Showing posts with label gwyddoniaeth. Show all posts
Showing posts with label gwyddoniaeth. Show all posts

14/03/2020

Y coronafirws a'r cyhuddiad o orymateb

Yn y diwedd, gwnaethpwyd y penderfyniad doeth i ohirio'r gêm rygbi rhwng Cymru a'r Alban. Nid epidemolegydd mohonof o fath yn y byd, ond nid oedd cynnull 75,000 o bobl mewn un lle, gyda mwy fyth wedi'u gwasgu yn nhafarnau Caerdydd, yn swnio'n beth call iawn i wneud ar yr amser penodol yma.

Mae'n debygol bod y penderfyniad yn golygu bydd yna lawer o bobl, a fyddai fel arall wedi dal yr haint, yn osgoi gwneud hynny (am y tro, o leiaf). Y broblem yw ei bod yn amhosibl profi hynny. Mae bob tro'n anodd dangos bod penderfyniad wedi achosi i rywbeth beidio digwydd. O'r herwydd, os na fydd cynnydd annisgwyl o ddramatig yn yr achosion yng Nghymru dros yr wythnos nesaf, mae'n anochel y bydd cyhuddiadau mai gorymateb oedd y gohirio.

Dyma broblem gyffredin a rhwystredig. Ers y flwyddyn 2000, er enghraifft, honiad cyffredin yw mai gor-heipio a ffws di-angen oedd y pryder am chwilen y mileniwm. Nid yw hyn yn wir o gwbl: roedd y broblem yn un fawr a difrifol, a dim ond diolch i lawer iawn o waith y llwyddwyd i'w hosgoi. Yn yr un modd, os, trwy wyrth, y llwyddwn i leihau allyriadau carbon yn ddigonol dros y blynyddoedd nesaf i osgoi rhai o senarios gwaethaf newid hinsawdd, bydd llawer iawn o bobl yn dewis dehongli hynny fel arwydd mai celwydd oedd y cyfan yn y lle cyntaf yn hytrach na bod camau anodd a bwriadol wedi datrys problem wirioneddol.

Mae cyfnod anodd eithriadol o'n blaenau, ac er bod pethau wedi difrifoli'n fawr ym Mhrydain dros y 48 awr diwethaf, rwy'n cael yr argraff o hyd nad yw pobl yn gwerthfawrogi'n llawn bod hyn am darfu ar ein bywydau am fisoedd, nid wythnosau. Nid yw tro pedol sydyn y llywodraeth, a fu am wythnosau'n arddel polisi laissez faire idiosyncrataidd tuag at y firws, yn debygol o wneud llawer o les i ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr awdurdodau. Mae popeth yn awgrymu i mi mai atal torfeydd yw'r agwedd gallaf (er ei bod yn berffaith wir bod problemau â hynny hefyd), ond mae'n destun pryder mai dim ond rwan yr ydym yn ymuno â gweddill y byd a chyrraedd y casgliad hwnnw. Teg yw dweud bod gorymateb yn amhosibl pan fo cannoedd o filoedd o fywydau, a miliynau ychwanegol ledled y byd, yn y fantol.

29/01/2019

Amddiffyn yr eglwys babyddol, am unwaith

Yr wythnos ddiwethaf, gollyngwyd yr argymhelliad y dylid cymryd seibiant o saith diwrnod wrth gymryd y bilsen atgenedlu. Pan welais i erthyglau'n esbonio mai tarddiad y cyngor oedd ymgais i gyfaddawdu â'r Pab, roeddwn i'n wirioneddol gegrwth.

Ond, er mor hoff yr wyf o ladd ar yr eglwys babyddol (y cartel gwarchod paedoffeiliaid gwaethaf a welodd y byd erioed), ac er ei bod yn wir bod un o brif ddatblygwyr y bilsen wedi ceisio'i chyfiawnhau i'r Pab ar sail y saib saith diwrnod, mae'n debyg bod mwy i'r stori na hynny a bod sail feddygol (er cyfeiliornus) i'r cyngor gwreiddiol. Byddai wir wedi bod yn sgandal anghredadwy petai'r fath gyngor yn ddim mwy nag ymgais ofer i blesio Pïws XII, yn enwedig gan nad oes yr un pab yn ystod y 60 blynedd canlynol wedi dod yn agos at gymeradwyo'i defnydd.

Efallai bod beio Pab o'r 1950au yn fodd o osgoi cwestiynu'r gwir reswm am barhau â chyngor mor anghywir mor hir. Fel y dywed Alice Howarth, ni fyddai hyn wedi digwydd petai'n effeithio ar ddynion:
Studies have shown repeatedly that our medical system has an inherent bias against women. Women presenting with pain are more frequently given sedatives than painkillers, where men are given painkillers. Women with coronary heart disease have delayed treatment compared with men. And people even rate the perceived pain of a paediatric patient differently, depending on whether they are told the patient is male or female.
We now have another clear example to add to the pile: women are exposed to unnecessary, inconvenient, uncomfortable and potentially damaging monthly bleeds for no reason other than that nobody thought to question whether those bleeds were necessary
Er ei bod yn wir bod agwedd yr eglwys babyddol tuag at fenywod yn echrydus, ac mae'n ddyletswydd ar bawb i'w beirniadu'n flin am hynny, mae'n bwysig ein bod yn sylweddoli bod rhagfarn yn erbyn menywod wedi ymdreiddio i'r meysydd mwyaf seciwlar yn ogystal. Mae lladd ar y Pab yn hawdd (ac, fel arfer, yn gyfiawn); llawer anos yw craffu ar ein rhagfarnau ein hunain.

14/03/2018

Camddeall geneteg

Mae A Brief History Of Everyone Who Ever Lived gan Adam Rutherford yn lyfr ardderchog. Mae'n esbonio sut yr ydym yn gwybod y pethau yr ydym yn eu gwybod am eneteg, a'n trafod, wrth fynd heibio, y pethau sy'n cael eu camddeall.

Ymysg pethau eraill, mae'n feirniadol o gwmnïau sy'n honni ei bod yn gallu profi pa ganrannau o'ch genom sy'n deillio o ba rannau o'r byd, neu eich bod yn ddisgynydd i ffigwr hanesyddol enwog (fel Charlemagne, er enghraifft). Nid y broblem yw bod dweud wrth rywun bod Charlemagne yn gyndad iddynt yn anghywir, neu nad oes modd profi'r fath beth; i'r gwrthwyneb, y broblem yw bod Charlemagne yn gyndad i bawb yn Ewrop. Un o ffeithiau rhyfeddol y llyfr yw bod 4 o bob 5 o'r bobl a oedd yn fyw yn Ewrop ar y pryd yn hen (hen hen ayyb) nain neu daid i bob un person Ewropeaidd heddiw, a bod llinach yr 1 o bob 5 sy'n weddill wedi dod i ben y llwyr. Nid oes tir canol. Gan ein bod yn gwybod mai atgenhedlwr brwd oedd Charlemagne, mae'n sicr mai i'r categori cyntaf y mae'n perthyn.

Mater syml o feddwl am y rhifau yw hyn; nid oes angen samplu DNA unrhyw un i sylweddoli rhai ffeithiau syfrdanol. O'n cadair freichiau, mae modd cyfrifo mai dim ond 3,400 o flynyddoedd yn ôl y bu byw hynafiad mwyaf diweddar pob un person ar wyneb y ddaear. Gan gadw hyn mewn cof, nid oes unrhyw beth arbennig am fod yn ddisgynydd i rywun fel Owain Glyndŵr. Nid oes angen i'r un ohonom olrhain ein llinach yn arbennig o bell yn ôl cyn cyrraedd rhyw fath o frenin neu dywysog.

Ceir hefyd yn y llyfr drafodaeth helaeth am hil. Neu, yn hytrach, mae'n gwneud y pwynt nad yw hil, mewn gwirionedd, yn gysyniad gwyddonol ystyrlon o gwbl. Mae llawer iawn mwy o wahaniaethau genetig o fewn 'hiliau' gwahanol nag sydd rhyngddynt. Wrth gwrs, mae hilgwn o bob oes wedi hawlio mai o'u plaid hwy mae gwyddoniaeth (mae Rutherford yn trafod ffolineb ewgeneg yn helaeth), ac mae'r un peth yn wir am heddiw. Yn union fel Francis Galton gynt, cri syrffedus pobl fel Jordan Peterson a Charles Murray yw mai gwyddoniaeth bur sy'n eu gyrru, tra bod eu gwrthwynebwyr (ni'r social justice warriors bondigrybwyll) yn ildio i emosiwn am nad ydym yn hoffi'u casgliadau. Fel mae Rutherford yn ei ddangos, y gwrthwyneb llwyr sy'n wir.

24/11/2016

Pam mae gwirionedd yn bwysig

Darllenais Why Truth Matters gan Ophelia Benson a Jeremy Stangroom yn ddiweddar. Fe'i cyhoeddwyd yn 2006, a beirniadu ôl-foderniaeth academaidd a wna'n bennaf. Mae nifer o athronwyr a beirniaid yn mynnu nad oes y fath beth â gwirionedd gwrthrychol, hyd yn oed ym maes gwyddoniaeth. Y syniad felly yw nad oes rheswm i dderbyn bod honiadau gwyddonwyr ynghylch y byd yn gywirach na chwedlau llwythau brodorol, er enghraifft. Yn wir, byddai gwneud hynny'n drefedigaethol a hiliol a 'tyrannical'. Sonnir yn hytrach am 'wirioneddau' (lluosog), a haerir mai rhesymau cymdeithasol pur sydd i gyfrif am oruchafiaeth un fersiwn dros un arall. Mae awduron Why Truth Matters yn meddwl bod y syniadau hyn yn wirion a pheryglus, ac rwy'n cytuno.

Mae paradocs amlwg yn y ddadl yn erbyn gwirionedd: os nad yw'n bod, nid oes rheswm i dderbyn bod y ddadl ei hun yn gywir chwaith. Ar ben hynny, beth yw pwynt astudio unrhyw beth os nad ydym yn derbyn bod gwirionedd yn bodoli yn y lle cyntaf? Heb rhyw fath o ffrâm allanol, byddai'n amhosibl trafod y peth ag eraill beth bynnag. Siarad heibio'n gilydd fyddai ein tynged, gyda phob unigolyn yn byw yn ei 'realiti' idiosyncratig ei hun. Am y rhesymau hyn, mae Benson a Stangroom yn pledio achos y gwirionedd:
[R]eal inquiry presupposes that truth matters. That it is true that there is a truth of the matter we’re investigating, even if it turns out that we can’t find it. Maybe the next generation can, or two or three or ten after that, or maybe just someone more skilled than we are. But we have to think there is something to find in order for inquiry to be genuine inquiry and not just an arbitrary game that doesn’t go anywhere. We like games, but we also like genuine inquiry. That’s why truth matters. (t.180)
Mae wir yn anodd osgoi'r canfyddiad mai gêm yw hyn i lawer o'r beirniaid ôl-fodernaidd, yn enwedig gan fod cynifer ohonynt yn ysgrifennu mewn arddull mor fwriadol o niwlog ac aneglur. Mae hynny'n cyferbynnu â Why Truth Matters, sy'n gyfrol ddarllenadwy dros ben o ystyried astrusrwydd y pwnc. Mae'n perthyn i'r un genre â llyfrau eraill tebyg megis Fashionable Nonsense gan Alan Sokal a Jean Bricmont (Sokal yw'r ffisegydd a lwyddodd i gyhoeddi papur ffug hollol ddiystyr mewn cyfnodolyn ôl-fodernaidd, gan achosi stwr enwog).

Wrth gwrs, creadur y chwith academaidd yw'r math yma o ôl-foderniaeth. Pan ddywedir heddiw ein bod yn byw mewn oes 'ôl-ffeithiol', fodd bynnag, cyfeirio at y dde eithafol a wnawn yn bennaf. Trwy danseilio 'gwirionedd' o'r chwith, mae'n bosibl bod beirniaid ôl-fodernaidd wedi braenaru'r tir ar gyfer y tactegau a welwn bellach gan neo-ffasgwyr a ffwndamentalwyr crefyddol. Fel mae'n digwydd, mae'r neo-ffasgwyr a ffwndamentalwyr crefyddol hyn yn casáu academyddion asgell-chwith. Awgrymaf felly bod yma wers amlwg: wrth arddel syniadau, dylem eu dychmygu yn nwylo ein gelynion, a'r posibilrwydd y byddent yn cael eu defnyddio yn ein herbyn.

Mae'r rhybuddion wedi bod yno ers tro, yn hynny o beth. Mae creadyddion, er enghraifft, wedi mabwysiadu rhethreg yr ôl-fodernwyr, gan gyhuddo biolegwyr o orthrymu syniadau amgen. 'Teach the controversy' yw eu cri ers degawdau, er nad oes amheuaeth o gwbl mewn gwirionedd bod esblygiad yn wir. Mae'r ymgyrch i wadu bodolaeth newid hinsawdd yn defnyddio tactegau tebyg, sef creu dryswch a niwl ffug. Dylem gofio mai crefydd a syniadau cymdeithasol adweithiol oedd rhai o brif dargedau ôl-foderniaeth ar y dechrau, ond mae'r rhod wedi troi erbyn hyn. Ys dywed Benson a Stangroom:
Take away reasoned argument and the requirement of reference to evidence ... and what can be left other than force of one kind or another? Either rhetorical force, via equivocation, fuzzy emotive vocabulary, straw men, exaggeration, appeals to the community or the nation or the deity; or physical force, via laws and the police. If the postmodernist academic Left is busy asserting that reason is merely a mask for power then who is going to prevent US legislators from simply mandating the teaching of ID or creationism in the secular public schools?  And how will they go about it? With rhetoric and emotive appeals? But the other side, the theist side, is at least as good at that, and often better: evangelists tend to be good rhetoricians. Thus if postmodernism has busily eroded public belief in reason, evidence, logic and argument for the past 40 years or so, as it has, then all too often it is the case that rhetoric is all that's in play. And behold, it wins, even though the other side has the better case. All rhetoric has to do to win convince people; it doesn't have to do it legitimately or reasonably or honestly. (t.171-172)
Eironi'r sefyllfa bresennol yw ei bod yn haws cael gafael ar wybodaeth gywir heddiw nag erioed o'r blaen. Mae'r gwirionedd ar flaenau ein bysedd, bron yn llythrennol. Hawdd fyddai maddau unrhyw un a broffwydodd, yn nyddiau cynnar y rhyngrwyd, bod democrateiddio gwybodaeth fel hyn yn debygol o arwain at boblogaeth eithriadol o wybodus. Teg fyddai disgwyl i'n democratiaeth elwa o'r herwydd, gan y byddai gan yr etholwyr eu hunain y gallu i wirio honiadau ein gwleidyddion yn syth. Wrth gwrs, nid dyna sydd wedi digwydd, ac mae anwybodaeth, camddealltwriaeth a conspiracy theories gorffwyll yn ffynnu cymaint, os nad mwy, nag erioed. Yn hytrach na democrateiddio gwybodaeth, mae'r we wedi cynhyrchu llond lle o siambrau eco lle mae syniadau a honiadau gwirion yn bwydo oddi ar ei gilydd.

Nid yw'n hawdd dweud yn union faint o fai sydd am hyn ar y math o syniadau a dargedir yn Why Truth Matters. Pan mae fideos o Donald Trump yn dweud pethau ar gael yn rhwydd ar YouTube, ac mae'r dyn wedyn yn gallu gwadu eu dweud yn blaen a digywilydd, ac nad yw hynny'n poeni dim ar ei gefnogwyr, mae'n debygol bod rhywbeth mwy o lawer o'i le. Ond hyd yn oed os nad gemau dwl ôl-fodernaidd arweiniodd yn uniongyrchol at y sefyllfa sinistr bresennol, teg yw awgrymu eu bod wedi hwyluso'r broses.

17/11/2016

Andrea Wulf: The Invention Of Nature

Nid wyf yn un am arwyr, ond mae Alexander von Humboldt (1769 - 1859), y gwyddonydd a'r anturiaethwr, yn dod yn agos iawn. Cefais flas arbennig ar fywgraffiad Andrea Wulf, The Invention Of Nature, sy'n adrodd hanes ei grwydro a'i enwogrwydd anferth yn ei ddydd.

Teg iawn yw dweud mai Humboldt ddyfeisiodd ecoleg fel maes, ac felly'r cysyniad modern o natur: ei obsesiwn mawr oedd astudio'r byd cyfanwaith, gyda phob rhan ohono mewn perthynas ddeinamig â'i gilydd.. Roedd yn bolymath rhyfeddol, ac eisiau dysgu popeth am bopeth.

Uchafbwynt ei fywyd oedd crwydro De America rhwng 1799 ac 1804. Ymysg campau eraill, ef oedd y cyntaf i gadarnhau bod yr afonydd Amazon ac Orinoco wedi'u cysylltu trwy gyfrwng y canal  naturiol Casiquiare, ac i ddringo llosgfynydd Chimborazo bron i'r copa. Mae'r rhannau hyn o'r llyfr yn enwedig yn darllen fel stori antur, ac roedd yn anodd ei roi i lawr.

Roedd brwdfrydedd Humboldt ynghylch gwyddoniaeth yn ddigon i ennyn ein hedmygedd, ond roeddwn yn hapus dros ben i ddysgu pa mor flaengar oedd ei wleidyddiaeth hefyd. Er i'w daith i Dde America gael ei hariannu gan Sbaen, cefnogodd Simon Bolivar ac ymdrechion hwnnw i ennill annibyniaeth i wledydd y cyfandir. Yn ogystal, er iddo ymweld ag America a chwrdd ag Thomas Jefferson, roedd yn danbaid yn erbyn caethwasiaeth. Roedd o flaen ei amser mewn sawl ffordd.

Nid oedd yn anffyddiwr (roedd anffyddwyr go iawn yn greaduriaid hynod brin ar y pryd), ond roedd yn ddrwgdybus iawn o grefydd draddodiadol. Deistiaeth yw'r label orau ar gyfer ei ddaliadau diwinyddol, fwy na thebyg. Bu cryn gynnwrf pan gyhoeddodd ei gampwaith Kosmos gan nad oedd, er yn trafod natur y bydysawd, yn crybwyll Duw o gwbl. Yn hynny o beth, fe wnaeth gymwynas enfawr trwy normaleiddio'r arfer o drafod natur heb yr angen i grybwyll bodau goruwchnaturiol. A dweud y gwir, buaswn wedi gwerthfawrogi mwy o drafod yn y llyfr am agweddau Humboldt tuag at grefydd a duw, a'r ymateb iddo gan yr eglwys.

Nid oes amheuaeth ynghylch dylanwad Humboldt: mae'r rhestr o lefydd, anifeiliaid a nodweddion daearyddol sydd wedi'u henwi ar ei ôl yn anferth. Y peth od yw ei fod, er yn un o bobl enwocaf y blaned erbyn diwedd ei oes, wedi mynd braidd yn angof yn ystod yr ugeinfed ganrif. Gobaith Wulf wrth ysgrifennu'r llyfr oedd cywiro hynny, ac rwy'n credu ei bod wedi llwyddo.

16/08/2015

Ffolineb gwahardd cnydau wedi'u haddasu'n enetig

Digalon oedd darllen am fwriad llywodraeth yr Alban i wahardd cnydau wedi'u haddasu'n enetig. Mae obsesiwn y mudiad gwyrdd â'r pwnc hwn yn peri cryn rwystredigaeth i mi, a dweud y gwir, gan nad oes sail wyddonol o gwbl i'r pryderon. I'r gwrthwyneb, mae'n faes addawol dros ben, gyda llawer o fanteision o safbwynt amgylcheddol a sosio-economaidd.

Y gwir yw ein bod wedi bod yn ddiwyd yn addasu planhigion, ac anifeiliaid o ran hynny, yn enetig ers miloedd o flynyddoedd. Dyna holl sylfaen amaethyddiaeth: rydym yn dewis y cnydau neu'r da byw sy'n diwallu ein hangenion orau, a defnyddio'r rheiny er mwyn cynhyrchu'r genhedlaeth nesaf. Dyma sut y bu i india-corn gynyddu mor ddramatig mewn maint dros gyfnod o 10,000 o flynyddoedd, er enghraifft. Esblygiad wedi'i lywio gan bobl ydyw yn y pen draw. Mewn geiriau eraill: addasu genetig.

Yr unig wahaniaeth yn achos yr hyn sy'n peri braw i rai pobl heddiw yw bod yr addasu hwnnw'n digwydd mewn labordy, a'n cael ei wneud gan wyddonwyr mewn cotiau gwyn. Yr un yw'r nod yn union, sef cynhyrchu mathau o fwyd sy'n haws i'w cynhyrchu. Er enghraifft, mae cynhyrchu cnydau newydd sy'n apelio llai at bryfetach yn golygu bod angen defnyddio llai o blaladdwyr. Mae hynny - yn hollol ddi-amwys - yn fuddiol dros ben i'r ffermwr a'r amgylchedd. Yn yr un modd, bydd modd cynnyrchu mwy a mwy o fwyd gan ddefnyddio llai o dir a gwrtaith. Unwaith eto, da yw hyn i gyd, heb ddadleuon da yn erbyn. Mewn gwledydd tlawd yn arbennig, mae addasu cnydau'n enetig yn cynnig gobaith anferthol.

Mae carfan o'r mudiad amgylcheddol sy'n obsesiynu ynghylch y 'naturiol', sydd, yn eu tyb hwy, yn rhagori ar yr 'artiffisial'. Nonsens fel hyn sy'n arwain at honiadau hanner-pan fel y syniad bod 'cemegion' yn ddrwg yn eu crynswth, er mai cemegion yw popeth, yn llythrennol, yn y byd i gyd (gan gynnwys quinoa). Nid syniadau blaengar mo'r rhain, eithr y gwrthwyneb. Lol emosiynol gwrth-wyddonol ydyw, ac mae'r sawl sy'n ei harddel yn Luddites adweithiol. Dylai amgylcheddwyr call ymbellhau oddi wrthynt.

25/02/2015

Lol anwyddonol 'DNA Cymru'

Gwych yw gweld blog newydd Cymraeg am 'wyddoniaeth, technoleg, tystiolaeth a’r cyfryngau': Syndod. Mae'r blogiad cyntaf yn rhagorol: 'Profion llinach genetig, DNA Cymru ac S4C'.

Gwerthusiad damniol ydyw o raglen fydd yn dechrau ar ein sianel genedlaethol ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Bwriad y rhaglen yw ateb y cwestiwn 'pwy yw'r Cymry?' trwy olrain llinallau genetig unigolion. Ond mae hynny'n amhosibl ac anystyrlon. Nid oes modd darllen DNA person penodol fel rhyw fath o fap. Mae S4C wedi cynhyrfu'n lân am rwtsh siwdowyddonol. Mae'n rhaid eu bod yn deall hynny'n dawel bach, ond ni welwch unrhyw arwydd o sceptigiaeth yn y deunydd hyrwyddo. Nid oes rheswm i beidio disgwyl i'r rhaglen ei hun fod yr un mor grediniol chwaith.

Rhag ofn eich bod yn credu bod hyn yn hallt, ystyrier y ffaith nad yw Alistair Moffat, y dyn sy'n bennaf gyfrifol am hyn i gyd, yn wyddonydd o fath yn y byd. Yn hytrach, mae'n berchen ar fusnes sy'n elwa trwy werthu 'profion' genetig. Mae S4C wedi cytuno'n llon a digywilydd i hyrwyddo propaganda masnachol ar ran quack llwyr sy'n debygol o wneud ffortiwn o'r fath sylw. Cyd-ddigwyddiad, rwy'n siwr, yw'r ffaith bod Moffat a phennaeth y sianel yn hen ffrindiau.

Darllenwch y cwbl, a rhannwch. Mae'n bwysig ein bod fel Cymry yn beirniadu'r nonsens yma'n chwyrn, rhag iddo ategu'r ystrydeb amdanom fel cenedl sy'n obsesiynu ynghylch ein hynafiaid a syniadau dwl am waed a rhyw fath o burdeb Celtaidd.

24/11/2014

Cyfiawnhau'r gost o ymchwilio'r gofod

Fel llawer o bobl eraill, roeddwn wedi cynhyrfu'n arw pan lwyddwyd i lanio robot ar gomed yn ddiweddar. Fe gymerodd ddeng mlynedd i Rosetta gludo Philae yno. Mae'r comed tua 530 miliwn o filltiroedd i ffwrdd ar hyn o bryd, ac roedd angen i Rosetta ddefnyddio disgyrchiant Mawrth (a'n ôl eto via'r Ddaear wedyn!) a chwpl o asteroidau er mwyn cyflymu'n ddigonol i gyrraedd mewn da bryd. Fel y dywed Aled Sam, mae hynny 'fel malwen yn mynd o Landeilo i Lambed drwy Istanbul ond twtsh ymhellach'. Er bod trafferthion wedi codi ers y glanio - mae Philae bellach yn cysgu gan nad yw ei chelloedd solar yn gallu gweld digon o'r haul i wefru'i batris - roedd y gamp dechnolegol yn syfrdanol.

Roedd ambell un ar Twitter, fodd bynnag, yn gofidio nad yw'n hawdd cyfiawnhau gwariant ar bethau fel hyn - sydd, fe haerir, heb fudd ymarferol amlwg - pan mae cymaint o bobl yn dioddef tlodi ar ein planed ein hunain. Ar un olwg, mae'r pwynt yn un teg. Ond rwy'n anghytuno'n llwyr.

Yn un peth, dim ond 1.4bn oedd cost yr orchwyl. Gan mai yn 2004 y gadawodd y roced y Ddaear, dylid cofio bod gwerth degawd o chwyddiant wedi digwydd ers cyfrifo'r ffigwr hwnnw. Ond hyd yn oed wedyn, mae'n rhyfeddol o isel. Mae'r gost yn bitw iawn o gymharu â'r holl bethau eraill rydym yn gwario ffortiwn arnynt. Byddai'n anodd dadlau â hynny hyd yn oed petai'r orchwyl wedi costio dwywaith cymaint a mwy.

Y ddadl yw bod gwaith fel hyn yn gwastraffu adnoddau - amser ac arian - a fyddai fel arall yn gallu cael eu defnyddio i leddfu tlodi, newyn neu broblemau eraill sy'n nes at adref. Y diffyg mwyaf fan hyn yw'r awgrym na ddylid gwario ar unrhyw beth heblaw'r llond llaw o broblemau mwyaf dyrys oll.

Mae Cymry Cymraeg yn gyfarwydd â'r ddadl flinedig bod gwariant ar bethau sy'n ymwneud â'n hiaith yn gwastraffu adnoddau a ddylai fynd at bethau mwy gwerth chweil, megis y gwasanaeth iechyd. Ond gan nad yw'n bosibl i'r gwasanaeth iechyd fod yn gwbl berffaith, mae o hyd yn wir y byddai'n fuddiol gwario 'mwy' arno. Felly hefyd gyda thlodi. Yn hynny o beth, mae'n amhosibl gwario 'digon' ar yr un ohonynt. Os mai dyna'r unig feysydd sy'n haeddu cyllid, mae'n dilyn wedyn nad oes fyth modd cyfiawnhau unrhyw arian cyhoeddus ar gyfer prosiectau llai argyfyngus. Ni fydd fyth amser pan nad yw'r ddadl yn arwain yn anorfod at y casgliad hwnnw.

Dyma fynd â'r ddadl i'r eithaf. Ar y llaw arall, mae'n wir bod rhywbeth yn od o weld India, er enghraifft, yn gwario biliynau ar ei rhaglen ofod hithau pan mae ganddi gymaint o broblemau cymdeithasol difrifol o fewn ei ffiniau ei hun. Mae yna linell yn rhywle, felly. Ond nid yw prosiectau fel Philae'n dod yn agos at ei chroesi yn fy marn i. Os oes rhaid cwtogi ar wastraff er mwyn dargyfeirio symiau sylweddol o arian tuag at achosion gwell, dylem dargedu ein byddinoedd.

Yn ogystal, dylid herio'r awgrym nad oes budd ymarferol yn deillio o waith fel hyn. Yn un peth, hyd yn oed petai hynny'n wir, mae gwerth mewn gwneud stwff fel hyn er ei fwyn ei hun. Mae'n cynyddu ein gwybodaeth, a dylem werthfawrogi unrhyw beth sy'n gwneud hynny. Mae hefyd yn ennyn diddordeb mewn gwyddoniaeth, a'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, sy'n werthfawr ynddo'i hun. Ond y gwir yw bod ymchwil i'r gofod wedi esgor ar gynnydd technolegol amhrisiadwy ac annisgwyl. Mae llawer o'r rhain wedi profi'n ddefnyddiol tu hwnt mewn meysydd hollol wahanol; sylwer, er enghraifft, bod offer puro dŵr yn eu plith. Yn aml iawn, nid oedd modd rhagweld manteision amgen y technolegau newydd hyn o flaen llaw.

Dylwn gydnabod bod y dadleuon yn y paragraff uchod yn wir am wario milwrol hefyd, ond y gwahaniaeth moesol amlwg fan yna yw mai amcan y fyddin yw canfod ffyrdd newydd o ladd pobl. Pwrpas ymchwil wyddonol, ar y llaw arall, yw ein helpu i ddeall mwy am y bydysawd.

Mae'n anffodus ein bod yn mynnu, y dyddiau hyn, bod gwyddonwyr yn amlinellu union ddefnydd ymarferol eu hymchwil o flaen llaw er mwyn cyfiawnhau rhoi grantiau iddynt. Yn amlach na pheidio, ni ddaw hynny i'r amlwg nes yn ddiweddarach. Dylai fod yn ddigon i ddweud bod modd i'r cynnydd yn ein dealltwriaeth agor y drws ar gyfer ymchwil pellach, a all, yn ei dro, roi bod i ddyfeisiau neu dechnegau newydd pwysig. Mae'n amhosibl dweud, a dyna'r pwynt. Petaem yn gwybod yr holl oblygiadau o flaen llaw, byddai llai o bwynt i wyddoniaeth yn y lle cyntaf.

Yn bersonol, rwy'n gresynu nad ydym yn gwario llawer iawn mwy ar ymchwilio'r gofod. Mae'n rhyfedd, yn fy marn i, nad oes unrhyw un wedi cerdded ar y Lleuad ers 1972. Mae'n hen bryd i ni fynd i Fawrth.

29/10/2014

Creadydd yw'r Pab

Mae'r eglwys Babyddol wedi datgan ers blynyddoedd - ers dyddiau Pius XII - eu bod yn derbyn bod esblygiad yn wir. Nid oes llawer yn newydd felly yn sylwadau diweddaraf y Pab Ffransis:
When we read about Creation in Genesis, we run the risk of imagining God was a magician, with a magic wand able to do everything. But that is not so,” Francis said.
He added: “He created human beings and let them develop according to the internal laws that he gave to each one so they would reach their fulfilment.
“The Big Bang, which today we hold to be the origin of the world, does not contradict the intervention of the divine creator but, rather, requires it.
“Evolution in nature is not inconsistent with the notion of creation, because evolution requires the creation of beings that evolve.”
Nid yw'n anodd deall cymhelliad y Pab i ymddangos fel petai'n cofleidio gwyddoniaeth. Mae creadaeth yn gysyniad twp, felly dyhead unrhyw berson call yw ymbellhau oddi wrtho. Ond nid yw'r ymdrech yn dal dŵr. Mae'r sylwadau uchod yn mynd yn hollol groes i theori esblygiadol. Er yr ymgais i beidio ymddangos felly, fersiwn fwy niwlog o greadaeth yw'r hyn a ddisgrifir ganddo.

Rwyf wedi dweud o'r blaen bod esblygiad a ffydd grefyddol yn anghydnaws. Mae rhaid dewis, ac fy nadl yw bod unrhyw un sy'n credu mewn duw, ac sy'n honni eu bod yn derbyn theori esblygiadol ar yr un pryd, yn camddeall goblygiadau'r naill neu'r llall (neu'r ddau). Y peth pwysig am esblygiad yw bod y broses yn ddall. Os ydych yn credu mai modd o gyrraedd pwynt penodol (hynny yw, byd sy'n cynnwys bodau dynol) yw esblygiad, yna rydych wedi drysu. Nid yw'n eglur beth mae'r Pab yn ei olygu pan ddywed "reach their fulfilment", ond un peth sy'n sicr: nid oes ganddo unrhyw beth i'w wneud ag esblygiad.

Er bod y Pab yn ceisio rhoi'r argraff nad oes gan ei dduw ffon hud, mae'n mynnu o hyd ei fod wedi creu'r byd trwy ddirgel ffyrdd. Nid hud, ond lledrith. Creadaeth intelligent design yw hyn i bob pwrpas. Dyma'r un hen fflwff siwdo-ddwys yn ffugio cefnogaeth i syniadau gwyddonol, er mwyn dwyn parchusrwydd anhaeddiannol. Dylid rhoi'r gorau i dwyllo ein hunain bod y Fatican yn fwy synhwyrol na'r creadydd cyffredin ffwndamentalaidd ar bwnc theori esblygiadol. Os rywbeth, mae hyd yn oed yn llai gonest.

20/10/2014

'Hypersensitifrwydd electromagnetaidd'

Roedd gan WalesOnline stori bur drist ychydig ddyddiau yn ôl am ddyn sy'n gaeth i'w dŷ oherwydd hypersensitifrwydd electromagnetaidd. Mae'n debyg bod teclynnau trydanol yn achosi poenau ofnadwy i Peter Lloyd, sy'n golygu bod angen iddo gadw pellter rhag pob ffôn symudol, parth wi-fi, a hyd yn oed goleuadau trydan a cheir. Oherwydd hyn, mae wrthi'n gwneud cais i'r cyngor ei ddarparu â chaban anghysbell.

Mae'n sefyllfa druenus, ac mae'n anodd peidio cydymdeimlo. Ond mae un broblem ddifrifol â'r adroddiad: nid yw'n egluro'r ffaith nad yw hypsersensitifrwydd electromagnetaidd yn bodoli. Mae'n anodd dweud hynny heb swnio'n greulon, ond dyna'r gwir plaen amdani: nid oes y fath gyflwr yn bod.

Sylwer bod pob gair o'r adroddiad yn hollol grediniol, heb unrhyw fath o awgrym nad yw hunan-ddiagnosis Mr Lloyd o reidrwydd yn gywir. Yn anffodus, mae'n enghraifft o newyddiadura di-ofal, diog ac anghyfrifol ar y naw.

Dylai fod yn amlwg nad cyhuddo Mr Lloyd o ddweud celwydd yw hyn. Nid oes rheswm i dybio nad yw'n ddidwyll o'r farn bod technolegau modern y byd cyfoes yn ei arteithio. Nid ef yw'r unig un sy'n credu hynny, chwaith. Ond y gwir yw bod astudiaethau trylwyr wedi cael eu gwneud yn chwilio am unrhyw effeithiau niweidiol ar ein hiechyd yn sgil pelydrau electromagnetig neu feysydd trydannol, a negyddol yw pob canlyniad.

Mae arbrawf syml er mwyn canfod a yw symptomau Mr Lloyd yn wir ai peidio. Gellir ei roi mewn ystafell sydd wedi'i hinsiwleiddio rhag popeth o'r byd tu allan, gyda dyfais electronig mewn bocs heb ei agor. Wedyn, gall wyddonydd, o du allan i'r ystafell, droi'r ddyfais ymlaen ac i ffwrdd ar hap. Os yw'r effaith yn wir, byddai modd i Mr Lloyd ddweud yn union pryd y mae'r ddyfais ymlaen a phryd y mae wedi'i throi i ffwrdd. Dyma'r math o arbrawf y cyfeiriais ato uchod, ac mae'r fethodoleg yn eithaf syml. Os yw'r symptomau'n wir, byddai'n achosi peth poen i Mr Lloyd, ond nid oes rheswm iddo beidio cydsynio os yw'r teclynnau yma'n ei boenydio bob dydd doed a ddelo. Byddai canlyniad positif yn ddarganfyddiad arwyddocaol iawn, a byddai'n galluogi gwyddonwyr i ganfod atebion a helpu i leddfu dioddefaint y claf.

Fy hypothesis sinigaidd yw na fyddai Mr Lloyd, wedi'r cyfan, yn gallu dweud pryd fyddai'r ddyfais yn cael ei throi ymlaen. Ond beth sy'n mynd ymlaen, felly? Fel y soniais, rwy'n hyderu ei fod yn ddidwyll. Mae'n debygol, felly, mai problem seicolegol sydd wrth wraidd hyn. Os yw hynny'n swnio'n gas, yna rheswm i gael gwared ar y stigma ynghylch afiechydon meddyliol yw hynny.

Efallai ei bod yn arwyddocaol mai hyfforddwr corfforol ac ymgynghorydd maethegyddol oedd ei alwedigaeth cyn i'w afiechyd gydio o ddifrif. Mae rhai sy'n ymwneud â'r maes hwnnw yn dod o dan ddylanwad gwefannau fel Natural News, gwefan yr erchyll Mike Adams, sy'n hyrwyddo pob math o driniaethau amgen. Cam naturiol pellach wedyn fyddai gwefan fel PowerWatch, a redir gan ddyn o'r enw Alasdair Phillips, sy'n gwneud ei ffortiwn trwy werthu fug-declynnau sydd, fe honnir, yn eich hamddiffyn rhag yr holl dechnoleg anweledig ofnadwy yma. A dweud y gwir, mae hyn wedi f'atgoffa o'r ffaith i mi gyhoeddi erthygl yng nghylchgrawn Barn ar y pwnc hwnnw un tro; efallai yn rhifyn Eisteddfod 2007. Mae fy nghopi wedi hen fynd yn anghof, yn anffodus.

Damcaniaethu ynghylch y trywydd a gymerodd Mr Lloyd yw'r paragraff uchod. Y pwynt yw bod poenau meddyliol yn gallu bod lawn mor boenus â rhai corfforol, fel plasebo am yn ôl. Os ydych yn teimlo sicrwydd bod rhywbeth yn eich brifo, hyd yn oed os nad oes sail corfforol, mae'r boen yn gallu teimlo'n real. Ceir rhai pobl sy'n taeru, yr un mor ddidwyll, bod elfennau sinistr o fewn y llywodraeth, neu ddynion gwyrddion o'r gofod, yn cynllwynio i reoli'u meddyliau, ac sydd o'r herwydd yn gwisgo hetiau ffoel er mwyn eu hatal. Ffenomen o'r un genre yw'r hyn y mae Mr Lloyd yn ei ddioddef. Mae'n haeddu triniaeth, ond nid y math sydd ganddo'i hun mewn golwg.

04/08/2014

Esblygiad a ffydd

Via Morfa Dulas, gwelais yr erthygl yma gan rywun o'r enw Rodney J Scott o'r sefydliad BioLogos. Byrdwn yr ysgrif yw nad oes angen dewis rhwng arddel ffydd Gristnogol a derbyn y ffaith bod bywyd ar y ddaear wedi esblygu dros gyfnod o sawl biliwn o flynddoedd. Hynny yw, mae modd credu yn y ddau beth ac nid ydynt yn gwrthdaro. Nid yw hynny'n syndod, gan mai hyrwyddo negeseuon fel hyn yw holl amcan BioLogos, a sefydlwyd gan Francis Collins. Mae Collins yn fiolegydd uchel iawn ei barch, a'n haeddiannol felly. Ef oedd cydlynydd Prosiect y Genom Dynol, ac mae wedi gwneud llawer o waith arwyddocaol. Mae hefyd yn Gristion efengylol sy'n credu'n daer bod ei ffydd yn gydnaws â gwyddoniaeth.

Mae BioLogos yn ddidwyll yn hyn o beth, ond mae'r safiad hwnnw'n gam strategol call hefyd. Yn amlwg, byddai gorfodi pobl i ddewis yn golygu y byddai rhai, sy'n derbyn yr hyn sydd gan wyddoniaeth i'w ddweud am bynciau fel amrywiaeth bywyd ar y ddaear, yn rhoi'r gorau i'w ffydd. Gwell yw eu darbwyllo bod modd ei chael hi'r ddwy ffordd. Mae'r un peth yn wir y ffordd arall: mae llawer o fiolegwyr esblygiadol, hyd yn oed os nad ydynt yn grefyddol eu hunain, yn dweud nad oes gwrthdaro rhwng syniadau Darwin a chrefydd. Dyna oedd safbwynt y diweddar Stephen Jay Gould, er enghraifft. Petaem yn edrych ar yr ymdrech i ddarbwyllo mwy o bobl i dderbyn theori esblygiad o bersbectif strategol pur, mae'n amlwg mai dyma fyddai'r ffordd gallaf o fynd o'i chwmpas hi.

Ond nid wyf yn credu bod modd credu mewn duw a derbyn a deall esblygiad ar yr un pryd. Efallai wir bod mynnu hyn yn debygol o wthio pobl i ffwrdd yn hytrach na'u denu, ond mae angen dewis. Wrth gwrs mae llawer o bobl yn derbyn y ddau beth, felly oes mae 'modd' gwneud mewn ffordd ddibwys o amlwg. Ond yn fy marn i, mae credu bod Duw wedi'n creu yn fwriadol trwy gyfrwng esblygiad - hynny yw, ei fod wedi llywio'r broses o'r dechrau'n deg, gan ei harwain yn anochel er mwyn ein cynhyrchu ni yn y pen draw - yn methu'r pwynt yn llwyr. Gwers fawr theori esblygiad yw bod y broses yn ddall, ac nad yw'r canlyniadau'n anochel. Petai modd chwarae'r tâp yn ôl ac ail-adrodd datblygiad bywyd o'r gell gyntaf hyd heddiw, byddai'r hyn a welwn yn hollol hollol wahanol. Yn sicr, nid oes rheswm yn y byd i dybio y byddai unrhyw beth tebyg i ni'n ail-ymddangos.

Nid pwynt distadl mo hyn. Os ydych yn credu bod esblygiad yn fodd o gyrraedd pwynt penodol sydd wedi'i benderfynu'n barod, nid wyf yn derbyn eich bod yn deall y theori wedi'r cyfan. Nid yw esblygiad yn gwneud synnwyr oni bai bod duwiau fel yr un Cristnogol yn absennol.

14/05/2014

Bydysawd T.H. Parry-Williams

Gan fy mod ar hyn o bryd yn darllen y gyfrol wych Ffarwél I Freiburg gan Angharad Price, am grwydriadau cynnar T.H. Parry-Williams, rwyf wedi bod yn ail-ddarllen rhai o'i gerddi.

Mae Parry-Williams yn bendant yn un o'r beirdd mwyaf diddorol a gynhyrchodd Cymru erioed. Mae nifer o'i gerddi'n trafod marwolaeth, ac efallai bod hynny'n un o'r rhesymau y mae'r rhain yn enwedig yn apelio ataf, gan fy mod innau hefyd yn gallu bod yn ddiawl bach morbid ar adegau. Rheswm arall yw'r ffaith ei fod siwr o fod ymysg y beirdd Cymraeg cyntaf i drafod y pwnc ag agwedd gwirioneddol ddyneiddiol ac anghrefyddol, gan bwysleisio ein di-nodedd yng nghyd-destun ehangach y bydysawd. Roedd Parry-Williams, wrth gwrs, yn amheus o grefydd, ac mae'r cerddi hyn yn cydnabod yn blaen mai marwolaeth yw'r diwedd. Mae 'Yr Esgyrn Hyn' yn enghraifft dda.

Ond rwy'n credu mai fy ffefryn yw 'Dychwelyd':
Ni all terfysgoedd daear byth gyffroi
Distawrwydd nef; ni sigla lleisiau'r llawr
Rymuster y tangnefedd sydd yn toi
Diddim diarcholl yr ehangder mawr;
Ac ni all holl drybestod dyn a byd
Darfu'r tawelwch nac amharu dim
Ar dreigl a thro'r pellterau sydd o hyd
Yn gwneuthur gosteg â'u chwyrnellu chwim.
Ac am nad ydyw'n byw ar hyd y daith
O gri ein geni hyd ein holaf gŵyn
Yn ddim ond crych dros dro neu gysgod craith
Ar lyfnder esmwyth y mudandod mwyn,
Ni wnawn, wrth ffoi am byth o'n ffwdan ffôl,
Ond llithro i'r llonyddwch mawr yn ôl.
Mae'n debyg bod rhai wedi ystyried y gerdd hon yn brawf o ffydd Parry-Williams yn Nuw, ond mae hynny'n ddwl. Efallai bod y beirniaid Cristnogol gobeithiol yma wedi rhoi'r gorau i ddarllen ar ôl gweld y gair 'nef', sy'n amlwg mewn gwirionedd yn gyfeiriad barddonol ond seciwlar at y bydysawd y tu hwnt i'n carreg bach glas a gwyrdd ni. Nid yw union safbwynt diwinyddol Parry-Williams yn sicr, hyd y gwn, ac rwy'n petruso cyn ei hawlio fel anffyddiwr o'r iawn ryw, ond o ddarllen cerddi fel hyn mae'n bosibl dychmygu mai dyna a fuasai pebai'n fyw heddiw. Yn bendant, mae unrhyw un sy'n gweld tinc o ffydd grefyddol yn y darn uchod yn twyllo'u hunain.

Er nad yw Cristnogaeth yn gallu mynnu bellach mai'r Ddaear yw canol y bydysawd yn llythrennol, mae'n honni o hyd mai ein planed bach pitw ni sy'n hawlio holl sylw'r endid a greodd popeth sy'n bodoli. Mae 'Dychwelyd' yn ymwrthod yn llwyr â'r agwedd blentynnaidd honno. Roedd y bydysawd yn bodoli am 13.7 biliwn o flynyddoedd cyn i ni gael ein geni, a bydd yn parhau i fodoli am sawl biliwn o flynyddoedd wedi i ni farw, doed a ddelo. Mae'r cyflwr o beidio bodoli ar ôl ein marwolaeth yr un fath yn union â'r cyfnod pan nad oeddem yn bodoli cyn i ni gael ein geni yn y lle cyntaf. Hyd yn oed petawn yn ddigon ffodus i fyw am ganrif, ni fyddai fy modolaeth ond crac hynod denau o oleuni yng nghanol ffenestr anferth o dywyllwch (neu 'gysgod craith ar lyfnder esmwyth y mudandod mwyn').  Rwy'n hoff iawn o'r ddelwedd drawiadol yma. Go brin mai Parry-Williams oedd y cyntaf i'w defnyddio, ond mae llawer o awduron gwyddoniaeth boblogaidd wedi defnyddio rhai tebyg dros y blynyddoedd. Mae Carl Sagan yn un, ac mae 'Dychwelyd' hefyd yn rhagweld rhai o'r pethau eraill a ddywedodd Sagan yn ei gyfrol Pale Blue Dot. wrth ddisgrifio llun a dynnwyd o'r Ddaear o 4 biliwn milltir i ffwrdd. Mae'n werth dyfynnu'r darn yma'n llawn:
From this distant vantage point, the Earth might not seem of any particular interest. But for us, it's different. Consider again that dot. That's here. That's home. That's us. On it everyone you love, everyone you know, everyone you ever heard of, every human being who ever was, lived out their lives. The aggregate of our joy and suffering, thousands of confident religions, ideologies, and economic doctrines, every hunter and forager, every hero and coward, every creator and destroyer of civilization, every king and peasant, every young couple in love, every mother and father, hopeful child, inventor and explorer, every teacher of morals, every corrupt politician, every "superstar," every "supreme leader," every saint and sinner in the history of our species lived there – on a mote of dust suspended in a sunbeam.
The Earth is a very small stage in a vast cosmic arena. Think of the rivers of blood spilled by all those generals and emperors so that in glory and triumph they could become the momentary masters of a fraction of a dot. Think of the endless cruelties visited by the inhabitants of one corner of this pixel on the scarcely distinguishable inhabitants of some other corner. How frequent their misunderstandings, how eager they are to kill one another, how fervent their hatreds. Our posturings, our imagined self-importance, the delusion that we have some privileged position in the universe, are challenged by this point of pale light. Our planet is a lonely speck in the great enveloping cosmic dark. In our obscurity – in all this vastness – there is no hint that help will come from elsewhere to save us from ourselves.
The Earth is the only world known, so far, to harbor life. There is nowhere else, at least in the near future, to which our species could migrate. Visit, yes. Settle, not yet. Like it or not, for the moment, the Earth is where we make our stand. It has been said that astronomy is a humbling and character-building experience. There is perhaps no better demonstration of the folly of human conceits than this distant image of our tiny world. To me, it underscores our responsibility to deal more kindly with one another and to preserve and cherish the pale blue dot, the only home we've ever known.
Gellir ystyried Parry-Williams yn rhyw fath o egin-Sagan, mewn ffordd. A dweud y gwir, byddai 'Dychwelyd' yn gwneud epigraff ardderchog ar gyfer unrhyw gyfieithiad Cymraeg o Pale Blue Dot.

10/03/2014

"Gwyrthiau" meddygol unwaith eto

Mae'r BBC wedi rhoi sylw heddiw i bobl od sy'n credu bod modd gwella iechyd cleifion trwy weddïo. Mae'r rhaglen Radio 4 (sef sail yr erthygl) ar gael fan hyn.

Rwyf wedi dweud tipyn am lol fel hyn o'r blaen, ac nid wyf am ail-adrodd yr hyn a ddywedais bryd hynny. Ond roedd rhai o'r bobl sy'n siarad ar y rhaglen uchod yn mynd hyd yn oed ymhellach na'r arfer, gan fynnu bod eu gweddïau'n gallu codi'r meirw'n fyw. Yn naturiol, nid oes ganddynt dystiolaeth o gwbl; maent yn disgwyl i ni dderbyn eu gair. Iawn, ok: er lles dadl, beth am wneud hynny?

Hyd yn oed petai'r fath beth yn wir, beth fyddai hynny'n ei ddweud am dduw y bobl yma? Mae'r syniad bod y bod mawr yn meddu ar y gallu i atgyfodi'r meirw (neu, yn wir, i beidio'u lladd yn y lle cyntaf), ond yn gwrthod gwneud hynny oni bai bod person arall yn erfyn arno'n ddigonol, yn anhygoel o frawychus. Ai dyma'r duw sydd i fod yn enwog am ei gariad anferth tuag atom?  Yn chwarae gêm ddychrynllyd, fel plentyn bach gyda chwyddwydr a phelydrau'r haul a ninnau fel y morgrug?

Petawn yn derbyn y bobl yma ar eu gair, mae'r goblygiadau'n hyll ar y naw. Dyma reswm arall eto fyth i fod yn ddiolchgar nad yw'r anghenfil seicopathig yn y nen yn bodoli yn y byd go iawn.

12/02/2014

"Os ydym wedi esblygu o fwncïod, pam mae mwncïod dal i fodoli?"

Yn dilyn y ddadl rhwng Bill Nye a Ken Ham, aeth aelod o staff Buzzfeed o gwmpas yn gofyn i greadyddion o'r gynulleidfa ofyn un cwestiwn yr un i herio pobl sy'n derbyn theori esblygiadol. Mae bron y cyfan o'r cwestiynau yn gyfarwydd, ac mae un neu ddau sydd, wel, yn rhyfedd. Mae gan bob un ohonynt rywbeth yn gyffredin: maent yn amlygu'r ffaith bod yr holwyr yn teimlo'n gryf iawn yn erbyn theori wyddonol nad ydynt yn ei deall o gwbl.

Wrth ddarllen, roeddwn yn dechrau synnu nad oedd fy nghas (neu fy ffefryn, yn dibynnu ar sut rwy'n teimlo ar y diwrnod) 'ddadl' wrth-esblygiad wedi ymddangos. Yna, cyrhaeddais yr un olaf un a dyna hi: "os ydym wedi esblygu o fwncïod, pam mae mwncïod dal i fodoli?" 'Aha, gotcha!', medd ei wên. Argh.

Mae'r cwestiwn (sy'n glasur yn ei genre) yn hurt mewn sawl ffordd. Yn gyntaf oll, nid yw'r cymal cyntaf yn wir; nid ydym wedi esblygu o fwncïod. Epaod ydym (fel simpansïod, gorilas ac orangutans); ein cefndryd a'n cyfnethirod pell yw'r mwncïod. Dyma mae'r dyn smýg yn ei ofyn mewn gwirionedd: "os ydym yn ddisgynyddion i'n nain a'n taid, yna pam mae ein cefndryd/cyfnethirod yn bodoli?" Nid yw hynny'n gwneud synnwyr, wrth gwrs. A dyna fy mhwynt.

Mae'r cwestiwn hefyd yn awgrymu bod dealltwriaeth yr holwr o'r ffordd y mae esblygiad yn gweithio yn gartwnaidd a dweud y lleiaf. Pan mae rhywogaeth newydd yn ymddangos, nid yw poblogaeth gyfan o un anifail yn troi mewn i anifail gwahanol mewn un naid. Yn hytrach, mae carfan fach (fel arfer ar ôl cael eu gwahanu'n ddaearyddol) yn dechrau gwahanu'n raddol oddi wrth y lleill. Mewn egwyddor, nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na all is-boblogaeth o fwncïod ddilyn trywydd esblygiadol gwahanol i'r boblogaeth yn gyffredinol, nes eu bod yn cyrraedd pwynt lle maent yn rywogaeth ar wahan. Mae'r mwncïod gwreiddiol yn parhau i bob pwrpas, ond gyda chefndryd a chyfnethirod (pell, erbyn hyn) sy'n wahanol.

Nid wyf am fynd trwy'r 21 cwestiwn arall, gan fod eraill (fel Adam Rutherford a Phil Plait) eisoes wedi gwneud job well nag y gallaf i. Ond mae'r un yma'n fy nghorddi'n arbennig. Mae'n enghraifft o'r anwybodaeth ymosodol rwyf wedi'i drafod o'r blaen. Nid oes unrhyw beth yn bod ar fod yn anwybodus ynddo'i hun; mae pawb yn anwybodus am lawer iawn mwy o bynciau nag y maent yn gyfarwydd â hwy. Y tric yw cydnabod hynny. Efallai bod y dyn yn gofyn cwestiwn hollol ddidwyll, ond mae hynny'n annhebygol. Nid yw'r mwyafrif anferth o greadyddion yn deall y syniad y maent mor chwyrn a thaer yn ei erbyn (a'n treulio cymaint o amser ac adnoddau yn ei wrthwynebu'n gyhoeddus). Ac mae'r rhai prin sydd yn ei ddirnad yn dewis bod yn anonest.

10/02/2014

Ynghylch dadlau'n gyhoeddus â chreadyddion

Pan gyhoeddwyd bod Bill Nye ("The Science Guy", hyrwyddwr gwyddoniaeth poblogaidd ar deledu America) am gymryd rhan mewn dadl gyhoeddus yn erbyn Ken Ham ar 4 Chwefror, f'argraff gyntaf oedd ei fod yn syniad gwael.

Ken Ham yw pennaeth Answers In Genesis, sefydliad sy'n mynnu bod theori esblygiadol yn gelwydd llwyr, nad yw'r bydysawd a phopeth ynddo'n fwy na 6,000 blwydd oed, a bod Genesis yn ddogfen hanesyddol a llythrennol gywir. Maent hefyd wedi sefydlu'r Creation Museum yn Kentucky, a'n gobeithio adeiladu 'replica' o arch Noa ger yr un safle. Crefydd ffwndamentalaidd ar ei mwyaf amrwd, felly. Fel y gallwch ei ddychmygu, mae eu safbwyntiau a'u dadleuon yn chwerthinllyd.

Un o'r problemau cyffredinol gyda rhannu llwyfan â phobl fel hyn yw bod gwneud hynny ynddo'i hun yn rhoi hygrededd iddynt. Fel y dywedodd un o gyn-lywyddion y Royal Society mewn cyd-destun tebyg, "that would look great on your CV, not so good on mine". Dyma ddyfyniad arall perthnasol (anhysbys, hyd y gwn): "never argue with an idiot. The best outcome you can hope for is that you won an argument with an idiot."

Er nad gwyddonydd academaidd mo Nye, mae'n uchel ei barch, a'n un o'r lladmeryddion mwyaf adnabyddus yn America o blaid gwyddoniaeth. Am y rheswm hwnnw, roedd y posteri'n hyrwyddo'r digwyddiad, gyda'r lluniau o'r naill ddyn a'r llall, yn gaffaeliad PR anferth i AiG cyn dechrau.

Yn waeth na hynny, cytunwyd i gynnal y ddadl yn 'amgueddfa' AiG (rhaid defnyddio'r dyfynodau), gyda'r holl arian, a'r rheolaeth dros y darllediad, yn mynd i ddwylo sefydliad Ham ei hun. Mae'r 'amgueddfa' a phrosiect yr arch mewn trafferthion ariannol difrifol (hwrê!), felly roedd y digwyddiad yma'n hwb anferth i'w coffrau. Roedd cydsynio i hynny yn bendant yn ffôl.

Roedd pryderon eraill hefyd. Mae Nye yn ddyn addfwyn a mymryn yn ecsentrig (nid yw byth heb ei ddici-bo). Mae ei bersona'n atgoffa rhywun o hen ewythr hoffus. Mae twyllwyr digywilydd fel Ham, os dim byd arall, yn meddu ar allu rhethregol effeithiol a'n siaradwyr cyhoeddus slic a hyderus: roedd gofyn i Nye baratoi'n drylwyr ar gyfer ymdopi ag anonestrwydd amrwd ei wrthwynebydd. Yn anffodus, nid cywirdeb y dadleuon yw'r peth pwysicaf wrth farnu pwy sy'n 'ennill' pethau fel hyn.

Dyma'r fideo o'r digwyddiad. Mae bron yn dair awr o hyd, a Ken Ham sy'n siarad am hanner yr amser, felly rwy'n deall yn berffaith iawn os nad ydych yn awyddus i glicio play:


Y gwir yw i Nye wneud yn well nag oeddwn wedi'i ddisgwyl. Fe fethodd ambell gyfle i wneud hyd yn oed yn well, ond ar y cyfan fe allai fod wedi bod yn llawer iawn gwaeth. Nid oedd gan Ham lawer i'w gynnig heblaw cyfeiriadau at ei Feibl. Yn wir, roedd yn ddigon hapus i gydnabod nad oedd yn gallu meddwl am unrhyw beth a fyddai'n gallu newid ei feddwl (yn ei ateb i'r un cwestiwn, dywedodd Nye yn ddigon rhesymol a syml mai tystiolaeth fyddai ei angen arno er mwyn newid ei feddwl yntau).

Mae cryn drafod wedi bod am y digwyddiad dros yr wythnos ddiwethaf, ac fel llawer, rwyf wedi dechrau newid fy meddwl ynghylch doethineb cael hyrwyddwyr gwyddoniaeth amlwg yn rhannu llwyfan â chreadyddion. Yn America, o leiaf, y gwir yw bod bron i hanner y boblogaeth eisoes yn ymwrthod ag esblygiad. Am ba bynnag reswm, mae gan siarlataniaid fel Ham gryn dipyn o hygrededd yn barod yng ngolwg llawer o'r cyhoedd. Oherwydd hynny, waeth mynd i'r gâd gyda'r gynnau mawrion i gyd, ddim (nid yw hyn mor wir ym Mhrydain, wrth gwr).

Yn ogystal, gan mai selogion ffwndamentalaidd oedd y rhan fwyaf o'r gynulleidfa, mae yna bosibilrwydd go gryf bod rhai ohonynt yn clywed y fath dystiolaeth wyddonol am y tro cyntaf. Os oes hedyn o chwilfrydedd wedi cael ei blannu, gellir galw hynny'n rhyw fath o lwyddiant.

O safbwynt strategol, un canlyniad boddhaol i'r ddadl oedd bod y peth wedi bod yn hunllef i arddelwyr intelligent design. Dyma'r digwyddiad uchaf ei broffeil yn hanes hir y frwydr rhwng esblygiad a chreadaeth ers rhai blynyddoedd, gyda thros filiwn o bobl wedi gwylio. A beth a gafwyd? Un dyn yn siarad am dystiolaeth wyddonol, a dyn arall yn chwifio Beibl. Er holl ymdrechion poenus y Discovery Institute (sy'n hyrwyddo ID) i beidio crybwyll duw na chrefydd, ac i geisio creu'r camargraff bod modd ymosod yn wyddonol ar theori esblygiadol, mae'n amlwg mai ffwndamentaliaeth grefyddol yw'r gwir gymhelliad. Diolch i Ham ac AiG, mae gwadu hynny hyd yn oed yn anos iddynt bellach.

05/02/2014

Strategaeth y Lletem

Union bymtheng mlynedd yn ôl heddiw, daeth cath arwyddocaol iawn allan o'r cwd (yn hanes y ddadl ddi-ddiwedd ynghylch esblygiad a chreadaeth o leiaf). Roedd y Discovery Institue, sefydliad Americanaidd sy'n arddel a hyrwyddo intelligent design, wedi bod yn ceisio mynnu ers tro nad yw eu fersiwn ddiweddaraf o greadaeth yn syniad crefyddol. Prif nodwedd ID o'i gymharu â'r creadaeth mwy amrwd grefyddol a gafwyd ynghynt oedd ei fod yn cael ei fynegi mewn termau sy'n osgoi crybwyll duw. Cam strategol llwyr oedd hynny, gan fod ffwndamentalwyr crefyddol wedi colli sawl achos llys yn America yn dilyn ymdrechion i ddysgu'r lol yma mewn ysgolion, ar y sail eu bod yn ceisio gorfodi ffydd grefyddol ar y plant. Ond "nothing more than creationism in a cheap tuxedo" yw ID mewn gwirionedd, fel y dywedodd Leonard Krishtalka.

Hepgor y stwff am dduw oedd yr amcan yn gyhoeddus, o leiaf, ond roedd y cymhellion crefyddol yn gwbl amlwg o hyd i bawb arall. Cafwyd cadarnhad ar y 4ydd o Chwefror 1999, pan ddaeth dogfen fewnol gyfrinachol i'r fei: y Wedge Strategy (dyma'i enw swyddogol, a dyna'r post gwreiddiol lle cyhoeddwyd y ddogfen yn gyhoeddus am y tro cyntaf, ar Usenet). Mae dogfen y Discovery Institute yn cadarnhau mai hyrwyddo eu crefydd oedd y nod o hyd: "replace materialistic explanations with the theistic understanding that nature and human beings are created by God". Nid oedd hynny'n syndod, ond roedd yn ddefnyddiol cael y peth ar ddu a gwyn gan y DI ei hun.

Dylid cadw hyn mewn cof pan mae un o'r bobl yma'n ceisio mynnu bod eu 'theori' yn wyddonol yn hytrach na chrefyddol. Eu gobaith oedd helpu'r hachos yn y llysoedd. Yn ddoniol iawn, fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r ffwndamentalwyr sy'n gysylltiedig â llawer o'r achosion llys yma'n methu â glynu at y script, ac maent yn aml yn bradychu eu gwir gymhellion trwy ddechrau mwydro am Dduw a Iesu wedi'r cyfan. Fe ymddengys nad ydynt yn gallu helpu'u hunain.

02/06/2013

Araith Iolo Williams

Dyma araith danbaid ac emosiynol gan y naturiaethwr Iolo Williams. Mae'n werth gwrando ar yr hyn sydd ganddo i'w ddweud am bolisïau amgylcheddol a chadwraethol, y gorffennol a'r presennol.


Mae'n anffodus iddo benderfynu siarad yn Saesneg am reswm mor wantan: rhag ofn iddo gael ei "gamddehongli". Mae hynny'n sarhaus iawn i'r cyfieithwyr, a dweud y lleiaf.  Er hynny, mae'r araith yn un bwysig. Mae'n siwr mai Iolo yw naturiaethwr amlycaf Cymru, ac os mai dyma sut y mae'n teimlo am yr hyn sy'n digwydd yn ein hardaloeddd gwledig, dylai pawb dalu sylw.

14/05/2013

Rhyfeddod o'r gofod


Mae Chris Hadfield ar ei ffordd adref ar hyn o bryd, ar ôl treulio'r chwe mis diwethaf yn yr Orsaf Ofod Ryngwladol. Yn ystod y cyfnod hwnnw (ac yn ogystal â'i waith, wrth gwrs), bu'n cyhoeddi llawer o luniau hyfryd o'r ddaear fel yr isod.


Yn fwy na hynny, cyn gadael yr orsaf fe gafodd y syniad gwych o recordio fersiwn o Space Oddity gan David Bowie. Mae'n hollol fendigedig a theimladwy. A bod yn onest, rwy'n credu mai dyma un o'r pethau gorau a welais erioed:


Astronôt go iawn yn canu cân Bowie (yn y gofod!) a'i uwchlwytho i'w gyfrif YouTube (o'r gofod!). Mae'n siwr gen i mai dyma uchafbwynt y rhyngrwyd. Nid oes modd gwella hyn. Lawr allt fydd hi o hyn ymlaen.

Mae Hadfield yn dipyn o arwr yng Nghanada yn barod mae'n debyg. Mae'n llawn haeddu canmoliaeth: efallai ei fod wedi gwneud mwy i ysbrydoli ac i hyrwyddo gwyddoniaeth nag unrhyw berson arall neu raglen ddogfen ers blynyddoedd lawer.

06/03/2013

James Randi vs Uri Geller

Rwy'n mwynhau consurwyr (rwy'n gobeithio mynd i weld sioe fyw Penn & Teller yn fyw tra'n Las Vegas ddiwedd y mis), ac rwy'n hoff iawn o James "The Amazing" Randi yn arbennig. Yn ôl llawer o wybodusion y byd hud a lledrith, ef yw'r consuriwr gorau ers Houdini, ond yn ddiweddarach yn ei yrfa mae wedi dod yn fwyfwy adnabyddus fel sceptig sy'n herio "seicigiaid" a thwyllwyr eraill sy'n honni bod ganddynt bwerau paranormal.

Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr ar y pwnc. Fe ddarllenais The Faith Healers rhyw flwyddyn neu ddwy yn ôl. Mae'n disgrifio'n drwyadl iawn sut yr arferai "iachawyr ffydd" carismataidd fel Peter Popff flingo'u preiddiau trwy honni bod ganddynt y gallu i wella afiechydon ac anhwylderau trwy ras Duw. Roedd y dihirod yma'n defnyddio triciau digon sâl; yn achos Popoff, y ffefryn oedd teclyn radio yn ei glust er mwyn i'w wraig fwydo gwybodaeth am y gynulleidfa iddo! Roedd y ffenomen yma efallai yn ei anterth yn yr 1980au pan gyhoeddwyd y gyfrol, ac er bod ambell un o'r siarlataniaid yma wrthi o hyd, i Randi a'i debyg y mae llawer o'r diolch eu bod wedi colli cymaint o'u hygrededd.

Rwyf newydd ddarllen dwy gyfrol arall gan Randi: "Flim-Flam!" a "The Truth About Uri Geller". Pobl sy'n honni bod ganddynt bwerau "ESP" ("extra-sensory perception") sydd o dan sylw'n bennaf. Mae'r rhain yn mynnu eu bod yn gallu darllen meddyliau, neu'n haeru eu bod yn gallu canfod dŵr tanddaearol gyda darn o bren, neu'n gallu symud eitemau heb eu cyffwrdd ac ati. Eglura Randi'n ofalus nad oes y mymryn lleiaf o dystiolaethi i gefnogi'r fath honiadau, ac mae digon yn eu herbyn. Fel y dywed yr awdur, mae'r bobl yma'n syrthio i un o ddau gategori: mae rhai'n ddigon digywilydd a'n gwybod yn iawn eu bod yn twyllo, ond mae eraill wirioneddol yn credu bod ganddynt rhyw allu goruwchnaturiol. Mae rhywun bron â chydymdeimlo gyda'r ail grŵp ar adegau. Bron.

Fel y mae'r teitlau'n awgrymu, casgliad o bobl od a gawn yn Flim-Flam! tra mae'r llall yn canolbwyntio ar un person yn arbennig. Roedd Uri Geller, y "plygwr llwyau", yn ei anterth ar y pryd (cyhoeddwyd y ddwy gyfrol yma'n wreiddiol yn y 1970au), ac mae'n amlwg bod Randi wedi cael llond bol. Efallai bod Geller yn dipyn o destun sbort erbyn hedddiw, felly mae'n hawdd anghofio pa mor boblogaidd ydoedd bedwar degawd yn ôl a chynifer oedd yn ei gymryd o ddifrif, gan gynnwys rhai gwyddonwyr. Byddai'n deg gofyn pam mae Randi'n pryderu gymaint am y mater: wedi'r cyfan, consuriwr ydyw yntau hefyd, sydd wedi gwneud bywiolaeth lwyddiannus trwy wneud triciau a "thwyllo" cynulleidfaoedd. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth amlwg rhwng Randi a Geller, sef bod Randi'n cydnabod yn llawen mai triciau y mae'n eu cyflawni a dim byd arall. Mae Randi'n gallu efelychu "campau" Geller i gyd, ond fe ddyfeisiodd hwnnw stori ddwl am estroniaid a phlaned o'r enw Hoova mewn ymgais i ddarbwyllo pawb bod rhywbeth paranormal ar y gweill. Un broblem gyda hyn yn ôl Randi yw bod y fath ymddygiad yn di-raddio consuriaeth fel crefft, fel y dywed yn The Truth About Uri Geller:
I  call upon the conjurors of the world to take a stand on this matter. I call upon the magical organizations that place so much value upon the preservation of their trade secrets to put as much value into their concern for the public they entertain, and to insist upon certain standards of truth from their members. I urge that we devote our efforts to the entertainment of our audience by means of subterfuge, but never the bilking or the condoning of the bilking of any person or group by means of our skills. I insist that magicians of standing take action on behalf of the uninitiated to protect them against charlatans who profess divine or supernatural powers. And, most of all, I ask my fellow-magicians to preserve the dignity and integrity of this craft we hold so sacred by standing up to be counted when that craft is threatened by those who would make of it a racket.

We oweat least that much to those whom we entertain. It is they who bring us that priceless commodity, applause, without which we wither and perish. And it is they who make it possible for us to make an enjoyable living that rewards us personally in so many ways other than money.

For we are the only element that stands between the faker and his victim. Men of science and other great intellects are without that peculiar expertise that qualifies us to detect chicanery when it is practiced on a high level. We are needed, and we must not only accept, we must lay claim to it
Mae'r geiriau'n ddramatig, ond rwy'n cydymdeimlo. Mae Penn & Teller hefyd yn ddirmygus iawn o'r bobl yma, fel yr oedd Houdini* eu hun gynt. Nid dim ond consurwyr sy'n cael eu niweidio gan honiadau di-sail am bwerau paranormal chwaith. Mae'n hawdd gweld sut y gall dwyllwyr egotisaidd ddatblygu messiah complex, sy'n ffenomen hynod beryglus; mae pob arweinydd cwlt gwerth ei halen wedi meddu ar y gallu i gyflawni llond llaw o driciau hud a lledrith, wedi'r cyfan. Mae dweud bod gennych allu goruwchnaturiol hefyd yn ffordd effeithiol iawn o ddarbwyllo pobl anghenus a bregus i roi llawer iawn o arian i chi, fel y gwelwyd uchod yn achos Popoff a'i debyg (wrth i fri "iachawyr ffydd" ddirywio, mae seicigs sy'n honni eu bod yn gallu siarad â'r meirw wedi cynyddu mewn poblogrwydd i lenwi'r bwlch; maent yr un mor warthus). Ar ben hyn i gyd, mae gwirionedd yn bwysig ynddo'i hun. Fel y dywed Randi,  
Acceptance of nonsense as a harmless aberration can be dangerous to all of us. We live in a society that is enlarging the boundaries of knowledge at an unprecedented rate, and we cannot keep up with much more than a small portion of what is made available to us. To mix that knowledge with childish notions of magic and fantasy is to cripple our perception of the world around us. We must reach for the truth, not for the ghosts of dead absurdities.
Mae'r paragraff olaf yn y dyfyniad blaenorol yn arwyddocaol. Un thema gyson yn y llyfrau yw nad gwyddonwyr proffesiynol yw'r bobl orau bob tro i oruchwylio profion ar bobl sy'n honni bod ganddynt bwerau paranormal. Y rheswm am hyn, yn ôl Randi, yw eu bod yn haws i'w twyllo nag y byddai rhywun yn ei dybio. Mae'n debyg bod rhai o'r gwyddonwyr a astudiodd Geller wedi bod yn chwilio allan am laser cudd neu gemegyn dirgel neu bob math o dechnegau cyffrous eraill. Efallai eu bod braidd yn gaeth, yn eu ffordd o feddwl, i'w meysydd arbenigol, ac heb arfer â'r posibilrwydd bod goddrych yr astudiaeth yn bod yn fwriadol anonest. Fel y pwysleisia Randi, mae'r gwirionedd yn fwy diflas o lawer na'r hypotheses lliwgar hynny: fel arfer, swmp a sylwedd dull Geller yw plygu neu wahnau'r llwy neu'r allwedd gyda'i ddwylo neu'n erbyn bwrdd pan nad oes unrhyw un yn edrych. Ie, cyn symled â hynny. Gweler y fideo yma, er enghraifft; mae'n syfrdanol o ddigywilydd. Mae bron yn demtasiwn i edmygu'r ffasiwn chutzpah. Ond rwy'n credu dylai fod yn siom a rhwystredigaeth bod y gwirionedd mor ddi-nod, mor boring a mor dila: hyd yn oed petai Geller yn onest am yr hyn y mae'n ei wneud, ni fyddai ei act yn ddiddorol iawn o gwbl. Dywed Randi bod angen consuriwr yn bresennol er mwyn dal consuriwr arall allan, ac mae'n hawdd deall felly pam roedd Geller yn gwrthod perfformio'n llwyr os oedd Randi neu rywun tebyg o gwmpas i gadw llygad. Noda'r awdur hefyd ei fod wedi wynebu peth dirmyg gan y gwyddonwyr eu hunain; nid oedd llawer o'r rhain chwaith yn awyddus i'w gael yn bresennol, efallai am eu bod yn meddwl gormod o'u gallu eu hunain a'n ddilornus o allu unrhyw un nad oedd yn academydd i fod o unrhyw gymorth. Mae yna wers bwysig yn y fan yna.

Fel mae'n digwydd, mae Geller wedi rhoi'r gorau i ddweud bod ganddo allu paranormal erbyn hyn. Mae'n rhy hwyr i hynny, wrth gwrs, gan fod y difrod eisoes wedi'i wneud (mae'n rhyfeddol bod cymaint o arian wedi'i wastraffu'n astudio'r dyn, ). Cyn cyhoeddi'r llyfr, mae'n debyg bod Randi wedi rhoi'r cyfle i Geller gyfaddef y gwir a datgan mai ei fwriad oedd profi pa mor hawdd oedd twyllo'r cyfryngau. Fe wrthododd. Yn wir, fe gyhuddodd Randi o enllib (gan golli'r achos, wrth gwrs).

Gan fod seren Geller (a'r cymeriadau a ddisgrifir yn Flim-Flam!) wedi pylu gymaint erbyn hyn, efallai bod cyfeirio at y llyfrau yma heddiw'n swnio braidd fel defnyddio gordd i ladd gwybed. Hwyrach eu bod wedi dyddio rhyw fymryn. Ond er bod yr unigolion yma wedi mynd i ddifancoll, fwy neu lai, mae ofergoeledd, siwdowyddoniaeth a lol afresymegol yr un mor boblogaidd ag erioed. Rwy'n credu bod hynny'n golygu bod y llyfrau'n berthnasol iawn o hyd.

--------

*Rwy'n hoff iawn o'r stori am Houdini ac Arthur Conan Doyle, awdur straeon Sherlock Holmes. Roeddent yn gyfeillion ar un adeg, ond trodd bethau'n sur wedi i Doyle gael ei ddylanwadu gan bob math o syniadau ofergoelus ac ysbrydol dwl (fel tylwyth teg Cottingley). Hyd yn oed wedi i Houdini befformio tric i Doyle a dangos sut yn union y'i cyflawnodd, roedd Doyle yn gyndyn bod rhywbeth gwirioneddol gyfrin wedi digwydd (er mawr syrffed i Houdini). Mae'n ddiddorol cyferbynnu'r ddau ddyn. Roedd Houdini, yn union fel Randi, yn gonsuriwr a lledrithiwr proffesiynol a wnaeth ei fywoliaeth trwy "dwyllo" pobl er diddanwch, ond roedd yn sceptig cwbl resymegol yn ei fywyd pob dydd. Gwnaeth Doyle, ar y llaw arall, fywoliaeth trwy ddyfeisio'r cymeriad ffuglennol mwyaf rhesymegol a sceptigol yn holl hanes llenyddiaeth, ond eto roedd ef ei hun yn dipyn o lipryn ofergoelus a naïf. Rhyfedd.

20/02/2013

Gwyddonflog

Nid oes digon o drafod gwyddoniaeth yn y Gymraeg, a dweud y lleiaf, felly braf iawn oedd sylwi ar flog newydd sydd am lenwi peth o'r bwlch hwnnw: Gwyddonflog.

Pob hwyl!