10/08/2017

Ynghylch gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth ein hunain drwy'r amser

Ymddengys bod siaradwyr Cymraeg o dan warchae braidd ar hyn o bryd. Efallai bod yr ymosodiadau'n teimlo'n fwy cyson nag yn y gorffennol oherwydd y cyfryngau cymdeithasol. Mae twpsod anwybodus bellach yn ysgrifennu cynnwys eu meddyliau ar y we yn hytrach na'u cadw'n breifat, ac mae'r un rhwydweithiau'n gweithio fel larwm i alw'r Cymry i'r gâd bob tro y gwelwn rywbeth sy'n ein tramgwyddo.

Ond mae'n bosibl hefyd bod yr ymosodiadau'n dwysáu. Yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol - mae Brexit yn symptom o greisis hunaniaeth yn Lloegr i raddau helaeth - gellir synhwyro bod drwgdybiaeth tuag at amrywiaethau mewnol yn y Deyrnas Gyfunol yn cynyddu. Beth bynnag sy'n mynd ymlaen, roedd caredigion y Gymraeg yn disgwyl y gwaethaf pan drydarodd y rhaglen Newsnight brynhawn ddoe am eu bwriad i gynnal trafodaeth am yr iaith. Os rywbeth, roedd yr eitem a ddarlledwyd hyd yn oed yn waeth na'r hyn a ddychmygwyd gan y pesimist mwyaf yn ein plith. Dau westai, dim un ohonynt yn siarad Cymraeg, ac un yn ffwl rhagfarnllyd di-nod a'i fryd ar efelychu Katie Hopkins. Efallai bod llawer o siaradwyr yr iaith yn brysur yn yr Eisteddfod ar hyn o bryd, ond roedd hyn yn hurt.

Dylem osgoi theorïau cynllwyn fan hyn. Nid arwydd o elyniaeth bwriadol gan gynhyrchwyr y rhaglen yw eitem fel hwn. Y gwir poenus yw nad ydym yn ddigon pwysig i haeddu hynny. Anwybodaeth lwyr sy'n gyfrifol. Roedd yn amlwg drwy gydol yr eitem nad oedd gan Evan Davis y syniad lleiaf am y pwnc; fe awgrymodd fwy nag unwaith mai hobi yw'r Gymraeg, yn hytrach na chyfrwng naturiol bywyd cannoedd o filoedd o drigolion y wladwriaeth. Mae'n ddealladwy bod newyddiarurwyr, cynhyrchwyr ac ymchwilwyr rhaglenni fel Newsnight yn anwybodus amdanom; Saeson yn byw yn Llundain ydynt, wedi'r cyfan. Nid yw'r iaith Gymraeg yn croesi'u meddyliau fel arfer. Rhaid dweud bod gweld rhaglen o'r fath yn gwneud smonach o bwnc cyfarwydd yn gwneud i mi amau'u hadroddiadau am faterion nad wyf yn gwybod cymaint amdanynt; nid wyf wedi gallu ymddiried yn The Economist yn yr un ffordd ers darllen y llanast llwyr hwn, chwaith.

Rwy'n teimlo'n eithaf diymadferth am hyn i gyd. Creu stwr a chodi ymwybyddiaeth yw'r unig ateb, am wn i. Mae gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth fel grwp cymdeithasol dro ar ôl tro yn waith digalon, ond mae'n debyg mai dyna'r unig ddewis. Nid oes unrhyw un arall yn mynd i roi chwarae teg i ni, felly mae fyny i ni ein hunain. Am resymau amlwg, dim ond siaradwyr Cymraeg sy'n deall yn iawn beth sy'n mynd ymlaen yn y byd Cymraeg. Dyna natur ieithoedd gwahanol. Nid ein bai ni yw hynny. Y cyfan allwn ni ei wneud yw esbonio. Trafodwch yr iaith Gymraeg yn Saesneg, a phopeth arall, yn naturiol, yn Gymraeg.

1 comment: