30/12/2011

Pam mae "duw wnaeth" yn ateb anfoddhaol i unrhyw gwestiwn

Fel yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen, rwyf ar hyn o bryd yn darllen A History Of Western Philosophy (1946) gan yr athronydd Bertrand Russell.

Wrth gwrs, roedd Russell yn anffyddiwr mawr a phwysig, ac mae hynny'n lliwio'r gyfrol o bryd i'w gilydd. Rwyf felly'n bwriadu defnyddio ambell ddarn o'r llyfr fel ysbrydoliaeth ar gyfer y blog. Er enghraifft, wrth drafod yr atomeiddwyr Leucippus a Democritus, Groegwyr o'r bumed ganrif "cyn Crist", mae'n gwneud pwynt sy'n berthnasol o hyd. Yr athronwyr hyn a ddyfeisiodd y cysyniad o'r atom anranadwy, sy'n symud yn gyson ac sydd ambell waith yn taro'n erbyn ei gilydd a chreu cyfansoddion. Yr hyn a oedd mor ddadleuol am eu syniad - ar y pryd ac, mae'n wir, hyd heddiw - yw'r ffaith nad oeddent yn ystyried bod rhaid ateb cwestiwn "yr achos cyntaf" (sef yr hyn a achosodd i'r atomau ddechrau symud yn y lle cyntaf) er mwyn derbyn y cysyniad yn ei hanfod. Dyfynnaf Russell yn helaeth:
When we ask 'why?' concerning an event, we may mean either of two things. We may mean: 'What purpose did this event serve?" or we may mean: "What earlier circumstances caused this event?" The answer to the former question is a teleological explanation, or an explanation by final causes; the answer to the latter question is a mechanistic explanation. I do not see how it could have been known in advance which of these two questions science ought to ask, or whether it ought to ask both. But experience has shown that the mechanistic question leads to scientific knowledge, while the teleological question does not. The atomists asked the mechanistic question, and gave a mechanistic answer. Their successors, until the Renaissance, were more interested in the teleological question, and thus led science up a blind alley.

In regard to both questions alike, there is a limitation which is often ignored, both in popular thought and in philosophy. Neither question can be asked intelligibly about reality as a whole (including God), but only about parts of it. As regards the teleological explanation, it usually arrives, before long, at a Creator, or at least an Artificer, whose purposes are realized in the course of nature. But if a man is so obstinately teleological as to continue to ask what purpose is served by the Creator, it becomes obvious that his question is impious. It is, moreover, unmeaning, since, to make it significant, we should have to suppose the Creator created by some super-Creator whose purposes He served. The conception of purpose, therefore, is only applicable within reality, not to reality as a whole.

A not dissimilar argument applies to mechanistic explanations. One event is caused by another, the other by a third, and so on. But if we ask for a cause of the whole, we are driven again to the Creator, who must Himself be uncaused. All causal explanations, therefore must have an arbitrary beginning. That is why it is no defect in the theory of the atomists to have left the original movements of the atoms unaccounted for. (73-4)
Un rheswm amlwg nad yw "duw wnaeth" yn ateb da i unrhyw gwestiwn yw nad oes tystiolaeth o gwbl bod y peth yn wir. Ond mae'r dyfyniad uchod yn esbonio'n huawdl bod rheswm arall sydd yr un mor bwysig, sef nad ydyw hyd yn oed yn ateb defnyddiol.

Pan mae gwyddonydd ar y naill law, a diwinydd ar y llaw arall, yn gofyn "pam mae rhyw ffenomen arbennig yn digwydd?", mae'r ddau'n gofyn cwestiwn gwahanol i'w gilydd. Fel mae Russell yn ei egluro uchod, mae'r gwyddonydd yn chwilio am ateb mecanyddol, neu gemegol, neu ffisegol: rhywbeth sy'n egluro pa bethau penodol a ddigwyddodd er mwyn arwain at y sefyllfa sydd o dan sylw. Hynny yw, mae cwestiwn "pam?" y gwyddonydd yn gyfystyr yn llwyr â gofyn "sut?". Yn achos y diwinydd, fodd bynnag, mae "pam?" yn gwestiwn metaffisegol, yn chwilio am rhyw bwrpas neu arwyddocâd. Nid "sut?" yw'r cwestiwn, eithr "beth yw ystyr hyn o fewn fy fframwaith ddiwinyddol?"

Gwahaniaeth arall rhwng y ddau gwestiwn yw bod ateb defnyddiol y gwyddonydd yn aml yn arwain at fwy o gwestiynau sy'n gofyn am fwy o fanylder eto. Oherwydd hyn, ni ddaw terfyn i waith y gwyddonydd; go brin y daw'r dydd pan na fydd unrhyw beth ar ôl i'w ddarganfod. Yr hyn a wneir yw parhau i lenwi bylchau yn ein dealltwriaeth a cheisio ateb unrhyw gwestiynau newydd a gyfyd. Dyma'r unig ffordd adeiladol o wneud synnwyr o'r byd o'n cwmpas. Cryfder y dull gwyddonol yw'r nad yw'r ymchwil yn rhoi'r gorau am eiliad i symud yn ei blaen, ac nid oes ofn ail-ystyried pethau o bryd i'w gilydd os oes rhaid. Mae'n dweud cyfrolau am y gwahaniaeth rhwng y ddwy ffordd o feddwl bod cymaint o bobl grefyddol yn ystyried y nodweddion uchod yn wendidau. I lawer o bobl grefyddol, fe ymddengys i mi, llawer gwell y byd-olwg sy'n aros yn statig (ac felly'n syml a chyfforddus).

Dyna sut mae'r cwestiwn "pam?" gwyddonol yn arwain at wybodaeth a dealltwriaeth newydd. Ond cymharwch â'r ateb crefyddol i gymaint o'r cwestiynau mawr am y byd. Yn hanesyddol, mae crefydd amrwd wedi bodloni gyda "duw wnaeth", neu o leiaf rhyw stori sy'n deillio o fytholeg ei duwiau. Iawn, ond beth wedyn? Dyna roi troed i lawr yn syth ac annog pobl i beidio ymchwilio ymhellach, oherwydd dyna ni'r ateb yn dwt ac yn syml. Gall pawb fod yn hapus bod y mater wedi'i setlo; nid oes unrhyw beth pellach i'w ddweud.

Wrth gwrs, gallwn ystyried ein hunain yn ffodus bod yr hil ddynol o hyd yn cynnwys yn ei phlith digon o bobl sy'n rhy chwilfrydig i adael y peth yn y fan yna. Petai crefydd amrwd wedi cael ei ffordd, ni fyddai unrhyw gynnydd na gwelliant wedi digwydd ers i'r droed ddod i lawr. Diolch byth, felly, bod yna bobl sydd wedi awchu i ddeall mwy ac wedi mynd fymryn ymhellach trwy ofyn "iawn, ond sut wnaeth duw wneud hyn?" Gyda'r cwestiwn yma, mae rhywbeth diddorol yn digwydd: mae'n dechrau ymdebygu i gwestiwn y gwyddonydd. Mae'r cwestiwn newydd yma'n arwain at atebion sy'n ymwneud â ffenomenau naturiol. Mae modd dweud wedyn bod duw wedi creu hyn a hyn trwy rhyw fecanwaith naturiol arbennig, ac yn ei dro fe sylwir bod modd astudio'r mecanwaith naturiol hwnnw'n fanylach a'i esbonio eto mewn termau naturiol. Mae rhywbeth arwyddocaol eto'n digwydd wedyn: wrth i ni ddatguddio haen ar ôl haen o fanylder wrth ateb "sut wnaeth duw wneud hyn?", daw'r sylweddoliad (yn hwyr neu'n hwyrach!) ei bod yn bosibl egluro'r ffenomen heb orfod cyflwyno'r cysyniad o dduw o gwbl, gan fod y mecanweithiau naturiol yn siarad drostynt eu hunain. Po fwyaf y dawn i ddeall am y byd, po leiaf yw'r angen i gyflwyno'r cysyniad o dduw er mwyn ei esbonio. Canlyniad hyn yw bod teyrnas duw'n crebachu a chrebachu; yr unig lefydd sydd ganddo i guddio ynddynt yw lle mae ansicrwydd yn parhau i fodoli, ac mae'r rheiny'n prysur ddiflannu. Y creadur pitw a thruenus sy'n weddill yw duw'r bylchau, neu god of the gaps.

Dyma'n union pam mae awdurdodau crefyddol, ar hyd y canrifoedd, wedi mynd ati mor fileinig i atal a llesteirio darganfyddiadau gwyddonol, a chosbi unrhyw un sy'n euog o chwilfrydedd. Yr enghraifft enwocaf wrth gwrs yw Galileo.

Mae unrhyw un sydd wedi dadlau gyda Christnogion yn gwybod mai mater o amser yn unig ydyw nes bod y drafodaeth yn cyrraedd pwnc dechrau'r bydysawd, sef yr ultimate cause. Mae hynny'n deg mewn ffordd, gan ei fod yn gwestiwn mawr (ond wedi dweud hynny, nid oes rheswm i dybio bod angen "achos cyntaf" o gwbl; pam na all y bydysawd dim ond bod?). Ond hyd yn oed o dderbyn er lles dadl bod cwestiwn yr "achos cyntaf" yn ddilys, ni allaf ddeall sut mae datgan mai "duw wnaeth" yn eu bodloni. Nid yw'n ychwanegu at ein dealltwriaeth o gwbl; dim ond gosod enw priod ar y digwyddiad ydyw. Pam na ddylai fod rhaid i dduw yntau fod wedi cael ei achosi neu ei greu gan rhywbeth arall? Nid yw'n rhesymol na synhwyrol i gyflwyno endid fel duw allan o ddim a dweud mai hwnnw roddodd ddechrau ar bopeth arall, gan fynnu nad oedd rhaid i hwnnw'i hun gael ei achosi neu ei greu. Os nad oedd rhaid i dduw ei hun gael ei greu gan rhywbeth blaenorol, yna pam na all y bydysawd ei hun feddu ar yr un nodwedd? Cut out the middleman, ys dywed y Sais. Hyd yn oed yn yr achos yma felly, lle mae'n wir bod ein dealltwriaeth yn anghyflawn (er yn prysur gynyddu), nid yw'r cysyniad o dduw o unrhyw gymorth o gwbl i ni. Mae unrhyw un sy'n ystyried "duw wnaeth!" yn ateb digonol a therfynol yn chwarae rhan y Chwilys gynt, oherwydd yr awgrym yw nad oes pwrpas i waith astronomegwyr a ffisegwyr sy'n chwilio am atebion naturiol (hynny yw, defnyddiol).

Mae'n anodd peidio teimlo rhyw fath o drueni tros yr hen dduw druan; mae'n ddi-waith ac anobeithiol erbyn hyn fel dyfais esboniadol. Mae'r byd yn llawer cliriach hebddo, fodd bynnag, felly rwy'n dathlu ei dranc.

2 comments:

  1. RedGreenInBlue1/1/12 10:56 pm

    Mae'r hyn yn esboniad gwell fy marn i na allwn i wedi sgwennu yn Saesneg, heb sôn am y Gymraeg!

    Ond dw i'n tybio, pob hyn a hyn, tra mod i'n meddwl am y pwnc hwn, a oedd Douglas Adams yn gywir pan oedd o'n sgwennu, "Os bydd unrhyw un byth yn darganfod yn union beth ydy pwrpas y bydysawd a pham mae o yma, bydd o'n diflannu ar unwaith a chael ei ddisodli gan rywbeth hyd yn oed mwy anesboniadwy." :-) (Dw i'n gobeithio mod i wedi cofio'n iawn)

    ReplyDelete
  2. Nid sylw ar y pwnc ond diolch yn fawr i anffyddiaeth.blogspot.com am ddod â chymaint o ddarllenwyr at fy mlog i! Ymlaen i 2012

    ReplyDelete