Erbyn i ni orffen setlo'n y cartref newydd, fodd bynnag, rwy'n siwr y bydd gennyf ddigon o ddeunydd blogio, gan fy mod ar hyn o bryd yn darllen A History Of Western Philosophy (1946) gan y Cymro Bertrand Russell. Mae'n glamp o lyfr hynod uchelgeisiol, sy'n olrhain datblygiad athroniaeth dros gyfnod o 2,500 blynedd hyd at droad y ganrif ddiwethaf.
Rwy'n ymwybodol bod llawer o'i gyd-athronwyr o'r farn bod yr uchelgais wedi bod yn drech nag ef, ond mae'n anochel nad yw llyfr mor faith yn mynd i fod yn berffaith. Er enghraifft, mae llawr o gwyno am or-bwyslais ar un cyfnod a diffyg ar gyfnod arall, ac mae'n rhyfedd iddo anwybyddu Kierkegaard yn llwyr. Un o'r prif gwynion, fodd bynnag, yw nad yw Russell yn gwneud llawer o ymdrech i fod yn ddi-duedd. Mae'n ei gwneud yn eithaf eglur pa athronwyr y mae'n eu hoffi a pha rai nad yw'n meddwl llawer ohonynt. Yn fy marn i, mae hynny'n gwneud y llyfr gymaint yn fwy darllenadwy. Mater o chwaeth yw hynny wrth gwrs, ac mae'n help yn yr achos yma fy mod yn rhannu cymaint o safbwyntiau Russell (gan gynnwys ei anffyddiaeth ddigyfaddawd, wrth reswm).
Rwy'n mwynhau'r darllen yn arw hyd yma. Mae brwdfrydedd yr awdur yn amlwg (mae'n debyg iddo fwynhau ysgrifennu'r llyfr yn fawr, a bu'r adolygiadau cymysg yn destun cryn siom iddo), ac mae'n llwyddo i wneud darllen am bynciau digon anodd yn annisgwyl o rwydd. Mae yna benodau cyfain am athronwyr nad oeddwn yn gyfarwydd â hwy o gwbl, fodd bynnag, felly fel rhywun sy'n bell o fod yn arbenigwr rhaid cadw'r adolygiadau cymysg mewn cof. Rwy'n fodlon derbyn y posibilrwydd bod rhai rhannau o'r llyfr yn datgelu mwy am Russell ei hun nag am y dynion y mae'n eu trafod.
Fel y crybwyllais uchod, mae anffyddiaeth Russell yn cael ei adlewyrchu yn y gyfrol o bryd i'w gilydd. Yn aml wrth i mi ddarllen mae'r awdur yn cyffwrdd â phwnc rwyf wedi bwriadu ei drafod yma, felly bydd yn dda gallu defnyddio'r llyfr fel ysbrydoliaeth. Gobeithio gallaf wneud hynny cyn hir.
Swnio'n dda. Nai geisio cael gafael ar gopi.
ReplyDeleteOnd, faint bynnag ei bwysigrwydd athronyddol a faint bynnag yr ydyn ni yn cytuno ag ef nei beidio, dwi'n credu taw ofer yw'r ymgais i wneud Cymro o Bertrand Russell. Rhaid i mi gyfaddef nad wy'n arbennigo ar y pwnc o gwbwl; ond hyd a welaf i doedd 'o ddim yn ystyried ei hunan yn Gymreig a phrin oedd ei diddordeb mewn Cymru; 'jyst digwydd bod fod ei deulu yn berchen tir yng Nghymru lle ganwyd ef.
Mae hynny'n wir; dim ond cyfeiriad ffwrdd-â-hi oedd ei alw'n Gymro mewn gwirionedd. Er mai yn Sir Fynwy y cafodd ei eni, ac mai ym Mhenrhyndeudraeth y bu farw, a bod ei lwch wedi'u gwasgaru dros fynyddoedd Cymru yn unol â'i ddymuniad, nid oes tystiolaeth bod y cwestiwn ynglyn â hunaniaeth Gymreig hyd yn oed wedi croesi'i feddwl.
ReplyDeleteMae'r erthygl yma ar WalesHome (a'r sylwadau niferus) yn eithaf difyr ar y mater yma.
Roedd yn ystyried ei hun yn Sais yn ôl pob tebyg. Ond mae hynny'n amherthnasol wrth reswm; mae ei athroniaeth yn bwysig o hyd ac rwy'n hoffi ei ddarllen.
"Ymddiheuriadau am fod yn dawel ers pythefnos."
ReplyDeleteDw i eisiau fy arian yn ôl.