Mae'n anodd dychmygu eitem deledu llai apelgar na Piers Morgan yn dadlau gyda Nigel Farage am sylwadau ffiaidd gan Ann Widdecombe. Pwy ddychmygodd y byddai'r canlyniad mor affwysol o dwp?
Mae gan Widdecombe hen hanes o ddweud pethau hyll am gyfunrywioldeb. Yn ddiweddar, fe ategodd y syniad y bydd modd i wyddoniaeth 'wella' hoywon. Daeth Farage i'w hamddiffyn, ar y sail 'that devout Christians should be allowed to have their opinion'.
Wrth gwrs, nid yw'r ateb yna'n amddiffyniad o fath yn y byd. Mae'n ddi-sylwedd a phathetig am nifer o resymau. Yn un peth, os mai'r peth gorau y mae modd ei ddweud am sylwadau Widdecombe yw nad yw'n anghyfreithlon iddi eu dweud, dyna gliw eithaf amlwg nad oes amddiffyniad call ar gael.
Boed oherwydd ei fod yn anonest neu'n ddwl, neu gyfuniad o'r ddau, mae Farage yn ceisio dadlau mai ystyr rhyddid mynegiant yw cael dweud pethau hurt a hyll heb i unrhyw un arall gael herio'n ôl. Yn hytrach, holl bwynt rhyddid mynegiant yw bod sylwadau atgas yn ennyn gwawd pawb arall. Yn yr un modd, nid goddefgarwch yw goddef anoddefgarwch.
Syniad dwl arall fan hyn yw bod dweud pethau rhagfarnllyd yn dderbyniol cyn belled bod y siaradwr wir yn eu credu ag arddeliad, yn enwedig os ydynt wedi'u seilio ar ffydd grefyddol. O, mae hi'n daer a diffuant wrth fynnu bod rhywbeth yn bod ar hoywon? Wel dyna ni, popeth yn iawn felly! Nid yw'n hawdd canfod y geiriau i fynegi pa mor blentynnaidd yw'r ffordd yma o feddwl. Yn yr un modd, os oes miliynau o babyddion yn credu'r hyn y mae Widdecombe yn ei gredu, nid yw hynny'n gwneud y safbwynt yn dderbyniol. Mae'n golygu bod y miliynau hynny i gyd yn rhagfarnllyd hefyd. Ni ddylai hyn fod yn anodd.
Showing posts with label pabyddiaeth. Show all posts
Showing posts with label pabyddiaeth. Show all posts
05/06/2019
29/01/2019
Amddiffyn yr eglwys babyddol, am unwaith
Yr wythnos ddiwethaf, gollyngwyd yr argymhelliad y dylid cymryd seibiant o saith diwrnod wrth gymryd y bilsen atgenedlu. Pan welais i erthyglau'n esbonio mai tarddiad y cyngor oedd ymgais i gyfaddawdu â'r Pab, roeddwn i'n wirioneddol gegrwth.
Ond, er mor hoff yr wyf o ladd ar yr eglwys babyddol (y cartel gwarchod paedoffeiliaid gwaethaf a welodd y byd erioed), ac er ei bod yn wir bod un o brif ddatblygwyr y bilsen wedi ceisio'i chyfiawnhau i'r Pab ar sail y saib saith diwrnod, mae'n debyg bod mwy i'r stori na hynny a bod sail feddygol (er cyfeiliornus) i'r cyngor gwreiddiol. Byddai wir wedi bod yn sgandal anghredadwy petai'r fath gyngor yn ddim mwy nag ymgais ofer i blesio Pïws XII, yn enwedig gan nad oes yr un pab yn ystod y 60 blynedd canlynol wedi dod yn agos at gymeradwyo'i defnydd.
Efallai bod beio Pab o'r 1950au yn fodd o osgoi cwestiynu'r gwir reswm am barhau â chyngor mor anghywir mor hir. Fel y dywed Alice Howarth, ni fyddai hyn wedi digwydd petai'n effeithio ar ddynion:

Studies have shown repeatedly that our medical system has an inherent bias against women. Women presenting with pain are more frequently given sedatives than painkillers, where men are given painkillers. Women with coronary heart disease have delayed treatment compared with men. And people even rate the perceived pain of a paediatric patient differently, depending on whether they are told the patient is male or female.
We now have another clear example to add to the pile: women are exposed to unnecessary, inconvenient, uncomfortable and potentially damaging monthly bleeds for no reason other than that nobody thought to question whether those bleeds were necessaryEr ei bod yn wir bod agwedd yr eglwys babyddol tuag at fenywod yn echrydus, ac mae'n ddyletswydd ar bawb i'w beirniadu'n flin am hynny, mae'n bwysig ein bod yn sylweddoli bod rhagfarn yn erbyn menywod wedi ymdreiddio i'r meysydd mwyaf seciwlar yn ogystal. Mae lladd ar y Pab yn hawdd (ac, fel arfer, yn gyfiawn); llawer anos yw craffu ar ein rhagfarnau ein hunain.
20/06/2015
Clap araf i'r Pab
Mae'r Pab wedi derbyn llawer o glod yr wythnos yma wedi iddo gyhoeddi cylchlythyr yn dweud bod angen gwneud mwy i ddatrys y broblem newid hinsawdd, ac mai cyfrifoldeb gwledydd cyfoethog yw hynny'n bennaf. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad i raddau; gwell hyn na dim, am wn i. Ond peidied â mynd dros ben llestri; nid yw'n agos at fod mor arwyddocaol ag y mae rhai'n ei awgrymu.
Yn un peth, nid yw pobl - gan gynnwys Pabyddion eu hunain - yn tueddu i ddilyn cyngor yr eglwys ynghylch materion economaidd a'r amgylchedd. Mae'r eglwys, er ei holl ffaeleddau, wedi bod yn gymharol flaengar ynghylch pethau felly ers rhai degawdau - mwy felly na'r rhan fwyaf o'i haelodau ar lawr gwlad - ond go brin bod hynny wedi cael unrhyw effaith.
Mewn ffordd, mae hynny'n gyfiawn. O ystyried statws yr eglwys fel y cartel gwarchod pedoffeiliaid gwaethaf a welodd y byd erioed, nid oes ganddi unrhyw hygrededd moesol ar ôl mewn gwirionedd. Ni ddylai pobl wrando arni. Yn anffodus, fodd bynnag, pery'r eglwys yn ddylanwadol mewn rhai meysydd cymdeithasol. Yn arbennig felly, wrth gwrs, yn achos atalgenhedlu ac erthylu, dau beth y mae'r eglwys yn ei wahardd yn chwyrn.
Nid mater moesol yn unig mo hawl menywod i reoli'u cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Mae'n fater ymarferol hefyd yng nghyd-destun yr amgylchedd. Dau ffactor allweddol sy'n cyfrannu'n helaeth at ddirywiad ein byd yw gorboblogaeth a thlodi. Mae'n amhosibl datrys y ddwy broblem honno heb sicrhau bod gan bob menyw'r hawl a'r gallu i ddefnyddio dulliau atgenhedlu, gan gynnwys erthyliad. Dyna'r man cychwyn. Ond ategu ei wrthwynebiad i'r ateb hwnnw a wna'r Pab yn ei gylchlythyr, wrth gwrs, gan danseilio'r gweddill yn llwyr. Mae popeth arall yn amherthnasol heb y cam amlwg a hanfodol yma.
Gwn mai ofer yw disgwyl i'r Pab gefnogi dosbarthu condoms a chaniatáu erthylu ledled y trydydd byd; mae gyfystyr â disgwyl iddo roi'r gorau i fod yn Babydd. Ond dyna'n union sydd raid iddo'i wneud er mwyn i mi ystyried ei gymryd o ddifrif.
Yn un peth, nid yw pobl - gan gynnwys Pabyddion eu hunain - yn tueddu i ddilyn cyngor yr eglwys ynghylch materion economaidd a'r amgylchedd. Mae'r eglwys, er ei holl ffaeleddau, wedi bod yn gymharol flaengar ynghylch pethau felly ers rhai degawdau - mwy felly na'r rhan fwyaf o'i haelodau ar lawr gwlad - ond go brin bod hynny wedi cael unrhyw effaith.Mewn ffordd, mae hynny'n gyfiawn. O ystyried statws yr eglwys fel y cartel gwarchod pedoffeiliaid gwaethaf a welodd y byd erioed, nid oes ganddi unrhyw hygrededd moesol ar ôl mewn gwirionedd. Ni ddylai pobl wrando arni. Yn anffodus, fodd bynnag, pery'r eglwys yn ddylanwadol mewn rhai meysydd cymdeithasol. Yn arbennig felly, wrth gwrs, yn achos atalgenhedlu ac erthylu, dau beth y mae'r eglwys yn ei wahardd yn chwyrn.
Nid mater moesol yn unig mo hawl menywod i reoli'u cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Mae'n fater ymarferol hefyd yng nghyd-destun yr amgylchedd. Dau ffactor allweddol sy'n cyfrannu'n helaeth at ddirywiad ein byd yw gorboblogaeth a thlodi. Mae'n amhosibl datrys y ddwy broblem honno heb sicrhau bod gan bob menyw'r hawl a'r gallu i ddefnyddio dulliau atgenhedlu, gan gynnwys erthyliad. Dyna'r man cychwyn. Ond ategu ei wrthwynebiad i'r ateb hwnnw a wna'r Pab yn ei gylchlythyr, wrth gwrs, gan danseilio'r gweddill yn llwyr. Mae popeth arall yn amherthnasol heb y cam amlwg a hanfodol yma.
Gwn mai ofer yw disgwyl i'r Pab gefnogi dosbarthu condoms a chaniatáu erthylu ledled y trydydd byd; mae gyfystyr â disgwyl iddo roi'r gorau i fod yn Babydd. Ond dyna'n union sydd raid iddo'i wneud er mwyn i mi ystyried ei gymryd o ddifrif.
29/03/2015
Y Fam Teresa
Darllenais The Missionary Position (cyhoeddwyd ym 1994) gan Christopher Hitchens yn ddiweddar. Polemig byr ydyw. Afraid dweud nad yw'n garedig â'r diweddar Anjezë Gonxhe Bojaxhiu (mae'n debyg mai teitl amgen cynnar oedd Sacred Cow).
Amcan Hitchens oedd chwalu'r argraff gyffredinol ohoni fel santes llawn daioni. Mae rhai o'r problemau gyda'i gwaith bellach yn gymharol hysbys, ond mae tuedd o hyd i'w hesgusodi. Roedd ei chalon yn y lle iawn, meddir. Ond na. Dylid bod yn berffaith glir fan hyn: nid camgymeriadau'n deillio o fwriadau da oedd y rhain. Roedd yr amcanion eu hunain yn warthus. Yn fy marn i, roedd hi'n ddynes wirioneddol ofnadwy ym mhob ffordd.
Asgetig oedd hi, yn clodfori tlodi a dioddefaint er eu mwyn eu hunain. Er i'w helusen dderbyn miliynau lawer mewn rhoddion (gan gynnwys o ffynonellau pur amheus), llwm iawn oedd yr amodau i bawb yn ei gofal. Nid yw'n glir hyd heddiw i ble aeth llawer o'r arian yma.
Mae'n amhosibl dyfalu faint a fu farw'n gwbl ddi-angen. Ar ben hynny, ac er iddi geisio honni nad creadur gwleidyddol mohoni, roedd hi'n weithgar iawn ei gwrthwynebiad i atalgenhedlu ac erthyliad (dyna oedd prif bwnc ei haraith wrth dderbyn Gwobr Heddwch Nobel ym 1979). O gofio sefyllfa Calcota o bob man, lle mae problemau gorboblogi'n cyrraedd lefelau hurt dros ben, mae hynny'n arbennig o anghyfrifol. (Gyda llaw, mae'n werth nodi fan hyn bod Hitchens, yn anffodus, yn arddangos peth cydymdeimlad â'r farn gwrth-erthyliad, er bod ei feirniadaeth o safbwynt y lleian yn chwyrn hefyd).
Yn dilyn trychineb diwydiannol Bhopal ym 1984, ei chyngor hollol annefnyddiol i'r dioddefwyr a'r rhai mewn galar, yn syth wedi'r digwyddiad, oedd 'maddeuer, maddeuer, maddeuer'. Rwy'n credu bod hynny'n dweud cyfrolau am wacter anfoesol ei diwinyddiaeth. Lladdwyd miloedd gan esgelustod Union Carbide, ac nid trwy faddau y ceir cyfiawnder. Yn yr un ffordd, ni ddylid maddau i'r Fam Teresa chwaith am y niwed enbyd a wnaeth hithau.

29/10/2014
Creadydd yw'r Pab
Mae'r eglwys Babyddol wedi datgan ers blynyddoedd - ers dyddiau Pius XII - eu bod yn derbyn bod esblygiad yn wir. Nid oes llawer yn newydd felly yn sylwadau diweddaraf y Pab Ffransis:
Rwyf wedi dweud o'r blaen bod esblygiad a ffydd grefyddol yn anghydnaws. Mae rhaid dewis, ac fy nadl yw bod unrhyw un sy'n credu mewn duw, ac sy'n honni eu bod yn derbyn theori esblygiadol ar yr un pryd, yn camddeall goblygiadau'r naill neu'r llall (neu'r ddau). Y peth pwysig am esblygiad yw bod y broses yn ddall. Os ydych yn credu mai modd o gyrraedd pwynt penodol (hynny yw, byd sy'n cynnwys bodau dynol) yw esblygiad, yna rydych wedi drysu. Nid yw'n eglur beth mae'r Pab yn ei olygu pan ddywed "reach their fulfilment", ond un peth sy'n sicr: nid oes ganddo unrhyw beth i'w wneud ag esblygiad.
Er bod y Pab yn ceisio rhoi'r argraff nad oes gan ei dduw ffon hud, mae'n mynnu o hyd ei fod wedi creu'r byd trwy ddirgel ffyrdd. Nid hud, ond lledrith. Creadaeth intelligent design yw hyn i bob pwrpas. Dyma'r un hen fflwff siwdo-ddwys yn ffugio cefnogaeth i syniadau gwyddonol, er mwyn dwyn parchusrwydd anhaeddiannol. Dylid rhoi'r gorau i dwyllo ein hunain bod y Fatican yn fwy synhwyrol na'r creadydd cyffredin ffwndamentalaidd ar bwnc theori esblygiadol. Os rywbeth, mae hyd yn oed yn llai gonest.
When we read about Creation in Genesis, we run the risk of imagining God was a magician, with a magic wand able to do everything. But that is not so,” Francis said.
He added: “He created human beings and let them develop according to the internal laws that he gave to each one so they would reach their fulfilment.
“The Big Bang, which today we hold to be the origin of the world, does not contradict the intervention of the divine creator but, rather, requires it.
“Evolution in nature is not inconsistent with the notion of creation, because evolution requires the creation of beings that evolve.”Nid yw'n anodd deall cymhelliad y Pab i ymddangos fel petai'n cofleidio gwyddoniaeth. Mae creadaeth yn gysyniad twp, felly dyhead unrhyw berson call yw ymbellhau oddi wrtho. Ond nid yw'r ymdrech yn dal dŵr. Mae'r sylwadau uchod yn mynd yn hollol groes i theori esblygiadol. Er yr ymgais i beidio ymddangos felly, fersiwn fwy niwlog o greadaeth yw'r hyn a ddisgrifir ganddo.
Rwyf wedi dweud o'r blaen bod esblygiad a ffydd grefyddol yn anghydnaws. Mae rhaid dewis, ac fy nadl yw bod unrhyw un sy'n credu mewn duw, ac sy'n honni eu bod yn derbyn theori esblygiadol ar yr un pryd, yn camddeall goblygiadau'r naill neu'r llall (neu'r ddau). Y peth pwysig am esblygiad yw bod y broses yn ddall. Os ydych yn credu mai modd o gyrraedd pwynt penodol (hynny yw, byd sy'n cynnwys bodau dynol) yw esblygiad, yna rydych wedi drysu. Nid yw'n eglur beth mae'r Pab yn ei olygu pan ddywed "reach their fulfilment", ond un peth sy'n sicr: nid oes ganddo unrhyw beth i'w wneud ag esblygiad.
Er bod y Pab yn ceisio rhoi'r argraff nad oes gan ei dduw ffon hud, mae'n mynnu o hyd ei fod wedi creu'r byd trwy ddirgel ffyrdd. Nid hud, ond lledrith. Creadaeth intelligent design yw hyn i bob pwrpas. Dyma'r un hen fflwff siwdo-ddwys yn ffugio cefnogaeth i syniadau gwyddonol, er mwyn dwyn parchusrwydd anhaeddiannol. Dylid rhoi'r gorau i dwyllo ein hunain bod y Fatican yn fwy synhwyrol na'r creadydd cyffredin ffwndamentalaidd ar bwnc theori esblygiadol. Os rywbeth, mae hyd yn oed yn llai gonest.
14/01/2014
Nid rhyddfrydwr mo'r Pab
Am ryw reswm nad wyf yn ei ddeall, mae llawer iawn o bobl a ddylai wybod yn well wedi bod yn canmol y Pab Ffransis I am fod yn "gymhedrol" a "rhyddfrydol". Aeth y cylchgrawn Time mor bell â'i wobrwyo â theitl "person y flwyddyn" 2013 (beth yn fwy oedd angen i Edward Snowden ei wneud?).
Yn un peth, rwyf wedi hen syrffedu ar glywed bod Ffransis yn ddiymhongar a gwylaidd. Mewn difrif calon, mae'r dyn yn credu, gyda phob difrifoldeb, mai ef yw unig lefarydd swyddogol creawdwr yr holl fydysawd.
Yn ogystal, roedd y datganiad yma'n hynod annifyr:
Ond ar ben hynny, nid oes unrhyw beth o sylwedd wedi newid o fewn yr Eglwys Babyddol. Mae'r wasg yn mynnu bod newid mawr ar droed, ond celwydd llwyr yw hynny.
Ni fyddai bod yn llai uffernol na'i ragflaenydd, Bened XVI, yn gamp arbennig iawn yn y lle cyntaf, ond hyd yn oed wedyn nid yw Ffransis yn welliant gwerth sôn amdano. Mae'n ddigon hawdd dweud pethau neis am gyfiawnder a thegwch a thlodi pan rydych yn bennaeth ar wlad sy'n llythrennol wedi'i gwneud o aur. Geiriau gwag yw'r rhain. Gweithredoedd sy'n cyfrif, nid datganiadau di-sylwedd ffug-garedig. Mae'r eglwys wedi sicrhau buddugoliaeth PR anferth heb wneud unrhyw beth yn wahanol.
Er yr holl siarad, mae ei eglwys yn parhau i arddel yr un hen bolisïau hyll sy'n helpu i gadw'r tlodion yn eu lle: nid oes unrhyw lacio wedi bod ar wrthwynebiad yr eglwys i erthyliad a dulliau atalgenhedlu yn gyffredinol. Maent o hyd yn rhaffu'r un celwyddau am gondoms ac AIDS, sydd wedi arwain yn uniongyrchol at filiynau o farwolaethau di-angen.
Ar ben hynny, nid oes unrhyw awgrym bod yr eglwys am ddechrau ordeinio menywod, ac mae'r rhagfarn amrwd tuag at bobl hoyw yr un mor uniongred a chadarn ag erioed. Heb sôn am drosedd waethaf un y sefydliad, sef y ffaith eu bod yn parhau i lochesu miloedd o bedoffeiliaid rhag cyfiawnder. Os yw Ffransis yn dymuno ennill hygrededd go iawn, dylai fynnu ar unwaith bod ei eglwys yn cyd-weithio'n llwyr ac agored â'r heddlu ynghylch y sgandalau treisio plant. Cyn i ni weld hynny'n digwydd, erys y Pab yn bennaeth ar y cartel gwarchod pedoffeiliaid gwaethaf a welodd ein planed erioed (ac mae hynny wrth gwrs yn ei wneud yn ddihiryn). Go brin y gwelwn unrhyw ddatblygiadau cadarnhaol yn yr un o'r meysydd hyn, felly ni welaf unrhyw reswm i barchu'r dyn nac i wneud unrhyw gymhariaethau ffafriol â'i ragflaenydd.
Wrth gwrs, mae disgwyl i'r Pab ddiddymu'r holl bolisïau uchod gyfystyr â mynnu ei fod yn troi ei gefn ar athrawiaeth Babyddol yn gyffredinol. Mae'r problemau gyda'r Pab yn deillio o'r ffaith ei fod, yn anffodus, yn babydd. Os am weld Pab sy'n haeddu canmoliaeth go iawn, bydd rhaid i ni aros i eirth roi'r gorau i gachu yn y goedwig.

“I invite even nonbelievers to desire peace”"Even"! Nid oes arnaf angen gwahoddiad gan y Pab o bawb er mwyn dymuno gweld heddwch, diolch yn fawr.

21/03/2013
Ymateb i erthygl Harri Pritchard Jones am y cyn-Bab
(Yn rhifyn mis Mawrth o'r cylchgrawn Barn, mae gan Harri Pritchard Jones erthygl am ymddeoliad Joseph Ratzinger. Er iddo grybwyll rhai o safbwyntiau hyll y dyn hwnnw, a'r sgandal camdrin plant, roedd yr ysgrif yn or-hael a dweud y lleiaf. Ysgrifennais at Barn yn ymateb, ond yn anffodus nid oedd modd cyhoeddi fy llythyr ar gyfer y rhifyn nesaf. Gan fod gennyf flog, fodd bynnag, dyma'i atgynhyrchu isod)
Bu Harri Pritchard Jones yn rhy garedig o lawer yn
ei erthygl am ymddeoliad Joseph Ratzinger. Mae’n debyg bod y cyn-Bab yn ddyn
tawel ac addfwyn, a’n bïanydd medrus sy’n arbennig o hoff o Mozart. Nid oes
gennyf reswm i amau gwirionedd yr ychydig rinweddau hyn, ond maent yn dila a
chwbl amherthnasol o’u cymharu â holl gamweddau arswydus y dyn. Dengys hyn yn
eglur y cam a wneir â phawb gan y parch anhaeddiannol a roddir i grefydd gan
ein cymdeithas.
Mae bron pob un o bolisïau ac athrawiaethau Mr
Ratzinger a’i eglwys wedi bod yn niweidiol ac anfoesol, wrth gwrs. Byddai’n
ddigon anodd maddau’r homoffobia a’r misogynistiaeth canol-oesol, heb sôn am
effaith ei wrthwynebiad i’r defnydd o gondoms, sydd wedi arwain at filoedd ar
filoedd o farwolaethau di-angen o AIDS bob blwyddyn. Ond y gwaethaf un yw ei
ymateb cwbl ffiaidd i’r ffaith bod cannoedd o offeiriaid wedi bod wrthi’n
treisio plant ers degawdau. Mae hyn tu hwnt i anghytuno ynghylch materion cymdeithasol:
yn yr achos yma, y gwir plaen yw bod Mr Ratzinger wedi troseddu’n ddifrifol.
Swydd Mr Ratzinger cyn ei ddyrchafiad diwethaf oedd
Prif-Oruchwyliwr Athrawiaeth y Ffydd (pennaeth y Chwilys, i chi a fi; mae’r enw
wedi newid dros y canrifoedd, mewn ymdrech i swnio’n llai hunllefus). Yn y
cyfnod yma, rhwng 1981 a 2005, mae’n hysbys bod Mr Ratzinger wedi datgan ei
fwriad i esgymuno pobl o’r eglwys mewn cysylltiad â’r sgandalau ynghylch
camdrin plant. Byddai unrhyw un call yn tybio mai’r pedoffeiliaid eu hunain
oedd dan ei lach. Mewn gwirionedd, gorchymyn i gadw popeth yn gyfrinachol
ydoedd, ac i drin pob honiad o gamdrin yn fewnol: bygwth esgymuno unrhyw un a
feiddiai achwyn yn allanol (gan gynnwys wrth yr heddlu) oedd Ratzinger. Gwyddom
hyn â sicrwydd: mae ei lofnod ar y llythyrau. Iddo ef, ‘enw da’ yr eglwys oedd
y flaenoriaeth. Yn ôl y dyn hwn, roedd mynd at yr awdurdodau priodol yn waeth
trosedd o lawer na threisio plant yn y lle cyntaf. Mae yna enw ar gyfer y math
yma o beth: gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Diolch i Mr Ratzinger a’i debyg, mae gan yr Eglwys
Babyddol bolisi swyddogol o warchod treisiwyr plant. Mae’n amhosibl
gorbwysleisio pa mor anfoesol yw hyn. Nid yw cadw’n dawel am bedoffeiliaid,
bygwth eraill er mwyn eu cymell i wneud yr un peth, a symud yr euog i blwyf
arall (lle ceir cyflenwad ffresh o blant, wrth reswm) fawr gwell na’r weithred
o gamdrin plant yn y lle cyntaf, os o gwbl.
Am y rhesymau hyn, hyd yn oed petai’n wir mai
Ratzinger yw’r creadur tyneraf i droedio’r byd erioed, ni fyddai’n newid y
ffaith bod gwir angen iddo dreulio’r ychydig einioes sydd ganddo’n weddill mewn
carchar. Byddai’n gwbl anghyfiawn, a’n sarhad creulon i filoedd o ddioddefwyr
sydd wedi bod trwy uffern, petai’r dihiryn gwarthus yma’n cael y fraint o
farw’n hamddenol heb orfod cydnabod ei droseddau.
04/03/2013
Keith O'Brien
Mae wedi digwydd eto. Ar ôl i ffigwr crefyddol amlwg ddweud llawer o bethau creulon ac anghynnes am gyplau cyfunrywiol, daw'r newyddion ei fod ef ei hun yn hoyw. A bod yn fanylach, mae wedi gorfod ymddiswyddo ar ôl iddo ddod yn hysbys ei fod wedi camymddwyn yn rhywiol tuag at rai o'i gyd-offeiriaid. Mater o amser ydoedd, am wn i: fel mae'r wefan Gay Homophobe yn ei ddangos, mae'r math yma o beth yn digwydd yn syfrdanol o aml.
Bron y gallwch ddweud bod perthynas uniongyrchol rhwng eithafiaeth yr homoffobia a'r siawns bod y person sy'n ei arddangos yn ddryslyd ynghylch ei rywioldeb ei hun. Efallai mai modd o wadu'r dyheadau cyfunrywiol yma yw difrïo hoywon, ac o ddarbwyllo'u cyd-grefyddwyr eu bod yn driw i reolau'r ffydd wedi'r cyfan. Rwy'n credu ei bod yn debygol bod y rheolau hynny'n ffactor enfawr yn achos pabyddiaeth: mae'n hawdd gweld sut mae mynnu bod offeiriaid yn anghydweddog yn gallu arwain at rwystredigaeth rhywiol. Mae'n bosibl yn fy marn i bod perthynas rhwng hynny a'r sgandal camdrin plant.
Brysiaf i ddweud nad yw'r uchod yn awgrymu am eiliad bod gennyf y gronyn lleiaf o gydymdeimlad tuag at Keith O'Brien. Rwy'n ei gasáu â chas perffaith, fel yr wyf yn casáu pob pabydd blaenllaw.
Sylwch ar ei "ymddiheuriad" swyddogol: "To those I have offended, I apologise and ask forgiveness. To the Catholic Church and people of Scotland, I also apologise." Dim gair am y miloedd ar filoedd o gyplau cyfunrywiol y mae wedi'u sarhau mor fileinig, a'u defnyddio fel cocynnau hitio er mwyn ceisio ymdopi â'i angst personol. Arddangosodd ragrith a hyfrdra rhyfeddol wrth feiddio galw cyplau cyfunrywiol yn anfoesol, wedi iddo yntau'i hun blagio'i gyd-weithwyr yn rhywiol yn groes i'w dymuniad. Rwy'n gobeithio hefyd bod yr heddlu'n ymchwilio'r "inappropriate behaviour" a'r "unwanted behaviour" yma, beth bynnag oedd natur hynny. Nid wyf am ddal f'anadl, fodd bynnag, o ystyried record hir a chywilyddus yr eglwys babyddol o geisio ymateb i bethau fel hyn yn fewnol.
Gwynt teg ar ôl y mochyn. Rwy'n mawr obeithio y bydd ei ymddygiad yn niweidiol iawn i'w eglwys.

01/03/2013
Fy hoff stori am ymddiswyddiad y Pab
Fe hoffais y newyddion yma'n fawr iawn:
The Vatican’s plan to call the retiring pontiff Benedict XVI “Pope Emeritus” hit a snag today, in the form of a threatened lawsuit by an Oakland-based rapper who has been recording under that name since 2006.
“I don’t care who he is, I ain’t let nobody mess with my brand,” said Mr. Emeritus, who prior to 2006 recorded under the name Notorious P.O.P.E.
While the Vatican said it was unaware that Mr. Emeritus had already claimed the name seven years ago, the Oakland rapper scoffed at that idea: “They should have done what I did before I picked it out: Google it.”
Furious at what he is calling a clear case of trademark infringement, Mr. Emeritus said that he has no intention of stepping aside for the former pontiff: “He’s the one who should step aside. Call himself P. Biddy or something. This is wack, yo.”
According to a source close to the Vatican, Benedict is likely to choose another name for himself rather than risk a legal tussle with the aggrieved rapper: “The last thing the Church needs right now is another lawsuit.”Gwych. Problem anghyfarwydd (a doniol) i'r Fatican, ac mae hynny bob tro'n rywbeth i'w groesawu.
12/02/2013
Ymddiswyddiad Esgob Rhufain
Mae Joseph Ratzinger wedi gwneud rhywbeth diddorol am unwaith, sef cyhoeddi ei fod am ymddiswyddo. Er ei fod yn 85, ac felly'n teimlo ei fod yn rhy hen (mae'n debyg bod ei iechyd yn dirywio), roedd y newyddion yn destun syndod i bawb; 1415 oedd y tro diwethaf i Bab roi'r gorau iddi fel hyn. Yn arferol, mae'r bobl od yma'n tueddu i farw yn y swydd.
Rwy'n casáu'r dyn â chas perffaith, wrth reswm. A bod yn blaen, rwy'n ei ystyried yn ddihiryn a'n elyn. Mae'n siwr bydd yr un peth yn wir am ei olynydd, sy'n debygol o fod yr un mor geidwadol a chul (mae'n bosibl bod yr amseru'n fwriadol yn hynny o beth; y cardinaliaiad sy'n ethol y Pab, ac mae'r rhai mwyaf adweithiol yn tueddu i fod yn agos at angau. Mae'r cloc yn ticio). Pwy bynnag fydd y nesaf, mae'n sicr o barhau ag ymdrechion Ratzinger i arwain yr eglwys yn ôl i'r oesoedd canol, gyda chyfuniad gwenwynig o homoffobia a misogynistiaeth, gwrthwynebu erthyliad, rhaffu celwyddau am AIDS (gan arwain yn uniongyrchol at filiynau o farwolaethau), a mwydro'n ddi-baid am fygythiad honedig "seciwlariaeth".
Rwyf wedi cael llond bol ar wrando ar hen ddynion mewn hetiau gwirion yn cwyno am "anfoesoldeb" pawb arall. Mewn difrif calon, prif swyddogaeth yr eglwys babyddol yw gwarchod rhai o bedoffiliaid erchyllaf y byd. Mae yna lythyrau gan Ratzinger ei hun (cyn ei ddyrchafiad) yn rhoi'r gorchymyn i gadw'n dawel am y ffaith bod offeiriaid wedi treisio plant, gan argymell eu symud i esgobaeth arall (lle ceir cyflenwad ffresh o blantos, wrth gwrs). Dylai Ratzinger fod mewn carchar gyda phob un o'r pedoffiliaid duwiol yma. Byddai'n anghyfiawn iddo gael y fraint o farw heb orfod cydnabod ei droseddau.
Rwy'n casáu'r dyn â chas perffaith, wrth reswm. A bod yn blaen, rwy'n ei ystyried yn ddihiryn a'n elyn. Mae'n siwr bydd yr un peth yn wir am ei olynydd, sy'n debygol o fod yr un mor geidwadol a chul (mae'n bosibl bod yr amseru'n fwriadol yn hynny o beth; y cardinaliaiad sy'n ethol y Pab, ac mae'r rhai mwyaf adweithiol yn tueddu i fod yn agos at angau. Mae'r cloc yn ticio). Pwy bynnag fydd y nesaf, mae'n sicr o barhau ag ymdrechion Ratzinger i arwain yr eglwys yn ôl i'r oesoedd canol, gyda chyfuniad gwenwynig o homoffobia a misogynistiaeth, gwrthwynebu erthyliad, rhaffu celwyddau am AIDS (gan arwain yn uniongyrchol at filiynau o farwolaethau), a mwydro'n ddi-baid am fygythiad honedig "seciwlariaeth".Rwyf wedi cael llond bol ar wrando ar hen ddynion mewn hetiau gwirion yn cwyno am "anfoesoldeb" pawb arall. Mewn difrif calon, prif swyddogaeth yr eglwys babyddol yw gwarchod rhai o bedoffiliaid erchyllaf y byd. Mae yna lythyrau gan Ratzinger ei hun (cyn ei ddyrchafiad) yn rhoi'r gorchymyn i gadw'n dawel am y ffaith bod offeiriaid wedi treisio plant, gan argymell eu symud i esgobaeth arall (lle ceir cyflenwad ffresh o blantos, wrth gwrs). Dylai Ratzinger fod mewn carchar gyda phob un o'r pedoffiliaid duwiol yma. Byddai'n anghyfiawn iddo gael y fraint o farw heb orfod cydnabod ei droseddau.
15/11/2012
Mwy o waed ar ddwylo'r eglwys babyddol
Dyma stori frawychus a gwarthus: mae gwraig 31 oed o'r enw Savita Praveen Halappanavar wedi marw mewn ysbyty yng ngorllewin yr Iwerddon. Roedd yn feichiog ers rhyw 17 wythnos, ond aeth i'r ysbyty ar ôl dioddef poenau cas. Fe gollodd y babi, ond fe wrthododd y doctoriaid erthylu'r ffetws gan eu bod wedi mynnu bod ganddo guriad calon o hyd. O ganlyniad, cafodd Savita haint ddifrifol, a bu farw rai dyddiau'n ddiweddarach o wenwyn yn y gwaed, wedi llawer iawn o ddioddef.
Roedd hyn i gyd yn gwbl ddi-angen. Roedd y beichiogrwydd wedi dirwyn i ben: nid oedd gobaith cael y babi.
Yn syml iawn, mae'r doctoriaid yn gyfrifol yn uniongyrchol am ei marwolaeth, ac mewn byd call byddent yn cael eu cosbi. Mae'n anodd deall y fath greulondeb. Ond fel y dywedwyd wrth ŵr Savita, "this is a Catholic country". Gwir hynny: mae athrawiaeth eglwys Rufain yn ddyanwadol tu hwnt ym mywyd cyhoedds yr Iwerddon o hyd. Yn anffodus, canlyniad yr athrawiaeth honno yw marwolaeth, poen, artaith a galar.
Mae'r gyfraith ynghylch erthyliad yn yr Iwerddon ymysg y llymaf yng ngorllewin Ewrop. A dweud y gwir, mae'r sefyllfa'n eithriadol o niwlog; nid oes unrhyw un o'r pleidiau gwleidyddol yn fodlon cyffwrdd y daten boeth yma a deddfu er mwyn cadarnhau faint yn union o reolaeth a ganiateir i hanner y boblogaeth dros eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Cyn 1992 (ie, mor ddiweddar â hynny), gwaherddid erthylu fwy neu lai'n llwyr. Ers hynny, ac o ganlyniad i stori drist arall, mae'r wlad fel petai wedi ceisio anwybyddu'r broblem, gan ganiatáu i bobl deithio i wlad arall (hynny yw, Prydain) er mwyn cael erthyliad. O'r hyn rwy'n ei ddeall, cyn 1992, os oedd amheuaeth bod gwraig feichiog yn ystyried cael erthyliad, byddai'r wladwriaeth yn ei rhwystro rhag gadael. Mewn geiriau eraill, roeddent yn garcharorion. Erbyn hyn, mae erthylu er dibenion meddygol yn gyfreithlon, i raddau, ond yn amlwg nid oes llawer o eglurdeb ynghylch y mater ac mae llawer yn ddibynnol ar fympwy doctoriaid ac ysbytai unigol. Canlyniad anochel y fath sefyllfa annerbyniol o annelwig yw marwolaethau digalon pobl fel Savita.
Mae'n sgandal. Da yw sylwi, fodd bynnag, bod y stori wedi arwain at gryn brotestio. Gobeithiaf y bydd sioc y drychineb yma'n gorfodi gwleidyddion yr Iwerddon i wynebu'r broblem ac i wella'r gyfraith. Nid yw'n hawdd credu bod y fath sefyllfa'n bodoli yn un o'n cymdogion agosaf, ond o leiaf mae'n bosibl i'r digwyddiad ofnadwy yma i ddarbwyllo'r llywodraeth nad ydyw'n foesol na chynaliadwy.

05/11/2012
Pwysigrwydd galw ffyliaid rhagfarnllyd yn ffyliaid rhagfarnllyd
Er mawr syndod i neb, mae'r eglwys babyddol ym Mhrydain yn anhapus iawn bod Stonewall, yr elusen sy'n brwydro o blaid cyfartaledd i bobl cyfunrywiol, wedi rhoi gwobr fawreddog "bigot of the year" eleni i'r Cardinal Keith O'Brien. Fe gofiwch i O'Brien ddweud pethau anhygoel o dwp yn gynharach eleni wrth geisio dadlau'n erbyn cyfreithloni priodasau hoyw. Ymysg pethau eraill, cyffelybodd y cynlluniau arfaethedig (sef i roi'r un hawliau i gyplau cyfunrywiol ag sydd gan bawb arall eisoes) i ail-gyflwyno caethwasiaeth. Mae'r dyn yn warthus, ac mae'r label "bigot" yn briodol tu hwnt.
Rhaid i mi anghytuno'n chwyrn, felly, gyda'r erthygl yma yn y New Statesman, sy'n mynnu bod cynnal gwobr o'r fath yn blentynaidd ac - och! - yn "offensive". I'r gwrthwyneb, rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod sylwadau megis y rhai a wnaed gan O'Brien yn ennyn cymaint o ddirmyg ag sy'n bosibl. Rhaid pwysleisio mor warthus, eithafol, hyll, anfoesol, sarhaus a chreulon ydynt. Nid yw sylwadau O'Brien yn haeddu'r gronyn lleiaf o barch, ac mae gwobr fel hon - stynt, bid siwr, ond un effeithiol a chlodwiw - yn ffordd ardderchog o ddangos hynny. Mae gan gylchgrawn New Humanist wobr debyg, y "Bad Faith Awards", ac rwy'n hyderu bod O'Brien wedi gwirioni ei fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer honno hefyd.
Os nad yw dynion afiach rhagfarnllyd yn hoffi cael eu galw'n ddynion afiach rhagarnllyd, dylent roi'r gorau i ddweud pethau afiach rhagfarnllyd. Nid yw hyn yn arbennig o gymhleth.

05/03/2012
Hen ddyn mewn het hurt yn dweud pethau dwl am briodasau hoyw
Efallai na ddylai fod yn destun syndod mawr bod pabydd o'r farn na ddylai cyplau cyfunrywiol gael yr hawl i briodi, gan mai dyna y mae'r eglwys afiach honno wedi'i ddweud erioed. Er hynny, mae'n bwysig tynnu sylw at y peth pan mae pabydd amlycaf Prydain yn dweud pethau anhygoel a rhagfarnllyd wrth ddadlau'n erbyn bwriad llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i ganiatáu priodasau o'r fath. Mae erthygl y cardinal Keith O'Brien yn warthus o'r dechrau i'r diwedd felly mae'n anodd pigo rhannau penodol allan. Am y rheswm yna, mae'n werth mynd trwyddi darn wrth ddarn:
Civil partnerships have been in place for several years now, allowing same-sex couples to register their relationship and enjoy a variety of legal protections.Mae'r gwahaniaeth rhwng priodas a "phartneriaeth sifil" yn un cwbl artiffisial, a chyfaddawd yn unig oedd y drefn bresennol er mwyn bodloni hen gojars crefyddol na fyddai priodas gyfunrywiol yn cael yr un statws a bri â phriodas heterorywiol. Roedd rhai o gefnogwyr cyfartaledd yn gwneud y ddadl uchod, ond am resymau tactegol. Nid oedd y mwyafrif yn cuddio'r ffaith mai cyfartaledd llwyr oedd y nod yn y pen draw.
When these arrangements were introduced, supporters were at pains to point out that they didn’t want marriage, accepting that marriage had only ever meant the legal union of a man and a woman.
Those of us who were not in favour of civil partnership, believing that such relationships are harmful to the physical, mental and spiritual wellbeing of those involved, warned that in time marriage would be demanded too. We were accused of scaremongering then, yet exactly such demands are upon us now.Yn ôl yr hen dwat di-briod yma, nid yw'n bosibl i gwpl gael perthynas hapus a chariadus os mai'r un offer sydd ganddynt rhwng eu coesau. Rhaid chwerthin hefyd ar y defnydd o'r gair "scaremongering". Dim ond ffyliaid rhagfarnllyd a pharanoid fyddai'n teimlo ofn oherwydd bod cwpl hoyw wedi cael yr un hawliau ag sydd gan bawb arall.
Since all the legal rights of marriage are already available to homosexual couples, it is clear that this proposal is not about rights, but rather is an attempt to redefine marriage for the whole of society at the behest of a small minority of activists.Celwyddau. Fel y dywedais, holl bwrpas creu pethau o'r enw "partneriaethau sifil" oedd sicrhau nad oedd cyplau cyfunrywiol yn derbyn cydraddoldeb go iawn. Cydraddoldeb go iawn yw'r hawl i gael yr hyn y mae cyplau eraill yn ei fwynhau eisoes, sef priodas lawn.
Yn ogystal, mae tua hanner poblogaeth Prydain yn cefnogi hawl hoywon i briodi erbyn hyn, felly nid oes gwirionedd o gwbl yn yr honiad mai dim ond lleiafrif bychan sydd o blaid. Mae chwiliad sydyn ar Twitter, lle mae trydarwyr sy'n gefnogol i'r cardinal yn greaduriaid prin, yn awgrymu'n gryf mai parhau i dyfu wnaiff y gefnogaeth yma. Peth hyfryd yw gallu dweud felly bod deinosoriaid fel O'Brien eisoes wedi colli.
Redefining marriage will have huge implications for what is taught in our schools, and for wider society. It will redefine society since the institution of marriage is one of the fundamental building blocks of society. The repercussions of enacting same-sex marriage into law will be immense.Byddai'n ddifyr clywed pa erchyllterau'n union y dylem ddisgwyl eu gweld unwaith y mae gan hoywon yr hawl i briodi. Y gwir yw bod priodas wedi'i ail-ddiffinio lawer gwaith yn barod. Am ganrifoedd, os nad milflwyddiannau, ei diben amlycaf oedd fel modd i ddynion sicrhau manteision gwleidyddol ac ariannol trwy briodi mewn i'r teuluoedd cywir. Go brin a oedd gan y merched fawr o ddewis yn y peth (mae hyn yn wir o hyd mewn rhai cymunedau islamaidd, wrth gwrs). Rôl gwragedd oedd atgenhedlu, neu'n benodol, cynhyrchu meibion.
But can we simply redefine terms at a whim? Can a word whose meaning has been clearly understood in every society throughout history suddenly be changed to mean something else?.
Mewn difrif calon, dim ond 27 oed wyf i ond roeddwn eisoes wedi cael fy ngeni pan ddaeth cyfraith Prydain i gydnabod yn ffurfiol, o'r diwedd, bod modd i ŵr dreisio'i wraig. Tan hynny, nid oedd ganddi'r hawl i'w wrthod. Mae'r haeriad bod priodas yn gysyniad statig yn chwerthinllyd felly. Mae wedi newid yn raddol er gwell. Un cam pellach ymlaen fyddai caniatáu'r hawl i gyplau cyfunrywiol ymuno'n y ddefod. Efallai mai'r hyn sydd gan y cardinal mewn golwg yw ei fod am weld dychwelyd i'r cysyniad canol-oesol o briodas. Os felly, dylai ddweud hynny.
If same-sex marriage is enacted into law what will happen to the teacher who wants to tell pupils that marriage can only mean – and has only ever meant – the union of a man and a woman?Mae yna gwestiwn syml y dylid ei ofyn fel ateb i ddadleuon fel hyn: a ddylai athrawon gael yr hawl i ddysgu pethau hiliol i'w disgyblion? Gallwch ateb "ie" neu "na", ond y pwynt yw bod rhaid bod yn gyson. Ni chewch ateb un ffordd yn achos sylwadau hiliol ond fel arall yn achos sylwadau gwrth-hoyw. Rwy'n credu y byddai bron pawb yn cytuno na ddylai athrawon ddefnyddio'r ystafell ddosbarth er mwyn dweud wrth blant bach bod priodas rhyng-ethnig yn anfoesol. Mae rhesymeg yn mynnu bod yr un peth yn union yn wir yn achos cyplau cyfunrywiol, a'n enwedig felly o gofio bod tebygolrwydd go lew bellach bod o leiaf un o'r plant am fod â dau dad neu dwy fam.
Will that teacher’s right to hold and teach this view be respected or will it be removed? Will both teacher and pupils simply become the next victims of the tyranny of tolerance, heretics, whose dissent from state-imposed orthodoxy must be crushed at all costs?
Y gwir yw mai'r un dadleuon yn union ("mae'n annaturiol", "mae'n groes i ewyllys duw" ayyb) a ddefnyddir yn erbyn perthynasau cyfunrywiol heddiw ag a ddefnyddiwyd yn ôl yn oes yr arth a'r blaidd yn erbyn hilgymysgedd.
In Article 16 of the Universal Declaration on Human Rights, marriage is defined as a relationship between men and women. But when our politicians suggest jettisoning the established understanding of marriage and subverting its meaning they aren’t derided.Nid oeddwn wedi gweld yr honiad yna am y Datganiad Cyffredinol o'r blaen, felly fel sceptig bach da penderfynais fynd i edrych. Dyma erthygl 16 yn ei chyfanrwydd:
Article 16.Fel y gwelwch, mae'n sicrhau hawl dynion a merched i briodi, ond nid yw'n awgrymu o gwbl bod rhaid i hynny fod gyda'i gilydd. Celwydd arall felly gan y cardinal felly. Duwiol iawn.
(1) Men and women of full age, without any limitation due to race, nationality or religion, have the right to marry and to found a family. They are entitled to equal rights as to marriage, during marriage and at its dissolution.
(2) Marriage shall be entered into only with the free and full consent of the intending spouses.
(3) The family is the natural and fundamental group unit of society and is entitled to protection by society and the State.
Instead, their attempt to redefine reality is given a polite hearing, their madness is indulged. Their proposal represents a grotesque subversion of a universally accepted human rightAr blaned gwyrdroëdig y pabydd hwn, os yw mwyafrif yn mwynhau hawl arbennig sy'n cael ei wrthod i leiafrif, yna mae cywiro'r anghyfartaledd hwnnw trwy ymestyn yr hawl i bawb yn "grotesque subversion of a universally accepted right". Dyma enghraifft berffaith arall o'r persecution complex gwallgof yma sy'n gyffredin ymysg cristnogion rhagfarnllyd. Gan nad ydynt yn dioddef erledigaeth go iawn o gwbl, rhaid defnyddio'u dychymyg. I O'Brien, mae peidio caniatáu iddo atal hawliau pobl eraill yn gyfystyr â rhwystro ei hawliau ef ei hun. Rhyfeddol.
As an institution, marriage long predates the existence of any state or government. It was not created by governments and should not be changed by them. Instead, recognising the innumerable benefits which marriage brings to society, they should act to protect and uphold marriage, not attack or dismantle it.Dyma ddadl debyg i'r hyn a gafwyd gan George Carey, archesgob Caergaint gynt, yn ddiweddar. Wrth gwrs, os nad yw'r wladwriaeth yn "berchen" ar briodas, nid lle'r wladwriaeth felly yw gwneud priodas gyfunrywiol yn anghyfreithlon.
Mae'n hawdd a braf pan mae eich gelynion yn cael eu bradychu gan eu dadleuon eu hunain!
This is a point of view that would have been endorsed and accepted only a few years ago, yet today advancing a traditional understanding of marriage risks one being labelled an intolerant bigot.Gair i gall i Mr O'Brien: os nad ydych yn hoffi cael eich galw'n dwpsyn rhagfarnllyd anoddefgar, gochelwch rhag dweud pethu twp rhagfarnllyd anoddefgar.
There is no doubt that, as a society, we have become blasé about the importance of marriage as a stabilising influence and less inclined to prize it as a worthwhile institution.Mae'n siwr ei bod yn ddigon gwir bod llai o fri yn perthyn i briodas er ei mwyn ei hun heddiw nag yn y gorffennol. Mae miloedd o briodasau heterorywiol yn chwalu bob blwyddyn. Ond mae hynny'n ddatblygiad i'w chroesawu. Am ganrifoedd, pan nad oedd modd ysgaru (neu'n gywirach, pan nad oedd modd i wraig anhapus ysgaru ei gŵr), nid oedd fawr o ddewis ond cario ymlaen gyda phriodasau di-gariad a diflas. Os yw ysgariad yn fwy cyffredin heddiw nag yn y gorffennol, nid yw hynny'n arwydd bod perthynas pobl gyda'i gilydd yn anhapusach erbyn hyn; y cyfan sydd wedi digwydd yw bod y stigma parthed gwahanu wedi diflannu. Nid oes modd cyfiawnhau caethiwo pobl mewn perthynas nad ydynt yn dymuno bod ynddi, fel yr oedd yn digwydd yn y gorffennol, ac mae'r hawl i ysgaru wedi rhyddhau nifer fawr o bobl rhag sefyllfaoedd o'r fath. Fel y dywedais, dyma ffordd arall y mae "diffinaid" priodas wedi newid eisoes, a hynny er gwell.
It has been damaged and undermined over the course of a generation, yet marriage has always existed in order to bring men and women together so that the children born of those unions will have a mother and a father.
Rwyf wedi dweud o'r blaen bod angen cwestiynu priodas ei hun. Mae'n aneglur i mi pam ddylai fod angen sêl bendith y wladwriaeth ar berthynas rhwng dau/ddwy oedolyn sy'n caru'i gilydd. Ond y pwynt perthnasol yma yw cydraddoldeb: os yw'r hawl ar gael i gyplau heterorywiol, yna rhaid iddo fod ar gael i hoywon hefyd.
This brings us to the one perspective which seems to be completely lost or ignored: the point of view of the child. All children deserve to begin life with a mother and father; the evidence in favour of the stability and well-being which this provides is overwhelming and unequivocal. It cannot be provided by a same-sex couple, however well-intentioned they may beNid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl bod cael rhieni o'r un rhyw yn anfantais. Mae miloedd ar filoedd o blant wedi, ac yn, cael eu magu can ddau dad neu ddwy fam heb unrhyw drafferth o fath yn y byd. Gweler yma am fanylion am un astudiaeth berthnasol. Mae'r cardinal felly'n rhaffu celwydd unwaith eto. Yn fwy na hynny, mae'n gwneud ei orau i ansefydlogi'r union deuluoedd yma trwy wrthod hawliau iddynt y mae pawb arall yn eu cymryd yn ganiataol.
Same-sex marriage would eliminate entirely in law the basic idea of a mother and a father for every child. It would create a society which deliberately chooses to deprive a child of either a mother or a father.Wrth reswm, nid yw penderfyniad cyplau hoyw i briodi ei gilydd yn cael unrhyw effaith o fath yn y byd ar briodasau "traddodiadol" felly nid yw hyn yn gwneud synnwyr. Yr unig berson sy'n dyheu amddifadu plant o'r cyfle i fod yn aelodau o deuluoedd cyfartal yw'r cardinal, neb arall.
Other dangers exist. If marriage can be redefined so that it no longer means a man and a woman but two men or two women, why stop there? Why not allow three men or a woman and two men to constitute a marriage, if they pledge their fidelity to one another? If marriage is simply about adults who love each other, on what basis can three adults who love each other be prevented from marrying?Cwestiwn rhesymol o'r diwedd. Pam lai? Ni welaf reswm pam y dylai'r wladwriaeth wahardd hynny os mai dyna ddymuniad y bobl o dan sylw. Wrth gwrs mae priodasau felly'n bodoli mewn llawer o gymunedau crefyddol eithafol, ond mae llawer o'r rheiny'n rhai pur anghyfartal: gwae'r gwragedd pe nad ufuddhaent y patriarch. Fodd bynnag, mewn achosion lle mae pawb yn gyfartal a'n hapus gyda'r sefyllfa, ni welaf broblem mewn egwyddor. Ond mater arall yw hynny.
In November 2003, after a court decision in Massachusetts to legalise gay marriage, school libraries were required to stock same-sex literature; primary schoolchildren were given homosexual fairy stories such as King & King. Some high school students were even given an explicit manual of homosexual advocacy entitled The Little Black Book: Queer in the 21st Century. Education suddenly had to comply with what was now deemed “normal”.Mae'r uchod i gyd yn swnio fel datblygiadau gwerth chweil i mi. Unwaith eto, gallwn ofyn beth yw barn y cardinal am lyfrau plant sy'n portreadu teuluoedd aml-ethnig fel "normal". Ai "straeon tylwyth teg" yw pethau felly, hefyd?
Mae gen i'r teimlad annifyr bod pobl fel Mr O'Brien yn gobeithio, yn dawel bach, bod plant i rieni hoyw'n cael eu bwlio. I'r cardinal, byddai hynny'n ddadl yn erbyn perthynasau cyfunrywiol. I bawb nad ydynt yn wallgof, fodd bynnag, byddai'n ddadl o blaid mwy o addysgu am y pwnc.
Disingenuously, the Government has suggested that same-sex marriage wouldn’t be compulsory and churches could choose to opt out. This is staggeringly arrogant.Mae'r wladwriaeth yn rhoi hawliau a breintiau penodol i gyplau priod nas darperir i barau di-briod. Tra bo'r manteision hynny'n bodoli, y llywodraeth ddylai bennu'r rheolau. Y gwirionedd nad yw Mr O'Brien yn fodlon ei dderbyn yw bod yr "universally understood meaning of marriage" yn prysur newid. Dim ond adlewyrchu'r farn yna a wneir trwy gymryd y cam naturiol nesaf yma. Fel mae'n digwydd, nid wyf yn siwr pam yn union fyddai cwpl hoyw'n dymuno priodi mewn adeilad o eiddo crefydd sy'n eu casáu, ond gan nad oes unrhyw eglwys am gael ei gorfodi i gynnal seremoni briodas gyfunrywiol yn groes i'w hewyllys, nid yw'n hawdd gweld beth yw pryder y cardinal. Bydd priodasau heterorywiol dedwydd yn parhau i fod yn ddedwydd a bydd y byd yn dal i droi.
No Government has the moral authority to dismantle the universally understood meaning of marriage.
Imagine for a moment that the Government had decided to legalise slavery but assured us that “no one will be forced to keep a slave”.Efallai dyma'r frawddeg o lith y pabydd pwysig sydd wedi denu'r sylw mwyaf, am reswm amlwg: mae'n agos at fod yn seicotig. Rwy'n credu bod hwn yn un o'r achosion hynny lle nad oes angen i mi ddweud unrhyw beth. Gadawaf y datganiad ar ei ben ei hun gan ei fod yn amlygu twpdra'r siaradwr yn well nag y gallaf i. Digon yw atgoffa'r darllenydd mai dyma'r aelod uchaf o'r eglwys babyddol ym Mhrydain gyfan.
The Universal Declaration on Human Rights is crystal clear: marriage is a right which applies to men and women, “the family is the natural and fundamental group unit of society and is entitled to protection by society and the State”.Fel y gwelwyd uchod, nid yw'r Datganiad yn dweud unrhyw beth am gyfunrywioldeb. Ac unwaith eto, y cardinal yw'r un sy'n tanseilio ac is-raddio teuluoedd. Gwarchod teuluoedd fyddai union ganlyniad caniatáu'r hawl i barau hoyw briodi ei gilydd.
This universal truth is so self-evident that it shouldn’t need to be repeated. If the Government attempts to demolish a universally recognised human right, they will have forfeited the trust which society has placed in them and their intolerance will shame the United Kingdom in the eyes of the world.Dyma'r cardinal O'Brien yn crybwyll cywilydd. Y cyfan sydd angen i mi ei wneud yw nodi bod y cardinal yn aelod balch a blaenllaw o glwb gwarchod pedoffiliaid mwyaf y byd. Yn ogystal, mae gan ei eglwys bolisïau erchyll fel hyrwyddo celwyddau am gondoms gan arwain at filynau o farwolaethau di-angen yn Affrica, gwahardd ordeinio merched, a gwrthwynebu hawl merched i reoli eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Ond na, brwydr fawr y cardinal yw gwrthwynebu caniatáu hawl oedolion sy'n caru ei gilydd i briodi. Yn ei ôl ef, dyna fyddai'n destun cywilydd.
Am ddyn afiach. Am obsesiwn sinistr gyda bywydau rhywiol pobl eraill. Am het wirion. Am grefydd wirioneddol fochedd.
21/12/2011
Ble mae'r cabledd yn y llun yma?

Mae poster o'r llun uchod, y tu allan i eglwys yn Seland Newydd, wedi'i fandaleiddio gan Babydd twp. Bwriad yr eglwys (sy'n un digon rhyddfrydol yn ôl pob golwg) oedd annog pobl i feddwl yn ddyfnach am eu ffydd. Roedd llawer o Gristnogion yn flin amdano, fodd bynnag, ac fe'i difethwyd gan rhywbeth o'r enw'r Catholic Action Group, mudiad o dan arweinydd rhyw rwdlyn o'r enw Arthur Skinner (nid yw'n hysbys a oes gan y "mudiad" unrhyw aelodau eraill) . Fe ddywedodd Skinner hyn:
"We are traditional Catholics. We don't look for trouble, but watch out if you start this sort of thing."Bygythiad digon annifyr, rwy'n siwr y cytunech. Mae'n mynnu cael tawelu pawb nad ydynt yn cytuno ag ef, a watch out y sawl nad ildient. Am fwli anghynnes. Mae hefyd yn arddangos tuedd bur gyffredin ymysg llawer o Gristnogion, sef persecution complex a'r dyhead i fod yn ferthyr:
"I'm guilty. If they want to arrest me, be my guest. If it comes to that, I believe in being persecuted for my faith."Fel sy'n digwydd yn aml, felly, yn absenoldeb unrhyw erledigaeth go iawn mae'n rhaid ei ddyfeisio. Dyma pam mae ffyliaid fel Skinner yn ystyried peidio rhoi'r hawl iddo ef ormesu eraill yn enghraifft o ormes ynddo'i hun yn ei erbyn ef. Dyna'r math o feddylfryd rhyfeddol y mae crefydd yn gallu'i feithrin.
Mae achosion fel hyn yn digwydd yn aml iawn. Yn wir, yn dilyn ymgais flaenorol gan yr un eglwys yn union i beri i bobl fogail-syllu, cafodd poster arall o'u heiddo ei ddifetha yn 2009 Gweler hwnnw isod:

Rwy'n hoff iawn o gableddu ("victimless crime", wedi'r cyfan) ac rwy'n chwyrn o blaid yr hawl i wneud hynny, felly mewn ffordd mae'r cwestiwn sydd gennyf yn amherthnasol. Ond yr hyn sydd wedi fy nharo am yr achos diweddaraf yw nad wyf, ar ôl crafu pen gwirioneddol, yn gallu deall beth sydd mor gableddus am y llun (hynny yw, yr un ar dop y cofnod hwn). Ydyn nhw'n gwadu bod Mair wedi bod yn feichiog ar rhyw bwynt? Ac y byddai darganfod y ffaith wedi bod yn ychydig o sioc iddi ar y dechrau? Ni welaf unrhyw beth yma sy'n mynd yn groes i athrawiaeth Babyddol. Y cyfan sydd yma yw bod rhywun nad yw'n Babydd wedi meiddio portreadu Mair mewn modd mymryn yn wahanol ond digon di-niwed. Yn anffodus i'r Pabyddion yma, nid eu heiddo personol hwy yw'r cysyniad a'r ddelwedd boblogaidd o'r cymeriad mytholegol yma. Hyd yn oed petai'r portread yn un gwirioneddol ymfflamychol, nid oes gan unrhyw un yr hawl i beidio cael eu hypsétio.
Mae'r ymateb yn rhyfeddach fyth o ystyried mai Pabyddion sydd wedi'u gwylltio fwyaf. Mae nhw wrth eu boddau'n rhoi delweddau kitsch hyll o'r Forwyn Fair ym mhobman. Os oes unrhyw un yn euog o ddi-brisio delwedd Mair, ar lefel esthetig o leiaf, yna Pabyddion eu hunain yw'r rheiny.
Mae crefydd yn od. Ac ydyn mae'r lluniau'n eithaf doniol.
17/10/2011
Angen rheswm arall i gasáu'r Eglwys Babyddol?
Os nad yw'r holl erchyllterau a restrais yma'n ddigon, maent hefyd yn llythrennol wedi dwyn miloedd ar filoedd o fabanod yn Sbaen.
Bydd rhaglen arbennig ar y BBC nos yfory'n dangos sut y bu'r eglwys yn dweud wrth ferched di-briod (neu "anaddas" ym mha bynnag ffordd), a oedd newydd roi genedigaeth, bod eu babanod wedi marw. Mewn gwirionedd, roedd yr eglwys wedi'u herwgipio gyda'r bwriad o'u gwerthu am $8,000 i gyplau priod a ystyrid yn fwy o Babyddion Da (a dylid nodi nad oedd y mabwysiadwyr fel rheol yn ymwybodol o'r gwir sefyllfa; roedd yr eglwys yn dweud wrthynt bod y mamau biolegol wedi gwrthod y babanod).
Cwbl gwbl frawychus, rwy'n siwr y cytunech. Felly roeddwn yn annheg pan ddywedais yn y blogiad blaenorol nad yw'r eglwys bellach fawr mwy na cabal rhyngwladol sy'n gwarchod treisiwyr plant. Na, maent hefyd yn fasnachwyr plant.
Tybed beth fydd ymateb yr eglwys i'r sylw sy'n sicr o gael ei roi i'r rhaglen? Mae'n siwr y bydd sôn am "wersi wedi'u dysgu" ac yn y blaen, a phrotestiadau bod yr arfer yma wedi dod i ben yn y 1990au. Ond nid yw hynny'n ddigon da. Mae'r eglwys yn gwybod yn iawn pwy fu'n gyfrifol, ac mae'n ddyletswydd arni i roi'r holl wybodaeth berthnasol i'r heddlu. Gallaf eich sicrhau na fydd hynny'n digwydd, fodd bynnag, oherwydd mae'r eglwys yn hanesyddol o dan yr argraff nad ydyw'n atebol i gyfraith gwlad (fel mae cipolwg ar yr holl sgandalau am gamdrin rhywiol yn ei ddangos). Mewn gwirionedd, mae gwarchod y dihirod yma'n drosedd yr un mor erchyll â'r gweithredoedd gwreiddiol.
Unwaith eto, pwysleisiaf bod y sefydliad yma'n mynnu mai hwy yw awdurdod duw ar y ddaear. O ystyried pa mor gwbl anfoesol, llygredig a dieflig yw'r holl eglwys o'r top i'r gwaelod, mae'n amhosibl deall sut y gall unrhyw berson deallus fod yn aelod ohoni. Mae peidio bod yn wrth-Babyddol yn safbwynt rhyfeddol erbyn hyn.

28/09/2011
Casáu'r Pab a'i eglwys
Weithiau, byddaf yn chwerthin ar ben y Pab a'i het wirion a'i grefydd od. O dro i dro, fodd bynnag, bydd yn agor ei geg a'n f'atgoffa mai'r ymateb cywir a haeddiannol yw ei gasáu â chasineb perffaith.

Ond arhoswch! Dyma fwy:
Mae hunan-gyfiawnder y Pab gymaint â hynny'n fwy annioddefol o ystyried y niwed ofnadwy mae ei eglwys yn parhau i wneud. Yn amlwg, mae hanes yr eglwys Babyddol yn ddigon erchyll mewn sawl ffordd, ond maent yn parhau i fod yn gyfrifol am farwolaethau miloedd ar filoedd o bobl hyd heddiw. Maent yn camarwain miliynau o bobl gyda'u celwyddon am HIV a chondoms gan olygu bod llawer ohonynt yn marw o AIDS, ac mae'n llawer gwell ganddynt weld miloedd o ferched yn marw yn hytrach na chael erthyliad. Mae gwaed y meirwon di-rif yma ar fysedd y Pab a'i ragflaenwyr. Pe na bai hynny'n ddigon ofnadwy, dyma'r eglwys sy'n esgymuno esgobion am ordeinio benywod ond sy'n credu mai'r modd cywir o ddelio ag offeiriaid sydd wedi camdrin plant yn rhywiol yw... cadw'n dawel am y peth a'u symud yn slei bach i blwyf arall (lle mae dwsinau o blant bach eraill ffresh yn barod i'w croesawu). Ie, polisi swyddogol yr eglwys Babyddol yw bod rhoi swydd i fenyw yn llawer gwaeth pechod anfaddeuol na threisio plant. Bu'r Pab ei hun, yn rhinwedd ei swydd flaenorol fel y cardinal Joseph Ratzinger, yn gyfrifol am jyglo paedoffiliaid o gwmpas; fe fynnodd, yn blwmp ac yn blaen, bod hygrededd yr eglwys Babyddol yn bwysicach o lawer na gwarchod plant bach rhag y bwystfilod yma a'u cociau rhychiog afiach budr.
Ond cofiwch: ni, bobl seciwlar, sy'n euog o hubris!
Rwyf wir yn casáu'r Pab a'i grefydd. Nis gwn paham yn y byd y byddai unrhyw un yn dymuno bod yn Babydd; mae wir yn ddirgelwch i mi, yn enwedig gan fod ambell un ohonynt yn ddigon addysgedig. Mae'r eglwys yn honni mai hwy yn unig yw cyfrwng awdurdod duw ar y ddaear a'n mynnu y dylem barchu ac ufuddhau gorchmynion yr awdurdod hwnnw. Pa hawl o fath yn y byd sydd ganddynt i fynnu'r fath beth, a phaham yn y byd y mae cymaint o bobl yn parhau i'w cymryd o ddifrif?
Os yw'r llith yma'n peri i amddiffynwyr yr eglwys fy ngalw'n wrth-Babyddol, yr unig beth y gallaf ei wneud yw cytuno ac ymfalchïo yn y label. Pa reswm sydd yna i beidio casáu cyfundrefn mor ragrithiol, sy'n hawlio awdurdod moesol dwyfol tra nad ydyw mewn gwirionedd fawr mwy na cabal rhyngwladol sy'n gwarchod treisiwyr plant?
O ystyried hyn i gyd, mae modd dweud yn deg mai'r eglwys yma, mewn termau absoliwt, yw'r sefydliad mwyaf dinistriol a niweidiol sydd erioed wedi bodoli. Byddai ei thranc yn destun llawenydd i mi, ac fe ddylai fod i bawb.
Gyda llaw, rwy'n defnyddio'r gair "Pabydd" yn hytrach na "Catholic" yn fwriadol. Rwy'n ymwybodol nad yw Pabyddion yn hoff ohono gan ei fod yn debyg iawn i "Papist", sy'n air ag iddo hanes o ddefnydd dilornus ac, wel, gwrth-Babyddol. Ond gan mai holl bwynt Catholigiaeth fel system yw mai un dyn yn unig sy'n gallu dehongli gair duw - ac felly'r unig "wirionedd" o bwys - ar ran y gweddill ohonom, ac mai'r dyn hwnnw yw'r Pab, rwy'n credu bod "Pabydd" yn air addas. Mae'n dangos, yn briodol ddigon, yr hubris, traha ac egotistiaeth sydd wrth wraidd y ddysgeidiaeth honno.
Fel y dywedais ar y dechrau, mae'r Pab yn gwneud i mi chwerthin a gwylltio yn eu tro. Ar ôl poeri gwaed uchod, felly, mae'n briodol cloi gyda fideo sy'n gwneud i mi wenu o glust i glust yn ddi-ffael. Mae Tim Minchin braidd yn hit and miss yn fy marn i, ond dyma'i gampwaith:
Mae'n werth dyfynnu'r diwedd yn enwedig, sy'n gwneud pwynt hanfodol:
Cofiwch gasáu'r Pab. Mae'n bwysig.
“The more the world moves away from God, the more clear it becomes that man, in the hubris of power, the void in his heart and in the longing for fulfillment and happiness, is losing ever more touch with his life,” he preached during the Erfurt’s service.Hubris?? Y Pab yn meiddio cyhuddo eraill o hubris? Y dyn sy'n honni mai ef yw lladmerydd duw ar y blaned - mai ef yw unig ddehonglwr dilys y bod goruchaf a greodd y bydysawd - yn dweud ein bod ni yn euog o hubris? Y Pab o bawb, arweinydd y genedl-wladwriaeth fwyaf bling erioed, sy'n defnyddio aur a chelfyddyd gain (sef ffrwyth ysbeilio hanner y byd) yn yr un modd ag y mae pawb arall yn defnyddio brics a mortar? Yr ateb gorau i hynny yw'r gosodiad campus isod:

Ond arhoswch! Dyma fwy:
“That’s why, during an ecumenical meeting, we shouldn’t just be dismayed by the divisions and separation, but we should thank God for all he has done to retain our unity and what he continues to give us.Haeraf yn llawen nad yw'n debygol y bydd llawer o Brotestaniaid y byd yn croesawu'r alwad yma am undod Gristnogol, yn dilyn ymdrechion diweddar y Pab i hollti'r Eglwys Anglicanaidd.
Mae hunan-gyfiawnder y Pab gymaint â hynny'n fwy annioddefol o ystyried y niwed ofnadwy mae ei eglwys yn parhau i wneud. Yn amlwg, mae hanes yr eglwys Babyddol yn ddigon erchyll mewn sawl ffordd, ond maent yn parhau i fod yn gyfrifol am farwolaethau miloedd ar filoedd o bobl hyd heddiw. Maent yn camarwain miliynau o bobl gyda'u celwyddon am HIV a chondoms gan olygu bod llawer ohonynt yn marw o AIDS, ac mae'n llawer gwell ganddynt weld miloedd o ferched yn marw yn hytrach na chael erthyliad. Mae gwaed y meirwon di-rif yma ar fysedd y Pab a'i ragflaenwyr. Pe na bai hynny'n ddigon ofnadwy, dyma'r eglwys sy'n esgymuno esgobion am ordeinio benywod ond sy'n credu mai'r modd cywir o ddelio ag offeiriaid sydd wedi camdrin plant yn rhywiol yw... cadw'n dawel am y peth a'u symud yn slei bach i blwyf arall (lle mae dwsinau o blant bach eraill ffresh yn barod i'w croesawu). Ie, polisi swyddogol yr eglwys Babyddol yw bod rhoi swydd i fenyw yn llawer gwaeth pechod anfaddeuol na threisio plant. Bu'r Pab ei hun, yn rhinwedd ei swydd flaenorol fel y cardinal Joseph Ratzinger, yn gyfrifol am jyglo paedoffiliaid o gwmpas; fe fynnodd, yn blwmp ac yn blaen, bod hygrededd yr eglwys Babyddol yn bwysicach o lawer na gwarchod plant bach rhag y bwystfilod yma a'u cociau rhychiog afiach budr.
Ond cofiwch: ni, bobl seciwlar, sy'n euog o hubris!
Rwyf wir yn casáu'r Pab a'i grefydd. Nis gwn paham yn y byd y byddai unrhyw un yn dymuno bod yn Babydd; mae wir yn ddirgelwch i mi, yn enwedig gan fod ambell un ohonynt yn ddigon addysgedig. Mae'r eglwys yn honni mai hwy yn unig yw cyfrwng awdurdod duw ar y ddaear a'n mynnu y dylem barchu ac ufuddhau gorchmynion yr awdurdod hwnnw. Pa hawl o fath yn y byd sydd ganddynt i fynnu'r fath beth, a phaham yn y byd y mae cymaint o bobl yn parhau i'w cymryd o ddifrif?
Os yw'r llith yma'n peri i amddiffynwyr yr eglwys fy ngalw'n wrth-Babyddol, yr unig beth y gallaf ei wneud yw cytuno ac ymfalchïo yn y label. Pa reswm sydd yna i beidio casáu cyfundrefn mor ragrithiol, sy'n hawlio awdurdod moesol dwyfol tra nad ydyw mewn gwirionedd fawr mwy na cabal rhyngwladol sy'n gwarchod treisiwyr plant?
O ystyried hyn i gyd, mae modd dweud yn deg mai'r eglwys yma, mewn termau absoliwt, yw'r sefydliad mwyaf dinistriol a niweidiol sydd erioed wedi bodoli. Byddai ei thranc yn destun llawenydd i mi, ac fe ddylai fod i bawb.
Gyda llaw, rwy'n defnyddio'r gair "Pabydd" yn hytrach na "Catholic" yn fwriadol. Rwy'n ymwybodol nad yw Pabyddion yn hoff ohono gan ei fod yn debyg iawn i "Papist", sy'n air ag iddo hanes o ddefnydd dilornus ac, wel, gwrth-Babyddol. Ond gan mai holl bwynt Catholigiaeth fel system yw mai un dyn yn unig sy'n gallu dehongli gair duw - ac felly'r unig "wirionedd" o bwys - ar ran y gweddill ohonom, ac mai'r dyn hwnnw yw'r Pab, rwy'n credu bod "Pabydd" yn air addas. Mae'n dangos, yn briodol ddigon, yr hubris, traha ac egotistiaeth sydd wrth wraidd y ddysgeidiaeth honno.
Fel y dywedais ar y dechrau, mae'r Pab yn gwneud i mi chwerthin a gwylltio yn eu tro. Ar ôl poeri gwaed uchod, felly, mae'n briodol cloi gyda fideo sy'n gwneud i mi wenu o glust i glust yn ddi-ffael. Mae Tim Minchin braidd yn hit and miss yn fy marn i, ond dyma'i gampwaith:
Mae'n werth dyfynnu'r diwedd yn enwedig, sy'n gwneud pwynt hanfodol:
But if you find me more offensive than the fucking possibilityGwych.
The pope protected priests when they where getting fucking fiddly
Then listen to me motherfucker, this here is a fact
You are just as morally misguided as that motherfucking
Power hungry, self-aggrandised bigot in the stupid fucking hat.
Cofiwch gasáu'r Pab. Mae'n bwysig.
Subscribe to:
Posts (Atom)