04/09/2017

Camddeall hiliaeth

Os oedd y stori am fflôt hiliol Carnifal Aberaeron yn ddigon drwg, mae'r ymateb, yn enwedig ar Facebook, wedi bod yn waeth. 'Dim ond bach o hwyl' yw'r sylw mwyaf cyffredin, o beth y gwelaf i. Mae'n amlwg nad yw llawer o bobl, gan gynnwys nifer sy'n sgrechian 'hiliaeth!' bob tro mae rhywun yn gwneud sylw angharedig am Gymru neu ei hiaith, yn deall beth yw hiliaeth.

Mae'n debyg bod gormod o bobl yn credu mai ystyr hiliaeth yw casineb. Os nad ydych yn casáu pobl â chroen tywyll, na'n bwriadu'u pechu, mae'n amhosibl eich bod yn hiliol. Nid oes modd, felly, trwy ddiffiniad, i 'ddim ond bach o hwyl' fod yn hiliol.

A bod yn garedig, mae hynny'n hen-ffasiwn. Efallai ei bod yn wir bod hiliaeth amrwd ac ymosodol yn llai cyffredin heddiw nag yn y gorffennol (er bod Brexit a Trump yn bygwth dad-wneud y cynnydd hwnnw), ond nid dyna'r unig ffurf. Di-feddwl yn hytrach na bwriadol faleisus yw hiliaeth fodern, fel arfer.

Nid oes amwysedd am y fflôt: roedd yn hiliol. Fel y dywed Gary Raymond, mae blackface, yn gwbl ddi-eithriad, yn hiliol. Mae mor syml â hynny. A'r ateb i'r ddadl mai dim ond talu teyrnged i ffilm hoffus ac ysgafn oedd y fflôt yw bod Cool Runnings ei hun yn ffilm hiliol. Daeth y sylweddoliad hwnnw'n raddol iawn i mi, gan fod gennyf atgofion hapus o'i mwynhau'n fawr pan yn blentyn, ond mae'n chwerthinllyd o amlwg erbyn hyn.

Yr hyn sy'n arwain pob trafodaeth am stori'r fflôt ar gyfeiliorn yw'r syniad bod galw'r weithred yn hiliol gyfystyr â galw'r hogiau eu hunain yn hilgwn. Rwy'n siwr eu bod wedi dychryn, yn ddiffuant, â'r ymateb, ac nad oeddent wedi bwriadu unrhyw beth cas. Ond mae hynny'n hollol amherthnasol. Y weithred sy'n bwysig, ac roedd y weithred yn hiliol. Dyna ddechrau a diwedd y mater. Nid yw galw'r peth yn gamgymeriad naïf yn gwneud y weithred yn llai hiliol. Yn ddelfrydol, bydd y stori'n wers addysgol i ni gyd, ond yn anffodus nid yw'r ymateb wedi fy llenwi â hyder.

No comments:

Post a Comment