25/04/2011

Miracles For Sale

Ddaru mi eithaf fwynhau rhaglen ddiweddaraf Derren Brown heno, Miracles For Sale. Dyma'r math o raglen hoffwn i weld Brown yn ei gwneud yn amlach; roeddwn wedi colli amynedd braidd efo fo ar ôl y stynts di-bwynt efo'r loteri a'r nonsens Hero At 30,000 Feet 'na, felly cefais fy siomi ar yr ochr orau. Roeddwn i'n falch o'i weld yn herio'r twyllwyr hynny sy'n honni eu bod yn gallu gwella anafiadau, anableddau ac afiechydon trwy gyffwrdd a gweiddi enw duw yn unig: iacháu trwy ffydd.

Mae llawer iawn o ddihirod wedi gwneud ffortiwn trwy berswadio pobl naïf, trwy dwyll, i roi llawer iawn o arian iddyn nhw. Mae nhw'n hedfan o gwmpas America, mewn jetiau preifat sydd wedi'u prynu gydag arian twyllodrus, er mwyn cymryd mantais o bobl bregus a bachu mwy fyth o'u harian. Rydym yn ffodus iawn mai ffenomen Americanaidd ydi hyn yn bennaf; dw i'n reit siwr bod mwyafrif helaeth o bobl Prydain yn cytuno bod y bobl sy'n dal i wneud ffortiwn fel hyn yn haeddu carchar. Does dim llawer mwy i'w ddweud felly; esgus ydi'r post yma er mwyn i mi gael rhefru ychydig a phostio un o'm hoff fideos oddi ar Youtube.



Gwych.

No comments:

Post a Comment