27/04/2011

Crefydd yng Nghymru

"Yn ôl Dr Barry Morgan, mae'n rhaid i'r Eglwys yng Nghymru addasu i ddelio gyda'r gostyngiad yn nifer y clerigwyr, y trai mewn buddsoddwyr a'r gostyngiad mewn cynulleidfa."

Mae'n anodd peidio teimlo trueni. Ond mae'n anos byth gweld sut yn union mae modd iddyn nhw "addasu". Y gwir ydi bod tranc Cristnogaeth wedi bod yn syfrdanol yng Nghymru dros y ganrif ddiwethaf. Tra bu cyfnod pan oedd Cymru o bosibl yn un o'r gwledydd mwyaf ffyddlon-dduwiol yng ngorllewin Ewrop, mae'n siwr gen i ei bod bellaf ymysg y mwyaf seciwlar. Dw i'n falch iawn iawn o hyn a'n mawr obeithio bydd tranc ffydd yn parhau.

Gwthio'n erbyn y llanw mae'r Archesgob, felly (neu'n gywirach efallai, trio tynnu'r trai yn ôl). Mae pob enwad yn yr un cwch ag o. Gellir ymdrechu i "addasu" hyd tragwyddoldeb, ond ofer bydd hynny os ydi'ch neges greiddiol a'ch holl raison d'etre yn un sydd ddim yn taro deuddeg bellach.

No comments:

Post a Comment