Showing posts with label siwdo-wyddoniaeth. Show all posts
Showing posts with label siwdo-wyddoniaeth. Show all posts

05/01/2020

Derek Acorah

Mae Derek Acorah, y seicig a gafodd yrfa lewyrchus trwy honni ei fod yn gallu siarad â'r meirw, wedi marw. Dyma gael y jôc hawdd o'r ffordd: pam ddylai rhywbeth bach di-nod fel diwedd ei fodolaeth yn ein byd ni olygu diwedd ar ei yrfa? Oni ddylai hyn wneud ei waith hyd yn oed yn haws?

Gyda'r hinsawdd wleidyddol yn parhau i ddirywio, gall deimlo braidd yn sathredig i wastraffu amser yn beirniadu pobl fel Acorah. Ond mae'n bwysig peidio anghofio pa mor wrthun ydynt. Er y disclaimers yn y print mân mai 'adloniant' yw eu sioeau, maent yn twyllo pobl mewn galar, yn y mod mwyaf uffernol o greulon a digywilydd.

Yr arfer gyda phob math arall o dwyll yw carcharu'r twyllwyr. Nid yw'n eglur i mi pam nad yw hyn yn wir yn achos seicigs cyfoethog (er bod ambell eithriad). Dylai Acorah fod wedi cael ei ddedfrydu flynyddoedd maith yn ôl, ac mae'n anfaddeuol ei fod wedi cael treulio cynifer o amser ar y teledu. Dagrau pethau yw bod y twyll mor rhyfeddol o sâl ac amlwg. Pob lwc iddo ar yr 'ochr arall', am wn i.

16/08/2015

Ffolineb gwahardd cnydau wedi'u haddasu'n enetig

Digalon oedd darllen am fwriad llywodraeth yr Alban i wahardd cnydau wedi'u haddasu'n enetig. Mae obsesiwn y mudiad gwyrdd â'r pwnc hwn yn peri cryn rwystredigaeth i mi, a dweud y gwir, gan nad oes sail wyddonol o gwbl i'r pryderon. I'r gwrthwyneb, mae'n faes addawol dros ben, gyda llawer o fanteision o safbwynt amgylcheddol a sosio-economaidd.

Y gwir yw ein bod wedi bod yn ddiwyd yn addasu planhigion, ac anifeiliaid o ran hynny, yn enetig ers miloedd o flynyddoedd. Dyna holl sylfaen amaethyddiaeth: rydym yn dewis y cnydau neu'r da byw sy'n diwallu ein hangenion orau, a defnyddio'r rheiny er mwyn cynhyrchu'r genhedlaeth nesaf. Dyma sut y bu i india-corn gynyddu mor ddramatig mewn maint dros gyfnod o 10,000 o flynyddoedd, er enghraifft. Esblygiad wedi'i lywio gan bobl ydyw yn y pen draw. Mewn geiriau eraill: addasu genetig.

Yr unig wahaniaeth yn achos yr hyn sy'n peri braw i rai pobl heddiw yw bod yr addasu hwnnw'n digwydd mewn labordy, a'n cael ei wneud gan wyddonwyr mewn cotiau gwyn. Yr un yw'r nod yn union, sef cynhyrchu mathau o fwyd sy'n haws i'w cynhyrchu. Er enghraifft, mae cynhyrchu cnydau newydd sy'n apelio llai at bryfetach yn golygu bod angen defnyddio llai o blaladdwyr. Mae hynny - yn hollol ddi-amwys - yn fuddiol dros ben i'r ffermwr a'r amgylchedd. Yn yr un modd, bydd modd cynnyrchu mwy a mwy o fwyd gan ddefnyddio llai o dir a gwrtaith. Unwaith eto, da yw hyn i gyd, heb ddadleuon da yn erbyn. Mewn gwledydd tlawd yn arbennig, mae addasu cnydau'n enetig yn cynnig gobaith anferthol.

Mae carfan o'r mudiad amgylcheddol sy'n obsesiynu ynghylch y 'naturiol', sydd, yn eu tyb hwy, yn rhagori ar yr 'artiffisial'. Nonsens fel hyn sy'n arwain at honiadau hanner-pan fel y syniad bod 'cemegion' yn ddrwg yn eu crynswth, er mai cemegion yw popeth, yn llythrennol, yn y byd i gyd (gan gynnwys quinoa). Nid syniadau blaengar mo'r rhain, eithr y gwrthwyneb. Lol emosiynol gwrth-wyddonol ydyw, ac mae'r sawl sy'n ei harddel yn Luddites adweithiol. Dylai amgylcheddwyr call ymbellhau oddi wrthynt.

10/06/2015

Sut i beidio herio coegfeddygon

Mae cylchgrawn a gwefan ofnadwy o'r enw What Doctors Don't Tell You wedi bodoli ers rhai blynyddoedd, bellach. Casgliad o gelwyddau a honiadau di-sail am ffug-driniaethau 'amgen' ydyw, ac mae sceptigiaid - gan gynnwys fi - yn llawn dirmyg tuag at y cyhoeddiad. Siom enfawr, fodd bynnag, oedd gweld y pwt yma yn y Private Eye diweddaraf:

Dylid nodi, efallai, bod gan Private Eye hanes o fod yn or-garedig i WDDTY. Tybed a yw'r ffaith bod y ddau gylchgrawn yn cael eu dosbarthu gan yr un cwmni, Comag, yn ffactor yn hynny o beth? Nid oes manylion am y sylwadau cas ar Facebook ac ati, felly mae'n anodd barnu (os oedd rhai ar eu tudalen, maent wedi'u dileu). Rwyf wedi edrych yn frysiog ond heb ganfod unrhyw enghreifftiau o'r hyn a awgrymir. Ond os nad yw hynny'n eglur, mae'r bygythiadau a'r hacio'n swnio'n ddi-amwys. Mae ymddygiad felly'n amlwg yn warthus ac anfaddeuol.

Mae'r arfer o fygwth trais rhywiol yn ddirgelwch anferth i mi: beth ddiawl sy'n mynd trwy feddwl y math o berson sy'n hapus i wneud hynny? Yn anffodus, mae wedi dod i'r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf bod rhywiaeth yn broblem o fewn y 'gymuned' o sceptigiaid ac anffyddwyr ar y we, ac nad ydym fawr gwell, os o gwbl, na'r boblogaeth yn gyffredinol yn hynny o beth. Os oes gan garfan ohonom yr argraff bod yr uchod yn ffordd synhwyrol o ymateb i'n 'gelynion', yna mae gennym broblem fawr y mae angen ei datrys ar fyrder.

Yn ogystal â bod yn anfoesol, mae nonsens fel hyn yn wrth-gynhyrchiol gan ei fod yn dilysu persecution complex y bobl sy'n hyrwyddo 'triniaethau' amgen. Mae cyhoeddwyr WDDTY eisoes yn awchu i bortreadu eu hunain fel Dafyddiaid bychain yn brwydro'n ddyfal yn erbyn Goliath y sefydliad meddygol gormesol a llwgr, sef naratif gyfarwydd pob quack. Y peth olaf sydd ei angen yw i rai ffyliaid roi hygrededd i'r naratif honno.

20/10/2014

'Hypersensitifrwydd electromagnetaidd'

Roedd gan WalesOnline stori bur drist ychydig ddyddiau yn ôl am ddyn sy'n gaeth i'w dŷ oherwydd hypersensitifrwydd electromagnetaidd. Mae'n debyg bod teclynnau trydanol yn achosi poenau ofnadwy i Peter Lloyd, sy'n golygu bod angen iddo gadw pellter rhag pob ffôn symudol, parth wi-fi, a hyd yn oed goleuadau trydan a cheir. Oherwydd hyn, mae wrthi'n gwneud cais i'r cyngor ei ddarparu â chaban anghysbell.

Mae'n sefyllfa druenus, ac mae'n anodd peidio cydymdeimlo. Ond mae un broblem ddifrifol â'r adroddiad: nid yw'n egluro'r ffaith nad yw hypsersensitifrwydd electromagnetaidd yn bodoli. Mae'n anodd dweud hynny heb swnio'n greulon, ond dyna'r gwir plaen amdani: nid oes y fath gyflwr yn bod.

Sylwer bod pob gair o'r adroddiad yn hollol grediniol, heb unrhyw fath o awgrym nad yw hunan-ddiagnosis Mr Lloyd o reidrwydd yn gywir. Yn anffodus, mae'n enghraifft o newyddiadura di-ofal, diog ac anghyfrifol ar y naw.

Dylai fod yn amlwg nad cyhuddo Mr Lloyd o ddweud celwydd yw hyn. Nid oes rheswm i dybio nad yw'n ddidwyll o'r farn bod technolegau modern y byd cyfoes yn ei arteithio. Nid ef yw'r unig un sy'n credu hynny, chwaith. Ond y gwir yw bod astudiaethau trylwyr wedi cael eu gwneud yn chwilio am unrhyw effeithiau niweidiol ar ein hiechyd yn sgil pelydrau electromagnetig neu feysydd trydannol, a negyddol yw pob canlyniad.

Mae arbrawf syml er mwyn canfod a yw symptomau Mr Lloyd yn wir ai peidio. Gellir ei roi mewn ystafell sydd wedi'i hinsiwleiddio rhag popeth o'r byd tu allan, gyda dyfais electronig mewn bocs heb ei agor. Wedyn, gall wyddonydd, o du allan i'r ystafell, droi'r ddyfais ymlaen ac i ffwrdd ar hap. Os yw'r effaith yn wir, byddai modd i Mr Lloyd ddweud yn union pryd y mae'r ddyfais ymlaen a phryd y mae wedi'i throi i ffwrdd. Dyma'r math o arbrawf y cyfeiriais ato uchod, ac mae'r fethodoleg yn eithaf syml. Os yw'r symptomau'n wir, byddai'n achosi peth poen i Mr Lloyd, ond nid oes rheswm iddo beidio cydsynio os yw'r teclynnau yma'n ei boenydio bob dydd doed a ddelo. Byddai canlyniad positif yn ddarganfyddiad arwyddocaol iawn, a byddai'n galluogi gwyddonwyr i ganfod atebion a helpu i leddfu dioddefaint y claf.

Fy hypothesis sinigaidd yw na fyddai Mr Lloyd, wedi'r cyfan, yn gallu dweud pryd fyddai'r ddyfais yn cael ei throi ymlaen. Ond beth sy'n mynd ymlaen, felly? Fel y soniais, rwy'n hyderu ei fod yn ddidwyll. Mae'n debygol, felly, mai problem seicolegol sydd wrth wraidd hyn. Os yw hynny'n swnio'n gas, yna rheswm i gael gwared ar y stigma ynghylch afiechydon meddyliol yw hynny.

Efallai ei bod yn arwyddocaol mai hyfforddwr corfforol ac ymgynghorydd maethegyddol oedd ei alwedigaeth cyn i'w afiechyd gydio o ddifrif. Mae rhai sy'n ymwneud â'r maes hwnnw yn dod o dan ddylanwad gwefannau fel Natural News, gwefan yr erchyll Mike Adams, sy'n hyrwyddo pob math o driniaethau amgen. Cam naturiol pellach wedyn fyddai gwefan fel PowerWatch, a redir gan ddyn o'r enw Alasdair Phillips, sy'n gwneud ei ffortiwn trwy werthu fug-declynnau sydd, fe honnir, yn eich hamddiffyn rhag yr holl dechnoleg anweledig ofnadwy yma. A dweud y gwir, mae hyn wedi f'atgoffa o'r ffaith i mi gyhoeddi erthygl yng nghylchgrawn Barn ar y pwnc hwnnw un tro; efallai yn rhifyn Eisteddfod 2007. Mae fy nghopi wedi hen fynd yn anghof, yn anffodus.

Damcaniaethu ynghylch y trywydd a gymerodd Mr Lloyd yw'r paragraff uchod. Y pwynt yw bod poenau meddyliol yn gallu bod lawn mor boenus â rhai corfforol, fel plasebo am yn ôl. Os ydych yn teimlo sicrwydd bod rhywbeth yn eich brifo, hyd yn oed os nad oes sail corfforol, mae'r boen yn gallu teimlo'n real. Ceir rhai pobl sy'n taeru, yr un mor ddidwyll, bod elfennau sinistr o fewn y llywodraeth, neu ddynion gwyrddion o'r gofod, yn cynllwynio i reoli'u meddyliau, ac sydd o'r herwydd yn gwisgo hetiau ffoel er mwyn eu hatal. Ffenomen o'r un genre yw'r hyn y mae Mr Lloyd yn ei ddioddef. Mae'n haeddu triniaeth, ond nid y math sydd ganddo'i hun mewn golwg.

22/04/2014

Ffug-ddwyster gwag yr Oes Newydd

The quantum cycle is bursting with molecular structures. To walk the story is to become one with it. Today, science tells us that the essence of nature is wellbeing.
This life is nothing short of a deepening fusion of joyous nature.
Through feng shui, our third eyes are baptized in flow. As you believe, you will enter into infinite wellbeing that transcends understanding. Affirmations may be the solution to what’s holding you back from an astonishing reimagining of truth.
Eons from now, we dreamweavers will self-actualize like never before as we are awakened by the multiverse. It is time to take wellbeing to the next level. This vision quest never ends.
Yes, it is possible to eradicate the things that can extinguish us, but not without growth on our side. Ego is the antithesis of guidance. You must take a stand against turbulence.
Humankind has nothing to lose. You and I are travellers of the universe. We live, we vibrate, we are reborn. Nothing is impossible.
You will soon be guided by a power deep within yourself — a power that is powerful, perennial. The future will be a sentient summoning of wisdom. The unifying of life-force is now happening worldwide.
Fe gewch faddeuant os ydych yn tybio mai un o'r siarlataniaid hynny sy'n pedlera lol Oes Newydd sydd berchen ar y geiriau uchod. Dwfn, yntydyn?

Mewn gwirionedd, cynnyrch y New Age Bullshit Generator ydynt. Cliciwch y botwm ar dop y dudalen yna, ac fe gewch lith tebyg i'r uchod sy'n gwneud yr un faint o synnwyr yn union â'r fflwff ffug-ddwys a bareblir gan Deepak Chopra, Andrew Weil ac ati (sef dim). Nonsens pur sy'n gywir yn ramadegol ond dyna'r cwbl. Atgoffa rhywun o gymwynas enwog Alan Sokal ym 1996.

05/02/2014

Strategaeth y Lletem

Union bymtheng mlynedd yn ôl heddiw, daeth cath arwyddocaol iawn allan o'r cwd (yn hanes y ddadl ddi-ddiwedd ynghylch esblygiad a chreadaeth o leiaf). Roedd y Discovery Institue, sefydliad Americanaidd sy'n arddel a hyrwyddo intelligent design, wedi bod yn ceisio mynnu ers tro nad yw eu fersiwn ddiweddaraf o greadaeth yn syniad crefyddol. Prif nodwedd ID o'i gymharu â'r creadaeth mwy amrwd grefyddol a gafwyd ynghynt oedd ei fod yn cael ei fynegi mewn termau sy'n osgoi crybwyll duw. Cam strategol llwyr oedd hynny, gan fod ffwndamentalwyr crefyddol wedi colli sawl achos llys yn America yn dilyn ymdrechion i ddysgu'r lol yma mewn ysgolion, ar y sail eu bod yn ceisio gorfodi ffydd grefyddol ar y plant. Ond "nothing more than creationism in a cheap tuxedo" yw ID mewn gwirionedd, fel y dywedodd Leonard Krishtalka.

Hepgor y stwff am dduw oedd yr amcan yn gyhoeddus, o leiaf, ond roedd y cymhellion crefyddol yn gwbl amlwg o hyd i bawb arall. Cafwyd cadarnhad ar y 4ydd o Chwefror 1999, pan ddaeth dogfen fewnol gyfrinachol i'r fei: y Wedge Strategy (dyma'i enw swyddogol, a dyna'r post gwreiddiol lle cyhoeddwyd y ddogfen yn gyhoeddus am y tro cyntaf, ar Usenet). Mae dogfen y Discovery Institute yn cadarnhau mai hyrwyddo eu crefydd oedd y nod o hyd: "replace materialistic explanations with the theistic understanding that nature and human beings are created by God". Nid oedd hynny'n syndod, ond roedd yn ddefnyddiol cael y peth ar ddu a gwyn gan y DI ei hun.

Dylid cadw hyn mewn cof pan mae un o'r bobl yma'n ceisio mynnu bod eu 'theori' yn wyddonol yn hytrach na chrefyddol. Eu gobaith oedd helpu'r hachos yn y llysoedd. Yn ddoniol iawn, fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r ffwndamentalwyr sy'n gysylltiedig â llawer o'r achosion llys yma'n methu â glynu at y script, ac maent yn aml yn bradychu eu gwir gymhellion trwy ddechrau mwydro am Dduw a Iesu wedi'r cyfan. Fe ymddengys nad ydynt yn gallu helpu'u hunain.

16/09/2013

"Seicigs" yn gwneud ffyliaid o'u hunain

Mae'r wefan Cracked wedi casglu chwech o fideos doniol yn dangos "seicigs" honedig yn gwneud ffyliaid o'u hunain yn gyhoeddus. Fel arfer, am resymau amlwg, nid ydynt yn awyddus i brofi eu "doniau" o dan amodau gwyddonol.

Ni ddylid eu hesgusodi ar y sail mai "dim ond hwyl ydyw". Mae eu poblogrwydd wedi'i seilio ar yr honiad eu bod yn meddu ar bwerau goruwchnaturiol go iawn. Maent yn cymryd mantais o bobl bregus (a naïf) er mwyn eu hamddifadu o symiau anferth o arian. Dyma pam mai consurwyr proffesiynnol go iawn (fel James Randi), sy'n flin i weld eu crefft yn cael ei chamddefnyddio a'i chamddehongli,  yw eu gelynion pennaf.

(via Dispatches From The Culture Wars)

21/06/2013

"Diwygiad" Cwmbrân

Mae'r Victory Church yng Nghwmbrân wedi dod yn eithriadol o boblogaidd ers dechrau ychydig fisoedd yn ôl. Fe gafodd sylw ar Newyddion S4C neithiwr, oherwydd mae'r eglwys, a'r parchedig carismataidd ifanc Richard Taylor, yn honni bod dwsinau o'u cyd-addolwyr wedi cael eu gwella, trwy weddi a defodau ofergoelus eraill, o bob math o afiechydon ac anafiadau, gan gynnwys canser. Mae ambell un wedi cymharu'r peth â diwygiad Evan Roberts ym 1904.

Mae awdur y cofnod blog yma'n amlwg yn frwdfrydig iawn am yr hyn sy'n digwydd yno. Dyfynnaf ambell ddarn o'r adran am y iechydwriaeth honedig:
Some of the healing that have occurred through the Cwmbran Outpouring in the last few weeks have been extraordinary. One thing that is striking is the way in which the leaders are careful to verify each story of healing which they receive. Just a few stories will have to suffice to give an idea of what is happening.

A young man who recently became a Christian received prayer for his wrist after damaging it when he fell off his motorbike. He was instantaneously healed and did press ups at the front of the church to test it out.

An older lady who is hungry for Jesus has received more than she expected after her withered hand straightened and arthritis subsided! She feels miraculous improvement and cannot believe what God has done for her!

A brain tumour that a young girl has been suffering with has shrunk significantly. She has been told she will not need any more chemotherapy!

Some  people left one of the meetings not knowing whether to wear their glasses any more as everything now looked blurry with them on! 

A woman with a serious hormone imbalance healed as she drove home from meeting last night. Began to weep. Had to stop. Felt work of God in her. Heard voice of God: ‘It’s gone’. Cried. Then heard again ‘It’s gone’.

A young man was completely healed from leukaemia, and had the blood tests necessary to prove it.

A man with tumours on his neck found they had completely disappeared after he was prayed for.

Another man, his rib-cage pushed out of shape by a tumour found that it had completely disappeared, and his rib-cage returned to its normal position.


A young girl was completely healed of Bell's Palsy after being prayed for in a meeting. She is now medication free, and her doctors were astounded. She was also filled with the Holy Spirit, and her attacks of severe anxiety have completely gone. She used to wake up each night screaming in fear, but has slept peacefully ever since.
Yr honiadau am ganser sy'n fy mhryderu fwyaf, er bod y gweddill yn gwbl hurt hefyd. Yn wir, mae'n anghyfreithlon gwneud honiadau di-sail am wella pobl rhag y clefyd hwnnw; mae'n fater hynod ddifrifol, am y rheswm amlwg bod codi gobeithion pobl fel hyn yn golygu eu bod yn mynd i fod yn llai tebygol o weld doctoriaid go iawn neu o dderbyn y triniaethau meddygol priodol. Yn syml iawn, mae haeru pethau fel hyn yn arwain yn uniongyrchol at farwolaethau di-angen. Nid siarad gwag mo hyn: mae hynny'n digwydd yn drychinebus o aml (dyddiad heddiw sydd ar yr adroddiad yna, er enghraifft). Os yw'r lol yma yng Nghwmbrân yn parhau, yn hwyr neu'n hwyrach bydd gan yr eglwys waed ar ei dwylo.

Nid yw'n eglur pwy'n union sydd wedi "cadarnhau" y straeon hyn. Yn ôl y sôn, mae'r eglwys yn dweud wrth bobl i fynd i weld eu meddygon er mwyn sicrhau eu bod wir wedi'u gwella, ond mae'r diffyg manylion yn golygu ei bod yn anodd gwirio beth sy'n mynd ymlaen. Dyma'r un hen stori: anecdotau heb unrhyw dystiolaeth. Gwelwn yr un math o honiadau yn union ar waith ym maes meddyginiaethau amgen.

Mae'n siwr bod amrywiaeth o esboniadau i'r anecdotau uchod. Yr amlycaf yw eu bod yn achosion o or-ddweud neu gelwydd noeth. Cofier hefyd mai pobl heb hyfforddiant (na dealltwriaeth) feddygol sy'n gyfrifol am yr honiadau yma, ac mae'n bosibl mai hunan-ddiagnosis cyfeiliornus ydynt yn y lle cyntaf. Posibilrwydd arall yw bod y cleifion wedi bod yn cael triniaeth feddygol go iawn mewn ysbyty yn ystod yr un cyfnod, ond wedi dewis rhoi'r clod i gyd i'w duw yn hytrach na'r doctoriaid proffesiynol. Mae hyn yn digwydd yn rhyfeddol o aml, o ddarllen am achosion tebyg dros y blynyddoedd (o America fel arfer). Gall fod ffactorau cynilach ar waith hefyd. Er enghraifft, mae afiechydon neu anhwylderau'n aml yn mynd a dod yn naturiol. I lawer sydd wedi derbyn triniaeth aflwyddiannus ac sydd wedi dechrau anobeithio, gallwn rhyw ddeall y demtasiwn i roi cynnig ar eglwys o'r fath pan mae'r anhwylder ar ei waethaf. Oherwydd ffenomen o'r enw atchweliad i'r cymedr ("regression to the mean"), fodd bynnag, mae'r salwch neu'r boen yn aml yn gwella ar ei ben ei hun (yn enwedig os, fel y dywedais, yr oedd ar ei waethaf ar y pryd). Ar ben hynny, wrth gwrs, mae'r effaith plasebo, sy'n llawer iawn cryfach nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei sylweddoli. Mae'r esboniadau hyn i gyd lawer iawn mwy tebygol na'r casgliad a ffefrir gan gymaint o gristnogion.

Eto i gyd, mae llawer o'r anecdotau'n cyfeirio at glefydon pendant a difrifol, fel liwcemia. Nid yw liwcemia'n dueddol o wella ar ei ben ei hun. Os yw'r eglwys yma wir eisiau dweud eu bod wedi gallu gwella dyn ifanc o'r clefyd erchyll hwnnw trwy weddi, dylent roi mwy o fanylion. Mae astudio'r achosion yma'n fater digon syml, pe ceir cyfle. Ond rwyf wedi clywed am ormod o achosion gwag tebyg i ddal f'anadl: dro ar ôl tro, fe welwn ddatganiadau tebyg, a thro ar ôl tro mae astudiaethau wedi dangos nad oes tystiolaeth o gwbl (mae'n werth darllen yr erthygl yna i gyd).

Roedd yna gyfnod yn yr 1980au yn enwedig pan roedd yna ddiwydiant anferth wedi'i seilio ar y celwyddau yma. Mae hynny'n wir o hyd mewn llawer o lefydd, ond yn America o leiaf fe chwalwyd dogn helaeth o hygrededd y siarlataniaid yma (fel Peter Popoff) diolch i waith gwerthfawr James Randi a'i debyg. Nid ydynt wedi diflannu'n gyfan gwbl o bell ffordd, er hynny.

Ni raid i hyn i gyd olygu bod Richard Taylor a'i griw'n twyllo'n fwriadol (er bod hynny'n bosibilrwydd). Rwy'n derbyn ei bod yn berffaith bosibl eu bod yn gwbl ddidwyll, a'n grediniol eu bod yn helpu pobl. Serch hynny, mae eu camarwain yn beryglus, ac mae dirfawr angen eu herio.

06/03/2013

James Randi vs Uri Geller

Rwy'n mwynhau consurwyr (rwy'n gobeithio mynd i weld sioe fyw Penn & Teller yn fyw tra'n Las Vegas ddiwedd y mis), ac rwy'n hoff iawn o James "The Amazing" Randi yn arbennig. Yn ôl llawer o wybodusion y byd hud a lledrith, ef yw'r consuriwr gorau ers Houdini, ond yn ddiweddarach yn ei yrfa mae wedi dod yn fwyfwy adnabyddus fel sceptig sy'n herio "seicigiaid" a thwyllwyr eraill sy'n honni bod ganddynt bwerau paranormal.

Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr ar y pwnc. Fe ddarllenais The Faith Healers rhyw flwyddyn neu ddwy yn ôl. Mae'n disgrifio'n drwyadl iawn sut yr arferai "iachawyr ffydd" carismataidd fel Peter Popff flingo'u preiddiau trwy honni bod ganddynt y gallu i wella afiechydon ac anhwylderau trwy ras Duw. Roedd y dihirod yma'n defnyddio triciau digon sâl; yn achos Popoff, y ffefryn oedd teclyn radio yn ei glust er mwyn i'w wraig fwydo gwybodaeth am y gynulleidfa iddo! Roedd y ffenomen yma efallai yn ei anterth yn yr 1980au pan gyhoeddwyd y gyfrol, ac er bod ambell un o'r siarlataniaid yma wrthi o hyd, i Randi a'i debyg y mae llawer o'r diolch eu bod wedi colli cymaint o'u hygrededd.

Rwyf newydd ddarllen dwy gyfrol arall gan Randi: "Flim-Flam!" a "The Truth About Uri Geller". Pobl sy'n honni bod ganddynt bwerau "ESP" ("extra-sensory perception") sydd o dan sylw'n bennaf. Mae'r rhain yn mynnu eu bod yn gallu darllen meddyliau, neu'n haeru eu bod yn gallu canfod dŵr tanddaearol gyda darn o bren, neu'n gallu symud eitemau heb eu cyffwrdd ac ati. Eglura Randi'n ofalus nad oes y mymryn lleiaf o dystiolaethi i gefnogi'r fath honiadau, ac mae digon yn eu herbyn. Fel y dywed yr awdur, mae'r bobl yma'n syrthio i un o ddau gategori: mae rhai'n ddigon digywilydd a'n gwybod yn iawn eu bod yn twyllo, ond mae eraill wirioneddol yn credu bod ganddynt rhyw allu goruwchnaturiol. Mae rhywun bron â chydymdeimlo gyda'r ail grŵp ar adegau. Bron.

Fel y mae'r teitlau'n awgrymu, casgliad o bobl od a gawn yn Flim-Flam! tra mae'r llall yn canolbwyntio ar un person yn arbennig. Roedd Uri Geller, y "plygwr llwyau", yn ei anterth ar y pryd (cyhoeddwyd y ddwy gyfrol yma'n wreiddiol yn y 1970au), ac mae'n amlwg bod Randi wedi cael llond bol. Efallai bod Geller yn dipyn o destun sbort erbyn hedddiw, felly mae'n hawdd anghofio pa mor boblogaidd ydoedd bedwar degawd yn ôl a chynifer oedd yn ei gymryd o ddifrif, gan gynnwys rhai gwyddonwyr. Byddai'n deg gofyn pam mae Randi'n pryderu gymaint am y mater: wedi'r cyfan, consuriwr ydyw yntau hefyd, sydd wedi gwneud bywiolaeth lwyddiannus trwy wneud triciau a "thwyllo" cynulleidfaoedd. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth amlwg rhwng Randi a Geller, sef bod Randi'n cydnabod yn llawen mai triciau y mae'n eu cyflawni a dim byd arall. Mae Randi'n gallu efelychu "campau" Geller i gyd, ond fe ddyfeisiodd hwnnw stori ddwl am estroniaid a phlaned o'r enw Hoova mewn ymgais i ddarbwyllo pawb bod rhywbeth paranormal ar y gweill. Un broblem gyda hyn yn ôl Randi yw bod y fath ymddygiad yn di-raddio consuriaeth fel crefft, fel y dywed yn The Truth About Uri Geller:
I  call upon the conjurors of the world to take a stand on this matter. I call upon the magical organizations that place so much value upon the preservation of their trade secrets to put as much value into their concern for the public they entertain, and to insist upon certain standards of truth from their members. I urge that we devote our efforts to the entertainment of our audience by means of subterfuge, but never the bilking or the condoning of the bilking of any person or group by means of our skills. I insist that magicians of standing take action on behalf of the uninitiated to protect them against charlatans who profess divine or supernatural powers. And, most of all, I ask my fellow-magicians to preserve the dignity and integrity of this craft we hold so sacred by standing up to be counted when that craft is threatened by those who would make of it a racket.

We oweat least that much to those whom we entertain. It is they who bring us that priceless commodity, applause, without which we wither and perish. And it is they who make it possible for us to make an enjoyable living that rewards us personally in so many ways other than money.

For we are the only element that stands between the faker and his victim. Men of science and other great intellects are without that peculiar expertise that qualifies us to detect chicanery when it is practiced on a high level. We are needed, and we must not only accept, we must lay claim to it
Mae'r geiriau'n ddramatig, ond rwy'n cydymdeimlo. Mae Penn & Teller hefyd yn ddirmygus iawn o'r bobl yma, fel yr oedd Houdini* eu hun gynt. Nid dim ond consurwyr sy'n cael eu niweidio gan honiadau di-sail am bwerau paranormal chwaith. Mae'n hawdd gweld sut y gall dwyllwyr egotisaidd ddatblygu messiah complex, sy'n ffenomen hynod beryglus; mae pob arweinydd cwlt gwerth ei halen wedi meddu ar y gallu i gyflawni llond llaw o driciau hud a lledrith, wedi'r cyfan. Mae dweud bod gennych allu goruwchnaturiol hefyd yn ffordd effeithiol iawn o ddarbwyllo pobl anghenus a bregus i roi llawer iawn o arian i chi, fel y gwelwyd uchod yn achos Popoff a'i debyg (wrth i fri "iachawyr ffydd" ddirywio, mae seicigs sy'n honni eu bod yn gallu siarad â'r meirw wedi cynyddu mewn poblogrwydd i lenwi'r bwlch; maent yr un mor warthus). Ar ben hyn i gyd, mae gwirionedd yn bwysig ynddo'i hun. Fel y dywed Randi,  
Acceptance of nonsense as a harmless aberration can be dangerous to all of us. We live in a society that is enlarging the boundaries of knowledge at an unprecedented rate, and we cannot keep up with much more than a small portion of what is made available to us. To mix that knowledge with childish notions of magic and fantasy is to cripple our perception of the world around us. We must reach for the truth, not for the ghosts of dead absurdities.
Mae'r paragraff olaf yn y dyfyniad blaenorol yn arwyddocaol. Un thema gyson yn y llyfrau yw nad gwyddonwyr proffesiynol yw'r bobl orau bob tro i oruchwylio profion ar bobl sy'n honni bod ganddynt bwerau paranormal. Y rheswm am hyn, yn ôl Randi, yw eu bod yn haws i'w twyllo nag y byddai rhywun yn ei dybio. Mae'n debyg bod rhai o'r gwyddonwyr a astudiodd Geller wedi bod yn chwilio allan am laser cudd neu gemegyn dirgel neu bob math o dechnegau cyffrous eraill. Efallai eu bod braidd yn gaeth, yn eu ffordd o feddwl, i'w meysydd arbenigol, ac heb arfer â'r posibilrwydd bod goddrych yr astudiaeth yn bod yn fwriadol anonest. Fel y pwysleisia Randi, mae'r gwirionedd yn fwy diflas o lawer na'r hypotheses lliwgar hynny: fel arfer, swmp a sylwedd dull Geller yw plygu neu wahnau'r llwy neu'r allwedd gyda'i ddwylo neu'n erbyn bwrdd pan nad oes unrhyw un yn edrych. Ie, cyn symled â hynny. Gweler y fideo yma, er enghraifft; mae'n syfrdanol o ddigywilydd. Mae bron yn demtasiwn i edmygu'r ffasiwn chutzpah. Ond rwy'n credu dylai fod yn siom a rhwystredigaeth bod y gwirionedd mor ddi-nod, mor boring a mor dila: hyd yn oed petai Geller yn onest am yr hyn y mae'n ei wneud, ni fyddai ei act yn ddiddorol iawn o gwbl. Dywed Randi bod angen consuriwr yn bresennol er mwyn dal consuriwr arall allan, ac mae'n hawdd deall felly pam roedd Geller yn gwrthod perfformio'n llwyr os oedd Randi neu rywun tebyg o gwmpas i gadw llygad. Noda'r awdur hefyd ei fod wedi wynebu peth dirmyg gan y gwyddonwyr eu hunain; nid oedd llawer o'r rhain chwaith yn awyddus i'w gael yn bresennol, efallai am eu bod yn meddwl gormod o'u gallu eu hunain a'n ddilornus o allu unrhyw un nad oedd yn academydd i fod o unrhyw gymorth. Mae yna wers bwysig yn y fan yna.

Fel mae'n digwydd, mae Geller wedi rhoi'r gorau i ddweud bod ganddo allu paranormal erbyn hyn. Mae'n rhy hwyr i hynny, wrth gwrs, gan fod y difrod eisoes wedi'i wneud (mae'n rhyfeddol bod cymaint o arian wedi'i wastraffu'n astudio'r dyn, ). Cyn cyhoeddi'r llyfr, mae'n debyg bod Randi wedi rhoi'r cyfle i Geller gyfaddef y gwir a datgan mai ei fwriad oedd profi pa mor hawdd oedd twyllo'r cyfryngau. Fe wrthododd. Yn wir, fe gyhuddodd Randi o enllib (gan golli'r achos, wrth gwrs).

Gan fod seren Geller (a'r cymeriadau a ddisgrifir yn Flim-Flam!) wedi pylu gymaint erbyn hyn, efallai bod cyfeirio at y llyfrau yma heddiw'n swnio braidd fel defnyddio gordd i ladd gwybed. Hwyrach eu bod wedi dyddio rhyw fymryn. Ond er bod yr unigolion yma wedi mynd i ddifancoll, fwy neu lai, mae ofergoeledd, siwdowyddoniaeth a lol afresymegol yr un mor boblogaidd ag erioed. Rwy'n credu bod hynny'n golygu bod y llyfrau'n berthnasol iawn o hyd.

--------

*Rwy'n hoff iawn o'r stori am Houdini ac Arthur Conan Doyle, awdur straeon Sherlock Holmes. Roeddent yn gyfeillion ar un adeg, ond trodd bethau'n sur wedi i Doyle gael ei ddylanwadu gan bob math o syniadau ofergoelus ac ysbrydol dwl (fel tylwyth teg Cottingley). Hyd yn oed wedi i Houdini befformio tric i Doyle a dangos sut yn union y'i cyflawnodd, roedd Doyle yn gyndyn bod rhywbeth gwirioneddol gyfrin wedi digwydd (er mawr syrffed i Houdini). Mae'n ddiddorol cyferbynnu'r ddau ddyn. Roedd Houdini, yn union fel Randi, yn gonsuriwr a lledrithiwr proffesiynol a wnaeth ei fywoliaeth trwy "dwyllo" pobl er diddanwch, ond roedd yn sceptig cwbl resymegol yn ei fywyd pob dydd. Gwnaeth Doyle, ar y llaw arall, fywoliaeth trwy ddyfeisio'r cymeriad ffuglennol mwyaf rhesymegol a sceptigol yn holl hanes llenyddiaeth, ond eto roedd ef ei hun yn dipyn o lipryn ofergoelus a naïf. Rhyfedd.

20/05/2012

Credoau gwirion eithriadol poblogaidd a gwallgofrwydd torfeydd

Rwyf bron â gorffen darllen Extraordinary Popular Delusions And The Madness Of Crowds gan Charles MacKay, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1841. Hwyrach mai dyma'r llyfr cyntaf i arddel sceptigiaeth fodern.

Yr hyn yw'r llyfr yn y bôn yw cyfres o hanesion am lawer iawn o bethau twp y mae pobl wedi'u credu neu eu gwneud ar hyd y blynyddoedd. Ceir penodau am swigod economaidd y Mississippi Company a'r South Sea Company yn y ddeunawfed ganrif, ac am y gwallgofrwydd tebyg yn yr Iseldiroedd ynghylch tiwlipau. Cawn hefyd drafodaethau ar enghreifftiau lu eraill o dwpdra afresymegol, megis proffwydi apocalyptaidd, lol ynghylch ysbrydion, y Crwsadau, dedfrydu "gwrachod", ac adran faith am alcemeg.

Yr hyn sydd wedi fy nharo drwy gydol y llyfr yw cyn lleied y mae pethau wedi newid yn ystod y 171 o flynyddoedd ers ei gyhoeddi. Mae llawer wedi gwneud y pwynt bod y penodau economaidd yn enwedig yn bwysig a pherthnasol o hyd wrth ystyried helynt presennol y byd ariannol. Yn ogystal, mae yna bobl sy'n parhau i ddarogan diwedd y byd, mae yna raglenni poblogaidd ar y teledu am "chwilio" am "ysbrydion", mae pobl yn parhau i ladd ei gilydd fesul miloedd ynghylch Jerwsalem, ac mae'r grêd mewn gwrachod ac ellyllon yn gyffredin o hyd mewn rhannau mawr o'r byd a hyd yn oed ym Mhrydain. Yr unig ffenomen sydd efallai wedi diflannu yw alcemeg. Yn y gorffennol roedd llawer o bobl wedi gwastraffu blynyddoedd yn y gobaith o ddarganfod dull o droi metelau fel plwm yn aur (roedd hyd yn oed y meddyliau craffaf yn euog o hyn, gan gynnwys Isaac Newton). Mae'n deg dweud bod hynny'n llai o broblem bellach.

Mae'r llyfr yn un anferth, ac mae'r hanesion yn teimlo'n ddi-ddiwedd ar adegau (sy'n dangos cymaint o bobl sydd wedi credu pethau rhyfedd, am wn i). Ond mae perthnasedd cyfoes cymaint o'r straeon yn dychryn rhywun, braidd. Byddai disgwyl i'r byd fod wedi symud yn ei flaen cryn dipyn ers 1841, ond yn anffodus nid yw hynny'n wir i'r un graddau ag yr hoffem feddwl.

04/10/2011

Smonach Prifysgol Cymru

Mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi na fydd yn dilysu graddau nad ydynt yn llwyr o dan ei rheolaeth ei hun o hyn ymlaen. Tros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Brifysgol wedi bod yn eithriadol o eiddgar i hybu ei hun yn rhyngwladol. Wel, byrbwyll yw'r gair mewn gwirionedd, gan fod sefydliadau mewn gwledydd tramor megis Malaysia a Thailand rhywsut wedi bod yn gwobrwyo graddau ffug yn enw'r Brifysgol. Mae'n anodd gen i ddeall sut mae'r Brifysgol wedi cael ei hun yn y fath sefyllfa a bod yn onest, ac mae'n deg holi pam fod ganddi bresnoldeb yn y fath lefydd yn y lle cyntaf. Mae Prifysgol Cymru unai wedi bod yn eithriadol o naïf a llac ei safonnau, neu'n llwgr. A'n hytrach na chael gwared ar yr is-ganghellor a fu'n goruchwylio hyn oll, mae wedi cael ei wneud yn lywydd. Rhyfedd o fyd.

Mae elfen arall i'r stori hon nad yw wedi denu cymaint o'r sylw yn y cyfryngau torfol, fodd bynnag, a hynny yw bod y Brifysgol hefyd wedi bod yn barod i ddilysu a chymeradwyo graddau mewn "triniaethau amgen". Mae hyn yn hysbys ers peth amser.

Rwyf eisoes wedi egluro fy marn am "driniaethau amgen" (yn fyr: nid ydynt yn gweithio ac mae'r ymadrodd ei hun yn ddi-synnwyr; petaent yn gweithio, ni fyddent yn amgen). Dylai fod yn destun cywilydd bod ein Prifysgol cenedlaethol, un o'n sefydliadau hynaf, yn fodlon puteinio'i henw trwy gefnogi a chymeradwyo'r fath rwtsh. Er nad yr elfen yma o'r stori yw'r un sydd wedi gyrru'r datblygiadau diweddaraf, ni allwn ond gobeithio bydd yr holl strach yn gorfodi'r Brifysgol i syllu ar ei hun a cheisio ad-ennill peth o'i hygrededd trwy stopio cefnogi siwdo-wyddoniaeth.

Roeddwn yn drist pan ddechreuodd Prifysgol Cymru ddatgymalu. Gradd Prifysgol Cymru (Caerdydd) sydd gennyf i. Erbyn hyn, fodd bynnag, nid wyf yn siwr bod hynny'n rhywbeth i fod yn falch ohono.

13/09/2011

Adweitheg

Roedd eitemau ar ddechrau rhaglen Nia Roberts (ar gael tan hanner dydd, 20 Medi) ar Radio Cymru y bore 'ma lle roedd y gyflwynwraig yn siarad â dwy o westeion, un sy'n gweithio fel adweithegydd ac un sy'n gleient brwd. Mae'r adweithegydd yn swnio'n neis a chwbl ddidwyll, ac mae'n debyg ei bod yn cael boddhad mawr o'i swydd. Yn yr un modd, mae'r ail westai wirioneddol yn hyderus bod y driniaeth wedi bod o fudd mawr iddi ac ei bod wedi lleddfu symptomau ei chlefyd Crohn's; yn wir, mae hi mor fodlon mae hi bellach yn "astudio" er mwyn ymuno â'r gwestai gyntaf yn ei galwedigaeth. Mae hynny yn ei gwneud yn anodd i ddweud y canlynol heb swnio, a theimlo, fel bastard, ond rwy'n credu ei fod yn bwysig: mae adweitheg yn nonsens ac nid oes unrhyw fath o dystiolaeth yn ei chefnogi. Nid oes ffordd garedicach o eirio'r gwirionedd hwnnw, yn anffodus.

Mae adweitheg yn un o'r "meddyginiaethau amgen" hynny byddwch yn clywed sôn amdanynt o bryd i'w gilydd. Fel rheol hawdd i'w chofio, ystyr "meddyginiaeth amgen" yw meddyginiaeth nad oes unrhyw fath o dystiolaeth i'w chefnogi. Mae'r ymadrodd yn un hurt a di-synnwyr. Beth ydych yn galw meddyginiaeth amgen sydd yn gweithio? "Meddyginiaeth". Petai yna dystiolaeth yn dangos ei bod wir yn gweithio, yna byddai'n cael ei chymeradwyo'n eiddgar gan ddoctoriaid go iawn ac ni fyddai angen iddi fod yn "amgen". Mewn ymchwil go iawn, mae adweitheg wedi methu pob un tro.

Mae adweitheg yn dweud bod ein traed (a'n dwylo, ond ar y traed mae'r pwyslais pennaf) wedi'u rhannu i fyny fel rhywbeth tebyg i'r diagram uchod (ond gall fanylion y darlun amrywio o lyfr i lyfr; ffrwyth dychymyg ydyw wedi'r cyfan). Mae'n debyg bod y gwahanol rannau yma'n cyfateb i wahanol rannau neu organnau o'r corff. Yn ôl y sawl sy'n arddel adweitheg, mae'r parthau yma ar wadnau ein traed wedi'u cysylltu â'r organnau cyfatebol trwy gyfrwng qi, sef rhyw fath o "sianeli egni" y mae "grym bywyd" yn teithio ar eu hyd (mae'r cysyniad dychmygol yma'n amlwg iawn ym maes aciwbigiad hefyd). Felly, trwy rwbio a rhoi pwysau ar y gwahanol rannau yma o'n traed, fe haerir, mae modd gwella poenau neu anhwylderau a gysylltir â'r rhannau "cyfatebol" o'r corff.

Yn ei rhaglen, fe holodd Nia lawer o gwestiynau chwilfrydig am sut mae'r driniaeth i fod i weithio, ond ni ofynnodd yr un pwysicaf un, sef lle mae'r dystiolaeth bod yr holl beth yn gweithio o gwbl? Mae hi'n derbyn yn ddi-gwestiwn bod y cysyniad yn ddilys, ac mae hi hyd yn oed yn cydymdeimlo a'n gofyn pam fod gan gymaint o bobl "ofn" o'r driniaeth. Mae'n anodd gorbwysleisio'r ffaith nad oes y fath fecanwaith yn bodoli (ac mae pobl wedi chwilio amdano). Fodd bynnag, mae'r un mor sicr nad yw gwesteion Nia yn dweud celwydd bwriadol a'n mynd ati i dwyllo; mae'n amlwg eu bod yn ddidwyll, yn hyderus eu bod yn (neu ar fin gwneud, yn achos yr ail) darparu gwasanaeth gwerthfawr, a'n falch o'r gwaith. Mae eu calonau yn y lle iawn. Ond maent yn anghywir.

Y pwynt pwysig cyntaf yw bod llawer o'r anhwylderau y mae adweitheg yn honni eu trin yn rhai gweddol annelwig a goddrychol: blinder ac insomnia, poenau, tyndra, straen, meigryn, cryd cymalau ac ati. Mae hyn yn thema gyffredin gyda thriniaethau amgen eraill yn ogystal. Yr ail bwynt yw bod cael rhywun yn rhoi maldod i'ch traed yn teimlo'n braf iawn iawn. Nid wyf yn amau am eiliad bod gorwedd ar wely meddal mewn ystafell dywyll â golau cannwyll, cerddoriaeth dawel a lleddfol, a phersawr yn yr aer, tra bod rhywun yn mynd ati'n dyner ac araf i dyluno a rhwbio gwadnau eich traed yn mynd i beri i chi ymlacio. Cwyn gyffredin am ddoctoriaid go iawn ac ymweliadau ag ysbytai yw bod y profiad yn gallu bod braidd yn amhersonol ac nad yw'r claf yn cael cydymdeimlad llwyr. Mae adweithegyddion yn manteisio ar y canfyddiad yma gan roi cymaint o sylw a maldod ag sy'n bosibl i'w cleientiaid. Nid oes rhyfedd, felly, bod pamffledi a gwefannau adweithegwyr yn llawn anecdotau gan gleientiaid yn dweud eu bod bellach yn teimlo'n "well" mewn rhyw ffordd aneglur na ellir ei fesur. Pwy na fyddai'n teimlo'n "well" ar ôl profi'r fath foethusrwydd? Am rhyw reswm, mae llawer o bobl yn cael siom neu'n gwylltio pan rydych yn awgrymu bod eu hanwylderau, a'u gwellhad canlynol, yn deillio'n bennaf o'u meddyliau. Ond mae pwer yr effaith plasebo'n hysbys iawn erbyn hyn, ac nid yw pwyntio hynny allan yn awgrymu eu bod yn ffugio o gwbl. Mae unrhyw beth sy'n gwneud i bobl deimlo'n well yn werthfawr. Os mai plasebo sy'n gyfrifol, gorau i gyd.

Petai adweitheg yn gadael pethau fan yna, sef bodloni â darparu gwasnaeth tyluno sy'n canolbwyntio ar y traed a'r dwylo'n benodol, ni fyddai problem o gwbl. Fodd bynnag, mae'n debyg bod "adweithegydd" yn grandiach deitl swydd na masseuse. Y trueni yw eu bod yn difetha popeth trwy rwdlan am qi a'r siartiau traed hynny a grybwyllwyd uchod. Yn ogystal â'r anhwylderau a sonwyd amdanynt yn y paragraff blaenorol, mae llawer o adweithegyddion yn gwneud datganiadau mawr am allu, er enghraifft, gwella "cylchrediad gwaed", gwaredu gwenwyn o'r corff, trin anafiadau penodol a hyd yn oed gwella ffrwythlondeb (afraid dweud mai'r ateb i bennawd y Mail yw "na", tu hwnt i'r ffaith ei bod yn bosibl bod cyfle ychydig yn well o feichiogi pan rydych mewn cyflwr ymlaciol). Mae adweitheg yn chwalu'n deillion pan gwneir honiadau penodol iawn.

Rwy'n hoff iawn o'r darn canlynol gan y diweddar Richard Feynman, un o ffisegwyr pwysica'r ugeinfed ganrif, o'i lyfr "Surely You're Joking, Mr Feynman!":
One time I sat down in a bath where there was a beautiful girl
sitting with a guy who didn't seem to know her. Right away I began
thinking, "Gee! How am I gonna get started talking to this
beautiful nude babe?"

I'm trying to figure out what to say, when the guy says to her,
"I'm, uh, studying massage. Could I practice on you?"

"Sure," she says. They get out of the bath and she lies down on a
massage table nearby.

I think to myself, "What a nifty line! I can never think of
anything like that!" He starts to rub her big toe. "I think I feel
it, "he says. "I feel a kind of dent--is that the pituitary?"

I blurt out, "You're a helluva long way from the pituitary, man!"

They looked at me, horrified--I had blown my cover--and said, "It's
reflexology!"

I quickly closed my eyes and appeared to be meditating.
Doeth iawn.

Mae'n braf cael rhywun i rwbio'ch traed. Dyna'r cyfan. Petai gwella clefydau ac anhwylderau di-rif mor hawdd â darllen map a gwasgu'r darn cywir ar wadn troed, ni fyddai angen i feddygaeth fod yn gwrs mor anodd yn y coleg. Efallai bod y mater yn swnio'n bitw - eitem radio ysgafn yn unig ydoedd, sydd wedi esgor ar lith digon crintachlyd - ond mae gwirionedd yn bwysig yn fy marn i. Wedi dweud hynny, mae pob croeso i unrhyw adweithegydd sy'n darllen ddod draw i chwarae gyda fy nhraed. Ar yr amod nad ydych yn sôn gair am qi.