26/02/2012

Rhywbeth y dylai anffyddwyr beidio'i wneud

Mae gan yr Eglwys Formonaidd ddefod eithriadol o annifyr, sef "bedyddio" pobl sydd wedi marw er mwyn eu hawlio fel Mormoniaid (am ffordd gyfleus a ddi-ffwdan o chwyddo niferoedd!). Mae'n anodd canfod y geiriau i fynegi haerllugrwydd y peth. Un o'r meirwon anffodus a gafodd y driniaeth yn ddiweddar oedd Anne Frank, o bawb.

Wrth reswm, mae'n anonest ail-ysgrifennu hanes a honni bod pobl wedi credu pethau nad oeddent yn eu credu, yn enwedig pan fo'r bobl hynny bellach yn eu bedd a'n methu ymateb. Dyna'n union pam ei bod yn anffodus bod y ddelwedd yma wedi bod yn gwneud ei ffordd ar hyd a lled y we'n ddiweddar:


Er gwybodaeth, y dynion yn y llun yw Ernest Hemingway, Abraham Lincoln, a Carl Sagan (top); Mark Twain, Thomas Jefferson a Benjamin Franklin (canol); ac Albert Einstein a Charles Darwin (gwaelod).

Mae'n sicr nad oedd yr un ohonynt yn Gristnogion (ar ddiwedd eu hoesau o leiaf), yn ôl unrhyw ddiffiniad ystyrlon o'r gair. Yn wir, mae safbwyntiau diwinyddol pob un ohonynt yn gymhleth ac mae'n anodd iawn gosod un label clir yn achos yr un ohonynt. Heblaw Sagan (a oedd am ba bynnag reswm yn ffafrio'r gair agnostig), ac efallai Hemingway (a aeth trwy'r ddefod o ymuno â'r eglwys Babyddol er mwyn gallu priodi ei anwylyd ond a oedd, mae'n debyg, yn ddi-ffydd i bob pwrpas), mae hawlio'r dynion yma fel "anffyddwyr" yn ei gor-ddweud hi braidd, neu, mewn rhai achosion, yn gelwydd noeth.

Mae Einstein yn dod yn eithriadol o agos. Mae agwedd hwnnw tuag at y cysyniad o dduw yn niwlog ac wedi bod yn destun cryn drafodaeth ers bron i ganrif. Mae llawer yn cael eu camarwain gan ei ddefnydd trosiadol o'r gair "duw". Ystyrier y datganiad enwog o'i eiddo, er enghraifft: "God does not play dice". Mae llawer o wyddonwyr, o gyfnod Einstein yn enwedig, yn ei chael yn anodd osgoi'r temptasiwn i ddefnyddio'r gair "duw" mewn rhyw ffordd farddonol. Yr hyn y maent yn cyfeirio ato yn y bôn yw'r bydysawd a natur yn gyffredinol, a'r rheolau ffisegol sylfaenol sydd wrth wraidd popeth. Sgil effaith anffodus yr ieithwedd flodeuog yma yw bod llawer o bobl grefyddol yn cyffroi wrth weld y gair "duw" a'n herwgipio'r siaradwr a'i droi'n gristion (neu'n achos Einstein, iddew uniongred). Mewn gwirionedd, fodd bynnag, rwy'n credu bod panffyddiaeth yn ddisgrifiad tecach o'r ffordd yr oedd Einstein yn edrych ar y byd. Efallai. Fel y dywedais, mae'n anodd dweud oherwydd tuedd rhai ffisegwyr fel Einstein i siarad mewn trosiadau.

Mae Lincoln a Darwin yn anodd eu labelu hefyd, er (neu efallai oherwydd) cymaint sydd wedi'i gofnodi ganddynt ac amdanynt. Wrth reswm fe gollodd Darwin ei Gristnogaeth wrth iddo ddatblygu theori esblygiad, ond agnostig yr oedd yn galw'i hun erbyn y diwedd. O ystyried y cyfnod y bu'n byw ynddo, buaswn mewn gwirionedd yn synnu petai wedi ymwrthod â phob syniad o dduw yn yr un modd ag y mae anffyddwyr modern yn ei wneud. Yn achos Lincoln, gan mai gwleidydd ydoedd mae angen cymryd ei ddatganiadau cyhoeddus ynghylch ffydd gyda phinsiad o halen (er bod y pwysau ar wleidydd Americanaidd i fod yn Gristion orthodocs yn llawer iawn llai bryd hynny nag ydyw heddiw, yn rhyfedd iawn). Mae hanesyddwyr yn anghytuno o hyd am ei union farn ddiwinyddol, ond er nad oedd erioed yn aelod o unrhyw eglwys Gristnogol rwy'n credu bod ei gyfeiriadau cyson at dduw (o ba bynnag fath) yn ei gwneud yn anodd ei hawlio fel anffyddiwr fel y deëllir y gair heddiw.

Ond gwir asgwrn y gynnen, a'r rheswm rwyf wedi cael fy sbarduno i ysgrifennu'r cofnod yma, yw ei bod yn gwbl sicr nad oedd Jefferson, Franklin na Twain yn anffyddwyr o fath yn y byd. Roedd y tri'n feirniadol tu hwnt o Gristnogaeth ac o grefydd ffurfiol yn gyffredinol, yn sicr. Roedd y ddau gyntaf ymhlith adeiladwyr pennaf yr enghraifft orau erioed o wladwriaeth seciwlar, sef Unol Daleithiau America. Mae Jefferson hefyd yn enwog am fynd trwy ei feibl a thorri allan (yn llythrennol, gyda rasal) pob cyfeiriad at wyrthiau a'r goruwchnaturiol, er mwyn creu llyfr llawer iawn iawn byrrach o'r enw The Life and Morals of Jesus of Nazareth. Roedd Jefferson a Franklin ill dau, er yn ymwrthod â Christnogaeth, yn credu mewn rhyw fath o dduw personol sy'n weithredol o hyd. Ond fel mae teitl llyfr Jefferson yn ei awgrymu, roedd yn credu bod pethau da i'w dysgu oddi wrth Iesu fel athronydd hyd yn oed os oedd yn gwrthod credu bod hwnnw'n fab i dduw ac ati. Am y rheswm yna, nid yw deistiaeth chwaith yn ddisgrifiad cywir o'u credoau. Yn hytrach, roeddent yn arddel rhyw fath o resymoliaeth theistig.

Yn achos Mark Twain, er ei fod wedi anelu ei ffraethineb enwog at Gristnogaeth gyda'r gorau, mae'n anodd gwadu bod hwnnw hefyd wedi credu mewn rhyw fath o dduw ac felly mae'n anonest ceisio'i hawlio fel anffyddiwr.

Efallai bod hyn i gyd yn ddi-bwys. Wedi'r cyfan, nid oes ots mewn gwirionedd beth oedd barn ffigurau hanesyddol penodol am grefydd. Byddai absenoldeb duw'n parhau hyd yn oed petai holl feddyliau craff y byd yn credu ynddo. Ond y pwynt yw bod pob anffyddiwr gwerth ei halen yn ystyried ffeithiau'n hanfodol, a'n beirniadu crefydd yn bennaf oherwydd ei bod yn mynd yn groes i ffeithiau. Mae'n bwysig felly ein bod yn osgoi dweud celwydd mewn ymgais i hyrwyddo'r achos. Mae hyd yn oed y goreuon yn gallu bod yn euog: nid wyf wedi darllen y llyfr, ond mae'n debyg bod Christopher Hitchens o bawb yn ei fywgraffiad ohono wedi syrthio i'r trap o geisio hawlio Thomas Jefferson fel anffyddiwr mawr rhonc. Mae'r holl bapurau a llythyrau sydd gennym o eiddo Jefferson yn ei gwneud yn anodd galw'r honiad yna'n unrhyw beth ond celwydd.

Y gwir amdani yw bod anffyddiaeth fodern, sef diffyg ffydd mewn unrhyw fath o greawdwr neu endid goruwchnaturiol o gwbl, yn ffenomen digon diweddar. Cyn y ganrif ddiwethaf, roedd hyd yn oed beirniaid ffyrnicaf crefydd yn tueddu i dderbyn rhyw fath annelwig o dduw. Mae'n bur bosibl y byddai pawb yn y llun uchod yn anffyddwyr llwyr petaent yn fyw heddiw, ond fel ag y mae pethau ni ddylid efelychu'r Mormoniaid.

4 comments:

  1. "a living person, acting as proxy, is baptized by immersion on behalf of a deceased person"

    Phew, roeddwn i wedi meddwl eu bod nhw rhywsut yn cael gafael ar y cyrff gyntaf ac yna'n eu bedyddio.

    ReplyDelete
  2. > Efallai bod hyn i gyd yn ddi-bwys.

    Sa i'n credu ei fod e. Does dim byd yn tanseilio dadlau rhesymegwyr fel dweud pethau sy ddim yn wir, neu sy'n symleiddio'r gwirionedd nes fod e'n wawdlun. Mae'n tanseilio'r ddadl.

    ReplyDelete