Showing posts with label hindŵaeth. Show all posts
Showing posts with label hindŵaeth. Show all posts

13/12/2013

Hindŵaeth a Bwdhaeth

Bûm ar wyliau ym Malaysia (Kuala Lumpur) a Singapore yn ddiweddar (hyfryd iawn gyda llaw). O safbwynt y blog hwn, un peth diddorol am y llefydd yma yw'r ffaith eu bod yn eithriadol o gosmopolitanaidd a bod gan grefyddau mawrion y byd i gyd bresenoldeb amlwg yno. Mae'n amhosibl troi heb weld mosg, teml hindŵaidd, neu fwdhaidd, ac eglwysi hefyd.
Mae'n rhaid i mi fod yn onest: mae delweddau hindŵaidd yn ymddangos yn tacky braidd yn fy marn i. Mae gennyf ddiddordeb mewn mytholeg, ac mae straeon y cymeriadau'n ddifyr, ond roedd pob teml hindŵaidd yr ymwelasom â hwy (ac aethom i gryn dipyn) yn gwneud i mi deimlo fy mod wedi crwydro i ryw hen gornel goll anghofedig o ryw barc Disneyaidd rhyfedd. Ar ben hynny, roedd llawer iawn o geriach kitsch crefyddol ar werth ger llawer o'r safleoedd yma. Cefais fy synnu bod yna grefydd mwy tacky na phabyddiaeth (gyda'u holl ddelweddau erchyll o'r forwyn Fair), ond mae hindŵaeth hyd yn oed yn waeth.

Yn y temlau, roeddwn yn mwynhau darllen y deunydd esboniadol sy'n adrodd y chwedlau perthnasol, ond mewn ffordd od roedd gweld ambell berson arall yn cymryd yr holl beth o ddifrif a'n gweddïo yn difetha'r holl beth i mi braidd. Mae chwedlau'n hwyl, cyn belled bod pawb yn deall mai dyna ydynt. Yn yr un modd, am wn i, rwy'n credu byddai'r Mabinogi'n cael eu difetha'n lân petai yna garfan sylweddol o bobl sy'n credu eu bod yn gofnod hanesyddol ac sy'n addoli Bendigeidfran.

Roedd y temlau bwdhaidd, ar y llaw arall, yn llawn bling. Mae'n siwr bod hyn, fwy nag unrhyw beth arall, yn adlewyrchu safleoedd gwahanol y ddwy gymuned ar yr ysgol gymdeithasol (a'n enwedig felly yn Singapore). Ond yn y pen draw, mae bwdhaeth yn union fel pob crefydd arall, er bod rhai arddelwyr  yn honni ei bod yn wahanol gan nad ydynt yn credu mewn duw goruwchnaturiol fel y cyfryw. Roedd un deml yn rhoi'r cyfle i chi "noddi" un o 10,000 o ffigurau o'r Bwda a oedd yn addurno'u waliau, neu hyd yn oed un o'r teils o aur pur ar lawr un o'r ystafelloedd (am gwpl o filoedd y flwyddyn). Byddai'r Fatican yn edmygu hynny.
Fel cymaint o grefyddau a sectau eraill, honnir nad rhyw arferol rhwng tad a mam a roddodd fod i'r sylfaenydd. Yn hytrach, dywedir bod mam y Bwda, Maya, wedi dod yn feichiog wedi i eliffant gwyn ddod lawr o'r nefoedd, cerdded o'i chwmpas dair gwaith, cyn dringo i mewn i'w chroth ar yr ochr dde (nid yr ochr chwith, wrth gwrs; byddai hynny wedi bod yn od). Unwaith eto, mae straeon chwedlonol fel hyn yn ddiddorol tu hwnt, ond i mi mae'r ffaith bod miliynau o bobl yn credu hyn o ddifrif yn sbwylio pethau braidd. Nid yw bwdhaeth mor wahanol â hynny yn y pen draw.

Peidied neb â chamddeall: rwy'n mwynhau ymweld â'r llefydd yma'n arw ac roedd y gwyliau'n wych yn gyffredinol. Ond gan mai dyma'r tro cyntaf i mi fod yn rhywle lle roedd y ddwy grefydd yma mor amlwg, mae'n briodol nodi rhai argraffiadau ar y pwnc hwnnw.

Fel mae'n digwydd, yn fuan wedi i ni fynd adref cafwyd mymryn o derfysg yn Singapore, sy'n beth anarferol iawn yno. Mae'n siwr eu bod wedi gweld fy eisiau ar ôl i mi fynd.