Mae'n anodd dychmygu eitem deledu llai apelgar na Piers Morgan yn dadlau gyda Nigel Farage am sylwadau ffiaidd gan Ann Widdecombe. Pwy ddychmygodd y byddai'r canlyniad mor affwysol o dwp?
Mae gan Widdecombe hen hanes o ddweud pethau hyll am gyfunrywioldeb. Yn ddiweddar, fe ategodd y syniad y bydd modd i wyddoniaeth 'wella' hoywon. Daeth Farage i'w hamddiffyn, ar y sail 'that devout Christians should be allowed to have their opinion'.
Wrth gwrs, nid yw'r ateb yna'n amddiffyniad o fath yn y byd. Mae'n ddi-sylwedd a phathetig am nifer o resymau. Yn un peth, os mai'r peth gorau y mae modd ei ddweud am sylwadau Widdecombe yw nad yw'n anghyfreithlon iddi eu dweud, dyna gliw eithaf amlwg nad oes amddiffyniad call ar gael.
Boed oherwydd ei fod yn anonest neu'n ddwl, neu gyfuniad o'r ddau, mae Farage yn ceisio dadlau mai ystyr rhyddid mynegiant yw cael dweud pethau hurt a hyll heb i unrhyw un arall gael herio'n ôl. Yn hytrach, holl bwynt rhyddid mynegiant yw bod sylwadau atgas yn ennyn gwawd pawb arall. Yn yr un modd, nid goddefgarwch yw goddef anoddefgarwch.
Syniad dwl arall fan hyn yw bod dweud pethau rhagfarnllyd yn dderbyniol cyn belled bod y siaradwr wir yn eu credu ag arddeliad, yn enwedig os ydynt wedi'u seilio ar ffydd grefyddol. O, mae hi'n daer a diffuant wrth fynnu bod rhywbeth yn bod ar hoywon? Wel dyna ni, popeth yn iawn felly! Nid yw'n hawdd canfod y geiriau i fynegi pa mor blentynnaidd yw'r ffordd yma o feddwl. Yn yr un modd, os oes miliynau o babyddion yn credu'r hyn y mae Widdecombe yn ei gredu, nid yw hynny'n gwneud y safbwynt yn dderbyniol. Mae'n golygu bod y miliynau hynny i gyd yn rhagfarnllyd hefyd. Ni ddylai hyn fod yn anodd.
Showing posts with label rhagfarn. Show all posts

05/06/2019
29/01/2019
Amddiffyn yr eglwys babyddol, am unwaith
Yr wythnos ddiwethaf, gollyngwyd yr argymhelliad y dylid cymryd seibiant o saith diwrnod wrth gymryd y bilsen atgenedlu. Pan welais i erthyglau'n esbonio mai tarddiad y cyngor oedd ymgais i gyfaddawdu â'r Pab, roeddwn i'n wirioneddol gegrwth.
Ond, er mor hoff yr wyf o ladd ar yr eglwys babyddol (y cartel gwarchod paedoffeiliaid gwaethaf a welodd y byd erioed), ac er ei bod yn wir bod un o brif ddatblygwyr y bilsen wedi ceisio'i chyfiawnhau i'r Pab ar sail y saib saith diwrnod, mae'n debyg bod mwy i'r stori na hynny a bod sail feddygol (er cyfeiliornus) i'r cyngor gwreiddiol. Byddai wir wedi bod yn sgandal anghredadwy petai'r fath gyngor yn ddim mwy nag ymgais ofer i blesio Pïws XII, yn enwedig gan nad oes yr un pab yn ystod y 60 blynedd canlynol wedi dod yn agos at gymeradwyo'i defnydd.
Efallai bod beio Pab o'r 1950au yn fodd o osgoi cwestiynu'r gwir reswm am barhau â chyngor mor anghywir mor hir. Fel y dywed Alice Howarth, ni fyddai hyn wedi digwydd petai'n effeithio ar ddynion:

Studies have shown repeatedly that our medical system has an inherent bias against women. Women presenting with pain are more frequently given sedatives than painkillers, where men are given painkillers. Women with coronary heart disease have delayed treatment compared with men. And people even rate the perceived pain of a paediatric patient differently, depending on whether they are told the patient is male or female.
We now have another clear example to add to the pile: women are exposed to unnecessary, inconvenient, uncomfortable and potentially damaging monthly bleeds for no reason other than that nobody thought to question whether those bleeds were necessaryEr ei bod yn wir bod agwedd yr eglwys babyddol tuag at fenywod yn echrydus, ac mae'n ddyletswydd ar bawb i'w beirniadu'n flin am hynny, mae'n bwysig ein bod yn sylweddoli bod rhagfarn yn erbyn menywod wedi ymdreiddio i'r meysydd mwyaf seciwlar yn ogystal. Mae lladd ar y Pab yn hawdd (ac, fel arfer, yn gyfiawn); llawer anos yw craffu ar ein rhagfarnau ein hunain.
22/04/2018
Ynghylch rhagfarn wrth-Gymraeg
Mae Rod Liddle yn ddyn diflas a dwl a diog, gyda record hir o sarhau siaradwyr Cymraeg a sawl grŵp arall. Bu wrthi eto'n ddiweddar, a bu'r ymateb, yn naturiol, yn ffyrnig.
Pob tro mae rhywbeth fel hyn yn digwydd, mae dadl ynghylch y ffordd orau i ni ymateb. Mae dau brif ddewis, sef gwylltio'n gacwn a chreu stwr, neu ei anwybyddu. Mae rhinweddau i'r ddau opsiwn. Shock jocks yw pobl fel Liddle, sy'n dweud pethau ymfflamychol er mwyn denu sylw, felly gellir dadlau mai gwireddu'u dymuniadau yw rhoi ocsygen cyhoeddusrwydd iddynt. Ar y llaw arall, mae anwybyddu'r sylwadau'n creu'r argraff nad oes gwrthwynebiad i'r fath agweddau, ac mae perygl i hynny'u normaleiddio'n dawel.
Anwybyddu sydd orau yn achos pobl di-nod ar Twitter, efallai; os mai dim ond dwsin o ddilynwyr sydd ganddynt, mae rhoi sylw iddynt bron yn sicr o fod yn wrth-gynhyrchiol. Bwriad fy nghyfrif Take That, Welsh, wrth ail-drydar pobl sy'n gwneud sylwadau dwl a jôcs blinedig am y Gymraeg, yw rhoi proc bach i'w hysbysu nad ydynt yn agos at fod mor wreiddiol a beiddgar ag y maent yn tybio. Ond ar y cyfan, rwy'n credu dylid osgoi pile-ons yn yr achosion hynny.
Mae'n wahanol pan mae'r siaradwr yn sylwebydd adnabyddus gyda phlatfform mawr. Mewn achosion fel hynny, mae ymateb gyda pile-on blin yn strategaeth synhwyrol. Mae'n bwysig sicrhau bod darllenwyr sy'n anghyfarwydd â 'dadl' yr iaith yn gweld bod sylwadau fel rhai Liddle yn anghywir. Mae darbwyllo'r Sunday Times a'r Spectator, neu Liddle ei hun, bod dweud pethau twp am yr iaith Gymraeg yn fwy o drafferth nag o werth yn nod rhesymol iawn, a'n enghraifft o siaradwyr Cymraeg yn ymateb i ryddid mynegiant Liddle a'i gyhoeddwyr gyda'u rhyddid mynegiant eu hunain.
Dywed Liddle: 'And yet as a result of this little spat I will now feel it incumbent to make a joke about Wales in every column I write, which might get boring for the readers'. Dylem 'alw'r blyff' fan hyn, a pharhau i ymateb. Mae Liddle yn gywir i ddweud y byddai hyn yn troi'n ddiflas yn fuan iawn i'r darllenwyr, ac felly i'w gyhoeddwyr. Mae gan garedigion yr iaith Gymraeg fwy o stamina yn hyn o beth; os mai mater o fynd yn ôl ac ymlaen nes bod un ochr yn cael llond bol yw hyn am fod, yna dim ond un enillydd fydd.
Eto i gyd, mae yna rai pethau dylai amddiffynwyr yr iaith beidio'u gwneud yn ystod helyntion o'r math hwn. Fel rwyf wedi'i ddweud ar ôl achos tebyg rai blynyddoedd yn ôl, mynd at yr heddlu yw un. Mae'n ddigon syrffedus pan mae shock jocks fel Liddle yn ymateb i feirniadaeth trwy swnian am eu rhyddid mynegiant. Ond mae ceisio defnyddio grym y wladwriaeth i gau eu cegau yn sensoriaeth. Dylem osgoi galluogi'r bobl yma i ferthyru'u hunain ar allor rhyddid mynegiant, oherwydd dyna'n union maent yn gobeithio amdano.
Rheswm ymarferol a phwysig arall i beidio ag annog y wladwriaeth i ddyfarnu pa safbwyntiau i'w caniatáu a pha rhai i'w gwahardd yw bod deddfu o'r fath yn anochel, yn hwyr neu'n hwyrach, o gael eu defnyddio'n erbyn carfannau llai grymus. Hyd yn oed os mai gwarchod lleiafrifoedd rhag y mwyafrif yw'r bwriad wrth eu cyflwyno, mae hanes hir o rymoedd o'r fath yn gweithredu i'r cyfeiriad arall. Mae grwpiau lleiafrifol yn ddrwgdybus o'r wladwriaeth am reswm; pam felly ymddiried yn y wladwriaeth i ddefnyddio'r fath bŵer yn y modd 'cywir'?
Ymateb arall y mae'n hen hen bryd i amddiffynwyr y Gymraeg roi'r gorau iddi yw honni mai sarhau'r Gymraeg yw'r 'rhagfarn dderbyniol olaf'. Mae Liddle ei hun yn dangos yn glir nad yw hynny'n agos at fod yn wir, gan ei fod wedi bod yn dweud pethau hiliol a misogynistaidd yn nhudalennau rhai o bapurau newydd a chylchgronnau mwyaf adnabyddus y Deyrnas Gyfunol ers degawdau. Nid oes angen 'dychmygu petai wedi dweud hyn am grŵp x', oherwydd mae'n gwneud hynny bron yn wythnosol. Dim ond chwilio Google yn sydyn sydd ei angen er mwyn gweld bod pob grŵp o dan haul yn honni mai hwy yw targed y 'rhagfarn dderbyniol olaf'.
I fod yn glir, mae'n deg, i raddau, bod carfannau penodol yn canolbwyntio'n bennaf ar y rhagfarn sy'n eu hwynebu'n uniongyrchol, gan mai dyna'r math maent fwyaf cyfarwydd ag ef. Ond mae honni bod rhagfarn wrth-Gymraeg yn 'dderbyniol' mewn modd nad yw'n wir am ragfarnau eraill yn gwneud i ni edrych yn wirion, a'n rhoi hygrededd i'r ystrydeb ein bod yn fewnblyg. Un peth yw canolbwyntio ar yr hyn sy'n effeithio arnom yn uniongyrchol, ond peth arall yw anwybyddu'n llwyr y rhagfarn nad yw'n effeithio arnom. Nid oes gennym hawl i ddisgwyl i leiafrifoedd eraill a'u cefnogwyr gyd-sefyll â ni os ydym am fod mor ddi-hid ynghylch rhagfarn yn eu herbyn hwythau.
Ni ddylai fod angen cyfleu'r syniad bod rhagfarn wrth-Gymraeg yn arbennig neu'n unigryw mewn rhyw ffordd er mwyn ei gwrthwynebu. Mae'r traddodiad o hiliaeth yn erbyn pobl â chroen tywyll yn waeth nag unrhyw beth mae siaradwyr Cymraeg croenwyn wedi'i wynebu erioed, ac nid yw cydnabod hynny'n niweidio'n hachos o gwbl gan fod y ddau beth yn wrthun. Un enghraifft arall ymysg llu o ragfarnau diog yw lol gwrth-Gymraeg Liddle a'i debyg, ac mae dweud hynny'n ddigon.

30/01/2018
Y Cymry adweithiol
Oherwydd cyfuniad rhyfedd o amlygrwydd y mudiad #MeToo a gwleidyddiaeth fewnol Plaid Cymru, mae yna adwaith gwrth-ffeminyddol amlwg wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg a Chymreig dros yr wythnosau diwethaf. Mae hyn yn amlwg yn siomedig, ond ni ddylai fod yn syndod. Wedi'r cyfan, mae'n ddadl sydd i'w gweld ym mhobman (mae'r mudiad rhyngwladol sy'n hyrwyddo anffyddiaeth a seciwlariaeth eisoes wedi'i hollti'n chwyrn gan yr un ffrae, gan fy nadrithio innau), ac nid oes rheswm i Gymru fod yn wahanol.
Rydym eisoes wedi gweld arwyddion bod llawer o Gymry'n hiliol, neu'n camddeall beth yw hiliaeth. Mae'r un peth yn wir, fe ymddengys, am agweddau tuag at fenywod. Yn benodol, mae'n amlwg bod diffyg dealltwriaeth ynghylch beth yn union y mae ffeminyddion yn ei ddweud.
Cafwyd enghraifft syrffedus o hyn ar wefan Golwg 360 yn ddiweddar. Mae Dr Nia Edwards-Behi wedi ymateb gydag erthygl dda dros ben, ond mae'r sylwadau ar waelod honno gan ddarllenwyr y wefan, os rywbeth, hyd yn oed yn waeth na'r ysgrif wreiddiol ('Nia fach', wir).
Mae gwrthwynebwyr ffeminyddiaeth yn hoff iawn o adeiladu dynion gwellt. Yn hytrach na gwrando ar beth mae ffeminyddion yn ei ddweud, gwell ganddynt yw dychmygu fersiwn ffug o'u dadl ac ymosod ar honno yn lle. Dyna sy'n digwydd pan mae'r bobl yma'n cwyno bod ffeminyddion yn 'casáu dynion' ac am wahardd dynion rhag siarad â hwy'n gyfan gwbl. Mae dyhead ffeminyddion mewn gwirionedd yn syml, sef i ddynion roi'r gorau i aflonyddu arnynt. I bobl gall, mae'r ffin rhwng y derbyniol a'r amhriodol yn glir ac amlwg; os nad ydyw i chi, rwy'n pryderu am y menywod yn eich bywyd.
Y gri ddiflas a geir dro ar ôl tro gan y misogynistiaid yw bod ffeminyddion, a 'social justice warriors' eraill, yn 'blu eira'. Nid yw'r bobl sy'n defnyddio'r ymadrodd hwnnw'n tueddu i arddangos llawer o hunanymwybyddiaeth. Mae eu cyhuddiad bod ffeminyddion yn hysteraidd a gor-sensitif yn ymylu ar fod yn ddoniol; maent yn amlwg yn ddall i'w gor-ymateb gorffwyll eu hunain i gais hollol syml a synhwyrol. Syrffedus hefyd yw cwyn yr awdur gwreiddiol bod ymateb Nia Edwards-Behi yn peryglu ei ryddid mynegiant. Iddo ef, mae'n debyg mai ystyr rhyddid mynegiant yw'r hawl i rwystro pobl eraill rhag egluro ei fod yn anghywir.
Am ba bynnag reswm, mae yna flas misogynistaidd iawn i'r ysbryd gwrth-sefydliadol a populist sydd wedi cydio'n ddiweddar. Nid oes rheswm anochel bod raid i hynny fod yn wir, hyd y gwelaf i, ond fel hynny mae pethau wedi datblygu. Cyhuddir ffeminyddiaeth o fod yn safbwynt sefydliadol, er bod yr argraff hwnnw'n chwerthinllyd. A dweud y gwir, mae hynny'n adleisio problem Plaid Cymru, sydd rywsut wedi llwyddo i gael ei phortreadu fel plaid sefydliadol - argraff sy'n ei niweidio - heb ddod yn arbennig o agos at rym gwirioneddol. Mae'n amlwg bod rhywbeth od wedi digwydd pan mae pobl yn cyhuddo Leanne Wood, o bawb, o ymgorffori'r sefydliad (cofier bod y Blaid wedi colli dau aelod o'i grŵp dros y flwyddyn ddiwethaf am resymau sy'n gwrthddweud ei gilydd: un oherwydd bod y Blaid yn rhy sefydliadol, a'r llall am nad yw'n ddigon sefydliadol!).
Rwy'n credu mai hyllach aiff pethau. Yn wir, mae perygl gwirioneddol i fisogynistiaeth achosi hollt difrifol yn y mudiad cenedlaethol. Na, nid yw gwrthwynebu ffeminyddion o reidrwydd yn eich gosod ymhlith yr alt-right, ond mae'n ffaith mai misogynistiaeth yw'r gateway drug i'r mudiad hwnnw. Rwyf wedi rhybuddio'n ddiweddar bod elfennau o'r alt-right eisoes yn bodoli o fewn cenedlaetholdeb Cymreig, felly nid wyf yn arbennig o obeithiol am yr hyn sydd o'n blaenau. Eironi digalon gwrth-sefydliadaeth, y dyhead i roi 'cic' iddyn 'nhw', yw mai cicio grwpiau llai ffodus a wneir fel arfer yn y pen draw, nid y rhai sydd wir mewn grym.

19/12/2017
Lleiafrifoedd ethnig a'r Gymraeg
Mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn hiliol.
Ffaith syml ac anniddorol yw'r uchod. Ceir hilgwn ym mhob carfan o'r boblogaeth, felly byddai'n rhyfedd petai siaradwyr Cymraeg yn eithriad. Nid yw hynny'n reswm i'w anwybyddu, wrth reswm; mae'n hanfodol ein bod yn beirniadu hiliaeth gan Gymry pryd bynnag y daw i'r amlwg.
Mae dau reswm am hynny. Y pwysicaf a'r amlycaf yw bod hiliaeth yn ffiaidd. Yr ail yw oherwydd bod y ffaith mai lleiafrif yw Cymry Cymraeg yn golygu bod rhagfarn gan rai o'i siaradwyr yn cael ei defnyddio i bardduo'r iaith ei hun gan ei gelynion. Mae'r gwrth-Gymraeg yn awyddus i bortreadu'i siaradwyr fel hilgwn senoffobaidd, felly dylem osgoi rhoi'r cyfle iddynt.
Mae trafodaeth gwerth ei chael am berthynas y Gymraeg a phobl o leiafrifoedd ethnig. Os yw'r Gymraeg i ffynnu, mae rhaid iddi fod yn iaith amlddiwylliannol. Mae'n bwysig felly ein bod yn gwrando pan mae aelodau o leiafrifoedd ethnig yn sôn am eu profiadau â hi, hyd yn oed (na, yn enwedig) pan mae hynny'n ein gwneud yn anghyfforddus. Eto i gyd, teimladau cymysg a gefais wrth ddarllen yr erthygl hynod ddadleuol hon gan Oruj Defoite am ei phrofiadau yng Nglyn Ebwy. Rwyf wedi gwrthsefyll y demtasiwn i ymuno yn y pile-on ar Twitter, felly dyma geisio rhoi trefn ar fy meddyliau fan hyn.
Fel dyn gwyn sy'n siarad Cymraeg, mae profiad dynes di-Gymraeg â chroen tywyll yn estron i mi, ac o ganlyniad rwy'n anghyfforddus â'r syniad o ddiystyru disgrifiad Defoite o'i phrofiadau yn llwyr, fel petawn i'n gwybod yn well. Ond ni allaf helpu'r peth: mae sawl darn o'r erthygl yn codi ael. Dywed, er enghraifft, ei bod yn cael ei chwestiynu am ei sgiliau Cymraeg 'drwy'r amser'. Yng Nglyn Ebwy?! Mae'r erthygl yn amwys am y lleoliad yn hynny o beth, ond mae'n swnio'n rhyfedd i mi dim ots lle sydd o dan sylw. Pwy ddiawl yw'r bobl yma?
 ymlaen i ddweud mai'r un bobl sydd wedyn yn mynnu gwybod o ble y mae'n dod 'go iawn'. Yr awgrym plaen fan hyn yw mai siaradwyr Cymraeg sy'n gyfrifol am yr hiliaeth yn ei bywyd. Mae'r cyhuddiad yn un difrifol. Os yw'n wir, byddai mwy o fanylion am y bobl hyn yn ddefnyddiol dros ben, achos mae angen i ni'u rhoi yn eu lle.
Yn anffodus, nid yw'n helpu pethau trwy fynd ymlaen i ddweud bod cyhuddiad annifyr Aneurin Bevan bod Cymru'n cael ei rhedeg “by small pockets of Welsh-speaking, Welsh-writing zealots, with the vast majority of Welshmen denied participation in the government of their country” yn wir o hyd. Mae yna hen hanes fudr o bardduo lleiafrifoedd trwy awgrymu eu bod yn fwy grymus na'r gwirionedd, a'u bod yn camddefnyddio'r grym hwnnw er mwyn gwarchod eu buddiannau'u hunain, ac mae'n drist gweld aelod o leiafrif arall yn gwyntyllu'r myth.
Yn dilyn yr ymateb blin ar Twitter, cafwyd erthygl gan Abdul-Azim ar wefan yr IWA yn cefnogi Defoite. Dywed bod hiliaeth yr un mor gyffredin yng Nghymru ag yn Lloegr, sy'n deg ond amlwg. Pwysleisia'r pwynt trwy gyfeirio at bresenoldeb UKIP yn y Cynulliad a ralïau gan grwpiau neo-natsïaid. Wrth gwrs mae UKIP a mudiadau asgell-dde eithafol yn elyniaethus tuag at y Gymraeg hefyd, felly mae'n bod yn llithrig braidd fan hyn. Ond gwir asgwrn y gynnen yw'r paragraff anghynnes hwn:
Fel y dywedais, mae'n hanfodol i'r iaith bod pobl o leiafrifoedd ethnig yn dod i'w siarad. O safbwynt hyrwyddo'r iaith, byddai gwrthod croeso iddynt yn gamgymeriad strategol hurt, heb sôn am fod yn ffiaidd. Fel y dywed Joao Morais ar Twitter, mae ymgyrchwyr iaith yn awyddus i bortreadu'r Gymraeg fel iaith gosmipolitanaidd. Os rywbeth, mae perygl i ni gynhyrfu gormod a thrin lleiafrifoedd ethnig Cymraeg eu hiaith fel novelty bendigedig. Dylai eu bodolaeth gael ei hystyried yn beth hollol normal.
Eto, nid gwadu yw hyn bod yna siaradwyr Cymraeg sydd, am ba bynnag reswm gwirion, am gadw'r iaith yn wyn. Nid oes gennyf reswm i dybio nad ydynt yn bodoli. Ond mae'r erthyglau hyn yn awgrymu bod yna broblem neilltuol ymysg Cymry Cymraeg, felly teg yw gofyn am fwy o fanylion i ddangos bod hynny'n wir. Mae'r erthyglau wedi bod yn fêl ar fysedd troliaid gwrth-Gymraeg y we, sy'n dangos pa mor anghyfrifol yw gwneud cyhuddiadau fel hyn heb dystiolaeth.
Mae'r ddwy erthygl yn mynegi pryderon bod y Gymraeg yn gallu bod yn 'exclusionary'. Ar un law, nid yw'r cyhuddiad yn gwneud llawer o synnwyr. Os nad ydych yn deall iaith, nid ydych yn mynd i allu deall y rhan fwyaf o'r pethau sy'n digwydd trwy gyfrwng yr iaith honno. Dyma natur ieithoedd gwahanol, ac nid oes llawer all unrhyw un ei wneud am y peth. Beth mae'n ei olygu i ddweud dylai iaith fod yn fwy 'inclusive'? Yr unig ystyr onest ac ystyrlon yw sicrhau bod pawb yn y wlad yn cael y cyfle i'w dysgu a'i defnyddio. Mae galw ymdrechion i hyrwyddo'r iaith ac annog ei defnydd yn 'exclusionary' yn ddryslyd tu hwnt; 'exclusionary' fyddai ceisio cadw'r Gymraeg yn glwb cyfrinachol cul. Dylent ddewis un cyhuddiad a bod yn gyson.
Ar y llaw arall, nid yw dysgu Cymraeg yn hawdd, ac mae'n amlwg yn anos byth i fewnfudwyr sy'n ansicr eu Saesneg. Teg hefyd yw'r pwynt bod dysgu iaith newydd yn llawer haws i bobl dosbarth canol, sy'n meddu ar fwy o amser ac adnoddau. Yr ateb, eto, yw croesawu pawb sydd am wneud defnydd o'r iaith a gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cynorthwyo. Yn y cyfamser, dylem gondemnio pob Cymro hiliol.

Oruj is highlighting an experience, one which I think is increasingly common, of the Welsh language being used by some to further entrench a racial hierarchy in which black and minority ethnic people are at the bottom. Should this even be surprising, given the resurgence of far-right politics and white supremacism here and abroad?Mae'r darllenwr cyffredin yn sicr o ddehongli'r datganiad yma trwy gasglu bod ymgyrchwyr iaith yn defnyddio'r Gymraeg yn bwrpasol fel arf hiliol. Mae'n ensyniad difrifol a hyll tu hwnt. A dweud y gwir, mae dweud y fath beth mewn ffordd mor ffwrdd-â-hi yn beryglus. Er fy awydd i roi gwrandawiad teg i'r erthygl, roedd y darn yma'n ddigon i beri mi golli pob cydymdeimlad â'r gweddill.
Fel y dywedais, mae'n hanfodol i'r iaith bod pobl o leiafrifoedd ethnig yn dod i'w siarad. O safbwynt hyrwyddo'r iaith, byddai gwrthod croeso iddynt yn gamgymeriad strategol hurt, heb sôn am fod yn ffiaidd. Fel y dywed Joao Morais ar Twitter, mae ymgyrchwyr iaith yn awyddus i bortreadu'r Gymraeg fel iaith gosmipolitanaidd. Os rywbeth, mae perygl i ni gynhyrfu gormod a thrin lleiafrifoedd ethnig Cymraeg eu hiaith fel novelty bendigedig. Dylai eu bodolaeth gael ei hystyried yn beth hollol normal.
Eto, nid gwadu yw hyn bod yna siaradwyr Cymraeg sydd, am ba bynnag reswm gwirion, am gadw'r iaith yn wyn. Nid oes gennyf reswm i dybio nad ydynt yn bodoli. Ond mae'r erthyglau hyn yn awgrymu bod yna broblem neilltuol ymysg Cymry Cymraeg, felly teg yw gofyn am fwy o fanylion i ddangos bod hynny'n wir. Mae'r erthyglau wedi bod yn fêl ar fysedd troliaid gwrth-Gymraeg y we, sy'n dangos pa mor anghyfrifol yw gwneud cyhuddiadau fel hyn heb dystiolaeth.
Mae'r ddwy erthygl yn mynegi pryderon bod y Gymraeg yn gallu bod yn 'exclusionary'. Ar un law, nid yw'r cyhuddiad yn gwneud llawer o synnwyr. Os nad ydych yn deall iaith, nid ydych yn mynd i allu deall y rhan fwyaf o'r pethau sy'n digwydd trwy gyfrwng yr iaith honno. Dyma natur ieithoedd gwahanol, ac nid oes llawer all unrhyw un ei wneud am y peth. Beth mae'n ei olygu i ddweud dylai iaith fod yn fwy 'inclusive'? Yr unig ystyr onest ac ystyrlon yw sicrhau bod pawb yn y wlad yn cael y cyfle i'w dysgu a'i defnyddio. Mae galw ymdrechion i hyrwyddo'r iaith ac annog ei defnydd yn 'exclusionary' yn ddryslyd tu hwnt; 'exclusionary' fyddai ceisio cadw'r Gymraeg yn glwb cyfrinachol cul. Dylent ddewis un cyhuddiad a bod yn gyson.
Ar y llaw arall, nid yw dysgu Cymraeg yn hawdd, ac mae'n amlwg yn anos byth i fewnfudwyr sy'n ansicr eu Saesneg. Teg hefyd yw'r pwynt bod dysgu iaith newydd yn llawer haws i bobl dosbarth canol, sy'n meddu ar fwy o amser ac adnoddau. Yr ateb, eto, yw croesawu pawb sydd am wneud defnydd o'r iaith a gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cynorthwyo. Yn y cyfamser, dylem gondemnio pob Cymro hiliol.
04/09/2017
Camddeall hiliaeth
Os oedd y stori am fflôt hiliol Carnifal Aberaeron yn ddigon drwg, mae'r ymateb, yn enwedig ar Facebook, wedi bod yn waeth. 'Dim ond bach o hwyl' yw'r sylw mwyaf cyffredin, o beth y gwelaf i. Mae'n amlwg nad yw llawer o bobl, gan gynnwys nifer sy'n sgrechian 'hiliaeth!' bob tro mae rhywun yn gwneud sylw angharedig am Gymru neu ei hiaith, yn deall beth yw hiliaeth.
Mae'n debyg bod gormod o bobl yn credu mai ystyr hiliaeth yw casineb. Os nad ydych yn casáu pobl â chroen tywyll, na'n bwriadu'u pechu, mae'n amhosibl eich bod yn hiliol. Nid oes modd, felly, trwy ddiffiniad, i 'ddim ond bach o hwyl' fod yn hiliol.
A bod yn garedig, mae hynny'n hen-ffasiwn. Efallai ei bod yn wir bod hiliaeth amrwd ac ymosodol yn llai cyffredin heddiw nag yn y gorffennol (er bod Brexit a Trump yn bygwth dad-wneud y cynnydd hwnnw), ond nid dyna'r unig ffurf. Di-feddwl yn hytrach na bwriadol faleisus yw hiliaeth fodern, fel arfer.
Nid oes amwysedd am y fflôt: roedd yn hiliol. Fel y dywed Gary Raymond, mae blackface, yn gwbl ddi-eithriad, yn hiliol. Mae mor syml â hynny. A'r ateb i'r ddadl mai dim ond talu teyrnged i ffilm hoffus ac ysgafn oedd y fflôt yw bod Cool Runnings ei hun yn ffilm hiliol. Daeth y sylweddoliad hwnnw'n raddol iawn i mi, gan fod gennyf atgofion hapus o'i mwynhau'n fawr pan yn blentyn, ond mae'n chwerthinllyd o amlwg erbyn hyn.
Yr hyn sy'n arwain pob trafodaeth am stori'r fflôt ar gyfeiliorn yw'r syniad bod galw'r weithred yn hiliol gyfystyr â galw'r hogiau eu hunain yn hilgwn. Rwy'n siwr eu bod wedi dychryn, yn ddiffuant, â'r ymateb, ac nad oeddent wedi bwriadu unrhyw beth cas. Ond mae hynny'n hollol amherthnasol. Y weithred sy'n bwysig, ac roedd y weithred yn hiliol. Dyna ddechrau a diwedd y mater. Nid yw galw'r peth yn gamgymeriad naïf yn gwneud y weithred yn llai hiliol. Yn ddelfrydol, bydd y stori'n wers addysgol i ni gyd, ond yn anffodus nid yw'r ymateb wedi fy llenwi â hyder.

15/06/2017
Y DUP
Gan fod y DUP ar hyn o bryd mewn trafodaethau ffurfiol i gefnogi llywodraeth Prydain, mae safbwyntiau crefyddol gwirion a hyll y blaid yn cael cryn dipyn o sylw. Dyma erthygl gennyf ar y wefan newydd (ac ardderchog) Nation.Cymru ar y pwnc hwnnw.
31/03/2017
Pwy sy'n nawddoglyd?
Mae pawb sy'n cefnogi Donald Trump yn hiliol. Pawb, yn ddi-eithriad.
Mae'r datganiad uchod yn aml yn ennyn ymateb chwyrn, a hynny gan lawer o ryddfrydwyr yn ogystal â chefnogwyr y ffasgydd oren twp. Efallai mai'r mwyaf cyffredin yw gofyn yn rhethregol 'felly mae bron hanner poblogaeth America'n hiliol?' fel petai'r cwestiwn ei hun yn abswrd a bod ateb yn gadarnhaol yn golygu colli hygrededd yn anorfod. Ond 'ydyn' yw'r ateb yr un fath. Nid yw'r ffaith bod canran sylweddol o'r boblogaeth yn arddel daliadau hiliol yn gwneud y daliadau hynny'n llai hiliol.
Rwy'n credu bod llawer hefyd yn camddeall y cyhuddiad. Nid yw dweud bod rhywun yn hiliol o reidrwydd yn golygu eu bod yn casáu pawb â chroen tywyll. Mae hiliaeth yn ffenomen gynilach na hynny (er mae'n llai cynnil bellach nag yr oedd flwyddyn yn ôl, gan fod buddugoliaeth Trump wedi rhoi 'caniatâd' i bobl arddel eu hiliaeth yn fwy agored yn hytrach na chadw'n dawel).
Fel rheol, mynnir mai dadrithiad economaidd oedd yn bennaf gyfrifol am ganlyniad yr etholiad. Nid yw hynny'n hollol anghywir, o reidrwydd; fe chwaraeodd ran, yn enwedig mewn taleithiau ôl-ddiwydiannol fel Michigan ac Ohio. Ond mae'n anghyflawn, a hefyd yn gamarweiniol o gofio bod cefnogwyr Trump, ar gyfartaledd, yn gyfoethocach na rhai Clinton. Y gwir plaen yw bod arolygon academaidd wedi dangos dro ar ôl tro mai'r hyn sy'n esbonio'r canlyniad orau yw 'pryderon' ynghylch amrywiaeth ethnig. Os oes un peth sy'n rhagweld cefnogaeth unigolyn tuag at Trump, yna'u safbwyntiau am hil yw hwnnw. Mae'r patrwm yn hollol glir.
Nid yw'r syniad bod cyni economaidd yn troi pobl yn hiliol yn dal dŵr beth bynnag. Fe all wneud y rhagfarn sydd eisoes yn llechu ynddynt yn fwy amrwd, am wn i, ond mae hynny'n amlwg yn golygu bod yr hiliaeth yn bodoli'n dawel yn barod. Yn ogystal, roedd ymgyrch Trump ei hun mor amrwd hiliol, mae'n berffaith synhwyrol dweud bod pawb oedd yn fodlon anwybyddu hynny'n hiliol hefyd, hyd yn oed os oedd ganddynt flaenoriaethau eraill.
Cwyn cyffredin yw bod galw cefnogwyr Trump i gyd yn hiliol yn nawddoglyd. Mae'n anodd gwadu hynny mewn gwirionedd. Mae hiliaeth yn dwp, felly mae'n dilyn bod galw pobl yn hiliol gyfystyr â'u galw'n dwp. Ni wadaf chwaith fy mod yn llawn dirmyg tuag at gefnogwyr Trump i gyd, er fy mod ar yr un pryd yn cydymdeimlo i raddau helaeth â syniadau Chris Arnade ynghylch y 'rhes flaen' a'r 'rhes gefn'. Mae Arnade yn dadlau'n gryf yn erbyn datganiadau fel yr un sy'n agor y blogiad hwn. Ond onid yw dadansoddi ymddygiad cefnogwyr Trump mewn termau anthropolegol a sosio-economaidd hefyd yn nawddoglyd, os nad hyd yn oed yn fwy felly? Fel petaem ni bobl addysgiedig yn deall y trueiniaid hyn yn well na hwy eu hunain. Rwy'n credu ei bod yn amhosibl osgoi bod yn nawddoglyd y naill ffordd na'r llall fan hyn. Weithiau mae'r gwir ei hun yn nawddoglyd.
Cwyn arall yw bod galw cefnogwyr Trump yn hiliol yn annhebygol iawn o'u darbwyllo i droi'u cefnau arno a throi'n rhyddfrydwyr da. Mae'n siwr bod hynny'n gywir (er yn achos y rhan fwyaf ohonynt, rhaid gofyn a oes unrhyw beth all newid eu meddyliau?). Eto i gyd, erys y ffaith eu bod yn hiliol, ac mae anwybyddu hynny'n beryglus. Yr hiliaeth ei hun yw'r broblem. Mae mynd i'r afael â dirywiad sosio-economaidd yn orchwyl hanfodol ynddi'i hun, ond mater ar wahan yw hwnnw (a Trump yw'r person gwaethaf un i ddatrys y broblem honno beth bynnag).
Os mai'r nod yw newid meddyliau cefnogwyr Trump, mae angen osgoi eu galw'n hilgwn er mai dyna ydynt mewn gwirionedd (fel y dysgodd Clinton wedi helynt y 'basket of deplorables'). Y broblem felly yw bod dweud y gwir weithiau'n strategaeth annoeth. Nid yw hynny'n sefyllfa anghyffredin. Er enghraifft, wrth drafod â chreadyddion, mae nifer o anffyddwyr yn awgrymu nad oes rhaid ymwrthod â Duw er mwyn credu mewn esblygiad. Mae rhai o'r anffyddwyr yn credu hynny'n ddidwyll, ond diau mai strategaeth sydd ar feddwl y rhan fwyaf. Mae'n hynod annhebygol bod ffwndamentalwyr Cristnogol yn mynd i droi'n anffyddwyr mewn chwinciad, felly mae'n gwneud synnwyr i geisio'u darbwyllo bod modd iddynt ddal eu gafael ar ryw fath o dduw tra'n diosg rhai o'u hathrawiaethau mwy eithafol. Ond y gwir yw nad yw esblygiad theistaidd yn gwneud y mymryn lleiaf o synnwyr mewn gwirionedd, ac mae rhaid dewis: Duw ynteu esblygiad. Rwy'n cael trafferth cyfaddawdu â'r gwirionedd am resymau strategol, a hynny'n rhannol oherwydd ei fod yn...nawddoglyd. Dyna reswm arall, am wn i, na allwn i fod yn wleidydd.

01/02/2017
Blogio am anffyddiaeth tra mae'r byd yn mynd i'r gwellt
Blog am anffyddiaeth yw hwn. Gan fod y pwnc hwnnw'n eang iawn, mae'n caniatáu i mi drafod gwleidyddiaeth yn fynych. Yn wir, rwyf wedi dweud droeon nad yw gwrthwynebu crefydd heb drafod gwleidyddiaeth yn gwneud synnwyr. Mae hyrwyddo hawliau sifil, cydraddoldeb, democratiaeth a rhyddid yn ran annatod o anffyddiaeth; yn hanesyddol, crefydd sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am amharu ar y pethau da hynny.
Yn anffodus, mae fy mlogiadau wedi mynd ychydig yn llai rheolaidd yn ddiweddar, ac er bod hynny i raddau helaeth oherwydd y ffaith bod gennyf fabi, rwy'n rhoi llawer o'r bai ar Donald Trump. Pan rwyf wedi blogio tros y flwyddyn ddiwethaf, y ffasgydd twp oren oedd y pwnc yn amlach na pheidio. Ers iddo gyhoeddi'i fwriad i sefyll, mae twf Trumpaeth wedi datblygu'n dipyn o obsesiwn i mi. Rwy'n treulio llawer mwy o amser nag sy'n iach yn darllen am yr hyn sy'n digwydd yn America, a'n colli gobaith yn gyffredinol am gyfeiriad y byd yn ehangach. Ni fynnaf ddiflasu'r ychydig ddarllenwyr sydd gennyf, fodd bynnag, a chan fod Trump ymhob man yn barod, rwy'n ceisio osgoi swnio fel tôn gron am y peth fan hyn (mae fy ffrwd Twitter yn fater arall).
Mae'n wir hefyd bod rôl crefydd yn yr hyn sy'n digwydd yn gymhleth. Petai rhywun wedi dweud wrthyf ddegawd yn ôl y byddai'r dde eithafol yn cipio grym yn America, buasai wedi bod yn rhesymol i mi dybio mai ffwndamentaliaid Cristnogol fyddai wrthi. Ond fel y digwyddodd pethau, nid yw Trumpaeth mor syml â hynny. Mae llawer iawn o bleidleisiwyr Trump yn ffitio'r disgrifiad hwnnw, wrth reswm, ond go brin bod y ffasgydd twp oren ei hun yn gwneud. Nid yw Trump yn ddigon deallus i ffurfio safbwyntiau diwinyddol y naill ffordd na'r llall, ond nid oes cysur yn hynny, gan y bydd yn berffaith hapus i daflu cig coch at y ffwndamentaliaid er mwyn cadw'u cefnogaeth. Hiliaeth a misogynistiaeth - panig ynghylch tranc arfaethedig statws goruchafol y dyn gwyn - yw craidd Trumpaeth mewn gwirionedd, ac er bod crefydd yn chwarae rhan fawr yn hynny, rwy'n gorfod derbyn nad dyna lle mae'r bai i gyd. Ysywaeth, mae llawer o'r 'alt-right', yn enwedig y rhai ifainc, yn ddigon seciwlar.
Efallai bod fy mlaenoriaethau yn newid, felly. Nid yw fy safbwyntiau yngylch crefydd wedi newid o gwbl: lol yw'r cwbl o hyd. Ond yr hyn sy'n fy mhryderu fwy na dim yn y byd erbyn hyn yw dirywiad democratiaeth a thwf y dde adweithiol. Awtocrat yw Trump, ac mae'r difrod a gyflawnodd yn ei wythnos gyntaf, heb sôn am beth sy'n mynd i ddigwydd dros bedair blynedd, yn frawychus. Nid dim ond America sy'n wynebu'r broblem hon, wrth gwrs. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae democratiaeth wedi cilio yn Rwsia, Twrci, Gwlad Thai, a'r Ffilipinau. Mae hyd yn oed gwledydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd, fel Hwngari, Gwlad Pwyl, Slofacia a'r Weriniaeth Siec wedi dechrau dilyn trywydd awtocrataidd, ac mae'r dde senoffobig ar gynnydd mewn sawl gwlad orllewinol arall, gan gynnwys Prydain. Ar ben hynny, mae gwledydd nad oedd hyd yn oed yn ddemocrataidd o gwbl yn y lle cyntaf, fel China, wedi dechrau canoli a thynhau grym drachefn yn hytrach na chymryd camau i'r cyfeiriad arall. Mae pethau'n edrych yn dduach o lawer nag yr oeddent ddegawd yn ôl.
Rwyf o hyd wedi gwrthod y syniad bod democratiaeth a rhyddid yn anochel o gynyddu gydag amser, ac rwy'n gofidio bod y degawd presennol yn fy mhrofi'n gywir. Mae gobaith mai blip dros dro - ochenaid olaf yr hen ddyn gwyn blin cyn i rymoedd demograffig ei drechu - yw hyn. Gallaf ddeall y demtasiwn i obeithio y bydd popeth yn gwella ar ôl i'r baby boomers hunanol farw allan ymhen degawd neu ddau. Ond gochelwn rhag disgwyl yn ddiog i'r gwellhad hwnnw ddigwydd yn awtomatig. Mae am fod yn frwydr, ac yn hynny o beth, mae llawer o grefyddwyr rhyddfrydol am fod ar yr un ochr â mi.

22/01/2017
Arlywydd Trump
Daeth y dydd. Mae Donald Trump bellach yn arlywydd Unol Daleithiau America. Fe ddywedais drannoeth yr etholiad fy mod yn anobeithio am gyflwr y byd; nid oes unrhyw beth wedi digwydd ers hynny i godi fy nghalon. Os rywbeth, rwy'n argyhoeddedig bod pethau hyd yn oed yn fwy trychinebus nag mae llawer o bobl yn ei sylweddoli. Os oedd unrhyw un dal i gydio yn y ffantasi bod Arlywydd Trump yn mynd i fod yn greadur gwahanol i'r ymgyrchydd Trump, dylai heddiw ddryllio hynny: mae'r dyn wedi bod yn obsesiynu am faint y dorf wrth iddo dyngu llw ddoe, gan gyhuddo'r cyfryngau o ddweud celwydd er ein bod i gyd wedi gweld y lluniau. Mae'r ffaith bod y mater yma mor bitw'n rybudd difrifol ynddo'i hun: os yw'n fodlon neilltuo bron diwrnod cyfan i falu cachu yn gelwyddog am bethau di-nod, mae'n ddychrynllyd meddwl sut fydd pethau pan ddaw materion sylweddol ar yr agenda.
Heb ail-adrodd fy hun yn ormodol, mae'r dyn yn fwli hollol dwp, ansefydlog, narsisitig, llwgr a rhagfarnllyd. Os oes llygedyn o obaith o gwbl, yna hwnnw yw bod ei weinyddiaeth am fod yn eithriadol o ddi-glem a bod eu diffyg crebwyll am eu rhwystro rhag cyflawni llawer o'u hagenda. Nid yw hynny'n gysur i gyd, fodd bynnag, oherwydd mae'r cyfuniad hwnnw o ddiffyg gallu, ar y naill law, a hyder haerllug ar y llaw arall, yn debygol o niwieidio hygrededd sefydliadau a strwythurau sifil y wlad (a'r byd, o ran hynny). Yn wir, mae creu llanast a dryswch yn un o'u prif amcanion.
Ar lawr gwlad, mae Arlywydd Trump am gael effaith anferth ar un maes yn arbennig heb orfod gwneud unrhyw beth: heddlua. Mae adrannau heddlu America eisoes yn hynod asgell-dde, ac mae eisoes yn amlwg bod hiliaeth yn eu mysg yn broblem anferth. Yn fuan iawn, rhywle yn America, mae swyddog heddlu yn mynd i saethu dyn ifanc croenddu di-euog yn farw. Mae hynny wrth gwrs eisoes wedi digwydd sawl tro dros y blynyddoedd diwethaf. Yn yr hinsawdd wleidyddol newydd, fodd bynnag, rwy'n credu ei fod hyd yn oed yn fwy tebygol, a diolch i'r ffŵl yn y Tŷ Gwyn mae'r ymateb i'r protestio anochel fydd yn dilyn yn sicr o fod yn llanast. Mae'n hawdd dychmygu Trump yn troi'r sefyllfa yn greisis, boed yn fwriadol neu trwy dwpdra, gan beryglu hawliau sifil a lleiafrifoedd ethnig ymhellach eto.
Rhywbeth arall sydd bron yn sicr o ddigwydd yn fuan yw ymosodiad terfysgol gan y Wladwriaeth Islamaidd. Buaswn i'n tybio bod hyn yn flaenoriaeth strategol i IS, gan fod ymateb twp anochel Trump - sef ymosod ar fwslemiaid a datgymalu hawliau sifil - yn sicr o fod yn fuddiol iddynt. Byddaf yn synnu'n fawr os na fydd ymosodiad, neu ymdrech amlwg i gyflawni un, ar dir mawr America erbyn yr haf.
Dyma pam rwy'n sicr bod Trump am fod hyn yn oed yn waeth na'r disgwyl. Mae heddiw - ei ddiwrnod llawn cyntaf, ei fis mêl, heb unrhyw ddigwyddiad cas iddo orfod ymateb iddo - wedi bod yn drychinebus. Dychmygwch, mewn difrif, ei greisis cyntaf. Ac wedyn dychmygwch ei ugeinfed. Doed a ddelo, mae pethau anffodus yn mynd i ddigwydd. Ym mhob un senario rwy'n gallu'i ddychmygu, mae Trump am eu gwneud yn waeth.
Ar ben hynny, wrth gwrs, mae Trump yn mynd i lenwi o leiaf un sedd wag ar Oruchaf Lys America, wedi i'r Gweriniaethwyr, heb gywilydd yn y byd, wrthod gadael i Obama wneud am bron i flwyddyn gyfan. Mae Trump yn sicr o ddefnyddio'r cyfle yma i daflu cig coch at y ffwndamentalwyr eithafol ymysg ei gefnogwyr. Mae'n dweud cyfrolau na fuaswn yn synnu o gwbl petai'n enwebu rhywun fel Roy Moore, ffasgydd theocrataidd o'r iawn ryw.
Cefais fy ngeni ym 1984. Am y tro cyntaf erioed, rwyf wedi dechrau dychmygu fy marwolaeth fy hun mewn rhyfel niwclear. Mae'n annhebygol iawn o hyd, wrth reswm, ond mae'r posibilrwydd wedi rhoi'r gorau i fod yn chwerthinllyd. Mae Rwsia a China ill dau'n fwy tebygol o geisio manteisio a gwthio'u lwc yn y gêm fawr geopoliticaidd, ac mae sawl senario trychinebus, a fu gynt fwy neu lai'n amhosibl diolch i gytundebau amlochrog y mae Trump yn ddirmygus iawn ohonynt, bellach yn gredadwy. Mae Wcraniaid, a hyd yn oed Latfiaid, yn teimlo'n nerfus, ac mae ganddynt resymau i wneud. Mae dyfodol NATO a'r Undeb Ewropeaidd yn edrych yn ddu, ac af mor bell ag awgrymu bod obsesiwn macho Trump â delio â phobl mano a mano, ar draul trafodaethau amlochrog pwyllog a gofalus, yn mynd i beryglu'r Cenhedloedd Unedig hefyd. Mae ei gefnogwyr craidd, wedi'r cyfan, yn casáu'r sefydliad hwnnw â chas perffaith. Pwy a ŵyr?
Dim ond crafu'r wyneb yw hyn. Mae trychinebau ar y gorwel, i bob cyfeiriad. Rwy'n besimistig dros ben.

04/12/2016
Dyneiddiaeth
Lansiwyd Dyneiddwyr Cymru, cangen o'r Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain, wythnos diwethaf, ac i gyd-fynd cafwyd arolwg barn newydd sy'n dangos bod 51% o Gymry bellach yn ystyried eu hunain yn anghrefyddol. Bûm yn trafod y canlyniadau hynny, a dyneiddiaeth yn gyffredinol, ar Taro'r Post (dechrau ar ôl 25:45).
Mae'n bwysig cofio'r caveats arferol wrth ystyried arolygon barn am bwnc mor bersonol a goddrychol. Mae diffiniad pobl o grefydd yn amrywio, ac mae'n debygol bod llawer o'r bobl hynny sy'n ystyried eu hunain yn 'anghrefyddol' yn parhau i gredu mewn rhyw fath o dduw. Vice versa, fe ddichon bod llawer hefyd yn galw'u hunain yn Gristnogion am resymau diwylliannol, er mai'r unig adegau maent yn meddwl am y pwnc yw pan mae rhywun o YouGov yn gofyn y cwestiwn. Eto i gyd, rwy'n credu bod y patrwm dros amser yn amlwg: mae crefydd, ar y cyfan, yn dirywio. Parhau i ddirywio fydd ei thynged, hefyd, gan fod yr 'anghrefyddol' yn llawer iawn mwy niferus ymysg y to ifanc. Mae hyn i gyd yn newyddion da iawn, wrth gwrs.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng anffyddiaeth a dyneiddiaeth, felly? Yn bersonol, rwy'n cofleidio'r ddwy label, a buaswn yn hapus i wneud y ddwy gyfystyr â'i gilydd yn llwyr. Gwn fod ambell un yn gwrthwynebu hynny: mae rhai anffyddwyr yn mynnu mai'r cyfan yw anffyddiaeth yw 'diffyg cred mewn duw', ac nad oes ganddi unrhyw beth i'w ddweud am y byd y tu hwnt i hynny. Fel rwyf wedi'i grybwyll sawl tro ar y blog, rwy'n credu bod hynny'n hurt.
Mae elfen o wirionedd i'r caricature o anffyddwyr fel pobl hunan-fodlon sy'n mwynhau galw pobl grefyddol yn dwp ar y we. Rwyf wedi gwneud hynny fy hun, ac mae'n gallu bod yn llawer o hwyl. Ond rwy'n gyndyn bod angen i anffyddiaeth olygu mwy na hynny. Mae goblygiadau anferthol i absenoldeb duw, a dylem eu hwynebu. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl i wrthwynebu crefydd heb wrthwynebu'r rhagfarnau hynny mae crefydd wedi gwneud cymaint i'w hyrwyddo. O'r herwydd, nid wyf yn gallu gwahanu gwerthoedd positif fel cydraddoldeb a hawliau sifil oddi wrth anffyddiaeth ei hun. Dyneiddiaeth yw'r label traddodiadol ar gyfer y casgliad hwnnw o werthoedd positif, ond dylai anffyddiaeth olygu'r un peth yn union yn fy marn i. Ysywaeth, mae'r ffaith i'r ymadrodd 'atheism plus' gael ei fathu rai blynyddoedd yn ôl i ddisgrifio'r fersiwn o anffyddiaeth rwy'n ei disgrifio fan hyn yn awgrymu ein bod wedi colli'r ddadl.
Mae'r anghrefyddol yn cofleidio nifer o labelau gwahanol: anffyddwyr, dyneiddwyr, freethinkers neu rationalists. I mi, maent i gyd yn gyfystyr, a llai dryslyd fyddai i ni gyd ddewis un. Fel yr awgrymais, buaswn i'n ffafrio 'anffyddiaeth' i gwmpasu'r cyfan. Eto i gyd, ac er nad yw anffyddiaeth geidwadol yn gwneud synnwyr fel cysyniad, rwy'n cydnabod bod pobl yn bodoli sy'n gwrthod bodolaeth duw ond sydd, am ba bynnag reswm, yn parhau i wrthwynebu syniadau fel ffeminyddiaeth. Petai rhaid i mi ddewis, byddai'n well gennyf Gristion blaengar ei gwleidyddiaeth nag 'anffyddiwr' fel yna sy'n gwadu bodolaeth duw heb wrthod y rhagfarn (er bod rhesymeg y ddau yr un mor od i mi). Mae cydraddoldeb a hawliau sifil yn bwysicach na labelau, ac, yn wir, yn bwysicach na materion diwinyddol.

01/11/2016
Polio rhagfarn
Roedd yn ddigalon darllen canlyniadau'r arolwg yma ynghylch agweddau pobl Cymru tuag at ddeg o wahanol grwpiau ymysg y boblogaeth. Mae'n wir bod y canlyniadau'n well nag yr oeddent y tro diwethaf i'r cwestiynau gael eu holi yn 2011, ond mae 33% dal i ddweud yn blaen bod ganddynt agweddau anffafriol tuag at bobl sy'n ffoi rhag rhyfel, a 28% yn dweud yr un peth am fwslemiaid. Yn wir, mae 12% yn rhoi'r ateb lleiaf ffafriol posibl yn achos ceiswyr lloches, sy'n frawychus. 10% sy'n gwneud hynny ar gyfer mwslemiaid.
Efallai bod gwendid yng ngeiriad y cwestiwn, sef “[U]sing a scale from 0 to 10, where 0 means very unfavourable and 10 means very favourable, how do you feel about…” Rwy'n credu bod yma amwysedd. Petawn i, fel anffyddiwr rhonc, yn gorfod ateb y cwestiwn yma am fwslemiaid, ni fyddai'n rhwydd gwneud hynny o'i ddarllen yn llythrennol. Wedi'r cyfan, yr hyn sydd gan fwslemiaid yn gyffredin yw eu ffydd yn islam, a fy marn onest yw bod islam yn grefydd hollol hurt. Os oes gennyf agwedd mor negyddol tuag at yr hyn sy'n diffinio'r grŵp yma o bobl, oni ddylwn adlewyrchu hynny yn yr ateb?
Ond er fy nirmyg tuag at athrawiaethau islam, rwy'n hollol daer fy ngwrthwynebiad i ragfarn yn erbyn pobl sy'n arddel y ffydd. Mae'n amlwg yn hanfodol bod eu hawliau sifil yn cael eu parchu, a'u bod yn derbyn yr un croeso yn ein cymunedau ag unrhyw berson arall. Wrth ateb y cwestiwn, felly, buaswn yn gorfod defnyddio mymryn o synnwyr cyffredin. Byddai'n amlwg mai mesur rhagfarn yw nod yr arolwg, ac o ddeall hynny buaswn yn ateb 10 heb feddwl dwywaith. Nid oes lle i nuance fan hyn; mae'n debygol iawn mai rhagfarn islamoffobig sy'n ysgogi'r rhan fwyaf o bobl sy'n rhoi ateb anffafriol i'r cwestiwn hwn, a byddai unrhyw hollti blew am y geiriad yn cael ei gynnwys yn yr un blwch â'r casineb hwnnw.
Mae geirio cwestiynau fel hyn yn hynod anodd, wrth gwrs, ac mae angen bod yn gryno. Byddai perygl i unrhyw gwestiwn sy'n osgoi'r amwysedd uchod droi'n draethawd ynddo'i hun, a chanlyniad hynny fyddai anfon yr atebwyr i gysgu.
Byddai'n ddiddorol cynnwys Cristnogion ac anffyddwyr yn yr arolwg hefyd, gyda llaw, er y byddai'r un amwysedd yn bodoli yn yr achosion hynny hefyd.

25/09/2016
Wedi'r Chwyldro
Os oes un thema gyson i wleidyddiaeth y blynyddoedd diweddar, yna dyhead cynifer i gicio'r 'sefydliad' yw hwnnw. Eu cwyn, mae'n debyg, yw bod y bobl sydd â grym wedi colli cysylltiad â'r werin gyffredin, felly mae rhaid troi at bobl 'o'r tu allan' er mwyn ysgwyd pethau.
Mae hyn yn deg i raddau. Mae cyflwyno gwaed newydd a phersbectifau gwahanol i'r dosbarth llywodraethol yn amlwg yn gallu bod yn fuddiol, ac mae cadw ein harweinwyr ar flaenau'u traed yn hanfodol. Ond yn anffodus, ymddengys bod llawer o bobl bellach yn ystyried bod yn 'wrth-sefydliadol' yn rhinwedd ynddo'i hun. Eu hunig ystyriaeth yw sicrhau bod y 'sefydliad' presennol yn cael cweir.
Mae cael gwared ar 'y sefydliad' yn amhosibl, wrth gwrs, felly mae'n ddwl bod cynifer yn ei drin fel cysyniad haniaethol. Mae cicio'r sawl sydd mewn grym allan yn golygu gosod pobl eraill yn eu lle, ac hyd yn oed os yw'r bobl hynny wedi dod o'r 'tu allan', trwy gipio'r awennau mae'r rheiny wedyn yn dod yn aelodau o'r 'sefydliad'. Os cael rhyw fath o lywodraeth (ac oni bai eich bod yn anarchydd, mae rhaid), rhaid cael sefydliad. Nid yw hyn yn gymhleth.
Am ryw reswm, mae llawer yn dymuno i'w harweinwyr fod yn debyg iawn iddynt hwy'u hunain. Rwy'n casáu, â chas perffaith, y syniad mai'r ystyriaeth bwysicaf wrth ddewis eich hoff ymgeisydd yw 'pa un fyddai'n cynnig y gwmnïaeth orau dros beint?' Dylai'r bobl sy'n rhedeg y wlad fod yn llawer iawn iawn galluocach na fi. Mae rhedeg llywodraeth yn gamp rhyfeddol o anodd; ni ddylai fod yn swydd y gall unrhyw un ei chyflawni. Mae rhaid iddi fod yn swyddogaeth elitaidd yn ei hanfod.
Nid oes gan y 'sefydliad' ddiffiniad clir. Mae Nigel Farage yn ffigwr gwrth-sefydliadol poblogaidd, er ei fod yn filiwnydd a wnaeth ei ffortiwn yn y Ddinas ac sydd bellach yn wleidydd proffesiynol. Yn y cyfamser, mae Donald Trump wedi seilio'i holl ymgyrch arlywyddol ar y syniad ei fod yn eithriadol o wrth-sefydliadol, ond os nad yw biliwnydd sydd wedi bod yn ffigwr amlwg ers degawdau yn aelod o'r 'sefydliad', pwy ddiawl sydd? Dyna ddau ddyn sydd wedi llwyddo i feithrin y myth eu bod yn un o'r bobl gyffredin, er bod y syniad yn chwerthinllyd mewn gwirionedd. Dyma sut sut y darbwyllwyd cynifer o Lafurwyr traddodiadol, sy'n casáu'r Ceidwadwyr, i droi at UKIP, a hynny'n groes i'w buddiannau'u hunain gan fod y blaid honno'n fwy Thatcheraidd na Thatcher ei hun.
Yn achos Bernie Sanders, mae'r ffigwr gwrth-sefydliadol hwnnw wedi bod yn aelod o Gyngres UDA ers 1991. Rwy'n edmygu Bernie, a'n gresynu na chafodd enwebiad arlywyddol y Democratiaid, ond mae rhai o'i gefnogwyr yn dangos yn gliriach na dim bod y dicter gwrth-sefydliadol presennol yn gallu mynd yn hurt. Rwyf wedi sôn hyd syrffed am bobl sydd wedi pwdu wedi i Clinton ennill enwebiad y blaid, ac sydd o'r herwydd am gefnogi Trump neu Gary Johnson, ymgeisydd y Libertarians. Ymhob achos, mae Trump (sy'n ffasgydd) a Johnson (sydd am weld y wladwriaeth yn crebachu'n ddim ac sy'n credu mai'r farchnad yw'r ateb i bob un o broblemau bywyd) yn benderfynol o chwalu a datgymalu pob un dim sy'n annwyl i Sanders. Gallwn felly ddiystyru'r posibilrwydd bod y bobl hyn wedi cefnogi Sanders am resymau egwyddorol. Chwyldro er mwyn chwyldro yw eu nod. Chwalu'r consensws presennol heb boeni dim am yr hyn a fyddai'n cymryd ei le, hyd yn oed os yw'n arwain at ffasgaeth. Rwy'n ystyried yr agwedd yna'n bathetig o blentynnaidd. Rwy'n berwi â dirmyg at bobl fel hyn ar y funud.
Nid yw dymchwel y system bresennol yn ddigon felly. Mae'n hanfodol sicrhau bod rhywbeth gwell ar gael i'w osod yn ei le. Mae torri pethau'n hawdd. Gall unrhyw dwpsyn wneud hynny. Adeiladu yw'r gamp.
Fel mae'n digwydd, mae hyn yn berthnasol i ddadl fawr sydd wedi hollti'r 'mudiad anffyddiaeth' (os gellir ei alw'n hynny) ers ychydig o flynyddoedd bellach. Mae yna garfan sy'n mynnu mai'r cyfan yw anffyddiaeth yw'r diffiniad geiriadurol 'diffyg ffydd mew duw', a dyna ni. Yn ôl yr anffyddwyr hyn, nid oes gan anffyddiaeth unrhyw beth pellach i'w ddweud am yr hyn a ddylai gymryd lle crefydd. Rwy'n anghytuno'n chwyrn â'r safbwynt hwnnw. Mae goblygiadau anferthol i'r ffaith bod duw'n absennol, ac rwy'n mynnu bod cyfrifoldeb ar anffyddwyr sy'n dadlau'n erbyn crefydd i egluro sut fyd yr hoffem ei weld. Mae hyn yn anorfod yn golygu pwysleisio cyfiawnder cymdeithasol. Wedi'r cyfan, crefydd sy'n gyfrifol am lawer o'r gormes a ddioddefir gan fenywod, pobl gyfunrywiol a lleiafrifoedd ethnig (ac, yn wir, lleiafrifoedd crefyddol), ac fe ddylai cefnogi'r frwydr i sicrhau cydraddoldeb yn y meysydd hyn fod yn rhan annatod o anffyddiaeth ei hun. Nid yw'n gwneud synnwyr i gael gwared ar grefydd heb geisio cael gwared ar y rhagfarnau hynny sydd wedi bod mor ddibynnol arni ar hyd y blynyddoedd. Hawdd yw dangos pam mae crefydd yn anghywir. Mae'r gwaith caled yn dod wedyn.

04/08/2016
Ynghylch pwyntio bys
Darllenais So You've Been Publicly Shamed gan Jon Ronson yn ddiweddar. Mae'n sôn am bobl sydd wedi cael eu cywilyddio'n gyhoeddus oherwydd rhywbeth maent wedi'i ddweud neu ei wneud, yn gam neu'n gymwys. Mae'r we, a'r cyfryngau cymdeithasol yn enwedig, wedi hwyluso ein gallu i bwyntio bys, ac mae'n hawdd i feirniadaeth ysgafn droi'n pile-on blin o fewn dim o dro. Un o'r enghreifftiau a drafodir yw Justine Sacco, person di-nod ar Twitter heb lawer o ddilynwyr, a bostiodd jôc hiliol 'eironig' cyn i'w hawyren ddechrau am Cape Town. Erbyn iddi lanio, roedd hi'n elyn pennaf y wefan gyfan ac fe gafodd fraw ei bywyd wrth droi ei ffôn yn ôl ymlaen. Mae'r llyfr yn ddiddorol, a'n ein gorfodi i gofio bod person go iawn ar yr ochr arall. Mae'r wers honno'n bwysig, hyd yn oed os ydynt wedi dweud rhywbeth gwirioneddol erchyll.
Efallai y dylem gadw hyn mewn cof wrth ystyried y stori ddiweddaraf i gorddi'r Gymry Gymraeg, sef bod ymchwilydd i BBC Radio 5 Live wedi gwneud ymholiadau ar Twitter yn chwilio am gyfranwyr, gan ddweud yn benodol ei bod yn chwilio yn benodol am rywun 'to talk about why the Welsh language should die'. Aeth ati'n arbennig i wahodd dau ddyn sydd wedi gwneud sylwadau hynod ymfflamychol a thwp am yr iaith yn y gorffennol agos. Roedd ei dewis o eiriau'n syfrdanol o drwsgl a hyll.
Nawr, rwyf am rannu cyfrinach. Ers dechrau'r flwyddyn, rwyf wedi bod yn rhedeg cyfrif Twitter o'r enw Take That, Welsh. Y bwriad yw ail-drydar sylwadau dwl neu ddiflas am yr iaith Gymraeg. Nid mynd i ddadlau â'r bobl hyn yw'r nod; dim ond rhoi proc bach cynnil a gwneud y pwynt nad yw eu jôcs neu fyfyrdodau yn wreiddiol na'n ddiddorol o gwbl mewn gwirionedd. Beth bynnag, Take That, Welsh ail-drydarodd yr ymholiad uchod (ddiwrnod a hanner wedi iddio gael ei bostio), ac fe ffrwydrodd y Twitter Cymraeg bron yn syth. Er ei bod yn debygol y byddai rhywun arall wedi sylwi ar y neges yn hwyr neu'n hwyrach (mae'n rhyfeddol o hawdd dod o hyd i'r deunydd crai ar gyfer y cyfrif), rwyf felly'n teimlo peth cyfrifoldeb am y ffaith bod hyn wedi troi'n stori newyddion (gan ennyn ymateb y Comisiynydd, gwleidyddion a gwefan y Daily Mail). Mae gennyf deimladau cymysg am yr ymateb a gafwyd.
Nid yw'r ymchwilydd wedi dweud unrhyw beth o gwbl ers i'r sylw fynd yn feiral, ond buaswn yn dychmygu ei bod wedi cael braw gan ei bod wedi dileu'r trydariadau erbyn hyn. Er bod yr hyn a ddywedodd yn ymfflamychol, rwy'n gyndyn i'w beio hi'n unigol. Symptom o broblem sefydliadol a strwythurol yw beth ddigwyddodd mewn gwirionedd: cyfuniad o anwybodaeth lwyr am y Gymraeg a'i siaradwyr, a dyhead golygyddol i gynnwys safbwyntiau mor eithafol â phosibl er mwyn denu sylw. Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebion rwyf wedi'i gweld yn beio'r BBC fel corfforaeth, sy'n deg yn yr achos yma, ond mae ambell un wedi mynd ar ôl yr ymchwilydd yn benodol, sy'n anffodus. Gwnaed cwyn i'r heddlu, hyd yn oed, sy'n hollol wirion.
Fel cyfrwng, mae Twitter yn tueddu i annog pile-ons ar adegau fel hyn. Mae unigolion yn gweld yr hyn a ddywedwyd, a'n teimlo'r angen i leisio'u barn. Wrth gwrs, os oes cannoedd (neu filoedd, hyd yn oed) o unigolion yn gwneud hynny, gall fod yn brofiad anghynnes iawn i'r sawl sydd o dan y lach, hyd yn oed os nad dyna fwriad y rhan fwyaf o'r beirniaid.
Mae'r mater yma'n ddyrys. Roedd y trydariad yn annerbyniol, felly ni ddylid fod wedi'i anwybyddu. Mae'n syrffedus eithriadol gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth byth a beunydd. Nid yw'n help chwaith bod cynifer ohonom yn teimlo o dan warchae ers y stori ffug wirion am yr Orsedd a'n tîm pêl-droed y penwythnos diwethaf. Ond mae angen ystyried pwy yw'r person sy'n gyfrifol am ein gwylltio. Ni ddylid ymateb yn yr un modd i sylw gan ymchwilydd ag i sylw gan berson o statws uwch. Mae hefyd yn wahanol os yw'r person yn pigo ffrae neu'n bod yn ymosodol. Byddaf weithiau'n gweud hwyl am ben creadyddion ffwndamentalaidd, er enghraifft, sydd mor hyderus ac awyddus i herio er gwaethaf eu hanwybodaeth lwyr am theori esblygiadol. Ond dim ond gwneud ei swydd (a dilyn cyfarwyddiadau ei rheolwyr, yn ôl pob tebyg) oedd yr ymchwilydd.
Gyda llaw, fe ddarlledwyd yr eitem yn gynharach heddiw. Roedd yn sgwrs adeiladol a diddorol yn y diwedd, heb gyfraniad gan eithafwyr (roedd yno ddyn o'r Alban yn anhapus â'r syniad o wario rhyw lawer o arian cyhoeddus ar ieithoedd lleiafrifol, ond heb fod yn rhy ddwl am y peth). Efallai bod hyn yn dangos bod yr awydd i chwilio pob twll a chornel i ganfod y pobl mwyaf eithafol posibl yn wrth-gynhyrchiol, a bod hynny'n wers ychwanegol a ddysgwyd yn sgil yr helynt hwn.

14/06/2016
Cyflafan Orlando
Dyma ffaith syfrdanol: dros y penwythnos yn America, bu chwech achos gwahanol o saethu torfol. Un o'r rhain oedd y gwaethaf yn hanes y wlad; mae cadarnhad bod 49 wedi'u lladd mewn clwb nos yn Orlando sy'n boblogaidd â phobl hoyw. Dyma'r gyflafan waethaf yn erbyn hoywon yn y gorllewin ers yr Holocost.
Americanwr oedd y llofrudd, yn enedigol o Efrog Newydd, ond mae ei rieni o Affganistan. Mae'n debyg bod Omar Mateen wedi ffieiddio o weld dau ddyn yn cusanu, ac wedi mynd ati'n benodol i dargedu'r clwb hwn. Fe ddatganodd ei gefnogaeth i'r Wladwriaeth Islamaidd, ac er ei bod yn annhebygol bod y grŵp hwnnw wedi chwarae rhan yn y cynllunio, roeddent yn berffaith hapus i dderbyn y 'clod'. Unwaith y daeth i'r amlwg bod modd beio'r cyfan ar islam, roedd ymateb ceidwadwyr y wlad mor anochel ag y buasech wedi tybio.
Byddai ychydig o gyd-destun yn ddefnyddiol fan hyn. Bu ymosodiad erchyll ar Ysgol Sandy Hook yng Nghonnecticut ar Ragfyr 14, 2012, a lladdwyd 27. Roedd 20 ohonynt yn blant chwech a saith oed. Y gyflafan yn Orlando oedd y 998fed achos o saethu torfol ers hynny. Mae hynny'n cyfateb i bron un bob dydd, tros gyfnod o dair blynedd a hanner. Er y sgrechian gan geidwadwyr bod 'islamiaeth radical' yn bygwth y weriniaeth, dim ond tri o'r ymosodiadau hyn a gyflawnyd gan fwslemiaid eithafol. Wrth gwrs mae terfysgaeth islamaidd yn broblem (fel rwyf wedi'i drafod droeon), ond mae'n berffaith amlwg i bawb synhwyrol bod perthynas rhwng y rhestr anferth yma o achosion o saethu (sy'n hollol unigryw yn y byd gorllewinol) ac obsesiwn Americanwyr â gynnau. Er bod Mateen eisoes wedi dod i sylw'r gwasanaethau cudd yn y gorffennol, bu modd iddo brynu assault rifle AR-15 yn gwbl gyfreithlon. Arf ar gyfer maes rhyfel yw hwnnw; nid oes rheswm o fath yn y byd i'r fath beth fod ar gael i unigolion preifat.
Cri ceidwadwyr yw bod angen cadw Americanwyr yn saff. Y ffordd amlwg o wneud hynny yw newid y polisi gynnau, ond mae hynny'n wrthun iddynt. Yn anffodus, o gofio na newidiodd unrhyw beth yn dilyn y golygfeydd arswydus o Sandy Hook, nid oes llawer o obaith y bydd pethau'n wahanol y tro hwn chwaith. Mynnir na ddylid 'politiceiddio' digwyddiadau fel hyn. 'Nid nawr yw'r amser' i drafod y broblem gynnau, meddent. Lol llwyr yw hynny: dyma'r union amser i siarad am y peth a gweithredu. Os nad nawr, pryd? Esgus i aros i'r mater fynd yn angof a llithro oddi ar yr agenda yw dweud na ddylid trafod newid polisi fel ymateb uniongyrchol i'r fath ymosodiadau.
Llawer gwell gan y Gweriniaethwyr yw eistedd ar eu dwylo a gwneud dim ond cynnig eu 'meddyliau a'u gweddïau'. Dyna un o'm cas ymadroddion. Mae'n waeth nag ofer, a'n cymryd lle ateb go iawn. Mae gan aelodau'r Gyngres y gallu i rwystro ymosodiadau fel hyn trwy gyflwyno deddfau. Nid yw'r malu cachu diog a gwag yna'n helpu unrhyw un. Yn wir, mae hyd yn oed yn fwy rhagrithiol na'r arfer yn yr achos hwn, gan fod polisïau'r Gweriniaethwyr tuag at bobl hoyw'n llawn casineb hyll. Cafwyd y datganiad hwn gan Ted Cruz, er enghraifft, y dyn a ddaeth yn ail i Trump yn ras ar gyfer enwebiad arlywyddol y blaid eleni. Dywedodd:
Yr unig reswm mae ceidwadwyr y Gweriniaethwyr wedi cynhyrfu am y gyflafan hon yw mai mwslem oedd yn gyfrifol. Yn y cyfamser, ar yr un diwrnod, arestwyd dyn yn Los Angeles oedd ar ei ffordd i ymosod ar ddigwyddiad LA Pride. Roedd ganddo lond car o arfau a ffrwydron. Dyn gwyn o'r enw James Howell oedd hwnnw, a Christion yn ôl pob tebyg. Rhagfarn a chasineb yn erbyn pobl hoyw yw'r broblem fan hyn. Dylid canolbwyntio ar y dioddefwyr. Nid yw union ffydd y sawl sy'n eu targedu'n arbennig o bwysig; ffwndamentaliaid treisgar a rhagfarnllyd yw'r gelyn, beth bynnag eu hunion ddaliadau crefyddol. Mae'n anodd dweud y gwahaniaeth rhyngddynt yn y pen draw. Os yw'r Gweriniaethwyr o ddifrif am wrthwynebu'r Wladwriaeth Islamaidd, dylent gofleidio ac arddel hawliau pobl LHDT. Y gwir yw eu bod yn debycach i'w gelynion honedig nag y maent yn barod i'w gydnabod.
Diweddariad 14/6/16 18:25
Mae awgrymiadau erbyn hyn bod Mateen wedi mynychu'r clwb yn rheolaidd. Hyd yn oed os yw'n wir ei fod yn hoyw ei hun, ac mai hunan-gasineb neu rwystredigaeth ynghylch ei fethiannau rhamantaidd oedd ei gymhelliad, ni fyddai hynny'n newid unrhyw beth. Byddai'r ymosodiad yr un mor homoffobig. Fel yn achos Elliot Rodger, y misogynydd ifanc a benderfynodd bod ei anallu i ddarbwyllo'r un ferch i fod yn gariad iddo'n reswm da i saethu chwech o'i gyd-fyfyrwyr yn farw a chlwyfo 13 arall, y dybiaeth yw bod ganddynt hawl ddwyfol i gael mynediant i gyrff pobl eraill. Fel mae sawl un wedi nodi, symptom o machismo gwenwynig yw'r agwedd yma. Yr un machismo sy'n clodfori gynnau. Mae'r cyfuniad yn berygl bywyd, a menywod a lleiafrifoedd gorthrymedig sy'n dioddef waethaf.

If you’re a Democratic politician and you really want to stand for LGBT, show real courage and stand up against the vicious ideology that has targeted our fellow Americans for murder.Mae'r rhagrith yn codi cyfog. Nid oes gan Cruz unrhyw hawl i'r tir uchel moesol ar fater hawliau pobl LHDT, gan fod poeri casineb tuag atynt wedi bod yn sail i'w holl yrfa wleidyddol. Yn wir, fe rannodd lwyfan â Christion eithafol o'r enw Kevin Swanson sy'n dweud yn blaen y dylid dïenyddio pobl hoyw. Pan mae ymgeiswyr arlywyddol yn cofleidio rhywun felly, pa ryfedd bod rhywun yn mynd i geisio rhoi'r syniadau ar waith? Gan fod Cruz wedi gwrthod sawl cyfle i gondemnio Swanson, dylai fod yn onest a chymeradwyo Mateen.
Yr unig reswm mae ceidwadwyr y Gweriniaethwyr wedi cynhyrfu am y gyflafan hon yw mai mwslem oedd yn gyfrifol. Yn y cyfamser, ar yr un diwrnod, arestwyd dyn yn Los Angeles oedd ar ei ffordd i ymosod ar ddigwyddiad LA Pride. Roedd ganddo lond car o arfau a ffrwydron. Dyn gwyn o'r enw James Howell oedd hwnnw, a Christion yn ôl pob tebyg. Rhagfarn a chasineb yn erbyn pobl hoyw yw'r broblem fan hyn. Dylid canolbwyntio ar y dioddefwyr. Nid yw union ffydd y sawl sy'n eu targedu'n arbennig o bwysig; ffwndamentaliaid treisgar a rhagfarnllyd yw'r gelyn, beth bynnag eu hunion ddaliadau crefyddol. Mae'n anodd dweud y gwahaniaeth rhyngddynt yn y pen draw. Os yw'r Gweriniaethwyr o ddifrif am wrthwynebu'r Wladwriaeth Islamaidd, dylent gofleidio ac arddel hawliau pobl LHDT. Y gwir yw eu bod yn debycach i'w gelynion honedig nag y maent yn barod i'w gydnabod.
Diweddariad 14/6/16 18:25
Mae awgrymiadau erbyn hyn bod Mateen wedi mynychu'r clwb yn rheolaidd. Hyd yn oed os yw'n wir ei fod yn hoyw ei hun, ac mai hunan-gasineb neu rwystredigaeth ynghylch ei fethiannau rhamantaidd oedd ei gymhelliad, ni fyddai hynny'n newid unrhyw beth. Byddai'r ymosodiad yr un mor homoffobig. Fel yn achos Elliot Rodger, y misogynydd ifanc a benderfynodd bod ei anallu i ddarbwyllo'r un ferch i fod yn gariad iddo'n reswm da i saethu chwech o'i gyd-fyfyrwyr yn farw a chlwyfo 13 arall, y dybiaeth yw bod ganddynt hawl ddwyfol i gael mynediant i gyrff pobl eraill. Fel mae sawl un wedi nodi, symptom o machismo gwenwynig yw'r agwedd yma. Yr un machismo sy'n clodfori gynnau. Mae'r cyfuniad yn berygl bywyd, a menywod a lleiafrifoedd gorthrymedig sy'n dioddef waethaf.
03/05/2016
Gwrth-semitiaeth a'r chwith
Mae'n hen bryd i ni gydnabod a datrys problem ddifrifol, sef bod gan lawer gormod o bobl y chwith wleidyddol obsesiwn annifyr gydag Iddewon. Wrth gwrs, mae rhagfarn yn erbyn Iddewon yn hen stori, ac mae'r traddodiad yn parhau ymysg y dde eithafol hefyd. Ond y gwir yw bod llawer ar y chwith, er yn brolio'u hatgasedd tuag at hiliaeth, yn euog o'r un peth, hyd yn oed os nad ydynt yn sylweddoli hynny.
Mewn gwirionedd, mae hyn wedi bod yn berwi o dan yr wyneb ers talwm. Fe ffrwydrodd dros y dyddiau diwethaf, fodd bynnag, ar ôl i hen sylwadau gan yr aelod seneddol Llafur, Naz Shah, ddod i'r amlwg, ac ar ôl i Ken Livingstone waethygu pethau ymhellach wrth geisio'i hamddiffyn. Disgyblwyd mwy o wleidyddion o'r blaid heddiw wedi i hen sylwadau o'u heiddo hwythau ddod i sylw'r wasg. Ni fyddai'n syndod os oes mwy i ddod. Y canlyniad rhyfeddol yw mai stori fawr wleidyddol y foment, yn 2016, a hithau'n wythnos etholiadau pwysig, yw gwrth-semitiaeth o fewn prif blaid y chwith ym Mhrydain. Yn hytrach na thrafod y gwasanaeth iechyd ac addysg, rydym yn canfod ein hunain yn siarad am Hitler, cytundeb Haavara 1933, a Seionaeth. Fel rhywun sy'n gosod ei hun yn sicr iawn ar begwn chwith y sbectrwm, rwyf wedi cael llond bol.
Rwyf wedi esbonio fy safbwynt ynghylch Israel a Phalesteina o'r blaen. Yn syml iawn, rwy'n cytuno'n llwyr bod llawer o bolisïau llywodraeth Israel yn anfaddeuol, tra'n cydnabod bod Hamas yn fudiad adweithiol a threisgar sy'n gwneud y sefyllfa'n amhosibl. Dyna'r cyfan sydd angen ei ddweud am y pwnc, oherwydd dylem fod yn gofyn cwestiwn pwysicach: pam siarad am Israel o gwbl fan hyn?
Yr ymateb diflas i ffrae Livingstone gan gymaint o'i gefnogwyr oedd bod ei sylwadau'n ffeithiol wir. Na: nac oeddent. Ond y drwg, rwy'n credu, yw bod mynd i ddadl fanwl ynghylch union fwriad a chyd-destun hanesyddol cytundeb Haavara ac ati'n methu'r pwynt yn llwyr. Hyd yn oed petai sylwadau Livingstone yn berffaith wir, buasent yn dal i fod yn wrth-semitig, a buasai'r dyn yr un mor hiliol am eu dweud. Nid cywirdeb ei fersiwn o hanes sy'n berthnasol, ond yn hytrach y ffaith iddo benderfynu ymateb i sylw dwl rhywun arall am Israel trwy sôn am Hitler o gwbl. Nid oedd gan y Führer unrhyw beth i'w wneud â'r mater o dan sylw. Mae'r ffaith mai malu awyr am hwnnw oedd greddf Livingstone yn hen ddigon o dystiolaeth i'w alw'n dwpsyn hiliol, heb fod angen ffonio hanesydd. Dylid cofio hefyd bod ganddo record hir o ddweud pethau dwl am Iddewon. Nid un sylw unigol yw'r drwg, felly, ond y ffaith mai dyma'r diweddaraf yn unig. Mae'n dipyn o obsesiwn ganddo.
Wrth gwrs ei bod yn wir bod y label 'gwrth-semitiaeth' yn aml cael ei ddefnyddio i bardduo a thawelu beirniadaeth deg o lywodraeth Israel. Ond nid dyna ddigwyddodd yn yr achos yma. Mae Ken Livingstone wedi cael ei gyhuddo o fod yn wrth-semitydd oherwydd ei fod, mewn gwirionedd, yn hilgi gwrth-semitig. Rwy'n amheus iawn o unrhyw un sy'n cael trafferth deall hynny, ac o unrhyw un sy'n gwadu bodolaeth y broblem yn ehangach.

For those in any doubt, this is just a little snapshot of what Antisemitism in 2016 looks like. It is very real. pic.twitter.com/aCImyG6OeC— Luciana Berger (@lucianaberger) April 28, 2016
20/01/2016
Donald Trump a chyflwr y Gweriniaethwyr
Cefais fy synnu pan gyhoeddodd Donald Trump ei fwriad i ymgyrchu i fod yn arlywydd UDA. Roedd wedi chwarae â'r syniad yn gyhoeddus ers blynyddoedd, ond tybiais cyn hynny mai tacteg i gadw'i enw yn y newyddion oedd hynny, ac nad oedd ganddo unrhyw fwriad i ymgymryd â'r gwaith caled o redeg ymgyrch go iawn. Wrth gwrs, nid yn unig yr oedd y dybiaeth honno'n anghywir, ond mae'n bosibl iawn y bydd yn ennill yr enwebiad.Ers iddo ymuno â'r ras, mae'r sylwebyddion wedi bod yn proffwydo'i dranc, a'n enwedig felly ar ôl iddo ddweud pethau twp (sy'n ddigwyddiad wythnosol). Y gwrthwyneb sydd wedi bod yn wir, wrth gwrs: mae cefnogaeth Trump, os rywbeth, wedi cryfhau gyda phob sarhad hyll a ddaw o'i enau. Yn groes i bob disgwyl, erbyn heddiw, lai na phythefnos cyn yr etholiadau cynradd cyntaf yn Iowa, mae ei sefyllfa'n gryfach nag erioed. Mae ymhell ar y blaen yn yr arolygon cenedlaethol. Ni ddylid canolbwyntio'n ormodol ar rheiny mewn gwirionedd, gan mai fesul taleithiau unigol y daw'r pleidleisiau, ond er ei bod yn wir mai Ted Cruz sydd ar y blaen yn Iowa, mae Trump yn ail agos (a'n bell ar y blaen yn y taleithiau nesaf, sef New Hampshire a De Carolina). Mae llawer, gan gynnwys Nate Silver, yn mynnu ei fod yn annhebygol o gipio'r enwebiad yn y pen draw, ond rwy'n credu bod ganddo siawns ryfeddol o dda. Gobaith mawr ei wrthwynebwyr yw bod ei ddiffyg profiad gwleidyddol yn golygu nad oes ganddo'r drefniadaeth - y ground game bondigrybwyll - i sicrhau bod ei gefnogwyr i gyd yn llwyddo i bleidleisio drosto (gall y system fod yn gymhleth, diflas ac affwysol o hir mewn rhai taleithiau).
Rhethreg gwrth-fewnfudwyr yw ei brif thema, wrth gwrs. Wrth lansio'i ymgyrch, fe ddywedodd bod Mecsico'n 'anfon' eu troseddwyr rhyw dros y ffin. Dyna'i ddymuniad hefyd i fonitro mwslemiaid yn America, a hyd yn oed i'w gwahardd rhag cael mynediad i'r wlad yn gyfan gwbl. Mae hefyd wedi ymfalchïo bod rhai o'i gefnogwyr wedi rhoi cweir i brotestwyr croenddu, ac mae'n hoff o bardduo a sarhau menywod. Er hynny, neu, fwy na thebyg, o'r herwydd, mae wedi mwynhau mwy o sylw yn y cyfryngau na'r ymgeiswyr eraill i gyd gyda'i gilydd.
Ai ffasgydd yw Trump? Mae'n gyhuddiad a deflir yn rhy rhwydd yn aml, ond yn yr achos hwn mae'n gwestiwn teg. Yn sicr, mae'n ticio nifer o'r bocsys. Ei arfer o godi bwganod senoffobaidd yw'r un amlwg: fel y dywedais, mae Trump wedi mynd i ymdrech arbennig i ddieithrio'r 'arall', gan fwydo paranoia llawer o'i ddilynwyr (hiliol, gwyn) ynghylch y newidiadau demograffig sy'n digwydd mor gyflym i'r boblogaeth ar hyn o bryd. Ceir hefyd y rhethreg ffasgaidd glasurol ynghylch palingenesis, yr angen i 'ad-ennill y wlad', sydd wedi dirywio i'r graddau bod angen ei ail-godi'n llwyr (teitl llyfr newydd Trump yw Crippled America).
Mae machismo yn elfen berthnasol arall. Ateb Trump i bopeth yw ei fod am gyflawni campau trwy wydnwch a grym pur ei bersonoliaeth (nid oes sôn o fath yn y byd am fanylion na sylwedd yn ei areithiau). Ei hoff sarhad yw galw'r ymgeiswyr eraill yn 'wan' a dweud bod ganddynt 'ddiffyg egni'. Mae'r misogynistiaeth yn rhan o hyn hefyd, wrth gwrs, a cheir awgrym clir o reddf unbeniaethol. Bwli ydyw, i bob pwrpas.
Wedi dweud hyn i gyd, oedaf cyn ei alw'n ffasgydd o'r iawn ryw. Yn un peth, mae gan ffasgwyr fel arfer adain barafilwrol. Mae'n ddychrynllyd pa mor agos mae Trump yn dod at dicio'r bocs yma hefyd, oherwydd mae Trump wedi annog trais yn erbyn protestwyr, ac mae sawl ciwed o ffug-filwyr hunan-benodedig hanner-pan asgell-dde (fel yr Oath Keepers) wedi datgan eu cefnogaeth. Ond (am y tro!) mae digon o bellter rhyngddo a'r ffyliaid sinistr hyn fel nad oes modd eu galw'n fyddin bersonol. Fodd bynnag, y prif reswm nad yw Trump yn ffasgydd yw ei fod, yn llythrennol, yn rhy dwp. Nid dyn ideolegol ydyw, mewn gwirionedd. Rwy'n gyndyn nad oes ganddo syniadaeth wleidyddol ystyrlon. Yn wir, awn mor bell â mynnu nad oes ganddo'r gallu i ffurfio'r fath beth. Beth bynnag eich barn am arweinwyr ffasgaidd hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, roeddent yn bobl ddeallusol gyda gweledigaeth bendant a thrwyadl.
Cofier bod 'Y Donald' yn ffigwr cyhoeddus ers degawdau. Nes yn gymharol ddiweddar, bu'n weddol ryddfrydol ynghylch materion cymdeithasol (yn wir, fe roddodd arian i'r Clintoniaid yn y 90au). Mae'r ffaith ei fod bellach yn smalio bod yn Gristion o argyhoeddiad yn adrodd cyfrolau; mae'n amlwg nad oes ganddo'r syniad cyntaf am y ffydd. Ysywaeth, mae'r ffars, rywsut, yn plesio. Mae'n amlwg felly mai'r unig bethau sy'n gyrru Trump yw ei ego, a'r dyhead i gipio grym er ei fwyn ei hun. Os oes y fath beth â Thrwmpiaeth, yna'r diffiniad yw 'beth bynnag sy'n dda i Donald Trump'. Y jôc yw mai un o'i brif rinweddau, yn ôl llawer o'i gefnogwyr, yw ei 'barodrwydd i'w dweud hi'n blaen fel ag y mae hi'. Dyna wrthwyneb llwyr y gwir.
Demagog poblyddol ydyw felly, fwy na ffasgydd. Ni ddylai hynny gynnig cysur, gyda llaw. Rhaid holi sut y daeth y fath gymeriad yn ffigwr mor amlwg yng ngwleidyddiaeth gwlad rymusaf y byd. Y broblem yw bod yr holl sylw i Trump, a'r modd y mae'r cyfryngau'n ei drafod, yn awgrymu ei fod yn bodoli mewn rhyw fath o wacter, fel petai wedi ymddangos o nunlle; roedd y modd y tybiodd y cyfryngau ar y pryd bod ei sylwadau ymfflamychol yn debygol o'i niweidio yn dangos yn glir nad ydynt wedi deall y ffenomen. Y gwir amdani yw mai symptom o broblem ddyfnach yw Trump. Nid y dyn ei hun yw'r drwg, ond bodolaeth cynifer o bobl sydd mor barod i'w gefnogi. Dyma ffaith y mae'n hanfodol i America ymgynefino â hi: mae cyfran anferth o'i phoblogaeth yn arswydus o dwp a rhagfarnllyd. A bai'r Gweriniaethwyr yw'r ffaith bod y garfan yma bellach mor swnllyd.
Mae hanes y dde adweithiol yn America yn hysbys. Gwyddom bod hiliaeth yn broblem anferthol yno hyd heddiw, hyd yn oed os nad yw bellach yn dderbyniol i'w fynegi yn yr un termau amrwd ag y bu yn y gorffennol. Yn hytrach, defnyddir y 'chwiban ci', sef math o gôd sy'n swnio'n gymharol ddi-niwed a didwyll ar un olwg ond sy'n glir ei oblygiadau hiliol i'r gynulleidfa darged. Dyma oedd craidd Strategaeth y De, o gyfnod Nixon ymlaen. Mynegwyd y syniad orau yn 1981 gan un o'i arloeswyr, Lee Atwater, a oedd ar y pryd yn ymgynghorydd yng ngweinyddiaeth Reagan:
You start out in 1954 by saying, "Nigger, nigger, nigger." By 1968 you can't say "nigger"—that hurts you. Backfires. So you say stuff like forced busing, states' rights and all that stuff. You're getting so abstract now [that] you're talking about cutting taxes, and all these things you're talking about are totally economic things and a byproduct of them is [that] blacks get hurt worse than whites. And subconsciously maybe that is part of it. I'm not saying that. But I'm saying that if it is getting that abstract, and that coded, that we are doing away with the racial problem one way or the other. You follow me—because obviously sitting around saying, "We want to cut this," is much more abstract than even the busing thing, and a hell of a lot more abstract than "Nigger, nigger."Dyma sut mae llywodraethau Gweriniaethol wedi llwyddo i hyrwyddo polisïau hiliol tra'n cadw'r gallu i wadu'r peth (gyda winc). Mae'r pleidleisiwyr hiliol yn gwybod yn iawn beth yw'r amcan, ac felly'n eu cefnogi'n frwd. Mae'r blaid wedi bod yn bwydo a meithrin yr hiliaeth 'gudd' yma ers blynyddoedd. Nid ymddangos o nunlle y mae cefnogwyr Trump wedi'i wneud, eithr magu hyder (a dychryn o weld arlywydd croenddu yn y Tŷ Gwyn). Digwyddiad allweddol yn y broses hon, efallai, oedd penderfyniad hollol anghyfrifol John McCain - aelod o sefydliad 'cymhedrol' y blaid - i ddewis Sarah Palin fel ei ddarpar-is-arlywydd yn 2008. Fel Trump, mae hi'n glown llwyr, ac fe fanteisiodd i'r eithaf ar y sylw gan ddod yn un o arwyr ysbrydol y Tea Party. Fel mae'n digwydd, fe ddatganodd Palin ei chefnogaeth i Trump heno; mae'r ffaith ei bod yn gwneud hynny er i Trump ymosod yn hyll ar McCain yn symbol berffaith o'r modd y creodd y blaid fwystfil sydd wedi tyfu tu hwnt i'w rheolaeth. Mae arweinwyr sefydliadol y Gweriniaethwyr bellach mewn panig.
Y perygl yw bod eithafiaeth Trump wedi gwthio ffenestr Overton hyd yn oed ymhellach i'r dde nag yr oedd yn barod, gan wneud i rywun fel Ted Cruz edrych yn dderbyniol mewn cymhariaeth. A dweud y gwir, buaswn i'n awgrymu bod Cruz hyd yn oed yn waeth na Trump mewn sawl ffordd. Er mai Trump sy'n cael y rhan fwyaf o'r sylw oherwydd ei ymgyrch anghonfensiynol a'i ddiffyg urddas, mae Cruz yn cytuno ag ef ynghylch y materion mwyaf dadleuol. Efallai bod y ffaith bod Cruz yn Seneddwr, a'n wleidydd medrusach, yn gwneud iddo swnio'n llai eithafol. Mae hefyd, yn wahanol i Trump, yn ddyn deallus a chanddo weledigaeth ac egwyddorion clir (er hollol frawychus). Yn hynny o beth, gellir dadlau bod Cruz hyd yn oed yn nes at fod yn ffasgydd nag yw Trump. Beth bynnag, mae'r ddau'n arddel y math o wleidyddiaeth sy'n cael ei neilltuo, fwy neu lai, yn Ewrop, i bleidiau penodol lled neo-ffasgaidd. Y ffaith bod Trump a Cruz yn gweithredu o fewn system wleidyddol dwybleidiol America sy'n niwlogi'r ffin.
Fe ddywedais yn gynharach nad ffasgydd mo Trump. Ond mae'n hawdd dychmygu ei gefnogwyr yn cefnogi ffasgydd go iawn petai un o'r rheiny'n ymddangos. Mae arwyddion mai Cruz yw ail ddewis llawer o gefnogwyr Trump. Felly'r gwir plaen amdani yw bod oddeutu 60% o gefnogwyr y Gweriniaethwyr yn cefnogi rhywbeth tebyg i ffasgaeth. Mewn geiriau plaen, mae mwyafrif o gefnogwyr un o ddwy brif blaid America yn agos at fod yn ffasgwyr. Ni fyddai'n cymryd llawer iddynt gymryd y naid olaf yna, yn fy marn i. Mae'r deunydd crai yno.
Oni bai bod cefnogaeth Marco Rubio - unig obaith y sefydliad erbyn hyn - yn cynyddu'n sydyn, ymddengys yn fwyfwy tebygol mai dewis rhwng Trump a Cruz fydd raid. Y ffaith ryfeddol yw ei bod yn bosibl, yn fy marn i, y byddai'n well gan sefydliad y Gwerinaiethwyr weld Trump yn ennill yr enwebiad na Cruz. Mae hyd yn oed llawer o gyd-weithwyr Cruz, gan gynnwys rhai o aelodau'r Tea Party, yn casáu Cruz oherwydd ei unplygrwydd a'i drahauster. Mewn etholiad cyffredinol, mae'n bosibl dychmygu Trump - sy'n fodlon dweud beth bynnag sy'n gyfleus iddo - yn anghofio popeth am ei ddaliadau blaenorol a smalio bod yn greadur y canol drachefn. Nid yw hynny'n wir o gwbl yn achos Cruz. Ar ben hynny, mae posibilrwydd cryf y byddai Trump yn pwdu'n arw petai'n colli, a'n sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Byddai hynny'n gwneud pethau hyd yn oed yn haws i'r Democratiaid.
Pwy bynnag sy'n ennill yr enwebiad, mae'n anodd iawn dychmygu Arlywydd Trump neu Arlywydd Cruz. Er eu poblogrwydd o fewn eu plaid eu hunain, nid yw gweddill y boblogaeth yn meddwl rhyw lawer o'r naill na'r llall. Ond yn y wlad ryfedd yna, ni ddylid bod yn ddi-hid am y posibilrwydd, a dylai'r syniad godi braw ar bawb call. Beth bynnag yw'r canlyniad ym mis Tachwedd, mae'r broblem ar ochr y Gweriniaethwyr yn achosi niwed aruthrol i wleidyddiaeth America.
11/10/2015
Canlyniadau peryglus amharodrwydd y chwith i feirniadu islam
Mae'n debyg bod grŵp o'r enw 'Infidels of North Wales' yn bwriadu cynnal rali yn Llangefni ymhen mis. Fel inffidel balch o ogledd Cymru, dylai'r enw fod yn atyniadol i mi. Yn anffodus, buan iawn y daw i'r amlwg mai ffasgiaid hiliol 'Britain First'-aidd asgell dde ydynt. Mae ganddynt obsesiwn ynghylch mewnfudo, ond dim ond, fe ymddengys, yn achos mwslemiaid, er mai canran fechan iawn o fewnfudwyr mwslemaidd sy'n dewis ymgartrefu yng ngogledd Cymru. Saeson gwyn yw'r mwyafrif anferth o fewnfudwyr i'r rhan yma o'r byd, ond ymddengys nad ydynt hwy'n cyfrif yn ôl y bobl yma. Afraid dweud nad oes gair o Gymraeg ar eu tudalen, ond efallai bod hynny'n beth da yn yr achos hwn, gan eu bod yn bobl ffiaidd. Rwy'n flin bod grŵp fel hyn yn ceisio rhoi'r argraff eu bod yn fy nghynrychioli mewn unrhyw ffordd.
Mae'n amlygu problem yn ein hymateb i islam, serch hynny. Rwyf wedi trafod amharodrwydd y chwith i feirniadu islam hyd syrffed. Heb ail-adrodd fy hun eto, mae problemau enfawr gydag islam, ac mae pethau ofnadwy yn cael eu cyfiawnhau yn enw'r ffydd honno. Dylid beirniadu'r grefydd o safbwynt rhyddfrydol asgell chwith, ond mae tuedd i osgoi gwneud hynny oherwydd pryderon bod hynny'n hiliol. Y broblem yw bod ein cyndynrwydd i feirniadu'r ffydd yn gall a phwyllog yn creu gwacter sy'n cael eu lenwi gan ffyliaid paranoid ffasgaidd fel y grŵp uchod. Os mai prif wrthwynebwyr islam yw hilgwn fel hyn, sy'n blaenoriaethu rhagfarn ar draul dadleuon synhwyrol, byddai hynny'n drychinebus a pheryglus. Mae mawr angen beirniadu islam, ac mae'n bwysig mai ni sy'n gwneud hynny amlycaf, yn hytrach na nhw.

20/04/2015
Ynghylch ymateb i gorddwyr proffesiynol
Mae pawb wedi clywed am y golofn warthus a ymddangosodd yn y Sun dros y penwythnos, lle argymhellodd yr awdur (nad wyf am ffwdanu ei henwi) saethu'r 'cockroaches' sy'n ceisio ffoi o ogledd Affrica i Ewrop. Gwarthus iawn wrth gwrs. Mae'r awdur yn llwyddo i wneud bywoliaeth trwy ddweud y pethau mwyaf ymfflamychol sy'n dod i'w phen, ac mae rhai papurau newydd yn hapus i gyhoeddi'r rwtsh, yn rhannol er mwyn denu sylw. Mae'n strategaeth lwyddiannus, oherwydd dyma fi.
Sut ddylai pobl synhwyrol ymateb i'r stwff yma? Dechreuwn trwy ddweud sut na ddylid gwneud. Yn benodol, ni ddylwn alw'r heddlu. Er mor uffernol y safbwynt, ni ddylai ei fynegi fod yn anghyfreithlon. Dylai fod ganddi hawl i'w barn, a dylai fod gan bapurau newydd yr hawl i roi platfform iddi os mai dyna'u dymuniad.
Yn ail, ni ddylwn geisio cysuro'n hunain trwy ddweud bod 1) ei barn yn unigryw, a 2) nad yw'n ddidwyll. Y gwir yw mai'r hyn sy'n frawychus am y golofn yw'r ffaith ei bod yn adlewyrchu barn lled-gyffredin, nid ei bod rywsut yn eithriadol. Rhaid i ni roi'r gorau i dwyllo ein hunain bod rhagfarn yn beth prin erbyn hyn.
Gallwn gymharu'r sefyllfa â phobl fel Ann Coulter a Rush Limbaugh yn America, shock jocks sy'n ymhyfrydu mewn dweud pethau twp ac ymfflamychol iawn am ryddfrydwyr a Democratiaid, ac sy'n gwerthu llyfrau, a denu gwylwyr a gwrandawyr, wrth eu miliynau. Dro ar ôl tro, fe welwch bobl synhwyrol yn gwadu'r posibilrwydd bod y ddau wir yn credu'r hyn y maent yn ei ddweud, gan eu bod mor 'eithafol'; dim ond chwarae cymeriad er mwyn gwneud arian y maent, meddir. Mae'r celwydd yma'n anghyfrifol. Wedi'r cyfan, os oes ganddynt gynulleidfa o filiynau, a'r rheiny i gyd yn amlwg yn cytuno â'r hyn sy'n cael ei ddweud, yna nid yw'n annhebygol o gwbl bod Coulter a Limbaugh eu hunain yn ei gredu hefyd. QED. Mae'r un rhesymeg yn dilyn yn achos awdur y golofn uchod; gwirion fyddai awgrymu bod mwyafrif, neu nyd yn oed leiafrif sylweddol, o'r darllenwyr yn ffieiddio. Y gwrthwyneb sy'n debygol o fod yn wir.
Dyma pam rwy'n amheus iawn bod anwybyddu pobl fel hyn yn ddoeth. Nid yw cuddio'n pennau yn y tywod yn debygol o gyflawni unrhyw beth o werth. Rhaid ei herio'n ffyrnig. Mae'r byd yn llawn pobl annifyr iawn o hyd, a dylid cydnabod hynny.

14/04/2015
Yn erbyn goddefgarwch
Mae tybiaeth gyffredinol bod goddefgarwch yn beth da. Os mai'r hyn a olygir yw 'cyd-fyw yn ddedwydd', mewn ffordd arwynebol, pwy all anghytuno? Ond wrth feddwl am y peth am funud, fe sylwch nad yw'r cysyniad yn gwneud rhyw lawer o synnwyr.
Er enghraifft, beth yn union mae 'goddefgarwch' yn ei feddwl wrth ystyried agweddau tuag at bobl cyfunrywiol neu o leiafrifoedd ethnig? Mae'r gair yn awgrymu dygymod â rhywbeth annymunol. Os ydych yn 'goddef' grwpiau fel hynny, mae'n dilyn bod gennych broblem â hwy ond eich bod yn cadw'n dawel am y peth, oherwydd bod cyfaddef hynny bellach yn dabŵ. Mewn gwirionedd, mae'n rhaid i chi fod yn ragfarnllyd i orfod goddef o gwbl yn y cyd-destun hwn. Os nad ydych yn meddu ar y rhagfarnau hynny, a'n deall nad oes unrhyw beth yn bod ar gyfunrywioldeb neu liw croen gwahanol, nid oes unrhyw beth i'w oddef yn y lle cyntaf. Camargraff cyffredin yw mai 'goddefgarwch' yw gwrthwyneb 'rhagfarn', ond rhagfarn gyfrinachol ydyw mewn gwirionedd.
Ar y llaw arall, os ydych yn credu bod rhywbeth yn annerbyniol, pam ei oddef? Rwy'n ffieiddio at homoffobia, hiliaeth a rhywiaeth, ac rwy'n gwrthod eu 'goddef'. Yn wir, mae 'goddef' y fath anoddefgarwch yn anfoesol. Wrth gwrs, rwy'n ffieiddio hefyd at y syniad o wahardd mynegi'r safbwyntiau hynny mewn unrhyw ffordd. Ond nid 'goddefgarwch' mo 'caniatáu' i bobl rhagfarnllyd ddweud eu dweud; nid yw, ac ni ddylai fod, o fewn fy ngallu i'w rhwystro hyd yn oed petai hynny'n ddymuniad gennyf.
Mae 'goddefgarwch crefyddol' yn gysyniad llithrig arall. Beth mae'n ei olygu i ddweud eich bod yn goddef crefydd benodol? Na ddylai'r sawl sy'n credu ynddi (gan gymryd nad ydynt yn niweidio eraill) gael eu herlyn neu eu herlid? Dylai hynny fod yn sylfaenol ac amlwg. Yn aml, defnyddir y syniad o oddefgarwch crefyddol er mwyn ceisio gorfodi pobl eraill i 'barchu' rheolau crefydd nad ydynt yn credu ynddi. Un o ganlyniadau chwerthinllyd hyn yw cyhuddo pobl o 'anoddefgarwch' am iddynt lunio cartwnau di-niwed o ddyn Arabaidd barfog, er enghraifft. Nid wyf yn parchu rheolau nac athrawiaethau crefyddol o gwbl, ond rwy'n chwyrn o blaid hawl pobl i'w harddel. Unwaith eto, nid yw 'goddefgarwch' nac yma nac acw. Da fyddai claddu'r gair.

Subscribe to:
Posts (Atom)