Showing posts with label cymru. Show all posts
Showing posts with label cymru. Show all posts

20/12/2021

Llai na hanner poblogaeth Cymru'n ystyried eu hunain yn Gristnogion

Mae'n debyg bod y ganran o boblogaeth Cymru sy'n galw'u hunain yn Gristnogion wedi syrthio o dan yr hanner, yn ôl yr ONS. Dim ond 48.18% yw'r ffigwr yng Nghymru erbyn hyn, o'i gymharu â 51% yng Nghymru a Lloegr gyda'i gilydd. Dengys y canlyniadau hyn bod Cymru'n llai crefyddol nag unrhyw rhanbarth o Loegr. Da iawn ni.

A bod yn onest, mae'n bur debygol bod y gwir ffigwr yn llawer iawn is eto. Nid oes modd cael rhifau hollol wrthrychol ynghylch y mater yma, yn amlwg, gan nad oes diffiniad sicr o 'Gristion' yn y lle cyntaf. Ond gan fod ffigwr yr ONS wedi'i seilio ar hunan-ddisgrifiad, mae'n rhaid ei fod yn cynnwys nifer fawr o bobl sy'n galw'u hunain yn Gristnogion am resymau diwylliannol a thraddodiadol, ond nad ydynt yn mynychu unrhyw gapel nac eglwys na'n meddwl am faterion diwinyddol rhyw lawer oni bai bod rhywun yn gofyn. Buaswn i'n synnu'n fawr petai'r ganran o bobl â Christnogaeth yn elfen wirioneddol bwysig o'u bywydau yn cyrraedd ffigurau dwbl.

Rhaid nodi bod ochr arall i'r geiniog yma. Rwy'n amau'n fawr bod 47.28% o boblogaeth Cymru yn wirioneddol anghrefyddol, er cymaint mae'r syniad yn apelio. Buaswn i'n tybio bod y ffigwr hwn yn cynnwys nifer fawr o bobl sy'n ymwrthod â chrefydd sefydliadol, a hyd yn oed y label 'crefydd' yn gyffredinol, ond sydd eto'n credu mewn rhywbeth lled ysbrydol. Dylid galw cred mewn unrhyw fath o rym trosgynnol yn grefydd yn fy marn i, dim ots pa mor annelwig ac idiosyncrataidd, ond rwy'n gwybod nad fel yna mae rhai pobl yn gweld pethau. Buaswn i'n awgrymu mai'r grefydd genedlaethol erbyn hyn yw 'mae'n rhaid bod 'na rywbeth, am wn i, ond nid wyf yn siwr beth'. 

Er bod anffyddiaeth go iawn - diffyg ffydd mewn unrhyw beth o gwbl tu hwnt i'r materyddol - yn cynyddu'n araf, mae'n aneglur o hyd bod dirywiad crefydd yn golygu ein bod yn mynd yn bobl mwy rhesymegol. Mae'r genhedlaeth ifanc heddiw (nad yw, ysywaeth, yn fy nghynnwys i ragor) yn rhyfedd o hoff o astroleg, wedi'r cyfan, ac mae TikTok yn orlawn o bobl 19 oed yn mwydro am ddewiniaeth. Eto i gyd, mae dirywiad parhaus crefydd sefydliadol i'w groesawu, gan ei fod yn golygu'n anorfod y bydd dylanwad y rhagfarnau adweithiol sydd (ar y cyfan) ynghlwm â hwy yn edwino ymhellach hefyd.

04/02/2019

Cofio

Pob hyn a hyn, mae rhywun yn penderfynu paentio dros y graffiti enwog "Cofiwch Dryweryn" ar ddarn o hen wal ger Llanrhystud, ac mae rhywun arall wedyn yn mynd ati i adfer y geiriau gwreiddiol. Fe ddigwyddodd eto ddoe, ar ôl i ryw jôcar baentio "Elvis" dros y cwbl. O fewn dim o dro, ail-baentiwyd yr hen eiriau a sicrhawyd bod gyrrwyr yr A487 yn cael eu hatgoffa drachefn i gofio am foddi Capel Celyn yn hytrach nag am Mr Presley.

Mae'n wir bod grwgnach wedi bod yn y gorffennol pan mae'r graffiti wedi cael ei anharddu, ond am ba bynnag reswm mae'r ymateb diweddaraf wedi bod yn neilltuol o flin. Nid oes rheswm call am hynny yn fy marn i. Mae ambell un wedi mynd mor bell â galw'r enghraifft newydd yma yn 'hate crime', sy'n eithriadol o wirion.

Yr hyn sydd angen ei ddeall yw mai'r ail-baentio rheolaidd sy'n gwneud y graffiti'n eiconig, nid unrhyw fersiwn benodol ohono. Bydded i ni fod yn onest am hyn: mae'r graffiti ei hun, fel darn o gelfyddyd, yn ddigon di-nod. Y symlrwydd di-urddas yw'r union beth sy'n galluogi unrhyw genedlaetholwyr cyfagos i fynd ati i fod yn arwyr trwy ei adfer fel guerrillas fin nos o fewn oriau. Mae'r ffaith bod yna rywun bob tro mor barod i fynd i'r gâd i roi'r neges yn ôl yn ei le mor sydyn yn symbol rymus a radical ynddi'i hun.

Dyma pam rwy'n amheus o'r galwadau i 'warchod' y safle. Yr adnewyddu cyson, y nôl ac ymlaen chwareus, sy'n gwneud yr holl beth yn ddiddorol. Byddai ei rewi mewn amser a'i wneud yn 'swyddogol' yn ei ddifetha, yn fy marn i. Mae yna le i gofebau ffurfiol, yn sicr, a dylid cael un i gofio Tryweryn, ond dylem hefyd gadw lle anrhydeddus i ymdrechion answyddogol, byrfyfyr, amrwd, ychydig bach yn rybish, ac (yn bwysicach oll) byw. Mae angen mwy o 'fandaleiddio' o'r math a gyflawnodd Meic Stephens a Rodric Evans yn y lle cyntaf.

Cŵyn arall ar adegau fel hyn yw mai symptom ydyw o ddiffyg ymwybyddiaeth o hanes Cymru. Efallai. Ond yn yr achos hwn, efallai mai'r gwrthwyneb sy'n wir, ac mai jôc wybodus yn cyfeirio at ddarn niche dros ben o hanes cenedlaetholdeb Cymreig oedd yr Elvis. Ar y llaw arall, hwyrach mai cyd-ddigwyddiad llwyr yw'r cysylltiad hwnnw ac mai rhyw dwpsyn di-glem oedd wrthi. Pwy a wyr?

Beth bynnag yw'r gwir, diolch i'r 'fandal' mae stori'r boddi'n cael sylw blaenllaw yn y newyddion eto fyth, gan ein helpu i sicrhau bod pawb yn dilyn yr union orchymyn o dan sylw: Cofiwch Dryweryn.

12/01/2019

Brexit a'r chwith

Dyma erthygl gennyf yn Nation Cymru ynghylch agwedd fwrdd-a-hi a pheryglus y chwith tuag at Brexit. Mae'r chwith yn gywir i fynnu bod y mudiad cenedlaethol yng Nghymru'n bod yn ofalus a manwl ynghylch ei chynlluniau, ond maent wedi bod yn rhyfeddol o ddi-hid am fater mwyaf argyfyngus ein hanes diweddar. Galwaf am gysondeb.

22/07/2018

Pwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol

Un o'r cwynion pennaf am Leanne Wood, sy'n wynebu her ffurfiol i'w harweinyddiaeth ar hyn o bryd, yw ei bod yn treulio gormod o amser yn hyrwyddo 'niche issues'. Hynny yw, materion cymdeithasol megis hawliau menywod a lleiafrifoedd ethnig a rhywiol. Efallai bod modd dadlau, ar sail pragmatiaeth, bod y diffyg sylw a roddir i Blaid Cymru ar lefel Brydeinig yn golygu bod angen dewis un neges graidd a hyrwyddo honno, ar draul popeth arall, bob cyfle. Ond yr awgrym yn y geiriau anffodus uchod yw nad yw cyfiawnder cymdeithasol yn bwysig mewn gwirionedd.

Y pwynt amlwg cyntaf i'w nodi yw bod llawer o elynion Plaid Cymru'n teimlo'n gryf bod yr iaith Gymraeg ymysg y pethau hynny nad ydynt yn bwysig. Ond beth yw hawliau ieithyddol y Cymry os nad mater o gyfiawnder cymdeithasol? Go brin bod yna lawer o aelodau Plaid Cymru sy'n teimlo mai 'niche issue' yw'r iaith Gymraeg, ond dyna ni. Mae hynny'n wahanol, am resymau dirgel.

Oes angen ennill annibyniaeth cyn gallu canolbwyntio ar sut le fydd y Gymru annibynnol honno?  Rwy'n gallu deall dyhead pobl i geisio apelio i bawb. Mae pob mudiad gwleidyddol yn awyddus i ddenu cymaint o bobl ag sy'n bosibl, wedi'r cyfan, a'r ddadl bragmataidd, fe honnir, yw bod angen i union wleidyddiaeth y Gymru rydd aros yn amwys nes iddi gael ei gwireddu. Ond pa mor ymarferol yw hynny mewn gwirionedd? Er mwyn i ddigon o bobl ddeisyfu Cymru annibynnol, mae angen cydio yn eu dychymyg, ac er mwyn gwneud hynny mae angen dangos, cyn dechrau, sut yn union fyddai pethau'n newid yn eu bwydau pob dydd. Mantais arall yw ei fod yn fodd o wrth-ddweud yr ystrydeb diog a syrffedus am genedlaetholwyr fel pobl gul ac adweithiol.

Mae'r ddadl ynghylch blaenoriaethu cyfiawnder cymdeithasol yn gyffredin iawn mewn amryw o fudiadau. Rwyf wedi trafod, hyd syrffed bron, sut y mae'r un ffrae yn union wedi hollti'r mudiad anffyddiaeth. Siom oedd gweld cynifer o anffyddwyr amlwg yn mynegi dirmyg tuag at y 'social justice warriors', gan fynnu mai'r cyfan yw anffyddiaeth yw 'diffyg ffydd mewn duw' a dim byd mwy. Ond os mai dyna'n unig yw anffyddiaeth, faint o bwynt sydd iddi? Nid yw'n gwneud synnwyr i wrthwynebu crefydd heb hefyd gywiro'r anghyfiawnderau a gafodd gymaint o gefnogaeth ganddi ar hyd y blynyddoedd.

Felly hefyd am Gymru annibynnol. Rhaid egluro'n union sut y bydd yn rhagori ar y Deyrnas Unedig a'i holl anghyfiawnderau hithau. Yn union fel nad oes modd gwahanu cyfiawnder cymdeithasol oddi wrth anffyddiaeth, rhaid iddo ddod law yn llaw â Chymru rydd yn ogystal.

30/01/2018

Y Cymry adweithiol

Oherwydd cyfuniad rhyfedd o amlygrwydd y mudiad #MeToo a gwleidyddiaeth fewnol Plaid Cymru, mae yna adwaith gwrth-ffeminyddol amlwg wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg a Chymreig dros yr wythnosau diwethaf. Mae hyn yn amlwg yn siomedig, ond ni ddylai fod yn syndod. Wedi'r cyfan, mae'n ddadl sydd i'w gweld ym mhobman (mae'r mudiad rhyngwladol sy'n hyrwyddo anffyddiaeth a seciwlariaeth eisoes wedi'i hollti'n chwyrn gan yr un ffrae, gan fy nadrithio innau), ac nid oes rheswm i Gymru fod yn wahanol.

Rydym eisoes wedi gweld arwyddion bod llawer o Gymry'n hiliol, neu'n camddeall beth yw hiliaeth. Mae'r un peth yn wir, fe ymddengys, am agweddau tuag at fenywod. Yn benodol, mae'n amlwg bod diffyg dealltwriaeth ynghylch beth yn union y mae ffeminyddion yn ei ddweud.

Cafwyd enghraifft syrffedus o hyn ar wefan Golwg 360 yn ddiweddar. Mae Dr Nia Edwards-Behi wedi ymateb gydag erthygl dda dros ben, ond mae'r sylwadau ar waelod honno gan ddarllenwyr y wefan, os rywbeth, hyd yn oed yn waeth na'r ysgrif wreiddiol ('Nia fach', wir).

Mae gwrthwynebwyr ffeminyddiaeth yn hoff iawn o adeiladu dynion gwellt. Yn hytrach na gwrando ar beth mae ffeminyddion yn ei ddweud, gwell ganddynt yw dychmygu fersiwn ffug o'u dadl ac ymosod ar honno yn lle. Dyna sy'n digwydd pan mae'r bobl yma'n cwyno bod ffeminyddion yn 'casáu dynion' ac am wahardd dynion rhag siarad â hwy'n gyfan gwbl. Mae dyhead ffeminyddion mewn gwirionedd yn syml, sef i ddynion roi'r gorau i aflonyddu arnynt. I bobl gall, mae'r ffin rhwng y derbyniol a'r amhriodol yn glir ac amlwg; os nad ydyw i chi, rwy'n pryderu am y menywod yn eich bywyd.

Y gri ddiflas a geir dro ar ôl tro gan y misogynistiaid yw bod ffeminyddion, a 'social justice warriors' eraill, yn 'blu eira'. Nid yw'r bobl sy'n defnyddio'r ymadrodd hwnnw'n tueddu i arddangos llawer o hunanymwybyddiaeth. Mae eu cyhuddiad bod ffeminyddion yn hysteraidd a gor-sensitif yn ymylu ar fod yn ddoniol; maent yn amlwg yn ddall i'w gor-ymateb gorffwyll eu hunain i gais hollol syml a synhwyrol. Syrffedus hefyd yw cwyn yr awdur gwreiddiol bod ymateb Nia Edwards-Behi yn peryglu ei ryddid mynegiant. Iddo ef, mae'n debyg mai ystyr rhyddid mynegiant yw'r hawl i rwystro pobl eraill rhag egluro ei fod yn anghywir.

Am ba bynnag reswm, mae yna flas misogynistaidd iawn i'r ysbryd gwrth-sefydliadol a populist sydd wedi cydio'n ddiweddar. Nid oes rheswm anochel bod raid i hynny fod yn wir, hyd y gwelaf i, ond fel hynny mae pethau wedi datblygu. Cyhuddir ffeminyddiaeth o fod yn safbwynt sefydliadol, er bod yr argraff hwnnw'n chwerthinllyd. A dweud y gwir, mae hynny'n adleisio problem Plaid Cymru, sydd rywsut wedi llwyddo i gael ei phortreadu fel plaid sefydliadol - argraff sy'n ei niweidio - heb ddod yn arbennig o agos at rym gwirioneddol. Mae'n amlwg bod rhywbeth od wedi digwydd pan mae pobl yn cyhuddo Leanne Wood, o bawb, o ymgorffori'r sefydliad (cofier bod y Blaid wedi colli dau aelod o'i grŵp dros y flwyddyn ddiwethaf am resymau sy'n gwrthddweud ei gilydd: un oherwydd bod y Blaid yn rhy sefydliadol, a'r llall am nad yw'n ddigon sefydliadol!).

Rwy'n credu mai hyllach aiff pethau. Yn wir, mae perygl gwirioneddol i fisogynistiaeth achosi hollt difrifol yn y mudiad cenedlaethol. Na, nid yw gwrthwynebu ffeminyddion o reidrwydd yn eich gosod ymhlith yr alt-right, ond mae'n ffaith mai misogynistiaeth yw'r gateway drug i'r mudiad hwnnw. Rwyf wedi rhybuddio'n ddiweddar bod elfennau o'r alt-right eisoes yn bodoli o fewn cenedlaetholdeb Cymreig, felly nid wyf yn arbennig o obeithiol am yr hyn sydd o'n blaenau. Eironi digalon gwrth-sefydliadaeth, y dyhead i roi 'cic' iddyn 'nhw', yw mai cicio grwpiau llai ffodus a wneir fel arfer yn y pen draw, nid y rhai sydd wir mewn grym.

19/12/2017

Lleiafrifoedd ethnig a'r Gymraeg

Mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn hiliol.

Ffaith syml ac anniddorol yw'r uchod. Ceir hilgwn ym mhob carfan o'r boblogaeth, felly byddai'n rhyfedd petai siaradwyr Cymraeg yn eithriad. Nid yw hynny'n reswm i'w anwybyddu, wrth reswm; mae'n hanfodol ein bod yn beirniadu hiliaeth gan Gymry pryd bynnag y daw i'r amlwg.

Mae dau reswm am hynny. Y pwysicaf a'r amlycaf yw bod hiliaeth yn ffiaidd. Yr ail yw oherwydd bod y ffaith mai lleiafrif yw Cymry Cymraeg yn golygu bod rhagfarn gan rai o'i siaradwyr yn cael ei defnyddio i bardduo'r iaith ei hun gan ei gelynion. Mae'r gwrth-Gymraeg yn awyddus i bortreadu'i siaradwyr fel hilgwn senoffobaidd, felly dylem osgoi rhoi'r cyfle iddynt.

Mae trafodaeth gwerth ei chael am berthynas y Gymraeg a phobl o leiafrifoedd ethnig. Os yw'r Gymraeg i ffynnu, mae rhaid iddi fod yn iaith amlddiwylliannol. Mae'n bwysig felly ein bod yn gwrando pan mae aelodau o leiafrifoedd ethnig yn sôn am eu profiadau â hi, hyd yn oed (na, yn enwedig) pan mae hynny'n ein gwneud yn anghyfforddus. Eto i gyd, teimladau cymysg a gefais wrth ddarllen yr erthygl hynod ddadleuol hon gan Oruj Defoite am ei phrofiadau yng Nglyn Ebwy. Rwyf wedi gwrthsefyll y demtasiwn i ymuno yn y pile-on ar Twitter, felly dyma geisio rhoi trefn ar fy meddyliau fan hyn.

Fel dyn gwyn sy'n siarad Cymraeg, mae profiad dynes di-Gymraeg â chroen tywyll yn estron i mi, ac o ganlyniad rwy'n anghyfforddus â'r syniad o ddiystyru disgrifiad Defoite o'i phrofiadau yn llwyr, fel petawn i'n gwybod yn well. Ond ni allaf helpu'r peth: mae sawl darn o'r erthygl yn codi ael. Dywed, er enghraifft, ei bod yn cael ei chwestiynu am ei sgiliau Cymraeg 'drwy'r amser'. Yng Nglyn Ebwy?! Mae'r erthygl yn amwys am y lleoliad yn hynny o beth, ond mae'n swnio'n rhyfedd i mi dim ots lle sydd o dan sylw. Pwy ddiawl yw'r bobl yma?

 ymlaen i ddweud mai'r un bobl sydd wedyn yn mynnu gwybod o ble y mae'n dod 'go iawn'. Yr awgrym plaen fan hyn yw mai siaradwyr Cymraeg sy'n gyfrifol am yr hiliaeth yn ei bywyd. Mae'r cyhuddiad yn un difrifol. Os yw'n wir, byddai mwy o fanylion am y bobl hyn yn ddefnyddiol dros ben, achos mae angen i ni'u rhoi yn eu lle.

Yn anffodus, nid yw'n helpu pethau trwy fynd ymlaen i ddweud bod cyhuddiad annifyr Aneurin Bevan bod Cymru'n cael ei rhedeg “by small pockets of Welsh-speaking, Welsh-writing zealots, with the vast majority of Welshmen denied participation in the government of their country” yn wir o hyd. Mae yna hen hanes fudr o bardduo lleiafrifoedd trwy awgrymu eu bod yn fwy grymus na'r gwirionedd, a'u bod yn camddefnyddio'r grym hwnnw er mwyn gwarchod eu buddiannau'u hunain, ac mae'n drist gweld aelod o leiafrif arall yn gwyntyllu'r myth.

Yn dilyn yr ymateb blin ar Twitter, cafwyd erthygl gan Abdul-Azim ar wefan yr IWA yn cefnogi Defoite. Dywed bod hiliaeth yr un mor gyffredin yng Nghymru ag yn Lloegr, sy'n deg ond amlwg. Pwysleisia'r pwynt trwy gyfeirio at bresenoldeb UKIP yn y Cynulliad a ralïau gan grwpiau neo-natsïaid. Wrth gwrs mae UKIP a mudiadau asgell-dde eithafol yn elyniaethus tuag at y Gymraeg hefyd, felly mae'n bod yn llithrig braidd fan hyn. Ond gwir asgwrn y gynnen yw'r paragraff anghynnes hwn:
Oruj is highlighting an experience, one which I think is increasingly common, of the Welsh language being used by some to further entrench a racial hierarchy in which black and minority ethnic people are at the bottom. Should this even be surprising, given the resurgence of far-right politics and white supremacism here and abroad?
Mae'r darllenwr cyffredin yn sicr o ddehongli'r datganiad yma trwy gasglu bod ymgyrchwyr iaith yn defnyddio'r Gymraeg yn bwrpasol fel arf hiliol. Mae'n ensyniad difrifol a hyll tu hwnt. A dweud y gwir, mae dweud y fath beth mewn ffordd mor ffwrdd-â-hi yn beryglus. Er fy awydd i roi gwrandawiad teg i'r erthygl, roedd y darn yma'n ddigon i beri mi golli pob cydymdeimlad â'r gweddill.

Fel y dywedais, mae'n hanfodol i'r iaith bod pobl o leiafrifoedd ethnig yn dod i'w siarad. O safbwynt hyrwyddo'r iaith, byddai gwrthod croeso iddynt yn gamgymeriad strategol hurt, heb sôn am fod yn ffiaidd. Fel y dywed Joao Morais ar Twitter, mae ymgyrchwyr iaith yn awyddus i bortreadu'r Gymraeg fel iaith gosmipolitanaidd. Os rywbeth, mae perygl i ni gynhyrfu gormod a thrin lleiafrifoedd ethnig Cymraeg eu hiaith fel novelty bendigedig. Dylai eu bodolaeth gael ei hystyried yn beth hollol normal.

Eto, nid gwadu yw hyn bod yna siaradwyr Cymraeg sydd, am ba bynnag reswm gwirion, am gadw'r iaith yn wyn. Nid oes gennyf reswm i dybio nad ydynt yn bodoli. Ond mae'r erthyglau hyn yn awgrymu bod yna broblem neilltuol ymysg Cymry Cymraeg, felly teg yw gofyn am fwy o fanylion i ddangos bod hynny'n wir. Mae'r erthyglau wedi bod yn fêl ar fysedd troliaid gwrth-Gymraeg y we, sy'n dangos pa mor anghyfrifol yw gwneud cyhuddiadau fel hyn heb dystiolaeth.

Mae'r ddwy erthygl yn mynegi pryderon bod y Gymraeg yn gallu bod yn 'exclusionary'. Ar un law, nid yw'r cyhuddiad yn gwneud llawer o synnwyr. Os nad ydych yn deall iaith, nid ydych yn mynd i allu deall y rhan fwyaf o'r pethau sy'n digwydd trwy gyfrwng yr iaith honno. Dyma natur ieithoedd gwahanol, ac nid oes llawer all unrhyw un ei wneud am y peth. Beth mae'n ei olygu i ddweud dylai iaith fod yn fwy 'inclusive'? Yr unig ystyr onest ac ystyrlon yw sicrhau bod pawb yn y wlad yn cael y cyfle i'w dysgu a'i defnyddio. Mae galw ymdrechion i hyrwyddo'r iaith ac annog ei defnydd yn 'exclusionary' yn ddryslyd tu hwnt; 'exclusionary' fyddai ceisio cadw'r Gymraeg yn glwb cyfrinachol cul. Dylent ddewis un cyhuddiad a bod yn gyson.

Ar y llaw arall, nid yw dysgu Cymraeg yn hawdd, ac mae'n amlwg yn anos byth i fewnfudwyr sy'n ansicr eu Saesneg. Teg hefyd yw'r pwynt bod dysgu iaith newydd yn llawer haws i bobl dosbarth canol, sy'n meddu ar fwy o amser ac adnoddau. Yr ateb, eto, yw croesawu pawb sydd am wneud defnydd o'r iaith a gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cynorthwyo. Yn y cyfamser, dylem gondemnio pob Cymro hiliol.

29/11/2017

Y dde eithafol a chenedlaetholdeb Cymreig

Mae gennyf erthygl yn Nation Cymru'n rhybuddio am lond dwrn o gyfrifon Twitter a thudalennau Facebook sy'n lledaenu delweddau yn enw cenedlaetholdeb Cymreig ond sy'n deillio o fudiad yr alt-right eithafol. Efallai mai naïfrwydd sydd i gyfrif mewn ambell achos yn hytrach nag eithafiaeth gwirioneddol, ond mae'n hanfodol bod cenedlaetholwyr Cymreig yn cadw'n glir o'r math yma o beth o gofio hanes hir eu gwrthwynebwyr o geisio'u pardduo â chyhuddiadau o ffasgaeth.

Nid yw'r cyfrifon hyn yn niferus o bell ffordd, ond maent yn bodoli ac mae rhai cenedlaetholwyr synhwyrol yn eu dilyn (efallai trwy ddamwain). Rhybudd yw'r erthygl i bobl fod yn wyliadwrus, rhag ofn iddi droi'n broblem sylweddol. Os nad ydych yn gyfarwydd â Pepe'r broga, gwyn eich byd. Ond os ydych yn gweld broga cartwn sinistr yr olwg mewn llun proffeil, cadw draw sydd gallaf.

04/09/2017

Camddeall hiliaeth

Os oedd y stori am fflôt hiliol Carnifal Aberaeron yn ddigon drwg, mae'r ymateb, yn enwedig ar Facebook, wedi bod yn waeth. 'Dim ond bach o hwyl' yw'r sylw mwyaf cyffredin, o beth y gwelaf i. Mae'n amlwg nad yw llawer o bobl, gan gynnwys nifer sy'n sgrechian 'hiliaeth!' bob tro mae rhywun yn gwneud sylw angharedig am Gymru neu ei hiaith, yn deall beth yw hiliaeth.

Mae'n debyg bod gormod o bobl yn credu mai ystyr hiliaeth yw casineb. Os nad ydych yn casáu pobl â chroen tywyll, na'n bwriadu'u pechu, mae'n amhosibl eich bod yn hiliol. Nid oes modd, felly, trwy ddiffiniad, i 'ddim ond bach o hwyl' fod yn hiliol.

A bod yn garedig, mae hynny'n hen-ffasiwn. Efallai ei bod yn wir bod hiliaeth amrwd ac ymosodol yn llai cyffredin heddiw nag yn y gorffennol (er bod Brexit a Trump yn bygwth dad-wneud y cynnydd hwnnw), ond nid dyna'r unig ffurf. Di-feddwl yn hytrach na bwriadol faleisus yw hiliaeth fodern, fel arfer.

Nid oes amwysedd am y fflôt: roedd yn hiliol. Fel y dywed Gary Raymond, mae blackface, yn gwbl ddi-eithriad, yn hiliol. Mae mor syml â hynny. A'r ateb i'r ddadl mai dim ond talu teyrnged i ffilm hoffus ac ysgafn oedd y fflôt yw bod Cool Runnings ei hun yn ffilm hiliol. Daeth y sylweddoliad hwnnw'n raddol iawn i mi, gan fod gennyf atgofion hapus o'i mwynhau'n fawr pan yn blentyn, ond mae'n chwerthinllyd o amlwg erbyn hyn.

Yr hyn sy'n arwain pob trafodaeth am stori'r fflôt ar gyfeiliorn yw'r syniad bod galw'r weithred yn hiliol gyfystyr â galw'r hogiau eu hunain yn hilgwn. Rwy'n siwr eu bod wedi dychryn, yn ddiffuant, â'r ymateb, ac nad oeddent wedi bwriadu unrhyw beth cas. Ond mae hynny'n hollol amherthnasol. Y weithred sy'n bwysig, ac roedd y weithred yn hiliol. Dyna ddechrau a diwedd y mater. Nid yw galw'r peth yn gamgymeriad naïf yn gwneud y weithred yn llai hiliol. Yn ddelfrydol, bydd y stori'n wers addysgol i ni gyd, ond yn anffodus nid yw'r ymateb wedi fy llenwi â hyder.

10/08/2017

Ynghylch gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth ein hunain drwy'r amser

Ymddengys bod siaradwyr Cymraeg o dan warchae braidd ar hyn o bryd. Efallai bod yr ymosodiadau'n teimlo'n fwy cyson nag yn y gorffennol oherwydd y cyfryngau cymdeithasol. Mae twpsod anwybodus bellach yn ysgrifennu cynnwys eu meddyliau ar y we yn hytrach na'u cadw'n breifat, ac mae'r un rhwydweithiau'n gweithio fel larwm i alw'r Cymry i'r gâd bob tro y gwelwn rywbeth sy'n ein tramgwyddo.

Ond mae'n bosibl hefyd bod yr ymosodiadau'n dwysáu. Yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol - mae Brexit yn symptom o greisis hunaniaeth yn Lloegr i raddau helaeth - gellir synhwyro bod drwgdybiaeth tuag at amrywiaethau mewnol yn y Deyrnas Gyfunol yn cynyddu. Beth bynnag sy'n mynd ymlaen, roedd caredigion y Gymraeg yn disgwyl y gwaethaf pan drydarodd y rhaglen Newsnight brynhawn ddoe am eu bwriad i gynnal trafodaeth am yr iaith. Os rywbeth, roedd yr eitem a ddarlledwyd hyd yn oed yn waeth na'r hyn a ddychmygwyd gan y pesimist mwyaf yn ein plith. Dau westai, dim un ohonynt yn siarad Cymraeg, ac un yn ffwl rhagfarnllyd di-nod a'i fryd ar efelychu Katie Hopkins. Efallai bod llawer o siaradwyr yr iaith yn brysur yn yr Eisteddfod ar hyn o bryd, ond roedd hyn yn hurt.

Dylem osgoi theorïau cynllwyn fan hyn. Nid arwydd o elyniaeth bwriadol gan gynhyrchwyr y rhaglen yw eitem fel hwn. Y gwir poenus yw nad ydym yn ddigon pwysig i haeddu hynny. Anwybodaeth lwyr sy'n gyfrifol. Roedd yn amlwg drwy gydol yr eitem nad oedd gan Evan Davis y syniad lleiaf am y pwnc; fe awgrymodd fwy nag unwaith mai hobi yw'r Gymraeg, yn hytrach na chyfrwng naturiol bywyd cannoedd o filoedd o drigolion y wladwriaeth. Mae'n ddealladwy bod newyddiarurwyr, cynhyrchwyr ac ymchwilwyr rhaglenni fel Newsnight yn anwybodus amdanom; Saeson yn byw yn Llundain ydynt, wedi'r cyfan. Nid yw'r iaith Gymraeg yn croesi'u meddyliau fel arfer. Rhaid dweud bod gweld rhaglen o'r fath yn gwneud smonach o bwnc cyfarwydd yn gwneud i mi amau'u hadroddiadau am faterion nad wyf yn gwybod cymaint amdanynt; nid wyf wedi gallu ymddiried yn The Economist yn yr un ffordd ers darllen y llanast llwyr hwn, chwaith.

Rwy'n teimlo'n eithaf diymadferth am hyn i gyd. Creu stwr a chodi ymwybyddiaeth yw'r unig ateb, am wn i. Mae gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth fel grwp cymdeithasol dro ar ôl tro yn waith digalon, ond mae'n debyg mai dyna'r unig ddewis. Nid oes unrhyw un arall yn mynd i roi chwarae teg i ni, felly mae fyny i ni ein hunain. Am resymau amlwg, dim ond siaradwyr Cymraeg sy'n deall yn iawn beth sy'n mynd ymlaen yn y byd Cymraeg. Dyna natur ieithoedd gwahanol. Nid ein bai ni yw hynny. Y cyfan allwn ni ei wneud yw esbonio. Trafodwch yr iaith Gymraeg yn Saesneg, a phopeth arall, yn naturiol, yn Gymraeg.

04/12/2016

Dyneiddiaeth

Lansiwyd Dyneiddwyr Cymru, cangen o'r Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain, wythnos diwethaf, ac i gyd-fynd cafwyd arolwg barn newydd sy'n dangos bod 51% o Gymry bellach yn ystyried eu hunain yn anghrefyddol. Bûm yn trafod y canlyniadau hynny, a dyneiddiaeth yn gyffredinol, ar Taro'r Post (dechrau ar ôl 25:45).

Mae'n bwysig cofio'r caveats arferol wrth ystyried arolygon barn am bwnc mor bersonol a goddrychol. Mae diffiniad pobl o grefydd yn amrywio, ac mae'n debygol bod llawer o'r bobl hynny sy'n ystyried eu hunain yn 'anghrefyddol' yn parhau i gredu mewn rhyw fath o dduw. Vice versa, fe ddichon bod llawer hefyd yn galw'u hunain yn Gristnogion am resymau diwylliannol, er mai'r unig adegau maent yn meddwl am y pwnc yw pan mae rhywun o YouGov yn gofyn y cwestiwn. Eto i gyd, rwy'n credu bod y patrwm dros amser yn amlwg: mae crefydd, ar y cyfan, yn dirywio. Parhau i ddirywio fydd ei thynged, hefyd, gan fod yr 'anghrefyddol' yn llawer iawn mwy niferus ymysg y to ifanc. Mae hyn i gyd yn newyddion da iawn, wrth gwrs.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng anffyddiaeth a dyneiddiaeth, felly? Yn bersonol, rwy'n cofleidio'r ddwy label, a buaswn yn hapus i wneud y ddwy gyfystyr â'i gilydd yn llwyr. Gwn fod ambell un yn gwrthwynebu hynny: mae rhai anffyddwyr yn mynnu mai'r cyfan yw anffyddiaeth yw 'diffyg cred mewn duw', ac nad oes ganddi unrhyw beth i'w ddweud am y byd y tu hwnt i hynny. Fel rwyf wedi'i grybwyll sawl tro ar y blog, rwy'n credu bod hynny'n hurt.

Mae elfen o wirionedd i'r caricature o anffyddwyr fel pobl hunan-fodlon sy'n mwynhau galw pobl grefyddol yn dwp ar y we. Rwyf wedi gwneud hynny fy hun, ac mae'n gallu bod yn llawer o hwyl. Ond rwy'n gyndyn bod angen i anffyddiaeth olygu mwy na hynny. Mae goblygiadau anferthol i absenoldeb duw, a dylem eu hwynebu. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl i wrthwynebu crefydd heb wrthwynebu'r rhagfarnau hynny mae crefydd wedi gwneud cymaint i'w hyrwyddo. O'r herwydd, nid wyf yn gallu gwahanu gwerthoedd positif fel cydraddoldeb a hawliau sifil oddi wrth anffyddiaeth ei hun. Dyneiddiaeth yw'r label traddodiadol ar gyfer y casgliad hwnnw o werthoedd positif, ond dylai anffyddiaeth olygu'r un peth yn union yn fy marn i. Ysywaeth, mae'r ffaith i'r ymadrodd 'atheism plus' gael ei fathu rai blynyddoedd yn ôl i ddisgrifio'r fersiwn o anffyddiaeth rwy'n ei disgrifio fan hyn yn awgrymu ein bod wedi colli'r ddadl.

Mae'r anghrefyddol yn cofleidio nifer o labelau gwahanol: anffyddwyr, dyneiddwyr, freethinkers neu rationalists. I mi, maent i gyd yn gyfystyr, a llai dryslyd fyddai i ni gyd ddewis un. Fel yr awgrymais, buaswn i'n ffafrio 'anffyddiaeth' i gwmpasu'r cyfan. Eto i gyd, ac er nad yw anffyddiaeth geidwadol yn gwneud synnwyr fel cysyniad, rwy'n cydnabod bod pobl yn bodoli sy'n gwrthod bodolaeth duw ond sydd, am ba bynnag reswm, yn parhau i wrthwynebu syniadau fel ffeminyddiaeth. Petai rhaid i mi ddewis, byddai'n well gennyf Gristion blaengar ei gwleidyddiaeth nag 'anffyddiwr' fel yna sy'n gwadu bodolaeth duw heb wrthod y rhagfarn (er bod rhesymeg y ddau yr un mor od i mi). Mae cydraddoldeb a hawliau sifil yn bwysicach na labelau, ac, yn wir, yn bwysicach na materion diwinyddol.

01/11/2016

Polio rhagfarn

Roedd yn ddigalon darllen canlyniadau'r arolwg yma ynghylch agweddau pobl Cymru tuag at ddeg o wahanol grwpiau ymysg y boblogaeth. Mae'n wir bod y canlyniadau'n well nag yr oeddent y tro diwethaf i'r cwestiynau gael eu holi yn 2011, ond mae 33% dal i ddweud yn blaen bod ganddynt agweddau anffafriol tuag at bobl sy'n ffoi rhag rhyfel, a 28% yn dweud yr un peth am fwslemiaid. Yn wir, mae 12% yn rhoi'r ateb lleiaf ffafriol posibl yn achos ceiswyr lloches, sy'n frawychus. 10% sy'n gwneud hynny ar gyfer mwslemiaid.

Efallai bod gwendid yng ngeiriad y cwestiwn, sef “[U]sing a scale from 0 to 10, where 0 means very unfavourable and 10 means very favourable, how do you feel about…” Rwy'n credu bod yma amwysedd. Petawn i, fel anffyddiwr rhonc, yn gorfod ateb y cwestiwn yma am fwslemiaid, ni fyddai'n rhwydd gwneud hynny o'i ddarllen yn llythrennol. Wedi'r cyfan, yr hyn sydd gan fwslemiaid yn gyffredin yw eu ffydd yn islam, a fy marn onest yw bod islam yn grefydd hollol hurt. Os oes gennyf agwedd mor negyddol tuag at yr hyn sy'n diffinio'r grŵp yma o bobl, oni ddylwn adlewyrchu hynny yn yr ateb?

Ond er fy nirmyg tuag at athrawiaethau islam, rwy'n hollol daer fy ngwrthwynebiad i ragfarn yn erbyn pobl sy'n arddel y ffydd. Mae'n amlwg yn hanfodol bod eu hawliau sifil yn cael eu parchu, a'u bod yn derbyn yr un croeso yn ein cymunedau ag unrhyw berson arall. Wrth ateb y cwestiwn, felly, buaswn yn gorfod defnyddio mymryn o synnwyr cyffredin. Byddai'n amlwg mai mesur rhagfarn yw nod yr arolwg, ac o ddeall hynny buaswn yn ateb 10 heb feddwl dwywaith. Nid oes lle i nuance fan hyn; mae'n debygol iawn mai rhagfarn islamoffobig sy'n ysgogi'r rhan fwyaf o bobl sy'n rhoi ateb anffafriol i'r cwestiwn hwn, a byddai unrhyw hollti blew am y geiriad yn cael ei gynnwys yn yr un blwch â'r casineb hwnnw.

Mae geirio cwestiynau fel hyn yn hynod anodd, wrth gwrs, ac mae angen bod yn gryno. Byddai perygl i unrhyw gwestiwn sy'n osgoi'r amwysedd uchod droi'n draethawd ynddo'i hun, a chanlyniad hynny fyddai anfon yr atebwyr i gysgu.

Byddai'n ddiddorol cynnwys Cristnogion ac anffyddwyr yn yr arolwg hefyd, gyda llaw, er y byddai'r un amwysedd yn bodoli yn yr achosion hynny hefyd.

04/06/2016

Y broblem gyda Duw Yw'r Broblem

Mae Duw Yw'r Broblem yn gyfrol od. Yn anffodus, roedd f'argraffiadau ar ôl ei gorffen yn debyg iawn i'r hyn a ddywedais yn y blogiad blaenorol, pan yr oeddwn chwarter ffordd drwodd.  Roeddwn yn cydweld yn llawen â rhesymau'r awduron dros ymwrthod â'r cysyniadau traddodiadol o dduw, ac os rywbeth mae Cynog Dafis yn mynd ymhellach o lawer nag yr oeddwn wedi'i ddisgwyl. Eto i gyd (er nad yw hyn yn syndod, efallai) nid yw'r ymgais i esbonio pam eu bod yn parhau i alw'u hunain yn Gristnogion yn foddhaol o gwbl.

Rhagymadrodd gweddol fyr yw cyfraniad Aled Jones Williams, a'i brif neges yw ei fod yn ystyried 'Duw' yn ferf yn hytrach nag fel enw neu wrthrych. Rwy'n canfod fy hun yn cytuno ag adolygiad y Parchedig Gwynn ap Gwilym (o bawb) yn y rhifyn cyfredol o Barn, lle mae'n galw hyn yn 'gawl eildwym o hen syniadau'. Yn fy marn i, fflwff ffug-ddwys yw'r rhan yma (er fy mod yn hynod hoff o nofelau'r awdur).

Cyfraniad Cynog Dafis yw mwyafrif helaeth y llyfr, ac mae llawer ohono'n ddiddorol. Dro ar ôl tro, wrth i Dafis gyflwyno syniadau diwinyddion fel John Houghton neu Richard Swinburne neu Dewi Z Phillips, roeddwn yn pigo'r tyllau yn y dadleuon wrth ddarllen, eisoes yn hanner-llunio fy mlogiad nesaf yn fy mhen (mae dadleuon Swinburne yn enwedig yn hollol frawychus). Yna, o droi'r dudalen, dyna ganfod bod Dafis ei hun yn mynd yn ei flaen i egluro'r union wallau hynny, gan wneud fy ngwaith drostof. Roeddwn yn cytuno ag ef yn amlach na pheidio, ac roeddwn hyd yn oed yn lled fodlon â'i ymdriniaeth â'r 'anffyddwyr newydd', er fy mod wrth reswm yn anghytuno mewn rhai mannau.

Erbyn i'r gyfrol dynnu at ei therfyn, mae crefydd a Christnogaeth wedi'u datgymalu'n ddigon trylwyr. Yn wir, buaswn yn hapus iawn i fod wedi ysgrifennu'r geiriau canlynol fy hun:
Yr hyn a agorai'r drws i drafodaeth eglur fyddai cydnabod, yn blwmp ac yn blaen, nad oes unrhyw reswm i gredu bod y fath beth yn bod â'r Goruwchnaturiol, mai ffrwyth y dychymyg creadigol yw crefydd ac mai creadigaeth Dyn yw Duw. (t. 163)
Rhwystredigaeth felly oedd darllen y paragraff dilynol:
Nid amharchu'r syniad, fel y mae'r 'atheistiaid newydd' yn ei wneud, fyddai hynny. Duw yw un o greadigaethau gwychaf diwylliant dyn, arwydd o aruthredd ei gyrhaeddiad, nid o'i anaeddfedrwydd a'i gamddealltwriaeth. Bydd parchu, rhyfeddu at a myfyrio ar blygion anchwiliadwy y cysyniad gogoneddus yma ar gael i ni o hyd i gyfoethogi defod a defosiwn. Mi allwn ddal i ymateb i odidowgrwydd salmau'r Iddewon gynt. Mi allwn gael ein hysbrydoli eto gan emynyddiaeth y traddodiad efengylaidd Cymraeg. Mi allwn yn wir anghofio'n hanghrediniaeth, ei ohirio'n wirfoddol, dros dro. Ond rhan annatod o fod yn driw i ysbryd ein hoes ni, parhad o Oes y Goleuo, fydd ein hatgoffa ni'n hunain yn gyson mai dyna'n union yr ydyn ni'n ei wneud' (t.163-4)
Mor agos!

Nid wyf yn siwr pam mae Dafis yn credu bod arddel anffyddiaeth yn golygu nad oes modd gwerthfawrogi rhannau o'r Beibl fel llenyddiaeth, neu emynau fel darnau o gelfyddyd. Mae Dawkins ei hun wedi dweud droeon ei fod yn hoffi canu emynau, a (cadwch hyn yn dawel) mae gen innau hefyd ambell ffefryn. Nid oes angen anghofio'n hanghrediniaeth am eiliad er mwyn gwneud hynny, ac mae'r awgrym i'r gwrthwyneb yn rhyfedd.

Mae'n drawiadol nad oes ymdrech i gyfiawnhau'r honiad mai Duw yw un o 'greadigaethau gwychaf diwylliant dyn', yn enwedig gan fod Dafis ei hun newydd dreulio 130 tudalen yn esbonio pam nad yw'r syniad yn gwneud synnwyr o gwbl. Ceisio'i chael hi'r ddwy ffordd yw hyn, rwy'n amau. Dywed ei fod yn arddel rhyw fath o ddyneiddiaeth grefyddol, gyda 'lle allweddol' i'r 'mythos Cristnogol' (t.169), ond unwaith eto dyma ganfod fy hun yn dyfynnu beirniadaeth Gwynn ap Gwilym: 'Anwybyddir y cwestiynau sy'n codi wedyn, sef os nad yw Iesu'n Dduw, pa awdurdod sydd i'w ddysgeidiaeth mwy nag i ddysgeidiaeth unrhyw fod meidrol arall? Ac o'i amddifadu o wyrth ei ymgnawdoliad, ac yn arbennig ei atgyfodiad, pa ystyr sydd i'w farwolaeth ar y groes?' Yr elfennau hynny yw holl sail y 'mythos Cristnogol'; hebddynt, rhaid i'r gweddill i gyd syrthio.

Os yw popeth am grefydd yn gelwydd, beth yw pwrpas glynu ati? Mae Dafis yn 'gweld cysyniad y dwyfol nid yn unig fel rhan o ymdrech dyn i ddod o hyd i gysur ac ystyr ond hefyd fel ffordd iddo ymgyrraedd at ymwybod a safonau uwch, i drosgynnu cyfyngiadau ei natur e ei hun' (t.167). A dyna'n amlwg lle mae'n fy ngholli'n llwyr. Rwy'n anghytuno bod crefydd yn cynnig cysur beth bynnag, hyd yn oed ar ei thelerau ei hun. Ond gan fod Dafis yn cytuno nad yw crefydd yn adlewyrchu realiti, o ble yn y byd y daw'r cysur yma (heb sôn am yr 'ystyr'!)? Mae'r cysur yn ddibynnol ar wirionedd yr athrawiaeth. Os yw'r athrawiaeth yn anghywir, nid oes sail i'r cysur chwaith. Mae hyn yn chwerthinllyd o amlwg. Ymddengys mai agwedd Dafis fan hyn yw beth y geilw Daniel Dennett yn 'belief in belief': y syniad bod crefydd yn 'beth da', gan fod ei hangen ar bobl eraill, hyd yn oed os nad yw'n gallu iselhau ei hun i gredu'r stwff ei hun. Mae'n agwedd eithaf nawddoglyd, a bod yn onest.

Yn union fel nad oes angen crefydd er mwyn teimlo rhyfeddod, neu gariad, neu garedigrwydd, nid oes ei hangen er mwyn 'ymgyrraedd at safonau uwch' chwaith. Rwy'n benderfynol o chwalu'r syniad anghynnes bod gan grefydd fonopoli ar y pethau hyn. Ar ôl mynd i'r drafferth o chwalu'r pileri sy'n cadw crefydd i fyny, mae'n rhwystredig bod Dafis yn mynnu ceisio gosod y piler ffug hwn yn eu lle. Dyma sy'n difetha'i thesis yn llwyr. Mae'n debyg mai rhesymau emosiynol sy'n gyfrifol am ei gyndynrwydd i gymryd y cam olaf amlwg a chofleidio anffyddiaeth, ac mae hynny'n biti.

29/10/2015

Cynnydd anferth yn nifer y di-grefydd yng Nghymru

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi dadansoddiad o sefyllfa crefydd yng Nghymru yn ôl y cyfrifiad diwethaf, ac maent yn ddiddorol tu hwnt (yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd, yn anffodus).

Rwy'n hapus iawn i weld bod y nifer sy'n dweud nad ydynt yn grefyddol wedi dyblu, bron, o 500,000 (18.5% o'r boblogaeth) yn 2001 i 980,000 (32.1%). Yn y cyfamser, mae'r nifer o Gristnogion wedi gostwng o 2.1m (71.9%) i 1.8m (57.6%), a hynny er bod poblogaeth Cymru 160,000 yn fwy yn 2011 nag yn 2001. Mae hyn, wrth reswm, yn codi calon anffyddiwr rhonc fel fi.

Dylid cofio'r cafeatau arferol, serch hynny, gan fod diffiniadau pobl o grefydd yn amrywio. Nid yw'n dilyn, o reidrwydd, bod person 'di-grefydd' yn anffyddiwr. Mae llawer yn ymwrthod â'r label crefydd ond yn galw'u hunain yn 'ysbrydol' (safbwynt sy'n mynd ar fy nerfau, ond mater arall yw hynny). Mae sawl ffordd amgen o fod yn ddi-grefydd hefyd. Fel mae'r adroddiad yn ei ddweud, mae'r 32.1% yma'n cynnwys 'No religion, Jedi Knight, Agnostic, Atheist, Humanist, Heavy Metal, Free Thinker, Realist'.

Ar yr un pryd, fe ddichon bod llawer o bobl sy'n ticio'r blwch 'Cristnogaeth' (neu un o'r crefyddau eraill) yn gwneud hynny am resymau diwylliannol a thraddodiadol; nid ydynt yn arfer y ffydd yn eu bywydau pob dydd, ac nid ydynt yn meddwl rhyw lawer am y mater, ond maent yn parhau i dderbyn y label os yw rhywun yn gofyn.

Nid gwyddoniaeth bur yw holiaduron, felly. Ond dyma'r wybodaeth orau sydd gennym, ac maent yn galonogol. Er bod arolygon gwahanol ynghylch crefydd yn rhoi canlyniadau amrywiol, yn ddibynnol ar eiriad y cwestiynau, mae'r duedd gyffredinol yn amlwg. Edwino y mae crefydd, ac mae 'dim crefydd' - ac anffyddiaeth, fel is-set o'r categori hwnnw - yn mynd o nerth i nerth. Gan fod Cristnogion, y garfan grefyddol fwyaf, yn hŷn, a'r di-grefydd yn ifanc, mae'n anochel y bydd y patrwm yma'n parhau am flynyddoedd i ddod (mae'n wir bod Mwslemiaid yn iau eto, ond mae llawer llai ohonynt). Rwy'n disgwyl y bydd mwyafrif o bobl Cymru'n ddi-grefydd o fewn cenhedlaeth, ac rwy'n falch dros ben am hynny.

11/10/2015

Canlyniadau peryglus amharodrwydd y chwith i feirniadu islam

Mae'n debyg bod grŵp o'r enw 'Infidels of North Wales' yn bwriadu cynnal rali yn Llangefni ymhen mis. Fel inffidel balch o ogledd Cymru, dylai'r enw fod yn atyniadol i mi. Yn anffodus, buan iawn y daw i'r amlwg mai ffasgiaid hiliol 'Britain First'-aidd asgell dde ydynt. Mae ganddynt obsesiwn ynghylch mewnfudo, ond dim ond, fe ymddengys, yn achos mwslemiaid, er mai canran fechan iawn o fewnfudwyr mwslemaidd sy'n dewis ymgartrefu yng ngogledd Cymru. Saeson gwyn yw'r mwyafrif anferth o fewnfudwyr i'r rhan yma o'r byd, ond ymddengys nad ydynt hwy'n cyfrif yn ôl y bobl yma. Afraid dweud nad oes gair o Gymraeg ar eu tudalen, ond efallai bod hynny'n beth da yn yr achos hwn, gan eu bod yn bobl ffiaidd. Rwy'n flin bod grŵp fel hyn yn ceisio rhoi'r argraff eu bod yn fy nghynrychioli mewn unrhyw ffordd.

Mae'n amlygu problem yn ein hymateb i islam, serch hynny. Rwyf wedi trafod amharodrwydd y chwith i feirniadu islam hyd syrffed. Heb ail-adrodd fy hun eto, mae problemau enfawr gydag islam, ac mae pethau ofnadwy yn cael eu cyfiawnhau yn enw'r ffydd honno. Dylid beirniadu'r grefydd o safbwynt rhyddfrydol asgell chwith, ond mae tuedd i osgoi gwneud hynny oherwydd pryderon bod hynny'n hiliol. Y broblem yw bod ein cyndynrwydd i feirniadu'r ffydd yn gall a phwyllog yn creu gwacter sy'n cael eu lenwi gan ffyliaid paranoid ffasgaidd fel y grŵp uchod. Os mai prif wrthwynebwyr islam yw hilgwn fel hyn, sy'n blaenoriaethu rhagfarn ar draul dadleuon synhwyrol, byddai hynny'n drychinebus a pheryglus. Mae mawr angen beirniadu islam, ac mae'n bwysig mai ni sy'n gwneud hynny amlycaf, yn hytrach na nhw.

02/08/2015

Cwyno i'r heddlu am ddarn o ffuglen

Ymddengys bod rhyw berson od yn rhywle wedi anfon 'gwaith' gwirioneddol anghynnes at gystadleuaeth Gwobr Daniel Owen eleni. 'Nid nofel oedd hi, ond cyfres o ddisgrifiadau graffig o blant yn cael eu treisio' yn ôl Dewi Prysor, un o'r beirniaid.

Yn anffodus, ymateb yr Eisteddfod oedd anfon y stwff at yr heddlu, ynghyd â manylion yr awdur. Sinigaidd fyddai nodi'r ffaith i hyn i gyd ddigwydd ym mis Mawrth ond bod y 'newyddion' wedi torri ddiwrnod cyn i'r brifwyl ddechrau, wrth gwrs. Beth bynnag am hynny, rwy'n gyndyn o'r farn na ddylai hyn fod yn fater i'r heddlu o gwbl. Roeddwn yn credu hynny cyn i natur y cynnwys ddod i'r amlwg, ac rwy'n credu hynny o hyd.

Fel mater o egwyddor pendant, rwy'n chwyrn yn erbyn y syniad o anghyfreithloni geiriau ar bapur, oni bai eu bod yn enllibus neu'n bygwth rhywun yn uniongyrchol. Yn sicr, ni allaf feddwl am senario lle byddai'n briodol galw'r heddlu oherwydd darn o ffuglen. Beth bynnag, nid yw'n eglur i mi beth yn union y mae disgwyl i'r heddlu ei wneud yn ymarferol am y peth.

Y ddadl yw bod pryder am y posibilrwydd bod yr awdur yn bwriadu gwireddu'r hyn a ddisgrifia, a bod y disgrifiadau hynny'n neilltuol o ffiaidd. Ond mae pob math o lyfrau - clasuron enwog yn eu plith - yn cynnwys golygfeydd pur 'anweddus'. Mae nofelau Raymond Chandler neu Agatha Christie, er enghraifft, yn llawn llofruddiaethau, ond nid oedd unrhyw un yn credu bod hynny'n reswm i boeni am gymhellion yr awduron. Rwy'n berchen ar gopïau o Naked Lunch gan William S Burroughs a Trout Fishing In America gan Richard Brautigan, dwy nofel sy'n cynnwys disgrifiadau o weithredoedd pedoffeilaidd. Ystyrir y ddwy'n gyfrolau arwyddocaol (fymryn yn ormodol felly yn fy marn i, yn enwedig Naked Lunch), er eu bod yn cynnwys darnau gwirioneddol fochedd. Ystyrier Lolita hefyd fel enghraifft arall.

A dweud y gwir, byddai 'pryderon' yr Eisteddfod yn swnio'n fwy didwyll pe na baent wedi denu'r holl sylw yma at yr hyn a ddigwyddodd. Canlyniad yr holl gyhoeddusrwydd yw bod gan lawer o bobl - a minnau yn eu plith - awydd darllen y deunydd anweddus dirgel yma, er chwilfrydedd pur. Ni fyddem wedi cael gwybod am ei fodolaeth yn y lle cyntaf petai'r Eisteddfod o ddifrif am eu gofidion bod rhywbeth sinistr ar droed. Mae'n bosibl iawn mai creu braw ymysg y 'sefydliad' fel hyn oedd union obaith yr awdur, trwy fod yn edgy a gwasgu'r botymau 'anghywir' i gyd. Dyna, i bob pwrpas, oedd nod Burroughs yn Naked Lunch, a gyhoeddwyd ym 1959. Y jôc yn achos y gyfrol honno yw mai f'ymateb pennaf wrth ei darllen am y tro cyntaf yn lled ddiweddar oedd bod rhywbeth eithaf hen-ffasiwn - quaint, bron - am yr ysfa yna i ddychryn er mwyn dychryn.

Yn rhwystredig ddigon, yn rhy aml mae amddiffyn yr hawl i ysgrifennu rhywbeth yn cael ei ddehongli fel amddiffyniad o safon y gwaith. Rwy'n hollol chwyrn o blaid yr hawl i ysgrifennu stwff fel hyn, dim ots pa mor wachul neu arswydus ydyw. Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu'r hawl i fynnu bod rhywun arall yn ei gyhoeddi, heb sôn am ei wobrwyo. Y gwir yw ei bod yn swnio fel bod yr hyn a ysgrifennodd yr awdur anhysbys yma'n ofnadwy ym mhob ystyr y gair. Ond yr ateb syml i hynny oedd i beidio rhoi gwobr Daniel Owen iddo, a hynny'n dawel bach. Gwaherdder yr awdur rhag cystadlu eto, ar bob cyfrif (mae'n debyg iddo wneud rhywbeth tebyg yn 2007 hefyd). Ond dyna ddylai fod ei diwedd hi.

06/07/2015

Cymru: Dal I Gredu?

Roedd cyfres o dair rhaglen, Cymru: Dal I Gredu, yn gorffen ar S4C heno. Roeddwn i'n ymddangos yn y rhaglen olaf (28 munud i mewn, ond wrth gwrs dylech wylio'r rhaglen gyfan, a'r ddwy flaenorol hefyd).

Cyn-efengylwr yw Gwion Hallam, y cyflwynydd, sydd bellach wedi colli'i ffydd ond sy'n petruso o hyd ynghylch galw'i hun yn 'anffyddiwr'. Mae'r gyfres yn ei ddilyn wrth iddo deithio'r wlad yn cwrdd â phobl o bob ffydd, a heb ffydd, er mwyn gweld beth yw cyflwr crefydd yng Nghymru heddiw. Mae'n werth ei gwylio.

Nid wyf yn siwr pa mor llwyddiannus oeddwn i wrth geisio'i ddarbwyllo i gofleidio'r label. Yn ôl pob tebyg, mae ein safbwyntiau diwinyddol (neu, yn hytrach, eu habsenoldeb) yn bur debyg, felly mater semantig yw hyn mewn ffordd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig bod anffyddwyr yn defnyddio'r gair hwnnw er mwyn disgrifio'u hunain, hyd yn oed os nad yw o reidrwydd yn ddyletswydd ar bob un ohonom i ddadlau'n gyhoeddus am y pwnc. Anffyddiwr fel fi yw Gwion yn barod i bob pwrpas; waeth iddo ymfalchïo yn hynny, ddim!

22/03/2015

Hunangofiant John Davies

Profiad digon pruddglwyfus oedd darllen hunangofiant John Davies yn ddiweddar, ac yntau wedi marw'n fuan ar ôl ei gyhoeddi. Dywed tua diwedd y gyfrol ei fod yn disgwyl byw am ryw saith blynedd arall, ac roedd yn bwriadu gwneud defnydd o'r amser hwnnw hefyd, er enghraifft i deithio ymhellach (roedd eisoes wedi gweld cryn dipyn o'r byd).

Mae'n lyfr hoffus dros ben, fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan ddyn mor annwyl, a cheir sawl anecdôt difyr wrth fynd heibio. Chwarddais yn uchel am y stori amdano'n cwrdd â Gore Vidal yn yr Eidal, er enghraifft.

Os oes gennyf gŵyn, mae'r hunangofiant yn rhy fyr. Diau mai fi sy'n farus, yn enwedig o sylweddoli'n drist mai dyma'r peth olaf un a gawn gan yr awdur. Ond roedd sawl man lle roeddwn yn awchus i glywed mwy. Er enghraifft, er fy mod yn deall mai anffyddiwr ydoedd, nid oeddwn yn sylweddoli cyn darllen pa mor chwyrn yn union oedd ei atgasedd at grefydd. Ceir ambell awgrym ei fod yn chwerwach na mi, hyd yn oed. Fe ddichon bod hynny'n rhannol oherwydd yr ohebiaeth hyll a dderbyniodd gan rai efengylwyr ar ôl datgan ei ddeurywioldeb yn nhudalennau Barn. Byddai wedi bod yn dda cael gwybod mwy o fanylion, ond dim ond megis cyffwrdd â hyn a wna'r gyfrol.

Defnyddir y gair 'gogleisiol' yn aml yn y llyfr, ac mae'n air addas i ddisgrifio'r gyfrol ei hun hefyd. Mae'n bleser i'w ddarllen, ac mae'r golled yn aruthrol.

25/02/2015

Lol anwyddonol 'DNA Cymru'

Gwych yw gweld blog newydd Cymraeg am 'wyddoniaeth, technoleg, tystiolaeth a’r cyfryngau': Syndod. Mae'r blogiad cyntaf yn rhagorol: 'Profion llinach genetig, DNA Cymru ac S4C'.

Gwerthusiad damniol ydyw o raglen fydd yn dechrau ar ein sianel genedlaethol ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Bwriad y rhaglen yw ateb y cwestiwn 'pwy yw'r Cymry?' trwy olrain llinallau genetig unigolion. Ond mae hynny'n amhosibl ac anystyrlon. Nid oes modd darllen DNA person penodol fel rhyw fath o fap. Mae S4C wedi cynhyrfu'n lân am rwtsh siwdowyddonol. Mae'n rhaid eu bod yn deall hynny'n dawel bach, ond ni welwch unrhyw arwydd o sceptigiaeth yn y deunydd hyrwyddo. Nid oes rheswm i beidio disgwyl i'r rhaglen ei hun fod yr un mor grediniol chwaith.

Rhag ofn eich bod yn credu bod hyn yn hallt, ystyrier y ffaith nad yw Alistair Moffat, y dyn sy'n bennaf gyfrifol am hyn i gyd, yn wyddonydd o fath yn y byd. Yn hytrach, mae'n berchen ar fusnes sy'n elwa trwy werthu 'profion' genetig. Mae S4C wedi cytuno'n llon a digywilydd i hyrwyddo propaganda masnachol ar ran quack llwyr sy'n debygol o wneud ffortiwn o'r fath sylw. Cyd-ddigwyddiad, rwy'n siwr, yw'r ffaith bod Moffat a phennaeth y sianel yn hen ffrindiau.

Darllenwch y cwbl, a rhannwch. Mae'n bwysig ein bod fel Cymry yn beirniadu'r nonsens yma'n chwyrn, rhag iddo ategu'r ystrydeb amdanom fel cenedl sy'n obsesiynu ynghylch ein hynafiaid a syniadau dwl am waed a rhyw fath o burdeb Celtaidd.

15/02/2015

Bwrw Golwg

Roeddwn ar Bwrw Golwg y bore 'ma (10:20 i mewn), yn trafod anffyddiaeth a'r blog. Y rheswm oedd canlyniadau arolwg a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnos: mae'n debyg bod 42% o bobl y Deyrnas Gyfunol bellach yn dweud nad ydynt yn grefyddol, a bod 19% hyd yn oed yn cofleidio'r label 'anffyddiwr'. Mae'r ffigurau hyd yn oed yn uwch ar gyfer y genhedlaeth iau. Calonogol iawn, wrth gwrs.

Roeddwn yn hapus â'r sgwrs ar y cyfan, er fy mod yn gwybod yn iawn sut y gallaswn fod wedi gwella rhai o'r atebion. Yn arbennig, rwyf wedi bod yn gwingo, bron yn barhaus, ers i'r gair 'gwrywgydiaeth' lithro allan o'm ceg wrth recordio'r eitem. Mae'n air gwirion, ac nid oes gennyf syniad pam y'i dywedais. Fel un sydd wedi dweud droeon bod angen i bawb roi'r gorau i'w ddefnyddio, mae'n destun embaras. Buaswn yn pledio nerfusrwydd, ond mae'n esgus dila braidd. Ymddiheuriadau i bawb arall sy'n casáu'r gair.

Gwn mai'r ateb gwanaf oedd i'r cwestiwn ynghylch Cristnogion sy'n cael eu hysbrydoli gan eu ffydd i arddel safbwyntiau digon blaengar. Mae'n amlwg bod hynny'n wir am lawer iawn o Gristnogion, fel y cydnabyddais. Ond byddai ymateb gwell wedi mynd ati i egluro mai problem crefydd fan hyn yw ei bod fel canfas gwag i raddau helaeth. F'argraff i yw y byddai Cristnogion blaengar yn arddel y safbwyntiau rhyddfrydol hynny beth bynnag, ffydd neu beidio. Cyfiawnhad post hoc yw'r ddiwinyddiaeth. Rwyf wedi cyffwrdd ar y pwnc hwn mewn cofnod blaenorol hefyd.

Dywedodd y Parchedig Pryderi Llwyd Jones rai pethau digon clên am y blog yn ei sgwrs ddilynol yntau, chwarae teg. Wrth gwrs, nid yw mor hoff o'm defnydd o ymadroddion fel 'ofergoeliaeth afresymegol' a 'fflwff diwinyddol ffug-ddwys'. F'amddiffyniad i yw fy mod yn ceisio egluro'n gymharol drylwyr pam fy mod yn credu bod y rhain yn ddisgrifiadau teg. Nid cyhuddiadau ffwrdd-a-hi mohonynt. Gwn nad yw eu defnyddio'n debygol iawn o arwain at berswadio Cristnogion bod eu fydd yn seiliedig ar gelwydd, ond, wel, mae hynny'n annhebygol iawn o ddigwydd doed a ddelo. Os oes gennyf obaith o ddenu unrhyw un i'r gorlan hon, yna pobl sydd ar hyn o bryd ar y ffens yw'r rheiny. Ond yn anad dim, mae'r disgrifiadau'n adlewyrchu fy marn, felly byddai'n anonest i mi'u hosgoi.

06/02/2015

Taro'r Post: cau ac addasu capeli

Roeddwn ar raglen Taro'r Post heddiw yn trafod cau capeli a'u haddasu er dibenion amgen. Dyna oedd pwnc y rhaglen gyfan heddiw, ac mae fy nghyfraniad i'n dechrau ar ôl tua 31:20 (ar gael am 29 diwrnod).

Mae capeli chwarter gwag a dirywiad Cristnogaeth yn codi calon anffyddiwr rhonc fel fi, wrth gwrs, ond rwy'n gobeithio fy mod wedi dangos nad yw anffyddwyr yn dymuno'u dymchwel i gyd, chwaith. Er gwell neu er gwaeth, maent yn ran o'n hanes, ac nis gwn am unrhyw anffyddwyr sy'n dymuno dinistrio pob arwydd o'r dreftadaeth honno. Os oes modd gwneud defnydd gwahanol o'r adeiladau, nid oes rheswm i beidio croesawu'r peth.