Showing posts with label rhyddid mynegiant. Show all posts
Showing posts with label rhyddid mynegiant. Show all posts

05/06/2019

Rhagfarn Widdecombe ac amddiffyniad truenus Farage

Mae'n anodd dychmygu eitem deledu llai apelgar na Piers Morgan yn dadlau gyda Nigel Farage am sylwadau ffiaidd gan Ann Widdecombe. Pwy ddychmygodd y byddai'r canlyniad mor affwysol o dwp?

Mae gan Widdecombe  hen hanes o ddweud pethau hyll am gyfunrywioldeb. Yn ddiweddar, fe ategodd y syniad y bydd modd i wyddoniaeth 'wella' hoywon. Daeth Farage i'w hamddiffyn, ar y sail 'that devout Christians should be allowed to have their opinion'.

Wrth gwrs, nid yw'r ateb yna'n amddiffyniad o fath yn y byd. Mae'n ddi-sylwedd a phathetig am nifer o resymau. Yn un peth, os mai'r peth gorau y mae modd ei ddweud am sylwadau Widdecombe yw nad yw'n anghyfreithlon iddi eu dweud, dyna gliw eithaf amlwg nad oes amddiffyniad call ar gael.

Boed oherwydd ei fod yn anonest neu'n ddwl, neu gyfuniad o'r ddau, mae Farage yn ceisio dadlau mai ystyr rhyddid mynegiant yw cael dweud pethau hurt a hyll heb i unrhyw un arall gael herio'n ôl. Yn hytrach, holl bwynt rhyddid mynegiant yw bod sylwadau atgas yn ennyn gwawd pawb arall. Yn yr un modd, nid goddefgarwch yw goddef anoddefgarwch.

Syniad dwl arall fan hyn yw bod dweud pethau rhagfarnllyd yn dderbyniol cyn belled bod y siaradwr wir yn eu credu ag arddeliad, yn enwedig os ydynt wedi'u seilio ar ffydd grefyddol. O, mae hi'n daer a diffuant wrth fynnu bod rhywbeth yn bod ar hoywon? Wel dyna ni, popeth yn iawn felly! Nid yw'n hawdd canfod y geiriau i fynegi pa mor blentynnaidd yw'r ffordd yma o feddwl. Yn yr un modd, os oes miliynau o babyddion yn credu'r hyn y mae Widdecombe yn ei gredu, nid yw hynny'n gwneud y safbwynt yn dderbyniol. Mae'n golygu bod y miliynau hynny i gyd yn rhagfarnllyd hefyd. Ni ddylai hyn fod yn anodd.

15/05/2019

Diffinio islamoffobia

Er bod y gair yn drwsgl, rwy'n anghytuno'n gryf â phobl sy'n dadlau mai label ffug yw 'islamoffobia', dyfais er mwyn tawelu beirniaid yn unig. Yn anffodus, mae rhagfarn ac anffafriaeth yn erbyn mwslemiaid yn bodoli, dyma'r gair sydd wedi cydio fel ffordd gyfleus o gyfeirio at y ffenomen honno, a dyna ni.

Mae'n eithriadol o anodd gwahanu'r rhagfarn honno oddi wrth y ffaith bod mywafrif anferth o fwslemiaid yn aelodau o grwpiau ethnig lleiafrifol. Y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o achosion o islamoffobia hefyd yn achosion o hiliaeth. 'Crefydd yw islam, nid hil' yw'r ymateb fel arfer pan gyhuddir rhywun gwrth-islam o hiliaeth. Nid yw'r ymadrodd hwnnw'n anghywir, ond mae'n anghyflawn. Mae ymosod ar islam yn aml yn proxy cyfleus ar gyfer agweddau hiliol.

Wedi dweud hyn oll, rwy'n canfod fy hun yn y sefyllfa anghyfforddus o gytuno â phenderfyniad llywodraeth Theresa May i wrthod y diffiniad yma o islamoffobia: “Islamophobia is rooted in racism and is a type of racism that targets expressions of Muslimness or perceived Muslimness". Am y rhesymau uchod, rwy'n cydymdeimlo'n fawr â sentiment y frawddeg. Ond mae gan y diffiniad broblem sylfaenol dros ben, sef nad ydyw, mewn gwirionedd, yn ddiffiniad o fath yn y byd. Pa fath o sylwadau sydd yn enghreifftiau o islamoffobia, yn benodol, a pha rai sydd ddim? Dyna'r cwestiwn dylai diffiniad ei ateb, ond nid yw'r frawddeg yna'n gymorth o gwbl.

Oherwydd hyn, er mor real ac erchyll yw'r rhagfarn yn erbyn islam yn ein hinsawdd wleidyddol sydd ohoni, mae perygl y byddai'r diffiniad hwn yn cael ei gamddefnyddio i bardduo rheiny sy'n beirniadu islam am resymau call a dilys (ac mae digon o feirniadaethau felly i'w gwneud). Mae'r gair yn cael ei ddefnyddio i'r perwyl yna'n barod, felly na, ni fyddai rhoi grym cyfreithiol i ddiffiniad fyddai'n fodd o dawelu beirniadaeth deg yn ddoeth na chyfiawn.

01/02/2017

Blogio am anffyddiaeth tra mae'r byd yn mynd i'r gwellt

Blog am anffyddiaeth yw hwn. Gan fod y pwnc hwnnw'n eang iawn, mae'n caniatáu i mi drafod gwleidyddiaeth yn fynych. Yn wir, rwyf wedi dweud droeon nad yw gwrthwynebu crefydd heb drafod gwleidyddiaeth yn gwneud synnwyr. Mae hyrwyddo hawliau sifil, cydraddoldeb, democratiaeth a rhyddid yn ran annatod o anffyddiaeth; yn hanesyddol, crefydd sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am amharu ar y pethau da hynny.

Yn anffodus, mae fy mlogiadau wedi mynd ychydig yn llai rheolaidd yn ddiweddar, ac er bod hynny i raddau helaeth oherwydd y ffaith bod gennyf fabi, rwy'n rhoi llawer o'r bai ar Donald Trump. Pan rwyf wedi blogio tros y flwyddyn ddiwethaf, y ffasgydd twp oren oedd y pwnc yn amlach na pheidio. Ers iddo gyhoeddi'i fwriad i sefyll, mae twf Trumpaeth wedi datblygu'n dipyn o obsesiwn i mi. Rwy'n treulio llawer mwy o amser nag sy'n iach yn darllen am yr hyn sy'n digwydd yn America, a'n colli gobaith yn gyffredinol am gyfeiriad y byd yn ehangach. Ni fynnaf ddiflasu'r ychydig ddarllenwyr sydd gennyf, fodd bynnag, a chan fod Trump ymhob man yn barod, rwy'n ceisio osgoi swnio fel tôn gron am y peth fan hyn (mae fy ffrwd Twitter yn fater arall).

Mae'n wir hefyd bod rôl crefydd yn yr hyn sy'n digwydd yn gymhleth. Petai rhywun wedi dweud wrthyf ddegawd yn ôl y byddai'r dde eithafol yn cipio grym yn America, buasai wedi bod yn rhesymol i mi dybio mai ffwndamentaliaid Cristnogol fyddai wrthi. Ond fel y digwyddodd pethau, nid yw Trumpaeth mor syml â hynny. Mae llawer iawn o bleidleisiwyr Trump yn ffitio'r disgrifiad hwnnw, wrth reswm, ond go brin bod y ffasgydd twp oren ei hun yn gwneud. Nid yw Trump yn ddigon deallus i ffurfio safbwyntiau diwinyddol y naill ffordd na'r llall, ond nid oes cysur yn hynny, gan y bydd yn berffaith hapus i daflu cig coch at y ffwndamentaliaid er mwyn cadw'u cefnogaeth. Hiliaeth a misogynistiaeth - panig ynghylch tranc arfaethedig statws goruchafol y dyn gwyn - yw craidd Trumpaeth mewn gwirionedd, ac er bod crefydd yn chwarae rhan fawr yn hynny, rwy'n gorfod derbyn nad dyna lle mae'r bai i gyd. Ysywaeth, mae llawer o'r 'alt-right', yn enwedig y rhai ifainc, yn ddigon seciwlar.

Efallai bod fy mlaenoriaethau yn newid, felly. Nid yw fy safbwyntiau yngylch crefydd wedi newid o gwbl: lol yw'r cwbl o hyd. Ond yr hyn sy'n fy mhryderu fwy na dim yn y byd erbyn hyn yw dirywiad democratiaeth a thwf y dde adweithiol. Awtocrat yw Trump, ac mae'r difrod a gyflawnodd yn ei wythnos gyntaf, heb sôn am beth sy'n mynd i ddigwydd dros bedair blynedd, yn frawychus. Nid dim ond America sy'n wynebu'r broblem hon, wrth gwrs. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae democratiaeth wedi cilio yn Rwsia, Twrci, Gwlad Thai, a'r Ffilipinau. Mae hyd yn oed gwledydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd, fel Hwngari, Gwlad Pwyl, Slofacia a'r Weriniaeth Siec wedi dechrau dilyn trywydd awtocrataidd, ac mae'r dde senoffobig ar gynnydd mewn sawl gwlad orllewinol arall, gan gynnwys Prydain. Ar ben hynny, mae gwledydd nad oedd hyd yn oed yn ddemocrataidd o gwbl yn y lle cyntaf, fel China, wedi dechrau canoli a thynhau grym drachefn yn hytrach na chymryd camau i'r cyfeiriad arall. Mae pethau'n edrych yn dduach o lawer nag yr oeddent ddegawd yn ôl.

Rwyf o hyd wedi gwrthod y syniad bod democratiaeth a rhyddid yn anochel o gynyddu gydag amser, ac rwy'n gofidio bod y degawd presennol yn fy mhrofi'n gywir. Mae gobaith mai blip dros dro - ochenaid olaf yr hen ddyn gwyn blin cyn i rymoedd demograffig ei drechu - yw hyn. Gallaf ddeall y demtasiwn i obeithio y bydd popeth yn gwella ar ôl i'r baby boomers hunanol farw allan ymhen degawd neu ddau. Ond gochelwn rhag disgwyl yn ddiog i'r gwellhad hwnnw ddigwydd yn awtomatig. Mae am fod yn frwydr, ac yn hynny o beth, mae llawer o grefyddwyr rhyddfrydol am fod ar yr un ochr â mi.

02/08/2015

Cwyno i'r heddlu am ddarn o ffuglen

Ymddengys bod rhyw berson od yn rhywle wedi anfon 'gwaith' gwirioneddol anghynnes at gystadleuaeth Gwobr Daniel Owen eleni. 'Nid nofel oedd hi, ond cyfres o ddisgrifiadau graffig o blant yn cael eu treisio' yn ôl Dewi Prysor, un o'r beirniaid.

Yn anffodus, ymateb yr Eisteddfod oedd anfon y stwff at yr heddlu, ynghyd â manylion yr awdur. Sinigaidd fyddai nodi'r ffaith i hyn i gyd ddigwydd ym mis Mawrth ond bod y 'newyddion' wedi torri ddiwrnod cyn i'r brifwyl ddechrau, wrth gwrs. Beth bynnag am hynny, rwy'n gyndyn o'r farn na ddylai hyn fod yn fater i'r heddlu o gwbl. Roeddwn yn credu hynny cyn i natur y cynnwys ddod i'r amlwg, ac rwy'n credu hynny o hyd.

Fel mater o egwyddor pendant, rwy'n chwyrn yn erbyn y syniad o anghyfreithloni geiriau ar bapur, oni bai eu bod yn enllibus neu'n bygwth rhywun yn uniongyrchol. Yn sicr, ni allaf feddwl am senario lle byddai'n briodol galw'r heddlu oherwydd darn o ffuglen. Beth bynnag, nid yw'n eglur i mi beth yn union y mae disgwyl i'r heddlu ei wneud yn ymarferol am y peth.

Y ddadl yw bod pryder am y posibilrwydd bod yr awdur yn bwriadu gwireddu'r hyn a ddisgrifia, a bod y disgrifiadau hynny'n neilltuol o ffiaidd. Ond mae pob math o lyfrau - clasuron enwog yn eu plith - yn cynnwys golygfeydd pur 'anweddus'. Mae nofelau Raymond Chandler neu Agatha Christie, er enghraifft, yn llawn llofruddiaethau, ond nid oedd unrhyw un yn credu bod hynny'n reswm i boeni am gymhellion yr awduron. Rwy'n berchen ar gopïau o Naked Lunch gan William S Burroughs a Trout Fishing In America gan Richard Brautigan, dwy nofel sy'n cynnwys disgrifiadau o weithredoedd pedoffeilaidd. Ystyrir y ddwy'n gyfrolau arwyddocaol (fymryn yn ormodol felly yn fy marn i, yn enwedig Naked Lunch), er eu bod yn cynnwys darnau gwirioneddol fochedd. Ystyrier Lolita hefyd fel enghraifft arall.

A dweud y gwir, byddai 'pryderon' yr Eisteddfod yn swnio'n fwy didwyll pe na baent wedi denu'r holl sylw yma at yr hyn a ddigwyddodd. Canlyniad yr holl gyhoeddusrwydd yw bod gan lawer o bobl - a minnau yn eu plith - awydd darllen y deunydd anweddus dirgel yma, er chwilfrydedd pur. Ni fyddem wedi cael gwybod am ei fodolaeth yn y lle cyntaf petai'r Eisteddfod o ddifrif am eu gofidion bod rhywbeth sinistr ar droed. Mae'n bosibl iawn mai creu braw ymysg y 'sefydliad' fel hyn oedd union obaith yr awdur, trwy fod yn edgy a gwasgu'r botymau 'anghywir' i gyd. Dyna, i bob pwrpas, oedd nod Burroughs yn Naked Lunch, a gyhoeddwyd ym 1959. Y jôc yn achos y gyfrol honno yw mai f'ymateb pennaf wrth ei darllen am y tro cyntaf yn lled ddiweddar oedd bod rhywbeth eithaf hen-ffasiwn - quaint, bron - am yr ysfa yna i ddychryn er mwyn dychryn.

Yn rhwystredig ddigon, yn rhy aml mae amddiffyn yr hawl i ysgrifennu rhywbeth yn cael ei ddehongli fel amddiffyniad o safon y gwaith. Rwy'n hollol chwyrn o blaid yr hawl i ysgrifennu stwff fel hyn, dim ots pa mor wachul neu arswydus ydyw. Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu'r hawl i fynnu bod rhywun arall yn ei gyhoeddi, heb sôn am ei wobrwyo. Y gwir yw ei bod yn swnio fel bod yr hyn a ysgrifennodd yr awdur anhysbys yma'n ofnadwy ym mhob ystyr y gair. Ond yr ateb syml i hynny oedd i beidio rhoi gwobr Daniel Owen iddo, a hynny'n dawel bach. Gwaherdder yr awdur rhag cystadlu eto, ar bob cyfrif (mae'n debyg iddo wneud rhywbeth tebyg yn 2007 hefyd). Ond dyna ddylai fod ei diwedd hi.

04/05/2015

Ymosodiad arall eto fyth ar yr hawl i lunio cartwnau

Texas y tro hwn, lle bu ymdrech i ymosod ar gystadleuaeth llunio cartwnau o Fohammed.

Mae gwleidyddiaeth y trefnwyr yn wahanol iawn i ideoleg Charlie Hebdo. Mae'r American Freedom Defense Initiative, a'r llywydd, Pamela Geller, yn geidwadwyr asgell-dde adweithiol tu hwnt, a'n arddel paranoia a chasineb amrwd yn erbyn Mwslemiaid. Nid oes ots am hynny. Dylid condemnio'r ymosodiad yma'n chwyrn a'n ddi-amod. Nid oes unrhyw beth o gwbl yn bod ar ddychanu Mohammed, ac mae'n hanfodol ein bod i gyd yn amddiffyn yr hawl honno'n groch, heb 'ond'.

Rwy'n rhagweld perygl fan hyn, sef bod llawer o ryddfrydwyr asgell-chwith am fod hyd yn oed yn llai parod i feirniadu'r trais fan hyn nag yn achos y gyflafan ym Mharis. Trychineb fyddai sefyllfa lle mai'r unig bobl sy'n amddiffyn yr hawl i gableddu yw adweithwyr rhagfarnllyd. Brwydr ryddfrydol yw hon i fod. Peidiwch â gadael i ffyliaid ei meddianu i'w dibenion eu hunain.

28/04/2015

Charlie Hebdo eto

Mae cyflafan Charlie Hebdo  wedi bod yn y newyddion eto'r wythnos hon, wedi i chwech aelod o PEN America wrthod mynychu gala flynyddol y sefydliad, oherwydd roedd staff Charlie Hebdo am fod yno i dderbyn gwobr am eu dewrder o blaid rhyddid mynegiant. Rwy'n credu bod ymddygiad y chwech - awduron adnabyddus i gyd - yn pathetig.

Mae Salman Rushdie wedi'u beirniadu'n chwyrn, ac felly hefyd Alex Massie yn The Spectator. Ers hynny mae un o'r chwech, Francine Prose, wedi ceisio egluro'r penderfynaid yn The Guardian. Afraid dweud nad yw'n darbwyllo. Rwyf am ddyfynnu'r cyfan yn ei dro:
When I learned that PEN had decided to award the Freedom of Expression Courage Award to Charlie Hebdo, I was dismayed. I had agreed to serve as a literary table host and I wondered what I would do when the crowd around me rose to its feet to applaud an award being given – in my name – to what I felt was an inappropriate recipient.
Rwy'n cael yr argraff bod Prose yn un o'r rheiny sy'n camddeall pwy yw targed cartwnau'r cylchgrawn.
Let me emphasize how strongly I believe in the ideals of PEN; for two years I was president of the PEN American Center. I believe in the indivisibility of the right to free speech, regardless of what – however racist, blasphemous, or in any way disagreeable – is being said. I was horrified by the tragic murders at the Charlie Hebdo office; I have nothing but sympathy for the victims and survivors. I abhor censorship of every kind and I despise the use of violence as a means of enforcing silence. I believe that Charlie Hebdo has every right to publish whatever they wish.
Dyna'r ddefod gyfarwydd o glirio llwnc cyn dod at yr hyn y mae wir eisiau'i ddweud:
But that is not the same as feeling that Charlie Hebdo deserves an award. As a friend wrote me: the First Amendment guarantees the right of the neo-Nazis to march in Skokie, Illinois, but we don’t give them an award. The bestowing of an award suggests to me a certain respect and admiration for the work that has been done, and for the value of that work and though I admire the courage with which Charlie Hebdo has insisted on its right to provoke and challenge the doctrinaire, I don’t feel that their work has the importance – the necessity – that would deserve such an honor.
Mae llawer o'i gwrthwynebwyr wedi neidio i'w chyhuddo o 'gymharu' Charlie Hebdo â'r Natsïaid. Fel mae'n digwydd, mae hynny'n annheg. Beirniadaeth wahanol sydd gennyf i - ac mae'n ddadl y bûm yn ei wneud ar y pryd - sef bod safon y gwaith fwy neu lai'n amherthnasol erbyn hyn. Yr unig ffaith bwysig yw bod staff cylchgrawn wedi cael eu llofruddio am feiddio cyhoeddi cartwnau.

Gan fod Prose wedi cyfeirio at Natsïaid, rwyf am wneud yr un peth: mae gwrthwynebu gwobrwyo Charlie Hebdo am resymau esthetaidd fel beirniadu safon dyddiaduron Anne Frank o safbwynt llenyddol. Hynny yw, mae'n methu'r pwynt yn llwyr. Mae'r ffaith bod rhywbeth hunllefus wedi digwydd i'r awdur yn gwneud y gwaith yn deimladwy ac ingol ynddo'i hun, ac mae clodfori'r cynnyrch yn fodd o wneud safiad yn erbyn y cam a wnaed. Mae'n ymateb naturiol; ni fyddai brwydr Malala Yusafzai o blaid hawliau merched i gael addysg wedi cael chwarter y sylw pe na bai'r Taliban wedi'i saethu yn ei phen. Ond gan iddi oroesi ymgais i'w llofruddio, mae hi wedi ennill Gwobr Heddwch Nobel. Er gwell neu er gwaeth, fel hynny mae pethau'n gweithio. Mae gwobrwyo Charlie Hebdo, sydd wedi cario ymlaen fel normal (a chyhoeddi llun o Mohammed ar glawr y rhifyn o'r cylchgrawn a ymddangosodd yn syth wedi'r digwyddiad), yn safiad syml o blaid yr hawl i wneud yr hyn y mae'r cylchgrawn yn ei wneud. Cydnabod eu dewrder yw hyn, nid, o reidrwydd, canmol y cartwnau (nid bod unrhyw beth o gwbl o'i le ar y cartwnau chwaith yn fy marn i). Yn y cyfamser, dadl wag a thruenus Prose yn y frawddeg olaf uchod yw 'rwy'n edmygu dewrder Charlie Hebdo, ond rwy'n gwrthwynebu cydnabod eu dewrder'.
Perhaps my sense of this will be clearer if I mention the sort of writers and whistleblowers whom I think would be appropriate candidates: Edward Snowden, Chelsea Manning, the journalists who have risked (and in some cases lost) their lives to report on the wars in the Middle East. Or the extremely brave Lydia Cacho, who has fearlessly reported on government corruption in Mexico, along with the dozens and dozens of Mexican journalists who have been murdered for reporting on the narco wars.
Mae'r diffyg hunanymwybyddiaeth fan hyn yn syfrdanol. Ni ddylid gwobrwyo Charlie Hebdo, meddai, oherwydd dylid ei roi i newyddiadurwyr sy'n peryglu'u bywydau. Oes angen i mi egluro'r broblem fan yna?
I have been deeply shocked to read and hear some critics say that the position I have taken, along with other writers, amounts to an endorsement of terrorism. Nothing could be further from the truth. But I also don’t feel that it is the mission of PEN to fight the war on terrorism; that is the role of our government. Our job, in presenting an award, is to honor writers and journalists who are saying things that need to be said, who are working actively to tell us the truth about the world in which we live. That is important work that requires perseverance and courage. And this is not quite the same as drawing crude caricatures and mocking religion.
Pe na bai mwslemiaid ffwndamentalaidd yn protestio, a'n bygwth a defnyddio trais er mwyn gorfodi pawb arall i ufuddhau i'w hathrawiaethau crefyddol, byddai llawer iawn llai o angen cyhoeddi cartwnau fel rhai Charlie Hebdo. Yr ymateb lloerig yw'r union beth sy'n gwneud eu cyhoeddi'n angenrheidiol.
The bitterness and rage of the criticism that we have received point out how difficult people find it to think with any clarity on these issues and how easy it has been for the media – and our culture – to fan the flames of prejudice against Islam. As a result, many innocent Muslims have been tarred with the brush of Islamic extremism.

The narrative of the Charlie Hebdo murders – white Europeans killed in their offices by Muslim extremists – is one that feeds neatly into the cultural prejudices that have allowed our government to make so many disastrous mistakes in the Middle East. And the idea that one is either “for us or against us” in such matters not only precludes rational and careful thinking, but also has a chilling effect on the exercise of our right to free expression and free speech that all of us – and all the people at PEN – are working so tirelessly to guarantee.
Mae'r gair 'narrative' fan hyn yn rhyfedd, a dweud y lleiaf. Nid rhyw 'naratif' greadigol mo hynny, ond yr union hyn a ddigwyddodd (er, dylid cofio mai Arabiaid oedd dau o'r rhai a laddwyd).

Yn aml iawn, mae agweddau 'unai gyda ni neu'n ein herbyn' yn niweidiol a gwrth-gynhyrchiol. Ond yn yr achos penodol hwn, mewn difrif calon, onid yw'n wir? Nid yw rhyddid mynegiant yn golygu hawl awtomatig i gael gwobr. Ond pe na bai sefydliad fel PEN yn gallu gwneud safiad o blaid yr hawl i fyw mewn byd lle nad yw llunio cartŵn yn reswm i'ch lladd, beth fyddai'u diben o gwbl?

14/02/2015

Mwy fyth o ladd

Y tro hwn mewn seminar - am ryddid mynegiant! - yng Nghopenagen, gyda chartwnydd sydd, yn y gorffennol, wedi cynhyrchu cartwnau o Fohamed. 'Dim ond' un person yn y gynulleidfa a lofruddwyd, diolch byth, ond anafwyd tri arall.

Yn anffodus, nid oes gwobr i bwy bynnag all ddyfalu pa grefydd y mae'r terfysgwyr yn ei dilyn.

Rwy'n gobeithio bydd condemniad pawb yn ddi-amwys y tro hwn, heb 'ond'. Cawn weld.

Rwyf hefyd yn cydymdeimlo'n daer gyda'r mwyafrif anferth o fwslemiaid call sydd, wrth reswm, yn digaloni pob tro y cyflawnir gweithredoedd treisgar fel hyn yn enw'u ffydd. Pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd, mae fel petai bod gofyn i bob mwslem unigol ddatgan eu gwrthwynebiad i'r syniad o ladd. Gallaf ddychmygu bod gorfod gwneud hynny (yn wythnosol, bron) yn waith syrffedus dros ben.

Eto i gyd, dylai pawb dderbyn bod hyn yn edrych fel problem arbennig yn achos islam. Mae'r nonsens yma'n teimlo'n ddi-ddiwedd yn ddiweddar.

05/02/2015

Cywirdeb gwleidyddol a rhyddid mynegiant

Dywedais yn ddiweddar fy mod yn greadur digon 'gwleidyddol gywir' ar y cyfan. Rwyf wedi bod yn meddwl llawer am hyn yn y cyfamser, yn enwedig gan fod cryn ddadlau wedi bod yn ddiweddar yn dilyn cyhoeddi'r erthygl hon gan Jonathan Chait, lle mae'r awdur yn cwyno am 'gywirdeb gwleidyddol', gan ddadlau ei fod yn arwain at sensoriaeth.

Rhestra Chait nifer o achosion sydd, yn ei dyb ef, yn dangos rhyddid mynegiant yn cael ei lyffetheirio. Mae rhai o'r cyhudddiadau'n deg; yn amlwg, ni ddylid bygwth pobl, ymosod arnynt, na dinistrio eiddo. Mae eraill yn annheg.

Prif broblem yr ysgrif, yn fy nhyb i, yw'r dybiaeth bod cywirdeb gwleidyddol yn ffenomen sy'n nodweddu'r chwith wleidyddol, gyda'i phwyslais ar gyfiawnder cymdeithasol, yn unig. Dewisa Chait ganolbwyntio ar gampysau prifysgolion, gan bryderu bod America wedi magu cenhedlaeth o sensoriaid gor-sensitif o'r chwith sy'n gormesu pawb nad ydynt yn atddel yr orthodocsi ynghylch cyfiawnder cymdeithasol. Y gwir, wrth gwrs, yw nad yw hyn yn ffenomen newydd o gwbl, a bod y dde lawn mor 'euog' o'r un hen beth. Mae gwrthwynebwyr erthyliad, er enghraifft, yn defnyddio'r un tactegau'n union (ac mae llawer ohonynt yn fwy ymosodol o lawer na'r enghreifftiau a restra Chait).

Mae pawb - pob un ohonom, yn ddi-eithriad - yn 'wleidyddol gywir' yn ein ffyrdd ein hunain. Beth yw cywirdeb gwleidyddol, wedi'r cyfan? Yn y pen draw, dyma'r syniad bod rhai labelau neu safbwyntiau yn 'annerbyniol', er enghraifft oherwydd eu bod yn sarhus. Tros y degawdau diwethaf mae lled-gonsensws wedi datblygu yn ein cymdeithas bod defnyddio epithetau hiliol, homoffobig neu rywiaethol yn arferiad drwg. Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod hyn yn ddatblygiad iach.  Dyna esiampl glasurol o'r math o beth sy'n neidio i'r meddwl wrth i ni feddwl am gywirdeb gwleidyddol, oherwydd cysylltir y cysyniad fel arfer ag ymdrechion i warchod carfannau llai grymus ein cymdeithas.

Sylwer, gyda llaw, nad mater i'r gyfraith yw hyn. Mae'n wir bod 'cyfreithiau casineb' yn bodoli, ond rwy'n eu gwrthwynebu'n chwyrn. Y cyfan sydd ei angen yw i'r defnydd aneironig o'r fath dermau fod yn dabŵ. Nid yw condemnio'r defnydd o air hiliol yn tarfu ar ryddid mynegiant y siaradwr o gwbl. Mae hyn yn allweddol: os dywedaf 'na ddylech' ddweud rhywbeth, nid wyf yn arddel eich gwahardd rhag dweud hynny. Modd o fynegi anghytundeb ydyw, dyna i gyd.

Dychwelwn at y pwynt: ceir tabŵs ynghylch pob math o bynciau, gan gynnwys llawn cymaint sy'n annwyl i'r dde ag sydd i'r chwith. Er enghraifft, ydych chi'n cofio'r ffwdan yn America ar ôl i'r Dixie Chicks feirniadu'r rhyfel yn Irác? Fe'u hesgymunwyd, i bob pwrpas. Beth oedd hynny os nad 'cywirdeb gwleidyddol' ar waith? Mae'n 'wleidyddol anghywir' i ddweud unrhyw beth angharedig am y fyddin, boed yn America neu ym Mhrydain. Mae'r un peth yn wir am y frenhiniaeth, i'r graddau bod clywed gwleidydd yn cyfeirio at Elizabeth II fel 'Mrs Windsor' yn destun sioc. Cywirdeb gwleidyddol hefyd sy'n golygu bod crefydd yn parhau i dderbyn parch anhaeddiannol. Yn y Gymru Gymraeg, rydym yn cynhyrfu'n lân pan mae rhywun hanner-enwog yn dweud rhywbeth dwl am ein hiaith, a'r gwrthwyneb sy'n wir os yw Cymro amlwg yn tynnu sylw at yr hyn sy'n ei bygwth, megis y mewnlifiad. Enghraifft waeth o lawer yw'r math o ymateb lloerig sy'n wynebu ffeminyddion ar y we. Ie, adwaith yn erbyn cywirdeb gwleidyddol ffeminyddol ydyw, ond math o gywirdeb gwleidyddol adweithiol yw hyn hefyd yn ei dro. Bygythiadau a phoenydio yw hoff dactegau llawer o'r misogynistiaid hyn, ac mae hynny'n haeddu sylw gan yr heddlu. Ond y pwynt yw bod pawb yn ystyried rhai mathau o safbwyntiau'n gwbl wrthun.

Felly, pan glywch bobl yn cwyno am 'gywirdeb gwleidyddol y chwith', y cyfan y maent yn cyfeirio ato mewn gwirionedd yw math penodol o gywirdeb gwleidyddol y maent yn digwydd anghytuno ag ef. Mae'r union bobl hynny'n coleddu cywirdeb gwleidyddol gwahanol eu hunain (a'n cwyno pan mae rhywun yn torri eu hoff dabŵs hwythau). Nid cywirdeb gwleidyddol y maent yn galw'u fersiynau eu hunain, wrth gwrs, ond nid oes gwahaniaeth ymarferol. Ystyr 'cywirdeb gwleidyddol', yn hynny o beth, yw 'pan mai'r ochr arall sydd wrthi'.

Mae Chait yn amlygu'r pwynt yn berffaith trwy fod yn euog o ragrith yn ei ysgrif. Cyfeiria at achos lle cafodd myfyriwr o leiafrif ethnig ei ddiswyddo o bapur newydd prifysgol am ddychanu 'culture of taking offense that pervades the campus'. I Chait, mae hyn yn bygwth rhyddid mynegiant. Beth bynnag eich barn am hynny, y ffaith yw bod Chait ei hun, yn 2009, wedi galw am ddiswyddo newyddiadurwr am ddweud rhywbeth nad oedd yn ei hoffi. Digon pitw oedd y rheswm, hefyd. Ond mae hynny'n wahanol, am wn i, am resymau dirgel.

Fe welwch ragrith yn aml iawn pan mae pobl yn cwyno am gywirdeb gwleidyddol, felly. Ond rhown y safonau dwbl i'r naill ochr am eiliad. A yw galw am ddiswyddo newyddiadurwr am fynegi safbwynt 'annerbyniol' yn niweidio rhyddid mynegiant? Yr ateb plaenaf yw 'na'. Wedi'r cyfan, mae'r weithred o alw am y diswyddiad yn enghraifft o fynegiant barn ynddo'i hun (cyn belled nas defnyddir trais, wrth gwrs). Nid oes raid i'r papur dalu sylw. Os oes boicot o'r papur, mynegiant o farn yw hynny hefyd. O safbwynt y papur, nid oes dyletswydd arnynt i ddarparu platfform. Ystyr rhyddid mynegiant yw'r hawl i ddweud eich dweud heb boeni am gael eich niweidio neu eich harestio; nid yw'n golygu bod cyfrifoldeb ar bobl eraill i roi llwyfan i chi, nac i wrando arnoch (mae troliaid ar y we yn enwog am eu hanallu i amgyffred y pwynt syml yma). Celwydd llwyr yw'r awgrym bod tactegau fel hyn yn unigryw i'r chwith.

Cwestiwn arall yw doethineb y dacteg yn gyffredinol. Yn gyffredinol, fy marn yw mai'r ateb gorau i farn hyll neu dwp yw defnyddio ein rhyddid mynegiant ein hunain drachefn er mwyn condemnio. Byddai galw am ddiswyddo pob newyddiadurwr sy'n anghytuno â ni'n arwain at fyd lle mae pawb yn byw mewn siambr eco, lle nad yw unrhyw un yn dod ar draws barn wahanol i'r hyn y maent eisoes yn ei harddel. Mae gwerth i amrywiaeth barn. Ond nid mater o ryddid mynegiant yw hyn o gwbl.

Mae'r un peth yn wir yn achos atal gwahoddiadau i draddodi darlithiau, fel (fel y dywed Chait) sydd wedi digwydd yn ddiweddar i Bill Maher, Christine Lagarde, Ayaan Hirsi Ali a Condoleezza Rice, yn dilyn protestiadau gan fyfyrwyr. Fel rheol, unwaith mae siaradwr wedi derbyn gwahoddiad i ddod i siarad, fy nheimlad personol yw ei bod yn anghwrtais a dryslyd i dynnu'r gwahoddiad yn ôl (hyd yn oed yn achos Rice, sy'n derbyn symiau anferthol o arian am wneud y pethau yma, er ei bod nesaf peth at fod yn droseddwraig rhyfel). Ond rwy'n credu bod cwestiynu doethineb y gwahoddiad yn y lle cyntaf yn berffaith resymol. Beth bynnag, fel yn achos y paragraff blaenorol, nid mater o ryddid mynegiant mo hyn y naill ffordd na'r llall.

Nid yw'r cyhuddiad o gywirdeb gwleidyddol yn arbennig o ystyrlon, felly. Gorchest y dde wleidyddol yn y 90au cynnar oedd bathu'r ymadrodd, ei gysylltu'n benodol a daliadau llawer ar y chwith, a'i bortreadu fel cysyniad newydd eithriadol o niweidiol. Bu'r celwydd hwnnw'n lwyddiant mawr. Ffordd ddiog ydyw, yn y bôn, o golbio pobl sy'n anghytuno â chi. Mae pawb yn wleidyddol gywir. Ac os yw'n wir am bawb, nid oes pwrpas defnyddiol i'r label.

Rhof y gair olaf i Stewart Lee:

19/01/2015

Cwestiwn bach ynghylch sarhau'r proffwyd Mohamed

Gofynnais y cwestiwn hwn ar Twitter yn gynharach, ond gan na thalodd unrhyw un sylw (och a gwae), dyma'i ail-adrodd fan hyn:

A ddylid gwahardd cyhoeddiad sy'n cynnwys disgrifiadau pornograffig iawn o Fohamed yn cael ei arteithio'n Uffern?

Dyma ddyfyniad:
Roedd wedi'i rwygo ar agor, o'i ên yr holl ffordd lawr at y twll lle mae'n rhechu. Roedd ei berfedd yn hongian rhwng ei goesau, yn arddangos ei organnau, gan gynnwys y sach sy'n troi beth bynnag aiff lawr ei lwnc mewn i gachu.
(Peidiwch â thwyllo a chwilio am y ffynhonnell. Os nad oedd y cyd-destun yn bwysig yn achos Charlie Hebdo, nid yw'n bwysig fan hyn chwaith).

Os nad ydych yn credu y dylai cyhoeddi rhywbeth fel hyn fod yn anghyfreithlon, fel y cyfryw, ydych chi efallai o'r farn y dylai cyhoeddwyr ymatal rhag gwneud, fel arwydd o barch tuag at y proffwyd a'r holl bobl sy'n ei fawrygu? Mae'r disgrifiad uchod yn sicr yn fwy gwawdiol o lawer na chartŵn clawr diweddaraf Charlie Hebdo.

Mae'n debygol eich bod yn synhwyro trap o fath fan hyn. Digon teg. Inferno gan Dante yw'r testun. Pery mewn print. A ddylid canslo'r argraffiad nesaf, rhag ofn? Cwestiwn didwyll.

16/01/2015

A'r ymatebion eraill i'r gyflafan

Rwyf eisoes wedi trafod fy rhwystredigaeth ag ymateb rhai rhyddfrydwyr i'r llofruddiaethau ofnadwy yn swyddfeydd Charlie Hebdo. Y flaenoriaeth i lawer oedd condemnio'r cartwnau yn hytrach na'r lladd, a hynny, ar y cyfan o leiaf, yn annheg. Nid dyna'r unig ymateb gwallus i'r hyn a ddigwyddodd, fodd bynnag. A bod yn onest, mae'r rhan fwyaf o'r ymatebion wedi bod yn wirion a rhagrithiol, a hynny ar sawl ochr o'r ddadl.

Fel un sy'n cefnogi'r cartwnau a'n condemnio'r trais - yn ddi-amwys, heb 'ond' - rwyf wedi canfod fy hun ar yr un ochr i'r ddadl ag islamoffobiaid rhagfarnllyd. Nid wyf yn arbennig o hapus am hynny, ond dyna ni (nid yw'r gair 'islamoffôb' yn ddelfrydol o bell ffordd; fe'i camddefnyddir yn aml, ond mae rhagfarn paranoid yn erbyn mwslemiaid yn ffenomen sy'n bodoli, felly rhaid i ni ei dderbyn).

Gallaf yn hawdd ddychmygu bod bywyd mwslem normal yn gallu bod yn syrffedus ar adegau (dyma erthygl dda iawn yn lladd ar yr ymadrodd 'mwslem cymhedrol', gyda llaw). Pryd bynnag mae rhai o'u cyd-mwslemiaid yn cyflawni gweithred dreisgar, mae gofyn bron yn syth i bob un aelod o'r grefydd gyfan wneud pwynt mawr o leisio condemniad cadarn. Y dyb, am wn i, yw bod eu 'teyrngarwch' yn amheus oni chlywn fel arall. Y broblem yw bod y conedmniadau gan amryw gyrff mwslemaidd yn cael llawer iawn llai o sylw yn y cyfryngau na'r bobl sy'n mynnu bod rhaid iddynt wneud y condemniadau hynny. Wrth gwrs, nid yw'n gwneud llawer o synnwyr i ddweud bod pob mwslem yn gyfrifol am yr hyn a gyflawnir yn enw'r grefydd honno, fwy nag ydyw i awgrymu bod pob siaradwr Cymraeg unigol yn siarad ar ran y grŵp ieithyddol cyfan. Ond mae hilgwn twp, serch popeth, wedi bod yn brysur yn ymosod ar fosgiau ledled Ffrainc. Mae hyn yn ddigalon.

Rydym hefyd wedi clywed cyhuddiadau o ragrith yn erbyn rhai o'r gwleidyddion a'r sylwebwyr a ddaeth allan o'r pren i gefnogi Charlie Hebdo yn enw rhyddid mynegiant. Mae'r cyhuddiad hwnnw'n hollol deg. Roedd bron yn ddoniol, mewn ffordd hynod dywyll, gweld llysgennad Sawdi Arabia allan ar strydoedd Paris yn cefnogi'r cylchgrawn, o gofio'r hyn sy'n digwydd yn y wlad honno i'r blogiwr rhyddfrydol Raif Badawi ar hyn o bryd. Dyma restr dda o ragrithwyr eraill tebyg, gan gynnwys y brenin Abdullah o Jordan, prif weinidog Twrci Ahmet Davutoğlu, Benjamin Netanyahu, Sergei Lavrov o Rwsia, taoiseach yr Iwerddon Enda Kenny (gwlad lle mae cabledd yn drosedd hyd heddiw), Khalid bin Ahmed Al Khalifa (gweinidog tramor Bahrain), a llawer iawn mwy. Yr hyn sy'n hyfryd, ac sydd heb gael llawer o sylw, yw bod Charlie Hebdo eu hunain, yn eu rhifyn newydd, yn tynnu sylw at yr union safonau dwbl digywilydd hyn, a'n gwawdio'r rhagrithwyr hyn sy'n gwneud defnydd o'u trasiedi er mwyn gwneud ychydig o grandstanding gwleidyddol ffug a thwyllodrus.

Mae llywodraeth Ffrainc ei hun yn euog o'r un rhagrith. Arestiwyd y digrifwr Dieudonné M’Bala M’bala wedi iddo gyhoeddi neges ar Facebook yn cydymdeimlo â'r terfysgwyr. Nid oes ots pa mor wrthun yw'r neges: rwy'n cefnogi, yn hollol ddi-amwys, ei hawl i fynegi'i farn. Rwy'n ffieiddio at y ffaith iddo gael ei arestio. A dweud y gwir, mae agwedd Ffrainc at ryddid mynegiant wedi bod yn od erioed: mae'r achos yma o 2006, er enghraifft, yn syfrdanol.

Mae'r cyhuddiad o ragrith yn gywir, felly, ond beth yn union yw datrysiad sylwebwyr fel Mehdi Hasan ar gyfer cysoni'r safonau dwbl yma? Hyd y gwelaf i, ei awgrym yw bod angen cyfyngu ar ryddid mynegiant ymhellach er mwyn sensro unrhyw beth sy'n gwawdio islam hefyd. Yr ateb cywir, wrth reswm, yw'r gwrthwyneb: dylid ehangu ar ryddid mynegiant a rhoi'r gorau i sensro yn yr holl achosion eraill yma. Mwy o ryddid mynegiant sydd ei angen, nid llai.

15/01/2015

Yr ymateb i gyflafan Charlie Hebdo

Mae wythnos wedi mynd heibio, bellach, ers yr ymosodiad ofnadwy ar swyddfa'r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo. Heddiw, aeth y rhifyn cyntaf ers y digwyddiad ar werth (gweler y clawr ar y dde). Yn fy marn i, mae'r cartŵn yn hyfryd a graslon ('maddeuir popeth', medd dyn mewn twrban). Ysywaeth, mae llawer o fwslemiaid wedi gwylltio eto o'i herwydd.

Ymateb rhai o'm cyd-ryddfrydwyr yw testun y blogiad hwn, fodd bynnag. Rwyf wedi fy siomi'n arw gan rai blogwyr rwy'n eu hoffi. Mae'r drafodaeth yn ystod yr wythnos wedi fy nigaloni'n lân, a bod yn berffaith onest. Os rywbeth, rwy'n credu bod yr ymateb y tro hwn wedi bod hyd yn oed yn fwy camsyniol a llwfr nag ydoedd yn 2006 yn ystod helynt y cartwnau Jyllands-Posten.

Yn syth wedi'r digwyddiad, datblygodd yr hashnod #JeSuisCharlie fel modd o fynegi cefnogaeth i'r cylchgrawn. Yn fuan iawn wedi hynny, fodd bynnag, daeth yr adlach anochel gan ryddfrydwyr yn datgan #JeSuisNePasCharlie, gan gwyno bod y cylchgrawn yn hiliol, homoffobaidd, a misogynistaidd. Mae'r cyhuddiadau hyn, ar y cyfan, yn annheg ac anwybodus. Cyn egluro pam, fodd bynnag, hoffwn bwysleisio'r pwynt pwysicaf oll: pan mae rhywun wedi dioddef ymosodiad, neu hyd yn oed fygythiad, yn sgil rhywbeth maent wedi'i fynegi, dylai natur neu safon y gwaith o dan sylw fod yn hollol amherthnasol. Hyd yn oed petai'n wir bod Charlie Hebdo yn gyhoeddiad hiliol a rhagfarnllyd yn ei hanfod, ni ddylai hynny effeithio ar ein cefnogaeth yn dilyn digwyddiad fel hyn. Ystyrier cartwnau Jyllands-Posten; waeth i ni fod yn onest a chydnabod, bron ddegawd yn ddiweddarach, nad oeddent yn arbennig o dda na chlyfar. Ond pa ots? Yn syml iawn, pan mae rhyddid mynegiant yn cael ei fygwth fel hyn, yr unig ateb moesol yw cefnogaeth 100% i bwy bynnag sydd o dan y lach. Heb 'ond'.

Rwy'n cydnabod bod y gymhariaeth yn un sensitif, ond ystyrier achosion lle mae merch yn cyhuddo dyn o'i threisio. Rydym yn feirniadol iawn o unrhyw un sy'n mynnu siarad am ymddygiad y ferch - ei gwisg, faint o alcohol roedd hi wedi'i yfed, faint o ddiddordeb roedd wedi'i ddangos yn y dyn - ac mae hynny'n berffaith gyfiawn. Nid yw'r pethau hynny'n berthnasol i'r achos, ac effaith eu trafod yw awgrymu bod peth o'r cyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd yn gorffwys ar ei hysgwyddau hithau. Mae hynny'n wrthun; bai'r treisiwr ydyw a neb arall. Rhaid i mi fynnu bod rhywbeth tebyg yn wir yn achos cartwnau Charlie Hebdo. Beth bynnag eich barn am y cartwnau ar unrhyw adeg arall, mae eu beirniadu yng nghyd-destun ehangach ymosodiad fel hyn yn awgrymu bod rhaid iddynt dderbyn peth o'r bai am yr hyn maent wedi'i ddioddef. Efallai nad dyna'r bwriad, ond dyna, heb os, y neges a gyfleir. Fe'u targedwyd gan y terfysgwyr oherwydd bod y cartwnau'n 'annerbyniol'. Ymateb rhai rhyddfrydwyr oedd, wel, cytuno â'r rhesymeg. Mae hyn yn broblem anferth. Ategaf y pwynt: rhaid hepgor yr 'ond'. Dylid dechrau a gorffen gyda chondemnio'r ymosodiad; ni ddylai fod yn fodd o glirio'r llwnc cyn beirniadu'r dioddefwyr.

Er fy mod newydd ddadlau bod answdd y gwaith yn amherthnasol, rwyf am amddiffyn y cartwnau beth bynnag, oherwydd rwy'n digwydd credu bod Charlie Hebdo'n cael cam. Dechreuodd yr adlach gyda phobl ar Twitter yn rhannu lluniau o gloriau fel yr un ar y dde, heb gyd-destun. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys yn anghynnes: yr awgrym yw bod menywod sydd wedi dioddef diolch i Boko Haram ar fin heidio i Ffrainc er mwyn magu plant ar bwrs y wlad. Wrth gwrs, mewn gwirionedd mae'r cylchgrawn yn gwneud defnydd helaeth tu hwnt o eironi. Heb fynd i orfod o fanylder ynghylch cyd-destun y stori sy'n sail i'r clawr - digon yw eich cyfeirio at y dudalen Quora defnyddiol yma lle mae Ffrancwyr yn egluro beth sy'n mynd ymlaen - yr amcan yw gwatwar hiliaeth trwy fynd â'r rhesymeg i eithafion abswrd. Mae mwy o gartwnau wedi derbyn yr un feirniadaeth, ac mae'r gwrth-dadleuon yn debyg iawn yn yr achosion hynny hefyd.

Neidiodd llawer i'r casgliad bod y cylchgrawn yn un asgell-dde, hiliol, gwrth-fewnfudo. Y gwrthwyneb llwyr sy'n wir: mae Charlie Hebdo'n perthyn i'r chwith radical, sy'n gwrthwynebu hiliaeth yn chwyrn. Os rywbeth, eu prif darged yw'r Le Pens a'r Front National. Mae'n wir eu bod yn dychanu islam a'n cael hwyl gyda delweddau o'r proffwyd Mohamed, ond maent yn targedu pob crefydd yn yr un ffordd. A bod yn blaen, ymddengys yn debygol nad oedd y rhan fwyaf o'r bobl hunan-fodlon a fu'n condemnio delweddau fel yr uchod hyd yn oed wedi clywed am Charlie Hebdo cyn yr ymosodiad, heb sôn am ymgyfarwyddo â bydolwg golygyddol y cylchgrawn, ac â gwleidyddiaeth a diwylliant Ffrainc yn gyffredinol. Ar ben hyn i gyd, wrth gwrs, ysgrifennir y cylchgrawn yn Ffrangeg, ac mae hynny'n rwystr arall i ni, nad ydym yn rhugl yn yr iaith honno, ddeall y cyd-destun. Nid bod hynny wedi atal llu o ryddfrydwyr smýg rhag eu condemnio mewn chwinciad. Nid dadlau ydwyf bod y cartŵn uchod yn enghraifft ardderchog o'r grefft. Fy mhwynt yw bod nifer fawr o'r bobl a fu'n ei ddiawlio heb hyd yn oed gydnabod bod y mater fymryn yn gynilach nag yr oedd yn ymddangos ar yr olwg gyntaf. Ni ddylid cymryd unrhyw un o ddifrif nad ydynt wedi traffferthu i ymgynefino â'r mater yn iawn.

Dylid dweud gair am ddychan ac eironi fan hyn. Mae'n berffaith iawn i benderfynu, ar ôl deall y cyd-destun yn drylwyr, bod y cartŵn yn broblematig o hyd. Rwyf wedi dadlau fy hun bod rhai digrifwyr yn euog o bledio 'eironi' er eu bod yn ategu hen ystrydebau diog. Hynny yw, nid yw hawlio label 'eironi' yn gerdyn get out of jail free.

Ni ddylid gorddweud arwyddocâd bwriad y dychanwyr chwaith, oherwydd mae eironi yn ddibynnol ar ddealltwriaeth y gynulleidfa. 60,000 yw cylchrediad arferol Charlie Hebdo, a gallwn dybio bod y darllenwyr rheolaidd hynny'n gwerthfawrogi'r ffordd y mae'r cylchgrawn yn mynd ati i wneud eu pwynt. Ond mae'r rhifyn newydd eisoes wedi gwerthu miliynau o gopïau; efallai wir bod rhai o'r darllenwyr ychwanegol yr wythnos hon yn hilgwn sy'n hoffi'r syniad o weld islam fel testun sbort. Petai pobl felly'n dyfalbarhau gyda'r cylchgrawn, byddai angen cydnabod wedyn bod y ffordd y mae'n cael ei ddehongli gan ei ddarllenwyr wedi newid hefyd. Byddai hynny'n newid gwleidyddiaeth y cylchgrawn, yn anffodus, hyd yn oed os nad yw'r deunydd ei hun wedi newid o gwbl. Y gwir amdani yw bod ar eironi, os am lwyddo, angen i'r gynulleidfa fod fel petaent yn aelod o glwb, sy'n deall yn union sut i ddehongli'r deunydd gyda winc. Oherwydd y ddibyniaeth ar ddealltwriaeth y gynulleidfa, mae'n llythrennol amhosibl creu deunydd dychanol lle nad oes risg iddo gael ei gamddehongli gan bobl o'r tu allan i'r 'clwb' hwnnw, boed yn bobl sy'n arddel cyfiawnder cymdeithasol sy'n pryderu ei fod yn mynegi rhagfarn hyll, neu'n geidwadwyr adweithiol sy'n ei hoffi am yr un rheswm yn union. Yn hynny o beth, problem yr oes sydd ohoni yw bod y we yn newid y modd y mae gwaith fel hyn yn cael ei ddosbarthu. Mae'n llawer haws rhwygo darnau unigol oddi wrth eu cyd-destun.

Er mwyn amlygu hyn, ystyrier yr erthygl yma o wefan The Onion (euthum am dro i'w gwefan a chwilio am y gair 'nigger', a dyna'r canlyniad cyntaf). Pe na baech yn gyfarwydd â natur y cyhoeddiad hwnnw, efallai wir y buasech yn dychryn. Mae'r erthygl yn ddoniol, gan watwar hiliaeth, ond fel rwyf wedi bod yn dweud, mae'n dibynnu ar ryw faint o ddealltwriaeth ar ran y darllenydd. Wrth gwrs mae gan The Onion y fantais o fod yn gylchgrawn Americanaidd enwog iawn; mae llawer, o'r tu allan i America hefyd, yn gwybod yn iawn nad oes ynddo unrhyw beth i'w gymryd o ddifrif. Hyd y gwelaf, y gwahaniaeth pennaf rhwng erthygl The Onion a'r cartŵn Charlie Hebdo uchod yw bod llawer iawn llai o bobl, nes yr wythnos ddiwethaf o leiaf, wedi clywed am yr ail gylchgrawn.

Mae'r ffrae am y cartwnau wedi esgor ar drafodaeth ehangach ynghylch rhyddid barn. Cri gyfarwydd yw bod rhyddid mynegiant yn dda ond (a dyna'r 'ond' annifyr yna eto) nad yw hynny'n golygu y dylid mynd ati'n fwriadol i achosi loes. Wel ie a na. Rwy'n berson eithaf gwleidyddol gywir ar y cyfan. Rwy'n feirniadol iawn pan welaf hiliaeth, homoffobia neu rywiaeth, ac yn yr ystyr yna o leiaf, rwy'n credu bod yna rai pethau na 'ddylai' pobl eu dweud. Ond yn amlwg, nid yw hynny'n golygu fy mod yn arddel ymosod ar, neu arestio, hilgwn, homoffobiaid neu fisogynistiaid. O safbwynt rhyddid mynegiant, rwy'n cefnogi, gydag arddeliad, hawl pobl i ddweud pethau anghywir a hyll; rwyf yno'n llechu yn barod i ddefnyddio fy rhyddid mynegiant innau yn fy nhro i'w condemnio pan fyddent yn gwneud. Yn yr ystyr gyfreithiol, mae rhyddid mynegiant yn bwysicach byth pan mae datganiad yn debygol o beri loes; dyna'r union achlysur pan mae'r angen i'w amddiffyn ar ei fwyaf. Nid yw'r rhyddid i ddweud pethau saff yn unig, sy'n annhebygol o dramgwyddo unrhyw un, yn enghraifft ystyrlon o ryddid mynegiant o gwbl. Hynny yw, os nad ydych yn credu bod rhyddid mynegiant yn cynnwys yr hawl i gyhoeddi pethau fel delweddau o'r proffwyd Mohamed, nid ydych yn credu mewn rhyddid mynegiant o gwbl.

Problem gyfarwydd arall fan hyn yw'r syniad bod crefydd yn ran annatod o hunaniaeth pobl, lawn cymaint â'u hil. Mae llawer o'r farn bod hynny'n wir, felly mewn un ystyr mae hynny ynddo'i hun yn gwireddu'r ffaith. Mae pobl yn diffinio'u hunaniaeth eu hunain, wedi'r cyfan. Ond fel rwyf wedi'i ddweud dro ar ôl tro ar y blog hwn, cysyniad ideolegol yw crefydd. Nid oes rheswm o gwbl i drin crefydd yn gyffredinol, heb sôn am un grefydd benodol, yn wahanol i syniadau gwleidyddol megis Marcsiaeth neu geidwadaeth. Mae angen dymchwel y pedestal y mae cymdeithas yn mynnu gosod crefydd arno, a chael gwared ar y ffug-barchusrwydd anhaeddiannol y rhoddir iddi. Ni ddylai unrhyw syniadau fod yn imiwn rhag beirniadaeth na dychan.

Cŵyn berthnasol ychwanegol yw bod angen i ddychan anelu tuag i fyny, a herio'r sawl sydd â grym. Yr awgrym yw bod tynnu coes Mohamed druan yn enghraifft o anelu am i lawr, gan sathru ar fwslemiaid difreintiedig sy'n dehongli'r peth fel ymosodiad personol ar leiafrif. Efallai bod modd dadlau mai taro i fyny a wna'r dychanu gorau. Ond rwy'n gwrthod y syniad bod anelu i lawr yn hollol annilys. Dylai fod yn ddigon i'r targed fod yn abswrd. Ac mae islam, a'r holl lol am Fohamed, yn hollol abswrd. A beth bynnag, awgrymaf ei fod yn deg dweud mai anelu i fyny y mae Charlie Hebdo wrth gyfeirio at yr eithafwyr arfog a laddodd eu cyfeillion, ac sy'n arddel trais fel modd o orfodi eraill i ufuddhau i'w gofynion.

Yr unig reswm y mae hyn i gyd yn ddadleuol yn achos islam yw oherwydd bod cymaint o ffyddloniaid y grefydd honno'n bygwth trais yn erbyn unrhyw un sy'n eu hypsétio. Mae gwirfoddoli i fod yn wystlon i sensitifrwydd eithafwyr treisgar yn syniad syfrdanol o dwp. Yn syml iawn, nid yw'r sensro yma'n digwydd yn achos Cristnogaeth, a da hynny. Ond y ffordd i gysoni pethau yw i drin islam yr un fath ag yr ydym yn trin pob crefydd arall, nid fel arall. Os nad ydych wedi'ch argyhoeddi eto, ystyrier bod ceidwadwyr Cristnogol yn America eisoes wedi llwyddo i ddefnyddio helynt Charlie Hebdo i orfodi'r Associated Press i dynnu llun o'r Piss Christ i lawr. Dylem fod yn onest: roedd ganddynt bwynt, gan fod gan yr AP bolisi o beidio dosbarthu lluniau o Fohamed. Rhagrith a safonau dwbl yw trin y ddau achos yn wahanol. Rhaid eu trin i gyd yr un fath. Fel arall, y neges fawr i Gristnogion y byd yma yw bod angen iddynt ail-afael â dulliau treisgar.

Mewn ffordd, mae gennyf fwy o barch tuag at gyhoeddwyr a golygyddion sy'n cyfaddef yn agored mai pryderon am ddiogelwch sydd wrth wraidd eu penderfyniad i beidio atgynhyrchu'r delweddau. O leiaf mae hynny'n onest. Rhag cywilydd, fodd bynnag, ar y sawl sy'n dyfeisio ffug-esgusodion hanner-pan am ryw ddymuniad i 'osgoi peri loes'. Y gwir amdani yw ei bod yn amhosibl adrodd stori fawr yr wythnos ddiwethaf heb ddangos yr hyn sydd wedi ysgogi'r holl helynt. Mae unrhyw bapur newydd neu raglen newyddion sy'n gwrthod dangos y cartwnau yn euog o roi darlun pathetig o anghyflawn i'w darllenwyr a'u gwylwyr. Nid yw'n bosibl deall beth sy'n digwydd hebddynt.

11/01/2015

Simon Brooks: Rhyddid Barn a'r Wasg Gymraeg

Mae'r hen gwestiwn ynghylch islam a rhyddid mynegiant wedi codi'i ben mewn modd erchyll eto dros y dyddiau diwethaf, yn dilyn cyflafan yn swyddfa'r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo ym Mharis. Bydd gennyf lawer i'w ddweud yn fuan am yr helynt, a'r ymateb iddo'n benodol. Yn y cyfamser, rwy'n hapus i gyhoeddi'r neges isod gan Simon Brooks, ac erthygl berthnasol iawn o'i eiddo a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2006:

Pan gafwyd helynt yn 2006 ynglŷn â phenderfyniad y papur newydd Daneg Jyllands-Posten i gyhoeddi cartwnau o’r Proffwyd Mohamed, lledodd y ffrae i’r Gymru Gymraeg. Ail-gyhoeddwyd y cartwnau mewn papurau ar gyfandir Ewrop, ond nid yng ngwledydd Prydain ac eithrio, yn od iawn, mewn dau gylchgrawn Cymreig, Gair Rhydd a’r Llan, cyfnodolyn yr Eglwys yng Nghymru. Ond gorchmynnwyd fod rhifynnau perthnasol y ddau gylchgrawn hwnnw yn cael eu dinistrio, penderfyniad a groesawyd gan y sefydliad Cymreig yn ei gyfanrwydd. Gwrthwynebais hyn mewn erthygl olygyddol yn Barn ym mis Mawrth 2006, fel y gwnaeth Siôn Jobbins yntau yn y cylchgrawn Cambria ychydig wedyn. Er hynny, ni ymddangosodd y cartwnau yn Barn na Cambria ychwaith.

Ailgyhoeddir erthygl olygyddol Barn isod er mwyn ceisio ysbarduno trafodaeth yn Gymraeg. Ailgyhoeddwyd yr erthygl cyn hyn yn fy llyfr, Yr Hawl i Oroesi, yn 2009, ond nid yw ar gael yn ddigidol, ac yn ddigidol erbyn hyn mae llawer o drafodaethau’n digwydd.

Rwy’n hynod ddiolchgar i Dylan Llŷr am ganiatáu imi ailgyhoeddi’r erthygl ar ei wefan. – Simon Brooks, 11 Ionawr 2015

Wyneb Mohamed

Mae’r cartwnau enwog o Mohamed yn gorwedd ar fy nesg. Pan welais y dychanlun o’r Proffwyd ar dudalen flaen Die Welt, mewn siop papurau yng Nghaernarfon, prynais gopi heb feddwl ddwywaith. Efallai bod The Guardian yn rhy smyg i gredu mewn rhyddid barn bellach, ond mae modd cael gafael ar y wasg Ewropeaidd yn y rhan fwya’ o drefi yng Nghymru heddiw, a diolch byth am hynny.

Rwy’n gwbl glir fy meddwl nad oedd y papur newydd Daneg Jyllands-Posten wedi gwneud cam wrth gomisiynu deuddeg cartŵn yn arddangos wyneb Mohamed. Roedd penderfyniad papurau newydd cyfrifol ar dir mawr Ewrop – megis y Frankfurter Allgemeine Zeitung, Libération ac El Mundo – i’w hailgyhoeddi yn angenrheidiol hefyd yn wyneb hysteria. Ond nid ymddangosodd y cartwnau hyn yn yr un cyhoeddiad print yng ngwledydd Prydain, ac eithrio’r papur myfyrwyr Gair Rhydd. Ac o fewn ychydig oriau i Gair Rhydd weld golau dydd, roedd Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi rhoi sac i’r golygydd, a phwlpio’r rhifyn.

Wele felly wasg rydd wedi’i sensro ym Mhrydain, am y tro cynta’ efallai ers y dyddiau rheiny pryd y penderfynodd Thatcher na chaem glywed llefarwyr Sinn Féin. Mae’n eironig a dweud y lleia’ bod cyfyngiadau hanesyddol ar ryddid barn megis gyda rhywioldeb, y frenhiniaeth neu wleidyddiaeth wedi eu trechu, dim ond i rai newydd gael eu gosod yn eu lle. Mae’n fwy eironig byth mai’r sefydliad rhyddfrydol sydd wedi rhoi sêl ei fendith ar y sensoriaeth newydd hwn. Ond ni fydd neb yn synnu mai’r ceffyl pren Troeaidd yn hyn o beth yw cywirdeb gwleidyddol, un o afiechydon mawr ein hoes.

‘The insensitive actions of a few individuals should not, and will not, stop the atmosphere of respect and tolerance that exists at the university,’ meddai Cadeirydd Ffederasiwn Cymdeithasau Islamaidd Myfyrwyr Cymru wrth gollfarnu Gair Rhydd ar ran Mwslemiaid Prifysgol Caerdydd. Dyma ddefnydd dichellgar, dauwynebog o rethreg gynhwysol y gymdeithas amlddiwylliannol. Sylwer fel y defnyddir ‘insensitive’ ganddo i olygu ‘annerbyniol’, ‘respect’ i olygu ‘sensoriaeth’ a ‘tolerance’ i olygu ‘cau ceg’. Prifysgol o bob man yn methu â chaniatáu rhyddid barn!

Oes ’na rywbeth yn bod ar Islam felly, ac a oes gennym ni hawl i’w feirniadu? Mae digwyddiadau yr wythnosau diwetha’ wedi dangos yn go glir nad ydy Islam fel pe bai’n deall mai seciwlariaeth mewn bywyd cyhoeddus yw un o gonglfeini bywyd Ewrop. Nid yw hyn yn golygu y dylai fod unrhyw wrthwynebiad i Islam mewn bywyd preifat. Yr hawl i ffydd, yr hawl i addoli, yr hawl i addoldai: dyma rai o’r hawliau dynol mwyaf sylfaenol. A’r hawl hefyd i fynegi barn heddychlon ynghylch cabledd, ac i brotestio yn ei erbyn os dymunir.

Ond cyn belled â bod cyfraith a threfn dan ystyriaeth, cymdeithas seciwlar ydy hon, ac mae gennym bob hawl i’w chadw felly. Yma fe ymddengys bod y Gorllewin ac Islam yn bodoli ar ddwy blaned wahanol. Yn y ddeunawfed ganrif y cafwyd y chwyldro mewn athroniaeth Ewropeaidd a olygodd fod mwy o fri yn cael ei roi ar reswm a rhesymeg mewn gwleidyddiaeth nag ar orchmynion offeiriaid. A’r gwir amdani ydy mai un o’r prif resymau dros y diffyg amgyffred presennol rhwng y Gorllewin ac Islam ydy na phrofodd y byd Islamaidd yr Oleuedigaeth honno. Bydysawd oligarchaidd yn anffodus yw’r byd Islamaidd o hyd.

Er gwaetha’ honiadau ffôl rhai Mwslemiaid mai mater o ragfarn hiliol yw dymuno cyhoeddi’r cartwnau hyn, does gan neb – heblaw efallai am y BNP – mo’r mymryn lleia’ o ddiddordeb mewn defnyddio cabledd gwrth-Islamaidd fel ffon i guro lleiafrif ethnig. Yr hyn a gawn yn dramgwyddus, yn hytrach, ydy’r ensyniad na ellid caniatáu bellach drafodaeth ar grefydd.

At hyn hefyd, wrth gwrs, bu golygfeydd cywilyddus yn Llundain pryd y bu Islamiaid eithafol yn galw am ddienyddio newyddiadurwyr a chartwnwyr. Nid chwarae bach yw’r bygythiadau hyn, wrth gwrs. Gorfodwyd Salman Rushdie gan fatwa i guddio am flynyddoedd maith. Yn yr Iseldiroedd, llofruddiwyd cyfarwyddwr ffilm, Theo van Gogh, am feirniadu Islam.

Roedd fy mhenderfyniad fel Golygydd Barn o ran y cartwnau hyn yn un digon hawdd felly. Roeddwn yn dymuno eu cyhoeddi. Nid er mwyn dathlu cabledd, ond er mwyn gwrthsefyll yr Islamiaid eithafol sy’n dewis cefnogi’u bydolwg crefyddol gyda bygythiadau o drais a llofruddiaeth.

Ac eto, ni welwch yn Barn yr un o’r cartwnau yma. Pam hynny? Yn ddigon syml, cachgïaeth. Mae’n well bod yn onest am hyn yn hytrach na bychanu deallusrwydd pawb. Trwy Brydain benbaladr mae golygyddion yn llawn ofn. Ac nid wyf yn eithriad.

Wrth gwrs mae peidio â chyhoeddi’r cartwnau hyn yn datgan buddugoliaeth trais a therfysgaeth dros werthoedd cymdeithas wâr. Mae’n golygu nad yw rheolaeth y Gyfraith yn ddigon cryf ym Mhrydain bellach i warantu rhyddid y wasg. Mae hyn yn drychineb i ni i gyd. Ond byddai cyhoeddi’r cartwnau hyn yn rhy beryglus. Am y tro cyntaf ym Mhrydain ers tri chan mlynedd a mwy, dedfryd o farwolaeth yw’r gosb am feirniadu crefydd. Rhag eu cywilydd yr Islamiaid eithafol sy’n peri hyn, a rhag eu cywilydd hefyd bawb sy’n gwneud esgusodion drostyn nhw.

17/07/2014

Un ateb olaf

Mae'n ofer ceisio dal pen rheswm ag Alwyn, felly rwyf wedi rhoi'r gorau i drafferthu ers talwm. Eto i gyd, rwyf newydd sylwi iddo adael sylw dwl arall ar y blog yn ddiweddar ac rwyf am lyncu'r abwyd un tro bach olaf. Once more unto the breach, dear friends, once more. Gydag ochenaid ddofn, dyma ddyfynnu'r sylw:
Mae 'na gwirionedd yn yr hen ddweud "y rhai sy'n curo sy'n caru". I gasáu rhywbeth mae'n rhaid buddsoddi rhywfaint o emosiwn a theimlad iddi, yn yr un modd a mae'n rhaid buddsoddi mewn cariad.

Tybiwn bod 90% o "anghredinwyr" jyst dim yn credu a dyna fo; nid oes gyda nhw barn am grefydd gan bod crefydd yn dibwys iddynt; dydy o ddim yn effeithio ar eu bywydau, dydy o ddim yn bwysig, prin ei fod yn croesi eu meddyliau. Mae nhw'n mynd i gapel neu eglwys i ddathlu bedydd, priodas neu i goffa er mwyn parch i'r teulu heb malio dim am y geiriau na'r defod.

Yr wyt ti, ar y llaw arall, wedi postio tua 5 post y mis am 4 mlynedd yn gwrthwynebu crefydd, yr wyt ti'n buddsoddi emosiwn i fewn i dy anffyddiaeth, difyr byddid gwybod be sy'n gyfrifol am y fath buddsoddiad!

Rwy'n gwybod bydd y sylw yma'n cael ei ddileu, fel mae sylwadau pawb sy'n anghytuno a thi wedi eu dileu. Peth difyr ynddo'i hyn. Pam dy fod mor ansicr o dy ymrwymiad emosiynol i anffyddiaeth, dy fod yn methu goddef gwrthwynebiad iddi?
Diffyg hunan-ymwybyddiaeth llwyr, siwr o fod, sydd i gyfrif am y modd y mae Alwyn yn cyfystyru fy niffyg amynedd ag o'n benodol gydag "anoddefgarwch" yn erbyn pawb sy'n anghytuno â mi'n gyffredinol. Nid yw Alwyn yn cynrychioli pawb sy'n anghydweld â'r blog hwn, diolch byth. Rwy'n hapus i drafod ac anghytuno ag unrhyw un sy'n meddu ar y gallu i ddarllen a deall, ac rwyf wedi gwneud hynny. Nid yw Alwyn ymhlith y fath bobl, dyna i gyd.

Nid oes angen i mi gyfiawnhau fy mlogio iddo nac i neb arall, ac rwyf wedi amlinellu fy nghymhelliad o'r blaen, ond waeth i mi egluro eto. Yn gyntaf, diddordeb pur. Yn syml iawn, rwy'n ymddiddori yn y dadleuon athronyddol, gwyddonol a hanesyddol ynghylch absenoldeb duw. Ond hobi deallusol pur fyddai hynny pe na bai crefydd yn mynnu sathru ar draed pawb arall. Mae'n bur debyg na fuaswn i'n blogio am y stwff yma oni bai am y ffordd y mae crefydd yn ymyrryd â'n hawliau. Lle mae dadlau ynghylch unrhyw fater cymdeithasol, gallwch fentro bod crefydd yn flaenllaw iawn ar yr ochr anghywir. Mae'r rhestr yn faith: yr hawl i farw, rheolaeth menywod dros eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain, hawliau pobl hoyw, yr hawl i ymarfer rhyddid mynegiant trwy ddychan ac yn y blaen ac yn y blaen hyd syrffed. Nid yw'r rhan fwyaf o'r rhain yn effeithio arnaf yn uniongyrchol; nid wyf yn fenyw na'n hoyw nac, ar hyn o bryd o leiaf, yn dioddef o afiechyd annioddefol. Ond rwy'n dadlau'n chwyrn o'u plaid oherwydd rwy'n gyndyn mai dyna'r peth moesol i'w wneud. Rwy'n arddel safbwyntiau cymdeithasol rhyddfrydol cryfion, ac ym mron pob achos, crefydd yw'r gelyn pennaf. Er mwyn hyrwyddo safbwyntiau cymdeithasol moesol, mae rhaid trechu'r hyn sy'n sefyll yn eu ffordd, a'r ffordd orau o wneud hynny yw trwy herio crefydd yn ei chyfanrwydd.

Nid gwahoddiad i drafod ymhellach mo hyn gyda llaw, Alwyn. Does dim byd mwy i'w ddweud. Hwyl.

19/11/2012

Hiliaeth amrwd ar S4C

Darlledwyd Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc ar S4C nos Sadwrn. Yn anffodus, er yr holl dalent a geir yn y cystadlaethau canu a barddoni ac ati, mae'n anodd gwadu mai'r hyn sy'n nodweddu'r Eisteddfod yma fwy na dim yw'r 'hiwmor' ofnadwy. Efallai mai hen-ffasiwn fyddai'r disgrifiad caredicaf.

Rydym wedi hen arfer â'r rhywiaeth plentynnaidd (dynion mewn bronnau plastig ac ati), ac fe gafwyd cryn dipyn o hynny eleni eto. Hyd y gwn, fodd bynnag, mae'r isod yn plymio dyfnderoedd newydd:


I grynhoi'r 'ddeuawd ddoniol' yma, cafwyd portreadau o ddau ddyn o China mewn bwyty takeaway sy'n gwenwyno'u cwsmeriaid cyn ffoi'r wlad pan ddaw eu visas i ben. Dyna hiliaeth ystrydebol o'r math mwyaf amrwd. Roedd eitemau gwarthus eraill hefyd, ond yr uchod oedd y gwaethaf.

Mae'n destun embaras bod y fath beth wedi'i ddarlledu'n fyw ar S4C ar nos Sadwrn. A bod yn onest, rwy'n sicr bod deunydd sgandal andwyol i'r sianel yma: petai un o bapurau newydd Lloegr yn sylwi a'n dewis adrodd yr hanes (mae llawer o ladd wedi bod ar S4C am resymau eraill yn ddiweddar, wedi'r cyfan), rwyf wir yn meddwl y gallai beryglu ei bodolaeth. Byddai'r fath stori'n fêl ar fysedd ei gelynion. Mae'n rhaid i'r sianel droedio'n ofalus, a hoffwn feddwl y byddai staff S4C wedi hepgor y darn yma petaent wedi gwybod amdano o flaen llaw. Ond tybed? Maent wedi tynnu'r rhaglen oddi ar Clic am y tro, o leiaf.

Beth bynnag am hynny, dylai'r ffaith i'r eitem uchod ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth fod yn destun dychryn. Nid eithriad ymylol i bellhau oddi wrtho mo hyn, yn amlwg, eithr yr union fath o beth a glodforir o fewn y diwylliant yma. Mae rhywbeth mawr yn bod.

Trafodwyd yr helynt ar raglen Taro'r Post ar Radio Cymru heddiw (gallwch wrando ar y rhaglen am yr wythnos nesaf). Siaradodd Cris Dafis a Malan Wilkinson yn gall iawn. Yn anffodus, roedd yn ddigalon clywed cymaint o negeseuon yn cefnogi'r eitemau a'n dweud bod angen i Cris a Malan "get a life". Roedd llawer yn methu'r pwynt yn llwyr gan bwysleisio na fwriadwyd unrhyw falais o gwbl, fel petai hynny'n berthnasol. Fel y dywed Cris, nid oes angen i hiliaeth ddiferu â chasineb. Y ddadl amddiffynnol amlycaf oedd mai 'bach o hwyl' ydoedd, fel petai'n amhosibl dweud pethau hiliol trwy'r fath gyfrwng.

Ambell dro, bydd y cyfraniadau a geir ar raglenni fel Taro'r Post yn awgrymu bod yna elfen gref adweithiol a chul yn llechu yn y Fro Gymraeg wledig o hyd. Er cymaint yr hoffem dybio bod dadleuon fel hyn wedi'u hennill rhyw dro tua diwedd yr 1970au, mae'n amlwg bod llawer iawn o Gymry ar ei hôl hi'n ddifrifol. Os yw honni'r fath beth yn fy ngwneud yn snob elitaidd, yna rwy'n ymfalchïo'n y label. Os mai lol fel hyn yw adloniant traddodiadol Cymraeg, brysied ei dranc.

Mae llawer wedi ceisio gwneud cymhariaethau â rhaglenni fel Little Britain. Fel y dywed Cris eto, fodd bynnag, ac fel mae teitl y gyfres yn ei awgrymu, rhagfarn ei hun yw targed y dychan yn y rhaglen honno. Fel mae'n digwydd, nid wyf yn credu ei bod yn llwyddiannus bob tro yn hynny o beth, ond mater arall yw hynny. Nid wyf wedi gweld unrhyw un yn ceisio honni mai'r hyn yw sgets uchod y ffermwyr ifanc o Ddyffryn Cothi yw meta-gomedi eironig hynod ddeallus a chynnil sy'n gwneud hwyl o'r ystrydebau hiliol eu hunain. Byddai'n amhosibl cymryd y fath berson o ddifrif, mae gennyf ofn.

Mae yna lawer iawn mwy i'w ddweud am hyn, ac fel mae'n digwydd rwyf wedi ystyried ysgrifennu am y berthynas rhwng eironi a chomedi (yn achos digrifwyr fel Jimmy Carr neu Frankie Boyle, er enghraifft) ers talwm. Bydd yr helynt yma'n ysgogiad i fynd ati'n fuan (rhagflas: weithiau mae pledio eironi'n rhoi'r gorau i argyhoeddi. Rwy'n credu bellach bod gan Carr broblem gwirioneddol â merched, a bod llawer o stand-up cyfoes yn adweithiol).

Ta waeth. Gan fod y blog hwn wedi meithrin cryn ddiddordeb ym mater rhyddid mynegiant, hoffwn fodloni'r cais yma:
Ni ddylid gwahardd unrhyw beth fan hyn. Mawr obeithiaf nad oes unrhyw un wedi camddeall, ond hoffwn wneud fy hun yn berffaith glir beth bynnag: dylai fod gan bawb yr hawl i wisgo i fyny fel caricatures ystrydebol a gwneud jôcs dwl a hynny heb ymyrraeth gan unrhyw un.

Mae dau gamargraff ynghylch rhyddid mynegiant sy'n fy ngwylltio. Rwyf wedi trafod un ar y blog hyd syrffed: nid ystyr rhyddid mynegiant yw'r hawl i beidio cael eich beirniadu. Rhywbeth arall nad yw rhyddid mynegiant yw'r hawl i ddisgwyl bod pobl eraill yn darparu'ch platfform. Nid yw rhyddid mynegiant yn golygu bod rhaid i S4C eich darlledu'n fyw ar nosweithiau Sadwrn. Os yw'r CFfI eisiau parhau i lwyfannu pethau fel hyn, ni ddylai unrhyw un eu rhwystro. Ond byddai'n ddoeth i S4C sicrhau nad oes ganddi gamera'n agos i'r lle. Nid oes unrhyw un wedi cwyno wrth yr heddlu am yr hyn a welwyd nos Sadwrn, hyd y gwn, ac mae hynny'n beth da. Mae rhyddid mynegiant pawb yn saff a chyfan yn yr achos yma, o leiaf. Awgrymaf bod ein sianel cenedlaethol yn cymryd mwy o ofal yn y dyfodol, dyna i gyd.

27/07/2012

Maer Chicago'n dangos y ffordd anghywir o hyrwyddo cydraddoldeb

Mae yna gwmni 'bwyd sydyn' yn America o'r enw Chick-fil-A sy'n agored iawn am eu daliadau cristnogol asgell-dde. Nid yw'n gyfrinach bod y rheolwyr yn rhoi arian i sefydliadau crefyddol, gan gynnwys rhai sy'n brwydro i rwystro pobl gyfunrywiol rhag mwynhau hawliau cyfartal. Mae'r ffaith yma wedi cael ychydig mwy o sylw'n ddiweddar, wrth i ymgyrchwyr o blaid hawliau sifil drefnu boicot yn erbyn y cwmni. Rwy'n cefnogi'r ymgyrchwyr yma; pan fyddaf yn mynd ar wyliau i America y flwyddyn nesaf, ni fyddaf yn tywyllu un o'u bwytai os digwydd i mi daro ar draws un.

Yn anffodus, mae Rahm Emanuel wedi mynd yn rhy bell o lawer. Emanuel yw maer Chicago, ac mae wedi mynegi ei fwriad i rwystro'r cwmni rhag ehangu ymhellach yn y ddinas. Gwrthwynebiad y cwmni i briodasau cyfartal oedd ei gyfiawnhad. Er fy mod yn cytuno'n chwyrn bod y safbwynt hwnnw'n erchyll, mae sylwadau Emanuel yn anghyfrifol ac anfoesol. Nid dyma sut y dylid brwydro'n erbyn rhagfarn.

Y gwir brawf o gefnogaeth person i'r egwyddor o ryddid mynegiant yw sut y maent yn ymateb i farn y maent yn anghytuno'n chwyrn â hi. Os mai'r cyfan yw rhyddid mynegiant yw'r hawl i leisio safbwyntiau y mae'r person hwnnw'n eu rhannu, nid rhyddid mynegiant a geir wedi'r cwbl. Os cefnogi hawl Mr Emanuel i ddefnyddio grym y wladwriaeth i gosbi cwmni masnachol am safbwyntiau gwleidyddol ei rheolwyr, er cysondeb rhaid hefyd cefnogi hawl dinas yn ne geidwadol y wlad (dyweder) i gosbi cwmni sy'n cefnogi hawliau cyfartal. Byddai'r un bobl sy'n cefnogi Emanuel heddiw yn cwyno'n syth yn yr achos hwnnw, ond nid oes modd ei chael hi'r ddwy ffordd. Yr holl reswm y mae angen rhyddid mynegiant yn y lle cyntaf yw nad oes modd teg i'r llywodraeth farnu beth sy'n dderbyniol neu'n annerbyniol.

Dylid pwysleisio nad oes tystiolaeth bod Chick-fil-A'n gwahaniaethu'n erbyn pobl gyfunrywiol, er enghraifft trwy wrthod eu cyflogi. Petai hynny'n wir, byddai pethau'n wahanol. Y cyfan sydd yma yw lleisio barn (ac ariannu sefydliadau sy'n hyrwyddo'r farn honno). Mae'n iawn bod gan aelodau o'r cyhoedd berffaith hawl i ymgyrchu'n erbyn cwmni o'r fath (ac yn erbyn cwmni sy'n cefnogi hawliau cyfartal hefyd, os mai dyna'u dymuniad), ond ni ddylai fod gan y wladwriaeth unrhyw rôl i'w chwarae o gwbl.

Un o ganlyniadau mwyaf rhwystredig straeon fel hyn yw eu bod yn fy ngorfodi i gymryd ochr y ffyliaid rhagfarnllyd. Nid yw hynny'n rhoi unrhyw bleser i mi o gwbl. Am unwaith, pan fydd cristnogion eithafol Americanaidd yn cwyno bod y wladwriaeth yn ymosod ar eu hawliau, bydd ganddynt bwynt. Mae'r maer wedi cymryd cam gwag anferth. Mae'n anfoesol, ond mae hefyd yn gamgymeriad strategol, gan fwydo naratif ei wrthwynebwyr (fel arfer, rhaid iddynt raffu celwyddau er mwyn cynnal eu persecution complex). Dylai Rahm Emanuel ymddiheuro.

17/01/2012

Bwlis islamaidd yn rhwystro rhyddid barn

Rwyf wedi trafod yn ddiweddar ffenomen ryfeddol, sef y ffaith bod cynifer o bobl yn credu bod anghytuno â rhywun rhywsut yr un peth ag atal eu hawl i fynegi barn. Er mwyn dangos eto pam mae hynny mor ddwl, rwyf am dynnu sylw at achos gwirioneddol o'r hawl hwnnw'n cael ei sathru dan draed. Gweler y ddwy erthygl yma hefyd.

Roedd trafodaeth am gyfraith sharia ar fin dechrau mewn darlithfa yn Queen Mary College yn Llundain, wedi'i threfnu gan y Queen Mary Atheism, Secularism and Humanism Society. Roedd digon o bobl seciwlar a mwslemaidd fel ei gilydd wedi mynychu ac fe ddichon bod bron pawb yn barod am dipyn o drafod - ac efallai, hyd yn oed, mymryn o anghytuno - cwrtais a phwyllog. Gallaf yn hawdd ddychmygu y byddai wedi bod modd cynnal y drafodaeth honno heb grybwyll y proffwyd Mohammed o gwbl, ac mae'n berffaith bosibl mai dyna beth fyddai wedi digwydd yn ddigon parchus (nid yw hyn yn bwynt pwysig iawn, ond mae'n gwneud yr hyn sy'n dilyn gymaint â hynny'n fwy gwallgof).

Yn anffodus, yng ngeiriau llywydd y gymdeithas uchod, dyma a ddigwyddodd nesaf:
"Five minutes before the talk was due to start a man burst into the room holding a camera phone and for some seconds stood filming the faces of all those in the room. He shouted ‘listen up all of you, I am recording this, I have your faces on film now, and I know where some of you live’, at that moment he aggressively pushed the phone in someone’s face and then said ‘and if I hear that anything is said against the holy Prophet Muhammad, I will hunt you down.’ He then left the room and two members of the audience applauded.

"The same man then began filming the faces of Society members in the foyer and threatening to hunt them down if anything was said about Muhammad, he added that he knew where they lived and would murder them and their families. On leaving the building, he joined a large group of men, seemingly there to support him. We were told by security to stay in the Lecture Theatre for our own safety. On arriving back in the room I became aware that the doors that opened to the outside were still open and that people were still coming in. Several eye witnesses reported that when I was in the foyer a group of men came through the open doors, causing a disruption and making it clear that the room could not be secured. Unfortunately, the lack of security in the lecture theatre meant we and the audience had to leave and a Union representative informed the security that as students’ lives had been threatened there was no way that the talk could go ahead.

"This event was supposed to be an opportunity for people of different religions and perspectives to debate, at a university that is supposed to be a beacon of free speech and debate. Only two complaints had been made to the Union prior to the event, and the majority of the Muslim students at the event were incredibly supportive of it going ahead. These threats were an aggressive assault on freedom of speech and the fact that they led to the cancellation of our talk was severely disappointing for all of the religious and non-religious students in the room who wanted to engage in debate."
Rhaid oedd gohirio'r drafodaeth oherwydd nid oedd modd sicrhau diogelwch y bobl a oedd yno.

Efallai fy mod yn unigryw yn hyn o beth, ond ers darllen am y digwyddiad yma'n gynharach heddiw rwyf wedi bod yn breuddwydio (neu'n ffantasïo) am yr hyn y buaswn i wedi hoffi ei ddweud neu ei wneud pe buaswn wedi digwydd bod yno fy hun. Rwy'n rhoi fy hun yn esgidiau pwy bynnag gafodd y camera yn eu gwyneb, ac rwy'n dychmygu syllu i mewn iddo'n bwyllog a dweud rhywbeth fel hyn: "you mean something like this? "Mohammed was just another medieval mystic and paedophile"".

Wrth gwrs, dim ond yn fy nychymyg fy hun y mae'r Dylan dewr ac arwrol yna'n bodoli. Gallaf eich sicrhau mai ymateb tebygol y Dylan go iawn fyddai llyncu poer yn ofnus a distaw, ac efallai llenwi trôns. Beth bynnag, mae'r dyn wedi hen ddangos eisoes ei fod yn boncyrs; ni fyddai'n syndod petai ganddo arf o rhyw fath wedi'i guddio'n rhywle, a chreadur digon tila ydwyf yn y bôn.

Fel y nodwyd, rhaid oedd penderfynu mai'r peth saffaf fyddai peidio trafod y pwnc o gwbl. Y pwynt trychinebus felly yw bod bwlio a chodi braw ar bobl yn gweithio. Mae'n dacteg effeithiol er diben tawelu beirniadaeth, a dyma pam mae angen gwawdio pawb sy'n ei defnyddio. Ni ddylid ildio na thawelu na rhoi unrhyw fai o gwbl ar y sawl sy'n beirniadu. Mae'n anfaddeuol felly mai ymateb cyntaf aelod o staff diogelwch y brifysgol oedd "If you will have these discussions, what do you expect?". Mae hynny'n dwyn i gof ymatebion tebyg ond rhy gyffredin o lawer yn ystod saga Salman Rushdie ym 1989 a'r cartwnau Danaidd yn 2005, gan gynnwys datganiadau o eiddo llywodraeth Prydain. Ymatebion llipa a phathetig o'r fath sy'n rhoi anogaeth i eithafwyr ddefnyddio trais a bygythiadau yn y lle cyntaf. Os mai osgoi gwylltio ac ypsétio pobl yw'r amcan, yna mae synnwyr yn dweud mai po fwyaf y mae'r bobl yna'n gwylltio ac ypsétio, po leiaf o bethau derbyniol y mae modd i bawb arall eu dweud. Mae hynny'n golygu bod gan radicaliaid crefyddol gymhelliad i fanteisio ar bob hanner-cyfle i wylltio, er mwyn sathru ar bob barn sy'n mynd yn groes. Mae gwirfoddoli i fod yn wystlon i sensitifrwydd y ffyliaid yma'n syniad uffernol.

Dyma ddangos yn gwbl glir felly ei bod yn hanfodol nad oes unrhyw syniadaeth o gwbl yn cael ei rhoi ar bedestal: rhaid pwysleisio bod pob safbwynt yn darged dilys ar gyfer beirniadaeth. Mae hyn hefyd yn tanlinellu pam mae cymaint o angen cableddu a dychanu delwedd Mohammed. Pe na bai yna bobl yn bodoli sy'n mynnu'r hawl i orfodi pawb arall i gydymffurfio â rheolau twp eu crefydd, yna iawn, o'r gorau, hwyrach fe fyddai braidd yn od a di-angen gwneud hwyl am eu credoau i'r fath raddau. Mae'r ffaith bod pobl yn gwneud pethau fel yr uchod, fodd bynnag, yn ei wneud yn angenrheidiol. Hynny yw, yr ymateb gorau i unrhyw un sy'n bygwth ein hawl i ddweud pethau yw i ddweud y pethau hynny'n uwch. Nid oes angen cytuno â'r farn er mwyn dangos cefnogaeth yn hynny o beth. Er enghraifft, petai rhywun yn cael ei rwystro rhag llosgi baner Cymru, am ba bynnag reswm, byddai hynny'n reswm da i bawb sy'n caru rhyddid mynegiant amddiffyn ei hawliau trwy losgi baneri eu hunain er mwyn gwneud pwynt, hyd yn oed os yw'r weithred yn un na fyddent yn dychmygu ei wneud am eiliad fel arall.

O'm rhan i, ni fuaswn yn gweld angen galw Mohammed yn bidoffeil oni bai fy mod wedi cael fy mhryfocio'n gyntaf; er bod y ffaith yn berffaith wir, nid yw'n berthnasol lle mae athrawiaeth islamaidd yn y cwestiwn. Ond yr egwyddor pwysig yw bod gennyf berffaith hawl i ddweud pethau o'r fath heb orfod dioddef bygythiadau. Y rheol euraidd yw hyn: nid oes gan unrhyw un yr hawl i beidio gael eu hypsétio. Os yw geiriau angharedig am Mohammed yn eich brifo, peidiwch â chymryd sylw, neu defnyddiwch eich llais eich hunain er mwyn anghytuno. Ni ddylai tawelu'r siaradwr fod yn ddewis.

Y gobaith mawr yw bod rhywun o blith y gynulleidfa'n meddu ar feddwl chwim ac wedi gallu tynnu llun o'r bastard. Mae'n hanfodol ei garcharu; nid yw bygythiadau uniongyrchol a lloerig fel yma'n dderbyniol, wrth reswm. Mae unrhyw un sy'n methu â chondemnio'r coc oen yma'n hallt yn elyn i gymdeithas waraidd.

12/01/2012

Nid yw rhyddid barn yn gysyniad anodd

Mae'n rhyfeddol i mi cynifer o bobl sy'n camddeall yr hyn y mae rhyddid mynegiant barn yn ei olygu. Yn benodol, rwy'n ei chael yn anodd peidio sgrechian pan fydd rhywun â'r argraff bod rhyddid barn yn golygu'r hawl i ddweud pethau heb gael ymateb beirniadol.

Mae hyn wedi mynd ar fy nerfau erioed, ond yr achos diweddar sydd wedi sbarduno'r cofnod blog yma yw'r drafodaeth hon ar waelod adroddiad am sylwadau diweddar Alwyn yr Hen Rech Flin.

Fel mae'n siwr mae darllenwyr y blog hwn yn gwybod, fe gafwyd ymateb digon chwyrn i'r hyn a ddywedodd Alwyn ddau ddiwrnod yn ôl. Hynny yw, fe ddefnyddiodd Alwyn ei hawl i fynegi ei farn, ac fe ddefnyddiodd bron iawn y cyfan o'r we Gymraeg yr un hawl yn union er mwyn anghytuno ag ef. Eto i gyd, y sylw cyntaf a wnaethpwyd ar waelod y stori oedd y canlynol: "Beth ddigwyddodd i ryddid barn?"

Y cwestiwn amlwg yw pwy ar wyneb y ddaear sy'n rhwystro unrhyw un rhag mynegi barn yn yr achos yma? Mae gan yr Hen Rech bob hawl i ddweud yr hyn a ddywedodd ac mae perffaith hawl ganddo i barhau i fynegi union yr un dadleuon, a mwy, eto ac eto. Yn yr un modd, mae gan bawb arall yr hawl i fynd yn groes; dyna holl hanfod rhyddid barn fel egwyddor. Mae'r camargraff bod anghytuno â rhywun gyfystyr â'u sensro yn anhygoel o dwp a phlentynaidd, ond mae hefyd yn rhyfeddol o gyffredin.

Rwyf wedi dweud o'r blaen fy mod o'r farn y dylai rhyddid barn fod fwy neu lai'n absoliwt. Dyma pam rwy'n credu mai gwelliant cyntaf cyfansoddiad America yw un o'r darnau mwyaf goleuedig o unrhyw ddogfen lywodraethol neu ddeddfwriaethol a ysgrifennwyd erioed. Rwy'n edmygu ymdriniaeth America â hawliau mynegiant barn yn fawr iawn, ac rwy'n cenfigennu nad oes gennym yr un peth ar ochr yma'r Iwerydd. Mae "rhyddid" barn ym Mhrydain yn llawer llai rhydd o gymharu (gweler er enghraifft ddeddfau niwlog a pheryglus sy'n cosbi "mynegi casineb", beth bynnag yw hynny, yn ogystal â'r gyfraith enllib chwerthinllyd), ac mae'r sefyllfa'n gwaethygu'n hytrach na gwella.

Rwyf o'r farn y dylai rhyddid barn warchod yr hawl i ddatgan, yn gyhoeddus, fwy neu lai popeth o dan haul, gan gynnwys sylwadau hiliol a gwrth-gyfunrywiol ac yn y blaen, er eu bod yn wrthun i mi. Wrth reswm, fe groesir llinell os gwneir bygythiad uniongyrchol yn erbyn person arall, a dylai unrhyw un sy'n euog o hynny gael eu cosbi. Mae angen cyfraith enllib o fath hefyd wrth gwrs, er bod dirfawr angen diwygio'r system Brydeinig bresenol. Fel arall, fodd bynnag, rwy'n credu bod rhoi'r gallu i'r llywodraeth benderfynu beth sy'n dderbyniol i'w ddweud yn gyhoeddus yn gynsail peryglus sy'n gofyn am drafferth.

Dyma yw rhyddid barn go iawn. Dylai fod gan bobl berffaith hawl i ddweud pethau gwallgof, a rhaid i bawb arall gael yr hawl i ateb yn ôl. Pan fyddaf yn clywed rhywun yn gwichian am "ryddid barn" bob tro y mae rhywun yn cael ei feirniadu am ddweud rhywbeth, rwy'n teimlo temptasiwn i sgrechian a'u saethu. Ond mae'r egwyddor yma mor bwysig i mi, yn lle hynny rwy'n bodloni ar ddefnyddio fy hawl fy hun i fynegi fy marn trwy eu galw'n dwp ar fy mlog. Onid yw'n system fendigedig?

22/08/2011

Sut i beidio ymateb i erthyglau rhagfarnllyd gwrth-Gymraeg

Gair hwyr arall mae gen i ofn, gan fy mod wedi bod i ffwrdd am gyfnod. Fe gofiwch mae'n siwr i'r we Gymraeg ffrwydro mewn braw wythnos diwethaf ar ôl i'r Daily Mail gyhoeddi adolygiad gwenwynig o eiddo pric o'r enw Roger Lewis. Wrth feirniadu llyfr Jasper Rees - Bred Of Heaven - sy'n trafod ymdrechion hwnnw i ddod yn Gymro Cymraeg (yn ôl yr hyn a ddeallaf), mae Mr Lewis yn dweud pethau hynod anghynnes, rhagfarnllyd ac anwybodus am yr iaith a'i siaradwyr. Dyma flas:
I abhor the appalling and moribund monkey language myself, which hasn’t had a new noun since the Middle Ages — hence pwdin is pudding, snwcer is snooker, tacsi is taxi and bocsio is boxing.
Fel y dywedais, roeddwn ar fy ngwyliau ar y pryd ond fe sylwais ar hyn i gyd trwy gyfrwng fy ffôn symudol clyfar. Penderfynais y byddaf yn ysgrifennu mymryn am y peth ar ôl dod adref. Dyma eistedd lawr i'r perwyl hwnnw felly a sylwi bod Huw Prys Jones eisoes wedi dweud llawer o'r hyn oedd gen i mewn golwg mewn ysgrif craff ar Golwg 360.

Nid oes dwywaith bod yr adolygiad yn un hyll, a dylid ei gondemnio'n swnllyd a digyfaddawd. Nid oeddwn wedi clywed am Roger Lewis erioed o'r blaen (fe gymerodd eiliad neu ddwy cyn i mi sylweddoli mai Roger Lewis gwahanol oedd hwn, nid prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru), ac nid wyf wedi ffwdanu ei ymchwilio ymhellach, ond rwy'n ddigon cyfforddus yn seilio barn gynhwysfawr am y dyn ar sail yr un ysgrif yna ganddo. Sef ei fod yn goc oen afiach a thwp. Mae fwy neu lai'r cyfan o'r ymateb yn cytuno â mi, ac mae hynny'n dda ac iach.

Ond fel mae Huw Prys Jones yn ei ddweud, mae rhai wedi mynd yn rhy bell. Er enghraifft, mae aelod seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, wedi cwyno wrth yr Ysgrifennydd Cartref a Chomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu. Does gen i ddim syniad beth yn union y mae'n disgwyl i Theresa May ei wneud am y peth. Ac a bod yn onest, mae meddwl am yr heddlu'n ymyrryd yn y mater yn gwbl wrthun i mi. Mae rhyddid barn yn egwyddor cwbl hanfodol yn fy marn i, dim ots pa mor wrthun y (rhag)farn honno. Mae Simon Brooks yn gwneud y sylw ar waelod yr erthygl Golwg 360 bod gelynion y Gymraeg yn gwneud defnydd o'r prosesau cwynion yma er mwyn ymosod ar ymgyrchwyr iaith. Mae hynny'n wir ac mae'r pwynt yn un teilwng, ond awgrymaf y dylem godi uwchlaw tactegau o'r fath. Hwyrach bod hyn yn idealistig ar fy rhan i, ond fel rwy'n pwysleisio hyd syrffed ar y blog yma, mae'r syniad o ddefnyddio grym y wladwriaeth er mwyn rhwystro pobl rhag mynegi barn yn un rwy'n ei ystyried yn afiach.

Go brin y daw unrhyw beth o unrhyw ymchwiliad gan yr heddlu, ond yn ogystal â bod yn wrthun mae cwynion o'r fath yn gwneud i ni gyd edrych braidd yn hysteraidd. Dylid diystyru ceisio sensro pobl fel Mr Lewis fel ymateb synhwyrol felly. Mewn gwirionedd, tair dewis sydd gennym pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd: condemnio, yn flin a'n swnllyd; anwybyddu'r holl beth a pheidio rhoi ocsygen cyhoeddusrwydd i'r fath erthyglau; gwneud hwyl am ben y diawliaid dwl. Mae i bob un o'r opsiynau yma eu rhinweddau a'u ffaeleddau gwahanol, ac ni fanylaf ymhellach am hynny.

Hoffwn ddweud bod yna rai gwrth-ddadleuon penodol y dylid eu hosgoi'n gyfan gwbl, fodd bynnag. Bob tro y mae rhyw ffwl gwrth-Gymraeg yn dod i'r fei, ymateb llawer yw'r hen gliché hwnnw mai'r Gymraeg yw un o "ieithoedd hynaf Ewrop". Mae hwnna'n mynd ar fy nerfau'n llwyr. Nid yn unig y mae'n amherthnasol ond mae'n gwbl ddi-synnwyr a'n arddangos anwybodaeth lwyr am ieithyddiaeth. Ni welaf i sut mae awgrymu bod yr iaith Gymraeg wedi aros yn ei hunfan am amser hirach nag unrhyw iaith arall i fod i gefnogi'r ddadl drosti, hyd yn oed petai'r fath honiad yn wir yn y lle cyntaf. Mae pob iaith yn esblygu drwy'r amser, a chwbl oddrychol ac artiffisial yw'r ffiniau dychmygol hynny rhwng y Frythoneg, Hen Gymraeg a dyfodiad yr iaith a adwaenir heddiw fel "Cymraeg". Mae fel brolio bod eich teulu'n hŷn na theulu rhywun arall.

Yn ogystal, o bryd i'w gilydd fe gewch rhywun yn dadlau bod y Gymraeg ymysg ieithoedd harddaf y byd neu rhyw lol tebyg. Prin bod angen dweud bod hynny'n gwbl oddrychol. Mae pob iaith yn werthfawr a swynol yn ei ffordd ei hun. Hyd yn oed y Saesneg.

Annwyl garedigion y Gymraeg: osgowch y dadleuon yma, os gwelwch yn dda!

Yr hyn sydd yn amlygu'i hun yn ddi-eithriad yn achos ffyliaid fel Roger Lewis yw eu hanwybodaeth am eu hiaith eu hunain. Maent yn hoff iawn o wneud hwyl o eiriau Cymraeg fel "tacsi". Mae hynny'n arddangos diffyg hunan-ymwybyddiaeth chwerthinllyd, oherwydd wrth gwrs yr iaith Saesneg yw'r mwngrel pennaf un. Dydyn nhw wir heb ystyried mai geiriau yn deillio o'r un tarddiad Groegeg yw "tacsi" a "taxi" fel ei gilydd. Iddyn nhw, mae'r benthyciad Saesneg yn normal a'r un Cymraeg yn rhyfedd; yn wir, mae'n debygol nad yw'r posibilrwydd mai gair benthyg yw "taxi" wedi croesi eu meddyliau o gwbl. Fel mae'n digwydd, nid oes unrhyw dystiolaeth bod George Bush erioed wedi dweud "the problem with the French is that they don't have a word for entrepreneur", ond cyfeiriaf at y ffug-ddyfyniad hwnnw yma oherwydd mae'r un mor ddoniol a dwl â'r hyn y mae Mr Lewis wedi ei ddweud go iawn.
As Kingsley Amis, who lived in Swansea for many years, once said, can it be true that there are Welshmen who are genuinely puzzled by the letter x? Incidentally, pys is not what you’d think. It’s peas.
Druan ar Mr Lewis, a Kingsley Amis gynt, yn methu'n lân a deall bod ieithoedd gwahanol yn...wahanol. Digri dychmygu'r penbleth ar wyneb Mr Lewis pe byddech yn ceisio esbonio wrtho (gyda chymorth crayons, os oes angen) y byddai modd i Almaenwr ystyried siaradwyr Saesneg yr un mor od am fethu â deall y llythyren ß. Ac mae'n siwr mai ofer fyddai ceisio egluro bod "pys", "peas" a "pois" (Ffrangeg) i gyd yn deillio o'r Roegeg "pison" via'r Lladin "pisum". Fel mae blogmenai yn ei ddweud:
Yn ôl astudiaeth gan Thomas Finkenstaedt and Dieter Wolff (1973) mae 28.3% o eiriau Saesneg yn dod o'r Ffrangeg, 28.2% o'r Lladin, 25% o amrywiaeth o ieithoedd Germanaidd (gan gynnwys Hen Saesneg), 5% o'r Groegaidd, 4% o gefndir ansicr, 3% o enwau priod a 1% o ieithoedd eraill.
Felly yn hytrach na rhamantu'n wirion am "hynafiaeth" neu brydferthwch ein hiaith, beth sydd angen ei bwysleisio yw pa mor dwp ac anwybodus yw'r deinosoriaid yma. Trwy ddangos cyn waethed eu dealltwriaeth o'u hiaith eu hunain, amlygir cyn lleied o hygrededd sydd ganddynt pan ddaw'n fater o draethu am ieithoedd eraill.

06/06/2011

Theresa May, eithafwyr Islamaidd a phrifysgolion

Mae'r gweinidog cartref Prydeinig, Theresa May, yn y newyddion heddiw am honni nad ydi prifysgolion yn gwneud digon i atal radicaliaeth Islamaidd ymhlith eu myfyrwyr. Y cwestiwn sydd wedi bod ar fy meddwl i, ac sydd heb gael ei ateb o gwbl wrth i mi wylio'r newyddion ar y teledu a darllen ymhellach, ydi beth yn union mae hi'n disgwyl iddyn nhw wneud? Gwahardd grwpiau o bobl brown rhag cyfarfod?

Fel dw i wedi crybwyll eisoes, dw i'n edmygu diwygiad cyntaf cyfansoddiad Unol Daleithiau America'n fawr iawn. Mae hwnnw'n sicrhau bod rhyddid llafar yn America'n nesaf peth i absoliwt. Dw i'n cydnabod nad oes unrhyw beth o'r fath ym Mhrydain, yn anffodus. Pan mae May yn dweud rhywbeth fel (gan ddyfynnu aralleiriad yr erthygl) "She said speakers at student events who broke the law, for example by inciting racial hatred, should be stopped" mae'n wir bod cyfraith Prydain yn ei chefnogi i raddau. Ond, yn fy marn i ni ddylai dweud pethau hiliol, dim ots pa mor atgas, fod yn anghyfreithlon (yn enwedig gan fod "hiliaeth" bellach wedi troi mewn i rhyw air ymbárel sy'n gallu disgrifio pob math o sylwadau). Fel cyfansoddiad America, dw i'n credu dylai rhyddid llafar fod fwy neu lai yn absoliwt; mae rhoi'r hawl i'r wladwriaeth sensro barn rhywun yn beryglus iawn, yn enwedig pan fo'r cynsail mor niwlog. Mae caredigion yr iaith Gymraeg yn enwedig ymysg y sawl ddylai bryderu am y fath beth; cofier y cyhuddiadau twp o "HILIAETH!!" yn erbyn Seimon Glyn ddegawd yn ôl. Mae'r ddeddf ynglyn â "chasineb" crefyddol yn waeth byth a dylid ei diddymu ar unwaith.

Dywedodd y gweinidog hefyd:
"They need to be prepared to stand up and say that organisations that are extreme or support extremism or have extremist speakers should not be part of their grouping."
Yng ngoleuni fy sylwadau uchod, dylai fy marn ar y geiriau yma fod yn amlwg. "Eithafol" yn ôl pwy? Yn fuan iawn mae gwaharddiadau o'r fath yn troi'n declyn defnyddiol er mwyn tawelu pobl rydych yn anghytuno â hwy. Dylai prifysgolion o bob man fod yn rhywle lle dylid annog rhoi llwyfan i farn nad ydych yn gyfforddus ag o.

Fel oeddwn yn dweud, beth yn union mae disgwyl i brifysgolion wneud? Plismona adeiladau'r campws a chyfarfodydd eu hamryw grwpiau a gwrando allan am unrhyw sylwadau annerbyniol? Mae'n gwbl wir bod llawer o eithafwyr Islamaidd wedi'u cyflwyno i'r athrawiaeth tra'n y brifysgol (mae The Islamist gan Ed Husain, cyn-eithafwr, yn ddarllen difyr), ond...wel, so what? Yr unig beth y gellir ei wneud i frwydro'n erbyn hynny mae gen i ofn ydi dangos pa mor wallgof ydi'r athrawiaeth a darbwyllo Islamiaid ifainc bod rhyddfrydaeth seciwlar yn rhagori. Y cwbl a gyflawnir wrth eu gwahardd ydi'u gyrru "o dan y ddaear" (a chyfieithu'n drwsgl o'r Saesneg) ac, os rhywbeth, gwneud yr holl beth gymaint â hynny'n fwy apelgar. Rebeliaid naturiol ydi stiwdants, wedi'r cyfan, os dim byd arall.

Er mwyn ategu pa mor gryf ydi fy marn am ryddid llafar a rhyddid barn, dw i ddim yn credu y dylai mynegi'r sylw hypothetig canlynol fod yn anghyfreithlon: "dylid troi Prydain yn wlad Islamaidd, a hynny trwy drais". Fe groesir y llinell pan gwneir bygythiad clir ac uniongyrchol yn erbyn person neu garfan penodol; dyna pryd y dylai'r wladwriaeth gamu i mewn, ac nid eiliad ynghynt.