddol. Mae'n anodd dweud y gwahaniaeth rhyngddynt yn y pen draw. Os yw'r Gweriniaethwyr o ddifrif am wrthwynebu'r Wladwriaeth Islamaidd, dylent gofleidio ac arddel hawliau pobl LHDT. Y gwir yw eu bod yn debycach i'w gelynion honedig nag y maent yn barod i'w gydnabod.

Diweddariad 14/6/16 18:25

Mae awgrymiadau erbyn hyn bod Mateen wedi mynychu'r clwb yn rheolaidd. Hyd yn oed os yw'n wir ei fod yn hoyw ei hun, ac mai hunan-gasineb neu rwystredigaeth ynghylch ei fethiannau rhamantaidd oedd ei gymhelliad, ni fyddai hynny'n newid unrhyw beth. Byddai'r ymosodiad yr un mor homoffobig. Fel yn achos Elliot Rodger, y misogynydd ifanc a benderfynodd bod ei anallu i ddarbwyllo'r un ferch i fod yn gariad iddo'n reswm da i saethu chwech o'i gyd-fyfyrwyr yn farw a chlwyfo 13 arall, y dybiaeth yw bod ganddynt hawl ddwyfol i gael mynediant i gyrff pobl eraill. Fel mae sawl un wedi nodi, symptom o machismo gwenwynig yw'r agwedd yma. Yr un machismo sy'n clodfori gynnau. Mae'r cyfuniad yn berygl bywyd, a menywod a lleiafrifoedd gorthrymedig sy'n dioddef waethaf.

15/02/2015

Bwrw Golwg

Roeddwn ar Bwrw Golwg y bore 'ma (10:20 i mewn), yn trafod anffyddiaeth a'r blog. Y rheswm oedd canlyniadau arolwg a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnos: mae'n debyg bod 42% o bobl y Deyrnas Gyfunol bellach yn dweud nad ydynt yn grefyddol, a bod 19% hyd yn oed yn cofleidio'r label 'anffyddiwr'. Mae'r ffigurau hyd yn oed yn uwch ar gyfer y genhedlaeth iau. Calonogol iawn, wrth gwrs.

Roeddwn yn hapus â'r sgwrs ar y cyfan, er fy mod yn gwybod yn iawn sut y gallaswn fod wedi gwella rhai o'r atebion. Yn arbennig, rwyf wedi bod yn gwingo, bron yn barhaus, ers i'r gair 'gwrywgydiaeth' lithro allan o'm ceg wrth recordio'r eitem. Mae'n air gwirion, ac nid oes gennyf syniad pam y'i dywedais. Fel un sydd wedi dweud droeon bod angen i bawb roi'r gorau i'w ddefnyddio, mae'n destun embaras. Buaswn yn pledio nerfusrwydd, ond mae'n esgus dila braidd. Ymddiheuriadau i bawb arall sy'n casáu'r gair.

Gwn mai'r ateb gwanaf oedd i'r cwestiwn ynghylch Cristnogion sy'n cael eu hysbrydoli gan eu ffydd i arddel safbwyntiau digon blaengar. Mae'n amlwg bod hynny'n wir am lawer iawn o Gristnogion, fel y cydnabyddais. Ond byddai ymateb gwell wedi mynd ati i egluro mai problem crefydd fan hyn yw ei bod fel canfas gwag i raddau helaeth. F'argraff i yw y byddai Cristnogion blaengar yn arddel y safbwyntiau rhyddfrydol hynny beth bynnag, ffydd neu beidio. Cyfiawnhad post hoc yw'r ddiwinyddiaeth. Rwyf wedi cyffwrdd ar y pwnc hwn mewn cofnod blaenorol hefyd.

Dywedodd y Parchedig Pryderi Llwyd Jones rai pethau digon clên am y blog yn ei sgwrs ddilynol yntau, chwarae teg. Wrth gwrs, nid yw mor hoff o'm defnydd o ymadroddion fel 'ofergoeliaeth afresymegol' a 'fflwff diwinyddol ffug-ddwys'. F'amddiffyniad i yw fy mod yn ceisio egluro'n gymharol drylwyr pam fy mod yn credu bod y rhain yn ddisgrifiadau teg. Nid cyhuddiadau ffwrdd-a-hi mohonynt. Gwn nad yw eu defnyddio'n debygol iawn o arwain at berswadio Cristnogion bod eu fydd yn seiliedig ar gelwydd, ond, wel, mae hynny'n annhebygol iawn o ddigwydd doed a ddelo. Os oes gennyf obaith o ddenu unrhyw un i'r gorlan hon, yna pobl sydd ar hyn o bryd ar y ffens yw'r rheiny. Ond yn anad dim, mae'r disgrifiadau'n adlewyrchu fy marn, felly byddai'n anonest i mi'u hosgoi.

22/10/2014

Priodasau hoyw yn Vegas

Mae pethau wedi symud yn rhyfeddol o gyflym yn achos priodasau cyfunrywiol yn America dros y flwyddyn ddiwethaf neu ddwy. Erbyn hyn, mae 32 talaith (a Washington, DC) yn caniatáu i gyplau hoyw briodi'n swyddogol, ac mae'r gwaharddiadau sy'n weddill yn debygol o barhau i syrthio fel dominos. Mae'r rhai diweddar yn cynnwys llefydd hynod geidwadol fel Utah, Wyoming, Alaska ac Idaho.

Byddai hyn wedi ymddangos yn hollol amhosibl hyd yn oed ar ddechrau'r degawd hwn. Mae'n wir mai'r llysoedd sy'n bennaf gyfrifol, yn hytrach na deddfwriaeth, ond mae mwyafrif clir o boblogaeth y wlad bellach yn gefnogol, ac mae'r ceidwadwyr rhagfarnllyd yn heneiddio. Yn amlwg, mae'r ddadl wedi'i hen ennill. Yn fuan iawn (efallai mor fuan â 2015 neu 2016, yn dibynnu ar pryd fydd y Goruchaf Lys yn cytuno i wrando ar achos llawn), bydd pob rhan o'r Unol Daleithiau'n rhoi'r un hawliau priodasol i gyplau cyfunrywiol ag y mae pawb arall eisoes yn eu mwynhau.

Talaith arall lle cyfreithlonwyd priodasau hoyw ar ddechrau'r mis yw Nevada. Efallai ei bod yn syndod nad oedd Las Vegas, o bob man, yn caniatáu hynny'n barod, ond mae gweddill y dalaith yn bur geidwadol. Roedd priodi am 4 y bore, yn feddw dwll, â rhywun rydych newydd ei gyfarfod y noson honno, yng nghwmni Elvis ar gefn tandem, yn cyd-fynd yn barchus ac urddasol â'r syniad o briodas draddodiadol, mae'n debyg, cyn belled nad oedd gan y darpar-gymar yr un math o organnau rhywiol. Bid a fo am hynny, rwy'n hapus bod y dalaith lle cefais i fy hun y fraint o briodi'm gwraig bellach wedi cymryd y cam pwysig hwn.

Wrth ddilyn y newyddion, penderfynais edrych i weld beth oedd ymateb y Chapel Of Flowers, lle cawsom y seremoni (er yr enw, roedd modd dewis priodas cwbl seciwlar). Er bod rhai 'capelau' yn y ddinas yn gwrthwynebu'r newid, roedd yn dda gweld bod y lle y dewisom ni wedi croesawu'r newyddion â brwdfrydedd a llawenydd. Byddai wedi pwyso ar fy nghydwybod petaent yn wrthwynebus, felly mae gweld hynny'n fy ngwneud yn ddigon hapus.

21/01/2014

Duw blin, hoywon a'r tywydd

Rwy'n mwynhau straeon fel yr un am y y cynghorydd Iwcip sy'n beio'r tywydd garw diweddar ar gyplau cyfunrywiol. Mae David Silvester yn credu bod ei dduw'n aniddig gyda llywodraeth y Deyrnas Gyfunol oherwydd y ddeddfwriaeth arfaethedig sydd am ganiatáu i hoywon briodi.

Mae'n dda gweld bod bron pawb arall ym Mhrydain wedi ymateb gyda chyfuniad o syndod a chwerthin. Nid yw rhywun yn clywed pethau lloerig fel hyn yn arbennig o aml ym Mhrydain, ond mae'n beth digon cyffredin yn America.

Yn ystod corwynt Isaac, a achosodd dros $2bn o ddifrod yn Lousiana yn 2012, eglurodd y digrifwr Stephen Colbert pa mor rymus a phell-gyrhaeddol yw dylanwad yr holl hoywon yma ar atmosffêr ein planed:
"Hurricanes form from rising moisture created by hot steamy man action aboard a gay Caribbean cruise. When that sin gets high enough it makes the angels cry and those tears fall to earth in the form of massive precipitation because homosexuals are a vital part of the water cycle. That's why the gay symbol is a rainbow!"
Gellir priodolir pob anffawd neu drychineb naturiol i ddicter yr unben blin yn y nen, wrth gwrs. Yn rhyfeddol iawn, gelynion gwleidyddol y sawl sy'n gwneud yr honiad sydd ar fai bob tro. Mae'n siwr mai cyd-ddigwyddiad llwyr yw hynny.

Yn anffodus, nid yw Duw fel arfer yn gallu anelu'n gywir iawn. Mae gwlychu arfordir gorllewinol Prydain (ac Aberystwyth yn arbennig) er mwyn mynegi siom gyda phenderfyniad a wnaed yn Llundain yn ffordd drwsgl braidd o fynd o'i chwmpas hi.

Weithiau, nid yw'r targed a ddewisir gan yr arglwydd nefol yn gwneud y mymryn lleiaf o synnwyr. Ei fab ei hun (neu'n wir ef ei hun, gan ddibynnu ar eich dehongliad o athrawiaeth hurt y drindod) oedd yn ei chael hi'n ddiweddar. Tybed pa ddrygioni oedd yr hen Iesu Grist druan wedi'i gyflawni er mwyn haeddu'r fath gosb gan ei dad?

16/06/2013

Dim atebion

Roeddwn yn un o'r gwesteion ar raglen fyw "@ebion" ar Radio Cymru heddiw. Gallwch wrando arni fan hyn, a bydd yn cael ei hail-ddarlledu nos Wener am 9.

Priodasau cyfartal oedd y pwnc, a'r gwesteion eraill oedd Bethan Marlow ac Adrian Morgan. Adrian oedd yn siarad yn erbyn, yn erbyn dau o blaid.

Nid oeddwn yn teimlo'n nerfus o gwbl o flaen llaw (fy mhrif bryder oedd y perygl i mi regi), ond rhaid cyfaddef i don o nerfusrwydd lifo drosof wedi i mi eistedd lawr yn y stiwdio. Mae hynny i'w glywed ar y dechrau, ond teimlais yn fwy cyfforddus gydag amser.

Roedd dadlau ag Adrian yn brofiad rhwystredig iawn, mae'n rhaid dweud. Gofynnwyd fwy nag unwaith iddo am ateb i gwestiwn digon syml: sut yn union y mae caniatáu priodasau cyfartal yn mynd i darfu ar ei fywyd yntau? Yn anffodus, nid oedd ganddo rhyw lawer i'w gynnig heblaw am y jargon diwinyddol cyfarwydd (nid wyf ar frys i glywed yr ymadrodd "cyfamod ger bron Duw" eto'n fuan): siarad a siarad (a siarad) heb ddweud unrhyw beth o werth oedd hyn. Llenwi'r amser oedd yr unig amcan, hyd y gwelaf i.

Fe ddisgrifiodd y nodweddion sy'n diffinio perthynas rhwng gŵr a gwraig (yn ei dyb ef), ond pan ofynnwyd iddo egluro sut yn union y mae perthynasau cyfunrywiol yn wahanol yn hynny o beth, ni chafwyd ateb ystyrlon i hynny chwaith. A dweud y gwir, hoffwn gynnig medal i unrhyw un sy'n gallu deall ei ymdrech i gysoni ei gefnogaeth honedig i'r egwyddor o gydraddoldeb ar un llaw a'i ddyhead i wrthod hawliau cyfartal i gyplau hoyw ar y llaw arall.

Efallai y dylwn fod wedi bod yn fwy ymosodol a thorri ar draws yn amlach. Rwy'n ymwybodol bod hynny'n gallu bod yn bla mewn trafodaethau radio, gan amharu ar lif y sgwrs, ond mae angen gwneud weithiau pan mae un person yn gwastraffu cymaint o amser gyda geiriau gwag. Er enghraifft, rwy'n difaru peidio ymateb pan awgrymodd Adrian bod ei reddfau naturiol o bryd i'w gilydd yn peri iddo gael ei demtio i fynd yn groes i ewyllys ei dduw. Pan mae cristnogion yn dweud pethau fel hyn, yr awgrym wrth gwrs yw mai'r unig beth sy'n eu rhwystro rhag camymddwyn yw'r syniad bod Duw'n edrych arnynt ac nad ydynt eisiau ei bechu. Mae hynny'n golygu eu bod yn llai moesol na mi mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n llwyddo'n ddigon di-drafferth i fyw bywyd digon moesol er nad wyf yn credu bod yna oruchwyliwr cosmig yn cadw golwg arnaf. Y rheswm am hynny yw bod gennyf system foesoldeb aeddfed y mae modd ei egluro mewn termau seciwlar a rhesymegol.

Er ychydig o rwystredigaeth, fodd bynnag, bu i mi fwynhau'r profiad yn fawr. Roeddwn yn siomedig pan ddaeth y rhaglen i ben, oherwydd roedd gennyf lawer iawn mwy i'w ddweud. Byddwn yn hapus iawn i wneud y math yma o beth eto pe daw'r cyfle.

15/06/2013

Fi ar y radio

Byddaf yn westai byw ar Radio Cymru toc wedi 2pm yfory, ar raglen @ebion, yn dadlau o blaid priodasau cyfartal. Heb wneud y math yna o beth erioed o'r blaen, felly rwy'n edrych ymlaen!

23/03/2013

Rhaid amddiffyn rhyddid mynegiant eithafwyr

Mae straeon fel hyn yn gwneud i mi deimlo'n rhwystredig iawn. Roedd mudiad cristnogol (rhagfarnllyd a dwl) am roi hysbyseb ar ochr bysiau yn Llundain gyda'r geiriau "Not Gay! Ex-Gay, Post-Gay and Proud. Get over it!", ond fe'i gwaharddwyd gan Transport For London. Mae'r Uchel Lys wedi dilysu'r gwaharddiad hwnnw.

Nid wyf am wastraffu amser yn beirniadu'r hysbyseb. Digon yw dweud ei fod yn gwbl wallgof; bydd darllenwyr y blog hwn yn gyfarwydd â'r hyn rwy'n ei feddwl o'r fath ragfarn ac anwybodaeth. Ond mae gwahardd pethau fel hyn yn anfoesol, er eu bod mor atgas. Y rheswm a roddwyd yw bod yr hysbyseb yn debygol o "achosi tramgwydd" i bobl. Mae hynny'n sicr yn wir: rwyf i fy hun yn cael fy ngwylltio gan y math yma o lol. Ond mae'n amherthnasol. Nid oes gan unrhyw un yr hawl i beidio cael eu hypsétio.

Ymateb oedd yr hysbyseb i ymgyrch flaenorol gan Stonewall, gyda'i neges "Some people are gay. Get over it!". Mae'r geiriau yna'n rai clodwiw iawn, wrth reswm. Fodd bynnag, os caniatáu negeseuon gwleidyddol mewn hysbysebion fel hyn, ni ddylai fod gan y wladwriaeth hawl i wahaniaethu rhyngddynt (corff cyhoeddus yw TfL). Rhaid caniatáu'r cwbl. Mae hynny'n cynnwys negeseuon hiliol neu BNPaidd, gyda llaw. Dyma ystyr rhyddid.

Mae yna resymau ymarferol dros amddiffyn hyn yn ogystal â rhai moesol. Yn un peth, mae wedi golygu llawer iawn mwy o sylw i'r mudiad afiach yma a'u neges annifyr ac anghywir. Mae'n siwr eu bod yn ddigon bodlon â'r ffaith eu bod yn y newyddion (dyma effaith Streisand ar waith, yn y bôn). Yn waeth byth, maent yn sicr o fanteisio ar y cyfle i bortreadu'u hunain fel merthyron. Rwy'n cael trafferth meddwl am unrhyw beth mwy syrffedus na christion gorllewinol gyda persecution complex. Y peth olaf y dylem ei wneud yw cyfiawnhau eu cwynion.

04/03/2013

Keith O'Brien

Mae wedi digwydd eto. Ar ôl i ffigwr crefyddol amlwg ddweud llawer o bethau creulon ac anghynnes am gyplau cyfunrywiol, daw'r newyddion ei fod ef ei hun yn hoyw.  A bod yn fanylach, mae wedi gorfod ymddiswyddo ar ôl iddo ddod yn hysbys ei fod wedi camymddwyn yn rhywiol tuag at rai o'i gyd-offeiriaid. Mater o amser ydoedd, am wn i: fel mae'r wefan Gay Homophobe yn ei ddangos, mae'r math yma o beth yn digwydd yn syfrdanol o aml.

Bron y gallwch ddweud bod perthynas uniongyrchol rhwng eithafiaeth yr homoffobia a'r siawns bod y person sy'n ei arddangos yn ddryslyd ynghylch ei rywioldeb ei hun. Efallai mai modd o wadu'r dyheadau cyfunrywiol yma yw difrïo hoywon, ac o ddarbwyllo'u cyd-grefyddwyr eu bod yn driw i reolau'r ffydd wedi'r cyfan. Rwy'n credu ei bod yn debygol bod y rheolau hynny'n ffactor enfawr yn achos pabyddiaeth: mae'n hawdd gweld sut mae mynnu bod offeiriaid yn anghydweddog yn gallu arwain at rwystredigaeth rhywiol. Mae'n bosibl yn fy marn i bod perthynas rhwng hynny a'r sgandal camdrin plant.

Brysiaf i ddweud nad yw'r uchod yn awgrymu am eiliad bod gennyf y gronyn lleiaf o gydymdeimlad tuag at Keith O'Brien. Rwy'n ei gasáu â chas perffaith, fel yr wyf yn casáu pob pabydd blaenllaw.

Sylwch ar ei "ymddiheuriad" swyddogol: "To those I have offended, I apologise and ask forgiveness. To the Catholic Church and people of Scotland, I also apologise." Dim gair am y miloedd ar filoedd o gyplau cyfunrywiol y mae wedi'u sarhau mor fileinig, a'u defnyddio fel cocynnau hitio er mwyn ceisio ymdopi â'i angst personol. Arddangosodd ragrith a hyfrdra rhyfeddol wrth feiddio galw cyplau cyfunrywiol yn anfoesol, wedi iddo yntau'i hun blagio'i gyd-weithwyr yn rhywiol yn groes i'w dymuniad. Rwy'n gobeithio hefyd bod yr heddlu'n ymchwilio'r "inappropriate behaviour" a'r "unwanted behaviour" yma, beth bynnag oedd natur hynny. Nid wyf am ddal f'anadl, fodd bynnag, o ystyried record hir a chywilyddus yr eglwys babyddol o geisio ymateb i bethau fel hyn yn fewnol.

Gwynt teg ar ôl y mochyn. Rwy'n mawr obeithio y bydd ei ymddygiad yn niweidiol iawn i'w eglwys.

05/02/2013

Buddugoliaeth bwysig i gydraddoldeb

Roeddwn wedi hanner-disgwyl i'r bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin ynghylch priodasau cyfunrywiol fod yn agosach, felly roedd yn braf gweld cydraddoldeb yn curo rhagfarn yn rhwydd, o 400 i 175.

Yn ddigalon, fe bleidleisiodd mwyafrif o'r aelodau Ceidwadol, a phob un o'r wyth sy'n cynrychioli seddau Cymreig, y ffordd anghywir. Ymunodd Paul Murphy a Dai Harvard o'r Blaid Lafur Cymreig â hwy hefyd. Rhag eu cywilydd. Gallwn ond obeithio eu bod yn sylweddoli bod yr oes yn prysur newid, ac eu bod ar ochr anghywir hanes. Bydd cymdeithas y dyfodol yn ffieiddio at y sawl a bleidleisiodd "na" heddiw, yn union fel yr ydym ninnau'n rhyfeddu o edrych yn ôl ar hilgwn y gorffennol. Dylwn fod wedi dysgu peidio disgwyl gwell gan rai o'n haelodau etholedig erbyn hyn, ond fe ddefnyddiodd un, yn gwbl ddi-eironi, yr hen ystrydeb plentynnaidd a thwp hwnnw am "Adam ac Eve, not Adam and Steve". Fe ddywedodd sawl un arall bod y mater yn un "cymhleth" a bod angen pwyllo cyn gwneud newidiadau mor sylweddol. Y gwirionedd, wrth gwrs, yw bod hyn i gyd yn eithriadol o syml. Dull o ffug-barchuso rhagfarn yw dadleuon felly.

Dim ond megis dechrau yw heddiw, wrth gwrs. Mae llawer mwy o "graffu" i'w wneud, a bydd yn ddifyr gweld sut aiff pethau yn Nhŷ'r Arglwyddi. Ond mae pleidlais heddiw'n hanesyddol, ac mae pethau'n edrych yn addawol iawn.

Fel dyn heterorywiol sy'n priodi ei ddarpar-wraig fis nesaf, rwy'n falch iawn o hynny. Mae'r gwrthwynebwyr yn dadlau bod cyfreithloni priodasau cyfunrywiol yn peryglu priodas ei hun fel cysyniad, fel petai teuluoedd heterorywiol ledled Prydain am chwalu'n deilchion o ganlyniad (na, nid wyf innau'n deall sut chwaith). Noder, gyda llaw, bod llawer iawn o'r aelodau seneddol gwrthwynebus wedi godinebu yn y gorffennol, a bod sawl un ar ei ail neu drydedd wraig. Ond beth bynnag, y gwrthwyneb sy'n wir os rywbeth: rwy'n credu bydd fy mhriodas yn golygu mwy fyth o wybod nad oes carfan gyfan o gymdeithas yn cael eu gwahardd rhag mwynhau'r un breintiau.

05/11/2012

Pwysigrwydd galw ffyliaid rhagfarnllyd yn ffyliaid rhagfarnllyd

Er mawr syndod i neb, mae'r eglwys babyddol ym Mhrydain yn anhapus iawn bod Stonewall, yr elusen sy'n brwydro o blaid cyfartaledd i bobl cyfunrywiol, wedi rhoi gwobr fawreddog "bigot of the year" eleni i'r Cardinal Keith O'Brien. Fe gofiwch i O'Brien ddweud pethau anhygoel o dwp yn gynharach eleni wrth geisio dadlau'n erbyn cyfreithloni priodasau hoyw. Ymysg pethau eraill, cyffelybodd y cynlluniau arfaethedig (sef i roi'r un hawliau i gyplau cyfunrywiol ag sydd gan bawb arall eisoes) i ail-gyflwyno caethwasiaeth. Mae'r dyn yn warthus, ac mae'r label "bigot" yn briodol tu hwnt.

Rhaid i mi anghytuno'n chwyrn, felly, gyda'r erthygl yma yn y New Statesman, sy'n mynnu bod cynnal gwobr o'r fath yn blentynaidd ac - och! - yn "offensive". I'r gwrthwyneb, rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod sylwadau megis y rhai a wnaed gan O'Brien yn ennyn cymaint o ddirmyg ag sy'n bosibl. Rhaid pwysleisio mor warthus, eithafol, hyll, anfoesol, sarhaus a chreulon ydynt. Nid yw sylwadau O'Brien yn haeddu'r gronyn lleiaf o barch, ac mae gwobr fel hon - stynt, bid siwr, ond un effeithiol a chlodwiw - yn ffordd ardderchog o ddangos hynny. Mae gan gylchgrawn New Humanist wobr debyg, y "Bad Faith Awards", ac rwy'n hyderu bod O'Brien wedi gwirioni ei fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer honno hefyd.

Os nad yw dynion afiach rhagfarnllyd yn hoffi cael eu galw'n ddynion afiach rhagarnllyd, dylent roi'r gorau i ddweud pethau afiach rhagfarnllyd. Nid yw hyn yn arbennig o gymhleth.

09/09/2012

CymryHoyw

Mae yna flog Cymraeg newydd o'r enw CymryHoyw. Mae'n fis oed bellach ond mae'n amlwg fy mod ar ei hôl hi braidd.

Bwriad y blog yw hyrwyddo 'ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth a chreu cymuned LHDT cyfrwng Cymraeg'. Mae'n drist o beth bod angen gwneud y darn cyntaf hwnnw o hyd, ond dyna ni. Mae'r blog yma'n gefnogol iawn i'r amcan hwnnw. Pob lwc iddynt!

27/07/2012

Maer Chicago'n dangos y ffordd anghywir o hyrwyddo cydraddoldeb

Mae yna gwmni 'bwyd sydyn' yn America o'r enw Chick-fil-A sy'n agored iawn am eu daliadau cristnogol asgell-dde. Nid yw'n gyfrinach bod y rheolwyr yn rhoi arian i sefydliadau crefyddol, gan gynnwys rhai sy'n brwydro i rwystro pobl gyfunrywiol rhag mwynhau hawliau cyfartal. Mae'r ffaith yma wedi cael ychydig mwy o sylw'n ddiweddar, wrth i ymgyrchwyr o blaid hawliau sifil drefnu boicot yn erbyn y cwmni. Rwy'n cefnogi'r ymgyrchwyr yma; pan fyddaf yn mynd ar wyliau i America y flwyddyn nesaf, ni fyddaf yn tywyllu un o'u bwytai os digwydd i mi daro ar draws un.

Yn anffodus, mae Rahm Emanuel wedi mynd yn rhy bell o lawer. Emanuel yw maer Chicago, ac mae wedi mynegi ei fwriad i rwystro'r cwmni rhag ehangu ymhellach yn y ddinas. Gwrthwynebiad y cwmni i briodasau cyfartal oedd ei gyfiawnhad. Er fy mod yn cytuno'n chwyrn bod y safbwynt hwnnw'n erchyll, mae sylwadau Emanuel yn anghyfrifol ac anfoesol. Nid dyma sut y dylid brwydro'n erbyn rhagfarn.

Y gwir brawf o gefnogaeth person i'r egwyddor o ryddid mynegiant yw sut y maent yn ymateb i farn y maent yn anghytuno'n chwyrn â hi. Os mai'r cyfan yw rhyddid mynegiant yw'r hawl i leisio safbwyntiau y mae'r person hwnnw'n eu rhannu, nid rhyddid mynegiant a geir wedi'r cwbl. Os cefnogi hawl Mr Emanuel i ddefnyddio grym y wladwriaeth i gosbi cwmni masnachol am safbwyntiau gwleidyddol ei rheolwyr, er cysondeb rhaid hefyd cefnogi hawl dinas yn ne geidwadol y wlad (dyweder) i gosbi cwmni sy'n cefnogi hawliau cyfartal. Byddai'r un bobl sy'n cefnogi Emanuel heddiw yn cwyno'n syth yn yr achos hwnnw, ond nid oes modd ei chael hi'r ddwy ffordd. Yr holl reswm y mae angen rhyddid mynegiant yn y lle cyntaf yw nad oes modd teg i'r llywodraeth farnu beth sy'n dderbyniol neu'n annerbyniol.

Dylid pwysleisio nad oes tystiolaeth bod Chick-fil-A'n gwahaniaethu'n erbyn pobl gyfunrywiol, er enghraifft trwy wrthod eu cyflogi. Petai hynny'n wir, byddai pethau'n wahanol. Y cyfan sydd yma yw lleisio barn (ac ariannu sefydliadau sy'n hyrwyddo'r farn honno). Mae'n iawn bod gan aelodau o'r cyhoedd berffaith hawl i ymgyrchu'n erbyn cwmni o'r fath (ac yn erbyn cwmni sy'n cefnogi hawliau cyfartal hefyd, os mai dyna'u dymuniad), ond ni ddylai fod gan y wladwriaeth unrhyw rôl i'w chwarae o gwbl.

Un o ganlyniadau mwyaf rhwystredig straeon fel hyn yw eu bod yn fy ngorfodi i gymryd ochr y ffyliaid rhagfarnllyd. Nid yw hynny'n rhoi unrhyw bleser i mi o gwbl. Am unwaith, pan fydd cristnogion eithafol Americanaidd yn cwyno bod y wladwriaeth yn ymosod ar eu hawliau, bydd ganddynt bwynt. Mae'r maer wedi cymryd cam gwag anferth. Mae'n anfoesol, ond mae hefyd yn gamgymeriad strategol, gan fwydo naratif ei wrthwynebwyr (fel arfer, rhaid iddynt raffu celwyddau er mwyn cynnal eu persecution complex). Dylai Rahm Emanuel ymddiheuro.

13/06/2012

Rheswm arall i gefnogi priodasau cyfunrywiol

Mae Eglwys Loegr wedi cyhoeddi ymateb i bapur ymhynghorol llywodraeth y DU ynghylch priodasau cyfunrywiol. Rwyf wedi'i ddarllen i gyd, gan nad oes gennyf bethau gwell i'w gwneud, ond nid wyf yn argymell bod unrhyw un arall yn ffwdanu. Mae'n llawn o'r un hen falu cachu syrffedus rydym wedi'i glywed gymaint yn barod (onid ydynt yn gwerthfawrogi eironi'r ffaith bod yr eglwys yn pryderu am "ail-ddiffinio" priodas, o gofio mai'r rheswm dros ei sefydlu'n y lle cyntaf oedd er mwyn galluogi Harri VIII i gael ysgariad?).

Asgwrn y gynnen, rwy'n credu, yw'r canlynol:
25. Were legislation to be enacted by Parliament that changed the definition of marriage for the purposes of the law of England, the status and effect of the canonical provisions that set out the Church‘s doctrine of marriage as being between one man and one woman would be called into question. In this way too the consultation overlooks the implications of what is proposed for the position of the established Church.
Fel mae'r Independent yn ei ddweud, mae hyn yn rhywbeth y mae llawer o'r esgobion yn pryderu'n arw yn ei gylch:
Anxiety among Church leaders is so acute that they raise the spectre of disestablishment, warning that any attempt to alter the definition of marriage could fatally undermine the Church’s privileged position.
Wrth gwrs, yr ymateb synhwyrol i hynny yw gofyn "ie, ac?" Dau beth ardderchog am bris un fyddai hynny yn fy marn i.

Mae diffyg hunan-ymwybyddiaeth yr eglwys yn druenus. Nid oes modd cyfiawnhau cael eglwys yn ran o'r wladwriaeth, yn enwedig pan mae seddau yn y ddeddfwriaeth wedi'u neilltuo ar gyfer esgobion. Rwy'n hapus iawn i ddarllen datganiadau gan rai llefarwyr o'r eglwys yn "bygwth" datgysylltu, fel petai hynny'n rhywbeth a ddylai ein dychryn i gyd. I'r gwrthwyneb, dylai pawb groesawu'r fath beth yn fawr. Os yw priodasau cyfunrywiol am brysuro'r ysgariad rhwng gwladwriaeth ac eglwys, dyna fwy fyth o reswm i'w cefnogi.

Yn ogystal, mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cwyno nad oedd unrhyw gyfeiriad ati yn ymgynghoriad llywodraeth Prydain. Mae'n werth gofyn felly: a oes unrhyw reswm i dybio bod ei hagwedd hithau'n wahanol i ragfarnau atgas ei chyn-bartner yn Lloegr?

29/05/2012

Safiad dewr Esgob Wrecsam o blaid rhagfarn, anghyfartaledd a chasineb

Mae Esgob Wrecsam, Edwin Regan, wedi dweud wrth raglen Hacio y byddai'n well ganddo fynd i garchar yn hytrach na phriodi cyplau cyfunrywiol.

Ymddengys bod llawer yn parhau i gamddeall cynlluniau arfaethedig llywodraeth Prydain ar y mater yma. Sawl gwaith sydd angen dweud mai dim ond sectau crefyddol sy'n cytuno i briodi cyplau hoyw fydd yn gwneud? Mae'r ffaith mai dim ond y crynwyr a'r undodiaid sydd wedi mynegi'u parodrwydd yn dangos nad oes unrhyw beth o gwbl am newid i'r Esgob Regan. A dweud y gwir, rwy'n ei chael yn anodd credu nad yw'r dyn yn deall hyn mewn gwirionedd; gan fod y pwnc yn un mor amlwg bwysig iddo, mae'n deg tybio ei fod wedi mynd i'r drafferth o wneud ychydig eiliadau o waith ymchwil. Yr unig gasgliad amgen felly yw ei fod yn camarwain yn fwriadol er mwyn gallu chwarae rhan y merthyr hunan-gyfiawn (er mor ddi-sail fyddai hynny). Mae'r ymddygiad yma'n bur gyffredin ymysg cristnogion rhagfarnllyd ac annifyr fel yr esgob.

Dylai Hacio fod wedi egluro pa mor bitw yw'r mesur mewn gwirionedd. Mae'n anghyfrifol creu'r argraff bod pob eglwys, capel, synagog a mósg am orfod priodi cyplau hoyw; mae'n anghywir a gall beri i lawer o bobl, a fyddai fel arall yn lled-gefnogol, wrthwynebu'r mesur yn ei chyfanrwydd.

Wedi dweud hynny, rwyf o'r farn y dylent orfod priodi pob cwpl sy'n dymuno gwneud. Mae cynnal seremoni briodas yn wasanaeth gyhoeddus. Mae'r wladwriaeth yn cydnabod priodasau, ac yn rhoi hawliau, statws a manteision i barau priod nad yw cyplau eraill yn cael eu mwynhau. Cyn belled ag y mae hynny'n wir, ni welaf reswm yn y byd pam y dylai sect grefyddol gael eu heithrio rhag y gwaharddiad ar gamwahaniaethu y mae pawb arall yn gorfod ei ufuddhau. Os nad ydynt yn fodlon priodi cyplau cyfunrywiol - hynny yw, os yw eu rhagfarn gwrth-gyfunrywiol yn bwysicach iddynt na'r ddefod ei hun - mae hynny'n dweud cyfrolau am eu blaenoriaethau ac efallai dylent roi'r gorau i'r cwbl.

Nid dyma fydd yn digwydd gyda'r ddeddf arfaethedig, a chamarwain yw awgrymu fel arall. Ond gyda gwasanaethau cyhoeddus fel hyn, yn y pen draw dylid unai trin pawb yr un fath neu ddim o gwbl.

19/05/2012

Priodasau cyfunrywiol a dyfodol yr Eglwys Anglicanaidd

Mae John Sentamu, archesgob Efrog, wedi gwneud datganiad hirfaith a gofalus yn esbonio'i safbwynt ynghylch priodasau cyfunrywiol. Rwy'n dweud gofalus, ond beth sydd wedi digwydd mewn gwirionedd yw ei fod wedi arddangos yr un hen ragfarnau diflas ond wedi ceisio'u cyfiawnhau mewn ffyrdd mwy deallus. Nid yw wedi llwyddo, wrth reswm, oherwydd nid yw hynny'n bosibl. Rhagfarn yw rhagfarn, ac erys y ffaith nad oes unrhyw ddadl resymegol o gwbl yn erbyn caniatáu'r un hawliau i gyplau cyfunrywiol ag y mae pawb arall yn eu mwynhau'n barod. Nid fy mwriad yma yw ymateb i'w ddadleuon, gan fy mod eisoes wedi gwneud rhywbeth digon tebyg yn achos Keith O'Brien. Yn hytrach, rwy'n edrych ar y geiriau fel arwydd o'r hyn sydd i ddod yn natblygiad yr eglwys Anglicanaidd.

Sentamu yw archesgob Efrog, sy'n golygu mai Rowan Williams yn unig sy'n uwch nag ef yn yr eglwys. Yn wir, Sentamu yw'r ffefryn i olynu Williams pan ddaw cyfnod hwnnw fel archesgob Caergaint i ben ar ddiwedd y flwyddyn. Mae'n debyg bod Sentamu'n awyddus iawn i gael y swydd honno. Gallwn dybio felly bod y datganiad yma'n gam strategol yn ogystal ag amlinelliad o'i wir safbwyntiau. Hynny yw, mae esgobion yr eglwys yn gyffredinol wedi caledu yn eu rhagfarn er gwaethaf pob ymdrech gan Rowan Williams ac felly mae Sentamu'n credu bydd yr erthygl yma'n eu plesio. Ffactor arwyddocaol yn hynny o beth yw bod dylanwad esgobion Affricanaidd (sy'n tueddu i fod yn eithriadol o ffiaidd yn eu casineb tuag at hoywon) wedi cynyddu.

Dyma'r mater sydd am ddiffinio cyfnod nesaf yr eglwys. Os mai Sentamu fydd yn fuddugol, bydd hynny'n cadarnhau bod yr eglwys wedi cymryd cam mawr i'r dde adweithiol. Gall hynny sbarduno ei chwymp, felly mewn ffordd mae modd croesawu'r peth. Os yw'r eglwys yn gosod ei hun ar ochr anghywir hanes a'n gwneud ei hun yn amherthnasol fel hyn (wrth i weddill y byd brysur sylweddoli bod hoywon yn bobl normal), bydd hynny'n cyflymu proses sydd wedi bod ar waith ers degawdau eisoes. Hynny yw, bydd yr aelodau call a synhwyrol hynny sy'n weddill yn troi'u cefnau ar yr eglwys yn gyfan gwbl gan adael i'r eithafwyr gael eu hwyl. Mae pob sect yn troi'n eithafol fel hyn cyn marw allan. Bydd yn hwyl gwylio.

10/05/2012

Obama'n cefnogi hawl cyplau cyfunrywiol i briodi

“At a certain point I’ve just concluded that for me, personally, it is important for me to go ahead and affirm that I think same-sex couples should be able to get married.”

Hen bryd. Wrth gwrs, mae'r newyddion yma'n galonogol, ond rwy'n rhwystredig o hyd o ddarllen y datganiad llipa yna. Dyna'r gorau all y dyn ei ddweud? Mae'r frawddeg mor drwsgl mae'n chwerthinllyd. Mae'r egwyddor mor gyfan gwbl amlwg mae'n drist bod y newyddion yma'n cael ei ystyried fel cam mor fawr ymlaen. Ond felly mae pethau yn yr America sydd ohoni.

Ers ei ethol yn arlywydd Unol Daleithiau America, mae Barack Obama wedi bod yn ceisio'i chael hi'r ddwy ffordd, gan honni bod ei farn ar y pwnc yma'n "esblygu" o hyd a dweud bod y mater yn un "anodd". Ffordd gyfleus o beidio gorfod mynegi safbwynt pendant y naill ffordd na'r llall oedd hynny, wrth gwrs. Mae'n debyg ei fod, yn breifat o leiaf, wedi bod yn gefnogol erioed, ond am resymau gwleidyddol fe wrthododd ddatgan hynny'n gyhoeddus cyn hyn. Yn wir, yr unig reswm iddo fynegi barn gryfach ar y mater ddoe oedd oherwydd bod ei ddirprwy, Joe Biden, wedi datgan cefnogaeth gyhoeddus ychydig ddyddiau ynghynt a bod hynny wedi rhoi pwysau ar Obama ei hun i wneud ei safbwynt yn gliriach. I Biden mae'r diolch yn fwy na neb, felly.

Y disgwyl oedd y byddai Obama'n aros tan ar ôl yr etholiad arlywyddol ar ddiwedd y flwyddyn cyn gwneud hyn. Bydd yn ddifyr gweld pa effaith gaiff ei ddatganiad ar ei bleidlais yng Ngogledd Carolina a Virgania, dwy dalaith a enillodd yn 2008. Os ydyw'n llwyddo i sicrhau ail dymor i'w arlywyddiaeth, ac yntau wedi datgan cefnogaeth gyhoeddus o blaid hawliau cyplau cyfunrywiol i briodi, byddai hynny'n fuddugoliaeth symbolaidd fawr i'r achos. Yn anffodus nid yw o reidrwydd mor arwyddocaol â hynny o ran polisi, gan fod gafael y blaid Weriniaethol ar Dŷ'r Cynrychiolwyr a'r posibilrwydd y byddent yn cipio'r Senedd yn golygu bod yr erthyl hwnnw, y Defense of Marriage Act, yn debygol o aros am y tro.

Mae'n wir bod Obama eisoes wedi cael gwared ar y gwallgofrwydd hwnnw a elwid yn Don't Ask, Don't Tell, ond eto rwy'n credu mai'r ffaith fwyaf syfrdanol am y polisi hwnnw oedd iddo oroesi cyhyd. Mae America'n wlad od, a hynt a helynt ei hadain dde grefyddol wallgof (ond dylanwadol) yw'r prif reswm y mae gennyf gymaint o ddiddordeb yn ei gwleidyddiaeth. Eto i gyd, mae sawl arolwg barn yn dangos bod y gefnogaeth o blaid hawliau hoywon i briodi bellach gymaint, os nad yn fwy, na'r gwrthwynebiad. Mae'r ffaith bod y gefnogaeth yma wedi tyfu mor eithriadol o gyflym (bychan iawn iawn ydoedd hyd yn oed degawd a hanner yn ôl) yn awgrymu mai buan iawn y daw'r gwrthwynebwyr yn leiafrif pitw. Rwy'n credu mai'r rheswm am y twf yw'r ffaith syml bod llawer iawn o Americaniaid ifainc bellach yn adnabod pobl hoyw'n bersonol ac felly'n deall mai pobl gyffredin o gig o waed ydynt ac mai'u hunig ddyhead yw ennill yr un dilysrwydd i'w perthynas â'u cariadon ag y mae pawb arall yn ei fwynhau eisoes. Mae mwy a mwy o Americaniaid yn sylweddoli na fydd priodasau hoyw'n golygu diwedd y byd. Oherwydd hyn, ac er gwaethaf gwleidyddiaeth fewnol ryfeddol y blaid Weriniaethol, mentraf honni y byddai buddugoliaeth i Obama ym mis Tachwedd yn sicrhau mai Mitt Romney fydd yr ymgeisydd arlywyddol diwethaf un o'r ddwy brif blaid i wrthwynebu priodasau cyfunrywiol. Hynny yw, mae gwrthwynebu'r hawl yma ar fin troi'n anfantais etholiadol yn America. Mae hynny'n gyffrous iawn, o leiaf. Er gwaethaf geiriad llugoer a lletchwith datganiad Obama, ac er mai dilyn yn hytrach nag arwain y mae'r arlywydd, mae'n allweddol iawn serch hynny.

16/04/2012

Stephen Green a Christian Voice

Rwyf wedi bod yn chwilio am esgus i ysgrifennu am Stephen Green ers peth amser, felly roedd yr adroddiad yma heddiw fel manna o'r nefoedd. Ha.

"Mudiad" un-dyn (fwy neu lai) yw Christian Voice sydd yn gyson wedi gosod ei hun yn swnllyd ar ochr anghywir dwsinau o ddadleuon dros y blynyddoedd. Yn anffodus, gan fod Green wedi ymgartrefu yn Sir Gaerfyrddin, maent yn tueddu i fod yn amlycach yng Nghymru. Daethant i'r amlwg am y tro cyntaf wrth brotestio'n erbyn llwyfanu Jerry Springer: The Opera (sy'n dda iawn, gyda llaw), gan geisio defnyddio hen gyfreithiau i wahardd cabledd. Roedd hyn yn werthfawr, fel mae'n digwydd, oherwydd canlyniad uniongyrchol eu cwyno oedd sbarduno diddymiad ffurfiol a swyddogol y ddeddf (roedd pawb arall wedi anghofio ei bod yn bodoli cyn hynny). Felly diolch iddynt!

Fel y byddai rhywun yn disgwyl gan grŵp o eithafwyr cristnogol, maent hefyd yn gwrthwynebu hawliau cyfartal i hoywon, addysg am ryw mewn ysgolion, ysgariad ac erthyliad. Rwyf eisoes wedi trafod rhywun arall a ddywedodd bethau dwl am Mardi Gras felly ni wnaf hynny eto. Y peth am Christian Voice, fodd bynnag, yw eu bod yn mynd gamau mawrion ymhellach na hyd yn oed llawer o'u cyd ffwndamentawyr radicalaidd: nid dim ond gwrthwynebu hawliau pobl gyfunrywiol i briodi a wnânt, eithr mynnu bod angen eu dedfrydu i gyd i farwolaeth. Maent yn frwd iawn eu cefnogaeth i ymdrechion yn Uganda i basio deddf i'r union berwyl hwnnw. Nid yw'n syndod felly bod y syniad o Fardi Gras ym Miwmares yn destun cymaint o fraw iddynt.

Maent hyd yn oed yn erbyn y brechiad HPV, sy'n adnodd mor bwysig er mwyn gwarchod merched rhag canser ceg y groth.

Os nad yw hyn yn ddigon, maent hefyd yn datgan, yn gwbl ddi-amwys, eu bod o blaid cyfreithloni hawl gŵr i dreisio'i wraig. Mae Green yn dweud y dylai gwraig ufuddhau'r patriarch drwy'r amser, ac mae hynny'n golygu nad oes ganddi fyth yr hawl i'w wrthod os yw hwnnw'n teimlo'r awydd i stwffio'i bidlan ynddi. Os nad yw hi'n fodlon gorwedd yn ôl yn ddi-ffwdan a gadael iddo wneud ei fusnes, dylid ei churo i ddysgu gwers iddi. Nid rhagrithiwr mo Green chwaith, oherwydd mae'n debyg mai dyma'n union sut yr oedd trin ei wraig ei hun nes iddi gael llond bol o'r diwedd. Yn ôl Mrs Green, roedd yn curo'r plant yn ddu las hefyd, yn union fel y mae'r beibl yn mynnu.

Mewn ffordd, mae'n chwa o awyr iach gweld cristion sydd mor driw i'w feibl. Os yw cristnogion llai gwallgof yn ei feirniadu, ymateb naturiol Green yw cyfeirio at ddarn ar ôl darn eglur a di-amwys o'r beibl sy'n cefnogi ei agweddau. Dyma'r un hen broblem felly, ac mae'n un sy'n gofyn am gryn dipyn o gymnasteg deallusol gan bobl sydd eisiau anwybyddu'r rhannau yma gan barhau i dderbyn y gweddill fel ysgrythur ddwyfol.

Gobeithio bydd y Mardi Gras yn llwyddiant. Mae unrhyw beth sy'n gwylltio Stephen Green yn beth gwych sy'n haeddu cefnogaeth pawb.

05/03/2012

Hen ddyn mewn het hurt yn dweud pethau dwl am briodasau hoyw

Efallai na ddylai fod yn destun syndod mawr bod pabydd o'r farn na ddylai cyplau cyfunrywiol gael yr hawl i briodi, gan mai dyna y mae'r eglwys afiach honno wedi'i ddweud erioed. Er hynny, mae'n bwysig tynnu sylw at y peth pan mae pabydd amlycaf Prydain yn dweud pethau anhygoel a rhagfarnllyd wrth ddadlau'n erbyn bwriad llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i ganiatáu priodasau o'r fath.

Mae erthygl y cardinal Keith O'Brien yn warthus o'r dechrau i'r diwedd felly mae'n anodd pigo rhannau penodol allan. Am y rheswm yna, mae'n werth mynd trwyddi darn wrth ddarn:
Civil partnerships have been in place for several years now, allowing same-sex couples to register their relationship and enjoy a variety of legal protections.

When these arrangements were introduced, supporters were at pains to point out that they didn’t want marriage, accepting that marriage had only ever meant the legal union of a man and a woman.
Mae'r gwahaniaeth rhwng priodas a "phartneriaeth sifil" yn un cwbl artiffisial, a chyfaddawd yn unig oedd y drefn bresennol er mwyn bodloni hen gojars crefyddol na fyddai priodas gyfunrywiol yn cael yr un statws a bri â phriodas heterorywiol. Roedd rhai o gefnogwyr cyfartaledd yn gwneud y ddadl uchod, ond am resymau tactegol. Nid oedd y mwyafrif yn cuddio'r ffaith mai cyfartaledd llwyr oedd y nod yn y pen draw.
Those of us who were not in favour of civil partnership, believing that such relationships are harmful to the physical, mental and spiritual wellbeing of those involved, warned that in time marriage would be demanded too. We were accused of scaremongering then, yet exactly such demands are upon us now.
Yn ôl yr hen dwat di-briod yma, nid yw'n bosibl i gwpl gael perthynas hapus a chariadus os mai'r un offer sydd ganddynt rhwng eu coesau. Rhaid chwerthin hefyd ar y defnydd o'r gair "scaremongering". Dim ond ffyliaid rhagfarnllyd a pharanoid fyddai'n teimlo ofn oherwydd bod cwpl hoyw wedi cael yr un hawliau ag sydd gan bawb arall.
Since all the legal rights of marriage are already available to homosexual couples, it is clear that this proposal is not about rights, but rather is an attempt to redefine marriage for the whole of society at the behest of a small minority of activists.
Celwyddau. Fel y dywedais, holl bwrpas creu pethau o'r enw "partneriaethau sifil" oedd sicrhau nad oedd cyplau cyfunrywiol yn derbyn cydraddoldeb go iawn. Cydraddoldeb go iawn yw'r hawl i gael yr hyn y mae cyplau eraill yn ei fwynhau eisoes, sef priodas lawn.

Yn ogystal, mae tua hanner poblogaeth Prydain yn cefnogi hawl hoywon i briodi erbyn hyn, felly nid oes gwirionedd o gwbl yn yr honiad mai dim ond lleiafrif bychan sydd o blaid. Mae chwiliad sydyn ar Twitter, lle mae trydarwyr sy'n gefnogol i'r cardinal yn greaduriaid prin, yn awgrymu'n gryf mai parhau i dyfu wnaiff y gefnogaeth yma. Peth hyfryd yw gallu dweud felly bod deinosoriaid fel O'Brien eisoes wedi colli.
Redefining marriage will have huge implications for what is taught in our schools, and for wider society. It will redefine society since the institution of marriage is one of the fundamental building blocks of society. The repercussions of enacting same-sex marriage into law will be immense.

But can we simply redefine terms at a whim? Can a word whose meaning has been clearly understood in every society throughout history suddenly be changed to mean something else?.
Byddai'n ddifyr clywed pa erchyllterau'n union y dylem ddisgwyl eu gweld unwaith y mae gan hoywon yr hawl i briodi. Y gwir yw bod priodas wedi'i ail-ddiffinio lawer gwaith yn barod. Am ganrifoedd, os nad milflwyddiannau, ei diben amlycaf oedd fel modd i ddynion sicrhau manteision gwleidyddol ac ariannol trwy briodi mewn i'r teuluoedd cywir. Go brin a oedd gan y merched fawr o ddewis yn y peth (mae hyn yn wir o hyd mewn rhai cymunedau islamaidd, wrth gwrs). Rôl gwragedd oedd atgenhedlu, neu'n benodol, cynhyrchu meibion.

Mewn difrif calon, dim ond 27 oed wyf i ond roeddwn eisoes wedi cael fy ngeni pan ddaeth cyfraith Prydain i gydnabod yn ffurfiol, o'r diwedd, bod modd i ŵr dreisio'i wraig. Tan hynny, nid oedd ganddi'r hawl i'w wrthod. Mae'r haeriad bod priodas yn gysyniad statig yn chwerthinllyd felly. Mae wedi newid yn raddol er gwell. Un cam pellach ymlaen fyddai caniatáu'r hawl i gyplau cyfunrywiol ymuno'n y ddefod. Efallai mai'r hyn sydd gan y cardinal mewn golwg yw ei fod am weld dychwelyd i'r cysyniad canol-oesol o briodas. Os felly, dylai ddweud hynny.
If same-sex marriage is enacted into law what will happen to the teacher who wants to tell pupils that marriage can only mean – and has only ever meant – the union of a man and a woman?

Will that teacher’s right to hold and teach this view be respected or will it be removed? Will both teacher and pupils simply become the next victims of the tyranny of tolerance, heretics, whose dissent from state-imposed orthodoxy must be crushed at all costs?
Mae yna gwestiwn syml y dylid ei ofyn fel ateb i ddadleuon fel hyn: a ddylai athrawon gael yr hawl i ddysgu pethau hiliol i'w disgyblion? Gallwch ateb "ie" neu "na", ond y pwynt yw bod rhaid bod yn gyson. Ni chewch ateb un ffordd yn achos sylwadau hiliol ond fel arall yn achos sylwadau gwrth-hoyw. Rwy'n credu y byddai bron pawb yn cytuno na ddylai athrawon ddefnyddio'r ystafell ddosbarth er mwyn dweud wrth blant bach bod priodas rhyng-ethnig yn anfoesol. Mae rhesymeg yn mynnu bod yr un peth yn union yn wir yn achos cyplau cyfunrywiol, a'n enwedig felly o gofio bod tebygolrwydd go lew bellach bod o leiaf un o'r plant am fod â dau dad neu dwy fam.

Y gwir yw mai'r un dadleuon yn union ("mae'n annaturiol", "mae'n groes i ewyllys duw" ayyb) a ddefnyddir yn erbyn perthynasau cyfunrywiol heddiw ag a ddefnyddiwyd yn ôl yn oes yr arth a'r blaidd yn erbyn hilgymysgedd.
In Article 16 of the Universal Declaration on Human Rights, marriage is defined as a relationship between men and women. But when our politicians suggest jettisoning the established understanding of marriage and subverting its meaning they aren’t derided.
Nid oeddwn wedi gweld yr honiad yna am y Datganiad Cyffredinol o'r blaen, felly fel sceptig bach da penderfynais fynd i edrych. Dyma erthygl 16 yn ei chyfanrwydd:
Article 16.

(1) Men and women of full age, without any limitation due to race, nationality or religion, have the right to marry and to found a family. They are entitled to equal rights as to marriage, during marriage and at its dissolution.
(2) Marriage shall be entered into only with the free and full consent of the intending spouses.
(3) The family is the natural and fundamental group unit of society and is entitled to protection by society and the State.
Fel y gwelwch, mae'n sicrhau hawl dynion a merched i briodi, ond nid yw'n awgrymu o gwbl bod rhaid i hynny fod gyda'i gilydd. Celwydd arall felly gan y cardinal felly. Duwiol iawn.
Instead, their attempt to redefine reality is given a polite hearing, their madness is indulged. Their proposal represents a grotesque subversion of a universally accepted human right
Ar blaned gwyrdroëdig y pabydd hwn, os yw mwyafrif yn mwynhau hawl arbennig sy'n cael ei wrthod i leiafrif, yna mae cywiro'r anghyfartaledd hwnnw trwy ymestyn yr hawl i bawb yn "grotesque subversion of a universally accepted right". Dyma enghraifft berffaith arall o'r persecution complex gwallgof yma sy'n gyffredin ymysg cristnogion rhagfarnllyd. Gan nad ydynt yn dioddef erledigaeth go iawn o gwbl, rhaid defnyddio'u dychymyg. I O'Brien, mae peidio caniatáu iddo atal hawliau pobl eraill yn gyfystyr â rhwystro ei hawliau ef ei hun. Rhyfeddol.
As an institution, marriage long predates the existence of any state or government. It was not created by governments and should not be changed by them. Instead, recognising the innumerable benefits which marriage brings to society, they should act to protect and uphold marriage, not attack or dismantle it.
Dyma ddadl debyg i'r hyn a gafwyd gan George Carey, archesgob Caergaint gynt, yn ddiweddar. Wrth gwrs, os nad yw'r wladwriaeth yn "berchen" ar briodas, nid lle'r wladwriaeth felly yw gwneud priodas gyfunrywiol yn anghyfreithlon.

Mae'n hawdd a braf pan mae eich gelynion yn cael eu bradychu gan eu dadleuon eu hunain!
This is a point of view that would have been endorsed and accepted only a few years ago, yet today advancing a traditional understanding of marriage risks one being labelled an intolerant bigot.
Gair i gall i Mr O'Brien: os nad ydych yn hoffi cael eich galw'n dwpsyn rhagfarnllyd anoddefgar, gochelwch rhag dweud pethu twp rhagfarnllyd anoddefgar.
There is no doubt that, as a society, we have become blasé about the importance of marriage as a stabilising influence and less inclined to prize it as a worthwhile institution.

It has been damaged and undermined over the course of a generation, yet marriage has always existed in order to bring men and women together so that the children born of those unions will have a mother and a father.
Mae'n siwr ei bod yn ddigon gwir bod llai o fri yn perthyn i briodas er ei mwyn ei hun heddiw nag yn y gorffennol. Mae miloedd o briodasau heterorywiol yn chwalu bob blwyddyn. Ond mae hynny'n ddatblygiad i'w chroesawu. Am ganrifoedd, pan nad oedd modd ysgaru (neu'n gywirach, pan nad oedd modd i wraig anhapus ysgaru ei gŵr), nid oedd fawr o ddewis ond cario ymlaen gyda phriodasau di-gariad a diflas. Os yw ysgariad yn fwy cyffredin heddiw nag yn y gorffennol, nid yw hynny'n arwydd bod perthynas pobl gyda'i gilydd yn anhapusach erbyn hyn; y cyfan sydd wedi digwydd yw bod y stigma parthed gwahanu wedi diflannu. Nid oes modd cyfiawnhau caethiwo pobl mewn perthynas nad ydynt yn dymuno bod ynddi, fel yr oedd yn digwydd yn y gorffennol, ac mae'r hawl i ysgaru wedi rhyddhau nifer fawr o bobl rhag sefyllfaoedd o'r fath. Fel y dywedais, dyma ffordd arall y mae "diffinaid" priodas wedi newid eisoes, a hynny er gwell.

Rwyf wedi dweud o'r blaen bod angen cwestiynu priodas ei hun. Mae'n aneglur i mi pam ddylai fod angen sêl bendith y wladwriaeth ar berthynas rhwng dau/ddwy oedolyn sy'n caru'i gilydd. Ond y pwynt perthnasol yma yw cydraddoldeb: os yw'r hawl ar gael i gyplau heterorywiol, yna rhaid iddo fod ar gael i hoywon hefyd.
This brings us to the one perspective which seems to be completely lost or ignored: the point of view of the child. All children deserve to begin life with a mother and father; the evidence in favour of the stability and well-being which this provides is overwhelming and unequivocal. It cannot be provided by a same-sex couple, however well-intentioned they may be
Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl bod cael rhieni o'r un rhyw yn anfantais. Mae miloedd ar filoedd o blant wedi, ac yn, cael eu magu can ddau dad neu ddwy fam heb unrhyw drafferth o fath yn y byd. Gweler yma am fanylion am un astudiaeth berthnasol. Mae'r cardinal felly'n rhaffu celwydd unwaith eto. Yn fwy na hynny, mae'n gwneud ei orau i ansefydlogi'r union deuluoedd yma trwy wrthod hawliau iddynt y mae pawb arall yn eu cymryd yn ganiataol.
Same-sex marriage would eliminate entirely in law the basic idea of a mother and a father for every child. It would create a society which deliberately chooses to deprive a child of either a mother or a father.
Wrth reswm, nid yw penderfyniad cyplau hoyw i briodi ei gilydd yn cael unrhyw effaith o fath yn y byd ar briodasau "traddodiadol" felly nid yw hyn yn gwneud synnwyr. Yr unig berson sy'n dyheu amddifadu plant o'r cyfle i fod yn aelodau o deuluoedd cyfartal yw'r cardinal, neb arall.
Other dangers exist. If marriage can be redefined so that it no longer means a man and a woman but two men or two women, why stop there? Why not allow three men or a woman and two men to constitute a marriage, if they pledge their fidelity to one another? If marriage is simply about adults who love each other, on what basis can three adults who love each other be prevented from marrying?
Cwestiwn rhesymol o'r diwedd. Pam lai? Ni welaf reswm pam y dylai'r wladwriaeth wahardd hynny os mai dyna ddymuniad y bobl o dan sylw. Wrth gwrs mae priodasau felly'n bodoli mewn llawer o gymunedau crefyddol eithafol, ond mae llawer o'r rheiny'n rhai pur anghyfartal: gwae'r gwragedd pe nad ufuddhaent y patriarch. Fodd bynnag, mewn achosion lle mae pawb yn gyfartal a'n hapus gyda'r sefyllfa, ni welaf broblem mewn egwyddor. Ond mater arall yw hynny.
In November 2003, after a court decision in Massachusetts to legalise gay marriage, school libraries were required to stock same-sex literature; primary schoolchildren were given homosexual fairy stories such as King & King. Some high school students were even given an explicit manual of homosexual advocacy entitled The Little Black Book: Queer in the 21st Century. Education suddenly had to comply with what was now deemed “normal”.
Mae'r uchod i gyd yn swnio fel datblygiadau gwerth chweil i mi. Unwaith eto, gallwn ofyn beth yw barn y cardinal am lyfrau plant sy'n portreadu teuluoedd aml-ethnig fel "normal". Ai "straeon tylwyth teg" yw pethau felly, hefyd?

Mae gen i'r teimlad annifyr bod pobl fel Mr O'Brien yn gobeithio, yn dawel bach, bod plant i rieni hoyw'n cael eu bwlio. I'r cardinal, byddai hynny'n ddadl yn erbyn perthynasau cyfunrywiol. I bawb nad ydynt yn wallgof, fodd bynnag, byddai'n ddadl o blaid mwy o addysgu am y pwnc.
Disingenuously, the Government has suggested that same-sex marriage wouldn’t be compulsory and churches could choose to opt out. This is staggeringly arrogant.

No Government has the moral authority to dismantle the universally understood meaning of marriage.
Mae'r wladwriaeth yn rhoi hawliau a breintiau penodol i gyplau priod nas darperir i barau di-briod. Tra bo'r manteision hynny'n bodoli, y llywodraeth ddylai bennu'r rheolau. Y gwirionedd nad yw Mr O'Brien yn fodlon ei dderbyn yw bod yr "universally understood meaning of marriage" yn prysur newid. Dim ond adlewyrchu'r farn yna a wneir trwy gymryd y cam naturiol nesaf yma. Fel mae'n digwydd, nid wyf yn siwr pam yn union fyddai cwpl hoyw'n dymuno priodi mewn adeilad o eiddo crefydd sy'n eu casáu, ond gan nad oes unrhyw eglwys am gael ei gorfodi i gynnal seremoni briodas gyfunrywiol yn groes i'w hewyllys, nid yw'n hawdd gweld beth yw pryder y cardinal. Bydd priodasau heterorywiol dedwydd yn parhau i fod yn ddedwydd a bydd y byd yn dal i droi.
Imagine for a moment that the Government had decided to legalise slavery but assured us that “no one will be forced to keep a slave”.
Efallai dyma'r frawddeg o lith y pabydd pwysig sydd wedi denu'r sylw mwyaf, am reswm amlwg: mae'n agos at fod yn seicotig. Rwy'n credu bod hwn yn un o'r achosion hynny lle nad oes angen i mi ddweud unrhyw beth. Gadawaf y datganiad ar ei ben ei hun gan ei fod yn amlygu twpdra'r siaradwr yn well nag y gallaf i. Digon yw atgoffa'r darllenydd mai dyma'r aelod uchaf o'r eglwys babyddol ym Mhrydain gyfan.
The Universal Declaration on Human Rights is crystal clear: marriage is a right which applies to men and women, “the family is the natural and fundamental group unit of society and is entitled to protection by society and the State”.
Fel y gwelwyd uchod, nid yw'r Datganiad yn dweud unrhyw beth am gyfunrywioldeb. Ac unwaith eto, y cardinal yw'r un sy'n tanseilio ac is-raddio teuluoedd. Gwarchod teuluoedd fyddai union ganlyniad caniatáu'r hawl i barau hoyw briodi ei gilydd.
This universal truth is so self-evident that it shouldn’t need to be repeated. If the Government attempts to demolish a universally recognised human right, they will have forfeited the trust which society has placed in them and their intolerance will shame the United Kingdom in the eyes of the world.
Dyma'r cardinal O'Brien yn crybwyll cywilydd. Y cyfan sydd angen i mi ei wneud yw nodi bod y cardinal yn aelod balch a blaenllaw o glwb gwarchod pedoffiliaid mwyaf y byd. Yn ogystal, mae gan ei eglwys bolisïau erchyll fel hyrwyddo celwyddau am gondoms gan arwain at filynau o farwolaethau di-angen yn Affrica, gwahardd ordeinio merched, a gwrthwynebu hawl merched i reoli eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Ond na, brwydr fawr y cardinal yw gwrthwynebu caniatáu hawl oedolion sy'n caru ei gilydd i briodi. Yn ei ôl ef, dyna fyddai'n destun cywilydd.

Am ddyn afiach. Am obsesiwn sinistr gyda bywydau rhywiol pobl eraill. Am het wirion. Am grefydd wirioneddol fochedd.

10/02/2012

Diwrnod da i seciwlariaeth ym Mhrydain

Cafwyd newyddion ardderchog heddiw, wrth i'r Uchel Lys farnu ei bod yn anghyfreithlon bod cyngor tref (Bideford yn Nyfnaint) yn cynnal gweddïau swyddogol cyn cyfarfodydd (adroddiad pwyllog y BBC yw'r ddolen yna; er cyd-bwysedd, dyma lith hysteraidd a doniol y Daily Mail).

Nid oes gennyf unrhyw amynedd o gwbl gydag unrhyw un sy'n cwyno bod y penderfyniad yma'n ymosodiad ar Gristnogaeth ac ar hawliau Cristnogion. Nid oes pwrpas bod yn gwrtais am y peth: mae unrhyw un sy'n credu bod y newyddion yma'n arwydd bod Cristnogaeth o dan warchae yn eithriadol o dwp.

Os yw cynghorydd yn dymuno cael gweddi fach dawel bersonol cyn mynd ati i drafod materion y dydd, nid oes unrhyw un o gwbl yn dymuno rhwystro hynny. Yr unig reswm dros fynnu gwneud yr addoli'n ran o agenda swyddogol y cyngor yw er mwyn gorfodi pawb arall i gydymffurfio â'ch crefydd, a hynny trwy ddefnyddio awennau'r wladwriaeth er mwyn cael sêl bendith swyddogol ar eich ffydd. Dyhead theocrataidd ydyw, ac mae'n hanfodol ei ymladd ar bob cyfrif.

Y pwynt ynghylch seciwlariaeth y mae cymaint o bobl grefyddol yn ei anghofio, neu'n dewis ei ddiystyru, yw bod yr egwyddor honno'n golygu rhyddid crefyddol yn ogystal â rhyddid rhag crefydd. Hynny yw, ni ddylai'r wladwriaeth arddel unrhyw safbwyntiau diwinyddol o gwbl. Dyma'r unig ffordd o sicrhau tegwch i bawb. Mae seciwlariaeth yn gwarchod hawliau pobl grefyddol yn ogystal â rhai anffyddwyr. Er mwyn dangos hynny, dychmygwch ymateb y sawl sy'n cwyno gymaint heddiw petai rhyw gyngor yn cynnal gweddi islamaidd. Mae'n sicr y byddent yn dod i werthfawrogi egwyddor seciwlariaeth mewn chwinciad.

Roedd y stori hon yn newyddion calonogol hefyd, sef bod perchnogion busnes gwely a brecwast wedi colli eu hapêl yn erbyn y dyfarniad ei bod yn anghyfreithlon gwrthod cwpl hoyw rhag aros yn eu gwesty. Eu Cristnogaeth oedd eu cyfiawnhad. Mae yna gwestiwn syml iawn y mae modd ei ddefnyddio gydag achosion fel hyn: a fyddai'n dderbyniol gwrthod pobl croenddu rhag aros yn y gwesty? Na, ac mae'r un egwyddor yn union yn golygu nad yw'n dderbyniol troi hoywon i ffwrdd. Os yw eu rhagfarn yn eu hatal rhag trin pob cwsmer yn gyfartal, yn unol â'r gyfraith, yna eu problem hwy yw hynny.

10/01/2012

Safbwyntiau rhyfedd yr Hen Rech Flin am gyfunrywioldeb

Mae Alwyn ap Huw, yr Hen Rech Flin, wedi tynnu nyth cacwn am ei ben braidd ar ôl cyhoeddi ysgrif ryfeddol ar ei flog. Mae'n debyg ei fod o dan yr argraff mai'r cyfan yw cyfunrywioldeb yw tric cyfleus er mwyn gallu mwynhau llawer iawn o ryw heb orfod ysgwyddo'r baich o fagu llond lle o blant. Yn ei eiriau ef ei hun, "dymuno hwyl rywiol heb gyfrifoldeb yw cuddio tu nol i'r bathodyn hoyw!"

Mae ganddo record o ddefnyddio dadleuon digon od wrth drafod cyfunrywioldeb, yn mynd yn ôl rhai blynyddoedd i'r dyddiau pan oedd gwefan drafod Maes-E yn ei hanterth. Y cofnod diweddar yma o'm blog innau, a'r drafodaeth a gafwyd yn y sylwadau ar y gwaelod yn benodol, a ysbrydolodd ei lith y bore yma yn ôl pob tebyg.

Rwyf am anwybyddu, am y tro, y ffaith ei fod o'r farn fy mod yn anffyddiwr "milwriaethus". Mae'r cyhuddiad hwnnw'n un blinedig, ond rwyf am ei ateb mewn cofnod ar wahan yn ddiweddarach. Digon yw dweud ar hyn o bryd bod yr ymateb chwyrn sydd wedi bod ar y we Gymraeg heddiw i'w ysgrif yn dangos yn eglur nad dim ond anffyddwyr di-gyfaddawd neu ymgyrchwyr hoyw sy'n angytuno ag ef. Yn wir, mor anhygoel ei sylwadau mae Golwg 360 wedi penderfynu cyhoeddi adroddiad am y mater.

Ble mae dechrau felly?

Fel hyn y mae Alwyn yn agor y llith: "Rwy'n methu deall Gwleidyddiaeth Rhyw". Mae hynny'n berffaith amlwg, ac efallai dylai fod wedi gadael y peth yn y fan yna. Roedd yn eglur o'i sylwadau ar waelod y cofnod cynt hwnnw o'm heiddo ei fod yn cael trafferth gwirioneddol deall yr hyn yr oeddwn innau ac Ifan yn ceisio'i esbonio. Mae'n fater syml iawn, felly rwyf am roi cynnig arall arni.

Mae hoywon yn hoyw oherwydd eu dyheadau. Nid mater o ddewis yw dyheadau rhamantus: nid oes unrhyw un yn deffro rhyw fore a gwneud penderfyniad bwriadol i newid eu rhywioldeb. Os ydych yn canfod eich bod yn tueddu i gael teimladau rhywiol tuag at berson neu bobl o'r un rhyw â chi eich hunain, yna rydych yn hoyw. Wrth reswm, nid yw'n fater "unai/neu", fel mae deurywioldeb yn ei ddangos. Mae'n anodd dychmygu sut mae gwneud y pwynt yn gliriach na hyn. Daeth Alwyn ei hun yn agos at ddeall yn gynnar y bore yma, gan iddo ddweud hyn mewn sylw: "Hwyrach nad ydym yn dewis ein dyheadau, ond yr ydym yn ddewis sut i ymateb i'r dyheadau yna." Mae digon o wirionedd yn hynny, ond mae ail hanner y frawddeg yn amherthnasol. Y dyheadau sy'n gwneud rhywun yn gyfunrywiol neu'n heterorywiol. Fel yr esboniais ar y pryd, mae yna ddigon o hoywon sydd yn gwneud eu gorau i guddio'u rhywioldeb. Mae llawer, yn enwedig mewn gwledydd Islamaidd ac Affricanaidd ond hefyd mewn cymunedau rhagfarnllyd yn America, yn gwneud hynny oherwydd pwysau cymdeithasol neu bryder am erledigaeth. Mae rhai hyd yn oed yn gwneud eu gorau glas i ddewis peidio bod yn hoyw oherwydd daliadau "moesol" personol, er enghraifft y mudiad ex-gay. Nid yw hynny'n newid y ffaith eu bod yn hoyw.

Mae diffyg dealltwriaeth Alwyn yn hyn o beth yn ddigon cyfarwydd i'r sawl sydd â phrofiad o ddadlau'n erbyn pobl sy'n gwrthwynebu hawliau cyfartal i hoywon. Wedi'r agoriad hwnnw, fodd bynnag, mae ysgrif Alwyn yn troi'n swréal, ac mae'n siwr mai dyma pam y mae wedi ennyn ymateb mor syn. Dyfynnaf:
Pan oeddwn yn fyfyriwr roedd cyd gwancio dros luniau budron yn hwyl. Roedd arbrofi rhywiol efo hogiau eraill yn hwyl fawr hefyd. Yr wyf wedi hen ymwrthod a rhagfarnau crefyddol sy'n honni bod fy mhrofiadau rhywiol glaslancaidd yn diffinio fy rhywioldeb! Ond mae hynny'n frad i'r lobi wrywgydiol! Nid ydwyf yn edifar am y fath brofiadau, nid ydwyf yn gofyn maddeuant nid ydwyf am eu gwadu - yr oeddynt yn bleserau pur, yn hwyl fawr!
Rwy'n credu mai'r casgliad pennaf sy'n taro rhywun wrth ddarllen y paragraff yma yw ei fod yn edrych yn eithriadol o ryfedd yn eistedd uwch ben y datganiadau gwrth-gyfunrywiol amrwd sydd i ddilyn yn syth wedyn.

Mae yna rywbeth digon iach am y ffaith bod Alwyn yn gallu cyhoeddi'r uchod heb gywilydd nac edifarhad. Mae hefyd yn gywir i ddweud nad ydyw'n anochel bod y profiadau glaslancaidd hynny yn diffinio ei rywioldeb am byth. Mae llawer iawn o bobl yn arbrofi'n rhywiol pan yn ifanc, ac nid oes rhaid i hynny o reidrwydd fod ag arwyddocâd hir-dymor. Os nad oes gan Alwyn bellach yr awydd i ail-gydio (ho-ho) ac ail-fyw'r profiadau hynny, yna dyna ni. Os ydyw, yna mae'n hoyw i raddau ac nid oes cywilydd yn hynny o gwbl.

Dyma ddyfyniad arall:
Does dim profiad i'w gymharu â gweld plentyn yn cael ei eni, dim i gymharu â chlywed babi yn dweud y gair Dad am y to cyntaf, dim artaith sy'n brifo mwy na gollwng eich plentyn i'r byd mawr a phoeni na ddaw'n ôl, dim poen mwy na weld dy eilun yn laslanc, yn cyflawni'r un hen blydi camgymeriadau a chyflawnaist di yn ddeunaw oed (gan gynnwys yr ofn bod ei arbrofion am negyddu dy obeithion o fod yn Daid).
Unwaith eto, mae hyn yn ddigon gwir. Yr hyn sy'n gwbl anhygoel yw anallu Alwyn i amgyffred bod miloedd o bobl cyfunrywiol yn cytuno ag ef a'n profi'r un pethau'n union gyda'u plant hwythau. Byddai rhywun yn gobeithio nad oes angen egluro'r pwynt amlwg yma, ond mae'n anodd gwybod gyda'r Hen Rech felly rwyf am wneud beth bynnag: mae llawer iawn iawn o gyplau heterorywiol yn cael rhyw heb gael plant, ac mae llawer iawn o barau cyfunrywiol yn cael plant, boed trwy fabwysiadu neu gyda chymorth croth neu sberm person arall.

A yw'r Hen Rech o'r farn bod dulliau atal-genhedlu fel condoms a'r bilsen yn anfoesol felly? Beth am ryw rhwng cyplau anffrwythlon? Nid wyf eisiau rhagdybio gormod am oedran Mrs Rhech, ond rwyf am fentro dyfalu bod ei chroth wedi gweld dyddiau gwell bellach. Mae hynny'n amherthnasol parthed eu bywyd carwriaethol, wrth reswm, ond mae'r un peth yn union yn wir am fywydau carwriaethol pobl cyfunrywiol. Rhaid gofyn felly pa bwynt yn y byd y mae Alwyn yn ceisio'i wneud! Mae wir yn anodd dilyn trywydd ei feddwl.

Mae dweud mai osgoi cyfrifoldeb a wna pobl hoyw yn gwbl chwerthinllyd, wrth gwrs. Yn waeth na hynny, mae'n ensyniad rhyfeddol o annifyr a chreulon. Rwy'n gobeithio bod y Rhech yn sylweddoli pa mor boenus yw cyhuddiadau o'r fath, yn enwedig i hoywon sy'n ceisio ysgwyddo'r union gyfrifoldeb hwnnw trwy fagu plant er gwaethaf pob gwrthwynebiad gan eithafwyr crefyddol.

Mae Alwyn yn hoff o ddatgymalu'r gair "homoffobia" a gwneud hwyl am y syniad bod ganddo "ofn" hoywon yn yr un modd ag y mae gan berson aracnoffobig ofn corynod. Lol amherthnasol yw hynny, fodd bynnag, gan fod consensws ynghylch ystyr modern y gair: rhagfarn tuag at hoywon. Mae Alwyn yn mynnu nad yw'n meddu ar y nodwedd hwnnw, ond mae fel petai'n gwneud ei orau i wrth-brofi ei hun.