07/05/2011

Rhoi'r etholiad yn ei chyd-destun

Mymryn bach mwy o bolitix am y tro. Mae gen i ychydig o bethau ar fy meddwl a gan fod gen i flog (er nid un am wleidyddiaeth bleidiol fel y cyfryw) dw i am ddweud cwpl o bethau.

Yn gyntaf, yn amlwg roedd yn etholiad ddiawledig o anodd i gefnogwyr Plaid Cymru. Wedi dweud hynny, dylid ystyried hyn: mae'r Ceidwadwyr mewn grym yn San Steffan ers blwyddyn ac wedi mynd ati'n eiddgar i ymosod yn ddigon cïaidd ar y sector gyhoeddus ledled Prydain. Ar adegau fel hyn, hoff draddodiad y Cymry ydi heidio at fynwes y Blaid Lafur. "A dyna wnaethon nhw!", meddech. Ie, ond dim ond i raddau. 42.3% oedd canran Llafur o'r bleidlais. Hyd yn oed o'i gymharu â chwpl o ddegawdau yn ôl, dydi 42.3% ddim mor uchel â hynny. Yn 1966, er enghraifft, cawsant dros 60% o bleidlais y Cymry (etholiad cyffredinol Prydeinig mi wn, felly anodd cymharu gydag etholiad i Gynulliad Cymru, ond dyna ni). Fy mhwynt, fodd bynnag, ydi hyn: er bod pob ffactor yn gorwedd yn berffaith i Lafur, "dim ond" 42.3% a gawsant a bu iddynt fethu cael mwyafrif. A'r unig reswm iddynt ennill Llanelli oedd ffliwc y busnes Sian Caiach. Gallaf ddweud efo cryn hyder na fydd etholiad gydag amgylchiadau mor ffafriol iddynt am flynyddoedd lawer i ddod, felly mae lle i fod yn optimistaidd am y dyfodol.

Efallai bod y dadansoddiad uchod (neu, efallai, ymgais druenus i weld yr ochr orau) yn golygu bod canlyniad Plaid Cymru gymaint â hynny'n waeth. Ydi, am wn i, yn enwedig o ystyried canlyniad ANHYGOEL yr SNP yn yr Alban. Er fy mharagraff uchod, mae'n gwbl wir ac amlwg bod y Blaid wedi'i gwasgu'n llwyr gan naratif Brydeinig, a'r sefyllfa wleidyddol yn San Steffan, ac nad oedd llawer, os unrhyw beth o gwbl, y gallai fod wedi gallu'i wneud i osgoi hynny. Efo diffyg gwasg Gymreig, refferendwm ar y drefn etholiadol Brydeinig ar yr un diwrnod, a naratif syml a diog (ond effeithiol, yn anffodus) y Blaid Lafur o "warchod Cymru rhag doriadau'r Ceidwadwyr yn San Steffan", roedd y ffaith mai ethol aelodau a llywodraeth Cymru yr oeddem fwy neu lai yn amherthnasol. Hyd yn oed efo rhyw fersiwn Gymraeg o Nelson Mandela fel arweinydd, byddai'r Blaid wedi'i chael hi'n anodd yn yr etholiad yma. Dw i'n argyhoeddedig mai dyma'r brif ffactor sy'n gyfrifol am y canlyniad. Mae'n gwneud i rhywun deimlo'n ddigon truenus a diymadferth, ac fe ellir cyhuddo ei fod yn esgus rhy hawdd, ond mae'n wirionedd. Un digon poenus.

Ond mae ffactorau eraill. Does gennym ni ddim Alex Salmond yma yng Nghymru yn anffodus. Anodd anghytuno efo Richard Wyn Jones bod Salmond yn wleidydd sydd o ddifri ben ac ysgwydd uwchben pawb arall ym Mhrydain gyfan. Mae Salmond yn eithriad ac mae'r SNP yn hynod hynod ffodus i'w gael, felly hwyrach bod cymharu ei berfformiad ag un Ieuan Wyn Jones yn annheg. Y cyfan a ddyweda i am IWJ ydi bod ei gyfnod fel arweinydd wedi dod i ddiwedd digon naturiol ac mae'n bryd diolch iddo am ei wasanaeth.

Yn bwysicach na mater o bersonoliaethau arweinyddol, mae consensws yn prysur ddatblygu bod strategaeth y Blaid wedi bod yn ddiffygiol. Byddai'r wasgfa wedi bod yno o hyd, ond efo naratif gwell byddid wedi bod yn bosibl gwthio'n ôl yn erbyn y llanw yma rhyw fymryn yn well. Mae gwirionedd mawr yn y cyhuddiad bod llai o wahaniaeth rhwng Plaid Cymru a'r pleidiau eraill, ac fe wnaeth John Dixon ei farn ar y mater yn berffaith amlwg trwy adael y Blaid. Rwan, mae'r tebygrwydd yma rhwng y pleidiau ynddo'i hun yn fuddugoliaeth i Blaid Cymru; mae'r pleidiau eraill wedi gorfod dal i fyny efo nhw ac mae llawer o bolisïau "radical" Plaid Cymru'r 90au, dyweder, bellach wedi dod yn ran o gonsensws gwleidyddiaeth Cymru. Gwelwyd hyn yn eglur pan gefnogodd pob un o aelodau'r Cynulliad y refferendwm ar bwerau pellach. Problem Plaid Cymru bellach ydi eu bod efallai wedi aros yn yr unfan ers y fuddugoliaeth o berswadio (neu orfodi) pob plaid arall.

Ers ei ffurfio, mae gwthio statws gyfansoddiadol Cymru yn ei blaen wedi bod yn fwy o nôd i'r Blaid nag ennill grym gwleidyddol er ei fwyn ei hun, ac felly y dylai fod. Ers datganoli, fodd bynnag, hwyrach bod hynny wedi newid. Dw i'n rhyw hanner deall pam y bu i'w naratif yn yr ymgyrch ddiweddar fod mor anysbrydoledig; wedi'r refferendwm, a chyfnod digon taclus mewn llywodraeth glymblaid (ar y cyfan), roeddent yn awyddus i brofi eu bod yn gallu defnyddio pwerau newydd y Cynulliad er mwyn gwneud y busnes bara menyn a diflas o redeg Cymru. Ond gan fod polisïau Plaid Cymru ar faterion heblaw'r iaith a statws gyfansoddiadol ein gwlad yn gorgyffwrdd cryn dipyn â'r hyn a arddelir gan y Blaid Lafur, mae'n amhosibl ennill y frwydr ar y platfform yma. Pam ddylai pobl Cymru bleidleisio dros blaid sy'n cynnig polisïau tebyg i'r hyn a gynigir gan y Blaid Lafur, pan gallent yn hytrach bleidleisio dros, wel, y Blaid Lafur? Yn hytrach, dylid parhau i wthio ymlaen. Hyd yn oed os ydi hynny ar draul llwyddiant etholiadol yn y tymor byr, bydd y pleidiau eraill yn gorfod dilyn ac ymhen degawd neu ddwy bydd y "radicaliaeth" yma'n gonsensws newydd. A dyna sut dw i'n diffinio buddugoliaethau i'r Blaid.

Ond yn fwy na hynny, yn y tymor nesaf dw i'n credu byddai peidio gwneud hyn yn gamgymeriad strategaethol dybryd. Gan fod gan yr SNP bellach fwyafrif yn yr Alban, yn sydyn iawn mae'n dra phosibl y bydd refferendwm ar annibyniaeth (!!) iddynt yn 2014. Pa unai ydi Plaid Cymru eisiau hynny ai peidio, bydd y syniad o annibynniaeth i wledydd llai Prydain yn cael sylw mawr yn y cyfryngau Prydeinig. Mae'n bwysig felly bod y Blaid yn meddianu'r term yn ddigon pell o flaen llaw, ac yn achub y blaen ar eu gelynion a fyddai'n defnyddio'r mater i'w pardduo ("stealth agenda", "what have they got to hide" ayyb). Rhaid ei droi'n rhywbeth positif yn hytrach na rhywbeth i fod â chywilydd ynddo. Fel mae John Dixon yn ei ddweud, dylai gwleidydda (yn enwedig y math y dylai'r Blaid fod a wnelo ag o) fod yn fater o ddatgan egwyddorion a mynd ati i berswadio'r bobl, yn hytrach na dim ond dweud yr hyn rydych yn ei dybio y mae'r bobl eisiau'i glywed (gwleidyddiaeth y grwp ffocws, efallai). I ail-adrodd, mae'r mater o annibynniaeth yn mynd i fod yn bwnc llosg yn y blynyddoedd nesaf doed a ddelo, a bydd yn hunanladdiad i Blaid Cymru pe na baent yn paratoi i ymfalchïo yn y syniad. Dw i'n hyderus wrth haeru y byddai peidio gwneud hyn yn etholiadol niweidiol.

Parthed y dyfodol agos, ni ddylent fynd i glymblaid efo unrhyw un. Dyma gyfnod i fogail-graffu ychydig, a dwys ystyried y ffordd ymlaen a phwy ddylai arwain. A beth bynnag, does dim byd y gall Llafur ei gynnig. Hefyd, gan mai unig fantra Llafur yn yr ymgyrch oedd mai hwy yn unig a all amddiffyn Cymru rhag doriadau'r Ceidwadwyr, bydd yn braf gweld pobl Cymru'n sylweddoli, efallai, faint o nonsens ydi hynny. Ni all llywodraeth Lafur yng Nghymru wneud dim mwy i amddiffyn y grant a roddir i'r Cynulliad nag a allai llywodraeth Plaid Cymru ddamcaniaethol ei wneud. Bydd Cymru'n cael ei wasgu o hyd, ac mewn byd cyfiawn caiff Llafur eu beio am hynny. Dyna fyddai'u haeddiant am ymgyrch mor syrffedus, diog, anonest a sinigaidd.

1 comment:

  1. Dw i'n meddwl ein bod ni o'r un farn ar hyn Dylan. (Wele ddarn barn gen i ar y mater ar Blog Golwg 360 sy'n dweud tua'r un peth.)

    Ond os ydi'r Blaid wir eisiau annibyniaeth dw i'n meddwl fod angen cyfeiriad ychydig mwy 'fiscally-conservative' arni. Fyddai Cymru ddim yn gallu bod yn annibynol fel ag y mae hi nawr - angen bod yn hunan-gynhaliol gyntaf. Byddai gwthio am y gallu i ostwng trethi busnes yn gam da yn y cyfnod nesaf dw i'n credu.

    ReplyDelete