08/05/2011

Anffyddiaeth Swnllyd a pham ei fod yn bwysig

Mae'n bosibl eich bod wedi clywed sôn am "New Atheism" (efo priflythrennau, fel arfer). Byddai rhestr o'r "Anffyddwyr Newydd" amlycaf yn cynnwys Christopher Hitchens, y gwyddonwyr Sam Harris, Jerry Coyne, Victor Stenger, PZ Myers, a'r athronwyr Daniel Dennett ac AC Grayling. Mae'n ymadrodd digon dwl, ac mae'r bobl uchod i gyd yn ymwrthod ag o, achos mae anffyddiaeth yn ei hanfod wedi bodoli ers nifer o ganrifoedd. Yn fwy na hynny, mewn gwirionedd does dim llawer yn newydd am lawer o'r dadleuon o blaid anffyddiaeth. Y cyfan sydd wedi newid ydi bod y bobl uchod, dros y degawd diwethaf, wedi dechrau ysgrifennu llyfrau a thraddodi areithiau sy'n arddel anffyddiaeth mewn ffordd digon pendant a digyfaddawd.

Ymateb llawer i hyn, gan gynnwys nifer o anffyddwyr, ydi rowlio llygaid a thwt-twtian. Yn ôl y bobl yma (rhai ohonynt nad ydynt eu hunain yn credu mewn duw ond sydd ofn "pechu"), mae beirniadu crefydd a ffydd yn anghwrtais, yn wrth-gynhyrchiol, neu'n ddi-bwynt, neu'n ddiflas (neu'r cwbl). Mae rhai ffyliaid yn mynd mor bell â galw'r anffyddwyr yma'n "filwriaethus" (ie, "militant"! Gŵglwch "militant atheism"). Mae hynny wrth gwrs yn hollol hurt a brwnt. Ym mhob maes arall, fe neilltuir yr ansoddair yna i ddisgrifio'r sawl sy'n ymosod ar eu gelynion yn gorfforol. Ond pan ddaw'n fater o gwestiynu bodolaeth duw, mae'n debyg mai'r cyfan sydd angen ei wneud er mwyn cymhwyso fel person milwriaethus ydi ysgrifennu llyfr.

Afraid dweud bod y bobl sy'n ddrwgdbybus o "Anffyddiaeth Newydd" yn anghywir, a holl bwrpas y blog yma ydi dangos hynny. Ond cyn mynd ymlaen, gan fod yr ymadrodd "New Atheism" yn un mor ddwl ac yn un a ddefnyddir fel arfer er mwyn pardduo anffyddwyr, hoffwn gynnig "anffyddiaeth swnllyd" fel cyfieithiad Cymraeg sy'n llawer gwell a chywirach.

Pam fod angen bod mor swnllyd felly? Mae'n wir bod y rhan fwyaf o'r bobl a enwir uchod yn gweithio yng nghyd-destun America. Mae America, wrth gwrs, yn wlad eithriadol o grefyddol o hyd, ac mae canran sylweddol tu hwnt o'u poblogaeth yn parhau i gredu pethau twp ynglyn â phynciau fel hawliau sifil i hoywon, erthyliad, a materion gwyddonol megis oedran y ddaear ac esblygiad bywyd. Er mwyn tanlinellu pa mor greiddiol ydi crefydd ym mywyd cyhoeddus America, dim ond un aelod o'r Gyngres gyfan sy'n anffyddiwr agored. Yn fwy na hynny, mae polau piniwn wedi dangos mai anffyddwyr ydi'r garfan y mae Americanwyr yn ymddiried ynddynt leiaf, a hynny o gryn bellter.

Ond ie, America ydi hynny. Mae'n ddigon posibl fy mod i fy hun yn teimlo'n gryfach nag y byddwn fel arall ynglyn â'r mater yma gan fy mod (am ba bynnag reswm) yn dilyn newyddion a gwleidyddiaeth America lawn cymaint ag ydw i'n dilyn newyddion Prydain. Mae gen i lawer i gwyno amdano felly oherwydd byddaf yn darllen yn aml bod rhyw ysgol Americanaidd arall yn trio dysgu creadaeth i'w disgyblion yn hytrach nag esblygiad, neu bod rhyw dalaith neu'i gilydd yn pleidleisio i atal hawliau sifil i hoywon ayyb. Ta waeth am hynny, byddai'n deg i chi wneud y sylw bod America'n hollol wahanol i Brydain a Chymru. Hwyrach bod modd cyfiawnhau ymateb mor swnllyd yn rhywle fel America lle mae ffwndamentaliaeth ym mhobman a lle mae crefydd wir yn ymosod ar hawliau sifil. Ond onid ydi crefydd fan hyn yn greadur llawer mwy di-niwed?

Wel, ydi. Mae'n amhosibl gwadu bod crefydd yn llai amlwg fan hyn mewn sawl ffordd. Mae llai o bobl yn grefyddol yn gyffredinol (er bod y ffigyrau'n amrywio'n sylweddol o bôl i bôl), ac mae theoleg y rhai ffyddlon, ar y cyfan, yn feddalach a mwy rhyddfrydol. Mae ffwndamentaliaeth yn beth digon prin yma ar y cyfan, er bod arwyddion ei fod ar gynnydd ymhlith rhai carfannau. Paradocs hyn oll ydi mai America ydi'r wlad lle mae cymal cyntaf eu cyfansoddiad yn cadarnhau bod seciwlariaeth yn greiddiol i'w gwladwriaeth. Maent o hyd yn unigryw yn hyn o beth; mae gan lawer o wledydd gorllewin Ewrop (gan gynnwys Prydain) eglwys swyddogol. Y datblygiad rhyfedd ers creu America ydi bod ei gwladwriaeth yn gadarn seciwlar ond ei chymdeithas yn parhau'n hynod grefyddol. Ar y llaw arall, mae gorllewin Ewrop, gyda'i ffiniau llai eglur rhwng gwladwriaeth ac eglwys, wedi gweld seciwlareiddio syfrdanol yn ei chymdeithas. Mae'r sefyllfa yma'n ddifyr ynddo'i hun ac yn bwnc hwyrach ar gyfer blogiad ar wahân.

Y peth ydi, hyd yn oed ym Mhrydain a Chymru rydym yn parhau i roi ffydd ar rhyw fath o bedestal. Mae hyd yn oed llawer o anffyddwyr yn gwingo braidd wrth weld crefydd yn cael ei feirniadu. Am rhyw reswm, yn aml iawn mae hyd yn oed pobl sydd methu credu mewn duw eu hunain yn tueddu i feddwl bod ffydd yn beth da a bod lle pwysig iddo yn ein cymdeithas. Dyma'r ffenomen mae Daniel Dennett yn ei alw'n "ffydd mewn ffydd". Efallai rhyw dro eich bod wedi clywed anffyddiwr rhyddfrydol-neis yn dweud ei fod yn eiddigeddus o ffydd y rhai crefyddol. Efallai bod hynny'n ymddangos yn ddigon urddasol ar yr olwg gyntaf, ond i mi mae'n rhagrithiol a hyd yn oed yn snobyddlyd ("o na, alla i ddim credu mewn duw fy hun, ond mae ffydd yn bwysig er mwyn cadw'r plebs yn hapus").

Felly mae modd beirniadu pobl am gredu pob math o bethau, ond am rhyw reswm fe ystyrir credoau crefyddol yn "off-limits". Ym Mhrydain, mae hyn wedi'i gadarnhau yn yn y gyfraith. Dyna ddeddf ofnadwy, ac er nad oes unrhyw un eto wedi'i euogfarnu o ganlyniad am ddweud pethau cas am grefydd (hyd y gwn i), mae'r ffaith i ddeddf o'r fath gael ei chyflwyno o gwbl yn ddychrynllyd. Un o themâu cyson y blog yma fydd nad oes gan unrhyw un yr hawl i beidio cael ei ypsétio. Fel y dywedodd rhywun doeth un tro, "offence is taken, not given".

Mae yn bosibl mynd yn rhy bell a bod yn fastard bach hunan-gyfiawn wrth fynd ymlaen ac ymlaen am ba mor hurt ydi crefydd; dw i ddim yn gwadu hynny. Ond yr holl bwynt ydi bod cael eich cyhuddo o fod yn beth felly yn anhaeddianol o hawdd. Cymerer fel enghraifft pa mor ddadleuol mae'r ymgyrch yma wedi bod. Mae'n dweud cyfrolau pan fo hysbyseb efo neges digon di-niwed - "there's probably no god, so stop worrying and enjoy your life" - yn gallu creu cymaint o stŵr a denu cymaint o sylw. Pan gychwynodd fe esgorodd ar fodfeddi di-ri o drafodaeth yn y papurau newydd. Tra bod hysbysebion a datganiadau o blaid Cristnogaeth yn normal a derbyniol ac anddadleuol, mae un hysbyseb ar ochr bysus sy'n awgrymu'r gwrthwyneb yn codi gwrychyn - "shocked, shocked I say!". Mae ymatebion hysteraidd i ddatganiadau mor bitw yn pwysleisio pa mor bwysig ydi gwneud y datganiadau yn y lle cyntaf. A dyna pam dw i'n teimlo mor gryf dros fod yn swnllyd am y peth a pham fy mod wedi dechrau blog i'r perwyl hwnnw.

Mae dylanwad crefydd yng Nghymru'n parhau yn gryfach nag y dylai fod. Er bod y math o Gristion y mae Cymru bellach yn ei gynhyrchu, fel rheol, ymysg y bobl addfwynaf a charedicaf y gallech ddymuno'u cwrdd, maent dal yn credu pethau rhyfeddol heb owns o dystiolaeth ac yn trio'n hannog ni i wneud yr un fath. Dw i'n awgrymu'n gwrtais nad ydi hynny'n syniad da.

I'r rhai hynny sy'n hoffi dweud bod anffyddwyr swnllyd cynddrwg â ffwndamentaliaid, dyma gartŵn gwych gan xkcd.com sy'n cyfleu gwallgofrwydd y fath safbwynt:



Pan fo dwy garfan yn dweud pethau gwahanol, mae tuedd (ymysg newyddiadurwyr yn ogystal â'r cymeriad ar y chwith uchod) i dybio bod y gwirionedd rhywle yn y canol (gan eich galluogi i fod yn smyg ac edrych i lawr ar y naill ochr a'r llall). Wel na. Yn aml, mae un ochr yn iawn a'r llall yn anghywir. Yr anffyddwyr sy'n gywir ac mae angen dweud hynny'n eglur a'n gyson.

No comments:

Post a Comment