26/12/2011

Myth "crefydd soffistigedig"

Rwy'n eithaf mwynhau colofn newydd wythnosol yr athronydd Julian Baggini yn y Guardian, lle mae'n trafod y gwrthdaro rhwng crefydd ac anffyddiaeth. Mae'n anffyddiwr, er nid wyf yn cytuno ag ef bob tro o bell ffordd.

Yn y gorffennol, mae wedi bod yn un o'r anffyddwyr hynny sydd wedi beirniadu'r "anffyddwyr newydd" mwy di-gyfaddawd (a mwy swnllyd) ar y sail bod eu hymosodiadau cyson ar grefydd yn wrth-gynhyrchiol a dinistriol a'n gwneud i bobl glosio fwy at ffydd yn hytrach na'r ffordd arall. Gweler, er enghraifft, yr ysgrif yma o 2009. Y pryder oedd bod y genhedlaeth newydd yma o anffyddwyr yn canolbwyntio gormod ar y straeon a'r digwyddiadau honedig penodol sy'n sail ar gyfer llawer o gredoau crefyddol. Nid dyna sy'n bwysig, meddir, eithr y byd-olwg a'r mewnwelediad moesol a ddarperir gan ffydd. Dyma'r hen (hen!) ddadl am y mythos a'r logos.

Mae'n dda gennyf weld felly bod arwyddion yn ei golofn ei fod yn dechrau gweld ychydig o'r goleuni (fel petai) a'n dod i gydymdeimlo mwy â'r anffyddwyr swnllyd. Nid yw'n datgan hynny'n blaen, ond dyna oblygiadau llawer mae wedi'i ddweud yn ddiweddar.

Eisiau tynnu sylw at yr erthygl ddiweddar yma'n benodol wyf i, oherwydd mae'n mynd i'r afael â rhywbeth rhwystredig ar y naw. Yr hyn rwy'n cyfeirio ato yw ymateb cymaint o ddiwinyddwyr academaidd i feirniadaeth gan anffyddwyr, sef mynnu ein bod nid yn unig yn gorbwysleisio'r logos ond hefyd ein bod yn targedu fersiwn rhy amrwd a simplistaidd o grefydd. Mae ffydd "go iawn", fe haerir, yn llawer mwy "soffistigedig".

Rwy'n synnu ychydig ei bod wedi cymryd cymaint o amser i Baggini sylweddoli mai lol yw hynny. Beth bynnag, mae'r ysgrif yn amlinellu canlyniadau arolwg o Gristnogion a wnaed gan yr awdur. Rhaid cydnabod mai arolwg digon anwyddonol ydoedd, ond noder mai Cristnogion sy'n darllen gwefan Comment Is Free y Guardian yn rheolaidd oedd yr ymatebwyr. Os yw'r canlyniad yn anghynrychiadol felly, yna tuedd tuag at ochr llai ceidwadol (amrwd, simplistaidd) a mwy rhyddfrydol ("soffistigedig") y spectrwm, o gymharu â'r boblogaeth gyffredinol, fyddai'n bresennol. Mae hynny'n gwneud y casgliadau'n arwyddocaol:
So what is the headline finding? It is that whatever some might say about religion being more about practice than belief, more praxis than dogma, more about the moral insight of mythos than the factual claims of logos, the vast majority of churchgoing Christians appear to believe orthodox doctrine at pretty much face value. They believe that Jesus is divine, not simply an exceptional human being; that his resurrection was a real, bodily one; that he performed miracles no human being ever could; that he needed to die on the cross so that our sins could be forgiven; and that Jesus is the only way to eternal life. On many of these issues, a significant minority are uncertain but in all cases it is only a small minority who actively disagree, or even just tend to disagree. As for the main reason they go to church, it is not for reflection, spiritual guidance or to be part of a community, but overwhelmingly in order to worship God.
Byddai hynny wedi bod yn amlwg i mi cyn dechrau. Roedd y canlyniadau'n fwy annisgwyl yn llygaid Baggini, ond rwy'n falch ei fod wedi gallu dangos y celwydd mor glir.

Prif broblem diwinyddwyr academaidd yw eu hargraff gyfeiliornus bod eu fersiwn "soffistigedig" hwy o'u ffydd yn gyffredin y tu allan i'w tyrau eifori. Beirniadu crefydd y mwyafrif a'i ddylanwad yn y byd mawr crwn a wna anffyddwyr yn bennaf, am resymau digon amlwg a chyfiawn. Ond mae diwinyddwyr o'r farn mai eu ffydd hwy yw'r "crefydd go iawn", heb sylweddoli eu bod mewn lleiafrif digon pitw (er yn leiafrif sy'n cael cynrychioli "crefydd" wrth adolygu llyfrau ac ysgrifennu erthyglau mewn cylchgronnau). Y gwir yw bod eu fersiwn hwy o'u crefydd yn gwbl ddieithr ac annealladwy i'r rhan fwyaf o bobl sy'n credu mewn duw.

Yn fwy na hynny, fel y mae'r darn uchod yn ei ddangos, mae hyd yn oed pobl grefyddol rhyddfrydol a "soffistigedig" yn credu llawer iawn o bethau cwbl ryfeddol. Mae Cristnogion sy'n ddigon goleuedig i ymwrthod â chreadaeth a dehongliadau mwy llythrennol o Genesis, er enghraifft, dal i gredu'n llythrennol bod genedigaeth Iesu Grist yn fab llythrennol i Dduw a'i fod wedi cyflawni gwyrthiau cyn marw, atgyfodi, ac esgyn i'r nefoedd. Gellir haeru mai trosiad ydyw, ac nad oes angen iddo fod yn ffeithiol wir er mwyn bod yn ddefnyddiol mewn ffyrdd eraill. Ond hyd y gwelaf i, mae'n anodd galw'ch hunain yn Gristion heb gredu bod Iesu Grist wirioneddol yn ddwyfol a bod y pethau uchod wir wedi digwydd iddo. Er bod llawer o Gristnogion yn wfftio (neu hyd yn oed yn gwneud hwyl am ben) ffwndamentalwyr sy'n credu bod stori Noa a'r llifogydd mawr, dyweder, yn ffeithiol gywir, nid yw'r darn yna o Genesis yn llai anhygoel na gwirion na chwedl Iesu. Yn wahanol i stori Noa, fodd bynnag, mae dehongliad llythrennol o'r portread o fywyd Iesu nid yn unig yn dderbyniol, ond yn hollol angenrheidiol a chreiddiol i'r ffydd Gristnogol.

Mae rhai academwyr yn parhau i anwybyddu'r ffaith bod honiadau creiddiol crefydd yn ddi-sail a'n mynnu bod angen i anffyddwyr ddysgu mwy am ffydd cyn beirniadu. Un enghraifft yw Terry Eagleton, marcsydd o feirniad llenyddol sydd hefyd yn Babydd. Wrth adolygu The God Delusion gan Richard Dawkins yn hynod anffafriol, cawn ganddo'r berl hon:
What, one wonders, are Dawkins’s views on the epistemological differences between Aquinas and Duns Scotus? Has he read Eriugena on subjectivity, Rahner on grace or Moltmann on hope?
Un ateb amlwg i'r cwestiwn dwl yma yw gofyn faint o Gristnogion sydd wedi gwneud? Os oes angen gwneud y pethau uchod er mwyn cael dealltwriaeth ddigonol o'r ffydd Gristnogol, yna go brin bod yna fwy na llond dwrn o Gristnogion yn bodoli'n y byd i gyd. Go brin bod hyn yn helpu ei ddadl. Ail ateb yw gofyn i Eagleton drachefn a yw wedi darllen Adi Shankara, Chaitanya Mahaprabhu neu Swami Vivekananda? Os na, pa hawl sydd ganddo i wrthod Hindŵaeth? Dyma'r un ddadl yn union ag y mae ef wedi'i ddefnyddio uchod. Oes rhaid i ni ddarllen pob testun astrus am bob ffydd yn y byd cyn i ni ennill yr hawl i'w gwrthod? Byddai'n amhosibl i ni ddod i ben! Trydydd ateb (digon tebyg i'r ail) yw pam stopio gyda'r pump uchod? Hyd yn oed petai Dawkins yn ateb y cwestiwn yn gadarnhaol, byddai modd i Eagleton ofyn "ok, wel beth am Thomas à Kempis, Emanuel Swedenborg a John Polkinghorne?" Mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd, felly byddai'r drafodaeth yn ddigon diflas a di-bwrpas. Mae pedwerydd ateb hefyd, ac efallai dyma'r un mwyaf sylfaenol: beth yn union fyddai trafod y diwinyddwyr yna wedi'i ychwanegu at lyfr sy'n trafod rhywbeth digon syml yn y bôn, sef absenoldeb tystiolaeth bod duw'n bodoli? Mae'n amhosibl osgoi'r casgliad mai dangos ei hun yn hunan-gyfiawn yr oedd Eagleton.

Cyn mynnu bod rhaid i anffyddwyr wneud cymaint o waith darllen, mae'n rhaid dangos tystiolaeth nad yw'r holl amser yn y llyfrgell yn mynd i fod yn wastraff. Mae Cristnogaeth wedi creu fframwaith ddeallusol anferth heb orfod profi bod y dybiaeth greiddiol yn wir. Mae astroleg wedi gwneud yr un peth: er nad oes unrhyw dystiolaeth bod lleoliad y blaned Iau ar eiliad eich geni o unrhyw arwyddocâd o gwbl, er enghraifft, mae llyfrau hirfaith wedi'u hysgrifennu yn trafod mecanweithiau honedig ac ystyr y peth mewn cryn fanylder. Yn yr achos hwnnw fel gyda chrefydd, mae pobl sy'n cymryd y fframwaith o ddifrif a'n gweithio y tu mewn iddo'n anwybyddu'r gwirionedd, sef bod yr ymerawdwr yn noeth.

Yr ymateb gorau rwyf wedi'i weld i hyn i gyd yw'r Courtier's Reply gan PZ Myers. Mae'n werth ei ddyfynnu'n llawn:
I have considered the impudent accusations of Mr Dawkins with exasperation at his lack of serious scholarship. He has apparently not read the detailed discourses of Count Roderigo of Seville on the exquisite and exotic leathers of the Emperor's boots, nor does he give a moment's consideration to Bellini's masterwork, On the Luminescence of the Emperor's Feathered Hat. We have entire schools dedicated to writing learned treatises on the beauty of the Emperor's raiment, and every major newspaper runs a section dedicated to imperial fashion; Dawkins cavalierly dismisses them all. He even laughs at the highly popular and most persuasive arguments of his fellow countryman, Lord D. T. Mawkscribbler, who famously pointed out that the Emperor would not wear common cotton, nor uncomfortable polyester, but must, I say must, wear undergarments of the finest silk.

Dawkins arrogantly ignores all these deep philosophical ponderings to crudely accuse the Emperor of nudity.

Personally, I suspect that perhaps the Emperor might not be fully clothed — how else to explain the apparent sloth of the staff at the palace laundry — but, well, everyone else does seem to go on about his clothes, and this Dawkins fellow is such a rude upstart who lacks the wit of my elegant circumlocutions, that, while unable to deal with the substance of his accusations, I should at least chide him for his very bad form.

Until Dawkins has trained in the shops of Paris and Milan, until he has learned to tell the difference between a ruffled flounce and a puffy pantaloon, we should all pretend he has not spoken out against the Emperor's taste. His training in biology may give him the ability to recognize dangling genitalia when he sees it, but it has not taught him the proper appreciation of Imaginary Fabrics.
Felly, pan mae rhywun yn cyhuddo Dawkins a'i debyg o dargedu fersiwn llai "soffistigedig" o grefydd, dylid cofio bod hyd yn oed y diwinydd mwyaf astrus a chymhleth yn cymryd llawer o bethau cwbl ddi-sail yn ganiataol. Mae bodolaeth duw yn gwestiwn eithriadol o bwysig ond hefyd yn syml tu hwnt. Gellir brolio hyd syrffed am faint eich casgliad o lyfrau diwinyddol o'r bymthegfed ganrif, ond nid yw hynny'n golygu fawr ddim heb fynd i'r afael â'r mater sylfaenol hwnnw. Mewn geiriau eraill, mae diwinyddwyr yn trafod natur duw heb ddangos bod y duw hwnnw'n bodoli'n y lle cyntaf. Mae'n ddigon gwir nad yw dadleuon anffyddwyr wedi newid llawer ers tua chanrif, ond nid ein bai ni mo hynny. Tystiolaeth os gwelwch yn dda!

4 comments:

  1. Er yr holl athronyddu, dyna'r unig beth sy'n bwysig: tystiolaeth. Heb dystiolaeth, nid oes rheswm i gredu yn Nuw.

    ReplyDelete
  2. Yn hollol. Nes bod y dystiolaeth yma'n cael ei gynnig, gwastraff amser llwyr yw athronyddu'n faith am natur y drindod neu gofyn faint o angylion sy'n gallu dawnsio ar ben pin.

    Ac wrth reswm mae'n rhaid i'r dystiolaeth fod yn wrthrychol. Nid yw rhyw argyhoeddiad personol ym mêr yr esgyrn yn ddigonol.

    ReplyDelete
  3. Wedi bod yn meddwl am hyn yn ddiweddar a dweud y gwir ac mae’r uchod yn grynhoad da o fy nheimladau ar y pwnc. Diolch am gyflwyno cynnwys fy ymenydd i mi ar ffurf mor ddarllenadwy.

    “Mae Cristnogaeth wedi creu fframwaith ddeallusol anferth heb orfod profi bod y dybiaeth greiddiol yn wir.”

    I fenthyg trosiad Beiblaidd, maen nhw wedi adeiladu eu seiliau ar y tywod yn hytrach na’r graig. Pa bynnag mor goeth a chymleth yw’r theoriau diwynyddol sy’n cael eu hadeiladu ar ben y seiliau, does dim cuddio’r ffaith mae tywod digon ansefydlog yw sail y cyfan.

    PS. Ar nodyn cwbl wahanol gobeithio dy fod ti bellach yn derbyn nad oes sail i dy gred yn rhagoriaeth y llyfr printiedig ac yn derbyn fod y Kindle yn hollalluog ym maes e-lyfrau :P

    ReplyDelete
  4. "Diolch am gyflwyno cynnwys fy ymenydd i mi ar ffurf mor ddarllenadwy."

    Mae hwnna'n dipyn o gompliment felly diolch yn fawr.

    Ac ydi mae'r Kindle yn beth bach clyfar iawn. Wedi bod yn bachu lot fawr o'r clasuron am ddim. Bwriadu darllen Don Quixote cyn hir, ar ôl i fi orffen y bric mawr papur Bertrand Russell yma.

    ReplyDelete