Showing posts with label nadolig. Show all posts
Showing posts with label nadolig. Show all posts

20/12/2014

Yn erbyn Siôn Corn

Rwy'n eithaf drwgdybus o'r chwedl (gymharol newydd) am Siôn Corn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn mynnu mai hwyl di-niwed yw'r holl beth; mae'r plant yn mwynhau, ac mae eu gweld yn cynhyrfu'n lân bob Nadolig yn rhoi pleser i'w rhieni hefyd. Am wn i, mae hefyd yn gelwydd defnyddiol er dibenion annog y diawliaid bach i fyhafio, ond dyna'n union ran o'r broblem sydd gennyf â'r syniad.

Mae'n draddodiad rhyfedd mewn sawl ffordd. Pam mae rhieni mor awyddus i ildio'r clôd am wario ffortiwn ar eu plantos? Yn fwy na hynny, ym mha gyd-destun arall y buasem mor gyfforddus â'r syniad o ddyn oedrannus barfog tew yn torri mewn i'n tai fin nos, gan sleifio'n dawel i ystafelloedd gwely ein hepilod wrth iddynt freuddwydio'n fodlon? Ond yr elfen fwyaf sinistr oll yw'r neges bod Siôn Corn yn gallu gweld ein plant drwy'r amser a'n gwybod popeth amdanynt; yn enwedig, wrth gwrs, a ydynt wedi bod yn dda ynteu'n ddrwg.

Bach o gybolfa yw tarddiad y chwedl mewn gwirionedd, a digon tila yw'r cysylltiad a wneir o dro i dro â'r Sant Niclas Cristnogol. Ar y cyfan, nid oes gan Siôn Corn - sef yr un motiff amlycaf a gysylltir â'r Nadolig - unrhyw beth i'w wneud â Christnogaeth. Nid yw hynny'n syndod, oherwydd nid gŵyl Gristnogol mo'r Nadolig yn y lle cyntaf. Eto i gyd, go brin bod modd ei alw'n ffigwr seciwlar chwaith. I bob pwrpas, mae'r Siôn Corn modern yn hollalluog, hollwybodus a hollbresennol. Yn hynny o beth, nid oes fawr yn wahanol rhyngddo a'r duw monotheistaidd. Am fis bob blwyddyn, mae Siôn Corn yn dadorseddu Duw. Beth yw'r holl lythyrau i Begwn y Gogledd ond gweddïau, wedi'r cyfan? Mae'r cyffelybiaethau'n niferus.

Nid wyf yn credu ei bod yn iach i ddysgu ein plant bod yna rywun yn craffu arnynt bob eiliad o'r dydd, a'n darllen eu meddyliau. Yn un peth, mae'n dilysu syniadau crefyddol am fodau goruwchnaturiol. Ond mae rhywbeth eithriadol o annifyr am y syniad nad oes gan ein plant unrhyw le i ddianc oddi wrth y fath ddewin dirgel. Mae preifatrwydd yn bwysig, o safbwynt seicolegol, hyd yn oed i blant ifainc, ac mae pawb angen rhywle lle mae modd ymlacio heb fod rhywun yn syllu. Mae goruchwyliaeth barhaus yn gysyniad totalitaraidd. Nid wyf yn arbennig o hoff o'r syniad o awgrymu i blant eu bod yn byw mewn siwdo-Ogledd Corea neu rhyw ddystopia Nineteen Eighty-Four-aidd. Am yr un rheswm yn union, mae'n destun rhyddhad nad oes yna dduw'n bodoli.

Nid oes gennyf blant ar hyn o bryd, ond bydd hynny'n newid ym mis Mai (gobeithio). Rwy'n cydnabod bod cael plant eich hunain yn gallu newid eich safbwyntiau ynchylch y pethau yma. Eto i gyd, rwy'n hoffi meddwl mai fy ngreddf fyddai dweud wrth y plentyn "does dim Siôn Corn; dweud wrth dy ffrindiau". Ond na phoner; rwyf wedi hen golli'r ddadl yma â'm gwraig. Mae'n debyg mai darn o deyrnas Siôn Corn fydd yr aelwyd acw hefyd, er popeth.

02/12/2014

Drama'r ddrama

Mae'n rhaid ei bod hi'n fis Rhagfyr, gan fod y cwyno cyfarwydd gan rai Cristnogion am golli 'gwir ystyr y Nadolig' yn ei anterth eto fyth.  Un o bynciau Taro'r Post heddiw (y 10 munud olaf) oedd tuedd gynyddol ysgolion i greu fersiynau 'modern' o ddrama'r geni, neu i lwyfannu sioeau gwahanol yn gyfan gwbl, yn hytrach na'r fersiwn draddodiadol, ddiflas. Cymerais ran yn y drafodaeth. Fel y gallwch ddychmygu, croesawu'r duedd wyf i.

Felix Aubel oedd yn dadlau y dylid gochel rhag seciwlareiddio'r Nadolig, a bod angen sicrhau bod plant ysgol yn parhau i berfformio stori geni Iesu. Fy nadl i, yn syml, yw nad yw'r Nadolig yn ŵyl Gristnogol yn y lle cyntaf (ac nad ydyw wedi bod erioed). Gŵyl seciwlar yw'r Nadolig, felly mae'n llawer gwell perfformio sioeau amrywiol. Os gorfodi'n plantos bach truain i 'actio', mae yna lawer iawn o sioeau mwy diddorol ar gael. Nid oes rheswm o gwbl i barhau gyda'r un hen rigol.

Dyma enghraifft arall o Gristnogion yn raddol golli'r hawl i orfodi pobl eraill i gymryd rhan yn eu defodau, a'n portreadu hynny wedyn fel rhyw fath o ymosodiad ar eu ffydd.

28/11/2014

Osgowch Operation Christmas Child

Dyma'r amser o'r flwyddyn pan fydd llawer o'n plant ysgol (neu efallai, yn hytrach, eu rhieni) yn llenwi hen focsys esgidiau gydag anrhegion rhad er mwyn eu hanfon dramor at rai llai ffodus. Roeddwn yn gwneud hyn fy hun am gyfnod pan oeddwn yn yr ysgol (llun ohonof yn y papur lleol a phopeth), gan deimlo'n eithaf hapus fy mod yn gwneud rhywbeth caredig.

Ar y pryd, wrth gwrs, nid oedd gennyf syniad o fath yn y byd bod yr elusen sy'n gyfrifol am Operation Christmas Child - Samaritan's Purse - yn fudiad Cristnogol efengylol, a sefydlwyd gan Franklin Graham, mab y tele-efengylwr cyfoethog Billy. Wedi i chi lenwi'r bocs yn ofalus, mae'r grŵp yn ddiweddarach yn ychwanegu propaganda crefyddol cyn ei ddosbarthu. Am flynyddoedd, roeddent yn celu'r ffaith honno, gan arwain yn y pen draw at ymchwiliad gan y Comisiwn Elusennol yn 2003. Nid yw pethau wedi gwella rhyw lawer ers hynny chwaith.

Nis gwn a wyddai'r ysgol ar y pryd, ac nid wyf yn siwr a fyddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth ai peidio, ond yn sicr nid oeddwn i'n ymwybodol o'r peth. Roeddwn yn anffyddiwr o argyhoeddiad hyd yn oed bryd hynny, felly ni allaf ddychmygu y buaswn wedi bod yn arbennig o hapus i ddarganfod fy mod yn cael fy nefnyddio, trwy dwyll, er dibenion cenhadol. Yn sicr rwy'n flin am y peth wrth edrych yn ôl, ac mae'n annerbyniol bod miloedd o ddisgyblion heddiw'n parhau i gael eu defnyddio i genhadu crefydd nad ydynt o reidrwydd yn ei arddel. Mae angen i OCC fod yn gwbl onest am yr hyn y maent yn ei wneud. Neu'n well byth, gallent roi'r gorau i'r propaganda'n gyfan gwbl. Dylai'r rhoi, er ei fwyn ei hun, fod yn ddigon.

Dyma restr o brosiectau amgen, sy'n llawer mwy haeddiannol.

25/12/2013

"Gwir ystyr" y Nadolig

Fel y crybwyllais yn y cofnod diwethaf, celwydd llwyr yw'r honiad mai gŵyl Gristnogol yw'r Nadolig. Er mwyn egluro, nid wyf yn dweud bod dylanwad Cristnogaeth ar yr ŵyl wedi gwanhau yn yr oes fodern o'i gymharu â'r gorffennol. Na, fy mhwynt yw nad oedd y Nadolig erioed yn ŵyl Gristnogol yn y lle cyntaf.

Os oes "gwir ystyr" yn perthyn i'r ŵyl, yna honno, siwr o fod, yw gwledda gyda theulu a chyfeillion, a rhannu anrhegion. Roedd pobl yn gwneud hyn ar yr adeg hon o'r flwyddyn (i godi calonau yn ystod gaeafau oer a thywyll Ewrop, siwr o fod) ymhell cyn i Gristnogion geisio meddianu'r traddodiad er eu dibenion eu hunain.

Ystyriwch y symbolau a'r traddodiadau a gysylltir â'r Nadolig: coed addurnedig, anrhegion, Siôn Corn, twrci, mins peis, uchelwydd, ffilmiau gwael Tim Allen a Vince Vaughn, cracyrs ac yn y blaen. Dyma yw'r Nadolig i'r mwyafrif o bobl (hyd yn oed i lawer sy'n ystyried eu hunain yn Gristnogion), ond nid oes gan yr elfennau uchod unrhyw gysylltiad â genedigaeth honedig Iesu Grist (mae'r cysylltiad rhwng y Siôn Corn modern a'r esgob Cristnogol Sant Niclas yn ddigon tila mewn gwirionedd).

Nid yw'r Beibl yn dweud pryd y ganed Iesu. Ar ben hynny, nid oedd cyfrifiad ym Methlehem ar y pryd, ac nid oes unrhyw dystiolaeth bod Herod wedi mynnu lladd babanod cyntaf-anedig yr ardal. Penderfyniad gwleidyddol a strategol post hoc oedd gosod dathliad y geni yng nghanol Rhagfyr: gwelodd y Cristnogion cynnar bod pobl y cyfnod eisoes yn mwynhau eu dathliadau eu hunain ar yr adeg honno o'r flwyddyn, ac roedd meddianu'r traddodiadau hynny'n fodd cyfleus o draflyncu arferion amgen ac o ddarbwyllo'r barbariaid i gofleidio'r ffydd newydd.

Ni ddylid talu'r mymryn lleiaf o sylw i geidwadwyr crefyddol sy'n cwyno dro ar ôl tro am "ryfel" chwedlonol yn erbyn "gwir ystyr" y Nadolig. Y gwrthwyneb llwyr sy'n wir: Cristnogion aeth ati i geisio (a methu) dwyn dathliad a fodolai'n barod.

Am y rheswm yma, nid oes rheswm i anffyddwyr deimlo'n euog o ragrith am ddathlu'r Nadolig. Mae'n ŵyl hollol seciwlar. Felly mwynhewch y gwledda a'r ymddiddan, a nadolig llawen i chi!

23/12/2013

Drama'r geni

Dyma erthygl ar wefan Cymru Fyw ynghylch perfformio drama'r geni yn yr ysgolion. Mae eich blogiwr hoff yn dadlau bod yr holl beth yn ddiflas. Os parhau â'r ddefod o orfodi plant nerfus i wisgo fyny bob Rhagfyr, dylid llwyfanu dramâu gwahanol. Yn fwy na hynny, rwy'n wfftio'r syniad bod gan "wir ystyr" y Nadolig (os oes y fath beth yn bod) unrhyw beth i'w wneud â Christnogaeth.

25/12/2011

Nadolig dedwydd!

Mae rhai pobl yn ei ystyried yn od bod anffyddwyr yn gallu dathlu'r Nadolig, ond prin iawn yw'r elfennau Cristnogol yn yr ŵyl felly mae'n ddigon hawdd mewn gwirionedd. Mae unrhyw draddodiad lle mae'n dderbyniol i yfed alcohol cyn brecwast yn iawn gen i. Mwynhewch weddill y diwrnod!


08/11/2011

Myth y "rhyfel yn erbyn y Nadolig"

Fe soniais yn y sylwadau ar waelod y blogiad blaenorol bod rhai Cristnogion yn mwynhau teimlo fel merthyrod sy'n cael eu herlyn. Persecution complex, ys dywed y Sais.

Enghraifft glasurol arall o'r duedd honno yw'r ddefod flynyddol o gwyno am ymosodiadau seciwlar ar "wir ysbryd y Nadolig" a lol tebyg. Tra mae rhai pobl yn ystyried ymddangosiad cyntaf yr hysbyseb Coca Cola hwnnw gyda'r lorïau fel dechrau swyddogol y cyfnod Nadoligaidd, gwrando allan am y swnian pathetig cyntaf am "Winterval" a "happy holidays" fyddaf i. Yr eiliad rwy'n clywed y gwichian cyntaf am y cynllwyn mawr seciwlar i ddinistrio gwyl bwysicaf Cristnogaeth*, dyna pryd rwy'n sylweddoli bod angen i mi ddechrau siopa am anrhegion. Ac mae'n digwydd yn gynharach bob blwyddyn!

Y myth mwyaf styfnig yw hwnnw am "Winterval" cyngor Birmingham, a ddechreuodd ym 1998. Mae'n rhyfeddol sut y bu i benderfyniad mor ddi-nod ac ymarferol gael ei gamddehongli gymaint. O'r diwedd, mae'r Daily Mail (y papur euocaf, er bod mwy neu lai pob papur newydd wedi lledaenu'r celwydd ar rhyw bwynt) wedi cyhoeddi cywiriad a syrthio ar eu bai. Wel, mae'n gywiriad digon llipa mewn gwirionedd ond mae'n well na dim. Mae'r erthygl yma'n esbnonio'r cefndir.

_________________

*Wrth gwrs mae'r wyl a elwir heddiw'n Nadolig yn gymysgfa gyfoethog a bler o bob math o draddodiadau gwahanol. Mae'n debyg mai lleiafrif yw'r elfennau Cristnogol ynddi beth bynnag. Yn fwy na hynny, mae'r pwyslais mawr a roddir ar y Nadolig gan gymaint o Gristnogion yn ychydig o ddirgelwch. Mae stori'r Pasg yn fwy arwyddocaol o lawer i'm golwg i. Rhywbeth i'w wneud â Iesu'n cael ei groeshoelio am guddio'r wyau siocled i gyd.