08/01/2014

John Stuart Mill, rhyddid a democratiaeth

Mae'r cysyniad o ryddid, fel y'i disgrifir gan yr hen athronydd John Stuart Mill yn ei gampwaith, On Liberty, yn dylanwadu'n fawr iawn ar fy ngwleidyddiaeth, a'n lliwio'r safbwyntiau ynghylch hawliau sifil rwy'n eu harddel ar y blog hwn. Efallai mai'r canlynol yw'r dyfyniad enwocaf:
The only freedom which deserves the name is that of pursuing our own good in our own way, so long as we do not attempt to deprive others of theirs, or impede their efforts to obtain it.
Fersiwn estynedig o'r rheol euraid yw hon. Mae trin pobl eraill fel yr hoffem ninnau gael ein trin yn gorfod golygu mai'r unig gyfiawnhad dros gyfyngu ar ryddid unrhyw unigolyn yw er mwyn rhwystro'r unigolyn hwnnw rhag niweidio rhywun arall. Fel y dywed Zechariah Chafee, "your right to swing your arms ends just where the other man's nose begins".

Nid oes gwahaniaeth beth yw maint y mwyafrif sydd o blaid cyfyngu ar ryddid unigolyn:
If all mankind minus one, were of one opinion, and only one person were of the contrary opinion, mankind would be no more justified in silencing that one person, than he, if he had the power, would be justified in silencing mankind.
Mae hon yn egwyddor hynod bwysig. Lle mae hawliau dynol creiddiol (fel rhyddid mynegiant) o dan sylw, mae'n hanfodol eu gwarchod rhag ormes y mwyafrif. Mae angen cyfyngu ar ddemocratiaeth bur, er mwyn sicrhau nad yw'r mwyafrif yn gorthrymu grwpiau lleiafrifol. Dyma, wrth gwrs, swyddogaeth cyfansoddiad (ar ffurf dogfen ffurfiol neu beidio) a'r llysoedd.

Yn hyn o beth, mae rhyddid yn gyffredinol yn bwysicach na democratiaeth. Hynny yw, un math o ryddid yn unig o blith nifer yw'r hawl i ddewis cynrychiolwyr gwleidyddol i ddeddfu a llywodraethu ar ein rhan. Yn hypothetig, o leiaf, mae'n bosibl dychmygu cymdeithas cwbl annemocrataidd sydd, eto i gyd, yn parchu rhyddid yn well na chymdeithas hollol ddemocrataidd. Fel mae'n digwydd, nid oes cymdeithas o'r fath wedi bodoli erioed, a go brin y gwelwn un yn y dyfodol; yn ymarferol, mae gwledydd rhyddion yn tueddu i fod yn lefydd democrataidd. Ond y pwynt yw bod democratiaeth bur yn gallu amharu ar y mathau eraill o ryddid, ac mewn sefyllfaoedd o'r fath, ar ddemocratiaeth y dylid cyfyngu.

Er bod gan bob crefydd a diwylliant, fwy neu lai, fersiwn o'r rheol euraid, mae gormod o lawer o bobl yn talu sylw i hanner y ddysgeidiaeth yn unig. Ond mae'n hawdd cytuno â hi os mai ein rhyddid ein hunain sydd o dan fygythiad; y gwir brawf yw gwrthod y temtasiwn i fygwth hawliau pobl eraill.  Mae llawer, am wn i,  yn camddeall y cysyniad o ryddid.  Fel y dywed Mill:
There are many who consider as an injury to themselves any conduct which they have a distaste for, and resent it as an outrage to their feelings; as a religious bigot, when charged with disregarding the religious feelings of others, has been known to retort that they disregard his feelings, by persisting in their abonimable worship or creed. But there is no parity between the feeling of a person for his own opinion, and the feeling of another who is offended at his holding it; no more than between the desire of a thief to take a purse, and the right of the owner to keep it. And a person's taste is as much his own peculiar concern as his opinion or his purse.
Yn syml iawn, nid yw'n golygu'r hawl i beidio clywed neu weld pethau rydych yn anghytuno â hwy. Dylid gwarchod pobl rhag niwed go iawn, ond nid oes gan unrhyw un yr hawl i beidio cael eu hypsétio. Mae eithafwyr crefyddol, er enghraifft, yn honni bod priodasau cyfunrywiol rywsut yn amharu ar eu hawliau crefyddol. Swmp a sylwedd eu dadl yw eu bod yn credu bod yr holl beth yn ych-a-fi. Wel pa ots? Nid yw bodolaeth hoywon priod yn cael unrhyw effaith negyddol go iawn ar unrhyw un arall, felly mae'n anfoesol gwadu'r hawl iddynt gael yr un cydnabyddiaeth i'w perthynas ag y mae gweddill y boblogaeth yn cael ei fwynhau. Mae hyn yn ddigon syml.

Yn anffodus, difethir On Liberty gan ddarn digon hyll yn ei gyflwyniad. Am ba bynnag reswm, ar ôl dod mor agos at ei deall hi, mae Mill yn tanseilio'r hyn sy'n dilyn trwy wneud eithriad hiliol:
we may leave out of consideration those backward states of society in which the race itself may be considered as in its nonage. The early difficulties in the way of spontaneous progress are so great, that there is seldom any choice of means for overcoming them; and a ruler full of the spirit of improvement is warranted in the use of any expedients that will attain an end, perhaps otherwise unattainable. Despotism is a legitimate mode of government in dealing with barbarians, provided the end be their improvement, and the means justified by actually effecting that end. Liberty, as a principle, has no application to any state of things anterior to the time when mankind have become capable of being improved by free and equal discussion. Until then, there is nothing for them but implicit obedience to an Akbar or a Charlemagne, if they are so fortunate as to find one.
Mae'n rhaid i hawliau dynol, wrth reswm, fod yn berthnasol i'r holl hil ddynol. Nid yw'r cysyniad yn un ystyrlon fel arall. Mae darllen y dyfyniad uchod felly'n ddigon digalon, gan fod yr awdur, ym mron pob ffordd, wedi arloesi yn y maes. Roedd rhagfarn tuag at "farbariaid" yn gyffredin tu hwnt ar y pryd, wrth gwrs. Ond mewn ffordd, mae'n anos maddau Mill fan hyn na'i gyfoedion. Nid oes llawer o syndod bod ceidwadwyr Fictorianaidd, ar un llaw, heb feddwl bod unrhyw beth o'i le ar fwynhau rhyddid adref tra'n ei wrthod i'r tramorwyr anwaraidd a drigai o dan gysgod ymerodraeth Prydain. Yn achos Mill y rhyddfrydwr, ar y llaw arall, ar ôl ei holl waith diwyd yn ystyried ac esbonio rhyddid fel cysyniad cyffredinol, mae'n siomedig ei weld yn syrthio i'r un trap. Mae'n deg awgrymu y dylai fod wedi gwybod yn well. Norm diog oedd rhagfarn fel hyn i bawb arall, ond roedd rhaid i Mill ei wasgu i mewn yn bwrpasol. Go brin mai cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod Mill yn gweithio i Gwmni Dwyrain India ar y pryd; roedd yr eithriad ynghylch "barbariaid" yn cyfiawnhau ymddygiad ei gyflogwyr.

Mae llawer wedi beirniadu Mill am hyn, gan ei alw'n "ryddfrydwr imperialaidd". Mae'r cyhuddiad yn deg, yn enwedig gan ei fod hefyd wedi bod yn gefnogol i'r egwyddor o ymyrryd yn filwrol er mwyn lledaenu ei syniad o ryddid (rhywbeth arall yr wyf i'n anghytuno'n llwyr ag ef, am resymau ymarferol a moesol). Eto i gyd, rwy'n cytuno â Nick Cohen sy'n dadlau bod llawer o'r beirniaid ôl-drefedigaethol ac ôl-fodern sy'n condemnio hiliaeth Mill yn euog o'r un peth yn union. Fel y gofynna Cohen:
Who now believes that rights are all very well for Englishmen but not for the lesser breeds? Who now says that the emancipation of women is essential for white-skinned women in the West but not brown-skinned women in the East? Who, in short, is the inheritor of the old imperialist double standard?
Fel rwyf wedi'i ddweud droeon ar y blog hwn, mae anffyddwyr cyson - hynny yw, rhai sy'n beirniadu erchyllterau a gyflawnir yn enw crefydd dim ots pa ffydd sydd o dan sylw - yn aml yn wynebu cyhuddiad o "imperialaeth ddiwylliannol". Ond fel mae Cohen yn ei ddweud, mae'r cyhuddiad ynddo'i hun yn arwydd o hiliaeth yn y person sy'n ei wneud, gan ei fod yn ail-adrodd camgymeriad Mill. "Hiliaeth y disgwyliadau isel" yw gosod safonau gwahanol ar gyfer ein cymdeithas ni, ar un llaw, a chymdeithasau mwslemaidd (er enghraifft) ar y llaw arall.

Er hyn, rwy'n parhau i edmygu Mill am ei gyfraniad.  Er nad wyf yn cytuno chwaith â'i agwedd laissez faire tuag at economeg ac union ddyletswyddau'r wladwriaeth, mae dyled anferth iddo am amlinellu ystyr rhyddid a hawliau'r unigolyn mor glir. Petai mwy o bobl yn deall a gwerthfawrogi'r hyn a ddywedodd, ni fyddai angen i ni orfod dioddef cymaint o eithafwyr crefyddol yn cwyno mor syrffedus bod peidio caniatáu iddynt ormesu eraill gyfystyr â sathru ar eu hawliau hwy.

No comments:

Post a Comment