04/06/2011

A ellir erlyn Harold Camping?

Mae hen ddyn 89 oed gwirion ond anghynnes wedi bod yn amlwg yn y newyddion yn ddiweddar. Dach chi'n gwybod pa un, yr un oedd yn mynnu y byddai'r byd yn darfod ar 21 Mai eleni. Neu i fod yn fanylach, mai dyna pryd fyddai Iesu Grist yn dychwelyd ac y bydd y Cristnogion ffyddlon yn esgyn i'r nefoedd gan adael ni'r inffideliaid i ddioddef pob math o erchyllterau am bum mis cyn i'r byd i gyd ddod i ben yn sywddogol ym mis Hydref. Yn amlwg, unai roedd proffwydoliaeth Harold Camping yn anghywir, neu nid oedd unrhyw un (gan gynnwys Camping ei hun) yn bodloni'r criteria angenrheidiol er mwyn mwynhau'r tragwyddoldeb dedwydd. Heblaw'r bobl yma, efallai.

Fel mae'n digwydd, roedd gweld cymaint o Gristnogion yn bychanu Harold Camping, neu'n ei feirniadu, yn gwneud i mi wenu. Wedi'r cyfan, mae pob Cristion gwerth ei halen yn credu bod ail ddyfodiad y meseia yn sicr o ddigwydd ar rhyw bwynt yn y dyfodol. Y cwbl wnaeth Camping oedd mentro cynnig dyddiad penodol. Mae'r dyn yn amlwg yn boncyrs, ond ddim mor bell â hynny y tu hwnt i brif ffrwd Cristnogaeth.

Ta waeth, dyma ymgais ddifyr i gyhuddo Camping o dwyll ariannol. Mae'r dyn wedi gwneud ei ffortiwn wrth bedlera'i nonsens ar hyd ei oes, ac fe gododd lawer iawn o arian yn y misoedd cyn dyddiad ei broffwydoliaeth. Yn wir, fe roddodd rhai o'i gefnogwyr eu harian i gyd iddo, ac fe adawdodd eraill eu swyddi. Mae'n debyg eu bod wir yn credu bod y byd ar fin darfod ac nad oedd pwynt iddynt gadw'u hasedau eu hunain. Felly beth am roi popeth i sefydliad Camping er mwyn ei helpu i ddenu sylw at y dyddiad mawr? O diar. Siwr gen i eu bod nhw'n teimlo ychydig yn ddwl erbyn hyn! Mewn difri calon, cafwyd llond llaw o achosion o hunan-laddiad yn sgil y nonsens yma. Mae'r byd yma'n le od.

Y cwestiwn ydi, a oes lle i erlyn Camping am y twyll anferth yma? Wedi'r cyfan, roedd gan Camping ei hun dros $100m mewn asedau. Pam ddim gwerthu'r cyfan er mwyn gwneud sblash go iawn i hyrwyddo'i achos? Yn hytrach, fe sicrhaodd bod ei ymerodraeth fusnes ei hun yn parhau'n gwbl gyfan, gan wario (a chadw) arian ei ddilynwyr truenus yn lle. Mae hynny'n awgrymu nad oedd yn credu proffwydoliaeth ei hun mewn gwirionedd.

Go brin fydd hyn yn llwyddiannus. Ond reit dda am drio.

Yn y cyfamser, mae Camping yn parhau i fynnu y bydd y byd yn darfod ym mis Hydref. Ac mae'n siwr bydd rhai pobl yn parhau i daflu doleri ato. A phan ddaw mis Tachwedd, mae'n siwr fe gawn ddyddiad gwahanol eto ganddo (cyn hyn, 1994 oedd y flwyddyn fawr). Un dihiryn arall o blith nifer sy'n gwneud ei ffortiwn ar gefn yr hygoelus.

No comments:

Post a Comment