25/04/2011

Pasg Hapus

Mae'r Pasg yn rhywbeth rhyfedd iawn i'w ddathlu.

Dyma ddigwyddiad pwysicaf y calendr Cristnogol (i fod; mae'r Nadolig i weld yn llawer mwy dylanwadol er ei fod yn coffáu digwyddiad llawer mwy di-nod).

Dyma goffáu, a mawreddu ac urddasu, farw trwy gael eich arteithio yn y modd mwyaf ffiaidd. 2,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd yr Ymerodraeth Rufeinig yn arteithio'u gelynion trwy eu hoelio i groesau mawr a'u gadael yn y modd mwyaf anghysurus a phoenus ac is-raddol nes iddynt farw. Fe wynebodd degau o filoedd o drueiniaid y gosb erchyll yma. Am rhyw reswm, fe ystyrir un ohonyn nhw'n arbennig.

Fe ystyrir yr un achos yma'n arbennig oherwydd i'r dyn, yn ôl y sôn, ddod yn ôl o farw'n fyw. Dyma felly y stori zombie enwocaf (er nid y gwreiddiol, o bell ffordd). Mae artaith a llofruddiaeth y mystic Iddewaidd yma'n arwyddocaol oherwydd ei fod rhywsut wedi marw "drosom ni". Fel mae'n digwydd, dw i'n credu bod "pechod gwreiddiol" yn athrawiaeth afiach; o bosibl, y ddysgeidiaeth waethaf un a gysylltir â Christnogaeth. Mae hynny'n ddweud mawr mi wn, a hwyrach bod hwnna'n destun ar gyfer postiad unigol rhyw dro.

Er (neu'n gywirach, oherwydd) bod digwyddiadau'r Pasg mor ganolog i Gristnogaeth, mae'r holl beth yn ddryswch o anghysonderau di-synnwyr. Mae Iesu'n fab i dduw, ar ffurf dyn, sydd wedi'i anfon i lawr i'r ddaear gan ei dad. Hefyd, yr un bod ydi o a'i dad. Ac yr ysbryd glân o ran hynny. Dw i'n gwerthfawrogi bod theolegwyr wedi ysgrifennu llyfrau di-rif yn ceisio gwneud pen a chynffon o'r drindod od yma, ond afraid dweud nad ydyn nhw'n argyhoeddi. Mae Cristnogion yn hoffi dweud mai'r peth erchyllaf am y cyfnod y bu Iesu Grist yn hongian gerfydd ei arddyrnau ar y groes ydi'r ymdeimlad o ddieithrwydd oddi wrth duw, ei dad (sef fo'i hun). Mae'n anodd deall sut y gall hynny fod os mai Iesu ydi duw. Yn wir, mae'n amhosibl dychmygu na fyddai Iesu wedi gwybod bod tragwyddoldeb yn y nefoedd yn ei ddisgwyl (a miliynau o bobl yn ei addoli yma ar y ddaear). O ystyried hynny, doedd y peth ddim yn aberth o gwbl. Byddwn i wedi gwirfoddoli'n ddigon siriol i gael gwneud union yr un peth.

Dyma'r enghraifft glasurol o'n hobsesiwn dwl ni efo merthyron. Mae'r groes wedi dod yn symbol o Gristnogaeth, er mai dyfais arteithio ffiaidd ydi o. Dw i'n ystyried y symboliaeth braidd yn sado-masocistaidd a bod yn onest. Pe na bai stori'r Pasg yn bodoli, byddai Kafka wedi'i hysgrifennu.

No comments:

Post a Comment