Showing posts with label athroniaeth. Show all posts
Showing posts with label athroniaeth. Show all posts

08/01/2014

John Stuart Mill, rhyddid a democratiaeth

Mae'r cysyniad o ryddid, fel y'i disgrifir gan yr hen athronydd John Stuart Mill yn ei gampwaith, On Liberty, yn dylanwadu'n fawr iawn ar fy ngwleidyddiaeth, a'n lliwio'r safbwyntiau ynghylch hawliau sifil rwy'n eu harddel ar y blog hwn. Efallai mai'r canlynol yw'r dyfyniad enwocaf:
The only freedom which deserves the name is that of pursuing our own good in our own way, so long as we do not attempt to deprive others of theirs, or impede their efforts to obtain it.
Fersiwn estynedig o'r rheol euraid yw hon. Mae trin pobl eraill fel yr hoffem ninnau gael ein trin yn gorfod golygu mai'r unig gyfiawnhad dros gyfyngu ar ryddid unrhyw unigolyn yw er mwyn rhwystro'r unigolyn hwnnw rhag niweidio rhywun arall. Fel y dywed Zechariah Chafee, "your right to swing your arms ends just where the other man's nose begins".

Nid oes gwahaniaeth beth yw maint y mwyafrif sydd o blaid cyfyngu ar ryddid unigolyn:
If all mankind minus one, were of one opinion, and only one person were of the contrary opinion, mankind would be no more justified in silencing that one person, than he, if he had the power, would be justified in silencing mankind.
Mae hon yn egwyddor hynod bwysig. Lle mae hawliau dynol creiddiol (fel rhyddid mynegiant) o dan sylw, mae'n hanfodol eu gwarchod rhag ormes y mwyafrif. Mae angen cyfyngu ar ddemocratiaeth bur, er mwyn sicrhau nad yw'r mwyafrif yn gorthrymu grwpiau lleiafrifol. Dyma, wrth gwrs, swyddogaeth cyfansoddiad (ar ffurf dogfen ffurfiol neu beidio) a'r llysoedd.

Yn hyn o beth, mae rhyddid yn gyffredinol yn bwysicach na democratiaeth. Hynny yw, un math o ryddid yn unig o blith nifer yw'r hawl i ddewis cynrychiolwyr gwleidyddol i ddeddfu a llywodraethu ar ein rhan. Yn hypothetig, o leiaf, mae'n bosibl dychmygu cymdeithas cwbl annemocrataidd sydd, eto i gyd, yn parchu rhyddid yn well na chymdeithas hollol ddemocrataidd. Fel mae'n digwydd, nid oes cymdeithas o'r fath wedi bodoli erioed, a go brin y gwelwn un yn y dyfodol; yn ymarferol, mae gwledydd rhyddion yn tueddu i fod yn lefydd democrataidd. Ond y pwynt yw bod democratiaeth bur yn gallu amharu ar y mathau eraill o ryddid, ac mewn sefyllfaoedd o'r fath, ar ddemocratiaeth y dylid cyfyngu.

Er bod gan bob crefydd a diwylliant, fwy neu lai, fersiwn o'r rheol euraid, mae gormod o lawer o bobl yn talu sylw i hanner y ddysgeidiaeth yn unig. Ond mae'n hawdd cytuno â hi os mai ein rhyddid ein hunain sydd o dan fygythiad; y gwir brawf yw gwrthod y temtasiwn i fygwth hawliau pobl eraill.  Mae llawer, am wn i,  yn camddeall y cysyniad o ryddid.  Fel y dywed Mill:
There are many who consider as an injury to themselves any conduct which they have a distaste for, and resent it as an outrage to their feelings; as a religious bigot, when charged with disregarding the religious feelings of others, has been known to retort that they disregard his feelings, by persisting in their abonimable worship or creed. But there is no parity between the feeling of a person for his own opinion, and the feeling of another who is offended at his holding it; no more than between the desire of a thief to take a purse, and the right of the owner to keep it. And a person's taste is as much his own peculiar concern as his opinion or his purse.
Yn syml iawn, nid yw'n golygu'r hawl i beidio clywed neu weld pethau rydych yn anghytuno â hwy. Dylid gwarchod pobl rhag niwed go iawn, ond nid oes gan unrhyw un yr hawl i beidio cael eu hypsétio. Mae eithafwyr crefyddol, er enghraifft, yn honni bod priodasau cyfunrywiol rywsut yn amharu ar eu hawliau crefyddol. Swmp a sylwedd eu dadl yw eu bod yn credu bod yr holl beth yn ych-a-fi. Wel pa ots? Nid yw bodolaeth hoywon priod yn cael unrhyw effaith negyddol go iawn ar unrhyw un arall, felly mae'n anfoesol gwadu'r hawl iddynt gael yr un cydnabyddiaeth i'w perthynas ag y mae gweddill y boblogaeth yn cael ei fwynhau. Mae hyn yn ddigon syml.

Yn anffodus, difethir On Liberty gan ddarn digon hyll yn ei gyflwyniad. Am ba bynnag reswm, ar ôl dod mor agos at ei deall hi, mae Mill yn tanseilio'r hyn sy'n dilyn trwy wneud eithriad hiliol:
we may leave out of consideration those backward states of society in which the race itself may be considered as in its nonage. The early difficulties in the way of spontaneous progress are so great, that there is seldom any choice of means for overcoming them; and a ruler full of the spirit of improvement is warranted in the use of any expedients that will attain an end, perhaps otherwise unattainable. Despotism is a legitimate mode of government in dealing with barbarians, provided the end be their improvement, and the means justified by actually effecting that end. Liberty, as a principle, has no application to any state of things anterior to the time when mankind have become capable of being improved by free and equal discussion. Until then, there is nothing for them but implicit obedience to an Akbar or a Charlemagne, if they are so fortunate as to find one.
Mae'n rhaid i hawliau dynol, wrth reswm, fod yn berthnasol i'r holl hil ddynol. Nid yw'r cysyniad yn un ystyrlon fel arall. Mae darllen y dyfyniad uchod felly'n ddigon digalon, gan fod yr awdur, ym mron pob ffordd, wedi arloesi yn y maes. Roedd rhagfarn tuag at "farbariaid" yn gyffredin tu hwnt ar y pryd, wrth gwrs. Ond mewn ffordd, mae'n anos maddau Mill fan hyn na'i gyfoedion. Nid oes llawer o syndod bod ceidwadwyr Fictorianaidd, ar un llaw, heb feddwl bod unrhyw beth o'i le ar fwynhau rhyddid adref tra'n ei wrthod i'r tramorwyr anwaraidd a drigai o dan gysgod ymerodraeth Prydain. Yn achos Mill y rhyddfrydwr, ar y llaw arall, ar ôl ei holl waith diwyd yn ystyried ac esbonio rhyddid fel cysyniad cyffredinol, mae'n siomedig ei weld yn syrthio i'r un trap. Mae'n deg awgrymu y dylai fod wedi gwybod yn well. Norm diog oedd rhagfarn fel hyn i bawb arall, ond roedd rhaid i Mill ei wasgu i mewn yn bwrpasol. Go brin mai cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod Mill yn gweithio i Gwmni Dwyrain India ar y pryd; roedd yr eithriad ynghylch "barbariaid" yn cyfiawnhau ymddygiad ei gyflogwyr.

Mae llawer wedi beirniadu Mill am hyn, gan ei alw'n "ryddfrydwr imperialaidd". Mae'r cyhuddiad yn deg, yn enwedig gan ei fod hefyd wedi bod yn gefnogol i'r egwyddor o ymyrryd yn filwrol er mwyn lledaenu ei syniad o ryddid (rhywbeth arall yr wyf i'n anghytuno'n llwyr ag ef, am resymau ymarferol a moesol). Eto i gyd, rwy'n cytuno â Nick Cohen sy'n dadlau bod llawer o'r beirniaid ôl-drefedigaethol ac ôl-fodern sy'n condemnio hiliaeth Mill yn euog o'r un peth yn union. Fel y gofynna Cohen:
Who now believes that rights are all very well for Englishmen but not for the lesser breeds? Who now says that the emancipation of women is essential for white-skinned women in the West but not brown-skinned women in the East? Who, in short, is the inheritor of the old imperialist double standard?
Fel rwyf wedi'i ddweud droeon ar y blog hwn, mae anffyddwyr cyson - hynny yw, rhai sy'n beirniadu erchyllterau a gyflawnir yn enw crefydd dim ots pa ffydd sydd o dan sylw - yn aml yn wynebu cyhuddiad o "imperialaeth ddiwylliannol". Ond fel mae Cohen yn ei ddweud, mae'r cyhuddiad ynddo'i hun yn arwydd o hiliaeth yn y person sy'n ei wneud, gan ei fod yn ail-adrodd camgymeriad Mill. "Hiliaeth y disgwyliadau isel" yw gosod safonau gwahanol ar gyfer ein cymdeithas ni, ar un llaw, a chymdeithasau mwslemaidd (er enghraifft) ar y llaw arall.

Er hyn, rwy'n parhau i edmygu Mill am ei gyfraniad.  Er nad wyf yn cytuno chwaith â'i agwedd laissez faire tuag at economeg ac union ddyletswyddau'r wladwriaeth, mae dyled anferth iddo am amlinellu ystyr rhyddid a hawliau'r unigolyn mor glir. Petai mwy o bobl yn deall a gwerthfawrogi'r hyn a ddywedodd, ni fyddai angen i ni orfod dioddef cymaint o eithafwyr crefyddol yn cwyno mor syrffedus bod peidio caniatáu iddynt ormesu eraill gyfystyr â sathru ar eu hawliau hwy.

04/08/2012

Mae Alain de Botton yn uffernol o ddiflas

Anffyddiwr o athronydd yw Alain de Botton. Yn anffodus, mae'n fath arbennig o syrffedus o anffyddiwr. Ymddengys ei fod yn anffyddiwr sy'n gwneud bywoliaeth trwy ddweud pethau sy'n plesio pobl grefyddol.

Efallai eich bod yn cofio iddo ddweud ar ddechrau'r flwyddyn bod angen i anffyddwyr godi 'temlau' seciwlar. Er bod de Botton yn anffyddiwr, mae defodau ac adeiladau crefyddol yn ei blesio ar rhyw lefel esthetig. Ei farn ef yw y dylai anffyddwyr eu hefelychu trwy godi adeiladau ysblennydd sy'n cynnwys pob math o wrthrychau symbolaidd sy'n cynrychioli rhyfeddodau ac ardderchogrwydd byd natur. Y syniad, rwy'n credu, yw y byddai pethau fel hyn yn ennyn rhyw ymdeimlad 'ysbrydol' a dwfn yn y rhai sy'n edrych arnynt, gan esgor ar werthfawrogiad o fawredd y bydysawd ynom i gyd.

Y broblem gyda hyn i gyd yw bod adeiladau tebyg i hyn yn bodoli'n barod, a hynny ers canrifoedd lawer. Gelwir y llefydd hynod hyn yn 'amgueddfeydd'. Mae'r adeiladau yma'n llawn gwrthrychau diddorol a ffeithiau sy'n peri i ni ryfeddu at fawredd y byd. Mae croeso i de Botton alw'r sefydliadau yma'n rhyw fath o demlau seciwlar os oes rhaid, ond mae fel petai'r dyn eisiau mynd ymhellach a gosod yr holl beth mewn termau 'ysbrydol'. Ond mae anffyddwyr yn gwerthfawrogi'n iawn yn barod bod y bydysawd yn beth anhygoel. Y peth olaf sydd angen ei wneud yw cyfystyru'r gwerthfawrogiad hwnnw â theimladau crefyddol (mae'r hyn sydd gan wyddoniaeth i'w ddweud am y bydysawd yn llawer iawn cyfoethocach a 'dyfnach' na'r delweddau cartwnaidd a simplistaidd a geir yn y Beibl, beth bynnag). Mae darbwyllo llawer o dwpsod crefyddol nad yw anffyddiaeth yn fath o grefydd yn dasg digon anodd fel ag y mae, diolch yn fawr.

I de Botton, yr esthetig yw'r peth pwysicaf un. Yn fy marn i, mae'n rhyfeddol bod rhywun sy'n galw'i hun yn anffyddiwr yn gallu dweud rhywbeth fel hyn
Probably the most boring question you can ask about religion is whether or not the whole thing is "true." Unfortunately, recent public discussions on religion have focused obsessively on precisely this issue, with a hardcore group of fanatical believers pitting themselves against an equally small band of fanatical atheists.
Ai fi sy'n rhyfedd? Ai dim ond fi sy'n credu bod gwirionedd crefydd yn fater eithriadol o bwysig? Os yw cristnogaeth yn wir, mae'n golygu bod creawdwr y bydysawd yn eistedd yn y nefoedd, yn ein gwylio bob eiliad, ac yn gwylltio'n ofnadwy os nad ydym yn ei addoli'n ddigonol. Os yw cristnogaeth yn wir, onid dyna fyddai'r ffaith bwysicaf oll?! Dim ond mwydryn o athronydd di-sylwedd fyddai'n gallu haeru bod gwirionedd yn fater diflas a phitw, yn fy marn i; yn enwedig gwirioneddau mor sylfaenol â'r hyn a honnir yng nghristnogaeth.

Nid dim ond ar fater crefydd y mae de Botton yn wastreff amser llwyr, chwaith. Mae ganddo lyfr newydd o'r enw How To Think More About Sex. Mae'r teitl yn un digon atyniadol, am wn i, ond mae'r adolygiad yma'n ddigon i'm darbwyllo mai mwy o fwydro siwdo-athronyddol (a siwdo-wyddonol) yn unig ydyw felly nid wyf am drafferthu ag ef. Mae'n werth darllen yr adolygiad yn llawn: yr hyn sy'n synnu rhywun yw bod agwedd de Botton tuag at ryw yn mynd rownd y byd a'n cyrraedd rhywle tebyg i safbwynt y piwritan crefyddol (crynodeb: bai merched a phornograffiaeth yw popeth). Ymddengys bod llawer yn y llyfr hefyd i wylltio biolegwyr arbenigol. Ni fyddaf yn brysio i'r siop lyfrau leol i brynu'r gyfrol yma, mae gennyf ofn.

A bod yn onest, mae de Botton yn un o'r anffyddwyr hynny y mae'n hawdd iawn ei ddychmygu'n cael rhyw fath o dröedigaeth grefyddol ar rhyw bwynt yn y dyfodol (byddai'r holl sylw wrth ei fodd, bid siwr), hyd yn oed os mai rhyw resymau 'esthetig' niwlog fyddai ei gyfiawnhad. Y gwir yw bod y dyn yn treulio cymaint o amser yn ymosod ar bron pob anffyddiwr arall, go brin y byddai'n hawdd dweud y gwahaniaeth.

26/02/2012

Rhywbeth y dylai anffyddwyr beidio'i wneud

Mae gan yr Eglwys Formonaidd ddefod eithriadol o annifyr, sef "bedyddio" pobl sydd wedi marw er mwyn eu hawlio fel Mormoniaid (am ffordd gyfleus a ddi-ffwdan o chwyddo niferoedd!). Mae'n anodd canfod y geiriau i fynegi haerllugrwydd y peth. Un o'r meirwon anffodus a gafodd y driniaeth yn ddiweddar oedd Anne Frank, o bawb.

Wrth reswm, mae'n anonest ail-ysgrifennu hanes a honni bod pobl wedi credu pethau nad oeddent yn eu credu, yn enwedig pan fo'r bobl hynny bellach yn eu bedd a'n methu ymateb. Dyna'n union pam ei bod yn anffodus bod y ddelwedd yma wedi bod yn gwneud ei ffordd ar hyd a lled y we'n ddiweddar:


Er gwybodaeth, y dynion yn y llun yw Ernest Hemingway, Abraham Lincoln, a Carl Sagan (top); Mark Twain, Thomas Jefferson a Benjamin Franklin (canol); ac Albert Einstein a Charles Darwin (gwaelod).

Mae'n sicr nad oedd yr un ohonynt yn Gristnogion (ar ddiwedd eu hoesau o leiaf), yn ôl unrhyw ddiffiniad ystyrlon o'r gair. Yn wir, mae safbwyntiau diwinyddol pob un ohonynt yn gymhleth ac mae'n anodd iawn gosod un label clir yn achos yr un ohonynt. Heblaw Sagan (a oedd am ba bynnag reswm yn ffafrio'r gair agnostig), ac efallai Hemingway (a aeth trwy'r ddefod o ymuno â'r eglwys Babyddol er mwyn gallu priodi ei anwylyd ond a oedd, mae'n debyg, yn ddi-ffydd i bob pwrpas), mae hawlio'r dynion yma fel "anffyddwyr" yn ei gor-ddweud hi braidd, neu, mewn rhai achosion, yn gelwydd noeth.

Mae Einstein yn dod yn eithriadol o agos. Mae agwedd hwnnw tuag at y cysyniad o dduw yn niwlog ac wedi bod yn destun cryn drafodaeth ers bron i ganrif. Mae llawer yn cael eu camarwain gan ei ddefnydd trosiadol o'r gair "duw". Ystyrier y datganiad enwog o'i eiddo, er enghraifft: "God does not play dice". Mae llawer o wyddonwyr, o gyfnod Einstein yn enwedig, yn ei chael yn anodd osgoi'r temptasiwn i ddefnyddio'r gair "duw" mewn rhyw ffordd farddonol. Yr hyn y maent yn cyfeirio ato yn y bôn yw'r bydysawd a natur yn gyffredinol, a'r rheolau ffisegol sylfaenol sydd wrth wraidd popeth. Sgil effaith anffodus yr ieithwedd flodeuog yma yw bod llawer o bobl grefyddol yn cyffroi wrth weld y gair "duw" a'n herwgipio'r siaradwr a'i droi'n gristion (neu'n achos Einstein, iddew uniongred). Mewn gwirionedd, fodd bynnag, rwy'n credu bod panffyddiaeth yn ddisgrifiad tecach o'r ffordd yr oedd Einstein yn edrych ar y byd. Efallai. Fel y dywedais, mae'n anodd dweud oherwydd tuedd rhai ffisegwyr fel Einstein i siarad mewn trosiadau.

Mae Lincoln a Darwin yn anodd eu labelu hefyd, er (neu efallai oherwydd) cymaint sydd wedi'i gofnodi ganddynt ac amdanynt. Wrth reswm fe gollodd Darwin ei Gristnogaeth wrth iddo ddatblygu theori esblygiad, ond agnostig yr oedd yn galw'i hun erbyn y diwedd. O ystyried y cyfnod y bu'n byw ynddo, buaswn mewn gwirionedd yn synnu petai wedi ymwrthod â phob syniad o dduw yn yr un modd ag y mae anffyddwyr modern yn ei wneud. Yn achos Lincoln, gan mai gwleidydd ydoedd mae angen cymryd ei ddatganiadau cyhoeddus ynghylch ffydd gyda phinsiad o halen (er bod y pwysau ar wleidydd Americanaidd i fod yn Gristion orthodocs yn llawer iawn llai bryd hynny nag ydyw heddiw, yn rhyfedd iawn). Mae hanesyddwyr yn anghytuno o hyd am ei union farn ddiwinyddol, ond er nad oedd erioed yn aelod o unrhyw eglwys Gristnogol rwy'n credu bod ei gyfeiriadau cyson at dduw (o ba bynnag fath) yn ei gwneud yn anodd ei hawlio fel anffyddiwr fel y deëllir y gair heddiw.

Ond gwir asgwrn y gynnen, a'r rheswm rwyf wedi cael fy sbarduno i ysgrifennu'r cofnod yma, yw ei bod yn gwbl sicr nad oedd Jefferson, Franklin na Twain yn anffyddwyr o fath yn y byd. Roedd y tri'n feirniadol tu hwnt o Gristnogaeth ac o grefydd ffurfiol yn gyffredinol, yn sicr. Roedd y ddau gyntaf ymhlith adeiladwyr pennaf yr enghraifft orau erioed o wladwriaeth seciwlar, sef Unol Daleithiau America. Mae Jefferson hefyd yn enwog am fynd trwy ei feibl a thorri allan (yn llythrennol, gyda rasal) pob cyfeiriad at wyrthiau a'r goruwchnaturiol, er mwyn creu llyfr llawer iawn iawn byrrach o'r enw The Life and Morals of Jesus of Nazareth. Roedd Jefferson a Franklin ill dau, er yn ymwrthod â Christnogaeth, yn credu mewn rhyw fath o dduw personol sy'n weithredol o hyd. Ond fel mae teitl llyfr Jefferson yn ei awgrymu, roedd yn credu bod pethau da i'w dysgu oddi wrth Iesu fel athronydd hyd yn oed os oedd yn gwrthod credu bod hwnnw'n fab i dduw ac ati. Am y rheswm yna, nid yw deistiaeth chwaith yn ddisgrifiad cywir o'u credoau. Yn hytrach, roeddent yn arddel rhyw fath o resymoliaeth theistig.

Yn achos Mark Twain, er ei fod wedi anelu ei ffraethineb enwog at Gristnogaeth gyda'r gorau, mae'n anodd gwadu bod hwnnw hefyd wedi credu mewn rhyw fath o dduw ac felly mae'n anonest ceisio'i hawlio fel anffyddiwr.

Efallai bod hyn i gyd yn ddi-bwys. Wedi'r cyfan, nid oes ots mewn gwirionedd beth oedd barn ffigurau hanesyddol penodol am grefydd. Byddai absenoldeb duw'n parhau hyd yn oed petai holl feddyliau craff y byd yn credu ynddo. Ond y pwynt yw bod pob anffyddiwr gwerth ei halen yn ystyried ffeithiau'n hanfodol, a'n beirniadu crefydd yn bennaf oherwydd ei bod yn mynd yn groes i ffeithiau. Mae'n bwysig felly ein bod yn osgoi dweud celwydd mewn ymgais i hyrwyddo'r achos. Mae hyd yn oed y goreuon yn gallu bod yn euog: nid wyf wedi darllen y llyfr, ond mae'n debyg bod Christopher Hitchens o bawb yn ei fywgraffiad ohono wedi syrthio i'r trap o geisio hawlio Thomas Jefferson fel anffyddiwr mawr rhonc. Mae'r holl bapurau a llythyrau sydd gennym o eiddo Jefferson yn ei gwneud yn anodd galw'r honiad yna'n unrhyw beth ond celwydd.

Y gwir amdani yw bod anffyddiaeth fodern, sef diffyg ffydd mewn unrhyw fath o greawdwr neu endid goruwchnaturiol o gwbl, yn ffenomen digon diweddar. Cyn y ganrif ddiwethaf, roedd hyd yn oed beirniaid ffyrnicaf crefydd yn tueddu i dderbyn rhyw fath annelwig o dduw. Mae'n bur bosibl y byddai pawb yn y llun uchod yn anffyddwyr llwyr petaent yn fyw heddiw, ond fel ag y mae pethau ni ddylid efelychu'r Mormoniaid.

30/12/2011

Pam mae "duw wnaeth" yn ateb anfoddhaol i unrhyw gwestiwn

Fel yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen, rwyf ar hyn o bryd yn darllen A History Of Western Philosophy (1946) gan yr athronydd Bertrand Russell.

Wrth gwrs, roedd Russell yn anffyddiwr mawr a phwysig, ac mae hynny'n lliwio'r gyfrol o bryd i'w gilydd. Rwyf felly'n bwriadu defnyddio ambell ddarn o'r llyfr fel ysbrydoliaeth ar gyfer y blog. Er enghraifft, wrth drafod yr atomeiddwyr Leucippus a Democritus, Groegwyr o'r bumed ganrif "cyn Crist", mae'n gwneud pwynt sy'n berthnasol o hyd. Yr athronwyr hyn a ddyfeisiodd y cysyniad o'r atom anranadwy, sy'n symud yn gyson ac sydd ambell waith yn taro'n erbyn ei gilydd a chreu cyfansoddion. Yr hyn a oedd mor ddadleuol am eu syniad - ar y pryd ac, mae'n wir, hyd heddiw - yw'r ffaith nad oeddent yn ystyried bod rhaid ateb cwestiwn "yr achos cyntaf" (sef yr hyn a achosodd i'r atomau ddechrau symud yn y lle cyntaf) er mwyn derbyn y cysyniad yn ei hanfod. Dyfynnaf Russell yn helaeth:
When we ask 'why?' concerning an event, we may mean either of two things. We may mean: 'What purpose did this event serve?" or we may mean: "What earlier circumstances caused this event?" The answer to the former question is a teleological explanation, or an explanation by final causes; the answer to the latter question is a mechanistic explanation. I do not see how it could have been known in advance which of these two questions science ought to ask, or whether it ought to ask both. But experience has shown that the mechanistic question leads to scientific knowledge, while the teleological question does not. The atomists asked the mechanistic question, and gave a mechanistic answer. Their successors, until the Renaissance, were more interested in the teleological question, and thus led science up a blind alley.

In regard to both questions alike, there is a limitation which is often ignored, both in popular thought and in philosophy. Neither question can be asked intelligibly about reality as a whole (including God), but only about parts of it. As regards the teleological explanation, it usually arrives, before long, at a Creator, or at least an Artificer, whose purposes are realized in the course of nature. But if a man is so obstinately teleological as to continue to ask what purpose is served by the Creator, it becomes obvious that his question is impious. It is, moreover, unmeaning, since, to make it significant, we should have to suppose the Creator created by some super-Creator whose purposes He served. The conception of purpose, therefore, is only applicable within reality, not to reality as a whole.

A not dissimilar argument applies to mechanistic explanations. One event is caused by another, the other by a third, and so on. But if we ask for a cause of the whole, we are driven again to the Creator, who must Himself be uncaused. All causal explanations, therefore must have an arbitrary beginning. That is why it is no defect in the theory of the atomists to have left the original movements of the atoms unaccounted for. (73-4)
Un rheswm amlwg nad yw "duw wnaeth" yn ateb da i unrhyw gwestiwn yw nad oes tystiolaeth o gwbl bod y peth yn wir. Ond mae'r dyfyniad uchod yn esbonio'n huawdl bod rheswm arall sydd yr un mor bwysig, sef nad ydyw hyd yn oed yn ateb defnyddiol.

Pan mae gwyddonydd ar y naill law, a diwinydd ar y llaw arall, yn gofyn "pam mae rhyw ffenomen arbennig yn digwydd?", mae'r ddau'n gofyn cwestiwn gwahanol i'w gilydd. Fel mae Russell yn ei egluro uchod, mae'r gwyddonydd yn chwilio am ateb mecanyddol, neu gemegol, neu ffisegol: rhywbeth sy'n egluro pa bethau penodol a ddigwyddodd er mwyn arwain at y sefyllfa sydd o dan sylw. Hynny yw, mae cwestiwn "pam?" y gwyddonydd yn gyfystyr yn llwyr â gofyn "sut?". Yn achos y diwinydd, fodd bynnag, mae "pam?" yn gwestiwn metaffisegol, yn chwilio am rhyw bwrpas neu arwyddocâd. Nid "sut?" yw'r cwestiwn, eithr "beth yw ystyr hyn o fewn fy fframwaith ddiwinyddol?"

Gwahaniaeth arall rhwng y ddau gwestiwn yw bod ateb defnyddiol y gwyddonydd yn aml yn arwain at fwy o gwestiynau sy'n gofyn am fwy o fanylder eto. Oherwydd hyn, ni ddaw terfyn i waith y gwyddonydd; go brin y daw'r dydd pan na fydd unrhyw beth ar ôl i'w ddarganfod. Yr hyn a wneir yw parhau i lenwi bylchau yn ein dealltwriaeth a cheisio ateb unrhyw gwestiynau newydd a gyfyd. Dyma'r unig ffordd adeiladol o wneud synnwyr o'r byd o'n cwmpas. Cryfder y dull gwyddonol yw'r nad yw'r ymchwil yn rhoi'r gorau am eiliad i symud yn ei blaen, ac nid oes ofn ail-ystyried pethau o bryd i'w gilydd os oes rhaid. Mae'n dweud cyfrolau am y gwahaniaeth rhwng y ddwy ffordd o feddwl bod cymaint o bobl grefyddol yn ystyried y nodweddion uchod yn wendidau. I lawer o bobl grefyddol, fe ymddengys i mi, llawer gwell y byd-olwg sy'n aros yn statig (ac felly'n syml a chyfforddus).

Dyna sut mae'r cwestiwn "pam?" gwyddonol yn arwain at wybodaeth a dealltwriaeth newydd. Ond cymharwch â'r ateb crefyddol i gymaint o'r cwestiynau mawr am y byd. Yn hanesyddol, mae crefydd amrwd wedi bodloni gyda "duw wnaeth", neu o leiaf rhyw stori sy'n deillio o fytholeg ei duwiau. Iawn, ond beth wedyn? Dyna roi troed i lawr yn syth ac annog pobl i beidio ymchwilio ymhellach, oherwydd dyna ni'r ateb yn dwt ac yn syml. Gall pawb fod yn hapus bod y mater wedi'i setlo; nid oes unrhyw beth pellach i'w ddweud.

Wrth gwrs, gallwn ystyried ein hunain yn ffodus bod yr hil ddynol o hyd yn cynnwys yn ei phlith digon o bobl sy'n rhy chwilfrydig i adael y peth yn y fan yna. Petai crefydd amrwd wedi cael ei ffordd, ni fyddai unrhyw gynnydd na gwelliant wedi digwydd ers i'r droed ddod i lawr. Diolch byth, felly, bod yna bobl sydd wedi awchu i ddeall mwy ac wedi mynd fymryn ymhellach trwy ofyn "iawn, ond sut wnaeth duw wneud hyn?" Gyda'r cwestiwn yma, mae rhywbeth diddorol yn digwydd: mae'n dechrau ymdebygu i gwestiwn y gwyddonydd. Mae'r cwestiwn newydd yma'n arwain at atebion sy'n ymwneud â ffenomenau naturiol. Mae modd dweud wedyn bod duw wedi creu hyn a hyn trwy rhyw fecanwaith naturiol arbennig, ac yn ei dro fe sylwir bod modd astudio'r mecanwaith naturiol hwnnw'n fanylach a'i esbonio eto mewn termau naturiol. Mae rhywbeth arwyddocaol eto'n digwydd wedyn: wrth i ni ddatguddio haen ar ôl haen o fanylder wrth ateb "sut wnaeth duw wneud hyn?", daw'r sylweddoliad (yn hwyr neu'n hwyrach!) ei bod yn bosibl egluro'r ffenomen heb orfod cyflwyno'r cysyniad o dduw o gwbl, gan fod y mecanweithiau naturiol yn siarad drostynt eu hunain. Po fwyaf y dawn i ddeall am y byd, po leiaf yw'r angen i gyflwyno'r cysyniad o dduw er mwyn ei esbonio. Canlyniad hyn yw bod teyrnas duw'n crebachu a chrebachu; yr unig lefydd sydd ganddo i guddio ynddynt yw lle mae ansicrwydd yn parhau i fodoli, ac mae'r rheiny'n prysur ddiflannu. Y creadur pitw a thruenus sy'n weddill yw duw'r bylchau, neu god of the gaps.

Dyma'n union pam mae awdurdodau crefyddol, ar hyd y canrifoedd, wedi mynd ati mor fileinig i atal a llesteirio darganfyddiadau gwyddonol, a chosbi unrhyw un sy'n euog o chwilfrydedd. Yr enghraifft enwocaf wrth gwrs yw Galileo.

Mae unrhyw un sydd wedi dadlau gyda Christnogion yn gwybod mai mater o amser yn unig ydyw nes bod y drafodaeth yn cyrraedd pwnc dechrau'r bydysawd, sef yr ultimate cause. Mae hynny'n deg mewn ffordd, gan ei fod yn gwestiwn mawr (ond wedi dweud hynny, nid oes rheswm i dybio bod angen "achos cyntaf" o gwbl; pam na all y bydysawd dim ond bod?). Ond hyd yn oed o dderbyn er lles dadl bod cwestiwn yr "achos cyntaf" yn ddilys, ni allaf ddeall sut mae datgan mai "duw wnaeth" yn eu bodloni. Nid yw'n ychwanegu at ein dealltwriaeth o gwbl; dim ond gosod enw priod ar y digwyddiad ydyw. Pam na ddylai fod rhaid i dduw yntau fod wedi cael ei achosi neu ei greu gan rhywbeth arall? Nid yw'n rhesymol na synhwyrol i gyflwyno endid fel duw allan o ddim a dweud mai hwnnw roddodd ddechrau ar bopeth arall, gan fynnu nad oedd rhaid i hwnnw'i hun gael ei achosi neu ei greu. Os nad oedd rhaid i dduw ei hun gael ei greu gan rhywbeth blaenorol, yna pam na all y bydysawd ei hun feddu ar yr un nodwedd? Cut out the middleman, ys dywed y Sais. Hyd yn oed yn yr achos yma felly, lle mae'n wir bod ein dealltwriaeth yn anghyflawn (er yn prysur gynyddu), nid yw'r cysyniad o dduw o unrhyw gymorth o gwbl i ni. Mae unrhyw un sy'n ystyried "duw wnaeth!" yn ateb digonol a therfynol yn chwarae rhan y Chwilys gynt, oherwydd yr awgrym yw nad oes pwrpas i waith astronomegwyr a ffisegwyr sy'n chwilio am atebion naturiol (hynny yw, defnyddiol).

Mae'n anodd peidio teimlo rhyw fath o drueni tros yr hen dduw druan; mae'n ddi-waith ac anobeithiol erbyn hyn fel dyfais esboniadol. Mae'r byd yn llawer cliriach hebddo, fodd bynnag, felly rwy'n dathlu ei dranc.

26/12/2011

Myth "crefydd soffistigedig"

Rwy'n eithaf mwynhau colofn newydd wythnosol yr athronydd Julian Baggini yn y Guardian, lle mae'n trafod y gwrthdaro rhwng crefydd ac anffyddiaeth. Mae'n anffyddiwr, er nid wyf yn cytuno ag ef bob tro o bell ffordd.

Yn y gorffennol, mae wedi bod yn un o'r anffyddwyr hynny sydd wedi beirniadu'r "anffyddwyr newydd" mwy di-gyfaddawd (a mwy swnllyd) ar y sail bod eu hymosodiadau cyson ar grefydd yn wrth-gynhyrchiol a dinistriol a'n gwneud i bobl glosio fwy at ffydd yn hytrach na'r ffordd arall. Gweler, er enghraifft, yr ysgrif yma o 2009. Y pryder oedd bod y genhedlaeth newydd yma o anffyddwyr yn canolbwyntio gormod ar y straeon a'r digwyddiadau honedig penodol sy'n sail ar gyfer llawer o gredoau crefyddol. Nid dyna sy'n bwysig, meddir, eithr y byd-olwg a'r mewnwelediad moesol a ddarperir gan ffydd. Dyma'r hen (hen!) ddadl am y mythos a'r logos.

Mae'n dda gennyf weld felly bod arwyddion yn ei golofn ei fod yn dechrau gweld ychydig o'r goleuni (fel petai) a'n dod i gydymdeimlo mwy â'r anffyddwyr swnllyd. Nid yw'n datgan hynny'n blaen, ond dyna oblygiadau llawer mae wedi'i ddweud yn ddiweddar.

Eisiau tynnu sylw at yr erthygl ddiweddar yma'n benodol wyf i, oherwydd mae'n mynd i'r afael â rhywbeth rhwystredig ar y naw. Yr hyn rwy'n cyfeirio ato yw ymateb cymaint o ddiwinyddwyr academaidd i feirniadaeth gan anffyddwyr, sef mynnu ein bod nid yn unig yn gorbwysleisio'r logos ond hefyd ein bod yn targedu fersiwn rhy amrwd a simplistaidd o grefydd. Mae ffydd "go iawn", fe haerir, yn llawer mwy "soffistigedig".

Rwy'n synnu ychydig ei bod wedi cymryd cymaint o amser i Baggini sylweddoli mai lol yw hynny. Beth bynnag, mae'r ysgrif yn amlinellu canlyniadau arolwg o Gristnogion a wnaed gan yr awdur. Rhaid cydnabod mai arolwg digon anwyddonol ydoedd, ond noder mai Cristnogion sy'n darllen gwefan Comment Is Free y Guardian yn rheolaidd oedd yr ymatebwyr. Os yw'r canlyniad yn anghynrychiadol felly, yna tuedd tuag at ochr llai ceidwadol (amrwd, simplistaidd) a mwy rhyddfrydol ("soffistigedig") y spectrwm, o gymharu â'r boblogaeth gyffredinol, fyddai'n bresennol. Mae hynny'n gwneud y casgliadau'n arwyddocaol:
So what is the headline finding? It is that whatever some might say about religion being more about practice than belief, more praxis than dogma, more about the moral insight of mythos than the factual claims of logos, the vast majority of churchgoing Christians appear to believe orthodox doctrine at pretty much face value. They believe that Jesus is divine, not simply an exceptional human being; that his resurrection was a real, bodily one; that he performed miracles no human being ever could; that he needed to die on the cross so that our sins could be forgiven; and that Jesus is the only way to eternal life. On many of these issues, a significant minority are uncertain but in all cases it is only a small minority who actively disagree, or even just tend to disagree. As for the main reason they go to church, it is not for reflection, spiritual guidance or to be part of a community, but overwhelmingly in order to worship God.
Byddai hynny wedi bod yn amlwg i mi cyn dechrau. Roedd y canlyniadau'n fwy annisgwyl yn llygaid Baggini, ond rwy'n falch ei fod wedi gallu dangos y celwydd mor glir.

Prif broblem diwinyddwyr academaidd yw eu hargraff gyfeiliornus bod eu fersiwn "soffistigedig" hwy o'u ffydd yn gyffredin y tu allan i'w tyrau eifori. Beirniadu crefydd y mwyafrif a'i ddylanwad yn y byd mawr crwn a wna anffyddwyr yn bennaf, am resymau digon amlwg a chyfiawn. Ond mae diwinyddwyr o'r farn mai eu ffydd hwy yw'r "crefydd go iawn", heb sylweddoli eu bod mewn lleiafrif digon pitw (er yn leiafrif sy'n cael cynrychioli "crefydd" wrth adolygu llyfrau ac ysgrifennu erthyglau mewn cylchgronnau). Y gwir yw bod eu fersiwn hwy o'u crefydd yn gwbl ddieithr ac annealladwy i'r rhan fwyaf o bobl sy'n credu mewn duw.

Yn fwy na hynny, fel y mae'r darn uchod yn ei ddangos, mae hyd yn oed pobl grefyddol rhyddfrydol a "soffistigedig" yn credu llawer iawn o bethau cwbl ryfeddol. Mae Cristnogion sy'n ddigon goleuedig i ymwrthod â chreadaeth a dehongliadau mwy llythrennol o Genesis, er enghraifft, dal i gredu'n llythrennol bod genedigaeth Iesu Grist yn fab llythrennol i Dduw a'i fod wedi cyflawni gwyrthiau cyn marw, atgyfodi, ac esgyn i'r nefoedd. Gellir haeru mai trosiad ydyw, ac nad oes angen iddo fod yn ffeithiol wir er mwyn bod yn ddefnyddiol mewn ffyrdd eraill. Ond hyd y gwelaf i, mae'n anodd galw'ch hunain yn Gristion heb gredu bod Iesu Grist wirioneddol yn ddwyfol a bod y pethau uchod wir wedi digwydd iddo. Er bod llawer o Gristnogion yn wfftio (neu hyd yn oed yn gwneud hwyl am ben) ffwndamentalwyr sy'n credu bod stori Noa a'r llifogydd mawr, dyweder, yn ffeithiol gywir, nid yw'r darn yna o Genesis yn llai anhygoel na gwirion na chwedl Iesu. Yn wahanol i stori Noa, fodd bynnag, mae dehongliad llythrennol o'r portread o fywyd Iesu nid yn unig yn dderbyniol, ond yn hollol angenrheidiol a chreiddiol i'r ffydd Gristnogol.

Mae rhai academwyr yn parhau i anwybyddu'r ffaith bod honiadau creiddiol crefydd yn ddi-sail a'n mynnu bod angen i anffyddwyr ddysgu mwy am ffydd cyn beirniadu. Un enghraifft yw Terry Eagleton, marcsydd o feirniad llenyddol sydd hefyd yn Babydd. Wrth adolygu The God Delusion gan Richard Dawkins yn hynod anffafriol, cawn ganddo'r berl hon:
What, one wonders, are Dawkins’s views on the epistemological differences between Aquinas and Duns Scotus? Has he read Eriugena on subjectivity, Rahner on grace or Moltmann on hope?
Un ateb amlwg i'r cwestiwn dwl yma yw gofyn faint o Gristnogion sydd wedi gwneud? Os oes angen gwneud y pethau uchod er mwyn cael dealltwriaeth ddigonol o'r ffydd Gristnogol, yna go brin bod yna fwy na llond dwrn o Gristnogion yn bodoli'n y byd i gyd. Go brin bod hyn yn helpu ei ddadl. Ail ateb yw gofyn i Eagleton drachefn a yw wedi darllen Adi Shankara, Chaitanya Mahaprabhu neu Swami Vivekananda? Os na, pa hawl sydd ganddo i wrthod Hindŵaeth? Dyma'r un ddadl yn union ag y mae ef wedi'i ddefnyddio uchod. Oes rhaid i ni ddarllen pob testun astrus am bob ffydd yn y byd cyn i ni ennill yr hawl i'w gwrthod? Byddai'n amhosibl i ni ddod i ben! Trydydd ateb (digon tebyg i'r ail) yw pam stopio gyda'r pump uchod? Hyd yn oed petai Dawkins yn ateb y cwestiwn yn gadarnhaol, byddai modd i Eagleton ofyn "ok, wel beth am Thomas à Kempis, Emanuel Swedenborg a John Polkinghorne?" Mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd, felly byddai'r drafodaeth yn ddigon diflas a di-bwrpas. Mae pedwerydd ateb hefyd, ac efallai dyma'r un mwyaf sylfaenol: beth yn union fyddai trafod y diwinyddwyr yna wedi'i ychwanegu at lyfr sy'n trafod rhywbeth digon syml yn y bôn, sef absenoldeb tystiolaeth bod duw'n bodoli? Mae'n amhosibl osgoi'r casgliad mai dangos ei hun yn hunan-gyfiawn yr oedd Eagleton.

Cyn mynnu bod rhaid i anffyddwyr wneud cymaint o waith darllen, mae'n rhaid dangos tystiolaeth nad yw'r holl amser yn y llyfrgell yn mynd i fod yn wastraff. Mae Cristnogaeth wedi creu fframwaith ddeallusol anferth heb orfod profi bod y dybiaeth greiddiol yn wir. Mae astroleg wedi gwneud yr un peth: er nad oes unrhyw dystiolaeth bod lleoliad y blaned Iau ar eiliad eich geni o unrhyw arwyddocâd o gwbl, er enghraifft, mae llyfrau hirfaith wedi'u hysgrifennu yn trafod mecanweithiau honedig ac ystyr y peth mewn cryn fanylder. Yn yr achos hwnnw fel gyda chrefydd, mae pobl sy'n cymryd y fframwaith o ddifrif a'n gweithio y tu mewn iddo'n anwybyddu'r gwirionedd, sef bod yr ymerawdwr yn noeth.

Yr ymateb gorau rwyf wedi'i weld i hyn i gyd yw'r Courtier's Reply gan PZ Myers. Mae'n werth ei ddyfynnu'n llawn:
I have considered the impudent accusations of Mr Dawkins with exasperation at his lack of serious scholarship. He has apparently not read the detailed discourses of Count Roderigo of Seville on the exquisite and exotic leathers of the Emperor's boots, nor does he give a moment's consideration to Bellini's masterwork, On the Luminescence of the Emperor's Feathered Hat. We have entire schools dedicated to writing learned treatises on the beauty of the Emperor's raiment, and every major newspaper runs a section dedicated to imperial fashion; Dawkins cavalierly dismisses them all. He even laughs at the highly popular and most persuasive arguments of his fellow countryman, Lord D. T. Mawkscribbler, who famously pointed out that the Emperor would not wear common cotton, nor uncomfortable polyester, but must, I say must, wear undergarments of the finest silk.

Dawkins arrogantly ignores all these deep philosophical ponderings to crudely accuse the Emperor of nudity.

Personally, I suspect that perhaps the Emperor might not be fully clothed — how else to explain the apparent sloth of the staff at the palace laundry — but, well, everyone else does seem to go on about his clothes, and this Dawkins fellow is such a rude upstart who lacks the wit of my elegant circumlocutions, that, while unable to deal with the substance of his accusations, I should at least chide him for his very bad form.

Until Dawkins has trained in the shops of Paris and Milan, until he has learned to tell the difference between a ruffled flounce and a puffy pantaloon, we should all pretend he has not spoken out against the Emperor's taste. His training in biology may give him the ability to recognize dangling genitalia when he sees it, but it has not taught him the proper appreciation of Imaginary Fabrics.
Felly, pan mae rhywun yn cyhuddo Dawkins a'i debyg o dargedu fersiwn llai "soffistigedig" o grefydd, dylid cofio bod hyd yn oed y diwinydd mwyaf astrus a chymhleth yn cymryd llawer o bethau cwbl ddi-sail yn ganiataol. Mae bodolaeth duw yn gwestiwn eithriadol o bwysig ond hefyd yn syml tu hwnt. Gellir brolio hyd syrffed am faint eich casgliad o lyfrau diwinyddol o'r bymthegfed ganrif, ond nid yw hynny'n golygu fawr ddim heb fynd i'r afael â'r mater sylfaenol hwnnw. Mewn geiriau eraill, mae diwinyddwyr yn trafod natur duw heb ddangos bod y duw hwnnw'n bodoli'n y lle cyntaf. Mae'n ddigon gwir nad yw dadleuon anffyddwyr wedi newid llawer ers tua chanrif, ond nid ein bai ni mo hynny. Tystiolaeth os gwelwch yn dda!

24/11/2011

Bertrand Russell

Ymddiheuriadau am fod yn dawel ers pythefnos. Rydym wedi prynu tŷ ac wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer y symud, sy'n digwydd y penwythnos yma. Mae'n debyg y byddaf heb linell ffôn am bythefnos ar ôl hynny, felly mae gennyf ofn mai segur fydd y blog tan ganol mis Rhagfyr hefyd.

Erbyn i ni orffen setlo'n y cartref newydd, fodd bynnag, rwy'n siwr y bydd gennyf ddigon o ddeunydd blogio, gan fy mod ar hyn o bryd yn darllen A History Of Western Philosophy (1946) gan y Cymro Bertrand Russell. Mae'n glamp o lyfr hynod uchelgeisiol, sy'n olrhain datblygiad athroniaeth dros gyfnod o 2,500 blynedd hyd at droad y ganrif ddiwethaf.

Rwy'n ymwybodol bod llawer o'i gyd-athronwyr o'r farn bod yr uchelgais wedi bod yn drech nag ef, ond mae'n anochel nad yw llyfr mor faith yn mynd i fod yn berffaith. Er enghraifft, mae llawr o gwyno am or-bwyslais ar un cyfnod a diffyg ar gyfnod arall, ac mae'n rhyfedd iddo anwybyddu Kierkegaard yn llwyr. Un o'r prif gwynion, fodd bynnag, yw nad yw Russell yn gwneud llawer o ymdrech i fod yn ddi-duedd. Mae'n ei gwneud yn eithaf eglur pa athronwyr y mae'n eu hoffi a pha rai nad yw'n meddwl llawer ohonynt. Yn fy marn i, mae hynny'n gwneud y llyfr gymaint yn fwy darllenadwy. Mater o chwaeth yw hynny wrth gwrs, ac mae'n help yn yr achos yma fy mod yn rhannu cymaint o safbwyntiau Russell (gan gynnwys ei anffyddiaeth ddigyfaddawd, wrth reswm).

Rwy'n mwynhau'r darllen yn arw hyd yma. Mae brwdfrydedd yr awdur yn amlwg (mae'n debyg iddo fwynhau ysgrifennu'r llyfr yn fawr, a bu'r adolygiadau cymysg yn destun cryn siom iddo), ac mae'n llwyddo i wneud darllen am bynciau digon anodd yn annisgwyl o rwydd. Mae yna benodau cyfain am athronwyr nad oeddwn yn gyfarwydd â hwy o gwbl, fodd bynnag, felly fel rhywun sy'n bell o fod yn arbenigwr rhaid cadw'r adolygiadau cymysg mewn cof. Rwy'n fodlon derbyn y posibilrwydd bod rhai rhannau o'r llyfr yn datgelu mwy am Russell ei hun nag am y dynion y mae'n eu trafod.

Fel y crybwyllais uchod, mae anffyddiaeth Russell yn cael ei adlewyrchu yn y gyfrol o bryd i'w gilydd. Yn aml wrth i mi ddarllen mae'r awdur yn cyffwrdd â phwnc rwyf wedi bwriadu ei drafod yma, felly bydd yn dda gallu defnyddio'r llyfr fel ysbrydoliaeth. Gobeithio gallaf wneud hynny cyn hir.