Mae wythnos wedi mynd heibio, bellach, ers yr ymosodiad ofnadwy ar swyddfa'r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo. Heddiw, aeth y rhifyn cyntaf ers y digwyddiad ar werth (gweler y clawr ar y dde). Yn fy marn i, mae'r cartŵn yn hyfryd a graslon ('maddeuir popeth', medd dyn mewn twrban). Ysywaeth, mae llawer o fwslemiaid wedi gwylltio eto o'i herwydd.
Ymateb rhai o'm cyd-ryddfrydwyr yw testun y blogiad hwn, fodd bynnag. Rwyf wedi fy siomi'n arw gan rai blogwyr rwy'n eu hoffi. Mae'r drafodaeth yn ystod yr wythnos wedi fy nigaloni'n lân, a bod yn berffaith onest. Os rywbeth,
rwy'n credu bod yr ymateb y tro hwn wedi bod hyd yn oed yn fwy camsyniol
a llwfr nag ydoedd yn 2006 yn ystod helynt y cartwnau Jyllands-Posten.
Yn syth wedi'r digwyddiad, datblygodd yr hashnod #JeSuisCharlie fel modd o fynegi cefnogaeth i'r cylchgrawn. Yn fuan iawn wedi hynny, fodd bynnag, daeth yr adlach anochel gan ryddfrydwyr yn datgan #JeSuisNePasCharlie, gan gwyno bod y cylchgrawn yn hiliol, homoffobaidd, a misogynistaidd. Mae'r cyhuddiadau hyn, ar y cyfan, yn annheg ac anwybodus. Cyn egluro pam, fodd bynnag, hoffwn bwysleisio'r pwynt pwysicaf oll: pan mae rhywun wedi dioddef ymosodiad, neu hyd yn oed fygythiad, yn sgil rhywbeth maent wedi'i fynegi, dylai natur neu safon y gwaith o dan sylw fod yn hollol amherthnasol. Hyd yn oed petai'n wir bod Charlie Hebdo yn gyhoeddiad hiliol a rhagfarnllyd yn ei hanfod, ni ddylai hynny effeithio ar ein cefnogaeth yn dilyn digwyddiad fel hyn. Ystyrier cartwnau Jyllands-Posten; waeth i ni fod yn onest a chydnabod, bron ddegawd yn ddiweddarach, nad oeddent yn arbennig o dda na chlyfar. Ond pa ots? Yn syml iawn, pan mae rhyddid mynegiant yn cael ei fygwth fel hyn, yr unig ateb moesol yw cefnogaeth 100% i bwy bynnag sydd o dan y lach. Heb 'ond'.
Rwy'n cydnabod bod y gymhariaeth yn un sensitif, ond ystyrier achosion lle mae merch yn cyhuddo dyn o'i threisio. Rydym yn feirniadol iawn o unrhyw un sy'n mynnu siarad am ymddygiad y ferch - ei gwisg, faint o alcohol roedd hi wedi'i yfed, faint o ddiddordeb roedd wedi'i ddangos yn y dyn - ac mae hynny'n berffaith gyfiawn. Nid yw'r pethau hynny'n berthnasol i'r achos, ac effaith eu trafod yw awgrymu bod peth o'r cyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd yn gorffwys ar ei hysgwyddau hithau. Mae hynny'n wrthun; bai'r treisiwr ydyw a neb arall. Rhaid i mi fynnu bod rhywbeth tebyg yn wir yn achos cartwnau Charlie Hebdo. Beth bynnag eich barn am y cartwnau ar unrhyw adeg arall, mae eu beirniadu yng nghyd-destun ehangach ymosodiad fel hyn yn awgrymu bod rhaid iddynt dderbyn peth o'r bai am yr hyn maent wedi'i ddioddef. Efallai nad dyna'r bwriad, ond dyna, heb os, y neges a gyfleir. Fe'u targedwyd gan y terfysgwyr oherwydd bod y cartwnau'n 'annerbyniol'. Ymateb rhai rhyddfrydwyr oedd, wel, cytuno â'r rhesymeg. Mae hyn yn broblem anferth. Ategaf y pwynt: rhaid hepgor yr 'ond'. Dylid dechrau a gorffen gyda chondemnio'r ymosodiad; ni ddylai fod yn fodd o glirio'r llwnc cyn beirniadu'r dioddefwyr.
Er fy mod newydd ddadlau bod answdd y gwaith yn amherthnasol, rwyf am amddiffyn y cartwnau beth bynnag, oherwydd rwy'n digwydd credu bod Charlie Hebdo'n cael cam. Dechreuodd yr adlach gyda phobl ar Twitter yn rhannu lluniau o gloriau fel yr un ar y dde, heb gyd-destun. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys yn anghynnes: yr awgrym yw bod menywod sydd wedi dioddef diolch i Boko Haram ar fin heidio i Ffrainc er mwyn magu plant ar bwrs y wlad. Wrth gwrs, mewn gwirionedd mae'r cylchgrawn yn gwneud defnydd helaeth tu hwnt o eironi. Heb fynd i orfod o fanylder ynghylch cyd-destun y stori sy'n sail i'r clawr - digon yw eich cyfeirio at y dudalen Quora defnyddiol yma lle mae Ffrancwyr yn egluro beth sy'n mynd ymlaen - yr amcan yw gwatwar hiliaeth trwy fynd â'r rhesymeg i eithafion abswrd. Mae mwy o gartwnau wedi derbyn yr un feirniadaeth, ac mae'r gwrth-dadleuon yn debyg iawn yn yr achosion hynny hefyd.
Neidiodd llawer i'r casgliad bod y cylchgrawn yn un asgell-dde, hiliol, gwrth-fewnfudo. Y gwrthwyneb llwyr sy'n wir: mae Charlie Hebdo'n perthyn i'r chwith radical, sy'n gwrthwynebu hiliaeth yn chwyrn. Os rywbeth, eu prif darged yw'r Le Pens a'r Front National. Mae'n wir eu bod yn dychanu islam a'n cael hwyl gyda delweddau o'r proffwyd Mohamed, ond maent yn targedu pob crefydd yn yr un ffordd. A bod yn blaen, ymddengys yn debygol nad oedd y rhan fwyaf o'r bobl hunan-fodlon a fu'n condemnio delweddau fel yr uchod hyd yn oed wedi clywed am Charlie Hebdo cyn yr ymosodiad, heb sôn am ymgyfarwyddo â bydolwg golygyddol y cylchgrawn, ac â gwleidyddiaeth a diwylliant Ffrainc yn gyffredinol. Ar ben hyn i gyd, wrth gwrs, ysgrifennir y cylchgrawn yn Ffrangeg, ac mae hynny'n rwystr arall i ni, nad ydym yn rhugl yn yr iaith honno, ddeall y cyd-destun. Nid bod hynny wedi atal llu o ryddfrydwyr smýg rhag eu condemnio mewn chwinciad. Nid dadlau ydwyf bod y cartŵn uchod yn enghraifft ardderchog o'r grefft.
Fy mhwynt yw bod nifer fawr o'r bobl a fu'n ei ddiawlio heb hyd yn oed
gydnabod bod y mater fymryn yn gynilach nag yr oedd yn ymddangos ar yr olwg gyntaf. Ni ddylid cymryd unrhyw un o ddifrif nad ydynt wedi traffferthu i ymgynefino â'r mater yn iawn.
Dylid dweud gair am ddychan ac eironi fan hyn. Mae'n berffaith iawn i benderfynu, ar ôl deall y cyd-destun yn drylwyr, bod y cartŵn yn broblematig o hyd. Rwyf wedi dadlau fy hun bod rhai digrifwyr yn euog o bledio 'eironi' er eu bod yn ategu hen ystrydebau diog. Hynny yw, nid yw hawlio label 'eironi' yn gerdyn get out of jail free.
Ni ddylid gorddweud arwyddocâd bwriad y dychanwyr chwaith, oherwydd mae eironi yn ddibynnol ar ddealltwriaeth y gynulleidfa. 60,000 yw cylchrediad arferol Charlie Hebdo, a gallwn dybio bod y darllenwyr rheolaidd hynny'n gwerthfawrogi'r ffordd y mae'r cylchgrawn yn mynd ati i wneud eu pwynt. Ond mae'r rhifyn newydd eisoes wedi gwerthu miliynau o gopïau; efallai wir bod rhai o'r darllenwyr ychwanegol yr wythnos hon yn hilgwn sy'n hoffi'r syniad o weld islam fel testun sbort. Petai pobl felly'n dyfalbarhau gyda'r cylchgrawn, byddai angen cydnabod wedyn bod y ffordd y mae'n cael ei ddehongli gan ei ddarllenwyr wedi newid hefyd. Byddai hynny'n newid gwleidyddiaeth y cylchgrawn, yn anffodus, hyd yn oed os nad yw'r deunydd ei hun wedi newid o gwbl. Y gwir amdani yw bod ar eironi, os am lwyddo, angen i'r gynulleidfa fod fel petaent yn aelod o glwb, sy'n deall yn union sut i ddehongli'r deunydd gyda winc. Oherwydd y ddibyniaeth ar ddealltwriaeth y gynulleidfa, mae'n llythrennol amhosibl creu deunydd dychanol lle nad oes risg iddo gael ei gamddehongli gan bobl o'r tu allan i'r 'clwb' hwnnw, boed yn bobl sy'n arddel cyfiawnder cymdeithasol sy'n pryderu ei fod yn mynegi rhagfarn hyll, neu'n geidwadwyr adweithiol sy'n ei hoffi am yr un rheswm yn union. Yn hynny o beth, problem yr oes sydd ohoni yw bod y we yn newid y modd y mae gwaith fel hyn yn cael ei ddosbarthu. Mae'n llawer haws rhwygo darnau unigol oddi wrth eu cyd-destun.
Er mwyn amlygu hyn, ystyrier yr erthygl yma o wefan The Onion (euthum am dro i'w gwefan a chwilio am y gair 'nigger', a dyna'r canlyniad cyntaf). Pe na baech yn gyfarwydd â natur y cyhoeddiad hwnnw, efallai wir y buasech yn dychryn. Mae'r erthygl yn ddoniol, gan watwar hiliaeth, ond fel rwyf wedi bod yn dweud, mae'n dibynnu ar ryw faint o ddealltwriaeth ar ran y darllenydd. Wrth gwrs mae gan The Onion y fantais o fod yn gylchgrawn Americanaidd enwog iawn; mae llawer, o'r tu allan i America hefyd, yn gwybod yn iawn nad oes ynddo unrhyw beth i'w gymryd o ddifrif. Hyd y gwelaf, y gwahaniaeth pennaf rhwng erthygl The Onion a'r cartŵn Charlie Hebdo uchod yw bod llawer iawn llai o bobl, nes yr wythnos ddiwethaf o leiaf, wedi clywed am yr ail gylchgrawn.
Mae'r ffrae am y cartwnau wedi esgor ar drafodaeth ehangach ynghylch rhyddid barn. Cri gyfarwydd yw bod rhyddid mynegiant yn dda ond (a dyna'r 'ond' annifyr yna eto) nad yw hynny'n golygu y dylid mynd ati'n fwriadol i achosi loes. Wel ie a na. Rwy'n berson eithaf gwleidyddol gywir ar y cyfan. Rwy'n feirniadol iawn pan welaf hiliaeth, homoffobia neu rywiaeth, ac yn yr ystyr yna o leiaf, rwy'n credu bod yna rai pethau na 'ddylai' pobl eu dweud. Ond yn amlwg, nid yw hynny'n golygu fy mod yn arddel ymosod ar, neu arestio, hilgwn, homoffobiaid neu fisogynistiaid. O safbwynt rhyddid mynegiant, rwy'n cefnogi, gydag arddeliad, hawl pobl i ddweud pethau anghywir a hyll; rwyf yno'n llechu yn barod i ddefnyddio fy rhyddid mynegiant innau yn fy nhro i'w condemnio pan fyddent yn gwneud. Yn yr ystyr gyfreithiol, mae rhyddid mynegiant yn bwysicach byth pan mae datganiad yn debygol o beri loes; dyna'r union achlysur pan mae'r angen i'w amddiffyn ar ei fwyaf. Nid yw'r rhyddid i ddweud pethau saff yn unig, sy'n annhebygol o dramgwyddo unrhyw un, yn enghraifft ystyrlon o ryddid mynegiant o gwbl. Hynny yw, os nad ydych yn credu bod rhyddid mynegiant yn cynnwys yr hawl i gyhoeddi pethau fel delweddau o'r proffwyd Mohamed, nid ydych yn credu mewn rhyddid mynegiant o gwbl.
Problem gyfarwydd arall fan hyn yw'r syniad bod crefydd yn ran annatod o hunaniaeth pobl, lawn cymaint â'u hil. Mae llawer o'r farn bod hynny'n wir, felly mewn un ystyr mae hynny ynddo'i hun yn gwireddu'r ffaith. Mae pobl yn diffinio'u hunaniaeth eu hunain, wedi'r cyfan. Ond fel rwyf wedi'i ddweud dro ar ôl tro ar y blog hwn, cysyniad ideolegol yw crefydd. Nid oes rheswm o gwbl i drin crefydd yn gyffredinol, heb sôn am un grefydd benodol, yn wahanol i syniadau gwleidyddol megis Marcsiaeth neu geidwadaeth. Mae angen dymchwel y pedestal y mae cymdeithas yn mynnu gosod crefydd arno, a chael gwared ar y ffug-barchusrwydd anhaeddiannol y rhoddir iddi. Ni ddylai unrhyw syniadau fod yn imiwn rhag beirniadaeth na dychan.
Cŵyn berthnasol ychwanegol yw bod angen i ddychan anelu tuag i fyny, a herio'r sawl sydd â grym. Yr awgrym yw bod tynnu coes Mohamed druan yn enghraifft o anelu am i lawr, gan sathru ar fwslemiaid difreintiedig sy'n dehongli'r peth fel ymosodiad personol ar leiafrif. Efallai bod modd dadlau mai taro i fyny a wna'r dychanu gorau. Ond rwy'n gwrthod y syniad bod anelu i lawr yn hollol annilys. Dylai fod yn ddigon i'r targed fod yn abswrd. Ac mae islam, a'r holl lol am Fohamed, yn hollol abswrd. A beth bynnag, awgrymaf ei fod yn deg dweud mai anelu i fyny y mae Charlie Hebdo wrth gyfeirio at yr eithafwyr arfog a laddodd eu cyfeillion, ac sy'n arddel trais fel modd o orfodi eraill i ufuddhau i'w gofynion.
Yr unig reswm y mae hyn i gyd yn ddadleuol yn achos islam yw oherwydd bod cymaint o ffyddloniaid y grefydd honno'n bygwth trais yn erbyn unrhyw un sy'n eu hypsétio. Mae gwirfoddoli i fod yn wystlon i sensitifrwydd eithafwyr treisgar yn syniad syfrdanol o dwp. Yn syml iawn, nid yw'r sensro yma'n digwydd yn achos Cristnogaeth, a da hynny. Ond y ffordd i gysoni pethau yw i drin islam yr un fath ag yr ydym yn trin pob crefydd arall, nid fel arall. Os nad ydych wedi'ch argyhoeddi eto, ystyrier bod ceidwadwyr Cristnogol yn America eisoes wedi llwyddo i ddefnyddio helynt Charlie Hebdo i orfodi'r Associated Press i dynnu llun o'r Piss Christ i lawr. Dylem fod yn onest: roedd ganddynt bwynt, gan fod gan yr AP bolisi o beidio dosbarthu lluniau o Fohamed. Rhagrith a safonau dwbl yw trin y ddau achos yn wahanol. Rhaid eu trin i gyd yr un fath. Fel arall, y neges fawr i Gristnogion y byd yma yw bod angen iddynt ail-afael â dulliau treisgar.
Mewn ffordd, mae gennyf fwy o barch tuag at gyhoeddwyr a golygyddion sy'n cyfaddef yn agored mai pryderon am ddiogelwch sydd wrth wraidd eu penderfyniad i beidio atgynhyrchu'r delweddau. O leiaf mae hynny'n onest. Rhag cywilydd, fodd bynnag, ar y sawl sy'n dyfeisio ffug-esgusodion hanner-pan am ryw ddymuniad i 'osgoi peri loes'. Y gwir amdani yw ei bod yn amhosibl adrodd stori fawr yr wythnos ddiwethaf heb ddangos yr hyn sydd wedi ysgogi'r holl helynt. Mae unrhyw bapur newydd neu raglen newyddion sy'n gwrthod dangos y cartwnau yn euog o roi darlun pathetig o anghyflawn i'w darllenwyr a'u gwylwyr. Nid yw'n bosibl deall beth sy'n digwydd hebddynt.
da iawn
ReplyDelete