11/01/2015

Simon Brooks: Rhyddid Barn a'r Wasg Gymraeg

Mae'r hen gwestiwn ynghylch islam a rhyddid mynegiant wedi codi'i ben mewn modd erchyll eto dros y dyddiau diwethaf, yn dilyn cyflafan yn swyddfa'r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo ym Mharis. Bydd gennyf lawer i'w ddweud yn fuan am yr helynt, a'r ymateb iddo'n benodol. Yn y cyfamser, rwy'n hapus i gyhoeddi'r neges isod gan Simon Brooks, ac erthygl berthnasol iawn o'i eiddo a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2006:

Pan gafwyd helynt yn 2006 ynglŷn â phenderfyniad y papur newydd Daneg Jyllands-Posten i gyhoeddi cartwnau o’r Proffwyd Mohamed, lledodd y ffrae i’r Gymru Gymraeg. Ail-gyhoeddwyd y cartwnau mewn papurau ar gyfandir Ewrop, ond nid yng ngwledydd Prydain ac eithrio, yn od iawn, mewn dau gylchgrawn Cymreig, Gair Rhydd a’r Llan, cyfnodolyn yr Eglwys yng Nghymru. Ond gorchmynnwyd fod rhifynnau perthnasol y ddau gylchgrawn hwnnw yn cael eu dinistrio, penderfyniad a groesawyd gan y sefydliad Cymreig yn ei gyfanrwydd. Gwrthwynebais hyn mewn erthygl olygyddol yn Barn ym mis Mawrth 2006, fel y gwnaeth Siôn Jobbins yntau yn y cylchgrawn Cambria ychydig wedyn. Er hynny, ni ymddangosodd y cartwnau yn Barn na Cambria ychwaith.

Ailgyhoeddir erthygl olygyddol Barn isod er mwyn ceisio ysbarduno trafodaeth yn Gymraeg. Ailgyhoeddwyd yr erthygl cyn hyn yn fy llyfr, Yr Hawl i Oroesi, yn 2009, ond nid yw ar gael yn ddigidol, ac yn ddigidol erbyn hyn mae llawer o drafodaethau’n digwydd.

Rwy’n hynod ddiolchgar i Dylan Llŷr am ganiatáu imi ailgyhoeddi’r erthygl ar ei wefan. – Simon Brooks, 11 Ionawr 2015

Wyneb Mohamed

Mae’r cartwnau enwog o Mohamed yn gorwedd ar fy nesg. Pan welais y dychanlun o’r Proffwyd ar dudalen flaen Die Welt, mewn siop papurau yng Nghaernarfon, prynais gopi heb feddwl ddwywaith. Efallai bod The Guardian yn rhy smyg i gredu mewn rhyddid barn bellach, ond mae modd cael gafael ar y wasg Ewropeaidd yn y rhan fwya’ o drefi yng Nghymru heddiw, a diolch byth am hynny.

Rwy’n gwbl glir fy meddwl nad oedd y papur newydd Daneg Jyllands-Posten wedi gwneud cam wrth gomisiynu deuddeg cartŵn yn arddangos wyneb Mohamed. Roedd penderfyniad papurau newydd cyfrifol ar dir mawr Ewrop – megis y Frankfurter Allgemeine Zeitung, Libération ac El Mundo – i’w hailgyhoeddi yn angenrheidiol hefyd yn wyneb hysteria. Ond nid ymddangosodd y cartwnau hyn yn yr un cyhoeddiad print yng ngwledydd Prydain, ac eithrio’r papur myfyrwyr Gair Rhydd. Ac o fewn ychydig oriau i Gair Rhydd weld golau dydd, roedd Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi rhoi sac i’r golygydd, a phwlpio’r rhifyn.

Wele felly wasg rydd wedi’i sensro ym Mhrydain, am y tro cynta’ efallai ers y dyddiau rheiny pryd y penderfynodd Thatcher na chaem glywed llefarwyr Sinn Féin. Mae’n eironig a dweud y lleia’ bod cyfyngiadau hanesyddol ar ryddid barn megis gyda rhywioldeb, y frenhiniaeth neu wleidyddiaeth wedi eu trechu, dim ond i rai newydd gael eu gosod yn eu lle. Mae’n fwy eironig byth mai’r sefydliad rhyddfrydol sydd wedi rhoi sêl ei fendith ar y sensoriaeth newydd hwn. Ond ni fydd neb yn synnu mai’r ceffyl pren Troeaidd yn hyn o beth yw cywirdeb gwleidyddol, un o afiechydon mawr ein hoes.

‘The insensitive actions of a few individuals should not, and will not, stop the atmosphere of respect and tolerance that exists at the university,’ meddai Cadeirydd Ffederasiwn Cymdeithasau Islamaidd Myfyrwyr Cymru wrth gollfarnu Gair Rhydd ar ran Mwslemiaid Prifysgol Caerdydd. Dyma ddefnydd dichellgar, dauwynebog o rethreg gynhwysol y gymdeithas amlddiwylliannol. Sylwer fel y defnyddir ‘insensitive’ ganddo i olygu ‘annerbyniol’, ‘respect’ i olygu ‘sensoriaeth’ a ‘tolerance’ i olygu ‘cau ceg’. Prifysgol o bob man yn methu â chaniatáu rhyddid barn!

Oes ’na rywbeth yn bod ar Islam felly, ac a oes gennym ni hawl i’w feirniadu? Mae digwyddiadau yr wythnosau diwetha’ wedi dangos yn go glir nad ydy Islam fel pe bai’n deall mai seciwlariaeth mewn bywyd cyhoeddus yw un o gonglfeini bywyd Ewrop. Nid yw hyn yn golygu y dylai fod unrhyw wrthwynebiad i Islam mewn bywyd preifat. Yr hawl i ffydd, yr hawl i addoli, yr hawl i addoldai: dyma rai o’r hawliau dynol mwyaf sylfaenol. A’r hawl hefyd i fynegi barn heddychlon ynghylch cabledd, ac i brotestio yn ei erbyn os dymunir.

Ond cyn belled â bod cyfraith a threfn dan ystyriaeth, cymdeithas seciwlar ydy hon, ac mae gennym bob hawl i’w chadw felly. Yma fe ymddengys bod y Gorllewin ac Islam yn bodoli ar ddwy blaned wahanol. Yn y ddeunawfed ganrif y cafwyd y chwyldro mewn athroniaeth Ewropeaidd a olygodd fod mwy o fri yn cael ei roi ar reswm a rhesymeg mewn gwleidyddiaeth nag ar orchmynion offeiriaid. A’r gwir amdani ydy mai un o’r prif resymau dros y diffyg amgyffred presennol rhwng y Gorllewin ac Islam ydy na phrofodd y byd Islamaidd yr Oleuedigaeth honno. Bydysawd oligarchaidd yn anffodus yw’r byd Islamaidd o hyd.

Er gwaetha’ honiadau ffôl rhai Mwslemiaid mai mater o ragfarn hiliol yw dymuno cyhoeddi’r cartwnau hyn, does gan neb – heblaw efallai am y BNP – mo’r mymryn lleia’ o ddiddordeb mewn defnyddio cabledd gwrth-Islamaidd fel ffon i guro lleiafrif ethnig. Yr hyn a gawn yn dramgwyddus, yn hytrach, ydy’r ensyniad na ellid caniatáu bellach drafodaeth ar grefydd.

At hyn hefyd, wrth gwrs, bu golygfeydd cywilyddus yn Llundain pryd y bu Islamiaid eithafol yn galw am ddienyddio newyddiadurwyr a chartwnwyr. Nid chwarae bach yw’r bygythiadau hyn, wrth gwrs. Gorfodwyd Salman Rushdie gan fatwa i guddio am flynyddoedd maith. Yn yr Iseldiroedd, llofruddiwyd cyfarwyddwr ffilm, Theo van Gogh, am feirniadu Islam.

Roedd fy mhenderfyniad fel Golygydd Barn o ran y cartwnau hyn yn un digon hawdd felly. Roeddwn yn dymuno eu cyhoeddi. Nid er mwyn dathlu cabledd, ond er mwyn gwrthsefyll yr Islamiaid eithafol sy’n dewis cefnogi’u bydolwg crefyddol gyda bygythiadau o drais a llofruddiaeth.

Ac eto, ni welwch yn Barn yr un o’r cartwnau yma. Pam hynny? Yn ddigon syml, cachgïaeth. Mae’n well bod yn onest am hyn yn hytrach na bychanu deallusrwydd pawb. Trwy Brydain benbaladr mae golygyddion yn llawn ofn. Ac nid wyf yn eithriad.

Wrth gwrs mae peidio â chyhoeddi’r cartwnau hyn yn datgan buddugoliaeth trais a therfysgaeth dros werthoedd cymdeithas wâr. Mae’n golygu nad yw rheolaeth y Gyfraith yn ddigon cryf ym Mhrydain bellach i warantu rhyddid y wasg. Mae hyn yn drychineb i ni i gyd. Ond byddai cyhoeddi’r cartwnau hyn yn rhy beryglus. Am y tro cyntaf ym Mhrydain ers tri chan mlynedd a mwy, dedfryd o farwolaeth yw’r gosb am feirniadu crefydd. Rhag eu cywilydd yr Islamiaid eithafol sy’n peri hyn, a rhag eu cywilydd hefyd bawb sy’n gwneud esgusodion drostyn nhw.

No comments:

Post a Comment