Fe ddaeth y Queen's English Society i ben ddechrau'r mis, wedi 40 mlynedd o gwyno am safon Saesneg pawb ond hwy eu hunain (gan gynnwys Mrs Windsor ei hun, er gwaethaf enw'r gymdeithas). Gwynt teg ar ôl y 'ceidwaid' iaith hunan-apwyntiedig, hunan-gyfiawn a rhagrithiol.
Rwyf wedi credu erioed ei bod yn hurt bod grwpiau fel hyn yn cael cymaint o sylw'n y wasg.
Efallai nad yw hynny'n syndod a dweud y gwir, gan fod puryddiaeth iaith yn aml yn bwnc sy'n cynhyrfu llawer o bobl o ddwy ochr y ddadl. Mae hynny wrth reswm yn ei wneud yn atyniadol iawn i gynhyrchwyr a golygyddion papurau newydd. Gwelwn yr un peth yn achos y Gymraeg hefyd: mae Taro'r Post ar Radio Cymru'n gwybod yn iawn bod pwnc cywirdeb iaith yn un defnyddiol i'w gadw'n y cwpwrdd rhag ofn nad oes unrhyw beth gwerth ei drafod wedi digwydd yn y byd, a bod hwnnw'n sicr o ennyn ymateb ffyrning bob tro.
Bydd unrhyw un sydd wedi darllen rhai o ddatganiadau'r QES wedi sylwi un peth syfrdanol, sef bod safon eu hysgrifennu'n wirioneddol erchyll. Fe welwch bod bron pob brawddeg o eiddo'r gymdeithas yn torri o leiaf un rheol iaith y maent yn honni eu bod yn ei choleddu a'i mawrygu gymaint. Fe ddywed hynny gryn dipyn am y math o berson sy'n tueddu i fod yn weithgar mewn cymdeithasau o'r fath, am wn i. Mae'n werth darllen yr hyn sydd gan David Crystal o Brifysgol Bangor i'w ddweud am hyn, a Language Log hefyd.
No comments:
Post a Comment