Fel dw i wedi crybwyll eisoes, dw i'n edmygu diwygiad cyntaf cyfansoddiad Unol Daleithiau America'n fawr iawn. Mae hwnnw'n sicrhau bod rhyddid llafar yn America'n nesaf peth i absoliwt. Dw i'n cydnabod nad oes unrhyw beth o'r fath ym Mhrydain, yn anffodus. Pan mae May yn dweud rhywbeth fel (gan ddyfynnu aralleiriad yr erthygl) "She said speakers at student events who broke the law, for example by inciting racial hatred, should be stopped" mae'n wir bod cyfraith Prydain yn ei chefnogi i raddau. Ond, yn fy marn i ni ddylai dweud pethau hiliol, dim ots pa mor atgas, fod yn anghyfreithlon (yn enwedig gan fod "hiliaeth" bellach wedi troi mewn i rhyw air ymbárel sy'n gallu disgrifio pob math o sylwadau). Fel cyfansoddiad America, dw i'n credu dylai rhyddid llafar fod fwy neu lai yn absoliwt; mae rhoi'r hawl i'r wladwriaeth sensro barn rhywun yn beryglus iawn, yn enwedig pan fo'r cynsail mor niwlog. Mae caredigion yr iaith Gymraeg yn enwedig ymysg y sawl ddylai bryderu am y fath beth; cofier y cyhuddiadau twp o "HILIAETH!!" yn erbyn Seimon Glyn ddegawd yn ôl. Mae'r ddeddf ynglyn â "chasineb" crefyddol yn waeth byth a dylid ei diddymu ar unwaith.
Dywedodd y gweinidog hefyd:
"They need to be prepared to stand up and say that organisations that are extreme or support extremism or have extremist speakers should not be part of their grouping."Yng ngoleuni fy sylwadau uchod, dylai fy marn ar y geiriau yma fod yn amlwg. "Eithafol" yn ôl pwy? Yn fuan iawn mae gwaharddiadau o'r fath yn troi'n declyn defnyddiol er mwyn tawelu pobl rydych yn anghytuno â hwy. Dylai prifysgolion o bob man fod yn rhywle lle dylid annog rhoi llwyfan i farn nad ydych yn gyfforddus ag o.
Fel oeddwn yn dweud, beth yn union mae disgwyl i brifysgolion wneud? Plismona adeiladau'r campws a chyfarfodydd eu hamryw grwpiau a gwrando allan am unrhyw sylwadau annerbyniol? Mae'n gwbl wir bod llawer o eithafwyr Islamaidd wedi'u cyflwyno i'r athrawiaeth tra'n y brifysgol (mae The Islamist gan Ed Husain, cyn-eithafwr, yn ddarllen difyr), ond...wel, so what? Yr unig beth y gellir ei wneud i frwydro'n erbyn hynny mae gen i ofn ydi dangos pa mor wallgof ydi'r athrawiaeth a darbwyllo Islamiaid ifainc bod rhyddfrydaeth seciwlar yn rhagori. Y cwbl a gyflawnir wrth eu gwahardd ydi'u gyrru "o dan y ddaear" (a chyfieithu'n drwsgl o'r Saesneg) ac, os rhywbeth, gwneud yr holl beth gymaint â hynny'n fwy apelgar. Rebeliaid naturiol ydi stiwdants, wedi'r cyfan, os dim byd arall.
Er mwyn ategu pa mor gryf ydi fy marn am ryddid llafar a rhyddid barn, dw i ddim yn credu y dylai mynegi'r sylw hypothetig canlynol fod yn anghyfreithlon: "dylid troi Prydain yn wlad Islamaidd, a hynny trwy drais". Fe groesir y llinell pan gwneir bygythiad clir ac uniongyrchol yn erbyn person neu garfan penodol; dyna pryd y dylai'r wladwriaeth gamu i mewn, ac nid eiliad ynghynt.
No comments:
Post a Comment