31/05/2011

Mae byw heb dduw yn dda

(dw i'n credu fy mod newydd gyfansoddi fy nghynghanedd sain gyntaf efo'r teitl yna!)

Fel arfer, pan fydd anffyddwyr yn crybwyll diffyg bodolaeth duw, bydd Cristnogion yn ymateb trwy ddweud nad oes modd cael moesoldeb ystyrlon hebddo. Cafwyd sylwadau i'r perwyl hwnnw gan Rhys ar waelod y post yma. Roeddwn wedi sôn am y rheol euraidd, sef "dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddynt eich trin chi", fel brawddeg dda i seilio moeseg arno. Yn amlwg, yn fy marn i does dim angen duw o gwbl er mwyn gwneud y rheol yna'n un synhwyrol. Roedd Rhys yn anghytuno. Dyma ymateb pellach iddo felly, mewn post newydd ar wahân. Dywed Rhys:
Diolch am esbonio dy safbwynt ymhellach. Amwni mae'r gwahaniaeth rhwng dy ddealltwriaeth di o "dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddynt eich trin chi" a dealltwriaeth y Cristion yw fod y foeseg yn rhywbeth goddrychol i ti, mae'n tarddu o dy galon/meddwl dy hun. I'r Cristion mae'n fwy na hynny gan ei fod yn cael ei ddatguddio i ni fel moeseg gwrthrychol gan Dduw.

Byddwn i'n anghytuno, wrth gwrs, bod y fersiwn Gristnogol yn "fwy na hynny". Mae'n "llai" na hynny, oherwydd mae'n derbyn rhywbeth yn ddi-gwestiwn a'n ddi-feddwl. Ond y peth ydi, mae Rhys yn gwneud cam â'i hun a'i gyd-Gristnogion. Er ei fod yn haeru mai gair duw ydi dechrau a diwedd sail ei foesoeg, ai dyna, mewn difri, ydi'r unig beth sy'n ei ddal yn ôl rhag cyflawni pob math o bechodau erchyll? Yr awgrym ydi y byddai, petai ei dduw yn diflannu yfory nesaf, yn mynd ati'n syth i dreisio a lladd a bwyta babanod. Dw i'n nabod Rhys, ac mi fedra' i gyhoeddi'n ddigon hyderus nad ydi hynny'n wir. Ni fyddai Rhys yn cyflawni'r pethau ofnadwy yna, a hynny am union yr un rhesymau nad ydw innau'n eu gwneud. Does gan dduw ddim byd i'w wneud â'r peth. Petai Rhys yn iawn, sef mai derbyn y peth yn ddi-gwestiwn fel gwirionedd absoliwt a-dyna-fo a wna, byddwn yn haeru fy mod yn berson llawer mwy moesol nag o. Ond gan ei fod yn gwneud cam â'i hun, dydi hynny ddim o reidrwydd yn wir (er fy mod i'n berson gwych a hollol neis).
Pam fod hynny yn bwysig i ni felly? Pam fod ni'n mynnu cael Duw yna fel 'middleman' rhyngom ni a moeseg fel rwyt ti'n herio?

Mae'r ateb yn weddol syml. Heb wrthrych i'n moeseg, constant os hoffe ti, mae ein moeseg yn oddrychol. Wrth i bawb 'edrych o'i mewn' am foeseg mae'n anorfod fod rhai pobl, gwaetha'r modd, a moeseg hyll yn ôl safonau Cristnogion a hiwministiaid goleuedig fel eu gilydd.

Enghraifft ethiafol yw ffasgiaeth, dydy'r ffasgwyr er enghraifft ddim yn credu mewn "dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddynt eich trin chi". Mae hynny'n realiti oherwydd fod nhw wedi darganfod (neu heb ddarganfod mwy na thebyg!) moeseg o'u mewn sydd ddim yn gyson gyda'r ddeddf foesol dwi'n credu sy'n dod gan Dduw ac rwyt ti'n credu sy'n dod o ............ (llenwer yma)?

Problem moeseg di-dduw, fel ag yr ydw i'n ei gweld hi, yw ei fod berthynol ac felly yn feddal.
Y broblem gyda hyn ydi nad ydi moeseg Rhys yn wrthrychol o gwbl yn yr ystyr y mae'n ei ddefnyddio. Petai hynny'n wir, byddai barn pob un Cristion ar bob un mater yn cyfateb yn llwyr â'i gilydd. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir. Mae Cristnogion yn dadlau ymysg ei gilydd am faterion moesol llawn cymaint â phawb arall. Yr unig wahaniaeth rhwng anffyddwyr a Christnogion yn hyn o beth ydi bod y cyntaf yn gwneud hynny trwy gyfrwng llyfrau a seminarau cwrtais, tra bod yr olaf yn fwy tebygol o fynd i ryfel. Pa iws ydi moeseg wrthrychol, absoliwt, yn deillio o dduw ei hun, os ydi'r holl beth yn rhy amwys i bob Cristion allu'i dehongli yn yr un ffordd?

Nid cyd-ddigwyddiad ydi'r ffaith bod moeseg Gristnogol yn newid gyda'r oes (er efallai ychydig ddegawdau ar ei hôl hi o gymharu â moeseg seciwlar). Does dim un Cristion - hyd yn oed y ffwndmanetalwyr sy'n honni eu bod yn dehongli'r Beibl i gyd yn gwbl llythrennol - yn dehongli'r Beibl i gyd yn gwbl llythrennol. Maent yn dewis a dethol pa adrannau i'w derbyn a pha rai i'w gwrthod (neu'n hytrach, i'w hanwybyddu). Fel rheol, mae'n anodd dweud y gwahaniaeth rhwng y rhesymau pam fod Cristion yn gwrthod rhyw adnod neu'i gilydd ar yr un llaw, a'r rhesymau pam fod anffyddwyr yn eu gwrthod ar y llall. Mae Cristnogion (99% ohonynt erbyn hyn a Rhys yn eu plith, dw i'n tybio) ac anffyddwyr yn gwrthod rhannau helaeth o Lefiticws (er enghraifft 19:19, y gwaharddiad ar wisgo dillad wedi'u gwneuthuro o fwy nag un gwahanol fath o frethyn) am union yr un rheswm, sef y canlynol: mae'n gwbl boncyrs. Nid yn unig y mae Rhys yn defnyddio sgiliau rhesymegu digon seciwlar i ddod i'r casgliad yma, mae'n mynd yn gwbl groes i orchymyn digon di-amwys gan ei dduw.

Mae yna stori annifyr iawn ar y gweill yn Louisiana ar hyn o bryd, lle mae bachgen ysgol o'r enw Damon Fowler wedi canfod ei hun yn elyn pennaf ei gyd-ddisgyblion, ei athrawon a'i gymuned am drio gorfodi'i ysgol i beidio cynnwys gweddi orfodol fel rhan o seremoni raddio. Mae cyfraith a chyfansoddiad America'n cytuno'n llwyr ag o ar y mater yma, ond mae'r hogyn druan wedi'i ysgymuno'n llwyr (fel petai) o'i gymuned yn sgil ei safiad dewr. Yn waeth na hynny:
1) Fowler has been hounded, pilloried, and ostracized by his community.

2) One of Fowler's teachers has publicly demeaned him.

3) Fowler has been physically threatened. Students have threatened to "jump him" at graduation practice, and he has received multiple threats of bodily harm, and even death threats.

4) Fowler's parents have cut off his financial support, kicked him out of the house, and thrown his belongings onto the front porch.

Oh, and by the way? They went ahead and had the graduation prayer anyway.
Mae'r stori'n gwbl erchyll, ond dw i wedi pwysleisio rhan a ddylai godi braw gwirioneddol. Y peth yw, gadewch i mi ddyfynnu Deuteronomium 18:21:
18 Ond o bydd i ŵr fab cyndyn ac anufudd, heb wrando ar lais ei dad, neu ar lais ei fam; a phan geryddant ef, ni wrendy arnynt: 19 Yna ei dad a’i fam a ymaflant ynddo, ac a’i dygant at henuriaid ei ddinas, ac i borth ei drigfan; 20 A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef, Ein mab hwn sydd gyndyn ac anufudd, heb wrando ar ein llais; glwth a meddwyn yw efe. 21 Yna holl ddynion ei ddinas a’i llabyddiant ef â meini, fel y byddo farw
Mae'r Beibl yn ddigon eglur a di-amwys ar y mater yma, fel y gwelwch. Yr unig beth a ddylai ddychryn Cristion wrth ddarllen yr uchod, felly, ydi'r ffaith bod Damon Fowler yn parhau'n fyw ac iach, a HEB gael ei ladd efo cerrig. Ddim eto, o leiaf.

Mae modd chwarae gemau fel hyn hyd syrffed gan ddyfynnu gwahanol rannau o'r Beibl, ac fel arfer mae gan Gristnogion deallus fel Rhys fodd o geisio esbonio'r peth i ffwrdd. Ond chwifio dwylo ydi hynny mewn gwirionedd. Wrth reswm, dw i'n tybio bod Rhys yn cytuno bod Mr a Mrs Fowler wedi byhafio'n fochedd, er iddynt hanner-ddilyn y Beibl (a "hanner" dim ond oherwydd iddynt beidio mynd ddigon pell). Mae Rhys yn dweud bod ein moeseg wedi'i datguddio i ni'n wrthrychol gan dduw. Ond pam fyddai'n datguddio un peth i galon Rhys (sef fersiwn neisiach a mwy rhyddfrydol, efo llawer o sôn am gariad a maddeuant a ballu) a rhywbeth arall i Moses (sef y stwff Hen Destament gwallgof uchod)? Byddai rhywun yn tybio bod gan dduw holl-alluog y gallu i fynegi'i hun yn eglur (dylai fod yn amhosibl camddeall duw, does bosibl?). Pan fo dwy garfan o Gristnogion, ill dwy'n anghytuno ar rhyw fater athrawiaethol ond ill dwy'n mynnu mai'u dehongliad hwy yw'r un gwrthrychol, absoliwt, mae cipolwg ar hanes yn awgrymu bod pethau ar fin troi'n waedlyd. Mae'r rheswm yma'n ddigonol (er bod llawer mwy) i ochel rhag sôn am unrhyw wrthrychedd wrth drafod moeseg dduwiol.

4 comments:

  1. Does dim angen Duw i esbonio pam bod moeseg - i ryw raddau - yn wrthrychol. Mae yna gymaint o dystiolaeth o byd natur a bioleg fel y byddwn i'n dweud ei bod hi'n "self-evident" bod pobl yn rhannu rhyw faint o foesoleg cyffredin ymhobman.

    Ystyriwch pethau fel llosgach a chanibaliaeth. I raddau helaeth mae'r pethau felly wedi cael eu hystyried yn wrthun gan bob cymdiethas ddynol sydd erioed wedi bodoli, er eu bod yn digon cyffredin mewn byd natur. Os oedd moesoleg yn hollol oddrychol byddai pawb wedi gorfod dod i'r casgliad bod llosgach etc. nhw'n wrthun ar wahan.

    ReplyDelete
  2. Diolch am yr ymateb pellach Dylan, dau sylw bach. Wnes i ddim dweud nad oes modd bod yn foesol heb Dduw - yr hyn ddywedais oedd bod anffyddwyr yn cael eu moesoldeb gan Dduw boed iddyn nhw fod yn ymwybodol o hynny neu beidio. Dyma yw'r gred Gristnogol yn y ddeddf foesol sy'n cael ei argraffu ar gydwybod pawb, boed i'r unigolyn gredu mewn Duw neu beidio. Mae'r ddau ohonom yn credu yn y ddeddf foesol, y gwahaniaeth yw mod i'n credu ei fod yn dod o Dduw tra dy fod ti'n credu fod ganddom ni rhyw allu naturiol ynom i wrthod pethau "boncyrs".

    Yn ail, drwy ddweud fod fy moeseg i'n dod o rywbeth gwrthrychol yr hyn oeddwn i'n ei feddwl oedd gan Dduw ac nid o'r Beibl. Llyfr yn unig yw'r Beibl, llyfr sydd yn datguddio'r Gair sef Duw. Mae'n bwysig gweld y gwahaniaeth yna - dyna sy'n gwneud ffydd yn Nuw yn rhywbeth mwy dynamig na jest arwyddo fyny i set o reolau crefyddol.

    Yn olaf, dwi ddim yn meddwl ei fod yn arbennig o ddefnyddio i ddefnyddio enghreifftiau 'eithafol' o grefyddwyr gone wrong i ddadlau dy bwynt. Mi allaswn i fynd i'r un cyfeiriad a sôn am anffyddwyr sydd wedi malurio pobl dros y canrifoedd ond dydy hynny ddim yn profi dim achos ti dy hun sy'n cydnabod mod i ddim yn Groesgadwr barbaraidd mwy nag wyt ti'n Stalinydd milain felly gwell i ni drafod gyda'r hyn sydd o'n blaenau.

    ReplyDelete
  3. Diolch Rhys

    Diolch am yr ymateb pellach Dylan, dau sylw bach. Wnes i ddim dweud nad oes modd bod yn foesol heb Dduw - yr hyn ddywedais oedd bod anffyddwyr yn cael eu moesoldeb gan Dduw boed iddyn nhw fod yn ymwybodol o hynny neu beidio. Dyma yw'r gred Gristnogol yn y ddeddf foesol sy'n cael ei argraffu ar gydwybod pawb, boed i'r unigolyn gredu mewn Duw neu beidio. Mae'r ddau ohonom yn credu yn y ddeddf foesol, y gwahaniaeth yw mod i'n credu ei fod yn dod o Dduw tra dy fod ti'n credu fod ganddom ni rhyw allu naturiol ynom i wrthod pethau "boncyrs".

    "Dw i ddim yn dweud nad oes modd bod yn foesol heb dduw. Ond mae moeseg pawb yn deillio o dduw".

    Mae fy moeseg i wedi'i seilio ar gyfuniad o gryn dipyn o resmyeg a'r dyhead i'r gymdeithas rydw i'n aelod ohoni barhau (byddai unrhyw gymdeithas lle nad oes unrhyw un yn malio am lofruddiaeth, dyweder, yn dymchwel yn eithriadol o chwim). Dw i'n credu gallaf esbonio a dadansoddi fy safbwyntiau ar bob math o faterion moesol heb grybwyll unrhyw dduw. Yn absenoldeb unrhyw fath o dystiolaeth dros dduw felly, y peth rhesymegol i'w wneud ydi defnyddio Occam's Razor i dorri allan y middleman di-angen.

    Yn ail, drwy ddweud fod fy moeseg i'n dod o rywbeth gwrthrychol yr hyn oeddwn i'n ei feddwl oedd gan Dduw ac nid o'r Beibl. Llyfr yn unig yw'r Beibl, llyfr sydd yn datguddio'r Gair sef Duw. Mae'n bwysig gweld y gwahaniaeth yna - dyna sy'n gwneud ffydd yn Nuw yn rhywbeth mwy dynamig na jest arwyddo fyny i set o reolau crefyddol.

    Mae'n braf gweld Cristion yn ildio mai "Llyfr yn unig yw'r Beibl". Eto i gyd, mae hyn yn edrych fel chwifio dwylo i mi: "caiff moeseg ei ddatgelu gan dduw, nid y beibl. Y cyfan ydi'r beibl ydi llyfr sy'n datguddio'r gair. Sef duw". Dw i ddim yn siwr a ydi hynny'n esbonio unrhyw beth a dweud y gwir. Elli di ymhelaethu? Sut yn union y dylid dehongli'r beibl felly?

    Dw i'n gwerthfawrogi dy fod yn cydnabod mai llyfr wedi'i ysgrifennu gan ddynion ydi'r beibl. Ydi hynny'n golygu nad ydi o'n adlewyrchiad union o'r hyn yr oedd duw yn ei olygu? Os ddim, yna 1) pam ffwdanu, a 2) ar ba sail y mae dewis a dethol pa rannau i'w dilyn?

    Yn olaf, dwi ddim yn meddwl ei fod yn arbennig o ddefnyddio i ddefnyddio enghreifftiau 'eithafol' o grefyddwyr gone wrong i ddadlau dy bwynt. Mi allaswn i fynd i'r un cyfeiriad a sôn am anffyddwyr sydd wedi malurio pobl dros y canrifoedd ond dydy hynny ddim yn profi dim achos ti dy hun sy'n cydnabod mod i ddim yn Groesgadwr barbaraidd mwy nag wyt ti'n Stalinydd milain felly gwell i ni drafod gyda'r hyn sydd o'n blaenau.

    Ydi ymddygiad y bobl yn Lousiana a soniais amdanynt wir mor eithafol â hynny? Fel y nodais, os rhywbeth dydyn nhw ddim wedi ufuddhau'r beibl hanner digon. Y beibl sy'n eithafol. A oes unrhyw ddefnydd o gwbl i'r hen destament?

    Y rheswm dw i'n cyfeirio at bobl gwallgof fel nhw ydi eu bod yn honni bod sail eu moeseg union yr un fath â'th un di. Mae 'na filiynau o Gristnogion sy'n teimlo bod eu moeseg yn wrthrychol a'n deillio'n uniongyrchol o'u perthynas bersonol agos â duw, ond sydd eto'n credu mai'r peth pwysicaf yn y byd ydi gwrthod yr hawl i ddau ddyn briodi'i gilydd.

    ReplyDelete
  4. Hoffwn ychwanegu hefyd nad ydi moesoldeb, absoliwt, di-newid, yn rhywbeth dymunol beth bynnag. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i graffu ar ein rhagdybiaethau a'n ail-ystyried ein safbwyntiau'n rhesymegol. Trwy ddweud bod dy foeseg yn wrthrychol a'n deillio o dduw, ti'n awgrymu mai dyna ddiwedd y mater ac na ddylem ofyn cwestiynau pellach. Mae hynny'n amlwg beryglus.

    ReplyDelete