Rwy'n eithaf drwgdybus o'r chwedl (gymharol newydd) am Siôn Corn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn mynnu mai hwyl di-niwed yw'r holl beth; mae'r plant yn mwynhau, ac mae eu gweld yn cynhyrfu'n lân bob Nadolig yn rhoi pleser i'w rhieni hefyd. Am wn i, mae hefyd yn gelwydd defnyddiol er dibenion annog y diawliaid bach i fyhafio, ond dyna'n union ran o'r broblem sydd gennyf â'r syniad.
Mae'n draddodiad rhyfedd mewn sawl ffordd. Pam mae rhieni mor awyddus i ildio'r clôd am wario ffortiwn ar eu plantos? Yn fwy na hynny, ym mha gyd-destun arall y buasem mor gyfforddus â'r syniad o ddyn oedrannus barfog tew yn torri mewn i'n tai fin nos, gan sleifio'n dawel i ystafelloedd gwely ein hepilod wrth iddynt freuddwydio'n fodlon? Ond yr elfen fwyaf sinistr oll yw'r neges bod Siôn Corn yn gallu gweld ein plant drwy'r amser a'n gwybod popeth amdanynt; yn enwedig, wrth gwrs, a ydynt wedi bod yn dda ynteu'n ddrwg.
Bach o gybolfa yw tarddiad y chwedl mewn gwirionedd, a digon tila yw'r cysylltiad a wneir o dro i dro â'r Sant Niclas Cristnogol. Ar y cyfan, nid oes gan Siôn Corn - sef yr un motiff amlycaf a gysylltir â'r Nadolig - unrhyw beth i'w wneud â Christnogaeth. Nid yw hynny'n syndod, oherwydd nid gŵyl Gristnogol mo'r Nadolig yn y lle cyntaf. Eto i gyd, go brin bod modd ei alw'n ffigwr seciwlar chwaith. I bob pwrpas, mae'r Siôn Corn modern yn hollalluog, hollwybodus a hollbresennol. Yn hynny o beth, nid oes fawr yn wahanol rhyngddo a'r duw monotheistaidd. Am fis bob blwyddyn, mae Siôn Corn yn dadorseddu Duw. Beth yw'r holl lythyrau i Begwn y Gogledd ond gweddïau, wedi'r cyfan? Mae'r cyffelybiaethau'n niferus.
Nid wyf yn credu ei bod yn iach i ddysgu ein plant bod yna rywun yn craffu arnynt bob eiliad o'r dydd, a'n darllen eu meddyliau. Yn un peth, mae'n dilysu syniadau crefyddol am fodau goruwchnaturiol. Ond mae rhywbeth eithriadol o annifyr am y syniad nad oes gan ein plant unrhyw le i ddianc oddi wrth y fath ddewin dirgel. Mae preifatrwydd yn bwysig, o safbwynt seicolegol, hyd yn oed i blant ifainc, ac mae pawb angen rhywle lle mae modd ymlacio heb fod rhywun yn syllu. Mae goruchwyliaeth barhaus yn gysyniad totalitaraidd. Nid wyf yn arbennig o hoff o'r syniad o awgrymu i blant eu bod yn byw mewn siwdo-Ogledd Corea neu rhyw ddystopia Nineteen Eighty-Four-aidd. Am yr un rheswm yn union, mae'n destun rhyddhad nad oes yna dduw'n bodoli.
Nid oes gennyf blant ar hyn o bryd, ond bydd hynny'n newid ym mis Mai (gobeithio). Rwy'n cydnabod bod cael plant eich hunain yn gallu newid eich safbwyntiau ynchylch y pethau yma. Eto i gyd, rwy'n hoffi meddwl mai fy ngreddf fyddai dweud wrth y plentyn "does dim Siôn Corn; dweud wrth dy ffrindiau". Ond na phoner; rwyf wedi hen golli'r ddadl yma â'm gwraig. Mae'n debyg mai darn o deyrnas Siôn Corn fydd yr aelwyd acw hefyd, er popeth.
No comments:
Post a Comment