Efallai eich bod yn cofio iddo ddweud ar ddechrau'r flwyddyn bod angen i anffyddwyr godi 'temlau' seciwlar. Er bod de Botton yn anffyddiwr, mae defodau ac adeiladau crefyddol yn ei blesio ar rhyw lefel esthetig. Ei farn ef yw y dylai anffyddwyr eu hefelychu trwy godi adeiladau ysblennydd sy'n cynnwys pob math o wrthrychau symbolaidd sy'n cynrychioli rhyfeddodau ac ardderchogrwydd byd natur. Y syniad, rwy'n credu, yw y byddai pethau fel hyn yn ennyn rhyw ymdeimlad 'ysbrydol' a dwfn yn y rhai sy'n edrych arnynt, gan esgor ar werthfawrogiad o fawredd y bydysawd ynom i gyd.
Y broblem gyda hyn i gyd yw bod adeiladau tebyg i hyn yn bodoli'n barod, a hynny ers canrifoedd lawer. Gelwir y llefydd hynod hyn yn 'amgueddfeydd'. Mae'r adeiladau yma'n llawn gwrthrychau diddorol a ffeithiau sy'n peri i ni ryfeddu at fawredd y byd. Mae croeso i de Botton alw'r sefydliadau yma'n rhyw fath o demlau seciwlar os oes rhaid, ond mae fel petai'r dyn eisiau mynd ymhellach a gosod yr holl beth mewn termau 'ysbrydol'. Ond mae anffyddwyr yn gwerthfawrogi'n iawn yn barod bod y bydysawd yn beth anhygoel. Y peth olaf sydd angen ei wneud yw cyfystyru'r gwerthfawrogiad hwnnw â theimladau crefyddol (mae'r hyn sydd gan wyddoniaeth i'w ddweud am y bydysawd yn llawer iawn cyfoethocach a 'dyfnach' na'r delweddau cartwnaidd a simplistaidd a geir yn y Beibl, beth bynnag). Mae darbwyllo llawer o dwpsod crefyddol nad yw anffyddiaeth yn fath o grefydd yn dasg digon anodd fel ag y mae, diolch yn fawr.
I de Botton, yr esthetig yw'r peth pwysicaf un. Yn fy marn i, mae'n rhyfeddol bod rhywun sy'n galw'i hun yn anffyddiwr yn gallu dweud rhywbeth fel hyn
Probably the most boring question you can ask about religion is whether or not the whole thing is "true." Unfortunately, recent public discussions on religion have focused obsessively on precisely this issue, with a hardcore group of fanatical believers pitting themselves against an equally small band of fanatical atheists.Ai fi sy'n rhyfedd? Ai dim ond fi sy'n credu bod gwirionedd crefydd yn fater eithriadol o bwysig? Os yw cristnogaeth yn wir, mae'n golygu bod creawdwr y bydysawd yn eistedd yn y nefoedd, yn ein gwylio bob eiliad, ac yn gwylltio'n ofnadwy os nad ydym yn ei addoli'n ddigonol. Os yw cristnogaeth yn wir, onid dyna fyddai'r ffaith bwysicaf oll?! Dim ond mwydryn o athronydd di-sylwedd fyddai'n gallu haeru bod gwirionedd yn fater diflas a phitw, yn fy marn i; yn enwedig gwirioneddau mor sylfaenol â'r hyn a honnir yng nghristnogaeth.
Nid dim ond ar fater crefydd y mae de Botton yn wastreff amser llwyr, chwaith. Mae ganddo lyfr newydd o'r enw How To Think More About Sex. Mae'r teitl yn un digon atyniadol, am wn i, ond mae'r adolygiad yma'n ddigon i'm darbwyllo mai mwy o fwydro siwdo-athronyddol (a siwdo-wyddonol) yn unig ydyw felly nid wyf am drafferthu ag ef. Mae'n werth darllen yr adolygiad yn llawn: yr hyn sy'n synnu rhywun yw bod agwedd de Botton tuag at ryw yn mynd rownd y byd a'n cyrraedd rhywle tebyg i safbwynt y piwritan crefyddol (crynodeb: bai merched a phornograffiaeth yw popeth). Ymddengys bod llawer yn y llyfr hefyd i wylltio biolegwyr arbenigol. Ni fyddaf yn brysio i'r siop lyfrau leol i brynu'r gyfrol yma, mae gennyf ofn.
A bod yn onest, mae de Botton yn un o'r anffyddwyr hynny y mae'n hawdd iawn ei ddychmygu'n cael rhyw fath o dröedigaeth grefyddol ar rhyw bwynt yn y dyfodol (byddai'r holl sylw wrth ei fodd, bid siwr), hyd yn oed os mai rhyw resymau 'esthetig' niwlog fyddai ei gyfiawnhad. Y gwir yw bod y dyn yn treulio cymaint o amser yn ymosod ar bron pob anffyddiwr arall, go brin y byddai'n hawdd dweud y gwahaniaeth.
No comments:
Post a Comment