Yn un peth, rwyf wedi hen syrffedu ar glywed bod Ffransis yn ddiymhongar a gwylaidd. Mewn difrif calon, mae'r dyn yn credu, gyda phob difrifoldeb, mai ef yw unig lefarydd swyddogol creawdwr yr holl fydysawd.
Yn ogystal, roedd y datganiad yma'n hynod annifyr:
“I invite even nonbelievers to desire peace”"Even"! Nid oes arnaf angen gwahoddiad gan y Pab o bawb er mwyn dymuno gweld heddwch, diolch yn fawr.
Ond ar ben hynny, nid oes unrhyw beth o sylwedd wedi newid o fewn yr Eglwys Babyddol. Mae'r wasg yn mynnu bod newid mawr ar droed, ond celwydd llwyr yw hynny.
Ni fyddai bod yn llai uffernol na'i ragflaenydd, Bened XVI, yn gamp arbennig iawn yn y lle cyntaf, ond hyd yn oed wedyn nid yw Ffransis yn welliant gwerth sôn amdano. Mae'n ddigon hawdd dweud pethau neis am gyfiawnder a thegwch a thlodi pan rydych yn bennaeth ar wlad sy'n llythrennol wedi'i gwneud o aur. Geiriau gwag yw'r rhain. Gweithredoedd sy'n cyfrif, nid datganiadau di-sylwedd ffug-garedig. Mae'r eglwys wedi sicrhau buddugoliaeth PR anferth heb wneud unrhyw beth yn wahanol.
Er yr holl siarad, mae ei eglwys yn parhau i arddel yr un hen bolisïau hyll sy'n helpu i gadw'r tlodion yn eu lle: nid oes unrhyw lacio wedi bod ar wrthwynebiad yr eglwys i erthyliad a dulliau atalgenhedlu yn gyffredinol. Maent o hyd yn rhaffu'r un celwyddau am gondoms ac AIDS, sydd wedi arwain yn uniongyrchol at filiynau o farwolaethau di-angen.
Ar ben hynny, nid oes unrhyw awgrym bod yr eglwys am ddechrau ordeinio menywod, ac mae'r rhagfarn amrwd tuag at bobl hoyw yr un mor uniongred a chadarn ag erioed. Heb sôn am drosedd waethaf un y sefydliad, sef y ffaith eu bod yn parhau i lochesu miloedd o bedoffeiliaid rhag cyfiawnder. Os yw Ffransis yn dymuno ennill hygrededd go iawn, dylai fynnu ar unwaith bod ei eglwys yn cyd-weithio'n llwyr ac agored â'r heddlu ynghylch y sgandalau treisio plant. Cyn i ni weld hynny'n digwydd, erys y Pab yn bennaeth ar y cartel gwarchod pedoffeiliaid gwaethaf a welodd ein planed erioed (ac mae hynny wrth gwrs yn ei wneud yn ddihiryn). Go brin y gwelwn unrhyw ddatblygiadau cadarnhaol yn yr un o'r meysydd hyn, felly ni welaf unrhyw reswm i barchu'r dyn nac i wneud unrhyw gymhariaethau ffafriol â'i ragflaenydd.
Wrth gwrs, mae disgwyl i'r Pab ddiddymu'r holl bolisïau uchod gyfystyr â mynnu ei fod yn troi ei gefn ar athrawiaeth Babyddol yn gyffredinol. Mae'r problemau gyda'r Pab yn deillio o'r ffaith ei fod, yn anffodus, yn babydd. Os am weld Pab sy'n haeddu canmoliaeth go iawn, bydd rhaid i ni aros i eirth roi'r gorau i gachu yn y goedwig.
No comments:
Post a Comment