Mae yna gwmni 'bwyd sydyn' yn America o'r enw Chick-fil-A sy'n agored iawn am eu daliadau cristnogol asgell-dde. Nid yw'n gyfrinach bod y rheolwyr yn rhoi arian i sefydliadau crefyddol, gan gynnwys rhai sy'n brwydro i rwystro pobl gyfunrywiol rhag mwynhau hawliau cyfartal. Mae'r ffaith yma wedi cael ychydig mwy o sylw'n ddiweddar, wrth i ymgyrchwyr o blaid hawliau sifil drefnu boicot yn erbyn y cwmni. Rwy'n cefnogi'r ymgyrchwyr yma; pan fyddaf yn mynd ar wyliau i America y flwyddyn nesaf, ni fyddaf yn tywyllu un o'u bwytai os digwydd i mi daro ar draws un.
Yn anffodus, mae Rahm Emanuel wedi mynd yn rhy bell o lawer. Emanuel yw maer Chicago, ac mae wedi mynegi ei fwriad i rwystro'r cwmni rhag ehangu ymhellach yn y ddinas. Gwrthwynebiad y cwmni i briodasau cyfartal oedd ei gyfiawnhad. Er fy mod yn cytuno'n chwyrn bod y safbwynt hwnnw'n erchyll, mae sylwadau Emanuel yn anghyfrifol ac anfoesol. Nid dyma sut y dylid brwydro'n erbyn rhagfarn.
Y gwir brawf o gefnogaeth person i'r egwyddor o ryddid mynegiant yw sut y maent yn ymateb i farn y maent yn anghytuno'n chwyrn â hi. Os mai'r cyfan yw rhyddid mynegiant yw'r hawl i leisio safbwyntiau y mae'r person hwnnw'n eu rhannu, nid rhyddid mynegiant a geir wedi'r cwbl. Os cefnogi hawl Mr Emanuel i ddefnyddio grym y wladwriaeth i gosbi cwmni masnachol am safbwyntiau gwleidyddol ei rheolwyr, er cysondeb rhaid hefyd cefnogi hawl dinas yn ne geidwadol y wlad (dyweder) i gosbi cwmni sy'n cefnogi hawliau cyfartal. Byddai'r un bobl sy'n cefnogi Emanuel heddiw yn cwyno'n syth yn yr achos hwnnw, ond nid oes modd ei chael hi'r ddwy ffordd. Yr holl reswm y mae angen rhyddid mynegiant yn y lle cyntaf yw nad oes modd teg i'r llywodraeth farnu beth sy'n dderbyniol neu'n annerbyniol.
Dylid pwysleisio nad oes tystiolaeth bod Chick-fil-A'n gwahaniaethu'n erbyn pobl gyfunrywiol, er enghraifft trwy wrthod eu cyflogi. Petai hynny'n wir, byddai pethau'n wahanol. Y cyfan sydd yma yw lleisio barn (ac ariannu sefydliadau sy'n hyrwyddo'r farn honno). Mae'n iawn bod gan aelodau o'r cyhoedd berffaith hawl i ymgyrchu'n erbyn cwmni o'r fath (ac yn erbyn cwmni sy'n cefnogi hawliau cyfartal hefyd, os mai dyna'u dymuniad), ond ni ddylai fod gan y wladwriaeth unrhyw rôl i'w chwarae o gwbl.
Un o ganlyniadau mwyaf rhwystredig straeon fel hyn yw eu bod yn fy ngorfodi i gymryd ochr y ffyliaid rhagfarnllyd. Nid yw hynny'n rhoi unrhyw bleser i mi o gwbl. Am unwaith, pan fydd cristnogion eithafol Americanaidd yn cwyno bod y wladwriaeth yn ymosod ar eu hawliau, bydd ganddynt bwynt. Mae'r maer wedi cymryd cam gwag anferth. Mae'n anfoesol, ond mae hefyd yn gamgymeriad strategol, gan fwydo naratif ei wrthwynebwyr (fel arfer, rhaid iddynt raffu celwyddau er mwyn cynnal eu persecution complex). Dylai Rahm Emanuel ymddiheuro.
Yn ystod y cyfnod pan oedd nifer o ddinasyddion Cymru yn protestio yn erbyn Apartheid yn Ne'r Affrig yr oeddem, fel unigolion, yn gwrthod cefnogi cwmnïau fel Barclays, Cape, gwinllannau o'r wlad ac ati - a hefyd yn rhoi pwysau ar ein cynghorau plwyf a sir a'r Llywodraeth ganolog i "foicotio" De'r Affrig.
ReplyDeleteOs oedd corfforaeth fach fel cyngor pentref cefn gwlad yn rhan o'r boicot yr oedd yn amlwg am gael mwy o effaith na fy moicot personol i.
Roedd Cyngor plwyf Llanbidinodyn yn dweud nad oeddynt am brynu gwin o Dde'r Affrig ar gyfer dathliad y Maer yn cael mwy o effaith a sylw o lawer na fy mhenderfyniad personol i beidio a phrynu hanner potel o Stellenbosch i lyncu efo fy nhwrci 'Dolig.
Os oedd cyngor mawr fel Caerdydd neu Lundain yn cael ei berswadio i fod yn rhan o'r brotest roedd yn hoelen mewn arch y gyfundrefn!
Pan dynnodd DET y £10 cyntaf allan o ATM ym Meirionnydd, yr oedd yn dipyn o coup, gan fod y cynghorau plwyf a sir, er yn methu gwrthod hawl i Barclays cael ATM, wedi sicrhau bod banc arall wedi achub y blaen arnynt fel y cyntaf yn y fro - ar sail eu gwrthwynebiad i gefnogaeth Barclays o gyfundrefn De'r Affrig!
Os yw pobl Chicago yn gwrthwynebu Chick -fil ac am ei foicotio fel unigolion, onid dyletswydd y Maer yw cefnogi barn ei etholwyr a rhoi cefnogaeth gorfforaethol i'w boicot?
Difyr. Ond mewn gair: na.
ReplyDeletePrif bwrpas cyfansoddiad America yw sefydlu ac amddiffyn hawliau sylfaenol, a gwarchod lleiafrifoedd rhag gormes y mwyafrif. Cyfyngiad ar ddemocratiaeth bur ydyw yn y bôn, ac mae achlysuron pan mae hynny'n bwysig.
Dychmyger lyfr dadleuol newydd yn cael ei gyhoeddi. Os yw mwyafrif yn penderfynu bod y gyfrol yn wrthun mewn rhyw ffordd, a bod angen ei gwahardd, ai dyletswydd y wladwriaeth yw gweithredu'r ewyllys honno? Na. Yn fy marn i, ei swyddogaeth yw sicrhau nad yw hawliau sylfaenol yr awdur yn cael eu sathru o dan draed y mwyafrif (hyd yn oed os yw'r creadur mewn lleiafrif o un). Mae rhyddid mynegiant yn un o'r hawliau sylfaenol hynny sydd uwchlaw democratiaeth seml.
Roedd apartheid yn Ne Affrica'n fater cwbl wahanol oherwydd roedd y wladwriaeth yn gwahaniaethu, yn y modd mwyaf erchyll a systematig, yn erbyn carfan anferth o'r boblogaeth (yn wir, y mwyafrif). Roedd boicot yn briodol yn yr achos hwnnw, gan gynnwys gan wladwriaethau eraill.
Mae boicot gan unoglion yn gwbl gyfiawn yn achos Chick-fil-A. Ond gan mai dim ond mynegi safbwynt (ac ariannu hyrwyddwyr y safbwynt honno) a wna'r cwmni, ni ddylai fod gan y wladwriaeth rôl i'w chwarae. Os ddaw tystiolaeth bod y busnes yn camwahaniaethu (er enghraifft trwy wrthod cyflogi pobl gyfunrywiol) byddai'n briodol (a phwysig) eu cosbi'n llym wedyn. Ond nid eiliad cyn hynny.
Felly, pe bai'r cwmni yma'n gwneud cais cynllunio i agor bwyty yn fy ardal yfory, yr unig ystyriaeth dwlwn roi i'r cais, fel cynghorydd lleol, yw i'r cynllun busnes Bydd dim perygl o wenwyn bwyd ond naw wfft i'r perygl o wenwyno meddwl?
ReplyDeleteRhydd i bob punt ei farn, ac i bob punt ei lafar
Yn hollol.
ReplyDeleteOnd byddai'n braf meddwl byddai trigolion lleol yn protestio ac ymgyrchu'n erbyn y busnes, gan beri i'r cwmni ddioddef hunllef PR. Efallai byddai hynny'n achosi i'r cwmni benderfynu peidio agor y bwyty wedi'r cyfan, neu i'r lle orfod cau'n fuan oherwydd nad oes unrhyw un call eisiau tywyllu'r lle. Dyna sut mae brwydro'n erbyn rhagfarn.
Fel y dywedais, y maen prawf yw dychmygu'r pegwn arall. Petai maer yn Jackson, Mississippi (dyweder), yn mynegi bwriad i gosbi cwmni preifat oherwydd bod ei phenaethiaid yn cefnogi hawliau cyfartal, byddai pob rhyddfrydwr gwerth ei halen yn gwylltio. Ond os nad yw'r rhyddfrydwyr hynny'n barod i feirniadu maer Chicago yn yr achos y soniais amdano hefyd, byddent yn euog o ragrith.
Mae angen gwahaniaethu rhwng mynegiant barn a gweithredu ar y farn honno. Dylai fod gan bawb yr hawl i ddweud bod hoywon yn afiach, ond os ydynt yn gweithredu'r farn honno, er enghraifft trwy wrthod cyflogi person cyfunrywiol, dyna pryd mae camu i mewn a'u cosbi.
O ystyried dadleuon y gorffennol, mae'n od mai fi yw'r un sy'n amddiffyn hawliau eithafwyr gwrth-gyfunrywiol ac mai ti sy'n anghytuno o'r cyfeiriad arall. Gobeithiaf bod hyn, yn anad dim byd arall, yn dy argyhoeddi o'r diwedd bod fy ymroddiad i'r egwyddor o ryddid mynegiant yn ddigyfaddawd.
ReplyDelete