03/05/2011

Mae crancod yn bwyta Osama

Mae tranc gwaedlyd (a chyffrous!) yr hen Osama wedi f'atgoffa o un o'm hoff erthyglau o The Onion (anodd credu bod hwnna bron yn ddeg mlwydd oed).

Ond ta waeth. Er gwell neu er gwaeth, yr un peth sy'n digwydd i bobl fel Osama ar ôl marw â sy'n digwydd i ni i gyd (heblaw nad ydi'r gweddill ohonom fel rheol yn cael ein plopio yn y môr). Er i mi hoffi hwn, mewn gwirionedd dw i ddim yn credu y dylid ymhyfrydu ym marwolaeth unrhyw un, er gallaf bron faddau pobl am deimlo rhyddhad y tro hwn. Felly tra bod cynifer yn gorfoleddu wrth ddychmygu'r diafol yn stwffio'i bicfforch fyny tin Osama, y cyfan sydd wedi digwydd iddo yn y bôn ydi bod corff y dyn wedi dechrau pydru, bydd llawer o greaduriaid ar waelod y môr yn cael pryd blasus o fwyd, a bod ei feddwl a'i ymwybod wedi darfod yr eiliad y plymiodd y bwledi i mewn i'w benglog.

Dw i'n cyfaddef fy mod yn ei chael hi'n anodd deall pam fod cymaint o bobl methu dychmygu sut beth ydi bod wedi marw: jyst dychmygwch eich amgyffred o'r amser yna cyn i chi gael eich geni. Hawdd. Onid ydi hynny'n bodloni? Yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth i'r gwrthwyneb, mae dychmygu posibiliadau amgen oherwydd nad ydi'r gwirionedd syml yma'n plesio yn ddwl. Mae'r ffaith bod nefoedd ac uffern yn gysyniad mor gwbl atgas yn gwneud y dewis cymaint â hynny'n fwy bisâr a gwyrdoedig.

No comments:

Post a Comment