Bûm i weld sioe gerdd The Book Of Mormon yn Llundain ddoe. Trey Parker a Matt Stone a'i creodd. Y ddau yma sy'n gyfrifol am South Park hefyd, a dylai hynny roi rhyw syniad o'r math o hiwmor ynddi. Ond mae'n gynhyrchiad gwirioneddol safonol.
Heb ddifetha gormod ar y plot, mae dau o genhadon Mormonaidd ifainc yn cael eu hanfon i Uganda er mwyn denu'r brodorion i'r ffydd (with hilarious consequences). Ceir llawer o hwyl gyda'r camargraffiadau ystrydebol sydd gan lawer o bobl y 'gorllewin' o Affrica. Ond wrth gwrs, Mormoniaeth, a chrefydd yn gyffredinol, yw targed rhan helaeth y dychan (roedd yn bownd o fy mhlesio yn hynny o beth, am wn i). Yn sicr, mae digon o ddeunydd i'w ddychan lle mae Mormoniaeth o dan sylw.
Eto i gyd, efallai mai'r neges yn y diwedd yw bod ffydd grefyddol yn ddi-niwed, neu hyd yn oed yn fuddiol, cyn belled nad ydych yn cymryd pethau'n llythrennol. Yn wir, mae Stone a Parker eu hunain wedi galw'r sioe yn atheist’s love letter to religion". Ar y llaw arall, y pwynt mawr yn fy marn i mi yw bod dyheadau a sefyllfaoedd personol pobl yn gallu peri iddynt gredu pob math o bethau rhyfedd. Fel rhywun sydd o'r farn bod credu pethau anghywir yn niweidiol, rwy'n mynnu y dylem wneud ein gorau i osgoi syrthio i'r trap hwnnw.
Beth bynnag, mae'n sioe wych. Roeddwn yn fy nyblau ar brydiau. Argymhellaf. Hasa diga eebowai!
No comments:
Post a Comment