24/07/2012

A yw dirywiad crefydd yn golygu bod rhesymoleg ar gynnydd?

Mewn ymgais i ddenu'r praidd yn ôl i'r gorlan, mae'r eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi adroddiad yn argymell nifer o bethau y mae rhaid eu gwneud er mwyn 'moderneiddio'. Mae'n anodd peidio teimlo mai ofer fydd yr ymdrech: os yw pobl yn troi cefnau ar gristnogaeth, neu o leiaf yn penderfynu bod ganddynt bethau gwell i'w gwneud ar y Sul (megis aros yn y gwely neu dorri'r gwair), nid oes rhyw lawer all newidiadau strwythurol ei wneud i rwystro hynny.

Rwyf wedi dweud droeon bod tranc cristnogaeth yn y wlad yma'n destun cryn falchder i mi. Hawdd fyddai dweud yr un pethau eto, ond er cryfder y demtasiwn i fanteisio ar y cyfle i glochdar unwaith yn rhagor, rwy'n credu mai ail-adrodd fy hun hyd syrffed fyddai hynny bellach. Yn hytrach, rwyf am ystyried cwestiwn fymryn yn wahanol: a yw'r ffaith bod mwy a mwy yn cefnu ar grefydd yn golygu bod rhesymoleg ar gynnydd?

Mae ffydd a rhesymoleg yn sefyll ar ddau begwn ar wahan. O'r herwydd, byddech yn disgwyl iddynt fod mewn cyfrannedd gwrthdro; hynny yw, wrth i'r naill ddisgyn, dylai'r llall esgyn. Go brin bod pethau mor hawdd a thaclus â hynny, ffodd bynnag, a hynny am sawl rheswm. Yn fwy na dim, rhaid cofio mai un wedd yn unig ar afesymoldeb ac ofergoeledd yw crefydd. Yn anffodus, er bod mwy a mwy yn ymddieithrio rhag eglwys a chapel, mae llawer iawn o bethau eraill cwbl afresymegol yn parhau i fynd o nerth i nerth: triniaethau amgen (megis homeopatheg ac adweitheg, y mudiad gwrth-frechu, astroleg, pobl sy'n honni eu bod yn gallu siarad gyda'r meirw, gwadu newid hinsawdd, conspiracy theories di-rif a llawer iawn mwy. Nid oes angen bod yn grefyddol o gwbl er mwyn llyncu un neu fwy o'r rhain, er mai fersiynau o'r un math o afresymoldeb ydynt. Gwaetha'r modd, nid oes arwydd bod y rhain ar drai fel ag y mae cristnogaeth.

O'r herwydd, gellir awgrymu nad rhesymu gofalus sydd o reidrwydd yn gyfrifol am y ffaith bod cymaint yn penderfynu peidio mynychu gwasanaethau crefyddol. Nis gwn am arolygon manwl sydd wedi gofyn y cwestiwn, ond yr argraff  a gaf i yw mai apathi syml yw'r prif reswm: nid yw pwnc bodolaeth duw yn un sy'n croesi meddwl llawer o bobl bellach, neu o leiaf nid ydynt yn ei ystyried yn ddigon pwysig i wneud unrhyw beth yn ei gylch. Cofier bod bellach llawer o bobl sy'n labelu eu hunain fel cristnogion, er nad ydynt yn tywyllu addoldy o gwbl. Mae hyn i gyd yn galonogol mewn sawl ffordd, wrth gwrs. Serch hynny, awgrymaf mai'r unig safbwynt llai rhesymegol na chredu mewn duw yw gwneud hynny heb ystyried mai ei fodolaeth yw'r ffaith bwysicaf yn y byd. Mae apathi o'r math hwnnw'n fersiwn arbennig o afresymoldeb ynddi'i hun, mewn ffordd.

Mentraf ateb fy nghwestiwn gwreiddiol trwy gynnig bod rhesymoleg, yn wir, yn cynyddu'n araf deg, ond nid i'r un graddau â'r dirywiad cyfatebol mewn crefydd.

Pam mae hyn yn bwysig? Fy mhwynt yw nad yw anwybyddu neu ymwrthod â duw yn ddigonol. Er mai ystyr geiriadurol 'anffyddiaeth' yw 'diffyg ffydd', dylid gochel rhag ei ddiffinio mewn termau negyddol yn unig. Hynny yw, dylai anffyddwyr arddel rhesymeg fel dull positif o ddehongli'r byd. Os mai apathi neu ddiogrwydd syml yw rheswm rhywun am beidio addoli duw, mae perygl nad ydynt yn meddu ar y sgiliau rhesymegol angenrheidiol er mwyn osgoi cael eu hudo gan efengylwyr neu bedlerwyr unrhyw fath arall o lol ofergoelus. Mae'n bosibl bod y gwreiddyn afresymegol hwnnw sy'n arwain at bethau fel ffydd yno o hyd, yn aros i amsugno'r syniadau twp diweddaraf. Cam cyntaf yn unig yw diosg ffydd.

Cyn i unrhyw un brotestio bod hyn i gyd yn swnio'n nawddoglyd, uchelgais yw rhesymoleg. Nid oes unrhyw un, gan gynnwys pobl sy'n mwydro hyd syrffed am bwysigrwydd rhesymoleg, yn berffaith resymegol ym mhob agwedd. Go brin hynny hyd yn oed yn bosibl. Rhywbeth i anelu ato ydyw. Rwy'n gwbl sicr fy mod yn llithro drwy'r amser fy hun, ond rwy'n gwneud fy ngorau.

No comments:

Post a Comment