Showing posts with label yr iaith gymraeg. Show all posts
Showing posts with label yr iaith gymraeg. Show all posts

22/04/2018

Ynghylch rhagfarn wrth-Gymraeg

Mae Rod Liddle yn ddyn diflas a dwl a diog, gyda record hir o sarhau siaradwyr Cymraeg a sawl grŵp arall. Bu wrthi eto'n ddiweddar, a bu'r ymateb, yn naturiol, yn ffyrnig.

Pob tro mae rhywbeth fel hyn yn digwydd, mae dadl ynghylch y ffordd orau i ni ymateb. Mae dau brif ddewis, sef gwylltio'n gacwn a chreu stwr, neu ei anwybyddu. Mae rhinweddau i'r ddau opsiwn. Shock jocks yw pobl fel Liddle, sy'n dweud pethau ymfflamychol er mwyn denu sylw, felly gellir dadlau mai gwireddu'u dymuniadau yw rhoi ocsygen cyhoeddusrwydd iddynt. Ar y llaw arall, mae anwybyddu'r sylwadau'n creu'r argraff nad oes gwrthwynebiad i'r fath agweddau, ac mae perygl i hynny'u normaleiddio'n dawel.

Anwybyddu sydd orau yn achos pobl di-nod ar Twitter, efallai; os mai dim ond dwsin o ddilynwyr sydd ganddynt, mae rhoi sylw iddynt bron yn sicr o fod yn wrth-gynhyrchiol. Bwriad fy nghyfrif Take That, Welsh, wrth ail-drydar pobl sy'n gwneud sylwadau dwl a jôcs blinedig am y Gymraeg, yw rhoi proc bach i'w hysbysu nad ydynt yn agos at fod mor wreiddiol a beiddgar ag y maent yn tybio. Ond ar y cyfan, rwy'n credu dylid osgoi pile-ons yn yr achosion hynny.

Mae'n wahanol pan mae'r siaradwr yn sylwebydd adnabyddus gyda phlatfform mawr. Mewn achosion fel hynny, mae ymateb gyda pile-on blin yn strategaeth synhwyrol. Mae'n bwysig sicrhau bod darllenwyr sy'n anghyfarwydd â 'dadl' yr iaith yn gweld bod sylwadau fel rhai Liddle yn anghywir. Mae darbwyllo'r Sunday Times a'r Spectator, neu Liddle ei hun, bod dweud pethau twp am yr iaith Gymraeg yn fwy o drafferth nag o werth yn nod rhesymol iawn, a'n enghraifft o siaradwyr Cymraeg yn ymateb i ryddid mynegiant Liddle a'i gyhoeddwyr gyda'u rhyddid mynegiant eu hunain.

Dywed Liddle: 'And yet as a result of this little spat I will now feel it incumbent to make a joke about Wales in every column I write, which might get boring for the readers'. Dylem 'alw'r blyff' fan hyn, a pharhau i ymateb. Mae Liddle yn gywir i ddweud y byddai hyn yn troi'n ddiflas yn fuan iawn i'r darllenwyr, ac felly i'w gyhoeddwyr. Mae gan garedigion yr iaith Gymraeg fwy o stamina yn hyn o beth; os mai mater o fynd yn ôl ac ymlaen nes bod un ochr yn cael llond bol yw hyn am fod, yna dim ond un enillydd fydd.

Eto i gyd, mae yna rai pethau dylai amddiffynwyr yr iaith beidio'u gwneud yn ystod helyntion o'r math hwn. Fel rwyf wedi'i ddweud ar ôl achos tebyg rai blynyddoedd yn ôl, mynd at yr heddlu yw un. Mae'n ddigon syrffedus pan mae shock jocks fel Liddle yn ymateb i feirniadaeth trwy swnian am eu rhyddid mynegiant. Ond mae ceisio defnyddio grym y wladwriaeth i gau eu cegau yn sensoriaeth. Dylem osgoi galluogi'r bobl yma i ferthyru'u hunain ar allor rhyddid mynegiant, oherwydd dyna'n union maent yn gobeithio amdano.

Rheswm ymarferol a phwysig arall i beidio ag annog y wladwriaeth i ddyfarnu pa safbwyntiau i'w caniatáu a pha rhai i'w gwahardd yw bod deddfu o'r fath yn anochel, yn hwyr neu'n hwyrach, o gael eu defnyddio'n erbyn carfannau llai grymus. Hyd yn oed os mai gwarchod lleiafrifoedd rhag y mwyafrif yw'r bwriad wrth eu cyflwyno, mae hanes hir o rymoedd o'r fath yn gweithredu i'r cyfeiriad arall. Mae grwpiau lleiafrifol yn ddrwgdybus o'r wladwriaeth am reswm; pam felly ymddiried yn y wladwriaeth i ddefnyddio'r fath bŵer yn y modd 'cywir'?

Ymateb arall y mae'n hen hen bryd i amddiffynwyr y Gymraeg roi'r gorau iddi yw honni mai sarhau'r Gymraeg yw'r 'rhagfarn dderbyniol olaf'. Mae Liddle ei hun yn dangos yn glir nad yw hynny'n agos at fod yn wir, gan ei fod wedi bod yn dweud pethau hiliol a misogynistaidd yn nhudalennau rhai o bapurau newydd a chylchgronnau mwyaf adnabyddus y Deyrnas Gyfunol ers degawdau. Nid oes angen 'dychmygu petai wedi dweud hyn am grŵp x', oherwydd mae'n gwneud hynny bron yn wythnosol. Dim ond chwilio Google yn sydyn sydd ei angen er mwyn gweld bod pob grŵp o dan haul yn honni mai hwy yw targed y 'rhagfarn dderbyniol olaf'.

I fod yn glir, mae'n deg, i raddau, bod carfannau penodol yn canolbwyntio'n bennaf ar y rhagfarn sy'n eu hwynebu'n uniongyrchol, gan mai dyna'r math maent fwyaf cyfarwydd ag ef. Ond mae honni bod rhagfarn wrth-Gymraeg yn 'dderbyniol' mewn modd nad yw'n wir am ragfarnau eraill yn gwneud i ni edrych yn wirion, a'n rhoi hygrededd i'r ystrydeb ein bod yn fewnblyg. Un peth yw canolbwyntio ar yr hyn sy'n effeithio arnom yn uniongyrchol, ond peth arall yw anwybyddu'n llwyr y rhagfarn nad yw'n effeithio arnom. Nid oes gennym hawl i ddisgwyl i leiafrifoedd eraill a'u cefnogwyr gyd-sefyll â ni os ydym am fod mor ddi-hid ynghylch rhagfarn yn eu herbyn hwythau.

Ni ddylai fod angen cyfleu'r syniad bod rhagfarn wrth-Gymraeg yn arbennig neu'n unigryw mewn rhyw ffordd er mwyn ei gwrthwynebu. Mae'r traddodiad o hiliaeth yn erbyn pobl â chroen tywyll yn waeth nag unrhyw beth mae siaradwyr Cymraeg croenwyn wedi'i wynebu erioed, ac nid yw cydnabod hynny'n niweidio'n hachos o gwbl gan fod y ddau beth yn wrthun. Un enghraifft arall ymysg llu o ragfarnau diog yw lol gwrth-Gymraeg Liddle a'i debyg, ac mae dweud hynny'n ddigon.

19/12/2017

Lleiafrifoedd ethnig a'r Gymraeg

Mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn hiliol.

Ffaith syml ac anniddorol yw'r uchod. Ceir hilgwn ym mhob carfan o'r boblogaeth, felly byddai'n rhyfedd petai siaradwyr Cymraeg yn eithriad. Nid yw hynny'n reswm i'w anwybyddu, wrth reswm; mae'n hanfodol ein bod yn beirniadu hiliaeth gan Gymry pryd bynnag y daw i'r amlwg.

Mae dau reswm am hynny. Y pwysicaf a'r amlycaf yw bod hiliaeth yn ffiaidd. Yr ail yw oherwydd bod y ffaith mai lleiafrif yw Cymry Cymraeg yn golygu bod rhagfarn gan rai o'i siaradwyr yn cael ei defnyddio i bardduo'r iaith ei hun gan ei gelynion. Mae'r gwrth-Gymraeg yn awyddus i bortreadu'i siaradwyr fel hilgwn senoffobaidd, felly dylem osgoi rhoi'r cyfle iddynt.

Mae trafodaeth gwerth ei chael am berthynas y Gymraeg a phobl o leiafrifoedd ethnig. Os yw'r Gymraeg i ffynnu, mae rhaid iddi fod yn iaith amlddiwylliannol. Mae'n bwysig felly ein bod yn gwrando pan mae aelodau o leiafrifoedd ethnig yn sôn am eu profiadau â hi, hyd yn oed (na, yn enwedig) pan mae hynny'n ein gwneud yn anghyfforddus. Eto i gyd, teimladau cymysg a gefais wrth ddarllen yr erthygl hynod ddadleuol hon gan Oruj Defoite am ei phrofiadau yng Nglyn Ebwy. Rwyf wedi gwrthsefyll y demtasiwn i ymuno yn y pile-on ar Twitter, felly dyma geisio rhoi trefn ar fy meddyliau fan hyn.

Fel dyn gwyn sy'n siarad Cymraeg, mae profiad dynes di-Gymraeg â chroen tywyll yn estron i mi, ac o ganlyniad rwy'n anghyfforddus â'r syniad o ddiystyru disgrifiad Defoite o'i phrofiadau yn llwyr, fel petawn i'n gwybod yn well. Ond ni allaf helpu'r peth: mae sawl darn o'r erthygl yn codi ael. Dywed, er enghraifft, ei bod yn cael ei chwestiynu am ei sgiliau Cymraeg 'drwy'r amser'. Yng Nglyn Ebwy?! Mae'r erthygl yn amwys am y lleoliad yn hynny o beth, ond mae'n swnio'n rhyfedd i mi dim ots lle sydd o dan sylw. Pwy ddiawl yw'r bobl yma?

 ymlaen i ddweud mai'r un bobl sydd wedyn yn mynnu gwybod o ble y mae'n dod 'go iawn'. Yr awgrym plaen fan hyn yw mai siaradwyr Cymraeg sy'n gyfrifol am yr hiliaeth yn ei bywyd. Mae'r cyhuddiad yn un difrifol. Os yw'n wir, byddai mwy o fanylion am y bobl hyn yn ddefnyddiol dros ben, achos mae angen i ni'u rhoi yn eu lle.

Yn anffodus, nid yw'n helpu pethau trwy fynd ymlaen i ddweud bod cyhuddiad annifyr Aneurin Bevan bod Cymru'n cael ei rhedeg “by small pockets of Welsh-speaking, Welsh-writing zealots, with the vast majority of Welshmen denied participation in the government of their country” yn wir o hyd. Mae yna hen hanes fudr o bardduo lleiafrifoedd trwy awgrymu eu bod yn fwy grymus na'r gwirionedd, a'u bod yn camddefnyddio'r grym hwnnw er mwyn gwarchod eu buddiannau'u hunain, ac mae'n drist gweld aelod o leiafrif arall yn gwyntyllu'r myth.

Yn dilyn yr ymateb blin ar Twitter, cafwyd erthygl gan Abdul-Azim ar wefan yr IWA yn cefnogi Defoite. Dywed bod hiliaeth yr un mor gyffredin yng Nghymru ag yn Lloegr, sy'n deg ond amlwg. Pwysleisia'r pwynt trwy gyfeirio at bresenoldeb UKIP yn y Cynulliad a ralïau gan grwpiau neo-natsïaid. Wrth gwrs mae UKIP a mudiadau asgell-dde eithafol yn elyniaethus tuag at y Gymraeg hefyd, felly mae'n bod yn llithrig braidd fan hyn. Ond gwir asgwrn y gynnen yw'r paragraff anghynnes hwn:
Oruj is highlighting an experience, one which I think is increasingly common, of the Welsh language being used by some to further entrench a racial hierarchy in which black and minority ethnic people are at the bottom. Should this even be surprising, given the resurgence of far-right politics and white supremacism here and abroad?
Mae'r darllenwr cyffredin yn sicr o ddehongli'r datganiad yma trwy gasglu bod ymgyrchwyr iaith yn defnyddio'r Gymraeg yn bwrpasol fel arf hiliol. Mae'n ensyniad difrifol a hyll tu hwnt. A dweud y gwir, mae dweud y fath beth mewn ffordd mor ffwrdd-â-hi yn beryglus. Er fy awydd i roi gwrandawiad teg i'r erthygl, roedd y darn yma'n ddigon i beri mi golli pob cydymdeimlad â'r gweddill.

Fel y dywedais, mae'n hanfodol i'r iaith bod pobl o leiafrifoedd ethnig yn dod i'w siarad. O safbwynt hyrwyddo'r iaith, byddai gwrthod croeso iddynt yn gamgymeriad strategol hurt, heb sôn am fod yn ffiaidd. Fel y dywed Joao Morais ar Twitter, mae ymgyrchwyr iaith yn awyddus i bortreadu'r Gymraeg fel iaith gosmipolitanaidd. Os rywbeth, mae perygl i ni gynhyrfu gormod a thrin lleiafrifoedd ethnig Cymraeg eu hiaith fel novelty bendigedig. Dylai eu bodolaeth gael ei hystyried yn beth hollol normal.

Eto, nid gwadu yw hyn bod yna siaradwyr Cymraeg sydd, am ba bynnag reswm gwirion, am gadw'r iaith yn wyn. Nid oes gennyf reswm i dybio nad ydynt yn bodoli. Ond mae'r erthyglau hyn yn awgrymu bod yna broblem neilltuol ymysg Cymry Cymraeg, felly teg yw gofyn am fwy o fanylion i ddangos bod hynny'n wir. Mae'r erthyglau wedi bod yn fêl ar fysedd troliaid gwrth-Gymraeg y we, sy'n dangos pa mor anghyfrifol yw gwneud cyhuddiadau fel hyn heb dystiolaeth.

Mae'r ddwy erthygl yn mynegi pryderon bod y Gymraeg yn gallu bod yn 'exclusionary'. Ar un law, nid yw'r cyhuddiad yn gwneud llawer o synnwyr. Os nad ydych yn deall iaith, nid ydych yn mynd i allu deall y rhan fwyaf o'r pethau sy'n digwydd trwy gyfrwng yr iaith honno. Dyma natur ieithoedd gwahanol, ac nid oes llawer all unrhyw un ei wneud am y peth. Beth mae'n ei olygu i ddweud dylai iaith fod yn fwy 'inclusive'? Yr unig ystyr onest ac ystyrlon yw sicrhau bod pawb yn y wlad yn cael y cyfle i'w dysgu a'i defnyddio. Mae galw ymdrechion i hyrwyddo'r iaith ac annog ei defnydd yn 'exclusionary' yn ddryslyd tu hwnt; 'exclusionary' fyddai ceisio cadw'r Gymraeg yn glwb cyfrinachol cul. Dylent ddewis un cyhuddiad a bod yn gyson.

Ar y llaw arall, nid yw dysgu Cymraeg yn hawdd, ac mae'n amlwg yn anos byth i fewnfudwyr sy'n ansicr eu Saesneg. Teg hefyd yw'r pwynt bod dysgu iaith newydd yn llawer haws i bobl dosbarth canol, sy'n meddu ar fwy o amser ac adnoddau. Yr ateb, eto, yw croesawu pawb sydd am wneud defnydd o'r iaith a gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cynorthwyo. Yn y cyfamser, dylem gondemnio pob Cymro hiliol.

10/08/2017

Ynghylch gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth ein hunain drwy'r amser

Ymddengys bod siaradwyr Cymraeg o dan warchae braidd ar hyn o bryd. Efallai bod yr ymosodiadau'n teimlo'n fwy cyson nag yn y gorffennol oherwydd y cyfryngau cymdeithasol. Mae twpsod anwybodus bellach yn ysgrifennu cynnwys eu meddyliau ar y we yn hytrach na'u cadw'n breifat, ac mae'r un rhwydweithiau'n gweithio fel larwm i alw'r Cymry i'r gâd bob tro y gwelwn rywbeth sy'n ein tramgwyddo.

Ond mae'n bosibl hefyd bod yr ymosodiadau'n dwysáu. Yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol - mae Brexit yn symptom o greisis hunaniaeth yn Lloegr i raddau helaeth - gellir synhwyro bod drwgdybiaeth tuag at amrywiaethau mewnol yn y Deyrnas Gyfunol yn cynyddu. Beth bynnag sy'n mynd ymlaen, roedd caredigion y Gymraeg yn disgwyl y gwaethaf pan drydarodd y rhaglen Newsnight brynhawn ddoe am eu bwriad i gynnal trafodaeth am yr iaith. Os rywbeth, roedd yr eitem a ddarlledwyd hyd yn oed yn waeth na'r hyn a ddychmygwyd gan y pesimist mwyaf yn ein plith. Dau westai, dim un ohonynt yn siarad Cymraeg, ac un yn ffwl rhagfarnllyd di-nod a'i fryd ar efelychu Katie Hopkins. Efallai bod llawer o siaradwyr yr iaith yn brysur yn yr Eisteddfod ar hyn o bryd, ond roedd hyn yn hurt.

Dylem osgoi theorïau cynllwyn fan hyn. Nid arwydd o elyniaeth bwriadol gan gynhyrchwyr y rhaglen yw eitem fel hwn. Y gwir poenus yw nad ydym yn ddigon pwysig i haeddu hynny. Anwybodaeth lwyr sy'n gyfrifol. Roedd yn amlwg drwy gydol yr eitem nad oedd gan Evan Davis y syniad lleiaf am y pwnc; fe awgrymodd fwy nag unwaith mai hobi yw'r Gymraeg, yn hytrach na chyfrwng naturiol bywyd cannoedd o filoedd o drigolion y wladwriaeth. Mae'n ddealladwy bod newyddiarurwyr, cynhyrchwyr ac ymchwilwyr rhaglenni fel Newsnight yn anwybodus amdanom; Saeson yn byw yn Llundain ydynt, wedi'r cyfan. Nid yw'r iaith Gymraeg yn croesi'u meddyliau fel arfer. Rhaid dweud bod gweld rhaglen o'r fath yn gwneud smonach o bwnc cyfarwydd yn gwneud i mi amau'u hadroddiadau am faterion nad wyf yn gwybod cymaint amdanynt; nid wyf wedi gallu ymddiried yn The Economist yn yr un ffordd ers darllen y llanast llwyr hwn, chwaith.

Rwy'n teimlo'n eithaf diymadferth am hyn i gyd. Creu stwr a chodi ymwybyddiaeth yw'r unig ateb, am wn i. Mae gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth fel grwp cymdeithasol dro ar ôl tro yn waith digalon, ond mae'n debyg mai dyna'r unig ddewis. Nid oes unrhyw un arall yn mynd i roi chwarae teg i ni, felly mae fyny i ni ein hunain. Am resymau amlwg, dim ond siaradwyr Cymraeg sy'n deall yn iawn beth sy'n mynd ymlaen yn y byd Cymraeg. Dyna natur ieithoedd gwahanol. Nid ein bai ni yw hynny. Y cyfan allwn ni ei wneud yw esbonio. Trafodwch yr iaith Gymraeg yn Saesneg, a phopeth arall, yn naturiol, yn Gymraeg.

04/08/2016

Ynghylch pwyntio bys

Darllenais So You've Been Publicly Shamed gan Jon Ronson yn ddiweddar. Mae'n sôn am bobl sydd wedi cael eu cywilyddio'n gyhoeddus oherwydd rhywbeth maent wedi'i ddweud neu ei wneud, yn gam neu'n gymwys. Mae'r we, a'r cyfryngau cymdeithasol yn enwedig, wedi hwyluso ein gallu i bwyntio bys, ac mae'n hawdd i feirniadaeth ysgafn droi'n pile-on blin o fewn dim o dro. Un o'r enghreifftiau a drafodir yw Justine Sacco, person di-nod ar Twitter heb lawer o ddilynwyr, a bostiodd jôc hiliol 'eironig' cyn i'w hawyren ddechrau am Cape Town. Erbyn iddi lanio, roedd hi'n elyn pennaf y wefan gyfan ac fe gafodd fraw ei bywyd wrth droi ei ffôn yn ôl ymlaen. Mae'r llyfr yn ddiddorol, a'n ein gorfodi i gofio bod person go iawn ar yr ochr arall. Mae'r wers honno'n bwysig, hyd yn oed os ydynt wedi dweud rhywbeth gwirioneddol erchyll.

Efallai y dylem gadw hyn mewn cof wrth ystyried y stori ddiweddaraf i gorddi'r Gymry Gymraeg, sef bod ymchwilydd i BBC Radio 5 Live wedi gwneud ymholiadau ar Twitter yn chwilio am gyfranwyr, gan ddweud yn benodol ei bod yn chwilio yn benodol am rywun 'to talk about why the Welsh language should die'. Aeth ati'n arbennig i wahodd dau ddyn sydd wedi gwneud sylwadau hynod ymfflamychol a thwp am yr iaith yn y gorffennol agos. Roedd ei dewis o eiriau'n syfrdanol o drwsgl a hyll.

Nawr, rwyf am rannu cyfrinach. Ers dechrau'r flwyddyn, rwyf wedi bod yn rhedeg cyfrif Twitter o'r enw Take That, Welsh. Y bwriad yw ail-drydar sylwadau dwl neu ddiflas am yr iaith Gymraeg. Nid mynd i ddadlau â'r bobl hyn yw'r nod; dim ond rhoi proc bach cynnil a gwneud y pwynt nad yw eu jôcs neu fyfyrdodau yn wreiddiol na'n ddiddorol o gwbl mewn gwirionedd. Beth bynnag, Take That, Welsh ail-drydarodd yr ymholiad uchod (ddiwrnod a hanner wedi iddio gael ei bostio), ac fe ffrwydrodd y Twitter Cymraeg bron yn syth. Er ei bod yn debygol y byddai rhywun arall wedi sylwi ar y neges yn hwyr neu'n hwyrach (mae'n rhyfeddol o hawdd dod o hyd i'r deunydd crai ar gyfer y cyfrif), rwyf felly'n teimlo peth cyfrifoldeb am y ffaith bod hyn wedi troi'n stori newyddion (gan ennyn ymateb y Comisiynydd, gwleidyddion a gwefan y Daily Mail). Mae gennyf deimladau cymysg am yr ymateb a gafwyd.

Nid yw'r ymchwilydd wedi dweud unrhyw beth o gwbl ers i'r sylw fynd yn feiral, ond buaswn yn dychmygu ei bod wedi cael braw gan ei bod wedi dileu'r trydariadau erbyn hyn. Er bod yr hyn a ddywedodd yn ymfflamychol, rwy'n gyndyn i'w beio hi'n unigol. Symptom o broblem sefydliadol a strwythurol yw beth ddigwyddodd mewn gwirionedd: cyfuniad o anwybodaeth lwyr am y Gymraeg a'i siaradwyr, a dyhead golygyddol i gynnwys safbwyntiau mor eithafol â phosibl er mwyn denu sylw. Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebion rwyf wedi'i gweld yn beio'r BBC fel corfforaeth, sy'n deg yn yr achos yma, ond mae ambell un wedi mynd ar ôl yr ymchwilydd yn benodol, sy'n anffodus. Gwnaed cwyn i'r heddlu, hyd yn oed, sy'n hollol wirion.

Fel cyfrwng, mae Twitter yn tueddu i annog pile-ons ar adegau fel hyn. Mae unigolion yn gweld yr hyn a ddywedwyd, a'n teimlo'r angen i leisio'u barn. Wrth gwrs, os oes cannoedd (neu filoedd, hyd yn oed) o unigolion yn gwneud hynny, gall fod yn brofiad anghynnes iawn i'r sawl sydd o dan y lach, hyd yn oed os nad dyna fwriad y rhan fwyaf o'r beirniaid.

Mae'r mater yma'n ddyrys. Roedd y trydariad yn annerbyniol, felly ni ddylid fod wedi'i anwybyddu. Mae'n syrffedus eithriadol gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth byth a beunydd. Nid yw'n help chwaith bod cynifer ohonom yn teimlo o dan warchae ers y stori ffug wirion am yr Orsedd a'n tîm pêl-droed y penwythnos diwethaf. Ond mae angen ystyried pwy yw'r person sy'n gyfrifol am ein gwylltio. Ni ddylid ymateb yn yr un modd i sylw gan ymchwilydd ag i sylw gan berson o statws uwch. Mae hefyd yn wahanol os yw'r person yn pigo ffrae neu'n bod yn ymosodol. Byddaf weithiau'n gweud hwyl am ben creadyddion ffwndamentalaidd, er enghraifft, sydd mor hyderus ac awyddus i herio er gwaethaf eu hanwybodaeth lwyr am theori esblygiadol. Ond dim ond gwneud ei swydd (a dilyn cyfarwyddiadau ei rheolwyr, yn ôl pob tebyg) oedd yr ymchwilydd.

Gyda llaw, fe ddarlledwyd yr eitem yn gynharach heddiw. Roedd yn sgwrs adeiladol a diddorol yn y diwedd, heb gyfraniad gan eithafwyr (roedd yno ddyn o'r Alban yn anhapus â'r syniad o wario rhyw lawer o arian cyhoeddus ar ieithoedd lleiafrifol, ond heb fod yn rhy ddwl am y peth). Efallai bod hyn yn dangos bod yr awydd i chwilio pob twll a chornel i ganfod y pobl mwyaf eithafol posibl yn wrth-gynhyrchiol, a bod hynny'n wers ychwanegol a ddysgwyd yn sgil yr helynt hwn.

02/08/2015

Cwyno i'r heddlu am ddarn o ffuglen

Ymddengys bod rhyw berson od yn rhywle wedi anfon 'gwaith' gwirioneddol anghynnes at gystadleuaeth Gwobr Daniel Owen eleni. 'Nid nofel oedd hi, ond cyfres o ddisgrifiadau graffig o blant yn cael eu treisio' yn ôl Dewi Prysor, un o'r beirniaid.

Yn anffodus, ymateb yr Eisteddfod oedd anfon y stwff at yr heddlu, ynghyd â manylion yr awdur. Sinigaidd fyddai nodi'r ffaith i hyn i gyd ddigwydd ym mis Mawrth ond bod y 'newyddion' wedi torri ddiwrnod cyn i'r brifwyl ddechrau, wrth gwrs. Beth bynnag am hynny, rwy'n gyndyn o'r farn na ddylai hyn fod yn fater i'r heddlu o gwbl. Roeddwn yn credu hynny cyn i natur y cynnwys ddod i'r amlwg, ac rwy'n credu hynny o hyd.

Fel mater o egwyddor pendant, rwy'n chwyrn yn erbyn y syniad o anghyfreithloni geiriau ar bapur, oni bai eu bod yn enllibus neu'n bygwth rhywun yn uniongyrchol. Yn sicr, ni allaf feddwl am senario lle byddai'n briodol galw'r heddlu oherwydd darn o ffuglen. Beth bynnag, nid yw'n eglur i mi beth yn union y mae disgwyl i'r heddlu ei wneud yn ymarferol am y peth.

Y ddadl yw bod pryder am y posibilrwydd bod yr awdur yn bwriadu gwireddu'r hyn a ddisgrifia, a bod y disgrifiadau hynny'n neilltuol o ffiaidd. Ond mae pob math o lyfrau - clasuron enwog yn eu plith - yn cynnwys golygfeydd pur 'anweddus'. Mae nofelau Raymond Chandler neu Agatha Christie, er enghraifft, yn llawn llofruddiaethau, ond nid oedd unrhyw un yn credu bod hynny'n reswm i boeni am gymhellion yr awduron. Rwy'n berchen ar gopïau o Naked Lunch gan William S Burroughs a Trout Fishing In America gan Richard Brautigan, dwy nofel sy'n cynnwys disgrifiadau o weithredoedd pedoffeilaidd. Ystyrir y ddwy'n gyfrolau arwyddocaol (fymryn yn ormodol felly yn fy marn i, yn enwedig Naked Lunch), er eu bod yn cynnwys darnau gwirioneddol fochedd. Ystyrier Lolita hefyd fel enghraifft arall.

A dweud y gwir, byddai 'pryderon' yr Eisteddfod yn swnio'n fwy didwyll pe na baent wedi denu'r holl sylw yma at yr hyn a ddigwyddodd. Canlyniad yr holl gyhoeddusrwydd yw bod gan lawer o bobl - a minnau yn eu plith - awydd darllen y deunydd anweddus dirgel yma, er chwilfrydedd pur. Ni fyddem wedi cael gwybod am ei fodolaeth yn y lle cyntaf petai'r Eisteddfod o ddifrif am eu gofidion bod rhywbeth sinistr ar droed. Mae'n bosibl iawn mai creu braw ymysg y 'sefydliad' fel hyn oedd union obaith yr awdur, trwy fod yn edgy a gwasgu'r botymau 'anghywir' i gyd. Dyna, i bob pwrpas, oedd nod Burroughs yn Naked Lunch, a gyhoeddwyd ym 1959. Y jôc yn achos y gyfrol honno yw mai f'ymateb pennaf wrth ei darllen am y tro cyntaf yn lled ddiweddar oedd bod rhywbeth eithaf hen-ffasiwn - quaint, bron - am yr ysfa yna i ddychryn er mwyn dychryn.

Yn rhwystredig ddigon, yn rhy aml mae amddiffyn yr hawl i ysgrifennu rhywbeth yn cael ei ddehongli fel amddiffyniad o safon y gwaith. Rwy'n hollol chwyrn o blaid yr hawl i ysgrifennu stwff fel hyn, dim ots pa mor wachul neu arswydus ydyw. Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu'r hawl i fynnu bod rhywun arall yn ei gyhoeddi, heb sôn am ei wobrwyo. Y gwir yw ei bod yn swnio fel bod yr hyn a ysgrifennodd yr awdur anhysbys yma'n ofnadwy ym mhob ystyr y gair. Ond yr ateb syml i hynny oedd i beidio rhoi gwobr Daniel Owen iddo, a hynny'n dawel bach. Gwaherdder yr awdur rhag cystadlu eto, ar bob cyfrif (mae'n debyg iddo wneud rhywbeth tebyg yn 2007 hefyd). Ond dyna ddylai fod ei diwedd hi.

14/05/2014

Bydysawd T.H. Parry-Williams

Gan fy mod ar hyn o bryd yn darllen y gyfrol wych Ffarwél I Freiburg gan Angharad Price, am grwydriadau cynnar T.H. Parry-Williams, rwyf wedi bod yn ail-ddarllen rhai o'i gerddi.

Mae Parry-Williams yn bendant yn un o'r beirdd mwyaf diddorol a gynhyrchodd Cymru erioed. Mae nifer o'i gerddi'n trafod marwolaeth, ac efallai bod hynny'n un o'r rhesymau y mae'r rhain yn enwedig yn apelio ataf, gan fy mod innau hefyd yn gallu bod yn ddiawl bach morbid ar adegau. Rheswm arall yw'r ffaith ei fod siwr o fod ymysg y beirdd Cymraeg cyntaf i drafod y pwnc ag agwedd gwirioneddol ddyneiddiol ac anghrefyddol, gan bwysleisio ein di-nodedd yng nghyd-destun ehangach y bydysawd. Roedd Parry-Williams, wrth gwrs, yn amheus o grefydd, ac mae'r cerddi hyn yn cydnabod yn blaen mai marwolaeth yw'r diwedd. Mae 'Yr Esgyrn Hyn' yn enghraifft dda.

Ond rwy'n credu mai fy ffefryn yw 'Dychwelyd':
Ni all terfysgoedd daear byth gyffroi
Distawrwydd nef; ni sigla lleisiau'r llawr
Rymuster y tangnefedd sydd yn toi
Diddim diarcholl yr ehangder mawr;
Ac ni all holl drybestod dyn a byd
Darfu'r tawelwch nac amharu dim
Ar dreigl a thro'r pellterau sydd o hyd
Yn gwneuthur gosteg â'u chwyrnellu chwim.
Ac am nad ydyw'n byw ar hyd y daith
O gri ein geni hyd ein holaf gŵyn
Yn ddim ond crych dros dro neu gysgod craith
Ar lyfnder esmwyth y mudandod mwyn,
Ni wnawn, wrth ffoi am byth o'n ffwdan ffôl,
Ond llithro i'r llonyddwch mawr yn ôl.
Mae'n debyg bod rhai wedi ystyried y gerdd hon yn brawf o ffydd Parry-Williams yn Nuw, ond mae hynny'n ddwl. Efallai bod y beirniaid Cristnogol gobeithiol yma wedi rhoi'r gorau i ddarllen ar ôl gweld y gair 'nef', sy'n amlwg mewn gwirionedd yn gyfeiriad barddonol ond seciwlar at y bydysawd y tu hwnt i'n carreg bach glas a gwyrdd ni. Nid yw union safbwynt diwinyddol Parry-Williams yn sicr, hyd y gwn, ac rwy'n petruso cyn ei hawlio fel anffyddiwr o'r iawn ryw, ond o ddarllen cerddi fel hyn mae'n bosibl dychmygu mai dyna a fuasai pebai'n fyw heddiw. Yn bendant, mae unrhyw un sy'n gweld tinc o ffydd grefyddol yn y darn uchod yn twyllo'u hunain.

Er nad yw Cristnogaeth yn gallu mynnu bellach mai'r Ddaear yw canol y bydysawd yn llythrennol, mae'n honni o hyd mai ein planed bach pitw ni sy'n hawlio holl sylw'r endid a greodd popeth sy'n bodoli. Mae 'Dychwelyd' yn ymwrthod yn llwyr â'r agwedd blentynnaidd honno. Roedd y bydysawd yn bodoli am 13.7 biliwn o flynyddoedd cyn i ni gael ein geni, a bydd yn parhau i fodoli am sawl biliwn o flynyddoedd wedi i ni farw, doed a ddelo. Mae'r cyflwr o beidio bodoli ar ôl ein marwolaeth yr un fath yn union â'r cyfnod pan nad oeddem yn bodoli cyn i ni gael ein geni yn y lle cyntaf. Hyd yn oed petawn yn ddigon ffodus i fyw am ganrif, ni fyddai fy modolaeth ond crac hynod denau o oleuni yng nghanol ffenestr anferth o dywyllwch (neu 'gysgod craith ar lyfnder esmwyth y mudandod mwyn').  Rwy'n hoff iawn o'r ddelwedd drawiadol yma. Go brin mai Parry-Williams oedd y cyntaf i'w defnyddio, ond mae llawer o awduron gwyddoniaeth boblogaidd wedi defnyddio rhai tebyg dros y blynyddoedd. Mae Carl Sagan yn un, ac mae 'Dychwelyd' hefyd yn rhagweld rhai o'r pethau eraill a ddywedodd Sagan yn ei gyfrol Pale Blue Dot. wrth ddisgrifio llun a dynnwyd o'r Ddaear o 4 biliwn milltir i ffwrdd. Mae'n werth dyfynnu'r darn yma'n llawn:
From this distant vantage point, the Earth might not seem of any particular interest. But for us, it's different. Consider again that dot. That's here. That's home. That's us. On it everyone you love, everyone you know, everyone you ever heard of, every human being who ever was, lived out their lives. The aggregate of our joy and suffering, thousands of confident religions, ideologies, and economic doctrines, every hunter and forager, every hero and coward, every creator and destroyer of civilization, every king and peasant, every young couple in love, every mother and father, hopeful child, inventor and explorer, every teacher of morals, every corrupt politician, every "superstar," every "supreme leader," every saint and sinner in the history of our species lived there – on a mote of dust suspended in a sunbeam.
The Earth is a very small stage in a vast cosmic arena. Think of the rivers of blood spilled by all those generals and emperors so that in glory and triumph they could become the momentary masters of a fraction of a dot. Think of the endless cruelties visited by the inhabitants of one corner of this pixel on the scarcely distinguishable inhabitants of some other corner. How frequent their misunderstandings, how eager they are to kill one another, how fervent their hatreds. Our posturings, our imagined self-importance, the delusion that we have some privileged position in the universe, are challenged by this point of pale light. Our planet is a lonely speck in the great enveloping cosmic dark. In our obscurity – in all this vastness – there is no hint that help will come from elsewhere to save us from ourselves.
The Earth is the only world known, so far, to harbor life. There is nowhere else, at least in the near future, to which our species could migrate. Visit, yes. Settle, not yet. Like it or not, for the moment, the Earth is where we make our stand. It has been said that astronomy is a humbling and character-building experience. There is perhaps no better demonstration of the folly of human conceits than this distant image of our tiny world. To me, it underscores our responsibility to deal more kindly with one another and to preserve and cherish the pale blue dot, the only home we've ever known.
Gellir ystyried Parry-Williams yn rhyw fath o egin-Sagan, mewn ffordd. A dweud y gwir, byddai 'Dychwelyd' yn gwneud epigraff ardderchog ar gyfer unrhyw gyfieithiad Cymraeg o Pale Blue Dot.

12/05/2014

Contio

Rwy'n credu'n gryf bod gan regfeydd le anrhydeddus iawn yn ein geirfa, ac nid oes gennyf lawer o amynedd gyda phobl sy'n cwyno am iaith aflednais. Fel brodor o Gaernarfon, mae un rheg yn enwedig yn dod yn naturiol. Mae Cofis, wrth gwrs, yn enwog am eu defnydd ffwrdd-a-hi o'r gair cont, sy'n cael ei ystyried yn sarhad hyll yn y rhan fwyaf o lefydd eraill. Yng Nghaernarfon, mae wedi'i fabwysiadu fel ffordd o fynegi anwyldeb, neu hyd yn oed fel modd syml o atalnodi brawddegau. Mae rhywbeth boddhaol iawn am y cytseiniau caled yn y gair unsill cont, neu'r fersiwn Saesneg sydd hyd yn oed yn grasach, cunt.

Rwyf wedi bod yn ymwybodol ers blynyddoedd bod y gair, yn America yn enwedig, yn cael ei ystyried yn un rhywiaethol gan lawer. Dros yr Iwerydd, fe'i defnyddir yn bennaf i sarhau menywod (ac mae hynny'n swnio'n rhyfedd o hyd i'm clust i, rhaid cyfaddef). Mae pawb yn gwybod beth yw ystyr y rheg. Am wn i, ystyrir galw rhywun yn cunt yn arbennig o frwnt oherwydd rhyw ymdeimlad hanesyddol bod organnau rhywiol merched yn bethau eithriadol o aflan.

Rwy'n ystyried fy hun yn pro-ffeminydd brwd, a'n ceisio bod mor sensitif ag y gallaf i bethau fel hyn, ond rhaid i mi fod yn onest fy mod wedi parhau i ddefnyddio'r rheg er fy mod yn hollol ymwybodol o hyn i gyd. Mae'n bosibl fy mod yn fwriadol wedi ceisio osgoi dadansoddi'r peth rhag ofn i mi sylwi fy mod yn rhagrithio, ond fy nghyfiawnhad oedd bod y cyd-destun yn hollol wahanol fan hyn, a bod y cysylltiad rhywiaethol, sydd mor gryf o hyd yn UDA, wedi'i golli ym Mhrydain (ac yng Nghaernarfon yn arbennig). Wedi'r cyfan, onid yw'n wirion honni bod dau Gofi sy'n cyfarch ei gilydd trwy holi "iawn cont?" yn atgyfnerthu anghymesureddau grym rhwng dynion a merched?

Ond tybed? Dyna'n union y mae dau flogiwr, y mae gennyf barch mawr tuag atynt, Ophelia Benson a PZ Myers, yn ei honni. Y sylw yma gan Ricky Gervais ar Facebook oedd asgwrn y gynnen: 
If you grabbed Hitler and shouted "stop killing innocent people you cunt", someone on Facebook would call you out on your sexist language.
Mae'n rhaid i mi fod yn onest: nes i'r ddadl yma godi buaswn wedi bod yn fwy na pharod i ddefnyddio'r rheg arbennig yma i ddisgrifio Hitler, yn union fel y gwnaeth Gervais. Mae'n debygol fy mod wedi gwneud hynny droeon. Ond onid yw'n dweud cyfrolau mai'r gair casaf sydd gennym, wrth chwilio am ffordd o fynegi atgasedd tuag at ddyn, yw rhywbeth sy'n cyfeirio at ran o anatomeg y corff benywaidd?

Mae'r erthygl hon, sy'n ymateb i'r ddau uchod, yn olrhain hanes y gair ym Mhrydain a'n egluro'r gwahaniaethau rhwng y fersiynau Americanaidd a Phrydeinig (mae'r darn am Chaucer yn arbennig o ddifyr). Mae'n wir bod geiriau'n gallu colli cysylltiad â'u hystyron gwreiddiol wrth i'w hetymoleg ddatblygu. Ond ar y llaw arall, mae cont yn parhau i gyfeirio at y darn rhwng goesau merched yn y pen draw, hyd yn oed yng Nghaernarfon. Ar y llaw arall eto, mae rhai ffeminyddion, fel Laurie Penny, yn awgrymu y dylai merched feddiannu'r term er eu dibenion eu hunain.

Gorddweud cellweirus, efallai, ond rwy'n cael creisis bach ers darllen y blogiadau yna. Byddai'n gas gennyf feddwl fy mod yn gwneud cam â ffeminyddion trwy gontio. Ond byddai'n anodd newid arfer oes. Beth ydych chi'n ei feddwl? Byddai barn merched yn enwedig o werthfawr!

23/04/2014

Camargraffiadau cyffredin am y Gymraeg

Efallai bod llawer ohonoch wedi gweld hyn eisoes, ond mae Ifan wedi creu gwefan WhyWelsh sy'n ceisio mynd ati i gywiro'r amryw gamargraffiadau neu fythau sy'n bodoli am yr iaith Gymraeg a'i siaradwyr (tebyg i'r mynegai i ddadleuon creadyddion ar wefan TalkOrigins). Y bwriad yw cynhyrchu adnodd er mwyn hwylyuso cywiro'r pethau yma ar y we, os digwydd i chi ganfod eich hun mewn ffrae (neu mewn sgwrs gyda pherson di-Gymraeg chwilfrydig).

Rwyf wedi cyfrannu'r bedair erthygl yma hyd yn hyn, ond Ifan wnaeth y gweddill i gyd. Mae'n croesawu cyfraniadau pellach os oes gennych syniadau!

11/11/2013

Cymru a Mohammed

Mae gan Siôn Jobbins ysgrif dda iawn (a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2006) yn The Phenomenon Of Welshness II ynghylch delweddau o'r proffwyd Mohammed. Tua diwedd 2005, wrth gwrs, gwelwyd torfeydd treisgar yn y byd islamaidd yn ymateb yn hysteraidd i'r cartwnau hynny a gyhoeddwyd yn Jyllans-Posten yn Nenmarc. Mae cyfrol Siôn Jobbins yn ein hatgoffa o gyfraniad bach Cymru dila i'r ffrae ryngwladol dwp honno.

Ar ddechrau 2006, cyhoeddwyd rai o'r cartwnau ym mhapur myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Gair Rhydd (enw trychinebus o eironig o ystyried yr hyn a ddilynodd). Fis yn ddiweddarach, cafwyd erthygl gan olygydd cyfnodolyn yr eglwys yng Nghymru, Meurig Llwyd Williams. Pwysigrwydd cyfathrebu a chydweithio rhwng gwahanol grefyddau oedd testun yr erthygl, mae'n debyg. Roedd cartŵn digon ysgafn i fynd gyda'r ysgrif: Iesu Grist, y Bwda a Mohammed yn eistedd ar gwmwl, a Iesu'n dweud wrth yr olaf, "Paid â chwyno ...  rydym i gyd yn cael ein gwawdlunio yma". Dyna'r cwbl.

Dylai fod yn destun balchder i bob Cymro a Chymraes bod gan yr unig gyhoeddiadau ym Mhrydain a feiddiodd argraffu delweddau o Mohammed (hyd y gwn) deitlau Cymraeg (er mai Saesneg yw cynnwys Gair Rhydd). Yn anffodus, dylai hefyd fod yn destun siom a chywilydd bod yr ymateb i'r cartwnau wedi bod mor bathetig: bu raid i'r ddau olygydd ymddiswyddo dan gwmwl. Yn ogystal, difethwyd pob copi o'r ddau rifyn o dan sylw. Mae'n debyg nad oes yr un cofnod ohonynt yn bodoli erbyn hyn, oni bai bod rhywun yn rhywle wedi cadw un yn dawel bach. Yn achos Meurig Llwyd, dywedodd weinidog o'r llywodraeth ei bod yn falch ei fod wedi rhoi'r gorau i'w swydd. Yn sicr, ni fynegodd yr un gwleidydd unrhyw gefnogaeth i'r un o'r ddau olygydd. O ystyried pwrpas addfwyn yr erthygl yn Y Llan, gofynna Siôn Jobbins gwestiwn rhesymol iawn:
Had the Minister and the politicians actually read the article or seen the image? Is there not an underlying presumption by some that an article in Welsh, a covert and, by extension, suspect language, would be by definition 'anti-cosmopolitan' and 'reactionary' in nature? That kind of contempt for the 'non-cosmopolitan' languages is in the tradition of genocidal theories and policies from the French Revolution, to Communism and Stalin.
Mae'n werth dyfynnu'r darn yma hefyd:
Do we really think that some evil men are hunched in the slums of Baghdad or the coffee houses of Cairo or even the mosques of Cardiff cursing and plotting against the editor of Y Llan because of this offending cartoon, as they struggle to master the voiceless alveolar fricative - 'll' - of its title? And if so, should not we, the media, the Church, the state and the police in a free democracy, be defending the editor of Y Llan for his right to free speech rather than slapping him down like an errant dog? Is Western democracy so shallow that it cowers before bigots and murderes and those who threaten murder? Or are the majority of decent Muslims as represented by the Muslim Council of Wales too afraid or disrespectful of Western liberal democracy to accept its traditions too?
I ateb y cwestiwn ar y diwedd, mentraf mai'r dewis cyntaf oedd agosaf ati yn yr achos yma. Wedi'r cyfan, sawl mwslem oedd hyd yn oed yn ymwybodol am y darlun yn Y Llan (cylchrediad: 500 o eglwyswyr) cyn i'r golygydd ymddiswyddo?

Un cŵyn bach sydd gennyf am ysgrif Jobbins. Dywed hyn:
Surely if English Law can differentiate between murder and manslaughter, then the Church in Wales could differentiate between and article and a cartoon that aimed to mock Islam and one that didn't? Couldn't Muslims in Wales and beyond appreciate the difference? Couldn't Saleem Kidwai of the Muslim Council of Wales understand this too, and take a more intelligent view by accepting Meurig Llwyd's article for what it was?
Ni ddylid pwysleisio'r gwahaniaeth yma'n ormodol. Hyd yn oed petai'n wir mai gwawdio a thynnu hwyl oedd unig bwrpas y cartŵn, pa ots? Ni fyddai hynny'n arbennig o berthnasol. Nid oes unrhyw beth yn bod, mewn egwyddor, ar wawd a thynnu hwyl, ac ni ddylid gwneud eithriadau ar gyfer unrhyw grefydd neu syniadaeth benodol. Mae gwirfoddoli i fod yn wystlon i sensitifrwydd ffwndamentaliaid treisgar - hyd yn oed pan nad yw pobl felly'n debygol o sylwi ar y deunydd "ymfflamychol" yn y lle cyntaf - yn syniad arbennig o hurt.

06/11/2013

Cristnogaeth a'r Gymraeg

Wrth ddathlu tranc crefydd yng Nghymru dros y ganrif ddiwethaf, mae rhywun yn aml yn cael ateb i'r perwyl bod gan y Gymraeg lawer o le i ddiolch i Gristnogaeth. Y ddadl yw y byddai'r iaith mewn lle llawer gwaeth heddiw oni bai am anghydffurfiaeth a diwylliant y capeli, sef, fwy neu lai, yr unig sefydliadau ffurfiol yng Nghymru lle roedd y Gymraeg yn gyfrwng naturiol. Cyn dyfodiad y system addysg Gymraeg, mae'n berffaith wir mai yn y capeli yr oedd y rhan fwyaf o Gymry'n dysgu defnyddio'u hiaith eu hunain yn hyderus, yn enwedig yn ysgrifenedig. Ni ddylid anghofio cyfraniad llawer o eglwyswyr chwaith: roedd cyfnod yn y ddeunawfed ganrif pan roedd Cymru ymysg y gwledydd mwyaf llythrennog yn Ewrop gyfan, diolch i Griffith Jones, Llanddowror.

Ond ai un ochr y stori'n unig yw hyn? Onid yw'n bosibl bod Cristnogaeth wedi niwieidio'r iaith mewn rhai ffyrdd? Tybed ai un sgil-effaith o ffyniant y Gymraeg yn y capel oedd arafu brys y Cymry i fynnu system addysg go iawn (a sefydliadau eraill) yn eu hiaith?

Rwyf wedi pendroni ynghylch hyn ers amser, ond ysgogwyd y cofnod hwn gan gyfrol Siôn Jobbins, The Phenomenon Of Welshness (rwyf newydd ddarllen hwnnw a bellach wedi dechrau'r ail. Difyr a phryfoclyd. Mae llawer iawn i gytuno ag ef, er nid popeth: byddai'n gas gennyf weld teulu brenhinol Cymreig, er enghraifft). Yn y gyntaf mae ganddo ysgrif am anghydffurfiaeth a diwygiad enwog 1904 sy'n mynegi'r ddadl yma: "Nonconformism created a ghettoised Welsh counter-culture, with its own institutions and networks". Â ymlaen:
Rather than saving the language, the Sunday school, however successful, acted as an educational ghetto, diverting energy from campaigning against the Welsh Not. For as long as nonconformity was the badge of Welsh identity, the British state could continue its strategy of creating compliant Welsh subjects. The Revival of 1904 was a shot in the arm for a religious cultural movement, which intellectually stonewalled the development of a civic, assertive Welsh-speaking identity. 1904 prolonged the frigid long Victorian age that did so much to weaken the Welsh language.
Rwy'n credu bod yma lawer o wirionedd. Efallai bod bodolaeth yr adeiladau hyn (i'w mynychu un dydd yr wythnos) wedi peri i'r Cymry laesu dwylo, ac wedi llesteirio eu huchelgais. Pa angen am sefydliadau cenedlaethol call, os oedd ganddynt y capel bach lleol? Mae modd dadlau bod degawdau gwerthfawr iawn wedi'u gwastraffu.

Mae'n amhosibl dweud i sicrwydd wrth gwrs; ni ellir ail-redeg tâp hanes. Dadl ofer fyddai ceisio pwyso a gwerthuso'r effeithiau cadarnhaol a negyddol ar yr iaith. Y pwynt am wn i yw nad yw'r darlun yn un syml. Wrth gwrs, hyd yn oed petai'n wir o hyd mai'r capeli yw cadarnle'r Gymraeg (a nid dyna'r sefyllfa, diolch byth), ni fyddai hynny'n reswm i gefnogi ac arddel casgliad o gredoau sydd wedi'u seilio ar ofergoeliaeth gyntefig.

16/07/2013

Ynghylch ymateb i ddeinosoriaid

Mae'n gallu bod yn anodd penderfynu sut i ymateb i erthyglau fel hyn. Yn y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Barn, mae Emlyn Evans wedi rhoi cynnig ar ail-agor dadl a roddwyd yn y gwely ddegawdau lawer yn ôl. I arbed y drafferth i chi, dyma grynodeb: "blah blah llenyddiaeth a moesoldeb yn dirywio, iaith aflan, merched sydd ar fai, CABLEDD, blah blah blah dylid sensro pob llyfr nad wyf i'n eu hoffi (sef y mwyafrif) blah blah". Cyn i chi feddwl fy mod yn bod yn annheg, mae Mr Evans wir yn chwerw o hyd ynghylch cyhoeddi Lady Chatterley's Lover yn 1960. Mae darllen yr ysgrif fel cerdded ym mherfeddion y jyngl yn rhywle a dod ar draws deinosor: roedd rhywun yn tybio bod y fath greaduriaid wedi hen farw allan.

Rwy'n siwr bod Barn yn deall hyn yn iawn ac mai ennyn ymatebion syn oedd yr amcan wrth ei chyhoeddi. Mae'n debyg bod hynny wedi gweithio, oherwydd dyma fi. Y broblem yw y byddai cael trafodaeth fawr gall a difrifol am y pethau yma'n gwneud i ni gyd edrych yn ddwl fel Cymry Cymraeg. Nid yw safbwyntiau mor druenus o hen-ffasiwn yn haeddu'r fath ymdriniaeth barchus. Ar y llaw arall, rwy'n ei chael yn anodd anwybyddu'r fath sylwadau: byddai gadael i ysgrif fel hon eistedd yn gyfforddus a di-her yn nhudalennau'r cylchgrawn hefyd yn gwneud i ni edrych yn od yn yr un modd. Yr ymateb callaf felly yw pwyntio a chwerthin.

Mae'r ffaith bod rhywun fel Mr Evans yn casáu llyfr yn reswm ardderchog i'w ddarllen. Mae gan Dewi Prysor "froliant" ardderchog i'w roi ar gefn ei gyfrol nesaf, o leiaf.

02/06/2013

Araith Iolo Williams

Dyma araith danbaid ac emosiynol gan y naturiaethwr Iolo Williams. Mae'n werth gwrando ar yr hyn sydd ganddo i'w ddweud am bolisïau amgylcheddol a chadwraethol, y gorffennol a'r presennol.


Mae'n anffodus iddo benderfynu siarad yn Saesneg am reswm mor wantan: rhag ofn iddo gael ei "gamddehongli". Mae hynny'n sarhaus iawn i'r cyfieithwyr, a dweud y lleiaf.  Er hynny, mae'r araith yn un bwysig. Mae'n siwr mai Iolo yw naturiaethwr amlycaf Cymru, ac os mai dyma sut y mae'n teimlo am yr hyn sy'n digwydd yn ein hardaloeddd gwledig, dylai pawb dalu sylw.

11/12/2012

Canlyniadau calonogol y Cyfrifiad

Na, nid rhoi cynnig ar ddehongliad rhyfedd ac optimistaidd o ystadegau Cyfrifiad 2011 ynghylch siaradwyr Cymraeg yw fy mwriad yma (gadawaf yr orchest ofer honno i Dafydd Elis-Thomas). Mae'r ffigurau yma'n wirioneddol ddigalon. Mae pobl eraill wedi gwneud sylwadau craff am y trychineb yna'n barod (Ifan, er enghraifft), ac nid oes gennyf lawer i'w ychwanegu.

Yn hytrach, hoffwn gyhoeddi fy llawenydd ynghylch ffigurau eraill a gyhoeddwyd heddiw: y rhai'n ymwneud â chrefydd (Anffyddiaeth yw enw'r blog yma wedi'r cyfan).

Mae'n debyg bod gostyngiad o 14.3% wedi bod yn y ganran sy'n galw'u hunain yn gristnogion yng Nghymru dros y degawd diwethaf, gan olygu bod y ffigwr o dan 60% erbyn hyn. Mae hyn yn fwy arwyddocaol o gofio nad credinwyr pybyr mo'r rhain o bell ffordd. Awgrymaf mai 'cristnogion mewn enw'n unig' yw llawer o'r bobl yma, sef pobl nad ydynt yn tywyllu addol-dy, na hyd yn oed yn meddwl rhyw lawer am fodolaeth duw heblaw am ar adegau pan mae rhywun yn gofyn iddynt. I nifer sylweddol o bobl, label ddiwylliannol yw cristnogaeth yn anad dim.

Am y rheswm yma, mae'n wirioneddol fendigedig bod 32% o Gymry bellach yn datgan yn agored nad ydynt yn arddel ffydd grefyddol. Un peth yw peidio ymarfer crefydd yn ymarferol, ond mae ateb holiadur gan gofleidio hynny'n gam arwyddocaol pellach.

Yn wir, Cymru yw'r rhan lleiaf crefyddol o Brydain. Rwy'n credu roedd hynny'n wir yn 2001 hefyd, ond mae'n destun balchder mawr i mi o hyd, serch hynny. Yn sicr mae'n newid byd o gymharu â chwta canrif yn ôl, pan roedd anghydffurfiaeth llethol yn teyrnasu ac roedd Cymru'n un o'r llefydd mwyaf crefyddol yng ngorllewin Ewrop.

Byddai'n ddifyr gweld a oes unrhyw berthynas yn bodoli rhwng ffydd grefyddol a'r gallu i siarad Cymraeg. Fy nhyb yw nad oes un sylweddol, ond byddai'n ddefnyddiol cael tystiolaeth. Beth bynnag y gwir am hynny, mae'r crebachu yn y ddau'n awgrymu nad yw bellach yn rhy ddoeth i garedigion y naill na'r llall alw'r Gymraeg yn 'iaith y nefoedd'.

19/11/2012

Hiliaeth amrwd ar S4C

Darlledwyd Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc ar S4C nos Sadwrn. Yn anffodus, er yr holl dalent a geir yn y cystadlaethau canu a barddoni ac ati, mae'n anodd gwadu mai'r hyn sy'n nodweddu'r Eisteddfod yma fwy na dim yw'r 'hiwmor' ofnadwy. Efallai mai hen-ffasiwn fyddai'r disgrifiad caredicaf.

Rydym wedi hen arfer â'r rhywiaeth plentynnaidd (dynion mewn bronnau plastig ac ati), ac fe gafwyd cryn dipyn o hynny eleni eto. Hyd y gwn, fodd bynnag, mae'r isod yn plymio dyfnderoedd newydd:


I grynhoi'r 'ddeuawd ddoniol' yma, cafwyd portreadau o ddau ddyn o China mewn bwyty takeaway sy'n gwenwyno'u cwsmeriaid cyn ffoi'r wlad pan ddaw eu visas i ben. Dyna hiliaeth ystrydebol o'r math mwyaf amrwd. Roedd eitemau gwarthus eraill hefyd, ond yr uchod oedd y gwaethaf.

Mae'n destun embaras bod y fath beth wedi'i ddarlledu'n fyw ar S4C ar nos Sadwrn. A bod yn onest, rwy'n sicr bod deunydd sgandal andwyol i'r sianel yma: petai un o bapurau newydd Lloegr yn sylwi a'n dewis adrodd yr hanes (mae llawer o ladd wedi bod ar S4C am resymau eraill yn ddiweddar, wedi'r cyfan), rwyf wir yn meddwl y gallai beryglu ei bodolaeth. Byddai'r fath stori'n fêl ar fysedd ei gelynion. Mae'n rhaid i'r sianel droedio'n ofalus, a hoffwn feddwl y byddai staff S4C wedi hepgor y darn yma petaent wedi gwybod amdano o flaen llaw. Ond tybed? Maent wedi tynnu'r rhaglen oddi ar Clic am y tro, o leiaf.

Beth bynnag am hynny, dylai'r ffaith i'r eitem uchod ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth fod yn destun dychryn. Nid eithriad ymylol i bellhau oddi wrtho mo hyn, yn amlwg, eithr yr union fath o beth a glodforir o fewn y diwylliant yma. Mae rhywbeth mawr yn bod.

Trafodwyd yr helynt ar raglen Taro'r Post ar Radio Cymru heddiw (gallwch wrando ar y rhaglen am yr wythnos nesaf). Siaradodd Cris Dafis a Malan Wilkinson yn gall iawn. Yn anffodus, roedd yn ddigalon clywed cymaint o negeseuon yn cefnogi'r eitemau a'n dweud bod angen i Cris a Malan "get a life". Roedd llawer yn methu'r pwynt yn llwyr gan bwysleisio na fwriadwyd unrhyw falais o gwbl, fel petai hynny'n berthnasol. Fel y dywed Cris, nid oes angen i hiliaeth ddiferu â chasineb. Y ddadl amddiffynnol amlycaf oedd mai 'bach o hwyl' ydoedd, fel petai'n amhosibl dweud pethau hiliol trwy'r fath gyfrwng.

Ambell dro, bydd y cyfraniadau a geir ar raglenni fel Taro'r Post yn awgrymu bod yna elfen gref adweithiol a chul yn llechu yn y Fro Gymraeg wledig o hyd. Er cymaint yr hoffem dybio bod dadleuon fel hyn wedi'u hennill rhyw dro tua diwedd yr 1970au, mae'n amlwg bod llawer iawn o Gymry ar ei hôl hi'n ddifrifol. Os yw honni'r fath beth yn fy ngwneud yn snob elitaidd, yna rwy'n ymfalchïo'n y label. Os mai lol fel hyn yw adloniant traddodiadol Cymraeg, brysied ei dranc.

Mae llawer wedi ceisio gwneud cymhariaethau â rhaglenni fel Little Britain. Fel y dywed Cris eto, fodd bynnag, ac fel mae teitl y gyfres yn ei awgrymu, rhagfarn ei hun yw targed y dychan yn y rhaglen honno. Fel mae'n digwydd, nid wyf yn credu ei bod yn llwyddiannus bob tro yn hynny o beth, ond mater arall yw hynny. Nid wyf wedi gweld unrhyw un yn ceisio honni mai'r hyn yw sgets uchod y ffermwyr ifanc o Ddyffryn Cothi yw meta-gomedi eironig hynod ddeallus a chynnil sy'n gwneud hwyl o'r ystrydebau hiliol eu hunain. Byddai'n amhosibl cymryd y fath berson o ddifrif, mae gennyf ofn.

Mae yna lawer iawn mwy i'w ddweud am hyn, ac fel mae'n digwydd rwyf wedi ystyried ysgrifennu am y berthynas rhwng eironi a chomedi (yn achos digrifwyr fel Jimmy Carr neu Frankie Boyle, er enghraifft) ers talwm. Bydd yr helynt yma'n ysgogiad i fynd ati'n fuan (rhagflas: weithiau mae pledio eironi'n rhoi'r gorau i argyhoeddi. Rwy'n credu bellach bod gan Carr broblem gwirioneddol â merched, a bod llawer o stand-up cyfoes yn adweithiol).

Ta waeth. Gan fod y blog hwn wedi meithrin cryn ddiddordeb ym mater rhyddid mynegiant, hoffwn fodloni'r cais yma:
Ni ddylid gwahardd unrhyw beth fan hyn. Mawr obeithiaf nad oes unrhyw un wedi camddeall, ond hoffwn wneud fy hun yn berffaith glir beth bynnag: dylai fod gan bawb yr hawl i wisgo i fyny fel caricatures ystrydebol a gwneud jôcs dwl a hynny heb ymyrraeth gan unrhyw un.

Mae dau gamargraff ynghylch rhyddid mynegiant sy'n fy ngwylltio. Rwyf wedi trafod un ar y blog hyd syrffed: nid ystyr rhyddid mynegiant yw'r hawl i beidio cael eich beirniadu. Rhywbeth arall nad yw rhyddid mynegiant yw'r hawl i ddisgwyl bod pobl eraill yn darparu'ch platfform. Nid yw rhyddid mynegiant yn golygu bod rhaid i S4C eich darlledu'n fyw ar nosweithiau Sadwrn. Os yw'r CFfI eisiau parhau i lwyfannu pethau fel hyn, ni ddylai unrhyw un eu rhwystro. Ond byddai'n ddoeth i S4C sicrhau nad oes ganddi gamera'n agos i'r lle. Nid oes unrhyw un wedi cwyno wrth yr heddlu am yr hyn a welwyd nos Sadwrn, hyd y gwn, ac mae hynny'n beth da. Mae rhyddid mynegiant pawb yn saff a chyfan yn yr achos yma, o leiaf. Awgrymaf bod ein sianel cenedlaethol yn cymryd mwy o ofal yn y dyfodol, dyna i gyd.

20/06/2012

Tranc y Queen's English Society

Fe ddaeth y Queen's English Society i ben ddechrau'r mis, wedi 40 mlynedd o gwyno am safon Saesneg pawb ond hwy eu hunain (gan gynnwys Mrs Windsor ei hun, er gwaethaf enw'r gymdeithas). Gwynt teg ar ôl y 'ceidwaid' iaith hunan-apwyntiedig, hunan-gyfiawn a rhagrithiol. Rwyf wedi credu erioed ei bod yn hurt bod grwpiau fel hyn yn cael cymaint o sylw'n y wasg.

Efallai nad yw hynny'n syndod a dweud y gwir, gan fod puryddiaeth iaith yn aml yn bwnc sy'n cynhyrfu llawer o bobl o ddwy ochr y ddadl. Mae hynny wrth reswm yn ei wneud yn atyniadol iawn i gynhyrchwyr a golygyddion papurau newydd. Gwelwn yr un peth yn achos y Gymraeg hefyd: mae Taro'r Post ar Radio Cymru'n gwybod yn iawn bod pwnc cywirdeb iaith yn un defnyddiol i'w gadw'n y cwpwrdd rhag ofn nad oes unrhyw beth gwerth ei drafod wedi digwydd yn y byd, a bod hwnnw'n sicr o ennyn ymateb ffyrning bob tro.

Bydd unrhyw un sydd wedi darllen rhai o ddatganiadau'r QES wedi sylwi un peth syfrdanol, sef bod safon eu hysgrifennu'n wirioneddol erchyll. Fe welwch bod bron pob brawddeg o eiddo'r gymdeithas yn torri o leiaf un rheol iaith y maent yn honni eu bod yn ei choleddu a'i mawrygu gymaint. Fe ddywed hynny gryn dipyn am y math o berson sy'n tueddu i fod yn weithgar mewn cymdeithasau o'r fath, am wn i. Mae'n werth darllen yr hyn sydd gan David Crystal o Brifysgol Bangor i'w ddweud am hyn, a Language Log hefyd.

06/09/2011

Homoffobia, Cymraegoffobia, a safonau dwbl

Cafwyd sylwadau craff gan Simon Brooks yn Golwg360 heddiw ynglyn ag ymateb Chris Bryant AS i ymateb rhai Cymry i ysgrif warthus Roger "Coc Oen" Lewis (llond ceg o frawddeg, ond dyna ni). Mae'n werth dyfynnu'n helaeth:
“Rydw i’n edmygu’r gwaith y mae’n ei wneud wrth wrthwynebu homoffobia,” meddai Simon Brooks wrth Golwg360.

“Beth bynnag mae rhywun yn ei feddwl am y dyn, mae’n rhaid edmygu hynny, ac mae’r ffordd y mae wedi cael ei drin gan y wasg dabloid yn gywilyddus.

“Mae Chris Bryant yn cymryd troseddau casineb yn ymwneud a homoffobia o ddifrif ac yn barod i fynd at yr heddlu, sy’n hollol gywir wrth gwrs.

“Ond beth sy’n fy ngwylltio i yw, pan gododd y mater yma am ‘iaith mwnci’, fe fu’n ddi-hid iawn wrth ymateb i hynny yn yr Independent gan ddweud mai’r cwbl y dylai’r Cymry ei wneud yw chwerthin am y peth.

“Dydw i ddim yn meddwl bod rhywun yn gallu dewis a dethol o ran yr agenda cydraddoldeb. Dw i’n meddwl bod cydraddoldeb yn gweithio’n well pan ydych chi’n derbyn bod rhai pethau’n perthyn i bawb, boed yn rhywioldeb, anabledd, iaith, neu hil.

“Mae’n fy nharo i’n od fod dyn sydd yn amddiffyn un set o hawliau yn chwyrn yn gwneud hwyl ar ben pobl sy’n ymgyrchu mewn maes arall.

“Beth sy’n drist yw ei fod yn gwybod yn iawn sut beth yw cael y wasg yn ymgyrchu yn erbyn ei leiafrif, am mai dyna yw ei brofiad ef a phrofiad y gymuned hoyw dros y blynyddoedd.

“Yna mae’n dymuno i grŵp lleiafrifol arall drin yr un peth fel jôc. Mae wedi fy ngwylltio. Dw i’n gweld y dyn yn ofnadwy o anghyson fel yna.”
Fel mae'n digwydd, fe anghytunais â Dr Brooks y dylid cwyno wrth yr heddlu am ysgrifau o'r fath. Ond mae'n gwneud pwynt pwysig fan hyn, sef beth bynnag eich ymateb i ragfarnau a chasineb noeth mewn print mae angen bod yn gyson.

Fe gyhoeddodd papur newydd Prydeinig, sydd â chylchrediad o 2,000,000, sylwadau'n galw'r Gymraeg yn "appalling and moribund monkey language" (yn ogystal â gwallau ffeithiol anwybodus di-rif). Nid oes cwestiwn o gwbl yn y byd bod sylwadau Lewis yn hiliol; fel mae blogmenai yn ei ddweud mae gan Saeson hiliol draddodiad o ddilorni'u cymdogion "Celtaidd" fel mwncïod). Ond yn ôl Mr Bryant AS, ni ddylid cymryd sylwadau fel hyn o ddifri:
Roger Lewis's piece is fatuous nonsense, but the last thing people want is a moaning version of Welsh nationalism. Wales is at its best when it is triumphantly insouciant about the criticism of others."
Insouciant!

Wel, ok. Mae modd dadlau'n ddigon rhesymol mai dyna'r ymateb doethaf, ac rwy'n cytuno na ddylai Jonathan Edwards AS fod wedi cwyno wrth yr heddlu. Ond mae Mr Bryant yn bod yn anghyson, oherwydd mae ganddo record o beidio dilyn cyngor ei hun pan ddaw'n fater o sylwadau homoffobig. Er enghraifft, pan alwodd George Osborne ef yn "pantomime dame" yn Nhy'r Cyffredin, fe ymatebodd yn flin a swnllyd gan fynnu ymddiheuriad. Nid insouciance mo hynny.

Mae ymateb Mr Bryant ei hun i sylwadau Dr Brooks yn rhyfedd. Chwifio dwylo ydynt mewn gwirionedd, gan nad ydynt yn ateb y cwestiwn o gwbl. Gan ei ddyfynnu o erthygl Golwg360:
“Dwli gwirion oedd darn Roger Lewis, oedd yn llawn o wallau ffeithiol a bron iawn yn fwriadol sarhaus,” meddai Chris Bryant wrth Golwg 360.

“Mae erthyglau yn y Daily Mail yn aml yn cynnwys yr holl elfennau rheini.

“Y perygl â ymateb Jonathan Edwards yn fy marn i oedd ei fod yn rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i erthygl dwp fyddai’n well ei hanwybyddu.

“Ar y llaw arall, mae homoffobia yn lladd. Mae dynion hoyw ifanc chwe gwaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad, ac mae bwlio homoffobaidd yn gyffredin mewn nifer o ysgolion.
"Dwli gwirion" oedd sylwadau Mr Osborne hefyd, felly beth yw'r gwahaniaeth? Rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i sylwadau twp wnaeth Mr Bryant yn yr achos hwnnw hefyd, felly unwaith eto, beth yw'r gwahaniaeth? Ac fel mae blogmenai yn ei ddweud, mae Mr Bryant yn defnyddio seiliau rhesymegol sigledig iawn os mai'r tebygolrwydd o hunanladdiad yw'r metrig y dylid ei ddefnyddio er mwyn barnu sut i ymateb i sylwadau fel hyn.

Yn sicr, trwy gymryd y ddau achos penodol a gyfeirir atynt fan hyn, sef rhai Mr Lewis am y Gymraeg ar y naill law a rhai Mr Osborne ar y llaw arall, anodd anghytuno mai rhai Mr Lewis yw'r rhai mwyaf difrifol o beth tipyn.

O ran egwyddor, mae rhagfarn gwrth-Gymraeg yn yr un cwch â hiliaeth (ac fel y dywedais, mae Mr Lewis yn hiliol), homoffobia a misogynistiaeth. Mae datgan hyn yn gallu arwain at ymatebion dwl yn ein cyhuddo, er enghraifft, o geisio cymharu ymgyrchwyr iaith â Martin Luther King. Yn amlwg, nid dyna'r pwynt a wneir. Yr egwyddor sy'n bwysig; gellid dadlau hyd syrffed am raddfa a difrifoldeb y rhagfarn ym mhob achos, ond mae hynny'n amherthnasol. Mae'r dadleuon yn erbyn y gwahanol ragfarnau yn debyg ym mhob un, a rhan o'r un peth yw'r frwydr yn eu herbyn i gyd.

Mae gan y Chwith Brydeinig yn enwedig draddodiad o fethu deall hyn, yn sicr lle mae'r Gymraeg o dan sylw. Yr enghraifft gorau o hyn, o bosib, yw Leo Abse: arwr gwirioneddol yn y frwydr dros hawliau a chyfartaledd i hoywon (ac yn yr ymgyrch i gyfreithloni ysgariad), ond twat llwyr lle roedd y Gymraeg yn y cwestiwn. Nid wy'n dweud bod barn Mr Bryant am y Gymraeg mor wenwynig â rhai Abse gynt, ond mae'n syrthio i mewn i drap digon tebyg.

Mae rhesymeg a thystiolaeth yn hanfodol. Symptom amlwg o ddiffyg yr elfennau yma yw anghysondeb fel yr uchod. Fel mae'n digwydd, roedd Chris Bryant yn arfer bod yn weinidog yn Eglwys Lloegr. Ond rwy'n siwr mai cyd-ddigwyddiad yw hynny!

22/08/2011

Sut i beidio ymateb i erthyglau rhagfarnllyd gwrth-Gymraeg

Gair hwyr arall mae gen i ofn, gan fy mod wedi bod i ffwrdd am gyfnod. Fe gofiwch mae'n siwr i'r we Gymraeg ffrwydro mewn braw wythnos diwethaf ar ôl i'r Daily Mail gyhoeddi adolygiad gwenwynig o eiddo pric o'r enw Roger Lewis. Wrth feirniadu llyfr Jasper Rees - Bred Of Heaven - sy'n trafod ymdrechion hwnnw i ddod yn Gymro Cymraeg (yn ôl yr hyn a ddeallaf), mae Mr Lewis yn dweud pethau hynod anghynnes, rhagfarnllyd ac anwybodus am yr iaith a'i siaradwyr. Dyma flas:
I abhor the appalling and moribund monkey language myself, which hasn’t had a new noun since the Middle Ages — hence pwdin is pudding, snwcer is snooker, tacsi is taxi and bocsio is boxing.
Fel y dywedais, roeddwn ar fy ngwyliau ar y pryd ond fe sylwais ar hyn i gyd trwy gyfrwng fy ffôn symudol clyfar. Penderfynais y byddaf yn ysgrifennu mymryn am y peth ar ôl dod adref. Dyma eistedd lawr i'r perwyl hwnnw felly a sylwi bod Huw Prys Jones eisoes wedi dweud llawer o'r hyn oedd gen i mewn golwg mewn ysgrif craff ar Golwg 360.

Nid oes dwywaith bod yr adolygiad yn un hyll, a dylid ei gondemnio'n swnllyd a digyfaddawd. Nid oeddwn wedi clywed am Roger Lewis erioed o'r blaen (fe gymerodd eiliad neu ddwy cyn i mi sylweddoli mai Roger Lewis gwahanol oedd hwn, nid prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru), ac nid wyf wedi ffwdanu ei ymchwilio ymhellach, ond rwy'n ddigon cyfforddus yn seilio barn gynhwysfawr am y dyn ar sail yr un ysgrif yna ganddo. Sef ei fod yn goc oen afiach a thwp. Mae fwy neu lai'r cyfan o'r ymateb yn cytuno â mi, ac mae hynny'n dda ac iach.

Ond fel mae Huw Prys Jones yn ei ddweud, mae rhai wedi mynd yn rhy bell. Er enghraifft, mae aelod seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, wedi cwyno wrth yr Ysgrifennydd Cartref a Chomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu. Does gen i ddim syniad beth yn union y mae'n disgwyl i Theresa May ei wneud am y peth. Ac a bod yn onest, mae meddwl am yr heddlu'n ymyrryd yn y mater yn gwbl wrthun i mi. Mae rhyddid barn yn egwyddor cwbl hanfodol yn fy marn i, dim ots pa mor wrthun y (rhag)farn honno. Mae Simon Brooks yn gwneud y sylw ar waelod yr erthygl Golwg 360 bod gelynion y Gymraeg yn gwneud defnydd o'r prosesau cwynion yma er mwyn ymosod ar ymgyrchwyr iaith. Mae hynny'n wir ac mae'r pwynt yn un teilwng, ond awgrymaf y dylem godi uwchlaw tactegau o'r fath. Hwyrach bod hyn yn idealistig ar fy rhan i, ond fel rwy'n pwysleisio hyd syrffed ar y blog yma, mae'r syniad o ddefnyddio grym y wladwriaeth er mwyn rhwystro pobl rhag mynegi barn yn un rwy'n ei ystyried yn afiach.

Go brin y daw unrhyw beth o unrhyw ymchwiliad gan yr heddlu, ond yn ogystal â bod yn wrthun mae cwynion o'r fath yn gwneud i ni gyd edrych braidd yn hysteraidd. Dylid diystyru ceisio sensro pobl fel Mr Lewis fel ymateb synhwyrol felly. Mewn gwirionedd, tair dewis sydd gennym pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd: condemnio, yn flin a'n swnllyd; anwybyddu'r holl beth a pheidio rhoi ocsygen cyhoeddusrwydd i'r fath erthyglau; gwneud hwyl am ben y diawliaid dwl. Mae i bob un o'r opsiynau yma eu rhinweddau a'u ffaeleddau gwahanol, ac ni fanylaf ymhellach am hynny.

Hoffwn ddweud bod yna rai gwrth-ddadleuon penodol y dylid eu hosgoi'n gyfan gwbl, fodd bynnag. Bob tro y mae rhyw ffwl gwrth-Gymraeg yn dod i'r fei, ymateb llawer yw'r hen gliché hwnnw mai'r Gymraeg yw un o "ieithoedd hynaf Ewrop". Mae hwnna'n mynd ar fy nerfau'n llwyr. Nid yn unig y mae'n amherthnasol ond mae'n gwbl ddi-synnwyr a'n arddangos anwybodaeth lwyr am ieithyddiaeth. Ni welaf i sut mae awgrymu bod yr iaith Gymraeg wedi aros yn ei hunfan am amser hirach nag unrhyw iaith arall i fod i gefnogi'r ddadl drosti, hyd yn oed petai'r fath honiad yn wir yn y lle cyntaf. Mae pob iaith yn esblygu drwy'r amser, a chwbl oddrychol ac artiffisial yw'r ffiniau dychmygol hynny rhwng y Frythoneg, Hen Gymraeg a dyfodiad yr iaith a adwaenir heddiw fel "Cymraeg". Mae fel brolio bod eich teulu'n hŷn na theulu rhywun arall.

Yn ogystal, o bryd i'w gilydd fe gewch rhywun yn dadlau bod y Gymraeg ymysg ieithoedd harddaf y byd neu rhyw lol tebyg. Prin bod angen dweud bod hynny'n gwbl oddrychol. Mae pob iaith yn werthfawr a swynol yn ei ffordd ei hun. Hyd yn oed y Saesneg.

Annwyl garedigion y Gymraeg: osgowch y dadleuon yma, os gwelwch yn dda!

Yr hyn sydd yn amlygu'i hun yn ddi-eithriad yn achos ffyliaid fel Roger Lewis yw eu hanwybodaeth am eu hiaith eu hunain. Maent yn hoff iawn o wneud hwyl o eiriau Cymraeg fel "tacsi". Mae hynny'n arddangos diffyg hunan-ymwybyddiaeth chwerthinllyd, oherwydd wrth gwrs yr iaith Saesneg yw'r mwngrel pennaf un. Dydyn nhw wir heb ystyried mai geiriau yn deillio o'r un tarddiad Groegeg yw "tacsi" a "taxi" fel ei gilydd. Iddyn nhw, mae'r benthyciad Saesneg yn normal a'r un Cymraeg yn rhyfedd; yn wir, mae'n debygol nad yw'r posibilrwydd mai gair benthyg yw "taxi" wedi croesi eu meddyliau o gwbl. Fel mae'n digwydd, nid oes unrhyw dystiolaeth bod George Bush erioed wedi dweud "the problem with the French is that they don't have a word for entrepreneur", ond cyfeiriaf at y ffug-ddyfyniad hwnnw yma oherwydd mae'r un mor ddoniol a dwl â'r hyn y mae Mr Lewis wedi ei ddweud go iawn.
As Kingsley Amis, who lived in Swansea for many years, once said, can it be true that there are Welshmen who are genuinely puzzled by the letter x? Incidentally, pys is not what you’d think. It’s peas.
Druan ar Mr Lewis, a Kingsley Amis gynt, yn methu'n lân a deall bod ieithoedd gwahanol yn...wahanol. Digri dychmygu'r penbleth ar wyneb Mr Lewis pe byddech yn ceisio esbonio wrtho (gyda chymorth crayons, os oes angen) y byddai modd i Almaenwr ystyried siaradwyr Saesneg yr un mor od am fethu â deall y llythyren ß. Ac mae'n siwr mai ofer fyddai ceisio egluro bod "pys", "peas" a "pois" (Ffrangeg) i gyd yn deillio o'r Roegeg "pison" via'r Lladin "pisum". Fel mae blogmenai yn ei ddweud:
Yn ôl astudiaeth gan Thomas Finkenstaedt and Dieter Wolff (1973) mae 28.3% o eiriau Saesneg yn dod o'r Ffrangeg, 28.2% o'r Lladin, 25% o amrywiaeth o ieithoedd Germanaidd (gan gynnwys Hen Saesneg), 5% o'r Groegaidd, 4% o gefndir ansicr, 3% o enwau priod a 1% o ieithoedd eraill.
Felly yn hytrach na rhamantu'n wirion am "hynafiaeth" neu brydferthwch ein hiaith, beth sydd angen ei bwysleisio yw pa mor dwp ac anwybodus yw'r deinosoriaid yma. Trwy ddangos cyn waethed eu dealltwriaeth o'u hiaith eu hunain, amlygir cyn lleied o hygrededd sydd ganddynt pan ddaw'n fater o draethu am ieithoedd eraill.