Fel llawer o bobl eraill, roeddwn wedi cynhyrfu'n arw pan lwyddwyd i lanio robot ar gomed yn ddiweddar. Fe gymerodd ddeng mlynedd i Rosetta gludo Philae yno. Mae'r comed tua 530 miliwn o filltiroedd i ffwrdd ar hyn o bryd, ac roedd angen i Rosetta ddefnyddio disgyrchiant Mawrth (a'n ôl eto via'r Ddaear wedyn!) a chwpl o asteroidau er mwyn cyflymu'n ddigonol i gyrraedd mewn da bryd. Fel y dywed Aled Sam, mae hynny 'fel malwen yn mynd o Landeilo i Lambed drwy Istanbul ond twtsh ymhellach'. Er bod trafferthion wedi codi ers y glanio - mae Philae bellach yn cysgu gan nad yw ei chelloedd solar yn gallu gweld digon o'r haul i wefru'i batris - roedd y gamp dechnolegol yn syfrdanol.
Roedd ambell un ar Twitter, fodd bynnag, yn gofidio nad yw'n hawdd cyfiawnhau gwariant ar bethau fel hyn - sydd, fe haerir, heb fudd ymarferol amlwg - pan mae cymaint o bobl yn dioddef tlodi ar ein planed ein hunain. Ar un olwg, mae'r pwynt yn un teg. Ond rwy'n anghytuno'n llwyr.
Yn un peth, dim ond €1.4bn oedd cost yr orchwyl. Gan mai yn 2004 y gadawodd y roced y Ddaear, dylid cofio bod gwerth degawd o chwyddiant wedi digwydd ers cyfrifo'r ffigwr hwnnw. Ond hyd yn oed wedyn, mae'n rhyfeddol o isel. Mae'r gost yn bitw iawn o gymharu â'r holl bethau eraill rydym yn gwario ffortiwn arnynt. Byddai'n anodd dadlau â hynny hyd yn oed petai'r orchwyl wedi costio dwywaith cymaint a mwy.
Y ddadl yw bod gwaith fel hyn yn gwastraffu adnoddau - amser ac arian - a fyddai fel arall yn gallu cael eu defnyddio i leddfu tlodi, newyn neu broblemau eraill sy'n nes at adref. Y diffyg mwyaf fan hyn yw'r awgrym na ddylid gwario ar unrhyw beth heblaw'r llond llaw o broblemau mwyaf dyrys oll.
Mae Cymry Cymraeg yn gyfarwydd â'r ddadl flinedig bod gwariant ar bethau sy'n ymwneud â'n hiaith yn gwastraffu adnoddau a ddylai fynd at bethau mwy gwerth chweil, megis y gwasanaeth iechyd. Ond gan nad yw'n bosibl i'r gwasanaeth iechyd fod yn gwbl berffaith, mae o hyd yn wir y byddai'n fuddiol gwario 'mwy' arno. Felly hefyd gyda thlodi. Yn hynny o beth, mae'n amhosibl gwario 'digon' ar yr un ohonynt. Os mai dyna'r unig feysydd sy'n haeddu cyllid, mae'n dilyn wedyn nad oes fyth modd cyfiawnhau unrhyw arian cyhoeddus ar gyfer prosiectau llai argyfyngus. Ni fydd fyth amser pan nad yw'r ddadl yn arwain yn anorfod at y casgliad hwnnw.
Dyma fynd â'r ddadl i'r eithaf. Ar y llaw arall, mae'n wir bod rhywbeth yn od o weld India, er enghraifft, yn gwario biliynau ar ei rhaglen ofod hithau pan mae ganddi gymaint o broblemau cymdeithasol difrifol o fewn ei ffiniau ei hun. Mae yna linell yn rhywle, felly. Ond nid yw prosiectau fel Philae'n dod yn agos at ei chroesi yn fy marn i. Os oes rhaid cwtogi ar wastraff er mwyn dargyfeirio symiau sylweddol o arian tuag at achosion gwell, dylem dargedu ein byddinoedd.
Yn ogystal, dylid herio'r awgrym nad oes budd ymarferol yn deillio o waith fel hyn. Yn un peth, hyd yn oed petai hynny'n wir, mae gwerth mewn gwneud stwff fel hyn er ei fwyn ei hun. Mae'n cynyddu ein gwybodaeth, a dylem werthfawrogi unrhyw beth sy'n gwneud hynny. Mae hefyd yn ennyn diddordeb mewn gwyddoniaeth, a'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, sy'n werthfawr ynddo'i hun. Ond y gwir yw bod ymchwil i'r gofod wedi esgor ar gynnydd technolegol amhrisiadwy ac annisgwyl. Mae llawer o'r rhain wedi profi'n ddefnyddiol tu hwnt mewn meysydd hollol wahanol; sylwer, er enghraifft, bod offer puro dŵr yn eu plith. Yn aml iawn, nid oedd modd rhagweld manteision amgen y technolegau newydd hyn o flaen llaw.
Dylwn gydnabod bod y dadleuon yn y paragraff uchod yn wir am wario milwrol hefyd, ond y gwahaniaeth moesol amlwg fan yna yw mai amcan y fyddin yw canfod ffyrdd newydd o ladd pobl. Pwrpas ymchwil wyddonol, ar y llaw arall, yw ein helpu i ddeall mwy am y bydysawd.
Mae'n anffodus ein bod yn mynnu, y dyddiau hyn, bod gwyddonwyr yn amlinellu union ddefnydd ymarferol eu hymchwil o flaen llaw er mwyn cyfiawnhau rhoi grantiau iddynt. Yn amlach na pheidio, ni ddaw hynny i'r amlwg nes yn ddiweddarach. Dylai fod yn ddigon i ddweud bod modd i'r cynnydd yn ein dealltwriaeth agor y drws ar gyfer ymchwil pellach, a all, yn ei dro, roi bod i ddyfeisiau neu dechnegau newydd pwysig. Mae'n amhosibl dweud, a dyna'r pwynt. Petaem yn gwybod yr holl oblygiadau o flaen llaw, byddai llai o bwynt i wyddoniaeth yn y lle cyntaf.
Yn bersonol, rwy'n gresynu nad ydym yn gwario llawer iawn mwy ar ymchwilio'r gofod. Mae'n rhyfedd, yn fy marn i, nad oes unrhyw un wedi cerdded ar y Lleuad ers 1972. Mae'n hen bryd i ni fynd i Fawrth.
Nad oes unrhyw un wedi cerdded ar y Lleuad ers 1972 ond mae lot wedi newid ers hynny ar y Ddaear. Mae Rhyfel Oer wedi gorffen a dw i ddim yn meddwl bod diwedd y Ras Ofod yn gyd-digwyddiad. Gall ddweud bod unrhyw fudd i wyddoniaeth o'r Ras Ofod yn sgil effaith o amcanion milwrol a gwleidyddol yr UDA a'r Undeb Sofietaidd.
ReplyDeleteDoes dim ras rhagor a dyna yw un rheswm allweddol pam mae cyllideb NASA yn brin ac mae'r ymdrech i drefnu taith i Fawrth yn straffaglu.
Mae'r ysgogiad milwrol i weld mewn prosiectau gwyddonol mawr eraill mewn hanes. Roedd y cyfrifiaduron cyntaf fel Colossus yn Bletchley Park yn dechnegol posibl yn yr 1910au (o ran argaeledd offer fel falfiau) ond amcanion milwrol yr Ail Rhyfel Byd a ysgogodd yr ymdrech, arloesedd - a gwariant cyhoeddus. Mae'n anodd dychmygu sut allai unrhyw gwmni wedi gwneud buddsoddiad call ar adeg mor gynnar yn y maes.
O ran newyn er bod modd datblygu technoleg i leihau'r broblem mae'r rhesymau yn wleidyddol yn bennaf - dw i'n meddwl. Pe tasen ni mewn gwlad tlawd fyddai newyn ddim yn broblem i ni - gallen ni deithio a phrynu bwyd gydag ein punnoedd. Tlodi a diffyg cyfartaledd economaidd sy'n achosi newyn. Mae lot fawr o wastraff bwyd hefyd, yn aml am resymau hollol hurt.
Byddwn i wrth fy modd i weld dyn neu fenyw ar Fawrth. Ond dw i wir ddim eisiau gweld unrhyw fath o ryfel arall, hyd yn oed rhyfel oer!
Diolch Carl. Ti'n berffaith iawn, yn anffodus. Y Rhyfel Oer oedd yr ysgogiad mwyaf o bell ffordd yn y maes yma, ac mae datblygiadau newydd wedi arafu'n aruthrol ers i'r sefyllfa ryngwladol gallio. Trist braidd. A phlentynnaidd.
ReplyDeleteMae'n baradocs o ryw fath, gan fod gweld pobl yn troedio'r Lleuad, neu'n glanio robot ar Fawrth neu gomed, yn rai o'r achosion prin hynny lle mae'r ddynoliaeth gyfan yn ymfalchïo yn yr hyn rydym wedi'i gyflawni fel rhywogaeth. Wel, i raddau.
Dyna un o'r pethau gwych am waith yr ESA a CERN - cyrff wedi eu sefydlu yn benodol a gyfer ymchwil a datblygiad heddychlon heb amcanion milwrol.
ReplyDeleteEr dwi'n meddwl fod hi'n bosib gorddweud dylanwad milwraeth weithiau. Fe fyddai cyfrifiaduron, rhwydwaith fyd-eang a theithio i'r gofod i gyd wedi datblygu o dan drefn anfilwrol - mae digon o enghreifftiau o'r datblygiadau yn y byd academaidd a masnachol. Be mae rhyfela yn gwneud ydi arllwys arian aruthrol i mewn i'r maes mewn amser byr a felly mae'r holl bobl clyfar yn cael eu denu i weithio i'r llywodraeth, yn aml am resymau cenedlaetholgar. Mae hyn yn bropaganda gwych i'r wladwriaeth ond mae'n "gwyrdroi'r farchnad" ac atal neu fwrw i'r cysgod unrhyw ddatblygiad yn y sectorau arall.
Dwi'n anghytuno ychydig am India - y broblem fan yna fel gyda pob gwladwriaeth fawr yw'r gwariant ar y lluoedd arfog - 2.5% o'i GDP i gymharu a 0.05% ar eu rhaglen ofod, sy'n cynnwys elfennau milwrol. Ond mae hefyd yn cynnwys lloerennau telegyfathrebu, tywydd a monitro amgylcheddol sy'n ddefnyddiol tu hwnt i wlad fawr iawn gyda hanner y boblogaeth yn dal i fyw bywyd syml, amaethyddol.